4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:45, 7 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r gyllideb hon yn gweld y pwrs yn dechrau agor, ond nid yw'r Llywodraeth Lafur hon yn agored i feddwl yn wahanol, i bob golwg, i roi ystyriaeth arloesol o ran sut y mae penderfyniadau'r gyllideb heddiw yn effeithio ar y dyfodol, ac yn hynny o beth rwy'n golygu'r tymor canolig i'r hirdymor.

Nawr, mae cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth y DU wedi cael eu clodfori gan rai fel rhai sy'n nodi diwedd ar gyni. Rydym wedi clywed yr honiad hwnnw eto heddiw, er, yn anffodus, bod y rhan fwyaf o'r asesiadau yr wyf i wedi eu darllen yn awgrymu bod hwn yn fwy tebygol o fod yn rhyddhad dros dro. Ond pe byddai'n ddim ond cam dros dro hyd yn oed oddi wrth y math o gyni a ysgogir gan ideoleg, y toriadau dwfn—gadewch inni roi ei enw iawn iddo—dros y degawd diwethaf, yna'r hyn y dylem fod yn ei weld yn y gyllideb hon yw cyfle i fuddsoddi nawr i gael gwasanaethau a fydd yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol. Fe fyddaf i'n edrych ar dri maes yn bennaf: iechyd, cyllid llywodraeth leol, ac, mewn gwirionedd, y ffordd y dylai cyllid iechyd a llywodraeth leol fod yn rhyngweithio gyda'i gilydd yn well, a'r newid yn yr hinsawdd.

Ni allaf i yn fy myw weld arwydd yn y gyllideb hon o Lywodraeth sy'n mynd i'r afael o ddifrif â'r argyfwng hinsawdd a ddatganwyd ganddi, ac a ddatganodd y Cynulliad hwn—y Senedd gyntaf yn unrhyw fan yn y byd i wneud hynny—gyda'r brys gwirioneddol y mae'n ei haeddu. Yn wir, roedd yr argoelion yn peri rhywfaint o ofid yn syth ar ôl y datganiad hwnnw gan y Llywodraeth pan ddywedodd y Prif Weinidog nad oedd ef yn credu bod datgan argyfwng yn yr hinsawdd yn bolisi newydd i'r Llywodraeth hon nac, yn wir, i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, oherwydd mae'r egwyddorion amgylcheddol sydd wedi bod yn bwysig ar draws y Siambr hon ac ar hyd cyfnod datganoli yn cael eu crynhoi yn y penderfyniad hwnnw. Ond siawns nad oes raid i ddatganiad mor gofiadwy, os yw'n golygu unrhyw beth, gael ei weld yn drobwynt arwyddocaol. Ac er bod y Prif Weinidog, rwy'n credu, yn ddiweddarach yn yr un sesiwn, wedi dweud y byddai ef yn cefnogi rhai ymatebion arloesol i newid hinsawdd—ansawdd a rheoli dŵr, diogelu bioamrywiaeth a chynefinoedd lleol unigryw ac yn y blaen—y gwir amdani yw, os ydym ni'n dymuno camu ymlaen o ddifrif yn ein penderfyniad ni i fynd i'r afael â'n cyfrifoldebau amgylcheddol, fe ddylid gweld yr edefyn hwnnw'n rhedeg yn amlwg drwy'r gyllideb hon i gyd, ond nid yw hynny i'w weld.

Rwyf eisoes wedi crybwyll fod yna gynnydd mewn cyllidebau adrannol yn gyffredinol. Ond o edrych ar gyllideb yr amgylchedd, ynni a materion gwledig, y cynnydd mewn termau gwirioneddol yw 0.7 y cant yn unig—rwy'n credu bod Mike Hedges o'r meinciau Llafur wedi mynd ar ôl y Gweinidog mewn cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Cyllid cyn y Nadolig ynglŷn â'r mater hwn. A chan edrych ar wariant cyfalaf, gan ymrwymo £140 miliwn yn unig i brosiectau amgylcheddol fel y £29 miliwn a glustnodwyd ar gyfer bysiau trydan, er enghraifft, er bod hynny i'w groesawu ynddo'i hun, mae'n amlwg nad yw'n mynd i hybu'r math o newid cyfeiriad y mae cynifer yn edrych tuag at y Llywodraeth am yr arweiniad arno y dyddiau hyn.

Rwy'n gofyn i'r Gweinidog: ble mae'r dystiolaeth o newid dull gwirioneddol? A oes gennych fformwla, hyd yn oed, efallai y gwnewch chi ateb hynny, i ganfod beth yw effaith penderfyniadau gwariant ym maes newid hinsawdd? A ydych chi'n gwybod hyd yn oed pa effaith y byddwch chi'n ei chael yn sgil yr elfennau o wariant ar atal newid hinsawdd sydd gennych chi yno? Ymhle mae'r dystiolaeth o newid yn niwylliant y Llywodraeth sy'n rhedeg drwy fesurau i atal newid hinsawdd, ar draws yr adrannau? Ac er bod y Llywodraeth yn dweud bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cael ei defnyddio fel canllaw yn ei phroses gyllidebu, ers pryd y mae deddfwriaeth wedi bod yn ddim ond canllaw? Mae atal newid trychinebus yn yr hinsawdd gymaint â phosibl, gan gynnal rhan Cymru yn y gwaith hwnnw i'r eithaf, mor ddifrifol ag y gallai fod o ran yr angen i ganolbwyntio ar fesurau ataliol yn hytrach na dim ond ar reoli gwariant tymor byr. Ac yn union fel y mae'r gyllideb hon yn ddiffygiol o ran ei phwyslais ar yr ataliol o ran yr amgylchedd, rwy'n credu ei bod hi'n parhau yn druenus o ddiffygiol o ran gwariant ataliol mewn meysydd eraill hefyd. Fe wnes i gyfarfod ag aelodau o Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, amser cinio heddiw, fel y gwnaeth Aelodau eraill hefyd, fe wn. Roedden nhw'n tynnu sylw at gynnydd annigonol, yn eu barn nhw, o ran addysg, ac yn enwedig o ran anghenion dysgu ychwanegol. Rwyf i'n cytuno: mae gan ariannu ysgolion arbennig yn ddigonol, er enghraifft, botensial ataliol enfawr o ran cyllidebau addysg ehangach, o ran gofal cymdeithasol, a hyd yn oed o ran y gyllideb iechyd. Rwy'n gofyn, os caf i, ar hyn o bryd, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r symiau canlyniadol a allai ddod i Gymru yn sgil y cyhoeddiadau diweddar ar wariant ar gyfer addysg gynradd yn Lloegr yn benodol? Dyna gwestiwn sy'n dod yn uniongyrchol oddi wrth gynrychiolwyr yr NAHT wrth iddyn nhw wneud cais am gyllid newydd ar gyfer y sector hwn.

Ond fe drof i at iechyd nawr, os caf i.