4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:50, 7 Ionawr 2020

Mae'n gonsyrn difrifol i fi bod agwedd y Llywodraeth yma at gyllido iechyd yn canolbwyntio gormod ar y swm o arian sydd yn mynd i'r NHS heddiw, er mor bwysig ydy hynny, wrth gwrs, a dim digon ar sut i wneud gwasanaethau iechyd a gofal yn fwy cynaliadwy yn yr hirdymor. Mae yna fwriad i gynyddu'n sylweddol yr arian refeniw sy'n mynd i iechyd, ac ar yr arwyneb, pwy fyddai'n anghytuno efo hynny?

Y broblem, wrth gwrs, ydy bod y rhan fwyaf o'r holl arian ychwanegol sydd ar gael ar gyfer 2020-21 yn mynd i'r NHS—cynnydd o £341 miliwn, 2.6 y cant mewn termau real. Gallwn ni ddim anwybyddu'r ffaith bod cynyddu'r gyllideb iechyd o hyd ar draul meysydd eraill yn gwanhau'r meysydd hynny, ac mae hynny, yn ei dro, yn gallu ychwanegu at gostau'r NHS yn y pen draw—mae o'n gylch dieflig. Yn wir, mae gwariant iechyd wedi cynyddu drwy'r blynyddoedd o lymder o ryw 16 y cant mewn termau real, tra bod cyllidebau eraill wedi gostwng tua'r un faint. Os cariwn ni ymlaen heb wneud y buddsoddi, a heb wneud penderfyniadau polisi arloesol, ataliol fel y dylem ni rŵan, parhau i gynyddu gwnaiff y darn o gacen gyllidol sydd angen ei roi i iechyd, a rŵan, siawns, wrth i'r cyfyngiadau ariannol lacio rhywfaint, ydy'r amser i wneud y math yna o newid arloesol.

Felly, pan dwi'n gweld symiau pitw yn cael eu clodfori yn y gyllideb, yn y datganiad ar 16 Rhagfyr—£2.7 miliwn i helpu plant cynradd i fod yn heini ac iach; £5.5 miliwn i raglen Pwysau Iach, Cymru Iach; pan mae diabetes, a llawer ohono fo yn gysylltiedig â gordewdra, yn costio rhyw 10 y cant o holl gyllideb yr NHS—gallaf i ddim peidio â meddwl, er enghraifft, ein bod ni'n colli tric enfawr mewn methu buddsoddi arian iechyd a lles mewn isadeiledd gweithgarwch corfforol a chwaraeon er mwyn ein gwneud ni'n genedl iachach yn yr hirdymor.

Dwi'n gweld cyfeiriadau at ryw £190 miliwn ar fesurau iechyd ataliol yn y gyllideb yma. Mae hynny ond ychydig dros 2 y cant o gyfanswm y gwariant ar iechyd. Mae'n rhaid i'r geiriau cynhesach sydd y dyddiau yma ar yr agenda ataliol gael eu match-io efo arian hefyd. Mae'r un peth yn wir am iechyd meddwl, lle mae yna dal diffyg gwariant ataliol yn y gyllideb yma, dwi'n meddwl, yn enwedig ar bobl ifanc. Hefyd, wrth gwrs, dŷn ni'n methu meddwl yn yr hirdymor drwy barhau i beidio â chefnogi'n ddigonol y ddarpariaeth gofal cymdeithasol a gofal sy'n cael ei ddarparu gan ein hawdurdodau lleol ni. Oes, mae yna gynnig i gynyddu cyllidebau llywodraeth leol i ryw £184 miliwn, ond mi oedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei hunain yn dweud y byddai angen £254 miliwn, a hwnnw i sefyll yn llonydd. Mae'r costau yn gysylltiedig â chyflogau'n pwyso yn drwm, mae'r pwysau'n dod o wasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau plant hefyd wedi cynyddu yn arw, a dŷn ni'n gwybod os ydy llywodraeth leol ddim yn cael y gefnogaeth angenrheidiol ar gyfer darparu gofal cymdeithasol, yr NHS sydd yn talu yn y pen draw—cylch dieflig unwaith eto.

Mi allwn i fynd ymlaen i sôn am gymaint o feysydd lle mae rheolaeth fyrdymor yw'r thema yma yn hytrach nag arloesedd hirdymor. Felly, yr iaith Gymraeg, fel enghraifft arall. Dŷn ni i gyd yn gallu cytuno ynglŷn â'r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Pam felly gostwng y gyllideb i'r iaith Gymraeg yn benodol?

Llywydd, er ein bod ni wedi clywed heddiw bod disgwyl cyllideb gyntaf y Llywodraeth Geidwadol newydd ar 11 Mawrth, gwnaf sylw am hynny yn sydyn—enghraifft arall ydy ohonom ni'n gorfod newid ein trefniadau ni oherwydd mympwyon Llywodraeth San Steffan. Cyllideb yn y fan honno'n penderfynu ar wariant yn fan hyn ar ôl i ni gwblhau'r broses gyllidol yn fan hyn. Mae yna ffordd amgen i ddelio â hyn, drwy gymryd y cyfrifoldeb ein hunain. Ond dŷn ni'n gwybod, oherwydd rhagolygon am arafu yn yr economi, addewid i beidio â chynyddu treth incwm, yswiriant gwladol na threth ar werth, ac ati, sgôp bychan sydd yna i gynyddu gwariant cyhoeddus ymhellach. Mae'r ansicrwydd economaidd ynghlwm â gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhan o'r broblem, wrth gwrs.

Ond i gloi, dydyn ni ddim heddiw yn sôn am gynigion gan y Llywodraeth i newid cyfraddau trethiant yng Nghymru, ond efo'r pwrs cyhoeddus yn debyg o fod o dan bwysau sylweddol a chynyddol i ddarparu'r mathau o wasanaethau y mae pobl yn eu mynnu, a hynny mewn cyd-destun economaidd ansicr, mae'r drafodaeth ar sut gallwn ni ddefnyddio'n pwerau trethiant cyfyngedig yn mynd i orfod dod, dwi'n meddwl, yn elfen mwy amlwg o drafodaethau cyllideb mewn blynyddoedd i ddod.