Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 7 Ionawr 2020.
Rwy'n llongyfarch y Gweinidog Cyllid ar ei chyllideb a'r broses a ddefnyddiwyd ganddi. Rwy'n nodi, yn union o'r hyn y mae Rhun newydd ei ddweud, fod ei sylwadau'n weddol fwyn wrth geryddu Llywodraeth y DU am y newidiadau yn amseriad ei chyllidebau a'r modd y cafodd hynny ei gyfathrebu. Mae'n gwrthgyferbynnu â'r hyn a glywsom ni'n gynharach yn Senedd yr Alban, lle mae'n ymddangos y cafwyd ffrae wirioneddol ddifrifol ynghylch yr amharch llwyr i Senedd yr Alban, mae'n ymddangos, a'r risgiau difrifol a thrychinebus y bydd y newid mewn amseriad yn arwain atynt. Mae'n ymddangos eu bod nhw'n disgwyl i'w cyllideb nhw ddod ar ôl un y DU ond cyn 11 o fis Mawrth, sef eu dyddiad cyfreithiol nhw ar gyfer ariannu llywodraeth leol. Felly, ni wn yn iawn sut y maen nhw'n mynd i ddatrys hynny, ond ymddengys bod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y fan hon yn fwy synhwyrol ac yn llai o ddrama na'r hyn yr ydym ni'n ei weld yn y fan honno.
Sylwaf fod y Gweinidog Cyllid yn dweud y bydd yn darparu'r sicrwydd a'r sefydlogrwydd y mae ar wasanaethau cyhoeddus Cymru eu hangen nhw drwy wneud hyn, ac yna fe gawn ni gyllideb y DU ar 11 o fis Mawrth. Gan ei bod hi'n dod â'r £125 miliwn o gronfa wrth gefn Cymru, a gaf i ofyn, a yw hwnnw'n ddull gweithredu safonol wrth symud ymlaen neu a yw hynny wedi ei ysbrydoli gan ei gwybodaeth hi bod cyllideb y DU am ddod yn ddiweddarach ac, efallai, yn disgwyl y bydd symiau canlyniadol Barnett pellach i ddod i'r amlwg ar ôl 11 o fis Mawrth?
Rwyf wedi beirniadu'r Gweinidog Cyllid o'r blaen am ei phwyslais hi ar gwyno am gyni pan nad yw'n cwyno am Brexit. Fe gawsom ni dipyn yn llai o hynny heddiw. Ond fe wnes i nodi neges drydar gan adran wleidyddiaeth BBC Cymru am 11 o'r gloch neithiwr yn dweud,
Rhaid i Lywodraeth y DU ysgwyddo'r cyfrifoldeb, meddai @fmwales, ac fe wnes i glicio drwyddi i weld pa stori yr oedd yn cyfeirio ati neu beth oedd yn credu y dylen nhw fod yn cymryd cyfrifoldeb amdano, ac nid oedd yna unrhyw stori y tu ôl iddi. Dim ond sylw cyffredinol o berthnasedd oedd hwn. Nid oeddwn i'n yn siŵr at beth yr oedd yn ceisio cyfeirio.
Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae pobl Cymru yn awyddus i'w glywed yw'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'r dulliau sydd ar gael iddi. Wrth gwrs, nid yw'r holl ysgogiadau ganddi hi. Wrth gwrs, cafwyd cyfnod o wariant cyhoeddus a oedd yn llai na'r trywydd cwbl anghynaladwy a oedd yn ei ddilyn o'r blaen, ond o ystyried y defnydd sydd gennym ni, sut ydym ni am ei dorri a beth yw ein blaenoriaethau ni? Ac rwy'n siŵr imi weld golwg braidd yn hiraethus ar wyneb y Prif Weinidog o ran y gyllideb y mae ei Weinidog Cyllid ef yn ei chyflwyno, sy'n rhoi llawer mwy o arian i lawer mwy o wahanol feysydd nag y llwyddodd ef i'w wneud pan oedd yn y swydd honno.
Credaf fod angen inni edrych nid yn unig ar y gymhariaeth â 2010, y mae'r Gweinidog Cyllid bob amser mor awyddus i'w wneud, ond ar beth yw'r cynnydd yr ydym ni'n ei weld y flwyddyn hon. Mae yna gwyno am y £36 miliwn neu'r £50 miliwn nad yw'n dod drwodd ar gyfer pensiynau. Ond ymhle yn y datganiad hwn y mae cyfeiriad at yr hyn fydd swm canlyniadol cyffredinol Barnett, yr arian ychwanegol sydd gennym ni i'w wario yng Nghymru'r flwyddyn nesaf oherwydd y penderfyniadau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU a chan y gwelliant cymharol yn yr economi o'i gymharu â'r trywydd anghynaladwy yr oeddem ni arno o ran gwariant o'r blaen?
Nid wyf i'n gweld yn y gyllideb hon yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyfleu am ei blaenoriaeth graidd, yn enwedig o ran y meysydd mwyaf o wariant. Rydym yn clywed llawer o gondemnio gan y Ceidwadwyr, ond roeddwn i'n teimlo, ychydig o flynyddoedd yn ôl, o leiaf, fod rhywfaint o gysondeb o fewn beirniadaeth y Ceidwadwyr o wariant Llywodraeth Cymru, a oedd, o'i gymharu â Lloegr, wedi torri'r gwariant ar iechyd. Fe welais i ymateb y Prif Weinidog i'r awgrym fod toriad wedi bod, ond, yn sicr, o'i gymharu â Lloegr, yng Nghymru rydym ni neu Lywodraeth Cymru wedi dewis gweithredu cyni drwy fod yn llai hael gydag iechyd a bod yn fwy hael gyda llywodraeth leol na'r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr. A dyna'r gyllideb a'r penderfyniad ariannol mwyaf a gafodd ei wneud o bell ffordd. Eto i gyd, y flwyddyn hon, pan ddaw'r cyfyngiadau i ben, pan fydd gennym ni arian sylweddol i'w ddosbarthu, mae'r swm a drosglwyddir yn ganrannol bron yr un faint i iechyd ac i lywodraeth leol. Felly, o hynny, ni allaf i benderfynu ymhle y mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Ac rwy'n sylwi bod gostyngiadau wedi bod, ond mae'r gostyngiadau sydd wedi cael eu gwneud o ran llywodraeth leol yn Lloegr yn fwy o lawer na'r rhai sydd wedi cael eu gwneud o ran llywodraeth leol yng Nghymru. Rwy'n gofyn a oes yna gyfleoedd pellach i sicrhau arbedion effeithlonrwydd yng Nghymru sydd wedi cael eu gwneud yn Lloegr. Rwy'n derbyn y sylwadau a wneir ynghylch gofal cymdeithasol a'r rhyngweithio â'r GIG. Credaf ei fod yn sylw teg, ond nid yw'n esbonio'r holl wahaniaeth yn y dull a ddefnyddiwyd.
Ac fe fyddwn i'n gofyn pam, yng Nghymru, y mae cynghorwyr yn cael eu talu, rwy'n credu, £13,868 eleni? Y flwyddyn nesaf, a fydd hynny'n fwy na £14,000? Pam nad yw'r cynghorau'n cael gwneud arbedion yn y maes hwnnw? Pan oeddwn i'n gwasanaethu yn fy nghyngor lleol yn Lloegr a oedd yn wynebu gostyngiadau mawr mewn gwariant oherwydd cyni, un o'r pethau cyntaf a wnaed oedd torri lwfansau cynghorwyr yn llawer is na'r rhai sydd gennym ni yng Nghymru. Eto i gyd, mae gennym ni 22 o gynghorau o hyd, ac rydym yn dal i fod â nifer llawer mwy o gynghorwyr sy'n cael swm sylweddol iawn o arian. Onid yw hwnnw'n faes lle dylem ni fod yn chwilio am arbedion ynddo?
Mae'r Llywodraeth yn sôn llawer am flaenoriaethu newid hinsawdd. Rwy'n cofio cyllideb gyntaf y Cynulliad hwn, lle'r oeddwn i'n gwisgo sawl het, ac fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ostyngiadau sylweddol iawn yn ei gwariant ar brosiectau newid hinsawdd. Yr hyn yr wyf yn ei ofyn i'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Cyllid yw: a gawn ni wybod, er mwyn gallu cymharu, faint y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wario nawr o'i gymharu â'r hyn yr oedd yn ei wario bryd hynny? Gallaf gofio'r fanllef o brotest, a chafodd cyfran fechan o'r toriadau hynny eu hepgor. Ble rydym ni arni nawr o'i gymharu â phryd hynny, ac a allwn ni geisio ystyried hynny ar sail gymaradwy, o ran cyfalaf a refeniw fel ei gilydd?
Roeddwn i'n teimlo bod Rhun wedi gwneud sylw da iawn ynghylch blaenoriaethu gwariant ar newid hinsawdd, ac rwy'n pryderu'n fawr nad ydym yn gwybod beth fydd budd cymharol y gwahanol fathau o wariant. Felly, rydym wedi cael buddsoddiad mewn teithio llesol, yn y fflyd o fysiau trydan, dulliau o adeiladu tai; beth yw'r enillion cymharol o ran yr effaith y gallwn ei chael o ran gollyngiadau yn sgil gwariant yn y meysydd amrywiol hyn? Bysiau trydan—fe fyddwn i wrth fy modd yn gweld mwy ohonyn nhw, yn anad dim oherwydd yr effaith ar ansawdd aer, ond maen nhw'n ddrud iawn, a cheir tystiolaeth weddol dda fod inswleiddio cartrefi ac edrych ar yr effeithlonrwydd ynni yn ffordd effeithiol iawn o leihau allyriadau gyda gwariant cymharol fychan. Ond mae gennym ni'r goedwig genedlaethol hon i Gymru—mae'n swnio'n beth rhagorol, rydym ni'n gwario swm penodol ar hynny, rydym ni'n gwario swm penodol ar blannu coed yn Uganda hefyd. Beth yw'r enillion cymharol o wariant yn y meysydd hynny? Siawns na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn buddsoddi mewn ymchwil i geisio deall hynny, gan edrych ar yr arferion gorau mewn mannau eraill, ac o wneud y cymariaethau hynny, wybod bod yr arian, o leiaf, yn cael ei wario yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl, yn hytrach nag ystyried ei wario ar ymgyrch gyfathrebu fel y gallwn ni ymgyrchu yn ôl i'r rhai sy'n ymgyrchu inni wneud mwy dros newid hinsawdd. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw ystyried pa fesurau sydd fwyaf effeithiol ar gyfer y swm o arian sydd ar gael, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwthio i'r cyfeiriad hwnnw.
Rwy'n dymuno'n dda iddyn nhw gyda'r gyllideb, ac edrychwn ymlaen yn y Pwyllgor Cyllid ddydd Iau i edrych yn fanylach ar hyn gyda gwahanol grwpiau diddordeb, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd sylw o'r hyn a ddywedir gan y rhain. Rwy'n gobeithio hefyd y bydd yn meithrin proses gyllidebol well a mwy effeithiol i'r dyfodol. Rwy'n credu bod y broses hon sydd gennym ni ar gyfer gwario yn Senedd Cymru yn well nawr na'r un a oedd ganddyn nhw yn San Steffan. Nid wyf wedi fy narbwyllo ei bod ar gyfer treth eto, ond rwy'n gobeithio y gall y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru gydweithio i edrych ar y cynlluniau tymor canolig ar y ffordd orau inni redeg cyllidebau yn y lle hwn yn y dyfodol. Diolch.