1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Ionawr 2020.
1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau nifer y bobl sy'n smygu yng Nghymru? OAQ55018
Diolchaf i Angela Burns am y cwestiwn yna, Llywydd.
Rydym ni'n dal i fod wedi ymrwymo i ostwng y ganran o boblogaeth Cymru sy'n smygu i 16 y cant erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Mae cynllun rheoli tybaco ar ôl 2020 yn cael ei baratoi, gan ddefnyddio'r holl dechnegau seiliedig ar dystiolaeth i helpu i sicrhau Cymru ddi-dybaco.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ac nid oes amheuaeth bod Cymru wedi arwain y DU trwy wahardd smygu mewn mannau cyhoeddus, sydd i'w groesawu'n fawr. Fodd bynnag, 13 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r ffigurau diweddaraf yn dal i ddangos ein bod ni'n methu â mynd i'r afael â smygu ymhlith pobl ifanc a mamau beichiog. Ledled Cymru, mae 9 y cant o bobl ifanc 15 i 16 oed yn smygu, ac mae 30 y cant o famau yn eu harddegau yn smygu. Mae tri deg y cant o famau rhwng 16 a 19 oed yn smygwyr pan fydd ar adeg geni eu babanod. Nawr, mae hyn yn amlwg yn cael effaith hirdymor arnyn nhw, ac, wrth gwrs, ar eu plentyn. Ac un o'r pethau yr wyf i wedi eu darganfod yw nad oes gan bob gwasanaeth mamolaeth wasanaethau rhoi'r gorau i smygu penodol. Mae'r rhai sydd â gwasanaethau o'r fath wedi dangos cyfraddau llwyddiant uchel iawn. Ac mae'n rhaid i ni gydnabod bod mamau yn eu harddegau yn arbennig yn agored iawn i bwysau fel delwedd y corff, maen nhw eisiau cael babi bach iawn, mae diffyg esiampl, ac, wrth gwrs, mae'r ddemograffeg yn brwydro yn eu herbyn weithiau. Ac rydym ni hefyd yn gwybod os yw plant yn gweld pobl yn smygu o'u cwmpas, eu bod nhw'n llawer mwy tebygol o ddechrau smygu.
Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi amlinellu i mi yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod yr arfer gorau sy'n bodoli lle ceir gwasanaeth rhoi'r gorau i smygu dan arweiniad bydwragedd mewn uned fydwreigiaeth yn cael ei ledaenu ar draws Cymru, ac y gallwn ni gael mwy o fydwragedd sy'n gallu arwain y math hwn o arfer er mwyn ceisio gostwng cyfraddau smygu ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau.
Llywydd, hoffwn ddiolch i Angela Burns am y cwestiynau atodol yna. Mae hi'n iawn bod her barhaus i leihau'r gyfran o fenywod ifanc sy'n beichiogi ac yn parhau i smygu. Mae'n rhaid trin y ffigurau gyda dim ond rhyw fymryn o bwyll, oherwydd mae'r ganran yn ffactor o'r ffaith bod nifer y merched yn eu harddegau sy'n beichiogi wedi gostwng mor gyflym yn ystod y cyfnod datganoli. Felly, yn y flwyddyn 2000, roedd 495 o fenywod ifanc dan 16 oed a ddaeth yn feichiog yng Nghymru, ac yn 2017, y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ni ffigurau ar ei chyfer, roedd i lawr i 144. Ac mae hwnnw'n ostyngiad dramatig. Ac ymhlith y 144, ceir crynhoad o bobl ifanc sydd ag anawsterau a heriau penodol, wedyn, o ran perswadio pobl i roi'r gorau i smygu.
Ond mae'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael yn y GIG wedi'u cynllunio i geisio gwneud yn siŵr nad un dull yn unig sydd ar gael. Mae gwasanaethau yn yr ysbyty yn gweithio'n dda iawn i rai pobl ifanc, ond mae'n well gan bobl ifanc eraill yn bendant, fe wyddom, ddefnyddio gwasanaethau fferyllol, yn rhannol gan y gall hynny fod yn fwy anhysbys; byddai'n well gennych chi fynd lle nad oeddech chi mor weladwy i bobl eraill. Mae gan fydwragedd sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig ran bwysig i'w chwarae o ran gweithio gyda phobl ifanc yn arbennig, ac yna mae gweithio'n uniongyrchol gyda phobl ifanc yn bwysig hefyd. Felly, yn Sir Benfro, yn ardal yr Aelod ei hun, mae Hywel Dda yn gwneud darn penodol o waith gyda phobl ifanc sy'n smygu, gan geisio dysgu ganddyn nhw am y pethau a fyddai fwyaf effeithiol iddyn nhw fel dulliau ymyrraeth i'w galluogi i roi'r gorau i smygu, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ochr yn ochr â chlystyrau gofal sylfaenol a bydwragedd arbenigol.
Yn ffodus, rydym ni wedi gwneud cynnydd o ran lleihau'r niferoedd sy'n smygu yng Nghymru, Prif Weinidog, ond mae'n dal i gael effaith ofnadwy ar iechyd yng Nghymru, ac yn enwedig o ran pobl sy'n byw mewn tlodi. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ei gwneud yn fwyfwy annerbyniol yn gymdeithasol i smygu yng Nghymru, ac mae'r gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus caeedig wedi bod yn rhan fawr o hynny. Dangosodd arolwg Action on Smoking and Health diweddar bod 59 y cant o ymatebwyr o blaid gwahardd smygu yng nghanol dinasoedd a threfi. A yw hynny'n rhywbeth y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ystyried o ran gwneud cynnydd pellach?
Diolchaf i John Griffiths am hynna, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef—roedd yn bwynt a wnaed gan Angela Burns hefyd—bod y ffaith fod smygu yn dderbyniol yn gymdeithasol yn arwain at bobl ifanc, yn arbennig, yn dod yn smygwyr. Rydym ni wedi gweld newid diwylliannol enfawr yn yr 20 neu'r 30 mlynedd diwethaf o ran yr hyn sy'n dderbyniol yn gymdeithasol. Bydd fy nghyd-Weinidog, Vaughan Gething, yn cyflwyno rheoliadau eleni i orfodi gwaharddiad statudol ar smygu ar dir ysbytai, meysydd chwarae ysgolion, mannau chware y tu allan i ysgolion, ac adeiladau agored mewn cyfleusterau gofal plant. Ac yna byddwn yn symud ymlaen i gam nesaf ein penderfyniad i wneud smygu yn rhywbeth yr ydym ni'n rhoi pwysau arno, yr ydym ni'n ei leihau, ac yr ydym yn atal pobl ifanc rhag meddwl ei fod yn ffordd arferol o dyfu i fyny. Ac mae safleoedd agored, yng nghanol trefi a dinasoedd, yn un o'r pethau y byddwn ni'n sicr yn cymryd camau i weithredu arnyn nhw nesaf.