Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 28 Ionawr 2020.
O ran cynyddu defnydd, y llynedd, cafodd memorandwm cyd-ddealltwriaeth ei lofnodi rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg. Mae’r holl waith sy’n cael ei wneud gan ein partneriaid grant yn ein cymunedau yn parhau i roi cyfleoedd i bobl o bob gallu i ddefnyddio’r Gymraeg. Ac mae Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth fewnol er mwyn iddi hi hefyd fod yn sefydliad dwyieithog erbyn 2050. Ac o ran seilwaith, rŷn ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw gosod sylfaen dechnolegol ar gyfer unrhyw iaith, ac rŷn ni wedi bod yn cymryd camau o dan y cynllun gweithredu technoleg Cymraeg a lansiwyd ym mis Hydref 2018.
O ddarllen yr adroddiad, fe welwch chi fod y gwaith yn eang iawn, ac yn cyffwrdd â phortffolios ar draws y Llywodraeth. Gan wisgo fy het fel y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, dwi o hyd yn edrych am gyfleoedd cyffrous i gydweithio rhwng y Gymraeg a’r portffolio rhyngwladol. Byddwch wedi clywed am ein gwaith i ddathlu Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO y llynedd, ac am y gynhadledd wych Gŵyl Ein Llais yn y Byd a gafodd ei chynnal fis Tachwedd yn Aberystwyth.
Dw i am i Gymru gael ei gweld fel gwlad sy'n arwain ar gynllunio ieithyddol, gan adeiladu ar yr enw da sydd eisoes gyda ni yn rhyngwladol, a dyna ddiben sefydlu Prosiect 2050. Ac mae yna dipyn o gydweithio rhwng Cymru a gwledydd eraill sy'n hybu ieithoedd. Rŷn ni'n aelodau o rwydwaith amrywiaeth ieithyddol Ewrop, ac yn arwain grŵp ieithoedd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.
Drwy deithio tramor a chael gweld yr hyn rŷn ni’n ei wneud yng Nghymru drwy lygaid eraill, mae’n dod yn amlwg ein bod yn dueddol, yn gyffredinol, o feddwl mewn ffordd negyddol am yr hyn rŷn ni’n ei wneud o safbwynt y Gymraeg yma yng Nghymru. Mae yna dueddiad gan rai i sôn am 'warchod' a 'cholled' a 'thranc yn hytrach na 'dathlu', 'tyfu a 'chynllunio’ Dwi yn meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni'n edrych i fyny ac yn codi'n golygon.
Beth dwi'n gweld, o siarad ag eraill, yw bod Cymru a'r Gymraeg yn ysbrydoliaeth i siaradwyr ieithoedd eraill, a'u bod nhw yn parhau i ddysgu am ein cynlluniau ni ar gyfer caffael yr iaith a hybu ei defnydd. Wrth gwrs, mae gyda ni hefyd wersi i'w dysgu gan Iwerddon a’r Alban a Gwlad y Basg wrth i ni gnoi cil ar sut rŷn ni am gyfleu ein hunain i'n cyd-Gymry ac i'r byd.
Gall stori'r Gymraeg mor hawdd fod yn un o hwyl, positifrwydd, undod a chefnogaeth lle rŷn ni’n gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd miliwn o siaradwyr. Edrychwch ar y ffordd y mae aelodau o dîm merched y gymdeithas bêl-droed yn dysgu Cymraeg gyda'i gilydd ac yn rhannu eu taith nhw ar y cyfryngau cymdeithasol. A dwi'n edrych ymlaen at weld y Gymraeg yn flaenllaw eto yn yr Ewros yr haf nesaf, fel oedd hi yn 2016.
Does dim amheuaeth bod yna fwy allwn ni ei wneud i greu amodau ffafriol er mwyn annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg. Gwnaeth ymchwil rai blynyddoedd yn ôl awgrymu bod rhai pobl oedd yn dweud eu bod yn ddi-hyder yn eu Cymraeg yn ofni cael eu beirniadu—er nad oeddent efallai wedi cael y profiad hynny eu hunain. Felly mae yna rywbeth yn eu dal nhw nôl, ac mae hynny'n fy siomi i. Mae’r Gymraeg yn iaith i bawb yng Nghymru ac mae'n rhaid i ni edych arnom ni’n hunain weithiau, a gwneud pob ymdrech i dorri lawr unrhyw rwystr sy'n atal pobl rhag cyfranogi. Mae angen troi y 'nhw' yn 'ni'.
Rŷn ni'n datblygu'n dealltwriaeth o ymddygiad ieithyddol pobl, o'r math o negeseuon sy’n cymell pobl ac yn hwyluso defnyddio’r Gymraeg—yn gymdeithasol, yn y teulu, yn y gymuned ysgol neu yn y gweithle. Bydd cyrraedd miliwn o siaradwyr yn golygu creu siaradwyr newydd. Ac mae gyda ni drac record da yng Nghymru o groesawu pobl i'r Gymraeg. Mae ein canolfannau trochi hwyrddyfodiaid i addysg Gymraeg wedi torri tir newydd ac yn drysor cenedlaethol. Ac os awn ni yn ôl i'r tro diwethaf i ni gael tua miliwn o siaradwyr, ddechrau’r ugeinfed ganrif, chwaraeodd ein cymunedau ni rôl bwysig yn cymhathu pobl a symudodd i Gymru. Daeth nifer ohonyn nhw i fod yn gefnogwyr brwd i’r iaith. Ac mae hon yn neges bwysig i ni ei chofio wrth inni feddwl am sut rŷn ni’n trin a thrafod y Gymraeg.
Dwi am roi Cymru a’r Gymraeg ar y map fel gwlad ac iaith fodern, groesawgar a hyfyw. Gall ein dwyieithrwydd fod yn fantais wirioneddol yn economaidd. Mae gennym ni weithlu dwyieithog, diwylliant unigryw a stori i'w hadrodd. Dyma pam dwi’n cyflwyno’r adroddiad blynyddol hwn i chi, ac yn ymfalchïo yn yr hyn rŷn ni wedi'i gyflawni. A dwi jest eisiau talu teyrnged hefyd i'r Gweinidog a oedd yna o fy mlaen ac a oedd yn rhannol gyfrifol am y cyfnod yma. Nid jest am y cyfnod adrodd yma rŷn ni'n edrych, ond ers hynny, gyda’n cynlluniau ni ar gyfer y dyfodol hefyd. Mae pobl ifanc—a phob un ohonom ni, mewn gwirionedd—yn uniaethu gyda llwyddiant, gyda gobaith am ddyfodol llewyrchus, a rhaid inni ddangos iddyn nhw fod y Gymraeg yn un o'r storïau llwyddiannus hynny.