– Senedd Cymru am 4:07 pm ar 28 Ionawr 2020.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2018-19 ar Cymraeg 2050. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr.
Mae'n fraint i gyflwyno ein hadroddiad ar y daith i filiwn o siaradwyr. Rŷm ni wedi bod yn brysur. Fel dwi'n dweud yn y rhagymadrodd i'r adroddiad, mae'n gallu teimlo fel bod lot o amser wedi pasio ers lansio Cymraeg 2050, achos mae'r daith i filiwn o siaradwyr wirioneddol wedi dal dychymyg pobl ar draws Cymru a thu hwnt.
Ond, cofiwch mai jest dros ddwy flynedd sydd wedi bod ers ei chyhoeddi, ac rŷm ni'n dal yn y dyddiau cynnar. Amser o osod y sylfeini yw hwn ond, er hynny, fe welwch chi fod arwyddion cadarnhaol o gynnydd ym maes y blynyddoedd cynnar, mwy o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, a mwy yn dysgu Cymraeg fel oedolion, boed hynny drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol neu drwy ffyrdd eraill.
Ond, mae newid mawr yn galw am weithredu mawr, ac mae ein gwaith ar draws amrywiaeth o feysydd yn gwneud gwahaniaeth. Beth sydd gyda ni yn yr adroddiad yma yw ciplun, neu snapshot o gyfnod mewn amser—rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019. Ond, rŷm ni wedi parhau gyda’r gwaith ac wedi cyflawni lot fawr y tu hwnt i’r cyfnod dan sylw. Er enghraifft, rŷm ni wedi cyflwyno rheoliadau sy'n gosod targedau am y tro cyntaf i bob sir o ran eu cyfraniad i gynyddu addysg Gymraeg, ac fe ddaeth Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 i rym ar 1 Ionawr eleni.
Mae cynyddu nifer yr athrawon i addysgu'n plant yn rhywbeth rŷm ni'n ei gymryd o ddifri. Ym mis Tachwedd, fe wnaethon ni gynnal y cyfrifiad blynyddol cyntaf o’r gweithlu ysgolion i ddod i wybod mwy am sgiliau Cymraeg athrawon ar draws Cymru. Mae hyn yn cefnogi rhaglenni sydd eisoes ar waith, fel rhaglenni hyfforddiant ac addysg cychwynnol athrawon; cymhelliant ariannol, Iaith Athrawon Yfory; y cynllun sabothol iaith Gymraeg; gwaith gyda’r consortia rhanbarthol; a'r rhaglen e-sgol, a fydd yn cefnogi argaeledd pynciau a dewis teg.
Mae cael disgyblion i symud gyda’r Gymraeg o un cyfnod addysg i'r llall hefyd yn bwysig. Yn ogystal â hyn, rŷm ni wedi cytuno i ddyrannu £145,000 yn 2019-20 i gael mwy o ddysgwyr i wneud y Gymraeg ar lefel safon uwch ac yn y brifysgol.
O ran cynyddu defnydd, y llynedd, cafodd memorandwm cyd-ddealltwriaeth ei lofnodi rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg. Mae’r holl waith sy’n cael ei wneud gan ein partneriaid grant yn ein cymunedau yn parhau i roi cyfleoedd i bobl o bob gallu i ddefnyddio’r Gymraeg. Ac mae Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth fewnol er mwyn iddi hi hefyd fod yn sefydliad dwyieithog erbyn 2050. Ac o ran seilwaith, rŷn ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw gosod sylfaen dechnolegol ar gyfer unrhyw iaith, ac rŷn ni wedi bod yn cymryd camau o dan y cynllun gweithredu technoleg Cymraeg a lansiwyd ym mis Hydref 2018.
O ddarllen yr adroddiad, fe welwch chi fod y gwaith yn eang iawn, ac yn cyffwrdd â phortffolios ar draws y Llywodraeth. Gan wisgo fy het fel y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, dwi o hyd yn edrych am gyfleoedd cyffrous i gydweithio rhwng y Gymraeg a’r portffolio rhyngwladol. Byddwch wedi clywed am ein gwaith i ddathlu Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO y llynedd, ac am y gynhadledd wych Gŵyl Ein Llais yn y Byd a gafodd ei chynnal fis Tachwedd yn Aberystwyth.
Dw i am i Gymru gael ei gweld fel gwlad sy'n arwain ar gynllunio ieithyddol, gan adeiladu ar yr enw da sydd eisoes gyda ni yn rhyngwladol, a dyna ddiben sefydlu Prosiect 2050. Ac mae yna dipyn o gydweithio rhwng Cymru a gwledydd eraill sy'n hybu ieithoedd. Rŷn ni'n aelodau o rwydwaith amrywiaeth ieithyddol Ewrop, ac yn arwain grŵp ieithoedd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.
Drwy deithio tramor a chael gweld yr hyn rŷn ni’n ei wneud yng Nghymru drwy lygaid eraill, mae’n dod yn amlwg ein bod yn dueddol, yn gyffredinol, o feddwl mewn ffordd negyddol am yr hyn rŷn ni’n ei wneud o safbwynt y Gymraeg yma yng Nghymru. Mae yna dueddiad gan rai i sôn am 'warchod' a 'cholled' a 'thranc yn hytrach na 'dathlu', 'tyfu a 'chynllunio’ Dwi yn meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni'n edrych i fyny ac yn codi'n golygon.
Beth dwi'n gweld, o siarad ag eraill, yw bod Cymru a'r Gymraeg yn ysbrydoliaeth i siaradwyr ieithoedd eraill, a'u bod nhw yn parhau i ddysgu am ein cynlluniau ni ar gyfer caffael yr iaith a hybu ei defnydd. Wrth gwrs, mae gyda ni hefyd wersi i'w dysgu gan Iwerddon a’r Alban a Gwlad y Basg wrth i ni gnoi cil ar sut rŷn ni am gyfleu ein hunain i'n cyd-Gymry ac i'r byd.
Gall stori'r Gymraeg mor hawdd fod yn un o hwyl, positifrwydd, undod a chefnogaeth lle rŷn ni’n gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd miliwn o siaradwyr. Edrychwch ar y ffordd y mae aelodau o dîm merched y gymdeithas bêl-droed yn dysgu Cymraeg gyda'i gilydd ac yn rhannu eu taith nhw ar y cyfryngau cymdeithasol. A dwi'n edrych ymlaen at weld y Gymraeg yn flaenllaw eto yn yr Ewros yr haf nesaf, fel oedd hi yn 2016.
Does dim amheuaeth bod yna fwy allwn ni ei wneud i greu amodau ffafriol er mwyn annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg. Gwnaeth ymchwil rai blynyddoedd yn ôl awgrymu bod rhai pobl oedd yn dweud eu bod yn ddi-hyder yn eu Cymraeg yn ofni cael eu beirniadu—er nad oeddent efallai wedi cael y profiad hynny eu hunain. Felly mae yna rywbeth yn eu dal nhw nôl, ac mae hynny'n fy siomi i. Mae’r Gymraeg yn iaith i bawb yng Nghymru ac mae'n rhaid i ni edych arnom ni’n hunain weithiau, a gwneud pob ymdrech i dorri lawr unrhyw rwystr sy'n atal pobl rhag cyfranogi. Mae angen troi y 'nhw' yn 'ni'.
Rŷn ni'n datblygu'n dealltwriaeth o ymddygiad ieithyddol pobl, o'r math o negeseuon sy’n cymell pobl ac yn hwyluso defnyddio’r Gymraeg—yn gymdeithasol, yn y teulu, yn y gymuned ysgol neu yn y gweithle. Bydd cyrraedd miliwn o siaradwyr yn golygu creu siaradwyr newydd. Ac mae gyda ni drac record da yng Nghymru o groesawu pobl i'r Gymraeg. Mae ein canolfannau trochi hwyrddyfodiaid i addysg Gymraeg wedi torri tir newydd ac yn drysor cenedlaethol. Ac os awn ni yn ôl i'r tro diwethaf i ni gael tua miliwn o siaradwyr, ddechrau’r ugeinfed ganrif, chwaraeodd ein cymunedau ni rôl bwysig yn cymhathu pobl a symudodd i Gymru. Daeth nifer ohonyn nhw i fod yn gefnogwyr brwd i’r iaith. Ac mae hon yn neges bwysig i ni ei chofio wrth inni feddwl am sut rŷn ni’n trin a thrafod y Gymraeg.
Dwi am roi Cymru a’r Gymraeg ar y map fel gwlad ac iaith fodern, groesawgar a hyfyw. Gall ein dwyieithrwydd fod yn fantais wirioneddol yn economaidd. Mae gennym ni weithlu dwyieithog, diwylliant unigryw a stori i'w hadrodd. Dyma pam dwi’n cyflwyno’r adroddiad blynyddol hwn i chi, ac yn ymfalchïo yn yr hyn rŷn ni wedi'i gyflawni. A dwi jest eisiau talu teyrnged hefyd i'r Gweinidog a oedd yna o fy mlaen ac a oedd yn rhannol gyfrifol am y cyfnod yma. Nid jest am y cyfnod adrodd yma rŷn ni'n edrych, ond ers hynny, gyda’n cynlluniau ni ar gyfer y dyfodol hefyd. Mae pobl ifanc—a phob un ohonom ni, mewn gwirionedd—yn uniaethu gyda llwyddiant, gyda gobaith am ddyfodol llewyrchus, a rhaid inni ddangos iddyn nhw fod y Gymraeg yn un o'r storïau llwyddiannus hynny.
Gan fod y nod o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yn cael ei gefnogi gan bawb, neu bron pawb, anyway, rwy'n fwy na bodlon i gydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Llywodraeth rydych chi wedi sôn amdano yn y datganiad heddiw. Hoffwn ddweud rôn i'n arbennig o falch o weld y geiriau yn yr adroddiad ei hun ynglŷn â Chymraeg y tu hwnt i'n ffiniau hefyd. Dwi ddim yn gwybod os oes gyda chi ddigon o amser i siarad tipyn bach mwy am hynny, a hefyd TAN 20, achos dwi ddim yn siŵr os yw'r awdurdodau cynllunio i gyd yn agored i'r syniad o weld hyn fel cyfle i'r iaith, yn arbennig o safbwynt addysg, yn lle rhywbeth negatif. Fel pob strategaeth, wrth gwrs, mae angen moron a ffyn, ond mae'n anodd iawn—wel, dyw hi ddim yn bosibl yn fy marn i—i orfodi pobl yn gyffredinol i dderbyn cymorth neu i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau dyddiol. Hoffwn i wybod tipyn bach mwy am y moron rŷch chi'n ei ystyried cyn yr adroddiad nesaf.
Rwy'n croesawu'r gwaith ym maes addysg y blynyddoedd cynnar, yn arbennig drwy'r prentisiaethau. Allaf i ofyn pa mor galed yw hi i ffeindio cyflogwyr sy'n gallu cynnig prentisiaethau drwy'r Gymraeg mewn meysydd eraill, ac yn benodol yn y sector preifat? Rwy'n meddwl am letygarwch a manwerthu yn benodol—swyddi sy'n wynebu'r cyhoedd ac sy'n rhan amlwg o bresenoldeb y Gymraeg ar ein strydoedd ac yn ein bywydau dyddiol. Dwi ddim yn credu taw safonau yw'r ymateb i'r her hon, ond mae'n werth ystyried pa fath o foronen fyddai'n addas.
Efallai y gallaf i ofyn hefyd am yr elfennau Cymraeg mewn prentisiaethau neu gyrsiau coleg neu'r ysgol drwy gyfrwng Saesneg, achos dwi'n gwybod bod rhai elfennau Cymraeg ar rai cyrsiau, ond dwi ddim yn gwybod lot amdanyn nhw. A beth yw'r safon? Ydyn nhw'n gadarn, fel rhan o'r cyrsiau yna?
Ynglŷn â nifer yr athrawon, er gwaethaf y camau roeddech chi'n sôn amdanynt, mae'n glir ei bod yn dal yn broblem perswadio pobl ifanc i chwilio am hyfforddiant, nid dim ond yn y Gymraeg, ond i ddysgu Cymraeg fel pwnc. Pam ydych chi'n credu bod hyn yn parhau? Beth ydych chi wedi bod yn ei drafod gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a Cymwysterau Cymru am sut mae dysgu Cymraeg yn mynd i edrych ar gyfer y sector uwchradd yn arbennig, gyda chwricwlwm newydd ar y gorwel, achos mae'r newidiadau yna'n mynd i fod yn bwysig iawn? Hoffwn wybod hefyd sut y mae hyn yn mynd i gael ei ddarparu i bobl ifanc sy'n cael eu haddysgu tu allan i'r ysgol—EOTAS—a sut gallan nhw gysylltu â beth sydd ar gael ar gyfer cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.
O safbwynt Cymraeg yn y gweithle, rydw i wedi codi hyn o'r blaen. Rydych wedi ymateb gyda rhai manylion am y llinell gymorth, er enghraifft, ac unigolion sy'n gweithio gyda chwmnïau mawr a bychain, ac, wrth gwrs, drwy Gymraeg i oedolion lle mae'r prif ffocws ar y sector cyhoeddus. Rwy'n deall pam—mae safonau yn esgus i wneud hyn, wrth gwrs—ond a ydych chi eto mewn sefyllfa i rannu rhai o ganlyniadau ansoddol y rhaglenni hyn, nid dim ond nifer y bobl sy'n cael eu cydio ganddynt, ond faint o bobl sydd wedi gweld eu Cymraeg yn gwella neu sy'n defnyddio'r iaith yn fwy hyderus neu yn fwy aml, er enghraifft?
Rwy'n cytuno 100 y cant, mae'n rhaid i mi ddweud, Weinidog, am y pwyntiau am bobl sydd ddim yn hyderus yn eu hiaith Gymraeg. Mae'n fater personol iawn, ein dewis cyfathrebu, ac rydych chi fel Gweinidog—. Mae'n signal da iawn i ddod oddi wrthych chi, rwy'n credu, i ddweud does yna ddim angen i bawb fod yn berffaith yn eu Cymraeg ond, wrth gwrs, dwi ddim yn dadlau dros drio tanseilio cynnydd mewn safon ac ansawdd. Ond os ydym ni'n ystyried bod yna ganran enfawr o ddysgwyr ffurfiol, neu sy'n dod o gefndiroedd Cymraeg ond sydd ddim yn siarad Cymraeg yn aml, dydyn ni ddim yn gallu fforddio eu colli nhw fel craidd y strategaeth yma. Hoffwn i glywed dipyn bach mwy oddi wrthych chi ar hynny.
Jest yn olaf, rwy'n croesawu targedau yn y cynlluniau addysg nawr; rwy'n falch o weld y rhain. Beth fyddech chi'n wneud pe bai cynghorau'n methu gyda'r targedau newydd? Beth mae'n mynd i gymryd i chi ailystyried fod angen deddfwriaeth newydd? A oes yna ryw siawns i ni gael deddfwriaeth i'n helpu ni pe bai'r cynghorau yn methu'r targedau, er enghraifft? Mae mwy i ddeddfwriaeth na hynny, rwy'n gwybod. Diolch yn fawr
Diolch yn fawr; roedd lot o gwestiynau fanna.
Yn gyntaf i gyd, a gaf i ddweud pa mor galonogol yw hi ein bod ni'n gweithredu nawr yn drawsbleidiol tuag at y targed yma o 1 miliwn o siaradwyr? Dwi yn meddwl bod hynny yn rhoi neges glir tu fewn i Gymru a thu hwnt, ac mae hon yn neges rŷm ni'n ceisio ei dangos i Ogledd Iwerddon, er enghraifft, i ddangos bod yna daith a siwrnai rydych chi'n gallu mynd arni fel gwlad gyda phwnc efallai a oedd yn sensitif, ond yn rhywbeth nawr sydd wedi dod yn rhywbeth sydd wedi cael ei dderbyn gan gymdeithas yn gyffredinol.
Dwi yn meddwl bod yna gyfle i ni sôn am y Gymraeg tu hwnt i'n ffiniau a dwi'n eithaf bodlon siarad mwy am hynny rhywbryd, ond jest i roi syniad i chi: yn ddiweddar, fues i yn UNESCO yn siarad â nhw ynglŷn â sut y gallant efallai ein defnyddio ni fel model o beth rŷm ni'n gallu ei wneud, beth rydym ni wedi ei wneud, ac yn arbennig mewn meysydd fel technoleg. Roedd lot o ddiddordeb gyda nhw i glywed mwy am hynny.
Rydym ni wedi cael ymateb, dwi'n meddwl, cadarnhaol o ran y WESPs ac wedi bod yn cydweithredu yn agos iawn gyda chynghorau lleol. Dwi'n meddwl beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n dod â chynghorau lleol a'u poblogaeth nhw ar y siwrnai gyda ni. Mae hwn yn rhywbeth lle mae'n anodd iawn ceisio 'force-o' rhywun i gymryd y Gymraeg fel pwnc ac i gymryd hi fel ffordd maen nhw eisiau Cymraeg llawn amser yn eu hysgolion nhw. Felly, mae'n rhaid i ni ddarbwyllo pobl. Rydym ni wedi gwneud hynny, dwi'n meddwl, ond mae'r WESPs ac mae'r ffaith bod gennym ni 10 mlynedd nawr i gynllunio yn help aruthrol, dwi'n meddwl. Felly, dwi'n cytuno mai darbwyllo pobl, nid gorfodi, yw'r ffordd orau i symud hyn ymlaen.
Mae yna lot o bethau y gallem eu gwneud o ran defnydd iaith. Mae yna, yn sicr, ffyrdd gwahanol o ddefnyddio'r moron. Un enghraifft o hyn oedd yr enghraifft gyda'r arian cyfalaf ddefnyddiom ni i geisio annog rhai o'r awdurdodau i fynd ymhellach gyda'u cynlluniau nhw. Felly, roedd £30 miliwn ychwanegol wedi cael ei roi yn uniongyrchol i'r llywodraethau lleol hynny oedd yn fodlon agor ysgolion Cymraeg newydd. Felly, mae yna foronen mewn lle.
O ran y prentisiaethau, eisoes mae tua 12 y cant o'r prentisiaethau a'r bobl sydd yn gwneud gwaith yn ein cymunedau ni ac yn ein colegau ni—mae tua 12 y cant o'r rheini'n cynnwys elfen o'r Gymraeg. Ac mae'n wir i ddweud bod cael prentisiaethau ym meysydd gofal a gofal plant, er enghraifft, lot yn haws nag, efallai, yn y sector breifat. Dwi yn meddwl bod yna fwy o waith i'w wneud yn rhai o'r ardaloedd yna roeddech chi'n sôn amdanynt—lletygarwch a manwerthu—ond dyna pam beth rŷn ni'n trio gwneud yw codi ymwybyddiaeth pobl am ddefnydd o'r iaith drwy gynlluniau fel Cymraeg Gwaith: sicrhau bod pobl yn gweld mantais o ddefnyddio'r Gymraeg ac efallai wedyn cymryd rhywun sydd eisiau gwneud prentisiaeth ymlaen fel rhan o'u datblygiad nhw.
O ran dysgu Cymraeg fel pwnc, wel, mae hwn yn rhywbeth rŷn ni'n ceisio annog pobl i wneud fel lefel A. Dŷch chi wedi gweld ein bod ni wedi rhoi £150,000 yn ychwanegol i geisio annog pobl yn y maes yma i fynd o wneud TGAU i wneud lefel A ac hefyd ymlaen i'r brifysgol. Mae Saesneg hefyd yn cael trafferth. Mae pobl yn cael trafferth i wneud Saesneg hefyd. Felly, nid mater yn unig i'r Gymraeg yw hi.
O ran defnydd y Gymraeg, rŷn ni wedi bod yn rhoi pwysau ar bobl fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau eu bod nhw'n gwneud, efallai, mwy yn y maes cymdeithasol ac ati, ac mae pethau fel Dydd Miwsig Cymru gyda ni'n dod i fyny cyn bo hir, ac mae hwnna'n gyfle i bobl i sicrhau bod yna gyfle i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae yna waith i'w wneud ar drosglwyddo iaith ac mae yna gynllun gyda ni rŷn ni'n ei baratoi ar hyn o bryd, a bydd hwnna'n dod allan cyn bo hir. Ond rŷn ni'n ymwybodol bod yn rhaid i ni weld beth yw'r pethau yna sy'n cael pobl i ddefnyddio'r iaith—i switsio o ddefnyddio'r Saesneg i'r Gymraeg yn y meysydd cymdeithasol.
O ran safon y Gymraeg, dwi yn meddwl ei fod e'n really bwysig ein bod ni'n codi hyder pobl sy'n gwneud ymgais i siarad Cymraeg. Mae'n bwysig bod ni ddim yn beirniadu ac mae'n bwysig ein bod ni'n trio ymdawelu'r plismyn iaith. Felly, dwi yn gobeithio bod y neges yna wedi mynd mas yn glir. Wrth gwrs bod yn rhaid i ni gael safonau hefyd, ond mae'n rhaid i ni gael y balans yna'n iawn.
Diolch yn fawr am y datganiad. Drwy hyn i gyd, un cwestiwn penodol sydd yn codi yn fy meddwl i, a hynny ydy cwestiwn ynglŷn ag arian: sut ydych chi'n gallu cysoni cyllideb y Llywodraeth bresennol ar gyfer y Gymraeg ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf efo'r uchelgais yn y strategaeth 2050? Er mae yna groes-ddweud wedi bod gan wahanol Weinidogion, yn ôl beth rydym ni'n ddeall, fe fydd y Llywodraeth hon yn gwario llai ar yr iaith Gymraeg yn 2020-21 nag y mae'n gwneud yn y flwyddyn ariannol bresennol. Rydw i yn deall bod fy nghydweithiwr Llyr Gruffydd, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, wedi ysgrifennu atoch chi yn gofyn am eglurder am hyn ond does yna ddim ateb wedi dod. Ein dealltwriaeth ni, felly, ydy bod y setliad ar gyfer cyllideb y Gymraeg yn un fflat, yn llai na chwyddiant, ac yn llai na'r cynnydd cyfartalog yn y gyllideb yn gyffredinol.
Mae'r diffyg ariannu yma'n dechrau amlygu ei hun yn barod, ac rydw i am sôn am ddwy enghraifft sydd wedi dod i'm sylw i'r prynhawn yma. Yn gyntaf, mi fydd yna doriadau i'r gyllideb Cymraeg i oedolion. Yn ôl gwybodaeth rydw i wedi'i chael yn lleol, rydw i'n deall y bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg i Oedolion ym Mangor yn colli hyd at £100,000 y flwyddyn nesaf. Llai o bres i Gymraeg i oedolion; llai, felly, o gyfleon i oedolion ddysgu Cymraeg. Rŵan, sut yn y byd mae cysoni hynny efo strategaeth 'Cymraeg 2050'? Onid ydy cynyddu'r nifer o oedolion sy'n dysgu Cymraeg yn greiddiol i lwyddiant y nod o greu 1 miliwn o siaradwyr?
Ac yn ail, hoffwn i gymryd y cyfle i'ch holi chi heddiw am gyllideb yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ôl beth roeddwn i'n ei ddeall, roedd bwriad i glustnodi arian ar gyfer Eisteddfod Ceredigion ac Eisteddfod Llŷn er mwyn i'r trefnwyr allu cynnig gostyngiad ar docynnau mynediad—syniad gwych—ac mi gofiwch chi gyd fod hyn wedi digwydd yn llwyddiannus yn Eisteddfod Caerdydd, eisteddfod lle doedd dim rhaid talu dim byd o gwbl, eisteddfod ddi-ffin. Ac yn Eisteddfod Llanrwst, hefyd—dwi'n credu ar y dydd Sul roeddech chi'n cael mynd i mewn am ddim. A dwi'n meddwl mai'r bwriad gwreiddiol oedd galluogi Eisteddfod Ceredigion ac Eisteddfod Llŷn i roi trefniadau ar waith er mwyn gallu gostwng pris tocynnau er mwyn estyn allan, denu eisteddfodwyr newydd, codi hyder yn yr iaith Gymraeg, fel rydyn ni wedi bod yn ei drafod yn fan hyn. Felly, a wnewch chi gadarnhau nad dyna ydy'r bwriad bellach, a bod y gyllideb oedd wedi'i chynllunio yn wreiddiol ar gyfer yr Eisteddfod hefyd yn destun toriadau? A sut mae cysoni'r tro pedol yma eto efo'ch awydd chi i weld mwy o bobl yn defnyddio'r Gymraeg ac i wneud y Gymraeg yn fwy hygyrch i fwy o bobl? Sut mae o'n cyd-fynd â strategaeth 2050 a'r weledigaeth 1 miliwn o siaradwyr?
Ac, yn olaf, hoffwn i wybod ydy'r arbedion yn y ddau faes yma dwi wedi sôn amdanyn nhw y prynhawn yma—ac efallai bod yna arbedion yn digwydd mewn meysydd eraill yn ymwneud â'r Gymraeg hefyd—ydy'r arbedion yma ar gyfer blaenoriaethau eraill, a beth ydy'r blaenoriaethau eraill rydych chi'n eu hystyried, ac a ydy'r blaenoriaethau eraill yma o fewn portffolio'r Gymraeg, ynteu a ydyn nhw'n flaenoriaethau sydd yn ymwneud â'ch gwaith chi mewn rhannau eraill o'r portffolio—er enghraifft, ar gyfer y strategaeth ryngwladol? Mae eisiau eglurder ar hyn i gyd, os gwelwch yn dda.
Dau gwestiwn bach cyflym i gloi: mae yna £14 miliwn yn ychwanegol yn 2020-1 i golegau addysg bellach. Faint o'r gyllideb ychwanegol fydd yn mynd i addysg cyfrwng Cymraeg? Ac wedyn, o ganlyniad i arian ychwanegol i addysg uwch a phrentisiaethau cyffredinol y flwyddyn nesaf, faint o arian ychwanegol fydd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn ehangu addysg a phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg? Cwestiynau byddai'n braf iawn cael eglurder pellach yn eu cylch nhw y prynhawn yma.
Diwedd y gân yw'r geiniog—efo'r gyllideb ar gyfer y Gymraeg yn crebachu, sut ydyn ni i fod i gredu bod eich Llywodraeth chi wirioneddol o ddifri ynglŷn â chreu 1 miliwn o siaradwyr, a sut fedrwn ni fod yn wirioneddol yn rhoi sylw teg i'r adroddiad ar y strategaeth 2050, pan ydyn ni'n gwybod bod ymdrechion yn digwydd i danseilio cyllideb y Gymraeg?
Wel, gaf i ddechrau trwy ei wneud yn glir: does dim toriad wedi bod yng nghyllideb y Gymraeg? Fe fydd yna ddim toriad yng nghyllideb y Gymraeg. Dwi ddim yn siŵr faint o weithiau gallaf i ddweud hynny. Mwy na hynny, mae £6.5 miliwn y cytunodd Plaid Cymru arno yn y gyllideb ddiwethaf—rŷn ni wedi cadw'r arian yna, felly mae'r arian yna wedi mynd tuag at y gyllideb. Yn ogystal â hynny, dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig bod pobl yn cydnabod mai jest rhan o'r gyllideb ar gyfer y Gymraeg yw'r gyllideb dwi'n edrych ar ei hôl hi—mae yna gyllidebau ar draws y Llywodraeth sydd yn cyffwrdd â'r Gymraeg. Os ydych chi jest yn meddwl am y ffaith y llynedd inni wario £30 miliwn ar gyfalaf ar gyfer adeiladu ysgolion Cymraeg, £15 miliwn ar gyfer adeiladu llefydd lle oedd plant ifanc yn gallu dysgu'r Gymraeg, roedd arian—miliynau ychwanegol—wedi mynd i Langrannog a Glan-llyn—does neb byth yn sôn am yr arian ychwanegol yna sydd wedi mynd mewn i'r Gymraeg. Felly, dwi yn meddwl bod hynny'n bwysig.
Roeddwn i eisiau edrych ar Gymraeg i oedolion yn fanwl—maen nhw'n cael £13 miliwn ac maen nhw'n dysgu tua 12,000 o bobl. Dwi jest eisiau cael golwg ar hynny, ac mae'n cymryd eithaf lot o arian y gyllideb; dwi eisiau sicrhau eu bod nhw'n gwario'r arian yna yn gywir—dwi'n siŵr y byddech chi eisiau imi wneud hynny. Ac mae'n werth, efallai, jest edrych ar y ffaith nad dim ond nhw sy’n darparu ar gyfer dysgu oedolion yng Nghymru. Mae Say Something in Welsh yn dweud eu bod nhw'n dysgu 50,000 o bobl. Mae Duolingo yn dweud bod miliwn o bobl gyda nhw ar eu llyfrau nhw, a dŷn nhw ddim yn cael ceiniog o'r Llywodraeth. Felly, dwi yn meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni yn gweld hyn yn ei gyfanrwydd. Ond, wrth gwrs, mae'r gwaith mae Cymraeg i oedolion a'r gwaith maen nhw yn ei wneud yn y ganolfan yn eithriadol o bwysig.
Ond dwi ddim wedi gwneud unrhyw benderfyniad eto ynglŷn â beth rŷn ni'n mynd i wneud am hynny, achos dwi eisiau cael edrych yn fanwl ar beth rŷn ni'n gallu ei wneud i sicrhau bod hwnna'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau ni ar gyfer Cymraeg 2050. Ond gallaf i fod yn hollol siŵr a sicr gyda chi na fydd dim arian yn mynd o'r portffolio. Os bydd arian yn mynd o hynny o gwbl, mi fydd e'n mynd at rywle arall yn y portffolio Cymraeg.
Does dim tro pedol wedi cael ei wneud ar yr Eisteddfod. Mae'r sefyllfa yr un peth ag yr oedd hi yn y gorffennol, felly dwi ddim yn gwybod o ble mae hwnna wedi dod.
O ran y coleg Cymraeg, mae prentisiaethau, fel roeddwn i'n ei ddweud—mae tua 12 y cant o bobl yn gwneud rhywfaint o'u gwaith nhw o ran prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cynyddu'r posibilrwydd i bobl wneud mwy o'u cwrs nhw trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol.
Gweinidog, rwy'n credu, i ddweud yr hyn sy'n amlwg, mewn gwirionedd, mae heriau penodol mewn gwahanol rannau o Gymru o ran hyrwyddo a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. Yng Nghasnewydd, roedd ffwlbri hanesyddol, am gyfnod hir, o ran nad oedd Sir Fynwy yn rhan o Gymru na Lloegr, ond ei bod mewn rhyw sefyllfa amwys ryfedd. Diolch byth, daeth tro ar fyd ers y dyddiau hynny, a chredaf fod ymdeimlad llawer cryfach o hunaniaeth Gymreig yng Nghasnewydd nawr. Ac, yn wir, mae llawer o bobl yn gresynu'n fawr at yr hyn y gwelant fel y cyfleoedd y dylent fod wedi'u cael ond na chawsant i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg. Yn ffodus i bobl iau erbyn hyn, mae pethau gymaint gwell drwy dwf addysg Gymraeg. Ac mae agweddau cadarnhaol eraill hefyd, hyd yn oed pethau eithaf sylfaenol, syml fel arwyddion dwyieithog, cyhoeddiadau dwyieithog, ac, yn wir, mae rhai grwpiau oedolion bellach yn cyfarfod mewn caffis a mannau eraill lle yr ydych yn clywed Cymraeg yn cael ei siarad yn y gymuned. Ond mae'n dal yn weddol gyfyngedig, rwy'n credu, mae'n deg dweud.
Felly, byddai gennyf ddiddordeb clywed sut y gallai Llywodraeth Cymru barhau â'r cynnydd hwnnw, gan gryfhau ymhellach yr iaith nid yn unig yng Nghasnewydd ond mewn ardaloedd tebyg ledled Cymru. Fel y dywedais, maent yn amlwg yn cyflwyno heriau penodol, o ystyried natur leiafrifol yr iaith. Byddai'n wych clywed Cymraeg yn cael ei siarad yn fwy cyffredin, yn fwy aml yn y gymuned yng Nghasnewydd, ac rwy'n credu bod y grwpiau oedolion cyfyngedig hynny'n dangos ei bod hi'n debygol bod angen mwy o gefnogaeth i hyrwyddo defnydd cymdeithasol o'r iaith. Nid yw llawer o'r bobl ifanc hynny sy'n gadael addysg cyfrwng Cymraeg yn defnyddio'r iaith yn y strydoedd, yn y gymuned yng Nghasnewydd, a byddai gennyf ddiddordeb yn eich syniadau o ran sut y gellid datblygu, hybu a chryfhau'r defnydd cymunedol hwnnw.
Diolch yn fawr. Dwi yn meddwl bod—. Dwi'n mynd i siarad yn Gymraeg, John, achos dwi'n ymwybodol bod dy Gymraeg di yn arbennig o dda—dwi'n siŵr bod dim eisiau hynny arnoch chi, ond cawn ni weld—jest i ddweud fy mod i'n hapus iawn gyda faint o frwdfrydedd sydd yn codi nawr yn ardal Casnewydd a thu hwnt o ran y Gymraeg, ac mae'n dda i weld nawr y bydd ysgol newydd yn dod i'r ardal. Mae'r ysgolion sydd yna'n llawn dop yn barod, felly mae yna gyfleoedd i bobl sicrhau bod yna ddigon o bobl yn siarad. A'r pwynt nesaf, wedyn, yw sicrhau eu bod nhw yn ei siarad tu fas i'r ysgol, a dyna ble mae'r—. Mae yna ddwy nod gyda ni: un yw cynyddu'r nifer sy'n gallu, ond yr ail yw bod pobl actually yn defnyddio'r Gymraeg, ac mae'n rhaid inni ddyblu faint sy'n defnyddio'r Gymraeg. Mae'n rhaid inni sicrhau bod yna gyfleoedd cymdeithasol. Dyna pam rŷn ni'n gwneud pethau fel Dydd Miwsig Cymru. Dwi'n siŵr bod yna bethau sy'n digwydd ar Ddydd Miwsig Cymru yn ardal Casnewydd, a byddai'n grêt pe gallech chi roi gwybod i bobl am y cyfleoedd hynny.
Mae yna gyfleoedd hefyd i ddysgwyr ddod at ei gilydd drwy bethau fel Siarad, sy'n brosiect ychwanegol rŷn ni wedi'i ddechrau gyda'r ganolfan Gymraeg. Felly, dwi yn meddwl bod yn rhaid inni edrych ar beth yw'r cyfleoedd yma i ddefnyddio'r Gymraeg unwaith rŷn ni wedi dysgu pobl, ac yn arbennig efallai yr oedolion, pan fyddant yn gallu ei defnyddio, fel nad yw'n iaith artiffisial, fel mae rhai pobl wedi ei gweld.
Un o'r pethau sy'n bwysig i fi yw inni ailgodi'r ymwybyddiaeth yn yr ardal honno. Cwpl o wythnosau yn ôl, es i am dro i ardal Llanthony, sydd jest ar y ffin â Lloegr. Mae gymaint o arwyddion Cymraeg yn yr ardal. Rŷch chi'n anghofio, ar un adeg, roedd yr holl ardal honno yn eithaf Cymreig. Mae'n rhaid inni jest ailgodi'r ymwybyddiaeth yma—mai dyma o ble mae'r bobl yna'n dod.
Gaf innau hefyd ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad, a chroesawu'r cynnwys, yn naturiol, a pharhau i longyfarch y Gweinidog ar ei huchelgais yn y maes yma, a thra ein bod ni wrthi, gydnabod hefyd waith arloesol Alun Davies pan oedd yn Weinidog—arloesol a phellgyrhaeddol yn y maes yma—i wneud yn siŵr ein bod ni'n anelu am filiwn o siaradwyr Cymraeg?
Wrth gwrs, fel rŷch chi wedi ei grybwyll eisoes, adennill y tir y byddwn ni. Pan rydym yn sôn am filiwn o siaradwyr Cymraeg, mi oedd yna, fel rŷch chi'n dweud, filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru rhyw 120 o flynyddoedd yn ôl. Hefyd, fel rŷch chi wedi ei ddweud yn y datganiad, mae'r ffaith bod yr iaith Gymraeg yn dal i fyw a bod, ac yn ffynnu, yn rhyfeddol ynddo'i hun ac yn destun dathliad, o gofio ein hanes o ormes, yn naturiol. Yn naturiol, dim ond un hanes o nifer o hanesion Cymru ydy hynna, ond mae e wedi digwydd serch hynny.
Yn wyneb y realiti bod ieithoedd lleiafrifol dros y byd i gyd yn crebachu ac yn diflannu o wyneb y tir pan mae yna iaith gref iawn ochr yn ochr efo nhw—. Ond, wrth gwrs, mae'r Gymraeg, felly, wedi llwyddo i droi'r gornel yna, ac mae hynna yn destun rhyfeddod a dathlu. Dim ond tair iaith yn unig, allan o dros 7,000 o ieithoedd sydd ar wyneb y ddaear yma, sydd wedi llwyddo i wneud hynny—i droi cornel, i stopio mynd allan a diflannu. Tair iaith yn unig sydd wedi troi'r gornel yna, i stopio diflannu, troi rownd a thyfu. Mae'r Gymraeg yn un o'r tair iaith yna.
Felly, mae yna ewyllys da tuag at yr iaith ym mhobman. Ond, wrth gwrs, yn wastadol, ewyllys da—nid da lle gellir gwell. Nawr, nid yw Cyngor Castell Nedd Port Talbot, er enghraifft, wedi agor yr un ysgol gynradd Gymraeg newydd yn ei hanes, ers sefydlu'r sir yn 1996. Mae hyn mewn sir â chymunedau sydd dal yn naturiol Gymraeg eu hiaith. Dwi'n clodfori beth mae John Griffiths newydd ei ddweud am Gasnewydd, a sefyllfaoedd tebyg, ond, wrth gwrs, mae yna ardaloedd naturiol Gymraeg eu hiaith sydd heb ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac erioed wedi cael y cyfle i anfon eu plant—. Mae'n rhaid iddyn nhw eu hanfon nhw filltiroedd i ffwrdd. Dyna realiti Castell-nedd Port Talbot heddiw, ac mae o'n destun siom.
Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe newydd gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre yn y Parsel Mawr—unig ardal naturiol Gymraeg Abertawe, ar lethrau'r ucheldiroedd yng ngogledd y sir. Nawr, gyda 600 o blant yr un mewn ysgolion cynradd cyfagos Cymraeg, fel Pontybrenin, a 600 arall yn Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las, a thros 400 yn Nhirdeunaw, sydd ddim yn bell i ffwrdd, roedd lle i gydweithio a rhannu adnoddau, newid dalgylch hyd yn oed, yn lle jest colli'r ysgol yn gyfan gwbl fel adnodd cymunedol i gymuned Gymraeg ei hiaith. A Chomisiynydd y Gymraeg heb y grymoedd i atal gwerthu'r ysgol—gwerthu ysgol Felindre mewn ocsiwn yn Llundain mewn rhyw bythefnos. Rhyfedd o beth.
Trof at un peth arall cyn imi orffen. Mae'r gofyniad ieithyddol yn nhermau gwasgedd ar y Gymraeg, yn naturiol, wrth adeiladu ystadau o dai newydd—mae hynny'n her sylweddol a chynyddol. Dwi ddim yn mynd i olrhain yr holl hanesion, na'r holl heriau, ond a allaf i jest ofyn, pa berswâd ydych chi fel Gweinidog yn ei ddwyn ar adrannau cynllunio llywodraeth leol i gymryd o ddifri gofynion y Gymraeg a'r pwysau ar y Gymraeg, ac o leiaf deall bod angen cael gofyniad am y Gymraeg?
Ac i orffen, a fyddech chi'n cytuno—
Roeddwn i'n meddwl dy fod ti wedi gorffen, Dai, fanna. Allet ti ofyn dy gwestiwn olaf, os allet ti?
Diolch, Llywydd. Hwn yw'r cwestiwn olaf, byddwch chi'n falch clywed: fyddech chi'n cytuno, Weinidog, bod gochel a hybu ein hardaloedd naturiol Gymraeg yn annatod i lwyddiant y bwriad o gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? Diolch yn fawr.
Diolch, Dai. A gaf i ddweud ei bod hi'n bwysig tanlinellu bod iaith yn marw yn y byd bob yn ail wythnos? Felly, dwi yn gobeithio bod pobl yn gallu edrych arnom ni ac yn gallu dysgu wrthym ni. Ond dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni ddim yn sôn drwy'r amser am y tranc ac am 'Ry'n ni yma o hyd' a phethau. Mae'n rhaid i ni newid yr iaith. Rŷm ni'n dathlu, rŷm ni'n edrych i'r dyfodol. Mae'n rili bwysig ein bod ni'n gwneud yr holl bethau yma yn gadarnhaol, yn edrych i'r dyfodol, nid i'r gorffennol. Sut ydym ni'n mynd i ysbrydoli pobl i ddod at yr iaith os nad ydym ni'n siarad gyda'r math o eirfa yna?
Dwi'n siŵr y byddwch chi'n blês i glywed fy mod i'n mynd i gael sgwrs gyda chyngor Castell-nedd yfory ynglŷn â'r sefyllfa gyda'r iaith Gymraeg, ond hefyd byddaf i yn mynd i ymweld ag ysgol Bro Dur, wrth gwrs, ac mae hon yn ysgol newydd sydd wedi agor yn yr ardal. Wrth gwrs, mae yna le i drafod ymhellach, ond dwi'n meddwl, o ran Abertawe, maen nhw wedi symud yn bell yn y maes yma. Dwi'n gwybod bod Felindre wedi cau, ond dim ond 14 o ddisgyblion oedd yn yr ysgol, ac roeddwn i'n meddwl bod pobl yn deall y byddai'n gwneud mwy o synnwyr. Mae symud ysgol Tan-y-lan i sefyllfa newydd yn golygu bod 420 o lefydd newydd. Mae ysgolion newydd Tirdeunaw a Pontybrenin. Mae'r rheini i gyd yn ysgolion newydd sydd wedi agor yn Abertawe. Felly, dwi yn meddwl bod rhaid i roi clod i Abertawe am y tir maen nhw wedi symud yn y maes yma.
O ran y WESPs, mae gyda ni gynlluniau nawr ar gyfer 10 mlynedd. Mae pob cyngor wedi cael targed o ran beth ddylen nhw fod yn cyrraedd yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Felly, mae'r cynllunio yna dros y tymor hirach nawr, gobeithio, mewn lle.
Ac yn olaf, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, am dderbyn fy nghais i ofyn cwestiwn neu ddau. Dau gwestiwn ynglŷn ag addysg sydd gen i—addysg ysgolion yn gyntaf. Rydym ni'n sôn am y targed 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2050, ac mae'n dda gweld pawb yn gweithio gyda'i gilydd tuag at y nod hwnnw. Mae pawb yn croesawu'r targed. Mi ddylem ni allu ei gyrraedd oherwydd bod rôl ysgolion mor bwysig, ac mae dwy genhedlaeth gyfan o blant ysgol yn mynd i basio trwy ein hysgolion ni rhwng rŵan a 2050.
Ydych chi fel Gweinidog yn cytuno efo fi, yn fy etholaeth i, y dylai pob un plentyn sy'n cael ei fagu yn Ynys Môn gael sicrwydd y bydd o neu hi yn gwbl rugl yn y Gymraeg erbyn gadael addysg? Pa bynnag ysgol y mae'r plentyn yna yn ei mynychu, a p'un ai yw'n mynychu ysgol ar yr ynys neu ar y tir mawr. Achos dydy hi wir ddim yn deg ar blentyn i'w rhoi nhw drwy system addysg sydd ddim yn galluogi iddyn nhw chwarae rhan yn gwbl lawn mewn cymdeithas sydd yn ddwyieithog.
A'r ail gwestiwn, ynglŷn ag addysg i oedolion—yn ategu pwynt a gafodd ei wneud gan Siân Gwenllian. Mae yna 405, fel dwi'n deall, o ddysgwyr a ddysgwragedd yn Ynys Môn ar hyn o bryd yn derbyn addysg Gymraeg i oedolion gan y ganolfan dysgu Cymraeg yn y gogledd orllewin ym Mhrifysgol Bangor. Maen nhw'n bryderus am yr awgrym y gallech chi fod yn ystyried torri, o bosib, £0.5 miliwn oddi ar gyllideb y ganolfan Cymraeg i oedolion yn genedlaethol.
Mae'n hollol iawn, fel rydych chi'n dweud, eich bod chi'n edrych ar sut mae'r arian yn cael ei wario, a sicrhau ei fod o'n cael ei wario yn synhwyrol. Ond mi fyddai torri ryw £0.5 miliwn, os mai dyna ydych chi'n dal yn ystyried, yn golygu, mae'n siŵr, £80,000 oddi ar gyllideb y ganolfan yn y gogledd orllewin, yn cyfateb, mae'n siŵr, i ddwy swydd. A does yna ddim amheuaeth y byddai hynny'n cael effaith uniongyrchol ar gapasiti i ddysgu'r bobl hynny ar draws y gogledd orllewin, a'r rhai dwi'n poeni fwyaf amdanyn nhw—os gwnewch chi faddau i mi—y rhai yn Ynys Môn.
Mewn ardal fel Ynys Môn, lle mae yna lawer o fewnfudo gan bobl sy'n dod i fyw ar yr ynys am resymau cwbl, cwbl ddealladwy, mae'n hanfodol fod cyfleon yn cael eu cynnig ar eu cyfer nhw i ddysgu Cymraeg, i ddeall pwysigrwydd yr iaith mewn cymdeithas ddwyieithog, a bod y capasiti yna wedyn er mwyn rhoi y cyfleon dysgu iddyn nhw. Felly, pa bryd fyddwch chi'n dod i'ch penderfyniad er mwyn, gobeithio, gallu rhoi sicrwydd i'r ganolfan ynglŷn â'r ffordd ymlaen?
Diolch. O ran addysg, dwi'n meddwl beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n trio dwyn perswâd ar rieni i anfon eu plant nhw i ysgolion Cymraeg lle bo hynny'n bosibl. Felly, dyna pam dwi'n meddwl beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n dechrau ar y dechrau gydag ysgolion meithrin. Dyna pam bod y £1 miliwn ychwanegol yna a aeth i mewn i agor mwy o ysgolion meithrin mor bwysig.
Wrth gwrs, mae targed gyda sir Fôn, mae targed gyda Gwynedd, o ran ble y dylen nhw fod yn cyrraedd o ran gweld ehangu yn nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg yn eu hardaloedd nhw. Felly, mae'n rhaid i hyn, dwi'n meddwl, fod yn rhywbeth rŷn ni'n ei drafod gyda nhw, yn hytrach na rhywbeth rŷn ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud heb ein bod ni'n cael y drafodaeth yna. Dyna pam mae'r broses yna'n mynd yn ei blaen ar hyn o bryd. Mae'r drafodaeth yna ar ble y dylai'r WESPs fod yn y tymor hir. Mae 10 mlynedd gyda ni nawr i sicrhau ein bod ni yn y lle iawn. Mae'r cynllunio 10 mlynedd yna, mae'r trafodaethau yna yn mynd yn eu blaen ar hyn o bryd.
O ran y sefyllfa gyda Cymraeg i oedolion, dwi yn meddwl bod lot o arian yn mynd mewn i hyn. Dwi eisiau sicrhau ei fod e'n cael ei wario'n iawn. Dwi hefyd eisiau sicrhau bod yna gyfle i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg unwaith eu bod nhw wedi gorffen eu cyrsiau nhw. Felly, os rhywbeth, beth dwi eisiau gwneud yw edrych a ydyn ni gyda'r balans yn y lle cywir i sicrhau bod yna gyfleoedd y tu fas, unwaith maen nhw wedi gorffen dysgu, i sicrhau eu bod nhw yn cael cyfle i'w defnyddio. Dwi heb wneud penderfyniad. Mi fyddaf i'n gwneud penderfyniad yn ystod y mis nesaf, fel eu bod nhw yn cael y sicrwydd yna.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad a'r atebion yna.