Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 28 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr am y datganiad. Drwy hyn i gyd, un cwestiwn penodol sydd yn codi yn fy meddwl i, a hynny ydy cwestiwn ynglŷn ag arian: sut ydych chi'n gallu cysoni cyllideb y Llywodraeth bresennol ar gyfer y Gymraeg ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf efo'r uchelgais yn y strategaeth 2050? Er mae yna groes-ddweud wedi bod gan wahanol Weinidogion, yn ôl beth rydym ni'n ddeall, fe fydd y Llywodraeth hon yn gwario llai ar yr iaith Gymraeg yn 2020-21 nag y mae'n gwneud yn y flwyddyn ariannol bresennol. Rydw i yn deall bod fy nghydweithiwr Llyr Gruffydd, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, wedi ysgrifennu atoch chi yn gofyn am eglurder am hyn ond does yna ddim ateb wedi dod. Ein dealltwriaeth ni, felly, ydy bod y setliad ar gyfer cyllideb y Gymraeg yn un fflat, yn llai na chwyddiant, ac yn llai na'r cynnydd cyfartalog yn y gyllideb yn gyffredinol.
Mae'r diffyg ariannu yma'n dechrau amlygu ei hun yn barod, ac rydw i am sôn am ddwy enghraifft sydd wedi dod i'm sylw i'r prynhawn yma. Yn gyntaf, mi fydd yna doriadau i'r gyllideb Cymraeg i oedolion. Yn ôl gwybodaeth rydw i wedi'i chael yn lleol, rydw i'n deall y bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg i Oedolion ym Mangor yn colli hyd at £100,000 y flwyddyn nesaf. Llai o bres i Gymraeg i oedolion; llai, felly, o gyfleon i oedolion ddysgu Cymraeg. Rŵan, sut yn y byd mae cysoni hynny efo strategaeth 'Cymraeg 2050'? Onid ydy cynyddu'r nifer o oedolion sy'n dysgu Cymraeg yn greiddiol i lwyddiant y nod o greu 1 miliwn o siaradwyr?
Ac yn ail, hoffwn i gymryd y cyfle i'ch holi chi heddiw am gyllideb yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ôl beth roeddwn i'n ei ddeall, roedd bwriad i glustnodi arian ar gyfer Eisteddfod Ceredigion ac Eisteddfod Llŷn er mwyn i'r trefnwyr allu cynnig gostyngiad ar docynnau mynediad—syniad gwych—ac mi gofiwch chi gyd fod hyn wedi digwydd yn llwyddiannus yn Eisteddfod Caerdydd, eisteddfod lle doedd dim rhaid talu dim byd o gwbl, eisteddfod ddi-ffin. Ac yn Eisteddfod Llanrwst, hefyd—dwi'n credu ar y dydd Sul roeddech chi'n cael mynd i mewn am ddim. A dwi'n meddwl mai'r bwriad gwreiddiol oedd galluogi Eisteddfod Ceredigion ac Eisteddfod Llŷn i roi trefniadau ar waith er mwyn gallu gostwng pris tocynnau er mwyn estyn allan, denu eisteddfodwyr newydd, codi hyder yn yr iaith Gymraeg, fel rydyn ni wedi bod yn ei drafod yn fan hyn. Felly, a wnewch chi gadarnhau nad dyna ydy'r bwriad bellach, a bod y gyllideb oedd wedi'i chynllunio yn wreiddiol ar gyfer yr Eisteddfod hefyd yn destun toriadau? A sut mae cysoni'r tro pedol yma eto efo'ch awydd chi i weld mwy o bobl yn defnyddio'r Gymraeg ac i wneud y Gymraeg yn fwy hygyrch i fwy o bobl? Sut mae o'n cyd-fynd â strategaeth 2050 a'r weledigaeth 1 miliwn o siaradwyr?
Ac, yn olaf, hoffwn i wybod ydy'r arbedion yn y ddau faes yma dwi wedi sôn amdanyn nhw y prynhawn yma—ac efallai bod yna arbedion yn digwydd mewn meysydd eraill yn ymwneud â'r Gymraeg hefyd—ydy'r arbedion yma ar gyfer blaenoriaethau eraill, a beth ydy'r blaenoriaethau eraill rydych chi'n eu hystyried, ac a ydy'r blaenoriaethau eraill yma o fewn portffolio'r Gymraeg, ynteu a ydyn nhw'n flaenoriaethau sydd yn ymwneud â'ch gwaith chi mewn rhannau eraill o'r portffolio—er enghraifft, ar gyfer y strategaeth ryngwladol? Mae eisiau eglurder ar hyn i gyd, os gwelwch yn dda.
Dau gwestiwn bach cyflym i gloi: mae yna £14 miliwn yn ychwanegol yn 2020-1 i golegau addysg bellach. Faint o'r gyllideb ychwanegol fydd yn mynd i addysg cyfrwng Cymraeg? Ac wedyn, o ganlyniad i arian ychwanegol i addysg uwch a phrentisiaethau cyffredinol y flwyddyn nesaf, faint o arian ychwanegol fydd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn ehangu addysg a phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg? Cwestiynau byddai'n braf iawn cael eglurder pellach yn eu cylch nhw y prynhawn yma.
Diwedd y gân yw'r geiniog—efo'r gyllideb ar gyfer y Gymraeg yn crebachu, sut ydyn ni i fod i gredu bod eich Llywodraeth chi wirioneddol o ddifri ynglŷn â chreu 1 miliwn o siaradwyr, a sut fedrwn ni fod yn wirioneddol yn rhoi sylw teg i'r adroddiad ar y strategaeth 2050, pan ydyn ni'n gwybod bod ymdrechion yn digwydd i danseilio cyllideb y Gymraeg?