Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 28 Ionawr 2020.
Wel, rydych chi'n gorffen, fel rydych chi newydd orffen, drwy ddweud:
Drwy nodi'r dyddiau hyn o gofio, gallwn sicrhau nad aiff y troseddau erchyll hyn yn erbyn dynoliaeth byth yn angof a symudwn y byd i sefyllfa lle nad yw'n cael ei ailadrodd byth eto.
Ac rwy'n ategu'ch teimladau'n llwyr, gant y cant yn hynny o beth. Yn anffodus, ni fydd nodi'r dyddiau cofio ar ei ben ei hun yn sicrhau hynny, a gwyddom i gyd pan fyddwn yn troi'r teledu ymlaen yn y nos ac yn gwylio'r newyddion neu'r rhaglenni dogfen, gwelwn boblogaethau yn cael eu herlid ar draws y byd oherwydd ystyrir eu bod yn wahanol i'r Llywodraeth sydd mewn grym neu'r system gred neu grefydd gryfaf yn yr ardal lle maen nhw'n byw.
Felly, sut ydych chi'n credu y gallwn ni, mewn modd mwy grymus—ar lefel Cymru a'r DU o leiaf—arwain dealltwriaeth fyd-eang a gweithredu ar yr agenda hon sy'n mynd y tu hwnt i'r digwyddiadau cofio a choffáu tyngedfennol hynny ar ddyddiadau penodol bob blwyddyn ac a fydd, gobeithio, yn dod yn fwy diwylliannol? Mae'r rhai a fu'n byw drwy'r ail ryfel byd; y rhai a fagwyd yn ystod y blynyddoedd hynny wedi byw gyda'r atgof hwnnw, ond erbyn hyn mae gennym ni genedlaethau, fel y gwyddoch chi, sy'n gweld hyn fel hen hanes.
Ddydd Gwener diwethaf, siaradais yn nigwyddiad Diwrnod Cofio'r Holocost yn Wrecsam. Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yno, yn enwedig pobl ifanc—pobl ifanc o'r colegau lleol a rhai o ysgolion lleol, a oedd eisiau deall, ymwneud a sicrhau na fydd y pethau erchyll hyn byth yn digwydd eto. Fel rydych chi wedi dweud, roeddem yn coffáu 75 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau yn ogystal â phum mlynedd ar hugain ers yr hil-laddiad yn Bosnia. Hefyd, ym mis Ebrill, fe fydd hi'n 75 mlynedd ers rhyddhau gwersyll crynhoi Bergen-Belsen gan luoedd Prydain. Ac eleni hefyd mae hi'n ugain mlynedd ers mabwysiadu datganiad Stockholm, a sefydlodd yr hyn a adwaenir bellach fel Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost, a phymtheg mlynedd ers mabwysiadu 27 Ionawr fel Diwrnod Rhyngwladol Cofio'r Holocost gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
Bûm i, fel chithau, yn y digwyddiad yn y Senedd bythefnos yn ôl gyda Mala Tribich ac Isaac Blake. Sut ydych chi'n teimlo neu'n ymateb i'r e-bost yr wyf wedi'i gael ac nad wyf yn amau nad yw llawer o Aelodau eraill wedi'i gael heddiw gan yr Israel Britain Alliance, sy'n nodi cynnydd sylweddol yn nifer y digwyddiadau gwrthsemitig yn y DU, a dywedant yn anffodus, nad oes unrhyw ran o'n gwlad, maen nhw'n cyfeirio at y DU wrth ddweud hynny, wedi bod yn ddiogel rhag casineb hynaf y byd?
Rydych chi'n dweud—ac rydym yn ychwanegu'r Ceidwadwyr Cymreig at hyn, a phawb yn y Siambr hon, rwy'n gwybod—rydym yn sefyll gyda chymunedau Iddewig yn erbyn gwrthsemitiaeth yng Nghymru a ledled y byd. Rydych chi'n sôn am y ffaith ei bod hi'n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn deall y rhesymau ac fe wnaethoch chi gyfeirio at raglen a oedd yn cynnwys myfyrwyr 16 i 18 oed. Yn wir, aeth fy mhlant i Ysgol Uwchradd Castell Alun yn Sir y Fflint, a manteisiodd y rhan fwyaf ohonynt ar ymweliad ag Auschwitz-Birkenau gyda'u hysgol, ac roedd yr argraff a wnaed arnynt yn aruthrol, gan roi gwers hanfodol a fydd yn aros gyda nhw ar hyd eu hoes. Maen nhw'n digwydd bod yn un o'r ysgolion hynny sydd wedi cydnabod pa mor bwysig yw hi i roi sylw i hyn, ond mae llawer o rai eraill, efallai, nad ydynt yn rhoi'r sylw hwnnw. Sut gallwn ni sicrhau bod hyn yn ymwreiddio i'r brif ffrwd, nid yn unig yn yr ysgolion hynny sydd ar flaen y gad yn hyn o beth, ond y rhai y mae angen, efallai, eu helpu ymhellach ar hyd y ffordd?
Ymwelais, gyda chydweithwyr yn y Cynulliad yn 2017, â Yad Vashem, Canolfan Ryngwladol Cofio'r Holocost, ac yn neuadd yr enwau, gwelsom wedi eu llingerfio ar y llawr mosäig, enwau 22 o'r safleoedd llofruddio Natsïaidd mwyaf ffiaidd, ac wedi eu claddu o dan y rhain, fel y gwnaethom ni ddeall a dysgu, mae lludw'r dioddefwyr. Ac fel y dywedodd Churchill, po bellaf yn ôl y gallwch chi edrych, y pellaf ymlaen yr ydych chi'n debygol o weld oherwydd bod y Natsïaid yn deall ei bod hi'n llawer haws uno pobl yn erbyn rhywbeth yn hytrach nag o blaid rhywbeth, ac fe droesant yn erbyn y lleiafrifoedd yn eu plith.
Targedodd awdurdodau'r Almaen hefyd, fel y gwyddoch chi, grwpiau eraill oherwydd eu gwahaniaeth canfyddedig—eu hisraddoldeb hiliol a biolegol fel y'i hystyriwyd, gan gynnwys plant—Sipsiwn Roma a Sinti; Almaenwyr anabl; pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol; a rhai pobloedd Slafig, yn enwedig Pwyliaid a Rwsiaid. Ni cheir unrhyw ddogfen o adeg y rhyfel a luniwyd gan y Natsïaid yn nodi faint o bobl a laddwyd mewn gwirionedd, ond mae Amgueddfa Coffáu'r Holocost yr UD yn amcangyfrif 6 miliwn ac 11 miliwn o rai eraill, sy'n 17 miliwn, gan gynnwys—ar amcangyfrif ceidwadol—0.5 miliwn o Sipsiwn Roma a Sinti Ewropeaidd. Yn wir, mae'r gymuned ei hun yn nodi cynifer â 1.5 miliwn.
Unwaith eto, sut byddech chi'n ymateb i'r e-bost a gefais heddiw gan Sipsiwn/Teithwyr sydd fel rwy'n gwybod yn byw ger Conwy, sy'n dweud, 'Rydym yn caru Iddewon fel y mae Duw yn eu caru, ond wrth wylio'r teledu, ni welwn ni unrhyw beth am Sipsiwn yn cael eu lladd gan y Natsïaid a'u cynghreiriaid. Os gwelwch yn dda, bobl, cofiwch hyn. Cofiwch 26 Tachwedd 1935, pan ddiweddarwyd cyfreithiau Nuremburg i gynnwys cadw Sipsiwn, a gafodd eu gwneud yn elynion y wladwriaeth?' Ac, wrth gwrs, maen nhw'n sôn am hil-laddiad; maen nhw'n ei alw—gadewch i ni gael hyn yn iawn—yn Porajmos, neu'r hil-laddiad. Ac maen nhw'n dweud, 'Gall dim ond ychydig o erledigaeth, mymryn o ragfarn na chaiff ei herio gynnau dinistr. Gweddïwn dros ein cefndryd pell a'n cyfeillion Iddewig na fydd hyn byth yn digwydd eto.' Ac, wrth gwrs, yn 1939, dechreuwyd lladd oedolion a phlant anabl—cafodd Almaenwyr eu gwenwyno â nwy yn rhan o arbrofion mewn canolfannau lladd yn Brandenburg, a lladdwyd miloedd o gleifion anabl mewn siambrau nwy neu ystafelloedd cawod, gan greu'r model a gafodd ei gyflwyno wedyn yng ngwersylloedd crynhoi a gwersylloedd lladd y Natsïaid megis Auschwitz-Birkenau. Unwaith eto, yn ôl amcangyfrif ceidwadol, cafodd 250,000 o bobl anabl, llawer ohonynt yn blant—syndrom Down, parlys yr ymennydd a llawer mwy—eu lladd yn y ffordd ofnadwy honno.
Ac, mewn gwirionedd, nid oes llawer—. Nid wyf yn credu bod yn rhaid i chi ateb mewn gwirionedd; rwy'n credu ein bod yn gytûn ynghylch hyn. Wrth wraidd hynny i gyd mae'r cwestiwn sut yr ydym yn newid hyn o fod yn ddigwyddiad blynyddol neu rywbeth yr ydym yn sôn amdano o bryd i'w gilydd, a'i wreiddio drwy ein cymdeithas ac arwain yn fyd-eang wrth wneud hynny, fel na fydd cenedlaethau'r dyfodol yn gwneud yr un camgymeriadau ag y mae cenedlaethau heddiw yn dal i'w gwneud ac fel y gwnaeth cenedlaethau'r gorffennol eu hunain. Diolch.