Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 28 Ionawr 2020.
Wel, diolch yn fawr iawn ichi, Mark Isherwood, a diolch ichi am yr holl sylwadau a wnaethoch chi a'r cwestiynau yr ydych chi wedi eu holi y prynhawn yma. Unwaith eto, rhaid inni ailadrodd: ni ddylid byth anghofio'r Holocost, ac nid ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost yn unig y mae cofio. Mae'n bwysig bod hyn yn treiddio drwy ein polisi a bydd y ffordd y byddaf yn ymateb i'ch cwestiynau gobeithio yn dangos hynny.
Byth eto i'w ailadrodd—mae hynny'n rhan o addysg. Roedd honno'n neges gref iawn gan y goroeswr Dr Martin Stern ddoe, sef bod a wnelo hyn ag addysg. Ac mae angen inni sicrhau bod hynny'n digwydd, nid yn unig drwy rai prosiectau rhagorol iawn yr ydym yn eu hariannu drwy Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, ond mewn gwirionedd drwy fynd â hyn ymhellach—ac rydym yn dilyn datganiad pwysig iawn y prynhawn yma gan y Gweinidog Addysg—pan fyddwn yn edrych ar y cwricwlwm, byddwn yn edrych ar y dibenion. Un o'r pedwar diben yn ein cwricwlwm newydd yng Nghymru o 2022 yw bod pob plentyn a pherson ifanc yn datblygu'n ddinasyddion egwyddorol, gwybodus o Gymru a'r byd, yn wybodus am eu diwylliant, eu cymunedau a'u cymdeithas, gan barchu anghenion a hawliau pobl eraill yn aelodau o gymdeithas amrywiol. Wrth gwrs, gwelwn hynny yn ein hysgolion, ac rydym yn gweld manteision hynny, ond mae hyn yn egwyddor gref iawn yn y cwricwlwm newydd.
Mae'n bwysig ein bod yn ariannu Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost ac yn annog mwy o ysgolion i ymwneud â hyn. Bydd yn cael ei gynnal ym mis Chwefror, a gwyddom fod pobl ifanc—ac rwy'n siŵr y gwelsoch chi hyn yn nigwyddiad Wrecsam—eisiau ymwneud, a dônt yn llysgenhadon grymus a bydd yn newid eu bywydau. Ac rydym ni wedi clywed am raglenni eraill y byddwn yn edrych arnynt, rwy'n siŵr, yn nes ymlaen. Ond rwy'n credu ei fod yn ymwneud â sut rydym ni'n sicrhau y caiff hyn ei ystyried drwy'r cwricwlwm i gyd ac ym mhob un o'n hysgolion. Rwy'n credu eich bod yn gwneud sylw pwysig iawn ynghylch Sipsiwn/Roma/Teithwyr a hoffwn ymateb i'r neges a gawsoch chi gan eich cyfeillion yng Nghonwy, gan y Sipsiwn a'r Teithwyr, o ran eu profiad. Wrth gwrs, clywsom gan Issac Blake yn y digwyddiad yn y Senedd yn ddiweddar, ac os gallaf ddweud ar goedd eto heddiw bod yn rhaid inni gofio i nifer fawr o Sipsiwn a Roma ddioddef yn hil-laddiad y Natsïaid ac ni ddylid anghofio eu dioddefaint. Yn amlwg mae'n rhan o'r datganiad heddiw a'n hymateb o bob rhan Siambr hon, rwy'n siŵr. Sgwrsio cyhoeddus negyddol yng nghyswllt yr aelodau hyn o'n cymunedau—soniodd John Griffiths am hyn yn gynharach, ac rwy'n falch y gallan nhw roi gwybod i ni, Aelodau'r Cynulliad, am y profiadau neu deimladau anffafriol hyn nad ydyn nhw wedi cael cydnabyddiaeth na sylw. Mae'n hanfodol ein bod yn sefyll gyda'n gilydd—neges Diwrnod Cofio'r Holocost—yn erbyn hiliaeth ac anoddefgarwch o'r fath.
Ond rwy'n credu bod y ffaith ein bod yn dyfarnu symiau sylweddol o gyllid—£529,500 i brosiect Teithio Ymlaen TGP Cymru—yn bwysig gan fod hynny'n ymwneud â darparu cyngor a chymorth eiriolaeth i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae hynny'n ymwneud â chael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl drwy gefnogi aelodau o'r gymuned, ond hefyd ynghylch yr agweddau ar eu bywydau sy'n bwysig iawn o ran cael cyfle cyfartal, hyfforddiant, addysg a dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau. Felly, mae hynny'n rhan bwysig iawn o'm hymateb heddiw.
Ond o ran sut rydym ni'n mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth, rydym yn sefyll, Llywodraeth Cymru, gyda'r gymuned Iddewig yng Nghymru ac ar draws y byd. Rydym yn ystyried ymosodiadau gwrthsemitaidd yn ymosodiad ar y gwerthoedd Cymreig o gynhwysiant, rhyddid a pharch. Felly, dyna pam mae gweithio gyda chymunedau ffydd mor bwysig i hyrwyddo'r gwerthoedd hynny a'r ddealltwriaeth honno yr ydym ni'n eu rhannu yng Nghymru. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn wlad lle nad yw gwrthsemitiaeth a phob math o gasineb yn bodoli.