1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 5 Chwefror 2020.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol a roddir i gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru? OAQ55024
Mae Llywodraeth Cymru'n cyflawni ei nodau a'i hamcanion, yn rhannol, drwy nifer o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Darperir cymorth ariannol drwy gymorth grant ar gyfer costau rhedeg a gorbenion. Gall cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru hefyd wneud cais am gyllid grant wedi'i neilltuo.
Diolch am eich ateb, Weinidog Cyllid.
Yn amlwg, ym mis Ebrill, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatganiad ar yr argyfwng newid hinsawdd. Nododd fy nghyd-Aelod Nick Ramsay fod eich sylwadau ddoe yn dweud bod hon yn gyllideb werdd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, eich rheoleiddiwr eich hun ar gyfer llawer o'r pethau ym maes yr amgylchedd, wedi cael cyllideb wastad, sydd i bob pwrpas yn doriad mewn termau real. A allwch gadarnhau p'un a gawsoch unrhyw sylwadau gan Weinidog yr amgylchedd i geisio sicrhau cynnydd mewn termau real yng nghyllideb CNC, neu a ydych heb dderbyn unrhyw sylwadau? Ac os na fydd cynnydd yn eu cyllideb, sut y disgwyliwch i Cyfoeth Naturiol Cymru gyflawni'r swyddogaethau rydych wedi'u rhoi iddynt?
Mae'r cyllid ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru yn fater i Weinidog yr amgylchedd, ond yn y gyllideb hon, mae'r cyllid craidd yn refeniw o £69 miliwn yn 2020-21, a cheir cyllideb gyfalaf o £1.2 miliwn yn 2020-21. Mae'r gostyngiad mewn refeniw wedi digwydd o ganlyniad i newidiadau yng nghyllid pontio afreolaidd yr UE a roddwyd yn 2019-20, a symud £0.2 miliwn ar sail afreolaidd dros dro yn y prif grŵp gwariant i linell wariant cyllideb ansawdd yr amgylchedd lleol, ac mae hynny o ganlyniad i ail-gysoni cyllidebau. Felly, nid yw'r rheini'n effeithio o gwbl ar y cyllid uniongyrchol i Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid yw'r cyllidebau cyfalaf yn cael eu cario drosodd ac maent yn seiliedig ar broffil o wariant cynlluniedig y cytunwyd arno yn 2017-18, a 2020-21 yw blwyddyn olaf y cytundeb tair blynedd hwnnw.
Felly, ni fu unrhyw newid yn y cymorth grant ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, ond credaf ei bod yn bwysig cofio eu bod hefyd yn derbyn swm o gyllid grant gan wahanol rannau o Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at y cymorth grant, ac mae hynny o un flwyddyn i'r llall ar gyfer prosiectau sydd y tu allan i'r cymorth grant. Byddai enghreifftiau'n cynnwys llwybr arfordir Cymru neu Taclo Tipio Cymru, a arferai fod wedi'u cynnwys yn y cymorth grant pan oeddent mewn portffolio gwahanol. Mae hynny, unwaith eto, yn ymwneud â'r ffordd y mae pethau wedi symud o fewn y Llywodraeth.
Hefyd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn derbyn cyllid afreolaidd ychwanegol ar gyfer pwysau amrywiol. Yn amlwg, bydd gan y Gweinidog fanylion pellach am y rheini mewn blynyddoedd blaenorol, ond maent hefyd yn derbyn, unwaith eto, incwm masnachol ac incwm coedwigaeth, ac mae honno'n ffynhonnell incwm arall i Cyfoeth Naturiol Cymru. Gwn fod yn rhaid i'r Gweinidog ystyried yr holl bwysau ar ei phortffolio yn gyffredinol, ond nid y cyllid craidd yw'r unig gyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru.
David Rowlands. David Rowlands.
Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd. Mae adroddiad y Llywodraeth ar gyfer 2017-18 yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £323 miliwn ar gyllid uniongyrchol i sefydliadau'r trydydd sector. Nid yw hyn yn cynnwys taliadau anuniongyrchol drwy asiantaethau fel llywodraeth leol. O ystyried bod nifer o enghreifftiau o ddyblygu wrth ddarparu gwasanaethau'r trydydd sector—er enghraifft, dywedir bod oddeutu 48 o sefydliadau'n ymwneud â gofalu am bobl ddigartref—a yw Llywodraeth Cymru wedi ei hargyhoeddi bod y cyllid hwn yn cynnig gwerth da am arian i drethdalwyr?
Wel, buaswn yn dweud nad yw cyrff y trydydd sector, wrth gwrs, yn gyffredinol, yn cael eu cyfrif fel cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Pan fyddwn yn siarad am gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru, yr hyn a olygwn yw cyrff gweithredol fel Cyfoeth Naturiol Cymru, cyngor y celfyddydau, neu gyrff cynghori fel Pwyllgor Meddygol Cymru, Pwyllgor Optometrig Cymru, neu dribiwnlysoedd fel y tribiwnlys adolygu iechyd meddwl a thribiwnlys y Gymraeg ac ati. Felly, nid yw hwn yn fater corff a noddir gan Lywodraeth Cymru, ond gwn fod y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y trydydd sector bob amser yn awyddus iawn i sicrhau nad yw'r sefydliadau hynny'n dyblygu, ac mewn gwirionedd, mae'n aml yn ofyniad erbyn hyn, mewn perthynas â grantiau, fod y cynigion yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â sefydliadau eraill er mwyn sicrhau bod y sefydliadau hynny'n gwneud y mwyaf o'u cyfraniad ond hefyd er mwyn osgoi'r math hwnnw o ddyblygu. Ond os oes gennych unrhyw reswm penodol dros boeni, buaswn yn amlwg yn fwy na pharod i edrych arnynt.