– Senedd Cymru am 3:40 pm ar 5 Chwefror 2020.
Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiadau 90 eiliad, a David Rees sydd gyntaf y prynhawn yma.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddoe, 4 Chwefror, oedd Diwrnod Canser y Byd—y diwrnod penodol pan ofynnir i ni feddwl am yr effaith y mae canser yn ei chael ar y rheini sydd wedi cael diagnosis o unrhyw fath o ganser a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt hwy a'u hanwyliaid. Mae hefyd yn ddiwrnod pan fyddwn yn cydnabod gwaith gwych y timau meddygol, nyrsys arbenigol, timau cymunedol a'r ymchwilwyr ymroddedig yn y maes. Mae pob un ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi clywed y geiriau dychrynllyd hynny, 'Mae gennych ganser', a'r poen cynnar hwnnw y mae diagnosis yn ei achosi i'r unigolion a'u teuluoedd. Mae pob un ohonom yn adnabod pobl sydd wrthi'n brwydro yn erbyn canser. Mae pob un ohonom yn adnabod pobl sydd wedi ennill eu brwydr, ond rydym hefyd yn adnabod pobl sydd wedi ymladd yn ddewr ac yn urddasol ac nad ydynt gyda ni mwyach.
Mae gwelliannau mewn diagnosis cynnar, ymchwil arloesol, a'r gwaith hanfodol a wneir gan elusennau canser yn ein symud yn agosach o hyd at leihau nifer y bobl sy'n ofni'r geiriau hynny sy'n newid bywydau—ac maent yn eiriau sy'n newid bywydau—gan helpu pobl i'w ystyried yn fwy fel salwch cronig, yn ogystal â'r gwaith a wneir gan bobl i sicrhau eu bod yn rhydd o ganser. Dyna yw uchelgais y sefydliadau unigol hynny, fel bod modd trin pob math o ganser, a chaniatáu i bobl fyw bywydau lle maent yn rheoli eu salwch. Er mwyn cefnogi'r uchelgais hwnnw, mae 4 Chwefror yn ddiwrnod sy'n cynnig cyfle i bob un ohonom feddwl am ein gweithredoedd ac addo cael effaith barhaol ar hynny. Ddoe, a phob dydd, rwy’n addo hyrwyddo’r frwydr yn erbyn canser, gan fod cynnydd i greu byd lle nad yw pobl yn ofni canser mwyach yn bosibl. Gwn y bydd pawb ar draws y Siambr yn ymuno â mi yn yr addewid hwnnw.
Diolch. Rhun ap Iorwerth.
Dwi eisiau siarad efo chi heddiw am Parkrun, y gymdeithas fyd-eang o glybiau rhedeg sy'n annog pobl i redeg 5 km bob bore Sadwrn. Mae'n mynd ers 2004 ac, erbyn hyn, mae yna gannoedd a miloedd yn rhedeg yn wythnosol ac mae criwiau o wirfoddolwyr yn rhedeg parkruns ym mhob cwr o Gymru. Llanddwyn a Llangefni ydy'r ddwy sydd yn fwyaf lleol i fi, ac, yn ôl gwefan Parkrun—roeddwn i'n checio y bore yma—fy amser gorau i, fy personal best i, ydy 26 munud a 49 eiliad. A dwi'n siŵr eich bod chi'n impressed iawn efo hynny, a finnau'n hen ddyn. Ond a wyddoch chi fod record y byd newydd ar gyfer merched mewn parkruns wedi cael ei gosod yng Nghaerdydd dydd Sadwrn diwethaf? Mi redodd yr athletwraig Charlotte Arter ei 5 km hi mewn 15 munud a 49 eiliad, sy'n rhyfeddol.
Ond, wrth gwrs, tra bod PBs a rasio yn erbyn eich hun ac eraill yn rhan fawr o Parkrun, yr elfen iechyd a chymdeithasol sydd bwysicaf. Mae Parkrun a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu, er enghraifft, wedi dod at ei gilydd i hybu parkrun fel enghraifft o bresgripsiwn cymdeithasol. Ers ei lansio 18 mis yn ôl, mae 15 y cant o feddygfeydd teulu Cymru wedi cofrestri bellach i ddod yn parkrun practices, ond mi fyddai'n dda gweld hynny yn codi ymhellach.
Felly, llongyfarchiadau mawr, Charlotte, ac, os nad ydych chi wedi cymryd rhan mewn parkrun o'r blaen, wel, gwnewch. Does dim angen i chi drio torri record—a dweud y gwir, mi allwch chi gerdded, os liciwch chi—ond rhowch dro arni: cofrestrwch ar-lein a chychwynnwch eich penwythnos efo hwb go iawn i'ch iechyd a'ch lles corfforol a meddyliol.
Jack Sargeant.
Yr wythnos hon yw Wythnos Prentisiaethau—cyfle i ddathlu prentisiaid, dathlu cyflogwyr a dathlu darparwyr hyfforddiant. Fel cyn brentis fy hun, gwn pa mor bwysig yw'r system brentisiaethau ar gyfer datblygu arbenigedd technegol a chymhwysedd proffesiynol, ac mae'n rhan allweddol o'r gwaith o baratoi gweithlu'r dyfodol. Yn ogystal â datblygu sgiliau technegol dysgwyr, mae'n rhaid i brentisiaethau hefyd arfogi pobl â'r sgiliau cyflogadwyedd a'r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen ar gyfer bywyd gwaith ac i lwyddo i bontio rhwng gyrfaoedd mewn marchnad lafur sy'n newid yn barhaus.
Mae prentisiaethau da'n darparu cydbwysedd rhwng profiad yn y gwaith a hyfforddiant technegol. Ddirprwy Lywydd, prentisiaid heddiw yw arweinwyr yfory, ac mae'n rhaid i ni eu harfogi â'r sgiliau hynny. Mae prentis, Michael Halliday, a fu'n bwrw ei brentisiaeth gyda mi, bellach yn bennaeth peirianneg i gyflogwr pwysig yn fy etholaeth. Mae Michael yn goruchwylio nifer fawr o brosiectau ac yn rheoli tîm o beirianwyr profiadol; enghraifft wych o lwyddiant system brentisiaethau Cymru.
Felly, Ddirprwy Lywydd, gadewch i ni ddathlu Wythnos Prentisiaethau drwy ddweud 'Diolch' wrth ein holl brentisiaid, diolch i'r holl gyflogwyr, ac i'n holl ddarparwyr hyfforddiant, fel Coleg Cambria, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chymaint o rai eraill sy'n cefnogi prentisiaethau ledled Cymru ac yn sicrhau bod gennym ni, yng Nghymru, y prentisiaid gorau a bod gennym y system brentisiaethau orau yn y byd. Diolch yn fawr.
Diolch.