– Senedd Cymru am 2:42 pm ar 11 Chwefror 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Rebecca Evans.
Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y bydd dadl y Ceidwadwyr yfory'n cael ei chynnal yn syth ar ôl y cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
A gaf i alw am ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar gynlluniau tocynnau trên rhatach yma yng Nghymru? Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyflwyno cerdyn gostyngiad rheilffyrdd i gyn-filwyr yn Lloegr, ac rwy'n gwybod bod cyn-filwyr ledled Cymru yn gofyn a fydd cerdyn tebyg ar gael iddyn nhw yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer iawn o waith i geisio cefnogi cymuned y cyn-filwyr, ac rwyf yn eich canmol am hynny, ac rwyf eisiau cael rhywfaint o eglurder ynghylch a fydd cyn-filwyr yma yn cael yr un fraint, fel y bydd yn digwydd yn Lloegr, ar ôl i'r cerdyn penodol hwn gael ei gyflwyno?
Rwy'n ddiolchgar i Darren Millar am godi'r mater hwn, ac rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn trafod ar hyn o bryd gyda'r Adran Drafnidiaeth yn Lloegr i ddeall y cynllun arfaethedig yn well a sut y gallai weithio, ac yna yn amlwg i roi ystyriaeth i'r mater yma. Ac yn amlwg bydd yr Aelod yn ymwybodol bod gennym ni gynnig mwy hael i gyn-filwyr sy'n defnyddio ein gwasanaethau bws yma yng Nghymru.
Ers codi'r diffyg cefnogaeth i blant niwroamrywiol, mae llawer o bobl yr effeithiwyd arnynt wedi cysylltu â mi. Mae pobl yn mynd yn fwyfwy rhwystredig gyda'r system. Mae'r darlun sy'n cael ei greu gan y bobl sy'n ceisio cael cymorth ar gyfer ADHD, awtistiaeth a materion tebyg yn un annymunol, a dweud y gwir. Yr unig gasgliad y gallwn ni ddod iddo yw bod pobl, a phlant yn arbennig, yn cael eu siomi ar raddfa enfawr.
Hoffwn i godi pwyntiau gyda chi heddiw y mae cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol wedi'u gwneud gyda mi. Mae'n dweud bod ei swydd bellach wedi dod, ac rwy'n dyfynnu, yn 'amhosibl ei rheoli' oherwydd y fiwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â cheisio cael cymorth i blant. Mae un atgyfeiriad yn cymryd hanner diwrnod ar y system borthol newydd, a gafodd ei chynllunio i wneud pethau'n haws. Mae wedi cyflawni'r gwrthwyneb yn llwyr. Mae plant sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer lleoliadau yn cael gwybod bod angen iddyn nhw aros dau dymor i'r cynlluniau hynny fod yn eu lle. Mae hyn yn golygu bod plant yn treulio mwy o amser mewn amgylchedd sy'n achosi trawma iddyn nhw oherwydd natur or-synhwyraidd a gorlawn dosbarthiadau prif ffrwd. Nid oes cymorth i blant ar y sbectrwm yn Rhondda Cynon Taf tan flwyddyn y dosbarth derbyn, sy'n golygu nad oes dewis arall heblaw addysg prif ffrwd. Cafodd hyn ei ddisgrifio i mi, yn haeddiannol, fel rhywbeth annerbyniol a chreulon.
Rwy'n bwriadu mynd i'r afael â llawer o'r materion hyn yn uniongyrchol gyda'r cyngor sy'n cael ei reoli gan Lafur yn Rhondda Cynon Taf, ond hoffwn i gael datganiad clir gan y Llywodraeth hon i'r bobl hynny sy'n ei chael yn anodd cael cymorth i'w plant. Mae angen i bobl wybod beth yw eu hawliau. Mae angen iddyn nhw wybod yr hyn yr ydych chi fel Llywodraeth yn ei ystyried yn dderbyniol neu'n annerbyniol gan gyrff cyhoeddus. Mae llawer o rieni ac athrawon wedi cyrraedd pen eu tennyn ac maen nhw’n gofyn yn daer am gymorth. Maen nhw'n dweud wrthym ni fod y system yn llanastr anghynaladwy. Mae plant yn cael eu siomi'n arw. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno eu bod nhw'n haeddu gweithredu cyflym.
Bydd Leanne Wood yn gyfarwydd â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar hynny wrth sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw cyn gynted â phosibl ar eu taith addysgol. Ac mae'n gwbl briodol codi'r achosion unigol hynny gyda'r awdurdod lleol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ein cod statudol ar gyfer awtistiaeth ac ASD, a bydd rhywfaint o ymgysylltu â'r cyhoedd ynghyd â hynny. Rwy'n gwybod y byddai'r Gweinidog Iechyd a'r Dirprwy Weinidog, â chyfrifoldeb arbennig am awtistiaeth, yn awyddus i ddeall yn well farn yr unigolyn sydd wedi cysylltu â chi i drafod y materion y mae hi wedi'u hwynebu o ran dod o hyd i'r cymorth priodol i'r plant y mae'n gweithio gyda nhw. Felly, os gallech chi efallai ysgrifennu at y Gweinidog gyda mwy o fanylion ar ran eich etholwr, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn. Diolch.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru. Yn gyntaf, pa gamau sy'n cael eu cymryd i leihau plastig untro, gan Lywodraeth Cymru a'r cyrff y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu, megis byrddau iechyd?
Yn ail, hoffwn i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y ddarpariaeth o gaeau chwarae 4G a 5G. Mae'n debyg y bydd yr Aelodau'n cofio ein bod yn arfer sôn am gaeau chwarae 4G a 5G yn weddol reolaidd, ond mae'n ymddangos ei bod wedi disgyn oddi ar yr agenda yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Gwyddom fod ganddyn nhw'r gallu i gael eu defnyddio'n barhaus ac yn anaml y mae'r tywydd yn effeithio arnynt, gan eu gwneud yn ddelfrydol ar gyfer darparu chwaraeon yn gyffredinol. Mae'n golygu nad yw plant yn enwedig, sy'n dechrau cymryd rhan mewn chwaraeon, yn chwarae pêl-droed a rygbi rhwng mis Medi ac Ebrill ac yn cael toriad eithriadol o hir yn ystod y gaeaf.
O ran y mater cyntaf a godwyd gan Mike Hedges, sef defnyddio plastig untro ar ystad Llywodraeth Cymru ac ystad y sector cyhoeddus yn ehangach, rwy'n falch iawn o adrodd y bu cynnydd parhaus o ran lleihau effaith amgylcheddol ystad Llywodraeth Cymru mewn ardaloedd allweddol, gan gynnwys plastigau untro. Wrth gwrs, cyhoeddais adroddiad Llywodraeth Cymru 'Cyflwr yr Ystad ' ychydig amser yn ôl, a oedd yn dangos sut yr ydym ni'n gwneud cynnydd yn y maes hwn. Mae hynny'n cynnwys gweithio gyda'n gwasanaeth arlwyo i gael gwared ar blastigau untro ym mhob ffreutur, ac mae hynny wrth gwrs yn cynnwys cwpanau plastig, gwellt, trowyr, pecynnau saws a chyllyll a ffyrc—pob peth y gallem ni fod yn ystyried ei gynnwys mewn darn posibl o ddeddfwriaeth—i sicrhau na chaiff yr eitemau hynny eu defnyddio ledled Cymru. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am wastraff a materion amgylcheddol wedi bod yn edrych yn benodol ar hyn, yn sicr o fewn cyd-destun yr economi gylchol a'r gwaith sydd wedi'i wneud yn y strategaeth 'Y Tu Hwnt i Ailgylchu' ac yn y dull gweithredu ar hyn o bryd. Felly, rwy'n falch iawn o'r cynnydd yr ydym ni'n ei wneud, ond wedi dweud hynny, yn amlwg, mae llawer mwy i'w wneud yn y maes hwn. Ond byddwn i'n sicr yn cymeradwyo adroddiad 'Cyflwr yr Ystad' i Mike Hedges.
Wrth gwrs, mae'r mater ynghylch meysydd chwarae 4G a 5G yng Nghymru yn eithriadol o bwysig o ran sicrhau bod plant a phobl ifanc, a chymunedau yn ehangach, yn gallu manteisio ar y cyfleoedd chwaraeon hynny drwy gydol y flwyddyn. Felly, mae ein buddsoddiad mewn meysydd chwarae 3G, 4G a 5G a meysydd artiffisial yn cael eu harwain gan Chwaraeon Cymru, ac maen nhw wedi buddsoddi dros £3.1 miliwn yn y grŵp cyfleusterau chwaraeon cydweithredol. Mae'r grŵp hwnnw, yn holl bwysig, yn cynnwys Chwaraeon Cymru, ond hefyd Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Hockey Wales, er mwyn sicrhau bod yr amrywiol gymunedau chwaraeon sy'n gallu eu defnyddio yn cefnogi'r lleiniau hynny ac yn ymgysylltu â nhw. Rwy'n siŵr y byddai gwaith y grŵp cyfleusterau chwaraeon cydweithredol o ddiddordeb i'r Aelod, a gwn y bydd y Dirprwy Weinidog Diwylliant a Chwaraeon yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwnnw.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am oruchwylio a gweithredu'r Ddeddf Cynllunio yng Nghymru? Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi yn mynegi pryderon ynghylch y cynnydd mewn caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau tai yn fy rhanbarth i. Er bod y datblygiadau hyn o fewn y cynllun Llywodraeth Leol, mae fy etholwyr yn pryderu bod y seilwaith lleol yn annigonol i ymdopi â'r cynnydd yn y boblogaeth. Yn benodol, mae'r ffyrdd yn annigonol i ymdopi â mwy o draffig ac mae'r cyfleusterau lleol fel meddygfeydd, deintyddion ac ysgolion yn ei chael yn anodd ymdopi â'r galw cynyddol am eu gwasanaethau. Pentrefi llai sydd wedi dioddef waethaf oherwydd y broblem sy'n gysylltiedig â'r datblygiadau newydd, sy'n rhoi ychydig iawn o ystyriaeth i'r boblogaeth leol, mae'n debyg. A gawn ni ddatganiad ynghylch sut y mae'r system gynllunio'n sicrhau bod y seilwaith yn cyrraedd safon dderbyniol er mwyn ymdopi â'r cynnydd yn y boblogaeth leol yn y dyfodol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Mae'r materion sy'n ymwneud â seilwaith a darparu gwasanaethau yn amlwg yn hanfodol bwysig pan fydd awdurdodau lleol yn ystyried eu cynlluniau datblygu lleol ac yn archwilio baich cartrefi ychwanegol yn lleol. Yn y lle cyntaf, rwy'n credu y byddai'n well cyflwyno'r pryderon a ddisgrifiwch i'r awdurdod lleol o ran y sylwadau ar ran eich cymuned ynghylch y ceisiadau cynllunio penodol yr ydych chi'n pryderu yn eu cylch. Wrth gwrs, ni fyddem ni'n gallu rhoi sylwadau ar y rheini rhag ofn y byddai'n cyrraedd y pwynt lle gallen nhw gael eu galw i mewn i benderfynu arnynt gan Lywodraeth Cymru. Felly, yn y lle cyntaf, byddwn i'n sicr yn eich annog chi i gael y trafodaethau hynny gyda'r awdurdod lleol.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud o ran y cerbydau ar reilffordd Rhymni. Mae pawb ohonom eisiau gweld mwy o bobl yn defnyddio'r trenau. Er y bydd y capasiti ar y llinell honno'n cynyddu'n sylweddol yn ystod y cwpl o flynyddoedd nesaf, cadarnhawyd erbyn hyn, drwy gais rhyddid gwybodaeth, y bydd y capasiti ar y trenau hynny'n lleihau eto pan fydd y trenau newydd yn cael eu cyflwyno yn 2023. Hynny yw: bydd lle i lai o bobl ar y trenau.
Nawr, y broblem gyda hyn yw y bydd y galw'n cynyddu yn y cyfamser, yn enwedig gyda'r cynnydd mewn capasiti yn sgil y 769 o drenau sy'n mynd i gael eu cyflwyno eleni, ac mae hynny cyn ystyried y cynnydd cyffredinol yn y galw. Rhaid imi ddweud, roeddwn i'n bryderus iawn o glywed Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru yn dweud wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn ddiweddar eu bod wedi diystyru lefelau cyffredinol y cynnydd yn y galw.
Felly, pan fydd llai o le ar gyfer pobl ar y trenau yn 2023, ac yn mynd yn ôl i'r capasiti yr ydym ni'n ei weld ar hyn o bryd ar drenau Bargoed i Gaerffili, bydd lefelau'r galw yn llawer, llawer uwch nag y maent heddiw. Bydd hynny'n arwain at ragor o amodau cyfyng, a fydd yn cael eu gwaethygu gan y ffaith bod rheoliadau Trafnidiaeth Cymru yn caniatáu ar gyfer amodau sefyll sydd ymhlith y mwyaf cyfyng yn y DU. Dim ond 0.25 metr sgwâr y maen nhw'n ei ganiatáu fesul teithiwr, o'i gymharu â safon y DU o 0.45 metr sgwâr. Bydd y rheini ohonom ni sy'n dal y trenau bob dydd yn gwybod pa mor gyfyng y gall yr amodau hynny fod. Felly, hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â pha gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y cynnydd yn y capasiti ar reilffordd Rhymni yn cael ei gynnal ar gyfer 2023 a thu hwnt.
Yn ystod eich cyfraniad mae'r Gweinidog Trafnidiaeth wedi nodi wrthyf ei fod yn fodlon rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ar y materion yr ydych chi'n eu codi, ond rwy'n gwybod bod Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol iawn o'r problemau capasiti, yn enwedig ar reilffordd Rhymni, ac maen nhw wedi bod yn archwilio opsiynau i fynd i'r afael â'r mater.
Ers cymryd cyfrifoldeb am y fasnachfraint, mae'n deg dweud bod galw cynyddol wedi bod ar y llinell honno, a byddwn i'n disgwyl fod hynny, fwy na thebyg, uwchlaw a thu hwnt i'r hyn a gafodd ei ragweld. Felly, mae Trafnidiaeth Cymru wrthi'n archwilio sut i wella profiad y cwsmeriaid, ac maen nhw wedi gwneud hynny eisoes, i ryw raddau, drwy gyflwyno'r gwasanaethau pontio oriau brig dosbarth 37 ychwanegol hynny ym mis Mai 2019.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn adolygu pob un o'u rhagolygon o ran nifer y teithwyr, ac maen nhw'n ein sicrhau ni y bydd y gwasanaeth a fydd yn cael ei ddarparu yn 2023 yn bodloni'r gofynion hynny, gan fod llawer o opsiynau'n cael eu hystyried a'u cynllunio ar hyn o bryd. Ond, fel y dywedodd y Gweinidog, byddai'n hapus i roi diweddariad sy'n ymdrin â'ch pryderon.
Mae'r storm a gawsom yn ystod y diwrnodau diwethaf yn ein hatgoffa eto bod yn rhaid inni newid ein ffordd o weithredu'n gyfan gwbl os nad yw'r argyfwng hinsawdd yn mynd i fynd allan o reolaeth y llwyr.
Mae symiau mawr iawn o arian wedi cael eu haddo yn Senedd y DU heddiw: £106 biliwn ar gyfer HS2. Mae'r Athro Mark Barry, fodd bynnag, yn cynghori na fydd hyn o fudd i Gymru o gwbl, oherwydd ni yw'r unig wlad yn y DU nad yw ein seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli ac, felly, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ni fyddwn ni'n cael unrhyw swm canlyniadol o hynny. Felly, rydym ni'n mynd i orfod talu am y £106 biliwn i gynnal llinell arall eto o Lundain i ogledd Lloegr, ond nid ydym ni'n mynd i elwa ohoni o gwbl, yn ôl yr hyn a ddeallaf.
Byddai'n ddefnyddiol pe gallem ni glywed gan y Llywodraeth am hynny, ac yn enwedig yng ngoleuni'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi torri'r addewid o drydaneiddio'r lein o Gaerdydd i Abertawe a thu hwnt, sydd wrth gwrs yn effeithio'n wael iawn ar fy etholwyr i sy'n gorfod goddef yr holl lygredd a ddaw o'r trenau diesel sy'n cyrraedd a gadael Caerdydd Canolog. Felly, mae hwn yn fater pwysig iawn i mi. Tybed pa gamau sy'n cael eu cymryd ar hynny i geisio cael y Llywodraeth i fynd i'r afael â rhai o'r problemau ledled y DU, yn hytrach na chanolbwyntio'r arian i gyd ar Lundain.
Yn ogystal â hynny, mae Llywodraeth y DU wedi dweud heddiw ei bod yn mynd i wario £5 biliwn ar wasanaethau bysiau a llwybrau beicio. Bydd hynny ar gyfer Lloegr, felly a fydd swm canlyniadol ar gyfer symiau tebyg o arian i Gymru? Hefyd, mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu cronfa gwerth £50 miliwn y gall awdurdodau lleol wneud cais am arian ohoni yn Lloegr i gael bysiau trydan ar gyfer glanhau eu fflydoedd bysiau. A gawn ni ddatganiad i ddwyn ynghyd yr holl faterion hyn i ganfod a fydd Llywodraeth Cymru yn gallu symud yn gyflym ar y mater gwirioneddol bwysig hwn?
Ar fater cwbl wahanol, hoffwn dynnu sylw'r Llywodraeth at y ffaith bod Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer cyfyngu bwrw'r bêl â'r pen i rai dan 18 oed yn ystod hyfforddiant, a bod Cymdeithas Bêl-droed yr Alban hefyd yn mynd i wahardd unrhyw un dan 12 oed rhag bwrw'r bêl â'i ben ystod hyfforddiant. A gawn ni ddatganiad i ddangos beth yw barn Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, sydd yn fater iechyd cyhoeddus eithaf pwysig?
O ran y mater cyntaf, yr ateb byr yw ei bod yn rhy fuan i ddweud eto pa symiau canlyniadol a allai ddod gan Lywodraeth y DU o ran y cyhoeddiadau sydd wedi'u gwneud. Mae gan Lywodraeth y DU arferiad o wneud ailgyhoeddiadau, felly mae'n anodd iawn dweud heddiw pa gyllid, os o gwbl, fydd yn dod i Lywodraeth Cymru.
Mae'n bwysig cydnabod hefyd bod y cyllid sy'n dod i Lywodraeth Cymru yn ganlyniad ffactorau cymharedd sydd wedi'u pennu naill ai yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant blaenorol neu'r cylch gwario. Felly, bydd angen inni archwilio'n fanwl iawn lle mae Llywodraeth y DU yn dod o hyd i'r arian ychwanegol hwn a beth ddylai'r goblygiadau fod i ni. Ond, a dweud y gwir, os yw Llywodraeth y DU yn bwriadu lefelu tuag i fyny, yna mae angen iddi fod yn camu i fyny hefyd, a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael y cyllid priodol i wneud buddsoddiadau yn ein cymunedau yma yng Nghymru.
Ond, yn sicr, byddwn yn defnyddio'r holl bwysau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gweithredu'n unol ag ysbryd a llythyren y datganiad polisi cyllid a ddylai danlinellu'r penderfyniadau gwariant hynny. Byddaf i'n sicrhau ein bod yn cael y cyllid priodol yma yng Nghymru. Cyn gynted ag y bydd rhagor o wybodaeth ar gael, byddaf yn fwy na pharod i ddarparu'r wybodaeth honno. Ond fel yr wyf i'n ei ddweud, ar hyn o bryd, mae'n rhy gynnar i ddweud, oherwydd nid oes gennym y lefel o fanylder sydd ei hangen arnom ni.
O ran yr ail fater a'r mater gwahanol o fwrw pêl droed â'r pen mewn chwaraeon, rwy'n gwybod bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn adolygu'r cynnig pêl-droed mini sydd gennym yma yng Nghymru ar hyn o bryd, sy'n cynnwys plant rhwng pump ac 11 oed, a bydd bwrw'r bêl â'r pen yn rhan o'r adolygiad hwnnw y mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2020. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r pryderon o ran y mater penodol hwn hefyd.
Trefnydd, fe fyddwch chi'n ymwybodol bod y Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y coronafeirws, sy'n ddatganiad defnyddiol iawn. Mae'n cyfeirio at yr angen i barhau i adolygu ein deddfwriaeth yng Nghymru, rwy'n credu yng ngoleuni'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth gyda'r diben o liniaru unrhyw effeithiau o'r coronafeirws ac edrych ar opsiynau triniaeth—gorfodi ynysu gyda chymorth, er enghraifft, yn Lloegr.
Rwy'n cydnabod y bydd yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyfleu yn rheolaidd, datganiadau ysgrifenedig, gan y Gweinidog Iechyd, a hefyd, rwy'n credu, yr wybodaeth ddiweddaraf i ACau gan y Prif Swyddog Meddygol yn hwyrach heddiw. Mae hynny i gyd yn arfer da. Efallai y byddai modd inni hefyd ystyried datganiadau llafar ar y sefyllfa, gan fod hon yn sefyllfa sy'n symud yn gyflym a bod ganddi'r potensial i fod yn eithriadol o ddifrifol. Gwyddom fod llawer o alwadau ar y GIG eisoes, yn enwedig dros gyfnod y gaeaf. Os caiff maint llawn haint y coronafeirws ei wireddu, ac, yn amlwg, efallai na chaiff ei wireddu i'r graddau llawnaf, ond os byddwn ni'n mynd yn agos at hynny, yna bydd galwadau ar y gwasanaeth iechyd. Rwy'n gwybod bod trafodaethau ar y gweill a chredaf fod y Gweinidog yng nghyfarfod ystafelloedd briffio Swyddfa'r Cabinet— COBRA—yr wythnos hon. Felly, pe byddai modd inni gael diweddariadau parhaus ac adroddiadau llafar i'r Siambr hon wrth i'r sefyllfa ddatblygu, rwy'n credu y byddem ni, bob un ohonom ni Aelodau'r Cynulliad, yn cael hynny'n ddefnyddiol iawn o ran gohebu â'n hetholwyr a fydd, yn ddealladwy, yn mynd yn fwy pryderus ac yn poeni wrth i'r newyddion dreiddio yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
Yn ail, i newid trywydd, metro de Cymru: mae'n rhaid bod datblygu'r metro yn rhan allweddol o strategaeth y Llywodraeth i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd a chael pobl oddi ar y ffyrdd. Rydym ni'n gwybod eich bod chi, yn eich swyddogaeth arall, wedi bod yn cyflwyno cyllideb werdd, ac mae ymdrin â'r argyfwng hinsawdd yn allweddol i'r gyllideb honno, felly mae'n rhaid i'r metro a chyllid ar gyfer y Metro fod yn bwysig dros y blynyddoedd i ddod. Ond a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Trafnidiaeth ynghylch ble'r ydym ni arni o ran y metro? Yn fy ardal i, gwn fod nifer o bryderon wedi'u codi gyda mi'n ddiweddar. Er enghraifft, yn gyntaf, roedd tref Trefynwy oddi ar fap y metro, yna roedd ar y map metro, yna roedd yn ôl arni—roedd nifer o fapiau'n mynd o gwmpas, rhai'n swyddogol, rhai ddim. Felly, tybed a gawn ni eglurder gan y Gweinidog a Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut olwg sydd ar y map ar hyn o bryd?
Rwy'n credu bod y metro'n syniad gwych; rwy'n credu ein bod ni i gyd yn unedig yn credu hynny. Ond, yn amlwg, mewn ardal fel y De-ddwyrain, os bydd pobl sy'n byw ar gyrion yr ardaloedd gwledig, fel fy etholaeth i, yn teimlo eu bod yn mynd i gael eu hepgor o'r map hwnnw ymhellach i lawr y lein, yna nid yw hynny'n tawelu eu meddyliau. Nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i dynnu pobl oddi ar y ffyrdd a'u cael i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, fel rwy'n siŵr y byddai eich prif amcan yn y dyfodol i ymdrin â newid hinsawdd.
Diolch i Nick Ramsay am godi mater y prosiectau metro a hefyd am y mater ar wahân o ymateb Llywodraeth Cymru i'r coronafeirws. Fel y dywedodd Nick Ramsay, heddiw, bydd y prif swyddog meddygol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad yn bersonol, fel y gallan nhw ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw, ac mae'r Gweinidog Iechyd wedi ymrwymo i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf, o leiaf diweddariad ysgrifenedig, bob dydd Mawrth i Aelodau'r Cynulliad, ac yn amlach os oes angen, wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
Ar hyn o bryd mae'n ystyried a yw ein deddfwriaeth bresennol yn ddigonol i ddiogelu'r cyhoedd ehangach rhag coronafeirws neu heintiau eraill o bwys a allai ddigwydd, neu a oes angen inni wneud newidiadau i'n deddfwriaeth yng Nghymru. Mae hynny'n cael ei ystyried ar hyn o bryd.
Ar fater y prosiectau metro, rwy'n falch iawn o allu ymateb yn gadarnhaol i'r cais hwnnw am ddatganiad. Mae Ken Skates yn bwriadu gwneud datganiad llafar i'r Cynulliad ar y pumed ar hugain o'r mis hwn ar brosiectau'r metro yng Nghymru.
Yn ddiweddar, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi penderfynu ystyried cynnig gan S4C ar gyfer y rhaglen Gymraeg Bang. Maen nhw eisiau codi celf ar y stryd yn yr ardal i ddathlu ac i hyrwyddo'r rhaglen, ond mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot, yn ei ddoethineb, yn mynd i ystyried hyn yn hysbyseb yn hytrach na darlun, fel y clywsom gyda slogan arall yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr gerllaw. Felly, mae'n mynd i danseilio unrhyw gynlluniau i allu hyrwyddo'r rhaglen benodol hon oherwydd y prosesau cynllunio y bydd angen eu dilyn. Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Gweinidog cynllunio fel y gallwn geisio trafod sut y gallwn ni ei gwneud yn haws i'r gweithgareddau celf hyn ar y stryd gael eu cyflwyno, yn hytrach na chael ein llyffetheirio gan fiwrocratiaeth ac, felly, lesteirio datblygiad celf ar lawr gwlad yn ein trefi a'n cymunedau. Nid wyf yn gweld hyn fel hysbyseb, rwy'n gweld hyn fel rhywbeth sy'n gallu cynorthwyo a chefnogi'r celfyddydau lleol yn ein cymunedau. Felly, rwy'n annog datganiad ar hynny.
Ac mae fy ail gais yn un i'r Gweinidog tai, ac felly rwy'n falch ei bod hi'n eistedd yma heddiw. Rwyf wedi cael rhai cwynion gan bobl yn fy rhanbarth i sydd wedi dioddef o reolaeth drwy orfodaeth mewn sawl perthynas. Maen nhw wedi gwneud cais am fod ag angen blaenoriaethol am lety mewn awdurdod lleol arall oherwydd y gam-driniaeth barhaus y maen nhw yn ei dioddef gan eu partneriaid, rhai ohonynt yn byw ar yr un stryd, ac maen nhw wedi cael clywed nad ydynt yn flaenoriaeth gan yr awdurdod cyfagos, gan y landlord cymdeithasol neu gan y cyngor. Allwch chi ddweud wrthyf i beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru naill ai i newid y polisi hwn neu i egluro pam nad ydyn nhw'n flaenoriaeth? Oherwydd, wrth gwrs, os ydyn nhw'n ceisio dianc rhag partner sy'n rheoli drwy orfodi, mae peidio â chaniatáu iddyn nhw wneud hynny, a bod yn flaenoriaeth mewn ardal arall, yn difetha eu cyfle i ddianc rhag y berthynas honno. Ac rwy'n dod ar draws mwy a mwy o bobl sy'n dod ataf i yn fy rhanbarth yn daer am gymorth oherwydd eu bod yn cael eu cam-drin yn feunyddiol, naill ai drwy eu plant neu drwy berthynas y maen nhw eisiau dianc wrthi, ac mae'n gwneud eu bywyd yn fwy gwenwynig hyd yn oed nag sydd angen iddo fod ar hyn o bryd. Felly, byddai datganiad ar hynny yn fuddiol iawn, yn wir.
Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, sy'n gyfrifol am y ddau faes yr ydych chi wedi gofyn am ddatganiad arnyn nhw, yn amlwg wedi bod yma i glywed eich pryderon chi, ac mae hi wedi gofyn i mi ofyn i chi ysgrifennu ati, ynglŷn â mater celfyddydau ar y stryd i ddathlu a hyrwyddo rhaglen Bang yn ogystal â mater rheoli drwy orfodaeth. Rydych chi'n gyfarwydd â'r gwaith sy'n cael ei wneud o ran angen blaenoriaethol, ac rwy'n deall y bydd y Comisiwn yn cyflwyno adroddiad i'r Gweinidog yn fuan, ond pe byddech chi'n anfon llythyr at y Gweinidog, fe fydd hi'n gallu ymateb yn fanylach.
Diolch i'r Trefnydd.