1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 25 Chwefror 2020.
Diolch, Madam Lywydd. Prynhawn da, Prif Weinidog.
1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid fferm yng Nghymru? OAQ55109
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae cynnal lefelau uchel o iechyd a lles anifeiliaid fferm wedi bod yn flaenoriaeth allweddol erioed i Lywodraethau Cymru olynol. Nawr bod y Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, rydym ni'n benderfynol o sicrhau ein bod ni'n dal i gynnal y safonau uchel hyn yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog, am yr ateb. Mae teledu cylch cyfyng wedi bod yn orfodol ym mhob lladd-dy ym mhob ardal yn Lloegr lle cedwir anifeiliaid byw i'w lladd ers 2018. Cyhoeddodd yr Alban gynlluniau ar gyfer deddfau newydd tebyg y llynedd. Fodd bynnag, yng Nghymru, nid oes gan 14 o 24 o ladd-dai gamerâu, er bod Llywodraeth Cymru wedi darparu arian ar gyfer eu gosod. Mae RSPCA Cymru ac Animal Aid fel ei gilydd yn cefnogi teledu cylch cyfyng gorfodol i atal camdriniaeth ac i helpu milfeddygon gyda rheoleiddio a monitro. Prif Weinidog, pryd fydd eich Llywodraeth yn gwneud teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn orfodol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn dilynol yna. Mae'n gwneud nifer o bwyntiau pwysig yn y fan yna. Bydd yr Aelod yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd gwerth £1.1 miliwn yr ydym ni'n ei redeg fel Llywodraeth Cymru. Mae'r rownd ddiweddaraf o geisiadau i'r gronfa honno'n cael eu hasesu ar hyn o bryd. Maen nhw'n cynnwys cyfres o geisiadau gan ladd-dai yng Nghymru i osod, uwchraddio neu wella cyfleusterau teledu cylch cyfyng yn y lladd-dai hynny. Pan fydd y ceisiadau hynny wedi eu hasesu, bydd y Gweinidog yn penderfynu ar ba un a oes gennym ni ddarpariaeth ddigonol o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yng Nghymru, i osgoi'r angen am gynllun gorfodol. Ond, os daw hi i'r casgliad nad ydym ni wedi gwneud y cynnydd yr oeddem ni eisiau ei weld ar y sail wirfoddol, pan fo'r trethdalwr yn talu am osod teledu cylch cyfyng, yna bydd hi'n meddwl am ba un ai gorfodi yw'r ffordd iawn ymlaen.
Mi fydd unrhyw un a wyliodd Ffermio ar S4C neithiwr yn gwybod bod y cyfnod wyna ar ein pennau ni erbyn hyn, ac mae'n fater dwi wedi codi'n gyson yn y Siambr yma, wrth gwrs, sef y gofid ynglŷn ag ymosodiadau gan gŵn ar ddefaid, ac wŷn wrth gwrs ar yr adeg yma o'r flwyddyn. Dwi wedi codi'n flaenorol yr angen i fynd i'r afael â hyn, a'r ateb dwi wedi cael nôl yw bod y Llywodraeth yn gwneud mwy er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith perchnogion cŵn ynglŷn â'r hyn sydd angen ei wneud. Allwch chi felly ein diweddaru ni, gan ein bod ni'n dod i gyfnod allweddol nawr, lle mae llawer o wŷn newydd-anedig yn wynebu'r risg o gael ymosodiadau gan gŵn, beth yn union y mae'r Llywodraeth yn gwneud i godi'r ymwybyddiaeth yna i berchnogion cŵn ynglŷn â'u cyfrifoldebau yn y maes yma?
Diolch i Llyr am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, mae'r cyfrifoldeb cyfreithiol dal gyda'r person sy'n berchen ar y ci. Dyna beth mae Deddf 1953 yn dweud, ac yn dweud yn gryf.
Fel Llywodraeth, rydym ni'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, gyda'r RSPCA ac eraill i wneud yn siŵr nad oes gan berchenogion cŵn unrhyw amheuaeth ynghylch y cyfrifoldeb sydd arnyn nhw i sicrhau eu bod nhw'n cadw rheolaeth ar anifeiliaid os ydyn nhw'n mynd â nhw i gefn gwlad. Mae'n drosedd caniatáu i gŵn aflonyddu ar anifeiliaid fferm yn y ffordd honno. Braint yw bod yn berchen ar gi, nid hawl, ac rydym ni'n gweithio gydag eraill i wneud yn siŵr bod y codau ymarfer yr ydym ni wedi eu darparu, mewn partneriaeth â'r diwydiant, yn atgoffa perchnogion o'u rhwymedigaethau i reoli eu hanifeiliaid anwes yn yr amgylchiadau hynny.
Prif Weinidog, rydym ni i gyd yn pryderu am les anifeiliaid, ac rwyf i wedi codi'r cwestiwn hwn yn y Siambr o'r blaen am fy mhryderon am allforion anifeiliaid byw. Nawr bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud y bydd yn atal allforion anifeiliaid byw, a'n bod ni'n gadael yr UE o'r diwedd, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo heddiw y bydd yn gwneud hynny hefyd?
Fe wnaethom ni gefnogi galwad Llywodraeth y DU am dystiolaeth ar waharddiad ar draws y DU gyfan o ran allforio anifeiliaid byw i'w lladd dramor. Felly, rwy'n meddwl y gall yr Aelod ei gymryd o hynny—ein bod ni wedi cefnogi Llywodraeth y DU yn y galwad hwnnw am dystiolaeth ar waharddiad DU gyfan—y byddem ni'n parhau i'w gefnogi yn y ffordd honno. Rydym ni'n gweithio gyda DEFRA a Llywodraeth yr Alban i benderfynu ar y camau nesaf nawr bod yr ymgynghoriad hwnnw wedi dod i ben. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i orfodi'r rheolau sy'n llywodraethu cludo anifeiliaid byw ar siwrneiau hir: cyfnodau gorffwys, bod digon o fwyd a dŵr ar gael iddyn nhw. Ond os bydd gwaharddiad, ac os yw'n mynd i fod yn waharddiad ar draws y DU gyfan, yna byddwn yn cefnogi hynny.