11. Dadl Fer: Yr economi ar ôl Brexit

– Senedd Cymru am 6:35 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:35, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen at y ddadl fer. Os ydych yn gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym, yn dawel? Dylai pob un ohonoch wybod mai dyna rwy'n mynd i alw amdano yn awr. Iawn, symudwn at y ddadl fer, a galwaf ar David Rowlands i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. David.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Felly, mae Brexit wedi'i wneud. Nid yw'r DU yn aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd mwyach. Yn yr ystyr honno, o leiaf, ystyr arwyddocaol iawn os nad un hanesyddol, mae canlyniad refferendwm 2016 wedi'i anrhydeddu o'r diwedd. Ond faint o wneud a wnaed? A beth sy'n digwydd nesaf? Er nad yw Brexit hyd yma wedi bod yn daith hawdd, mae llawer o'r gwaith go iawn a'r penderfyniadau caled o'n blaenau.

Yn y lle cyntaf, ceir negodiadau ynghylch ein perthynas newydd â'n partneriaid Ewropeaidd. Bydd hyn yn anochel yn golygu cyfaddawdu gan Lywodraeth y DU, ond hefyd yr UE. A gadewch inni roi clod lle mae'n ddyledus, mae'r Llywodraeth hon wedi mynd ymhellach i gryfhau ei safbwynt negodi na'r weinyddiaeth flaenorol. Os yw negodiadau'n mynd i fod yn llwyddiannus, rhaid gwneud i negodwyr Ewrop, gan gynnwys Macron, ddeall bod masnach rydd gyda'r DU yr un mor bwysig iddynt hwy, efallai'n fwy felly nag ydyw i'r DU. Mae'r DU yn masnachu ar ddiffyg o tua £70 biliwn gyda'r UE, sy'n golygu, wrth gwrs, bod gan economïau Ewrop yn gyffredinol fwy i'w golli mewn rhyfel masnach na'r DU. Wrth gwrs, bydd negodiadau'n digwydd yng nghyd-destun economïau'r UE sy'n methu. Crebachodd economïau Ffrainc a'r Eidal yn ystod tri mis olaf 2019, fel y gwnaeth economïau ardal yr ewro yn ei chyfanrwydd. Ar y llaw arall, tyfodd economi'r DU dros y cyfnod hwn, er gwaethaf yr ansicrwydd ynghylch Brexit.

Mae Ffrainc ei hun yng ngafael aflonyddwch diwydiannol a achoswyd gan ymgais Macron i ddod â system pensiwn Ffrainc—42 cynllun pensiwn gwahanol—dan reolaeth a chodi oedran pensiwn y wladwriaeth. Nid oes amheuaeth nad yw'r DU wedi bod yn sybsideiddio pensiynau gor-hael y wladwriaeth Ffrengig ers blynyddoedd lawer. Mewn cyferbyniad, mae pobl Prydain wedi derbyn, i raddau helaeth, fod oedran pensiwn yn codi, gan sylweddoli bod yr oedran y telir pensiynau ar hyn o bryd yn anghynaliadwy yn hirdymor. Mae'n sicr y byddai ein presenoldeb parhaus yn yr UE wedi golygu cynnydd yn ein cyfraniadau net, gan helpu'n anochel i sybsideiddio'r fath haelioni gan wledydd Ewrop. Er enghraifft, mae Sbaen yn talu i'w phensiynwyr fynd ar eu gwyliau am dair wythnos bob blwyddyn, tra bod ein pensiynwyr ni yn llythrennol yn marw oherwydd tlodi tanwydd.

Bydd mwyafrif cadarn y Llywodraeth yn rhoi diwedd ar y sefyllfa ddeddfwriaethol annatrys yn y ddwy flynedd a hanner diwethaf, a gallai cam 2 o broses Brexit fod yn llai llafurus yn San Steffan na cham 1. Ond rhaid peidio byth ag anghofio bod rhaniadau yn y DU a achoswyd wrth i'r chwith gwleidyddol gynghreirio â'u gelyn traddodiadol, yr elît a'r cyfoethog, i rwystro proses Brexit. Heb amheuaeth, gadawodd hyn flas cas yng nghegau eu cefnogwyr a fu mor ffyddlon yn flaenorol, fel y mynegwyd yn huawdl yng nghanlyniadau'r etholiad cyffredinol diweddaraf.

Brexit neu beidio, byddwn yn parhau i fod yn gymydog agos i Undeb Ewropeaidd nad yw ei ddyfodol yn glir o bell ffordd. Er y bydd Brexit yn peidio â bod yn eitem bwysig ar yr agenda ym Mrwsel, fel sydd eisoes wedi digwydd, mae'r UE yn wynebu trafferthion ei hun wrth ymdrin â phroblemau sy'n amrywio o'r modd y caiff ei ariannu yn y dyfodol i ymfudo ac ardal yr ewro.

Nid ydym ni yn y DU erioed wedi bod yn ymynyswyr. Rydym wedi bod, a bob amser yn mynd i fod yn wlad sy'n masnachu'n fyd-eang. Mae Brexit yn golygu y byddwn yn awr yn gallu masnachu â gweddill y byd o dan ein telerau ein hunain, nid rhai Brwsel. Masnach rydd yw un o'r cyfryngau mwyaf grymus wrth frwydro yn erbyn tlodi a newyn ym mhob rhan o'r byd. Roedd tariffau, cymorthdaliadau, rheoliadau cyfnewid a chysoni rheoleiddiol, fel y caent eu harfer gan yr UE, oll yn tanseilio masnach rydd.

Yn ddiau, collodd y DU filoedd o swyddi i wledydd Ewropeaidd eraill drwy ymyriadau grantiau rhanbarthol yr UE: ffatri geir Skoda newydd sbon a adeiladwyd yn y Weriniaeth Tsiec ar gyfer y cwmni moduron Almaenig Volkswagen â chyllid rhanbarthol yr UE, tra bod y ffatri geir Rover wedi'i gadael i gau, a'r eironi yw mai arian y DU, drwy gyfraniad net Prydain i'r UE, a helpodd i adeiladu'r ffatri yn y Weriniaeth Tsiec. Yn nes at adref, symudwyd ffatri Bosch ym Meisgyn i Hwngari—unwaith eto, gyda chefnogaeth cymorth Ewropeaidd.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 6:40, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Dylid gwneud i gwmnïau sy'n masnachu ac yn gwneud elw enfawr yn y DU dalu treth ar eu nwyddau a'u gwasanaethau i Drysorlys y DU, nid i Drysorlys Iwerddon, sydd bellach yn digwydd gan ddefnyddio'r system gam o osgoi treth—system y dywedir ei bod yn cael ei defnyddio gan Amazon, Dell, Google, Starbucks, Facebook ac eraill i fanteisio ar gyfraddau treth gorfforaeth is Iwerddon. Felly, er bod yr elw enfawr a wneir gan y cwmnïau hyn yn cael ei gynhyrchu yn y DU, Iwerddon sy'n elwa o ran treth. Bydd y DU yn awr yn rhydd i wneud ei hymyriadau ei hun i liniaru'r broblem.

Felly, gadewch i ni ganolbwyntio mwy ar Gymru. Mae gwleidyddiaeth fel rydym yn ei hadnabod yn ailffurfio. Mae ideolegau y credid eu bod wedi hen farw yn ailymddangos. Ceir anhoffter cynyddol o'n gwleidyddion a'n sefydliadau. Ysgrifennwyd miliynau o eiriau yn cwyno am ansicrwydd yr amseroedd hyn, ond rydym ni ym Mhlaid Brexit yn credu bod cyfleoedd yn dod gydag ansicrwydd, yn enwedig i'r rheini sy'n barod i hyrwyddo gweledigaeth argyhoeddiadol a chadarnhaol. Credwn mai rôl Llywodraeth yw diogelu a hwyluso'r rhyddid i ffynnu, i ddarparu'r sylfaen a fydd yn rhyddhau'r sgiliau entrepreneuraidd y gwyddom eu bod yn bodoli—ac mae hynny'n cynnwys Llywodraeth Cymru. Mae'r pwerau sydd hyd yma wedi'u lleoli ym Mrwsel ac a fydd yn cael eu dychwelyd i Lywodraeth y DU cyn bo hir, ac y dylid eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru lle maent mewn meysydd sydd wedi'u datganoli—meysydd datganoledig fel pysgota, amaethyddiaeth a pholisi economaidd yng gyffredinol—gallai'r pwerau newydd hyn, o'u defnyddio'n ddoeth, helpu i ysgogi economi ddeinamig yng Nghymru.

Mae'n bryd i'r DU a Chymru fanteisio ar farchnadoedd y byd, yn enwedig gwledydd y mae eu heconomïau'n tyfu'n gyflym—India, Tsieina a gweddill y dwyrain pell—yn ogystal â Chanada, UDA ac Awstralia. Rydym wedi dibynnu'n rhy hir ar farchnadoedd Ewropeaidd, sy'n crebachu ac nid yn ehangu. Mae'r ddeddfwriaeth sy'n tagu busnesau a weithredwyd gan Frwsel dros y degawdau diwethaf bellach yn gadael ei hôl. Mae economïau Ewrop yn farwaidd. Dywedir bod y broses o gychwyn busnesau newydd yn Ewrop yn fiwrocrataidd dros ben, sy'n golygu bod y sector busnesau bach a chanolig eu maint mewn gwledydd fel yr Almaen yn gyfran sylweddol lai o'r economi nag yn y DU. Mae hyn yn gwneud economi'r Almaen yn llawer mwy agored i newidiadau yn yr economi fyd-eang, oherwydd ei bod yn llawer mwy dibynnol ar allforion gan ei chwmnïau diwydiannol byd-eang mawr, yn enwedig ei chwmnïau cynhyrchu ceir.

Mae'r orddibyniaeth hon ar gwmnïau mawr hefyd yn golygu na all llawer o economïau Ewropeaidd ymateb i dueddiadau economaidd sy'n newid yn yr un ffordd ag y gall gwledydd mwy hyblyg, megis y DU, sydd â llawer iawn o fusnesau bach a chanolig. Mae Cymru mewn sefyllfa dda iawn o ran BBaCh, gan ein bod yn llawer llai dibynnol ar sylfaen weithgynhyrchu cwmnïau mawr, yn enwedig gyda diflaniad diwydiannau traddodiadol fel glo a dur, er ei bod yn wir dweud bod dur yn chwarae rhan sylweddol yn economi Cymru a bod diwydiannau fel Airbus yn arbennig o bwysig i gefnogi miloedd o swyddi medrus iawn. Y sector sgiliau uchel hwn a ddylai fod yn ganolbwynt i ehangiad diwydiannol Cymru: dylai cwmnïau uwch-dechnoleg, brodorol yn ddelfrydol, fod yn ffocws i Lywodraeth Cymru, ac yma rwy'n cydnabod ei bod yn ymdrechu'n ddygn i symud i'r cyfeiriad hwnnw. Rydym ni ym Mhlaid Brexit bob amser wedi gwerthfawrogi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gwmnïau fel Aston Martin Lagonda. Heb ddenu cwmnïau eiconig o'r fath, megis Aston Martin, ni allwn obeithio ehangu'r sector technoleg uwch yng Nghymru.

Mae'n wir, yn y tymor byr, y gall fod heriau sylweddol i rannau o economi Cymru. Efallai y bydd amaethyddiaeth yn gweld caledi o'r fath hyd nes y sefydlir marchnadoedd amgen ar gyfer eu cynnyrch. Mater i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yw cefnogi'r sector amaeth a diwydiannau eraill yn ddigonol drwy'r cyfnod pontio hwn. Fodd bynnag, rhaid inni beidio â synied yn rhy isel am y potensial enfawr y mae marchnadoedd fel Tsieina a'r dwyrain pell yn gyffredinol yn ei gynnig ar gyfer y cynnyrch o safon uchel y mae diwydiant ffermio Cymru yn ei gynhyrchu. Rwy'n hyderus y bydd Ewrop, ymhen ychydig flynyddoedd, yn cael ei ystyried yn farchnad gymharol fach i gynnyrch Cymru yn gyffredinol.  

Mae cyfran yr UE o gynnyrch domestig gros y byd wedi gostwng yn sylweddol dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, i lawr o 30 y cant yn 1980 i 16 y cant yn unig heddiw, er bod 18 gwlad arall wedi ymuno â'r UE yn ystod y cyfnod hwnnw. Wrth gwrs, bydd colli'r DU, ail economi fwyaf yr UE, yn newid y ganran yn sylweddol hyd yn oed ymhellach. Mae'n bryd i ni ailymuno â gwledydd y Gymanwlad y gwnaethom gefnu arnynt i bob pwrpas dros 40 mlynedd yn ôl. Mae diaspora'r DU o gwmpas y byd yn enfawr. Mae'r fantais o gael Saesneg fel yr iaith a siaredir fwyaf yn y byd yn ddi-ben-draw. Mae'r farchnad yma i nwyddau'r DU; mater i'r gymuned fusnes yn ei chyfanrwydd, gyda chymorth sylweddol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yw manteisio'n llawn ar y cyfle hwn. Mae'r byd yn llythrennol yn agor o'n blaenau wedi inni ddiosg hualau'r Undeb Ewropeaidd.  

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:46, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i ymateb i'r ddadl? Ken Skates.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Ie. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i David Rowlands am gyflwyno'r ddadl fer hon, ac rwy'n croesawu'r cyfle hwn yn fawr iawn i ymateb. Byddaf yn canolbwyntio, os caf, ar y meysydd lle mae gan Lywodraeth Cymru y cyfleoedd gorau i ddylanwadu ar ein rhagolygon economaidd yn y dyfodol.

Fel y mae'r Aelodau yn y Siambr yn amlwg yn gwybod, mae'r DU bellach mewn cyfnod o bontio tan fis Rhagfyr 2020, a chytunwyd ar y cyfnod pontio i ganiatáu i'r DU a'r UE gytuno ar gytundeb ar gyfer eu perthynas yn y dyfodol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r rhan fwyaf o reolau cyfredol a threfniadau masnachu yr UE yn parhau i fod ar waith, heb unrhyw newidiadau sylweddol yn y rhan fwyaf o feysydd. Bydd y rheolau presennol ar fasnachu â'r UE yn parhau, fel y bydd yr hawl i deithio heb fisâu i wledydd eraill yr UE. Yn ddiau, bydd negodiadau â'r UE yn cael effaith wirioneddol ar swyddi a safonau byw pobl a'n gallu i ddenu buddsoddiad. Mae arnom angen canlyniad nad yw'n niweidio Cymru'n ddiangen, ond sy'n fanteisiol i Gymru mewn gwirionedd.

Mae'r Llywodraeth wedi gweithio'n galed ar alluogi Cymru i fod yn un o'r rhannau o'r DU sy'n tyfu gyflymaf ers dirwasgiad 2008, gyda'r gyfradd uchaf o fusnesau newydd ym mhedair gwlad y DU, y nifer uchaf erioed o fusnesau mewn bodolaeth, ac mae'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru bellach yn uwch nag erioed, sef 76.2 y cant. Mae diweithdra, fel y gŵyr yr Aelodau, ar ei lefel isaf erioed, sef 2.9 y cant yn unig. Fel rhanbarth technoleg newydd, gan Gymru hefyd y mae'r economi ddigidol sy'n tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain. Ac fel y nododd David Rowlands—ac rwy'n ddiolchgar iddo am wneud hynny—ymladdwyd yn galed dros Aston Martin Lagonda, a llwyddodd Llywodraeth Cymru i'w denu, ynghyd â busnesau eraill megis INEOS Automotive a CAF. A byddwn yn parhau i ddenu swyddi o ansawdd uchel i Gymru, wrth inni ddwysáu ein hymdrechion i dyfu ein busnesau ein hunain yma yng Nghymru.  

Rydym yn parhau i fod yn rhagweithiol yn ein gweithredoedd mewn nifer o feysydd er mwyn cefnogi'r economi yn awr yn ystod y cyfnod pontio a thu hwnt i hynny, a byddwn yn parhau i wneud mwy. Mae ein cynllun gweithredu ar yr economi yn canolbwyntio ar gyfoeth a lles ac ar bwysigrwydd lle, ynghyd â busnesau, pobl a seilwaith fel ysgogiadau economaidd. Mae'r symudiad hwn tuag at fusnesau sy'n fwy cyfrifol yn gymdeithasol a thwf cynhwysol yn lleihau anghydraddoldebau ar draws ein gwlad, ond rhaid i'r gwaith hwnnw barhau.

Rydym hefyd yn canolbwyntio ein hegni ar ddiwydiannau sy'n datblygu ac a fydd yn ffynnu yng Nghymru yn y dyfodol—diwydiannau sy'n cynnwys gweithgynhyrchu gwerth uchel, fel lled-ddargludyddion cyfansawdd, gwasanaethau fel technoleg ariannol, seiberddiogelwch ac ynni gwyrdd. Ac rydym wrthi'n datblygu maniffesto gweithgynhyrchu newydd i ddangos sut y byddwn yn diogelu'r diwydiant hwn ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn parhau i fuddsoddi a chefnogi'r economi sylfaenol, sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n diwallu ein hanghenion bob dydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod wedi sefydlu cronfa her yr economi sylfaenol, a gynyddodd i £4.5 miliwn ar ôl gwrando ar fusnesau ac entrepreneuriaid, ac mae'r gronfa hon yn cefnogi mwy na 50 o brosiectau arloesol ledled Cymru ac yn gweithio i ledaenu manteision gwario lleol yn yr economi leol. Byddwn yn gweithio gyda'r busnesau hyn i ledaenu arferion da ac i sicrhau bod gwersi a ddysgir yn cael eu lledaenu ar draws y wlad, a bydd y gwersi hyn yn ein helpu i newid a gwella'r ffordd y mae'r economi sylfaenol yn gweithio.

Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru i ddarparu mynediad at gyllid i helpu ein busnesau yng Nghymru i ffynnu, ac mae bellach yn rheoli mwy na £500 miliwn o gymorth i fusnesau, gan helpu entrepreneuriaid i ffynnu. Gwn ei fod yn rhywbeth, unwaith eto, y mae David Rowlands yn ei gefnogi, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Mae ein gwasanaeth Busnes Cymru wedi helpu i greu mwy na 1,040 o fentrau newydd yn ystod 2018 yn unig, a chanfu ymchwiliad diweddar i effaith y gwasanaeth hwn fod y gyfradd o fusnesau craidd a rhai a gynorthwywyd i dyfu sydd wedi goroesi am bedair blynedd yn 85 y cant o'i gymharu â dim ond 41 y cant ar gyfer sampl cyfatebol o fusnesau na chafodd gymorth. Mae hynny'n sicr yn dangos gwerth Busnes Cymru yn sicrhau bod busnesau'n goroesi dros adeg allweddol yn eu bodolaeth. Mae'n wir hefyd fod y busnesau hyn yn fwy tebygol o fod yn y categori risg credyd sefydlog a diogel na busnesau cyfatebol nad ydynt yn cael cymorth yn y grŵp poblogaeth ehangach o fusnesau yng Nghymru.

Nawr, mae heriau newydd fel datblygiad cyflym technoleg, sy'n newid y ffordd rydym yn gweithio yn sylfaenol, effaith newid hinsawdd, sy'n canolbwyntio ein sylw ar ffordd fwy cymdeithasol gyfrifol o weithio, ac wrth gwrs, newid pŵer economaidd byd-eang tuag at yr E7, a fydd yn effeithio ar ein cysylltiadau masnachu yn y dyfodol, yn heriau ochr yn ochr â'r rhai y gallai'r DU eu hwynebu wrth adael yr UE. Nid dyna'r unig beth sy'n digwydd, ac felly, byddwn ni fel Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n galed i gefnogi economi Cymru drwy'r cyfnod hwn o ansefydlogrwydd yn sgil ffactorau amrywiol a'r cyfnod hwn o newid dramatig, ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod Cymru'n fan lle gall pawb ffynnu, ac i wella ein gwlad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:52, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:52.