2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 26 Chwefror 2020.
5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch polisi mewnfudo yn y dyfodol ar ôl Brexit? OAQ55131
6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch polisi mewnfudo ar ôl i'r DU ymadael â'r UE? OAQ55111
Lywydd, credaf eich bod wedi rhoi eich caniatâd i'r cwestiwn hwn gael ei grwpio â chwestiwn 6.
Roeddwn yn siomedig na wnaeth Llywodraeth y DU rannu eu hargymhellion â ni cyn iddynt gael eu cyhoeddi i'r cyfryngau. Er nad yw mewnfudo wedi'i ddatganoli wrth gwrs, mae polisi ymfudo yn y dyfodol yn hynod o bwysig a bydd yn cael effeithiau sylweddol ar ein heconomi a'n cymunedau. Rhaid i ddiwygio ystyried anghenion Cymru.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. A yw’n ymwybodol fod mewnfudo—ymfudo net—wedi bod yn 330,000 y flwyddyn ar gyfartaledd ers 2014? A fyddai’n cytuno â mi nad oes angen inni ychwanegu dinas o faint Caerdydd at boblogaeth y DU bob blwyddyn yn sgil mewnfudo yn unig er mwyn llenwi bylchau mewn iechyd a gofal cymdeithasol, i ddychwelyd at ei ateb cynharach? Pleidleisiodd y Blaid Lafur yn ei chynhadledd ddiwethaf yn 2019 dros gyfres o gynigion sydd i bob pwrpas yn ymrwymo ei blaid i fewnfudo drws agored, a diwedd ar bob rheolaeth fewnfudo yn y bôn. Tybed ai dyna’r rheswm dros ganlyniadau truenus Llafur yn yr etholiad cyffredinol yn ddiweddar? Oherwydd mae’n amlwg nad oes cysylltiad o gwbl rhyngddynt a barn y mwyafrif o bobl gyffredin ar y pwnc hwn, ac mae'r ffaith bod Plaid Cymru yn rhannu'r farn hon yn dangos y diffyg cysylltiad rhwng dwy ran o dair o Aelodau'r lle hwn a phobl gyffredin yng Nghymru. Onid yw hynny'n rheswm arall eto am y dirywiad yn enw da'r sefydliad hwn flwyddyn ar ôl blwyddyn?
Rwy'n siŵr nad yw'r un o'r rheini'n gwestiynau rhethregol, ond i fod yn glir, buaswn yn disgwyl i'r Aelod gefnogi polisi ymfudo sy'n sefyll dros, ac yn adlewyrchu buddiannau pobl Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, ac economïau a chyflogwyr Cymru. Mae arnaf ofn nad dyna y mae'r cynigion diweddaraf gan Lywodraeth y DU wedi'i wneud. Yn sicr nid ydynt yn adlewyrchu anghenion y gweithlu na gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, a beth bynnag y byddai pobl wedi pleidleisio drosto yn y gorffennol, ni chredaf eu bod wedi pleidleisio dros wneud gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn llai cadarn, a'i gwneud yn anos i fusnesau Cymru dyfu a chyflogi pobl.
Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ofyn—a oes angen i mi ddarllen fy nghwestiwn neu—
Nac oes. Gofynnwch gwestiwn dyna i gyd.
Diolch yn fawr iawn. Weinidog, gwelwyd dicter real a dealladwy ynghylch y label bras, 'sgiliau isel', y mae Llywodraeth y DU bellach yn ei ddefnyddio i gyfeirio at bobl fel gweithwyr cymdeithasol pan wyddom nad lefel eu sgiliau sy'n isel, ond lefel eu cyflogau, ac ni allwch roi gwerth ar rinweddau dynol gwerthfawr fel tosturi a gofal. Sut y byddai'n ymateb i Dr Moira Fraser-Pearce, cyfarwyddwr polisi Cymorth Canser Macmillan, sydd wedi ysgrifennu hyn:
Mae cynllun y Llywodraeth ar gyfer system fewnfudo ar sail pwyntiau’n cynnig darlun sy’n peri gofid o system iechyd a gofal sydd eisoes dan bwysau gwaeth nag erioed...Rhaid i'r Llywodraeth greu llwybr ymfudo ar wahân ar gyfer gofal cymdeithasol yn ogystal ag egluro pa fesurau penodol a gaiff eu rhoi ar waith i amddiffyn gweithlu'r GIG er mwyn sicrhau bod pobl â chanser yn cael y gefnogaeth gywir pan fydd ei angen arnynt. Gallai unrhyw ddiwygiadau ymfudo, meddai, sy’n atal gweithwyr gofal cymdeithasol rhag gweithio yn y DU olygu mai rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy'n byw gyda chanser, sy’n dioddef y canlyniadau.
Sut y byddai'n ymateb i hynny, a pha sylwadau y bydd yn eu cyflwyno i Lywodraeth y DU?
Wel, rwy'n credu ei fod yn disgrifio mewn ffordd fyw iawn ychydig o'r pwysau a'r heriau a'r effeithiau real iawn y bydd pobl yng Nghymru yn eu dioddef, ac rwy'n credu bod ei gwestiwn yn ymateb i'r cwestiwn a ofynnodd Neil Hamilton yn gynharach. Rwy’n cytuno ag ef, fel y bydd wedi fy nghlywed yn dweud wrth Dai Lloyd yn gynharach, fod pobl sy’n gweithio yn y sector gofal, yn enwedig efallai, yn y ffordd y mae wedi’i ddisgrifio heddiw, yn gwneud gwaith sy’n galw am sgiliau helaeth, ac rydym wedi hyrwyddo safbwynt yng Nghymru dros bolisi ymfudo sy'n adlewyrchu'r gwahanol setiau o sgiliau a lefelau cyflog er mwyn i hynny weithio er budd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ond hefyd er budd pobl Cymru, sydd angen y math o gefnogaeth y mae'n ei disgrifio. Mae'n wir fod miloedd lawer o bobl o'r Undeb Ewropeaidd yn gweithio yn ein sector gofal naill ai fel darparwyr gofal neu nyrsys mewn gwahanol leoliadau. Rydym am iddynt aros a pharhau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, ond nid ydym ychwaith eisiau rhoi rhwystrau artiffisial yn ffordd mwy o bobl rhag dod i gymryd eu lle i ateb angen real iawn.