– Senedd Cymru am 2:48 pm ar 3 Mawrth 2020.
Y datganiad nesaf yw'r datganiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno datganiad yn fuan ar y coronafeirws, ac o ganlyniad mae'r datganiad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ei ohirio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch y canllawiau sy'n cael eu rhoi i awdurdodau lleol o ran polisi derbyn i ysgolion? Ar hyn o bryd, nid yw adran derbyn i ysgolion Cyngor Dinas Casnewydd ond yn derbyn tystiolaeth feddygol a ddarperir gan feddyg ymgynghorol er mwyn i blentyn neu berson ifanc gael ei ystyried ar gyfer ysgol benodol pan fydd angen i'r awdurdod lleol ddefnyddio meini prawf ar gyfer mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar y GIG. Ymddengys bod aros am apwyntiad i weld meddyg ymgynghorol, ac yn dilyn hynny, cael adroddiad gan feddyg ymgynghorol, yn ddiangen, ac mae'n mynd ag amser gwerthfawr y meddyg ymgynghorol pan fo gan y plentyn neu'r person ifanc eisoes ddiagnosis meddygol. Gweinidog, mae'n peri pryder mawr i mi fod y polisi'n caniatáu i'r awdurdodau lleol ddiystyru barn a diagnosis unrhyw weithiwr meddygol proffesiynol arall, gan gynnwys gwasanaethau arbenigol. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog ar y mater pwysig hwn, os gwelwch yn dda?
Yn y lle cyntaf, byddwn i'n annog Mohammad Asghar i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg gyda'i bryderon ynghylch polisïau derbyn i ysgolion a'r canllawiau cysylltiedig sy'n cyd-fynd â hynny, oherwydd mae'r cwestiwn yr ydych chi wedi'i ofyn yn eithaf manwl ac yn haeddu ateb manwl.
Rwy'n deall bod Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymweld â Ffynnon Taf y bore yma i siarad â phobl sydd wedi dioddef yn sgil y llifogydd. Yr wythnos diwethaf gofynnais i i'r Gweinidog ddod i'r Rhondda gyda mi i siarad â'r trigolion am eu profiadau, ac rwyf eisiau cyfleu neges i'ch Llywodraeth chi gan un o drigolion Ynyshir yn y Rhondda. Mae Mr Cameron, yn dweud, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae'r llifogydd wedi effeithio ar tua 14 o dai yn Ynyshir, ynghyd â thua 13 o gerbydau, sy'n golled lwyr. Fe wnaethoch chi fy ngweld i a mab un o fy nghymdogion yn yr afon, yn ymdrechu'n daer i geisio clirio'r argae â llif cyn bod y glaw trwm a ragwelwyd yn cyrraedd. Unwaith eto, cawsom ein gadael i roi trefn ar bethau ein hunain. Rwyf wedi cael gwybod na allaf fynd yn ôl i fyw yn fy myngalo i am naw i 12 mis. Rwyf wedi colli popeth yn y byngalo a'r garej, ac yn y bôn rwy'n ddigartref ac yn ddi-gar. Rwy'n gwybod bod llawer o bobl eraill mewn sefyllfa debyg ac yn waeth hyd yn oed. Y peth lleiaf y gall Gweinidog yr amgylchedd ei wneud, ynghyd â chadeirydd ac uwch reolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, yw dod gyda chi i weld drostynt eu hunain y dinistr y maent wedi ei achosi. Er gwybodaeth, nid yw'r dŵr wedi gorlifo dros bont Avon Terrace ers 100 mlynedd, ac ni fyddai wedi gwneud hynny ar 16 Chwefror pe bai Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud yr hyn yr oedden nhw i fod i'w wneud a chadw'r afonydd yn glir o sbwriel.'
Roedd pobl yn Ynyshir wedi dioddef llifogydd oherwydd y sbwriel a oedd wedi cronni o dan bont dros yr afon. Nawr, rwyf hefyd wedi cael ceisiadau i siarad â'r Gweinidog gan y bobl sy'n byw ym Mhentre, yn ogystal â phobl sy'n byw yn y Porth, sydd wedi colli waliau gerddi a oedd yn arfer amddiffyn rhag yr afon ac sydd hefyd yn pryderu bod coed a sbwriel yn cronni ar bontydd ger eu cartrefi. Gan nad yw'n debyg bod y Gweinidog yn gallu ymateb i'r ceisiadau hyn am ymweliad a chwestiynau eraill yr oeddwn i wedi'u holi yn y Siambr hon, a wnewch chi, fel Gweinidog busnes, ofyn iddi hi a'i swyddogion amserlennu ymweliad â'r Rhondda gyda mi cyn gynted ag y bo modd fel y gall werthfawrogi graddfa'r broblem yn llawn, yn ogystal â chryfder y teimladau yn y cymunedau amrywiol y mae'r llifogydd yn y Rhondda wedi effeithio arnyn nhw?
Rwy'n cofio, mewn ymateb i'ch sylwadau i'r Gweinidog ar y mater penodol hwn, ei bod yn fodlon ymweld â'r Rhondda. Rwy'n gwybod iddi fod yn Rhondda Cynon Taf yn fwy cyffredinol ar ddau achlysur yn barod, ac mae'r Aelodau ar draws y Llywodraeth wedi bod yn ymweld â phobl sydd, wrth reswm, yn ofidus iawn oherwydd y llifogydd. Rwyf wedi siarad â phobl yn fy etholaeth i yng Ngŵyr. Rwyf wedi siarad â phobl yng Ngorseinon a Thre-gŵyr sydd wedi cael eu llorio gan yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw. Felly, mae'n dorcalonnus. Rwy'n credu ei bod yn deg cydnabod, ar hyn o bryd, ei bod yn rhy gynnar i lunio barn gyflawn ar yr hyn a achosodd y llifogydd i eiddo unigol. Byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw bod dyletswydd statudol nawr i gynnal ymchwiliad, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig gadael y rhan hon i'r arbenigwyr o ran deall a phenderfynu ar achosion y llifogydd a hefyd yr hyn y byddai'n bosib ei wneud i'w hatal rhag digwydd eto.
A gawn ni ddatganiad, Gweinidog, o ran y sylwadau ynghylch y cwricwlwm addysg newydd gan nifer o academyddion ac addysgwyr? Yn bennaf ymhlith y rhain y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru. Mae'r ddwy gymdeithas hyn yn dadlau bod yr her o weithredu'r cwricwlwm newydd yn enfawr. Mae hyn yn dilyn Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru hefyd yn ymuno â CLlLC i ddweud na fydd disgyblion yn cael eu haddysgu digon am yr hyn sy'n wirioneddol bwysig. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad hefyd ar sylw Estyn fod trawsnewid y system addysg yn ei gyfanrwydd yn dasg gymhleth a hirdymor ac yn un yr amcangyfrifir y bydd yn cymryd o leiaf ddegawd? O ystyried sylwadau o'r fath, pa ryfedd bod recriwtio athrawon i ysgolion cynradd wedi gostwng 10 y cant a recriwtio i ysgolion uwchradd 40 y cant? Yn wir, mae recriwtio mewn pynciau fel cemeg, TGCh, mathemateg a ffiseg wedi gostwng cymaint â 50 y cant. O ystyried yr ystadegau hyn, sut mae modd dweud y bydd y cwricwlwm newydd hwn yn addysgu pobl ar gyfer y byd modern pan na allwn recriwtio athrawon i groesawu'r cwricwlwm newydd hwn? Does dim dwywaith amdani fod llawer o athrawon wedi drysu ynghylch beth i'w addysgu ym meysydd dysgu a phrofiad er mwyn cyflawni rhagofynion y pedwar diben. Faint o'r cwricwlwm presennol y gellir ei ddefnyddio? A gawn ni ymateb hefyd gan y Gweinidog, o gofio y gall ysgolion unigol benderfynu sut i roi'r cwricwlwm newydd ar waith i gyflawni'r pedwar diben? Felly, rydym yn dueddol o gael cymysgedd o ganlyniadau ledled Cymru, a allai gael effaith andwyol ar wella rhwygiadau yn ein cymdeithas.
Mae David Rowlands yn holi nifer o gwestiynau mewn cysylltiad â diwygio'r cwricwlwm. Rwy'n gwybod fod y Gweinidog Addysg yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf mewn gwahanol ffyrdd i gyd-Aelodau o ran diwygio'r cwricwlwm, sydd, yn fy marn i, yn deg i'w gydnabod yn ddarn o waith hirdymor, ac mae'n sicr yn ddarn cymhleth o waith.
Roedd gan David Rowlands bryderon penodol ynghylch recriwtio a phynciau STEM yn benodol, felly byddwn yn ei wahodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn amlinellu'r gyfres honno o bryderon sydd ganddo, ac rwy'n siŵr y caiff ymateb.
A allem ni gael dadl ar ddathlu diwylliant, treftadaeth a harddwch naturiol Cymoedd y de, a sut y gall y rhain gyfrannu at ansawdd bywyd trigolion a hefyd fod yn atyniad i ymwelwyr dydd a thwristiaid fel ei gilydd? Ddydd Gwener diwethaf roeddwn yn falch o fod yn bresennol mewn digwyddiad yng nghlwb bechgyn a merched Nant-y-moel, sydd, diolch i bartneriaeth rhwng clwb bechgyn a merched Nant-y-moel a Chyngor Cymuned Cwm Ogwr, o dan gadeiryddiaeth Leanne Hill, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac eraill, wedi'i adfywio'n llwyr gyda dros £300,000 o fuddsoddiad, ac mae bellach yn ganolfan gymunedol a threftadaeth i'r cwm, yn ogystal â'r gweithgareddau parhaus a gynhelir i'r hen a'r ifanc yn y ganolfan a'r caffi sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, a llawer mwy. Ond dathlodd y digwyddiad waith y rheini a chymdeithas hanes lleol Cwm Ogwr, sy'n gweithio'n galed iawn, a llawer o bartneriaid eraill, i ddatblygu'r ganolfan hon a dwsin o fyrddau dehongli ar hyd llwybr beicio hardd Cwm Ogwr o bentref tlws Melin Ifan Ddu i fynyddoedd syfrdanol y Bwlch, gan adrodd straeon ein pobl a'n cymunedau.
Yr hyn sy'n fy nharo, Gweinidog, yw pa mor aml caiff Cymoedd Morgannwg, sef Cwm Garw, Cwm Ogwr a'r Gilfach eu hanwybyddu yn y llyfrynnau twristiaeth a'r hyrwyddiadau sgleiniog, ac eto maen nhw o ddiddordeb mawr i bobl leol ac i ymwelwyr, ac mae ganddyn nhw'r modd i ddatblygu balchder yn y fan o le yr ydym yn dod, a swyddi hefyd gan bobl sy'n dod i seiclo, cerdded ac anadlu'r awyr iach, ac aros ychydig, wrth i ni adrodd straeon dirgel wrthynt am Iolo Morgannwg, y bardd a'r eisteddfodwr o Forgannwg, a Lynn 'the leap' Davies, a enillodd record byd yn y naid hir yng ngemau Olympaidd Tokyo ym 1964, gan ddefnyddio ei gyfarwydd-dra â'r amodau erchyll o wynt a glaw i ennill pencampwyr y byd ar y pryd. Byddai dadl yn caniatáu i ni, Gweinidog, ystyried sut y gallwn ni wneud mwy o botensial cymdeithasol ac economaidd y gwythiennau dwfn hyn o hanes a chwedlau, a sut y gall Llywodraeth Cymru ein helpu i adrodd hanes y Cymoedd i gynulleidfa lawer ehangach, er budd i ni ac er budd i Gymru hefyd.
Diolch i Huw Irranca-Davies am y darlun hyfryd yna o'r pethau sy'n digwydd yn ei gymuned i ddathlu'r dreftadaeth leol ac, wrth gwrs, yr amgylchedd naturiol prydferth yn yr ardal y mae'n ei chynrychioli. Soniodd hefyd am bwysigrwydd treftadaeth leol o ran ein harlwy twristiaeth, o ran hybu ein heconomïau lleol, a hefyd y potensial cymdeithasol a ddaw yn ei sgil o ran dod â chymunedau at ei gilydd. Wrth gwrs, mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth wedi bod yma i glywed eich cyfraniad, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhoi ystyriaeth briodol i'r cais am ddadl, ac yn ystyried hefyd y sylwadau a wnaethoch chi am bwysigrwydd sicrhau bod gan eich ardal ei lle ar y map, fel sy'n gwbl briodol.
Diolch i'r Trefnydd.