4. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru ar 11 Mawrth 2020.
2. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth ymhlith y rhai sydd newydd gymhwyso i bleidleisio dros eu hawl i wneud hynny yn etholiad y Senedd ym mis Mai 2021? OAQ55211
Mae codi ymwybyddiaeth yn flaenoriaeth allweddol i Gomisiwn y Senedd cyn etholiad nesaf y Senedd, yn enwedig ymhlith pobl ifanc 16 a 17 oed, a fydd yn cael yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf. Mae hyn yn cynnwys cyfrannu at ddatblygu adnoddau priodol fydd ar gael o fis Mai ymlaen. A hefyd rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid fel y Comisiwn Etholiadol a Llywodraeth Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth mewn pryd ar gyfer yr etholiadau flwyddyn nesaf.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Llywydd am ei hateb, ac mae'n galonogol dros ben. Tybed a all ddweud ychydig mwy ynglŷn â sut y mae pobl ifanc eu hunain yn cael eu cynnwys yn y drafodaeth ynglŷn â’r ffordd orau y gallwn gyfleu'r negeseuon hyn iddynt? Ac ar fater ychydig yn wahanol ond cysylltiedig, a all ddweud wrthym pa bartneriaethau sy'n cael eu datblygu i alluogi'r dinasyddion o dramor a fydd yn gallu pleidleisio yn etholiadau ein Senedd i ddod yn ymwybodol? Roeddwn yn digwydd sgwrsio gyda ffrind i mi sy'n hanu o Rwmania yn wreiddiol, ac roedd hi'n synnu’n fawr, yn ogystal ag wrth ei bodd, wrth glywed y byddai'n gallu pleidleisio yn yr etholiad nesaf, ynghyd â’i gŵr, sy'n wreiddiol o Wlad Pwyl. Felly, y ddau bwynt hynny, mewn gwirionedd—sut rydym yn cynnwys pobl ifanc yn y trafodaethau ynglŷn â'r ffordd orau o gyfleu'r negeseuon, a sut rydym yn galluogi'r dinasyddion sy'n hanu o fannau eraill i ddeall y gallant bleidleisio yn yr etholiad hwn?
Diolch am y ddwy agwedd yna o'r cwestiwn, sy'n ymwneud â'r ddwy agwedd newydd i'r etholfraint fydd yn berthnasol i'r etholiadau flwyddyn nesaf. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn paratoi ychydig yn hirach am yr etholfraint yn ehangu i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17, gan ragdybio y byddai hwnna yn rhan o'r ddeddfwriaeth, ac felly mae ein gwaith ni yn ymwneud yn sicr â phobl ifanc drwy'r Senedd Ieuenctid i gychwyn, drwy'r partneriaid hynny sydd wedi cydweithio â ni wrth sefydlu'r Senedd Ieuenctid, ac sy'n gweithio yn uniongyrchol gyda phobl ifanc a gyda ein gwaith ni fel Comisiwn yn darparu ein cefnogaeth ni i ysgolion wrth ymgymryd â gwaith allgyrsiol, outreach, i hyrwyddo ymwybyddiaeth pobl ifanc Cymru o'r ddemocratiaeth a'r hawl newydd fydd gyda nhw, ac fe fydd y gwaith yna yn parhau ac yn dwysau yn ystod y misoedd i ddod.
O ran ail agwedd y cwestiwn, ynglŷn â'r etholfraint yn ehangu i gynnwys gwladolion tramor, wrth gwrs mae hwnna'n agwedd sy'n fwy newydd i ni fel Comisiwn, oherwydd fe ddaeth e'n rhan o'r ddeddfwriaeth yn ystod y broses sgrwtini, ac felly ein gobaith ni yw gweithio gyda'r Llywodraeth, wrth gwrs, a'r Comisiwn Etholiadol ar sicrhau bod dinasyddion Cymru sydd â'r hawl newydd yma i bleidleisio yn yr etholiadau flwyddyn nesaf yn ymwybodol o hynny. Felly, fe fyddwn ni dros y misoedd nesaf yma yn cychwyn ar y gwaith pwysig yma i sicrhau bod y Llywodraeth, llywodraeth leol, wrth gwrs, hefyd, yn mynd ati i roi'r wybodaeth gywir i bawb ynglŷn â'u hawl i bleidleisio, gan gofio, wrth gwrs, fod yn rhaid i hyn ddigwydd mewn pryd nid yn unig ar gyfer y bleidlais y flwyddyn nesaf ond, yn bwysig iawn, ar gyfer y ganfas eleni i roi pobl ar y gofrestr ar gyfer pleidleisio y flwyddyn nesaf.
Lywydd, roeddwn yn ysgol Garth Olwg yn fy etholaeth yn ddiweddar, a gallaf ddweud wrthych pa mor frwdfrydig yw cymaint o'r myfyrwyr ifanc y byddant yn cymryd rhan yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf. Un o'r pethau a ystyriwyd pan oedd y ddeddfwriaeth yn mynd drwy'r Cynulliad oedd nid yn unig mater addysg wleidyddol ond hefyd y syniad o sut i wneud pleidleisio'n haws—digideiddio'r gofrestr etholwyr, efallai, neu gofrestru pobl ifanc 16 oed yn awtomatig, gan fod pob un ohonynt naill ai yn yr ysgol neu mewn colegau, a byddai hynny'n rhywbeth a fyddai'n eithaf ymarferol. A hefyd, pam na ddylem gael blychau pleidleisio mewn ysgolion? Felly, roedd pob un o'r rhain yn syniadau newydd a awgrymwyd o ran sut i wneud pleidleisio'n haws yn ogystal â chynyddu'r nifer sy'n pleidleisio. A oes unrhyw un o'r pethau hynny ar y gweill? A ydynt yn cael eu hystyried? A allech roi gwybod inni a wnaed unrhyw gynnydd gyda rhai o'r syniadau hyn?
Wel mae'r rhain, wrth gwrs, yn syniadau ac yn faterion a godwyd yn ystod y broses o graffu ar Fil y Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd yn y broses o graffu ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Credaf mai mater i Lywodraeth Cymru yw cynnig deddfwriaeth ar newid y ffordd rydym yn pleidleisio, yn hytrach na phwy sy'n pleidleisio ar gyfer y Cynulliad hwn, a gwn fod rhywfaint o drafod yn digwydd ynghylch hynny fel rhan o'r Bil llywodraeth leol ac etholiadau, a gwn fod y rhain yn faterion sydd o ddiddordeb i lawer o bobl, gan fod sicrhau ein bod yn gwneud pleidleisio'n hygyrch a diddorol i bobl yn rhywbeth a ddylai uno pob un ohonom.
Mae sut rydym yn gwneud hynny a phryd rydym yn gwneud hynny yn faterion y mae angen i ni drafod mwy arnynt yma yn y Senedd hon yn fy marn i, ac rwy’n awyddus i gael y drafodaeth honno. Nid ydym yno eto, ond rwy'n siŵr fod y rhain yn ffyrdd y bydd—bydd y bobl ifanc yn ein harwain ni bobl hŷn, sy'n meddwl yn fwy traddodiadol, ar hyd y llwybrau hynny. Yn bersonol, ni fuaswn yn gwrthwynebu’r syniad o bleidleisio ar fy ffôn. Gallwn wneud hynny o'r fan hon yn awr, pe gallwn. Ond credaf y byddwn yn symud gyda'r oes. Ar hyn o bryd, mae'n debyg ein bod yn symud ychydig yn rhy araf i ddal i fyny â sut yr hoffai pobl ifanc ymgysylltu â ni, ond mae angen inni fod yn agored i'r syniadau newydd hynny a ddaw o ysgolion fel ysgol Garth Olwg ac ysgolion eraill ledled Cymru.
Gomisiynydd, roedd y panel arbenigol sy'n cynghori ar ddiwygio etholiadol, yn benodol ar ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed, yn argymell rhaglen o addysg wleidyddol briodol fel rhan o'r cwricwlwm. A yw'r addysg hon wedi bod yn digwydd am gyfnod digon hir, gan mai dim ond yn ddiweddar y cyflwynwyd y ddeddf newydd, a pha sylwadau a wnaed gan Gomisiwn y Cynulliad i Lywodraeth Cymru er mwyn i hyn digwydd?
Diolch am eich cwestiwn. Ydych, rydych yn llygad eich lle fod y panel arbenigol yn gryf iawn ei farn fod addysg wleidyddol ochr yn ochr â'r hawl i bleidleisio yr un mor bwysig â'i gilydd er mwyn galluogi pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Mae'r Comisiwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Etholiadol ac eraill, ond yn benodol, yn yr agwedd hon ar yr adnoddau sydd ar gael i ysgolion, ar ddatblygu adnoddau gyda Llywodraeth Cymru a fydd ar gael o fis Medi ymlaen i alluogi pobl 16 a 17 oed yn yr ysgol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu hawl newydd i bleidleisio yn 16 a 17 oed, gan gofio, wrth gwrs, nad mewn lleoliad ysgol yn unig y bydd yr holl bobl ifanc sy'n cael yr hawl newydd honno i bleidleisio—byddant hefyd mewn colegau ac mewn gwaith—ac mae’n rhaid inni sicrhau bod pawb yn cael eu grymuso i’r un graddau i wybod am eu hawl newydd a sut i arfer yr hawl honno.