6. & 7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020

– Senedd Cymru am 5:52 pm ar 29 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:52, 29 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Felly, symudwn at eitemau 6 a 7 ar y rheoliadau hynny. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynigion—Vaughan Gething.

Cynnig NDM7319 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2020.   

Cynnig NDM7320 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ebrill 2020.   

Cynigiwyd y cynigion.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:52, 29 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwyf yn cynnig yn ffurfiol y ddwy set o reoliadau sydd ger ein bron heddiw. Hoffwn i fynd i'r afael ar y dechrau â mater drafftio byr o ran y cynigion oherwydd, Llywydd, yn fuan cyn y ddadl hon tynnwyd fy sylw at y ffaith bod y cynigion sydd ger ein bron yn cynnwys camgymeriad. Mae'r cynigion yn cyfeirio at reoliadau drafft, ond mae'r rheoliadau hyn eisoes wedi eu gwneud yn eithaf clir, a chymeradwyaeth y Senedd i barhau â nhw ar waith yw'r hyn sy'n cael ei geisio. Hoffwn i sicrhau yr Aelodau nad yw hyn yn newid cynnwys y rheoliadau, ac nid yw ychwaith yn newid bwriad y cynnig y mae gofyn i'r Senedd ei gymeradwyo heddiw. Bydd y Llywodraeth, wrth gwrs, yn sicrhau y bydd cynigion am offerynnau cadarnhaol a wneir yn y dyfodol yn cael eu cywiro.

Hoffwn i wrando ar y ddadl gan yr Aelodau, gan fod y pwerau yn y rheoliadau wedi eu trafod ac rwy'n credu bod dealltwriaeth dda ohonyn nhw. Byddaf i'n fwy na pharod i annerch yr Aelodau am gynnwys y rhain, neu am eu parhad a'r defnydd cymesur ohonyn nhw yn y dyfodol, ar ôl gwrando ar yr hyn sydd gan yr Aelodau i'w ddweud heddiw.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:53, 29 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Cafodd y set gyntaf o reoliadau y byddwn yn eu hystyried heddiw, y brif set o reoliadau ar gyfer cyfyngiadau coronafeirws, eu gosod gerbron y Cynulliad yn ystod y cyfnod pan nad oedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn cwrdd fel arfer, o ganlyniad i'r pandemig COVID-19 parhaus hwn. Fel y cyfryw, ac yn unol â'r broses dros dro a sefydlwyd gan y Pwyllgor Busnes, cafodd nodyn cyngor wedi ei baratoi gan gyfreithwyr Comisiwn y Cynulliad ei osod gerbron y Cynulliad gan y Llywydd. Roedd y nodyn yn cynnwys yr un cyngor a fyddai wedi ei roi i'n pwyllgor. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod ymateb i'r pwyntiau a godwyd yn y nodyn cyngor hwnnw, ac mae'r ddwy ddogfen wedi eu cyflwyno i'r holl Aelodau ac maen nhw ar gael iddyn nhw ar yr agenda heddiw.

Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau diwygio yn ein cyfarfod pwyllgor fore ddoe ac fe wnaethom ni gyflwyno ein hadroddiad ar y rheoliadau yn syth ar ôl ein cyfarfod. Mae ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt adrodd technegol o dan Reol Sefydlog 21.2, a thri phwynt rhinwedd o dan Reol Sefydlog 21.3. Unwaith eto, mae ein hadroddiad ar gael fel dogfen ategol ar agenda'r Cyfarfod Llawn, ac ni fyddaf yn rhoi sylwadau ar bob un o'r pwyntiau adrodd y prynhawn yma. Bydd fy nghyfraniad yn canolbwyntio ar ein hail bwynt adrodd technegol a'n pwynt rhinwedd cyntaf.

Mae ein hail bwynt adrodd technegol yn ymwneud â'r pwerau y mae Llywodraeth Cymru wedi dibynnu arnyn nhw i wneud y rheoliadau. Wrth wneud y rheoliadau hyn, nid yw Gweinidogion Cymru wedi dibynnu ar y pŵer galluogi sydd wedi ei gynnwys yn adran 45C(4)(d) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Mae adran 45C(4)(d) o Ddeddf 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gynnwys mewn rheoliadau, gyfyngiad neu ofyniad arbennig.

Mae rheoliadau 2 a 4 o'r rheoliadau hyn, yn y drefn honno, yn diwygio rheoliadau 5 a 7 o'r prif reoliadau, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gau llety gwyliau a mannau addoli yn ystod cyfnod yr argyfwng. Mae rheoliad 7 o'r rheoliadau diwygio hyn hefyd yn diwygio amryw o ddarpariaethau'r prif reoliadau ynghylch cau adeiladau.

Yn ein hadroddiad, fe wnaethom ni ddweud ei bod yn ymddangos y dylai Gweinidogion Cymru ddibynnu ar bwerau galluogi o dan adran 45C(4)(d) o Ddeddf 1984 i wneud rheoliadau 2, 4 a 7. Rwy'n nodi bod Llywodraeth Cymru o'r farn bod y rheoliadau hyn wedi eu gwneud trwy arfer y pwerau sy'n adlewyrchu eu cynnwys yn gywir. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y pŵer i wneud rheoliadau yn canolbwyntio ar adran 45C(1) o Ddeddf 1984 ac y byddai cyfeirio at adran 45C(4) o Ddeddf 1984 yn annefnyddiol ac yn anghywir.

Felly, gan symud ymlaen at ein pwynt adrodd cyntaf ar rinweddau, sy'n ymwneud â hawliau dynol, mae'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau diwygio yn nodi asesiad Llywodraeth Cymru o'r ymyrraeth ag erthyglau penodol yn y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Mae'r memorandwm esboniadol yn enwi erthyglau 1, 8 ac 11. Yn ein barn ni, nid yw'n ymddangos bod yr asesiad wedi ei gwblhau, oherwydd ein bod ni'n credu bod erthygl 9 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol—rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd—yn gysylltiedig â rheoliadau 4 a 6 o'r rheoliadau hyn. Hawl gymwysedig yw'r hawl hon, sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru ymyrryd ag arfer yr hawliau yn yr un modd â gydag erthyglau 8 ac 11 o'r confensiwn Ewropeaidd. Ac, yn ogystal â hyn, tan ddiwedd cyfnod pontio ymadael yr UE, bydd Siarter Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd yn berthnasol i'r Deyrnas Unedig.

Mae amddiffyniadau cyfatebol i'r rhai yn y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol wedi eu cynnwys yn siarter hawliau sylfaenol yr UE: yn amodol ar yr egwyddor o gymesuredd, gellir cyflwyno cyfyngiadau sy'n effeithio ar yr hawliau o dan y siarter os ydyn nhw'n angenrheidiol ac yn diwallu yn wirioneddol amcanion o fuddiant cyffredinol sy'n cael eu cydnabod gan yr Undeb Ewropeaidd neu'r angen i amddiffyn hawliau a rhyddid pobl eraill.

Yn ei hanfod, yn ein barn ni, mae'r cyfiawnhad a roddir gan Lywodraeth Cymru ynghylch erthyglau 8 ac 11 o'r Confensiwn Ewropeaidd yr un mor berthnasol i ymyrraeth â'r hawliau o dan erthygl 9 a siarter hawliau'r UE. Diolch, Llywydd.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 5:58, 29 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am ddod â'r rheoliadau hyn ger ein bron; fel yr ydych chi wedi ei ddweud, maen nhw eisoes ar waith. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn eu cefnogi nhw, ond mae gen i gwestiwn neu ddau, Gweinidog, yr hoffwn eu gofyn i chi amdanyn nhw wrth i ni symud ymlaen.

Rydym ni yn croesawu'r rhan o'r rheoliadau sy'n dweud bod yn rhaid i bobl beidio â gadael eu cartref am unrhyw gyfnod o amser. Mewn geiriau eraill, mae hyn yn ffordd o atal pobl rhag mynd i ail gartrefi a phenderfynu preswylio yno. Ond mae nifer o sefydliadau wedi gofyn i mi am eglurder ynghylch hyn. A yw'r rheoliadau hyn mewn gwirionedd yn rhoi'r grym i'r heddlu guro ar y drws a dweud wrth y deiliaid, 'Mae'n rhaid i chi fynd yn eich car a gadael nawr' neu a yw dal yn wir mai dim ond eu cynghori  y dylen nhw ddychwelyd y gall yr heddlu ei wneud?

Mae'n galonogol iawn bod y rheoliadau hyn wedi cyflwyno'r gallu i bobl fynd allan ac ymgymryd â phob math o ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd os ydyn nhw'n perthyn i fath penodol o gategori, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Ac rwy'n gwybod bod hynny mewn gwirionedd wedi rhoi llawer o lawenydd i rai teuluoedd sydd o dan straen aruthrol oherwydd bod ganddyn nhw blant ag anableddau dysgu ac y mae angen iddyn nhw fod â'r gallu hwnnw i fynd allan a gwneud mwy o ymarfer corff.

A fyddech cystal â dweud wrthyf i sut yr ydych chi wedi asesu risg y mesurau cyfyngiadau symud hyn, neu'r rheoliadau sy'n arwain at hyn—felly, y set wreiddiol o reoliadau a'r rhain? Rwy'n tybio bod proses ymwybodol yn ei gylch sy'n ystyried pa risgiau sydd ar waith pan fo gennym ni'r rheoliadau hyn. Felly, rwy'n tybio y byddai asesiadau risg wedi ystyried materion iechyd meddwl, sut y bydd pobl yn ymateb i hyn—gallai fod wedi ystyried materion unigedd cymdeithasol—a byddai gen i ddiddordeb mawr gwybod a allwch chi roi rhywfaint o ddirnadaeth i ni o hyn, yn enwedig os yw'r rheoliadau hyn yn mynd i orfod parhau am gyfnod penodol o amser, wrth symud ymlaen.

Ac mae hynny'n fy arwain i at fy mhwynt olaf, sef: ai drwy'r rheoliadau hyn neu ddiwygiad arall iddyn nhw y byddech chi'n dechrau ceisio codi'r cyfyngiadau symud? Oherwydd fy mod i wedi tybio, ac mae'n bosibl iawn fy mod i'n anghywir, felly byddwn i'n ddiolchgar am eich arweiniad, wrth i ni symud ymlaen ac os ydym yn gallu codi rhywfaint o'r cyfyngiadau symud, yna bydd angen newid a ffurfio'r rheoliadau hyn yn gyson. A fyddwch chi'n parhau i wneud hynny ac a fydd y rheoliadau hyn y rhai a fydd yn dal i ddweud wrth bobl, 'Mae'n rhaid i chi gadw 2 fetr ar wahân', neu a fyddech chi'n ceisio cyflwyno deddfwriaeth tymor hirach?

Rydym ni mewn sefyllfa anodd iawn, ac, yn amlwg, rwyf i wedi cael llawer iawn o negeseuon e-bost, fel eraill rwy'n siŵr, gan bobl sy'n dechrau teimlo efallai fod hyn yn amharu ar eu hawliau dynol. Rwy'n gwybod bod Cadeirydd y pwyllgor wedi codi'r pwynt hwnnw a'i fod newydd wneud sylw. Rydym ni mewn cyfnod digynsail. Rwy'n credu bod y rheoliadau hyn mor ysgafn ag y gallan nhw fod, ond rwyf i yn credu y byddai'n dda iawn pe gallem ni roi gwybod i bobl am ba hyd y byddech yn gweld y rhain yn parhau wrth i ni symud ymlaen. Diolch, Gweinidog.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:01, 29 Ebrill 2020

[Anhyglyw.]—y rheoliadau yma, ond mae hi'n bwysig iawn ein bod ni wir yn gwerthfawrogi difrifoldeb beth rydyn ni'n ei drafod. Rydyn ni'n siarad yn fan hyn am rai o'r penderfyniadau mwyaf mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'u wynebu yn ei hanes, mewn ffordd. Y cwestiwn sydd yn ein hwynebu ni mewn gwirionedd ydy: ydyn ni wedi ein hargyhoeddi, ydyn ni'n rhoi cefnogaeth i reoliadau Llywodraeth Cymru sydd yn rhoi'r mecanwaith cyfreithiol yna i orfodi y newidiadau pellgyrhaeddol a digynsail i'r ffordd o fyw rydyn ni wedi eu gweld dros yr wythnosau diwethaf?

Mae'r prif reoliadau a'r rheoliadau diwygio yn cael eu gwneud dan y weithdrefn gadarnhaol, ond mewn ffordd ôl-weithredol—retrospective, os liciwch chi—fel y gwnaeth y Gweinidog ato fo yn ei sylwadau agoriadol. Mae hynny, dwi'n meddwl, yn adlewyrchu mor anghyffredin ydy'r sefyllfa rydyn ni'n canfod ein hunain ynddi hi. Felly, maen nhw eisoes mewn grym, ond mae'n rhaid i'r Llywodraeth sicrhau cefnogaeth y Cynulliad yma o fewn 28 diwrnod o ddyddiad gwneud y rheolau treuliadau er mwyn iddyn nhw barhau i fod yn gyfraith yng Nghymru.

Rŵan, nid ar chwarae  bach mae cyfyngiadau ar ein rhyddid ni o'r math yma wedi eu cyflwyno. Rydyn ni yn gweld cydnabyddiaeth bellach o fewn corff y rheoliadau o ba mor bellgyrhaeddol ydyn nhw yn y gofyniad sydd ar Weinidogion i 

'adolygu’r angen am gyfyngiadau a gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn bob 21 o ddiwrnodau'.

Dwi'n dyfynnu. Mae hynny, wrth gwrs, yn briodol iawn er mwyn sicrhau cefnogaeth y cyhoedd i'r mesurau a sicrhau ein bod ni'n gwneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth ddiweddaraf. Ac ydy, mae'r dystiolaeth yn newid; rydyn ni'n dysgu'n gyson.

Y dyddiad adolygu nesaf, fel sydd wedi cael ei adrodd yn eang, wrth gwrs, fydd wythnos i fory, dydd Iau 7 Mai. Rydyn ni wedi gweld impact mor ddwfn mae'r rheoliadau a'r cyfyngiadau wedi eu cael, ond mae yna gyd-destun, wrth gwrs, sef yr effaith ddiamheuol o gadarnhaol mae'r mesurau wedi eu cael o ran cyfrannu at atal neu gyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws hyd yma. Dechrau ydym ni, mewn gwirionedd, ar y drafodaeth am yr hyn fyddai angen bod mewn lle cyn y gallen ni hyd yn oed ystyried llacio'r cyfyngiadau mewn unrhyw ffordd—yr angen, sydd wedi cael ei drafod yn gynharach yn y sesiwn yma, am gynlluniau cadarn o ran profi cymunedol ac yn y blaen, cynllunio’r isadeiledd i gefnogi symud i'r cam nesaf. 

Mi orffennaf i'r sylwadau yma drwy ofyn cwestiwn, mewn difrif, i ofyn am sicrwydd. Dydy'r pegwn ddim wedi dod mewn llawer o ardaloedd, yn sicr yn cynnwys yma yn Ynys Môn, ac mae'n rhaid i ni fod yn gochel rhag symud yn rhy gynnar i lacio. Mi fyddem ni, wrth gwrs, yn disgwyl i Lywodraeth wneud yr hyn sy'n iawn i bob rhan o Gymru. Felly, fel dwi'n dweud, tra'n bod ni'n cefnogi hwn, mi fuaswn i yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn ei ymateb yn cadarnhau y byddai hi yn gwbl gynamserol i weld unrhyw lacio neu leihau yn y rheoliadau cyn penwythnos gŵyl y banc, wythnos i ddydd Gwener nesaf. Fe gefnogwn ni'r rheoliadau, ond dŷn ni ddim yn barod i adael iddyn nhw fynd eto, er lles ein hiechyd.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 6:05, 29 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Fe wnaethom ni gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Deddf Coronafeirws y DU 2020, ac mae'n bosibl y byddem ni wedi bod â safbwynt gwahanol ar y rheoliadau hyn pe bydden nhw wedi eu hystyried gan y Cynulliad tua'r adeg y cawson nhw eu rhoi ar waith ar 26 Mawrth. Ond, bryd hynny, roeddem ni'n wynebu posibilrwydd gwirioneddol y byddai ein GIG yn cael ei lethu'n llwyr, ac na fyddai ein hadrannau gofal critigol a dwys yn gallu ymdopi yn yr un modd ag yr oeddem ni wedi ei weld yng ngogledd yr Eidal. Credwyd ei bod yn angenrheidiol gwastadu uchafbwynt hwnnw y pandemig er mwyn sicrhau y byddai'r GIG yn gallu ymdopi. Rydym ni wedi gwneud hynny, a hoffwn i ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig, yn enwedig staff GIG y gwasanaeth cyhoeddus, ond hefyd i Lywodraeth Cymru am y gwaith y mae wedi ei wneud.

Fodd bynnag, mae'n 29 Ebrill erbyn hyn, ac mae nifer yr achosion, nifer y marwolaethau—wrth gwrs, dangosydd oediog—a nifer yr heintiau wedi bod yn gostwng, o leiaf ar lefel y DU a Chymru gyfan, ers peth amser erbyn hyn, yn enwedig yn fy rhanbarth i yn y de-ddwyrain lle gwelsom ni rai o'r cyfraddau heintio uchaf ar y dechrau. Mae'r rhifau hynny, rwy'n falch o ddweud, yn dod i lawr. Mae'r cyfyngiad ar ryddid, y niwed i'r economi a'r niwed, a dweud y gwir, i lesiant pobl y gallwn ei gyfiawnhau yn llai pan fydd yr achosion hynny ar drywydd sy'n sicr yn gostwng o'i gymharu â phan oedden nhw ar drywydd oedd yn cynyddu'n sylweddol gyda'r tebygolrwydd gwirioneddol y byddai'r GIG yn cael ei lethu. Felly, am y rhesymau hynny, rydym ni'n cynnig gwrthwynebu'r rheoliadau hyn mewn pleidlais heddiw.

Mae gennym ni ddwy broblem allweddol arall ynglŷn â'r rhain. Yn gyntaf, rydym yn anhapus bod Llywodraeth Cymru yn deddfu'n wahanol drwy reoliadau i Loegr dim ond er mwyn gwneud hynny. Dywedodd y Prif Weinidog wrthyf i yn gynharach sut yr wyf i'n meiddio awgrymu ein bod ni'n gweithredu neu y dylem ni o gymharu â thempled a bennwyd gan Loegr. Ond dyna yn union yr ydym ni'n ei wneud. Mae'r rheoliadau coronafeirws hyn wedi eu copïo a'u gludo i raddau helaeth o'r fersiynau Lloegr hyn, ac os edrychwch chi ar y dudalen gyntaf, yr unig newidiadau ar ôl i ni eu pasio ychydig oriau yn ddiweddarach—ni wnaeth y Llywodraeth eu gosod gerbron y Cynulliad tan y diwrnod wedyn—yw lle mae'n dweud 'Ysgrifennydd Gwladol' y mae wedi ei ddileu ac mae'n dweud 'Gweinidogion Cymru', a lle mae'n dweud 'Lloegr' y mae wedi ei newid i ddweud 'Cymru'. Felly, ar gyfer Cymru, gweler Lloegr. A phan fo rhai newidiadau wedi eu gwneud, newidiadau penodol nad ydym ni'n cytuno â nhw. Mae'r cyfyngiad hwn ar ymarfer corff, lle mae'r gyfraith yn dweud mai dim ond unwaith y dydd y dylai fod yng Nghymru, ond nid yn Lloegr, nid ydym yn gweld cyfiawnhad dros hynny, yn enwedig gan ei bod yn anoddach dal y feirws yn yr awyr agored nag ydyw mewn gofod caeedig dan do. Rydym ni'n pryderu bod y gorfanylder hyn, y microreoli hwn o beth yn union y mae pobl yn ei wneud o ran ymarfer corff awyr agored yn rhoi amheuaeth i weddill y cyfyngiadau, neu weddill yr anogaeth o ran yr hyn y dylai pobl ei wneud. Rwy'n falch o ddweud bod Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu wedi rhoi rhywfaint o gyfarwyddyd coronafeirws i Gymru, ac maen nhw wedi dweud y gall staff a heddweision Cymru ddefnyddio'r briff ar gyfer Lloegr.

Mae yn dweud wrthyn nhw wedyn y dylen nhw fod yn ymwybodol bod ymarfer unwaith y dydd yn y gyfraith yng Nghymru, ond mae'n dweud nad oes angen iddyn nhw boeni am arweiniad y Llywodraeth ynghylch ymarfer corff, a'r holl bethau hyn am beidio â gyrru i ymarfer corff, neu feicio o fewn pellter cerdded rhesymol i'ch cartref yn unig, oherwydd dim ond arweiniad yw hynny ac nid yw'n gyfraith, felly gall heddweision a staff ddefnyddio'r rheoliadau a wneir ar gyfer Lloegr lle nad yw hyn wedi ei gynnwys, a pheidio â rhwystro pobl rhag gyrru pelllter rhesymol er mwyn gwneud ymarfer corff.

Rydym ni hefyd yn pryderu'n fawr ynghylch y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw'n rhoi terfyn ar y rheoliadau hyn. Mae'r gyfraith yn nodi sut y dylen nhw roi terfyn arnyn nhw. Mae'n dweud yn y rheoliadau, pan nad ydyn nhw'n angenrheidiol i atal lledaeniad heintiau sy'n gymesur â hynny, y dylid cael gwared arnyn nhw, ac mae Llywodraeth y DU wedi gosod pum prawf sy'n mynd i'r pwynt hwnnw. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr lawer hirach o saith maes ac yna cryn dipyn o bethau ategol. Yn ôl y sôn, byddan nhw'n ystyried a ydyn nhw'n cael effaith gadarnhaol uchel ar gydraddoldeb neu beth maen nhw'n ei wneud am Gymru sy'n gyfartal neu'n wyrddach, neu Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, neu a ydyn nhw'n ehangu cyfranogiad ac yn darparu cymdeithas fwy cynhwysol. Mae'n ddrwg gen i, os byddwch chi'n rhoi'r rheoliadau hyn â'r lefel hon o gyfyngiad, nad yw'n bell iawn o fod dan arestiad tŷ, mae angen y gofyniad cryfaf posibl arnoch er mwyn eu cadw. Ni allwch chi gael eich egwyddorion ideolegol a dweud, 'O rydym ni'n mynd i'w cadw nhw'n hirach, am yr holl resymau hyn o bosib', pan nad oes gennych unrhyw sail mewn cyfraith i ddweud hynny. Felly, am y rhesymau hynny, byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:10, 29 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 6:11, 29 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Efallai ei bod yn werth nodi ein bod wedi cymryd camau digynsail i ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag perygl coronafeirws, ac er ein bod ni wedi llwyddo i atal lledaeniad llawer ehangach a mwy trychinebus o coronafeirws, nid yw hyn drosodd eto ac yn sicr nid yw'n ddinod, gyda mwy na 1,000 o farwolaethau wedi'u cadarnhau ledled Cymru. A gwyddom y bydd mwy i ddod. Ond mae'r dull a ddilynwyd gennym gyda'r rheolau yr ydym wedi eu llunio ac ymddygiad y cyhoedd yn sicr wedi helpu i achub bywydau, ac rwyf yn hynod ddiolchgar o hyd nid yn unig i'n staff rheng flaen, ond i aelodau o'r cyhoedd sydd wedi dilyn y rheolau ac wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Fel y gwyddom, cyflwynwyd y ddwy gyfres o reoliadau a drafodwyd heddiw o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, o dan weithdrefnau argyfwng. Yn hytrach na'r feirniadaeth a wnaed gan Blaid Brexit rwy'n credu ei bod yn beth da bod Llywodraethau'r Deyrnas Unedig, y pedair Llywodraeth, wedi rhannu gwybodaeth ac yna wedi gwneud penderfyniadau ar ran y wlad a'r bobl yr ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw o fewn pob un o'r pedair Llywodraeth unigol. Nid wyf yn derbyn safbwynt gwahanol ac, yn fy marn i, camarweiniol  Plaid Brexit y dylem ni wneud yr hyn y mae Lloegr wedi'i wneud, ac yn sicr nid ydym yn ymdrin â mater o egwyddorion ideolegol. Rydyn ni'n edrych ar ddiben a chymesuredd y rheoliadau sydd gennym ni a'u diben.

Daeth y prif reoliadau i rym ar 26 Mawrth, a daeth y rheini â'r farn i mewn am bobl ddim ond yn gadael cartref at ddibenion penodol, gan gynnwys siopa hanfodol, ymarfer corff unwaith y dydd, unrhyw angen meddygol neu i ddarparu gofal neu gymorth i berson sy'n agored i niwed, a theithio i'r gwaith ac oddi yno os yw hynny'n angenrheidiol. I ymdrin â phwynt Angela Burns, ni all yr heddlu fynnu bod pobl yn gadael eu cartrefi pan eu bod nhw'n preswylio yno. Mae'n fater yr ydym yn dal i'w drafod â'r heddlu a llywodraeth leol yn ei gylch, ac nid wyf am ei fychanu, am bobl mewn ail gartrefi. Mae hwnnw'n fater yr ydym yn dal i'w drafod oherwydd yr adolygiad parhaus o'r rheoliadau. Ond prif ddiben y prif reoliadau yw lleihau i ba raddau y mae pobl yn gadael eu cartrefi yn ystod y cyfnod argyfwng parhaus hwn i helpu i atal y coronafeirws, er mwyn lleihau'r baich ar wasanaethau iechyd ac achub mwy o fywydau. Felly, gwaherddir siwrneiau diangen a heb gyfiawnhad.  

Fe wnaeth y rheoliadau diwygio a ddaeth i rym ar 7 Ebrill nifer o newidiadau pwysig, gan gynnwys y mesurau cadw pellter cymdeithasol mewn mannau gwaith. Ac, mewn gwirionedd, rydym ni wedi cael ein dilyn gan rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ar ôl cyflwyno'r rheolau hynny. Fe'u gwnaed i ddiogelu iechyd unigolion a lleihau'r risg o drosglwyddo yn y gweithle. Fe'i gwnaed yn glir hefyd yn y rheoliadau hynny y gall busnesau barhau i ddarparu gwasanaethau ar-lein neu dros y ffôn neu drwy'r post.

Llywydd, fy marn i a barn y Llywodraeth o hyd yw bod y rhain yn gyfyngiadau synhwyrol a gyflwynwyd i ymdrin ag argyfwng iechyd cenedlaethol. Digwyddiad unwaith mewn canrif yw hwn o hyd, a bydd llawer mwy o ddyddiau anodd o'n blaenau. Rydym yn adolygu'r gofynion yn gyson ac yn siarad â rhanddeiliaid i weld pa newidiadau y mae angen eu gwneud. Ac, mewn rhai meysydd, mae'n bosibl iawn y bydd hynny'n golygu cryfhau neu newid gofynion deddfwriaethol, ac mae'n ddigon posibl y bydd hynny'n golygu bod Cymru'n mynd gyntaf neu mewn cyfeiriad gwahanol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, oherwydd mae'n rhaid i ni ymateb i'r cyfrifoldebau sy'n dal i fod gennym, ac ni allwn gontractio allan ohonyn nhw ar ran pobl Cymru. Mewn meysydd eraill, efallai y byddan nhw'n cael eu lliniaru, pan ei bod yn ddiogel i wneud hynny. 

Nawr, fel y bydd Aelodau yn gwybod, fe wnaethom ddiwygio'r prif reoliadau ymhellach ddydd Gwener diwethaf, yn rhan o'r broses adolygu barhaus. Mae'r rheoliadau hynny yn gwneud nifer o ddiwygiadau, gan gynnwys caniatáu ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd penodol, ac mae'n amlwg bod ymweld â mynwent neu dir claddu arall i dalu teyrnged i berson sydd wedi marw yn esgus rhesymol dros adael y lle yr ydych yn byw ynddo. A bydd y rheoliadau diwygio hynny yn dod gerbron y Senedd yn fuan iawn.

Rwyf eisiau ymdrin â pheth o'r her ynghylch y dull cyfunol sydd gennym, ac mae'r negeseuon canolog yn aros yr un fath: gall unrhyw un gael y firws, gall unrhyw un ei ledaenu, ac mae angen o hyd i ni barhau i aros gartref, amddiffyn y GIG ac achub bywydau. Rwy'n credu nad oedd tôn peth o gyfraniad Mr Reckless mor ddefnyddiol ag y byddwn i wedi dymuno iddo fod wrth atgyfnerthu'r neges honno, oherwydd rydym ni yn gweld effeithiau'r mesurau hynny ac yn cymryd y camau angenrheidiol i helpu ein GIG i ymdopi, i gadw gwasanaethau hanfodol i barhau ac i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed, ond mae ffordd bell i fynd eto. Felly, rydym yn adolygu'r mesurau ac yn gwneud newidiadau i ymateb i'r heriau a wynebir mewn rhannau o'r wlad a gan deuluoedd ledled Cymru.

Mae'r rheoliadau a weithredir yng Nghymru yn hanfodol ar sail y cyngor clinigol a gwyddonol i ymateb i'r sefyllfa hon. Mae'r mesurau'n rhai dros dro ac yn gymesur â'r bygythiad a wynebwn, a dim ond am gyhyd ag y bydd eu hangen y byddan nhw'n cael eu rhoi ar waith. Maen nhw'n cael eu hadolygu'n barhaus, gyda chyngor ar gydbwysedd y risg yn yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn, ac mae cyfnod adolygu ffurfiol o 21 diwrnod yn edrych ar y saith prawf a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddydd Gwener diwethaf i benderfynu ar yr angenrheidrwydd i'r rheoliadau barhau. Ac yn fy marn i, rydym ni mewn gwell sefyllfa yng Nghymru oherwydd ein bod ni wedi bod yn fwy agored ac wedi darparu mwy o fanylion am y profion hynny ar gyfer parhad y rheoliadau hyn, a'r llwybrau posibl drwy'r cyfyngiadau symud. Ni ddylai unrhyw un ddisgwyl y bydd y cyfyngiadau'n dod i ben ar gyfer penwythnos gŵyl y banc; fyddan nhw ddim. Bydd y llwybr allan o'r cyfyngiadau symud yn cael ei gyflwyno'n raddol ac yn bwyllog.

Felly, gofynnaf i'r Senedd gefnogi'r rheoliadau hyn a chytuno eu bod yn angenrheidiol i sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru yr ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw. Fel y dywedais, byddan nhw'n cael eu hadolygu'n barhaus a'u dileu neu eu diwygio cyn gynted ag y bydd hi'n ddiogel i ni wneud hynny.  

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:17, 29 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Y cynnig yw derbyn y cynigion. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, rwyf yn gweld gwrthwynebiad ac felly symudwn i bleidleisio ar y cynigion.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.