– Senedd Cymru am 1:20 pm ar 3 Mehefin 2020.
Wel, rydym yn ailymgynnull ar gyfer ein cyfarfod llawn y prynhawn yma, a'r eitem nesaf ar ein hagenda yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y coronafeirws, COVID-19, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Prynhawn da.
Bydd y datganiad heddiw yn canolbwyntio ar roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ailddechrau mwy o weithgarwch y GIG yma yng Nghymru. Rwyf yn falch o ddweud, er ein bod yn dal i gefnogi'r rhai sydd â'r coronafeirws arnyn nhw, fod nifer yr achosion a gadarnhawyd yn gostwng, fel y mae nifer y bobl sydd wedi colli eu bywydau yn y pandemig. Ddoe, cadarnhawyd 67 o achosion newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac roedd y ffigurau marwolaethau mewn ffigurau sengl. Fodd bynnag, roedd pob rhif yn unigolyn, ac yn atgof poenus o'r angen am ofal a phwyll gan bob un ohonom ni, nawr ac yn y dyfodol rhagweladwy os ydym ni eisiau lleihau lledaeniad y feirws.
Ni ddylai neb ddiystyru pwysigrwydd parhau i fod yn barod os ydym ni'n gweld unrhyw gynnydd yn y feirws yn y dyfodol ac eisiau ymdopi â hynny. Mae angen o hyd i ni gefnogi pobl yn ein cymunedau sydd angen ein gwasanaeth iechyd am resymau eraill nad ydynt yn gysylltiedig â COVID. Cymeradwyais fframwaith gweithredu GIG Cymru a gyhoeddwyd ar 6 Mai. Mae'n disgrifio pedwar math o niwed: niwed uniongyrchol o COVID ei hun; niwed gan y GIG a system gofal cymdeithasol wedi'u llethu, fel y gwelsom ni yn yr Eidal, er enghraifft; niwed yn sgil lleihad mewn gweithgarwch nad yw'n gysylltiedig â COVID; a niwed gan gamau gweithredu cymdeithasol ehangach, gan gynnwys y cyfyngiadau symud.
Rwy'n cydnabod bod angen i ni weithredu yn araf ac yn bwyllog. Felly, mae cynllunio tymor byrrach ar gylchoedd chwarterol yn bwysig er mwyn i'n sefydliadau ddangos y gallant fod yn ystwyth ac yn hyblyg. Mae gallu dargyfeirio adnoddau yn hawdd ac yn gyflym er mwyn addasu i'r galw, rhwng y gwasanaethau hanfodol yn ymwneud â COVID-19 â'r rhai nad ydynt yn ymwneud â COVID, yn hollbwysig. Gan gydnabod pob un o'r pedwar niwed posib, mae cynlluniau chwarter 1 wedi'u hanelu'n benodol at gynyddu gweithgarwch hanfodol y GIG yn raddol, gan fynd i'r afael â'r gofynion presennol sy'n deillio o COVID-19. Rydym ni i gyd yn cydnabod ei bod hi'n bwysig sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn gweithredu'n effeithlon i'r rhai sydd eu hangen, ond mewn ffordd ddiogel ac effeithiol. Y ffaith yw y bydd bygythiad COVID-19 gyda ni am beth amser eto.
Cafwyd cynlluniau chwarter 1 yn ôl y gofyn ar 18 Mai. Maent yn nodi sut y mae ein byrddau a'n hymddiriedolaethau iechyd yn bwriadu darparu'r amrywiaeth o wasanaethau hanfodol, gan gynnwys canser, y galon, offthalmoleg a gwasanaethau eraill, yn aml mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Mae llawer o sefydliadau'n gweithio i aildrefnu eu hadeiladau, i ddarparu ardaloedd lle mae staff a chleifion yn teimlo y gellir cynnal profion diagnostig a chael triniaeth yn ddiogel. Mae defnyddio ysbytai ychwanegol yn y sector annibynnol wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer rhai o'r triniaethau hynny. Mae byrddau iechyd wrthi'n adolygu'r defnydd o'r cyfleusterau sydd ar gael i weld sut y gellid eu defnyddio yn y dyfodol. Ein nod yw i'n system gofal iechyd ail-gydbwyso o fewn amgylchedd ysbyty mwy arferol. Mae'r gwaith hwn gyda'r sector annibynnol wedi bod yn ddefnyddiol, ond wrth gwrs bydd angen i ni adolygu ei ddefnydd, sy'n cael ei archwilio yn y cynlluniau.
Mae'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd wedi gwneud trefniadau i greu capasiti ychwanegol mewn ysbytai maes. Mae'n beth cadarnhaol iawn ac ni ddylem ni golli golwg ar y ffaith nad ydym ni wedi gorfod gwneud defnydd sylweddol o ysbytai maes yn ystod anterth cyntaf y feirws. Mae'r cynlluniau'n adlewyrchu'r angen i adolygu ac ailasesu wrth i ni gamu i'r dyfodol. Bydd adolygiad cenedlaethol o gyfleusterau ysbytai maes yn ystod mis Mehefin yn cefnogi'r gwaith hwn.
Mae problemau i'w goresgyn o hyd wrth inni ddechrau diweddaru ein gwasanaethau hanfodol. Bydd angen sicrhau bod digon o gyfarpar diogelu personol, meddyginiaethau, profion, staff a hyfforddiant ar gael, a dyma'r hyn y mae'r cynlluniau'n ei amlinellu. Yn ogystal, rwyf wedi gofyn i'r GIG barhau i ystyried lle y gall wneud mwy o ddefnydd o ddatrysiadau rhanbarthol, gan gronni adnoddau ac arbenigedd i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal gorau.
Fodd bynnag, o'r argyfwng hwn, rydym ni hefyd wedi gallu cofleidio arloesedd. Mae llawer mwy o dechnoleg wedi'i defnyddio dros y 10 wythnos diwethaf. Yn y pythefnos rhwng 19 a 26 Mai, cafwyd 977 yn fwy o ymgynghoriadau o bell ar draws y GIG drwy ddefnyddio gwasanaeth ymgynghori fideo newydd GIG Cymru. Gan ddefnyddio'r ffyrdd newydd hyn o weithio i'r GIG, gallwn wneud llawer mwy o hyd, gyda modd cynnal cyfran gynyddol o ymgynghoriadau yn rhithwir. Yr un mor bwysig, nododd 97 y cant o gleifion ac 85 y cant o glinigwyr fod y ffordd newydd hon o weithio yn 'ardderchog', 'da iawn', neu'n 'dda'. Rydym ni hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y gwasanaethau dilynol y gellid eu cynnal i gleifion allanol dros y ffôn. Mae hynny'n dangos sut yr ydym ni, yn ein hymateb i'r pandemig, yn defnyddio offer a gwasanaethau sy'n bodoli eisoes i ddarparu gofal mewn ffyrdd mwy effeithlon. Felly, rydym ni'n newid y ffordd yr ydym ni'n darparu gwasanaethau, ac yn defnyddio ein hadnoddau'n wahanol.
Er enghraifft, sefydlodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ganolfan ar gyfer y bwrdd iechyd hwnnw yn ei gyfanrwydd i gydgysylltu'r llif cleifion, gan gynnwys rhyddhau cleifion yn gyflym, uwchgyfeirio cymunedol, ac unrhyw gapasiti ychwanegol o fewn eu hysbytai maes o ran ymchwydd neu ymchwydd sylweddol. Mae ganddyn nhw hefyd grŵp moderneiddio gwasanaethau i gleifion allanol sy'n cynllunio i ailgychwyn gwasanaethau. Ac mae'r rhain yn datblygu modelau gofal newydd a ffyrdd o weithio a fabwysiadwyd mewn ymateb i COVID.
Bydd fy swyddogion yn cyfarfod â phob sefydliad dros yr wythnosau nesaf i adolygu eu cynlluniau a'u cynorthwyo i sicrhau y cânt eu rhoi ar waith. Roedd y fframwaith gweithredu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau i Lywodraeth Cymru fel y corff sy'n galluogi hyn fel modd o gefnogi'r broses weithredu. Ymysg peth o'r gweithredu hwnnw mae'r gronfa fuddsoddi mewn blaenoriaethau digidol a gyhoeddais fis Medi diwethaf. Fe'i defnyddiwyd i gyflymu rhaglenni a mentrau digidol newydd. Mae hyn yn cynnwys cyflymu'r broses o gynnal ymgynghoriad fideo ledled Cymru, seilwaith a dyfeisiau i alluogi gweithio o bell, a system ddigidol newydd ar gyfer olrhain cysylltiadau, a gyflwynwyd i gyd mewn wythnosau. Mae rhaglen i sicrhau bod Microsoft Teams ac Office 365 ar gael i holl staff y GIG, a ddechreuodd yr hydref diwethaf, wedi'i chywasgu o dair blynedd i un. Byddaf hefyd yn cyflwyno system ddigidol newydd i'w defnyddio mewn unedau gofal dwys, adnodd digidol newydd ar gyfer gofal llygaid, a chyflymu'r broses o uwchraddio ein gwasanaethau patholeg digidol. Mae'r modd y mae sefydliadau wedi gweithio gyda'i gilydd mor gyflym i ddefnyddio technolegau digidol newydd wedi bod yn drawiadol.
Mae Rhwydwaith Gofal Critigol a Thrawma Cymru wedi datblygu cyngor drafft ar ofal critigol yn ystod y cam nesaf o'r pandemig ac yn ailddechrau gwasanaethau'r GIG, ynghyd â chanllawiau sydd newydd eu cyhoeddi. Mae ymgyrch gyfathrebu barhaus yn cael ei datblygu i annog cleifion i ddefnyddio'r gwasanaethau hanfodol hynny, a darparwyd arian ar gyfer sefydlu ysbytai maes, capasiti sector preifat, ac, yn wir, ein gweithlu myfyrwyr.
Gan ddefnyddio'r adborth a'r adolygiad o chwarter 1, byddwn yn symud tuag at ddull fframwaith parhaus ar gyfer chwarter 2. Bydd hyn yn cynnwys deall y camau nesaf yn y cynllunio dros fisoedd yr haf ac ar gyfer cynlluniau wrth gefn y gaeaf yn chwarter 3. Wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd. Rwyf hefyd wedi rhoi mwy o fanylion i'r Aelodau am gynlluniau chwarter 1 mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais yn gynharach heddiw.
Dydd Llun yr wythnos hon, lansiwyd ein gwasanaeth profi, olrhain a gwarchod cenedlaethol gyda GIG Cymru. Mae olrhain cyswllt yn gam nesaf hanfodol yn ein brwydr yn erbyn COVID-19. Bydd yn ein helpu i atal trosglwyddo'r feirws, diogelu'r cyhoedd, canfod achosion o'r haint a gweithredu'n gyflym i reoli clystyrau ac achosion. Dechreuodd y gwasanaeth cenedlaethol newydd, yn ôl y bwriad, ddydd Llun 1 Mehefin. Felly, cysylltir ag unrhyw un sydd wedi profi'n bositif am y coronafeirws yng Nghymru nawr gan ofyn am fanylion yr holl bobl y buont mewn cysylltiad â nhw pan oedd ganddyn nhw'r symptomau.
Fel y dywedais o'r blaen, ein dull ni o weithredu yw meithrin a chynyddu ein gallu i olrhain cysylltiadau'n lleol. Y gwir amdani yw na fydd cynllun cenedlaethol yn gweithio oni bai ein bod yn gwneud defnydd llawn o'r wybodaeth, y sgiliau a'r arbenigedd lleol sydd wedi'u datblygu dros flynyddoedd lawer o fewn timau diogelu iechyd yn ein hawdurdodau lleol a'n byrddau iechyd. Mae gweithio mewn partneriaeth fel hyn wedi ein galluogi i ddod â gweithlu o dros 600 o olrheinwyr cyswllt ynghyd drwy Gymru benbaladr i ddechrau'r gwasanaeth cenedlaethol newydd yn gyflym. Bydd cynlluniau rhanbarthol, a gytunir ar y cyd gan bartneriaid llywodraeth leol a byrddau iechyd, yn ein galluogi i gynyddu'r gweithlu'n gyflym, os a phan fydd angen. Mae hyn yn dilyn ymarfer arbrofol llwyddiannus pythefnos o hyd mewn pedwar rhanbarth bwrdd iechyd yng Nghymru. Pwyslais allweddol y cynlluniau arbrofol oedd sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant, y canllawiau a'r cymorth safonol sydd eu hangen arnyn nhw i allu gwneud y swyddogaeth hynod bwysig a heriol hon yn effeithiol.
Ers dydd Sul, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi 208 o achosion cadarnhaol, ac mae pob un ohonyn nhw wedi'u trosglwyddo i'n timau olrhain cyswllt. Lle bo'n briodol, mae pobl wedi cael eu cyfweld ac, ar gyfartaledd, mae hyn yn dynodi tri neu bedwar o gysylltiadau dilynol pellach fesul achos cadarnhaol. Mae'r adborth cynnar hefyd yn dangos bod yr unigolion y cysylltwyd â nhw gan ein timau olrhain yn cymryd rhan yn gadarnhaol. Hyd yn hyn, mae'r arwyddion yn galonogol, ond ni ddylem ni, ac ni ddylem ni fyth gymryd y gefnogaeth gyhoeddus yn ganiataol. Felly, am y tro, canolbwyntir ar yr wythnosau nesaf, lle gallwn ni wneud gwahaniaeth, a chael y cydbwysedd cywir rhwng pob un o'r pedwar maes niwed wrth i ni geisio helpu i gadw Cymru'n ddiogel.
Diolch. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Byddwch yn ymwybodol bod y sefyllfa drasig yng nghartrefi gofal Cymru wedi sbarduno'r comisiynydd pobl hŷn i gyfeirio Llywodraeth Cymru at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae wedi tynnu sylw at oedi wrth brofi fel pryder allweddol.
Ar 16 Mai, fe wnaethoch chi gyhoeddi y byddai profion yn cael eu hehangu i bawb mewn cartrefi gofal. Fodd bynnag, yn ôl un awdurdod lleol, mae gobaith y caiff eu cartrefi gofal, o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, eu profi erbyn 8 Mehefin. Fodd bynnag, fe'i disgrifiwyd fel targed uchelgeisiol. Pam y mae wedi cymryd dros dair wythnos ers eich cyhoeddiad i brofi pob cartref gofal, i gynnwys ein preswylwyr a'n gweithwyr gofal yno? A gytunwch chi hefyd fod y ffaith y cafodd cleifion eu rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal heb unrhyw brofion, gan roi llawer mewn perygl, yn gwneud hyn yn fwy gwarthus byth?
Ac yn olaf, Gweinidog, a wnewch chi egluro pam na chaiff data eu casglu na llygaid eu cadw ar y rhai sy'n derbyn gofal cymdeithasol yn eu cartrefi eu hunain o ran COVID-19? Mae hyn yn ymddangos i mi yn rhan anghofiedig o'n cymdeithas, gan eu rhoi nhw, ein gweithwyr gofal cymdeithasol a'n gweithwyr gofal cartref ein hunain mewn perygl.
Diolch i'r Aelod am y tri chwestiwn, rwy'n credu, ond dechreuaf gyda'r sylw cyntaf. Mae'n glir iawn nad ydym ni'n llac nac yn gamarweiniol gyda'n hiaith: ni wnaeth y comisiynydd pobl hŷn gyfeirio Llywodraeth Cymru at y Comisiwn Hawliau Dynol—mae hi wedi cael sgwrs ac mae hi wedi egluro ei bod hi eisiau gweld y sefyllfa mewn cartrefi gofal ledled y DU yn cael ei gwerthuso, ac, fel y nododd y Prif Weinidog, ac yn wir fel y gwneuthum i, rydym ni yn disgwyl cynnal ymchwiliadau gwerthuso a byddwn yn hapus i gydweithredu â phob un o'r ymchwiliadau swyddogol hynny. A bydd y Senedd hon, rwy'n tybio, eisiau cynnal ei hymarfer ei hun o ran ystyried y gwersi a ddysgwyd a'r penderfyniadau a wnaed ar y pryd.
Felly, o ran gofal cartref, o ran eich cwestiwn olaf, mae'n peri pryder penodol i mi ac i'r Dirprwy Weinidog. Mae'n faes y buom eisoes yn ymwneud ag ef o ran profi gweithwyr allweddol. Ac mae'n faes sydd, rwy'n gwybod, yn bryder rheolaidd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd, oherwydd yr ydym ni'n cydnabod bod problem o ran trosglwyddo a sut yr ydym yn amddiffyn pobl, a hynny'n aml yn sgil pobl yn dod i mewn i gartref yr unigolyn hwnnw. Felly, mae ar y staff eu hunain eisiau'r sicrwydd nad ydyn nhw, i bob pwrpas, yn gweithredu i drosglwyddo'r coronafeirws i'r bobl agored i niwed y maen nhw'n helpu i ofalu amdanynt, a dyna pam yr oedden nhw bob amser yn un o'r gweithwyr allweddol yn ein system, ac, wrth gwrs, mae mynediad ar-lein bellach ar gyfer y system o brofion sydd gennym ni yng Nghymru.
Bydd pob cartref gofal yn cael ei brofi o fewn y pythefnos nesaf. Mae rhai byrddau iechyd yn meddwl y gallan nhw gael y prawf hwnnw o fewn yr wythnos i 10 diwrnod nesaf. Bydd eraill ychydig yn hwyrach, ond, o fewn y pythefnos nesaf, disgwyliaf i bob cartref gofal, preswylwyr a staff gael eu profi. Dyna'r dewis polisi bwriadol a wnaethom ni, a chredaf mewn gwirionedd fod yr amser a gymer hi i wneud hynny'n cymharu'n dda â phob gwlad arall yn y DU, gan gynnwys, wrth gwrs, Lloegr dros y ffin, lle deallaf nad yw oddeutu chwech o bob 10 cartref gofal wedi cael eu profi eto. Ond fel y dywedais, rydym yn disgwyl, o fewn pythefnos, y bydd pob cartref gofal yng Nghymru wedi cael ei brofi.
Peth arall, o ran y sylw olaf a wnaethoch chi, y mae angen imi ymateb iddo, yw y dylai pobl â symptomau fod wedi cael prawf cyn cael eu rhyddhau o'r ysbyty bob tro. Dylai wastad fod prawf cyfredol wedi bod i bobl sydd wedi gadael yr ysbyty. Fe wnaethom ni symud i sefyllfa—a gydnabuwyd gennym ni ar y pryd y tu hwnt i gyngor gwyddonol a chyngor ein prif swyddog meddygol ynghylch a oedd sail wyddonol i wneud hynny—i brofi pawb a ryddheir i gartref gofal, pa un a oes symptomau ganddyn nhw neu beidio, ond roedd a wnelo hynny'n benodol â sicrhau bod hyder o fewn y system, gan ein bod yn cydnabod y gellid achosi mwy o niwed pe bai'r system gyfan wedi ei gorlwytho. Mewn cyfnod arferol, trafodwn y niwed a achosir i bobl nad ydynt yn cael eu rhyddhau'n effeithiol ac yn gyflym, ac felly roedd hyn, rwy'n credu, yn fesur pragmatig a phriodol. Ac rwy'n siŵr y bydd gennyf fwy o amser i ail-drafod y gorffennol ar achlysuron eraill, ond rwy'n fodlon ein bod yn gwneud y peth priodol ar y sail dystiolaeth gywir ar hyn o bryd ar gyfer pobl Cymru.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Mae'n rhaid imi ddweud, er eich bod yn dweud y bydd y profion hyn yn digwydd o fewn pythefnos, gwyddoch am y ffigurau uchel sydd wedi'u cofnodi yma yn y gogledd, yn fy marn i, pe byddech yn profi pob cartref yn sydyn, dyweder o fewn dau neu dri diwrnod, ni fyddem yn gweld ein ffigurau'n cynyddu yn unig, byddem yn eu gweld yn saethu i fyny.
Nawr, agorwyd y ganolfan brofi yma yn Llandudno ar 29 Ebrill. Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth a gyflwynais i fwrdd Betsi Cadwaladr, dim ond 258 o weithwyr cartref nyrsio ac awdurdod lleol a brofwyd ar safle Llandudno erbyn 28 Mai. Mae hyn mewn gwirionedd yn cyfateb, ar gyfartaledd, i wyth gweithiwr y dydd. Mae beirniadaeth ynghylch y ffaith nad oes llawer o ddefnydd ar y ganolfan brofi pan fo hi'n dal yn angenrheidiol cynnal profion torfol yma yn y gogledd. Felly, hoffwn gael eich barn ar hynny. Pam y gwelwyd cyn lleied o weithwyr allweddol yn y ganolfan hon y mis diwethaf? A beth ydych chi'n ei wneud i fonitro faint o brofion a gynhelir ym mhob canolfan profi drwy ffenest y car drwy Gymru gyfan? Hoffwn weld y ffigurau hynny'n cael eu hadrodd.
Mae profi yn parhau'n drafferthus yn hyn o beth. O 27 Mai, gellid cynnal dros 9,000 o brofion bob dydd. Ddydd Llun, dim ond 2,492 o brofion a gynhaliwyd. Pam na ddefnyddir yr holl gapasiti sydd yna i brofi, pan wyddom ni yn ein cymunedau fod gennym ni'r bobl hyn—pobl sy'n agored i niwed—y mae angen y profion hyn arnynt? Sut y gallwn ni felly fod â ffydd mewn profi, olrhain a diogelu os nad yw nifer y profion beunyddiol yn ddim ond tua 10 y cant o'r 20,000 o brofion beunyddiol y mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol y byddid eu hangen i olrhain cysylltiadau?
Ymdriniaf â'r sylw olaf yn gyntaf. Mae angen hyd at 20,000 o brofion i olrhain cysylltiadau, yn dibynnu ar le yr ydym ni arni o ran codi'r cyfyngiadau symud a chyfradd lledaeniad yr haint. Mae ceisio cymharu lle yr ydym ni arni nawr â'r hyn a allai ddigwydd fisoedd yn y dyfodol yn beth pur ffôl i geisio ei wneud ac nid yw'n ffordd onest o ddisgrifio'r sefyllfa sydd ohoni. Ac rwy'n credu, ar adeg pan fo pobl yn poeni, bod ceisio rhoi syniadau a ffigurau sy'n amlwg ac yn ddiymwad yn gamarweiniol, yn hynod anghyfrifol.
Chi sy'n gwneud hynny.
O ran eich ffigurau ar gyfer profion yn y gogledd ac mewn cartrefi gofal, rydym ni mewn gwirionedd yn cloriannu ac yn gweld mai yn y gogledd y mae'r gymhareb fwyaf o ran profion y pen o holl ardaloedd byrddau iechyd y wlad. Felly, cafodd mwy o brofion eu cynnal yma eisoes nag mewn unrhyw le arall. Ond y newyddion da ynghylch hynny yw, er bod yna fwy o bobl a ddynodwyd fel rhai â COVID-19 arnyn nhw, rydym ni'n cydnabod, mewn gwirionedd, o ran y niwed sy'n cael ei achosi, o ran derbyniadau i ysbytai ac, yn wir, wedyn o ran cyfraddau marwolaeth, o ran cyfraddau marwolaeth dyma'r isaf ond un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru, ac mae hynny'n newyddion da i bobl yn y gogledd.
O ran canolfan brofi Llandudno, byddaf yn cael adborth yn rheolaidd gan fforymau cydnerthedd lleol a phartneriaid eraill, gan gynnwys pobl sy'n cynrychioli staff a chyflogwyr yn y sector gofal cymdeithasol, ac maen nhw wedi dweud ers cryn amser bod gwelliant sylweddol o ran gallu cael profion a defnyddio'r trefniadau atgyfeirio. Maen nhw wedi'u gwella ymhellach nawr, ac mae hi bellach yn haws i'r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr allweddol gael prawf, gyda phob un ohonyn nhw bellach yn gallu mynd ar y we i archebu eu prawf eu hunain yn y ganolfan profi drwy ffenest y car. Felly, rydym ni wedi ei gwneud hi'n bosib nid yn unig i'r labordy gynnal mwy o brofion, ond ei gwneud hi'n haws cael y profion hynny.
Diolch. Rhun ap Iorwerth.
Hoffwn ddychwelyd at rywbeth—[torri ar draws].
Mae'n ddrwg gennyf, Gweinidog, credais eich bod wedi gorffen.
Nac oeddwn, roeddwn i'n siarad ar y pryd. Daeth neges yn dweud bod fy nghysylltiad rhyngrwyd yn ansefydlog. Efallai fy mod wedi tewi am eiliad. Dim ond pwysleisio yr oeddwn i—
Iawn. Mae'n ddrwg gennyf, Rhun, dof yn ôl atoch chi. A ydych chi eisiau gorffen yn fyr, felly, Gweinidog?
Roeddwn ar fy mhwynt olaf. Mae'r ddwy i dair mil o brofion yr ydym yn eu cynnal bob dydd nawr yn fesur o'r angen a'r galw presennol sy'n bodoli o fewn ein system, ond rhagwelwn y bydd hynny'n cynyddu wrth inni godi'r cyfyngiadau symud ymhellach, a chan fod mwy o gyswllt rhwng pobl a mwy o angen, gallwn fynd ar drywydd a phrofi mwy o bobl mewn gwirionedd. Daw hyn â ni'n ôl at yr hyn yr wyf wedi'i ddweud yn gyson—mae angen seilwaith mwy ar ein system profi, olrhain a diogelu, ac rydym ni mewn sefyllfa nawr lle mae gennym ni gapasiti llawer mwy sylweddol i allu gwneud hynny.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Rhown gynnig arall arni nawr, felly. Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Nawr, mae Llywodraeth Cymru hyd yma wedi gwrthod argymell y dylai pobl wisgo mygydau wyneb pan fyddant allan yn gyhoeddus. Y cyngor diweddaraf y gallwn ddod o hyd iddo gan Lywodraeth Cymru yw y gallai pobl eu gwisgo os ydyn nhw'n dymuno, ac nid yw hynny'n arbennig o ddefnyddiol, gan fod pobl yn edrych at y Llywodraeth am arweiniad ar adegau fel hyn.
Mae'n rhaid imi ddweud, mae'r dystiolaeth yr wyf yn ei gweld yn cryfhau fwyfwy ar hyn. Canfu adroddiad pwysig yn The Lancet yr wythnos hon y gallai gwisgo mygydau wyneb gyfrannu mewn modd defnyddiol iawn at gadw cyfraddau heintio yn isel. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud yn bendant nad yw defnyddio mygydau yn ddigon ar ei ben ei hun, ond maen nhw yn dweud y gall gwisgo mwgwd gyfyngu ar ymlediad rhai clefydau feirysol anadlol, gan gynnwys y coronafeirws. Mae'r Ganolfan Rheoli ac Atal Clefydau yn yr Unol Daleithiau yn eu hargymell. Cafwyd astudiaeth ddiddorol yng Nghaliffornia a Taiwan ddiwedd mis Mai yn dweud y gall y feirws aros yn heintus mewn mannau dan do am oriau, a bod yn rhaid gweithredu mesurau a luniwyd i leihau trosglwyddiad aerosol,— ac rwy'n dyfynnu yn y fan yma— gan gynnwys cymell pawb i wisgo mygydau.
Mae tua 50 o wledydd, rwy'n credu, bellach yn mynnu bod pobl yn gwisgo mygydau, mewn rhai sefyllfaoedd o leiaf—dim ond ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn rhai gwledydd, ac yn llawer mwy cyffredin mewn eraill. Nawr, nid oes iddynt y sgil-effeithiau corfforol, a geir o bosib gyda chyffur newydd dyweder, na goblygiadau'r cyfyngiadau symud i iechyd meddwl, felly heb os nac oni bai, dylai'r baich profi fod yn is. Ac os yw'n gwneud cyfraniad, yna pam ddim? Hyd yn oed pe bai dim ond manteision cyfyngedig iawn iddo. Felly, a wnaiff y Llywodraeth wrando ar y dystiolaeth gynyddol honno a chyflwyno canllawiau clir gan fynd ati i annog defnyddio gorchuddion wyneb?
Wel, mae canllawiau a phenderfyniadau'r Llywodraeth y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw, wrth gwrs, yn dibynnu ar gyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton. Mae wedi adolygu'r dystiolaeth, ac mae'r cyngor cyfredol yng Nghymru yn dod o'i gyngor a'i argymhellion i ni, a hynny yw nad oes fawr o fudd ac nad yw yntau mewn sefyllfa lle mae'r dystiolaeth yn ddigon cryf i argymell bod pobl yn gwisgo mygydau mewn sefyllfaoedd penodol y tu allan i waith gofal rheng flaen, wrth gwrs, fel rhan o gyfarpar diogelu personol.
O ran yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol, fel rwyf wedi'i ddweud ac y byddaf yn ei ddweud ar sawl achlysur, lle mae'r dystiolaeth yn newid, byddwn yn hapus i newid ein safbwynt. Ac yn wir, bydd y prif swyddog meddygol, wrth gwrs, yn parhau i adolygu'r dystiolaeth. Ym mhob un o'r sefyllfaoedd hyn—fel y gwelsom ni o ran y polisi profi—mae'n bosib i'r dystiolaeth honno newid yn eithaf cyflym.
Gwnaethom dri dewis polisi gwahanol dros gyfnod o chwe wythnos ynglŷn â phrofi mewn cartrefi gofal oherwydd bod y sail dystiolaeth wedi newid yn gyflym iawn. Ac mae hynny'n peri cryn anesmwythyd i'r cyhoedd, rwy'n gwybod, ond mae hefyd yn peri cryn anesmwythyd i'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau hefyd. Ond os nad ydym ni'n barod i fod yn hyblyg wrth wneud penderfyniadau a bod yn barod i ailystyried lle yr ydym ni arni fel mae'r sylfaen dystiolaeth honno'n dod yn gynyddol amlycach, yna ni fyddwn yn y sefyllfa briodol.
Felly, mae'n bosib y bydd newid yn y dyfodol, ond y cyngor presennol gan ein prif swyddog meddygol yw peidio â gwneud hynny. Ond fel rwy'n dweud, ni fyddwn i eisiau gwadu'r realiti y gallai'r cyngor hwnnw newid ac y gallai cyngor y prif swyddog meddygol newid. Bryd hynny, wrth gwrs, byddech yn disgwyl i Weinidogion wneud penderfyniad gwahanol.
A byddwn i'n eich annog i ofyn i'r prif swyddog meddygol ystyried hyn. Rydych chi'n dweud y gallai fod yn rhywbeth ar gyfer y dyfodol, ond pan fyddwn ni'n ymladd y coronafeirws, nawr yw'r dyfodol mewn ffordd. Gall y penderfyniadau a wneir nawr effeithio ar yr hyn sy'n mynd i ddigwydd i batrwm y clefyd yng Nghymru dros y misoedd nesaf.
Rwyf wedi treulio llawer o'r tri mis diwethaf yn pwyso am y diogelu gorau posib i staff rheng flaen. Fe wnaethoch chi sôn amdanyn nhw, wrth gwrs. Mae angen imi wneud hynny o hyd. Efallai y gallech chi sôn am ar adroddiadau am gyfarpar diogelu personol yn dal i gael eu defnyddio y tu hwnt i ddyddiad terfyn eu hoes—nyrsys yn gweld mygydau â'u hoes wedi dod i ben yn 2008 gyda sticeri oddi tanyn nhw yn dweud 'defnyddiwch erbyn 2016'. Byddwn yn ddiolchgar am gopi o arweiniad ar y broses a ddilynir er mwyn penderfynu pryd y mae cyfarpar diogelu personol a ddaeth i ddiwedd ei oes yn addas ar gyfer ei ailddefnyddio.
Unwaith eto, i orffen, ar y mater hwnnw o'r cyhoedd yn gwisgo mygydau—mae mwgwd cartref yn llawer gwell na dim. Wrth gwrs, mae'n golygu nad oes unrhyw effaith wedyn ar gyflenwad cyfarpar diogelu personol i weithwyr allweddol. Dim cost gwirioneddol ychwaith, felly mae materion cydraddoldeb yn cael sylw yn hynny o beth. Ledled y byd, ceir cynlluniau cymunedol sy'n gwneud mygydau, gan gynnwys grwpiau yng Nghymru. Dyma fy mwgwd i, mewn gwirionedd. Mae hwn wedi teithio ar draws y byd. Fe'i gwnaed gan gyfaill yn yr Unol Daleithiau—rhan o grŵp cymunedol yn gwneud mygydau i'w rhoi i eraill. A wnewch chi gefnogi menter mygydau Cymru i annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwneud mygydau, rhannu templedi syml ac ati? Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud, gan ein huno fel cymunedau. Gallwn hyd yn oed gael cystadlaethau: pwy sy'n gallu gwneud y mygydau sy'n edrych orau a'r math yna o beth. Mae'n cyfrannu at normaleiddio gwisgo gorchuddion wyneb, ac efallai, os yw'r dystiolaeth gynyddol yn gywir, fel y credaf ei bod, gallai achub bywydau hefyd.
O ran eich sylw am gyfarpar diogelu personol, mae ein cyfarpar diogelu personol a ddosberthir i gyd yn mynd trwy broses rheoli ansawdd, gan gynnwys enghreifftiau pan fo'r dyddiadau terfyn oes gwreiddiol yn golygu y gellir parhau i ddefnyddio'r cyfarpar diogelu personol, er gwaethaf hynny, a hynny yn ddiogel, oherwydd dyna'r maen prawf yr ydym yn ei ddefnyddio: a oes gennym ni gyfarpar diogelu personol digonol—digonol o ran y diogelwch y mae'n ei ddarparu, gan sicrhau nad yw wedi cyrraedd terfyn ei oes a'i fod yn briodol i staff ei ddefnyddio? Ac fel y gwyddoch chi, rydym ni mewn sefyllfa lle nid yn unig yr ydym ni wedi llwyddo i ddatrys yr heriau y mae ein staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn eu hwynebu o ran cyfarpar diogelu personol, ond rydym ni wedi darparu cyd-gymorth mewn niferoedd sylweddol i wledydd eraill y DU, gan gynnwys Lloegr, a dyna oedd y peth cywir i'w wneud.
Felly, rydym ni mewn sefyllfa dda o ran cyfarpar diogelu personol o'i chymharu â'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi dim ond ychydig wythnosau yn ôl. Rhaid dweud hynny gyda pheth gochelgarwch, oherwydd wrth i ni symud ymlaen gyda'r clefyd ar ei anterth, mae'n gwbl bosib y bydd mwy o bwysau ar le yr ydym ni fel y byddwn ni'n llacio ac yn codi'r cyfyngiadau symud a'r hyn a allai ddigwydd yn y gaeaf, ac yn yr un modd, gallai'r galw mewn rhannau eraill o'r byd olygu bod yna fwy o gystadleuaeth am gyflenwadau cyfarpar diogelu personol yr ydym yn eu caffael, ond unwaith eto, hoffwn ddiolch ar goedd i'r cwmnïau hynny o Gymru sydd wedi creu cyfarpar diogelu personol ar gyfer ein staff rheng flaen. Cafwyd ymateb aruthrol ar hyd a lled y wlad.
O ran eich sylw am fygydau a gorchuddion wyneb, credaf ei fod yn bwysig oherwydd pan fydd pobl yn siarad am fygydau, rwy'n credu bod llawer o ddryswch ynglŷn â'r ffaith bod y rheini yn bethau o'r fath safon yr ydych yn disgwyl i weithwyr iechyd a gofal rheng flaen neu eraill eu crybwyll, ond rwy'n cydnabod eich bod yn sôn am orchuddion wyneb, sy'n wahanol. Petai'r cyngor yn newid, yna, wrth gwrs, byddai angen i ni ystyried sut y byddem yn adlewyrchu hynny, oherwydd nid wyf yn credu y bydd y Llywodraeth mewn sefyllfa i ddarparu gorchuddion wyneb i bob aelod o'r cyhoedd, ond mae'r rhain yn bethau y gall pobl eu darparu eu hunain. Ac mae'n bwysig cofio bod hyn yn ymwneud ag amddiffyn pobl eraill rhag ofn fod y coronafeirws arnoch chi. Ond y man cychwyn yw, os oes gennych chi symptomau, ni ddylech fod allan yn gyhoeddus beth bynnag: dylech chi fod yn hunanynysu a chael eich profi.
Os yw'r cyngor yn newid, wrth gwrs bydd angen i ni ystyried beth y mae hynny'n ei olygu o ran sut y darperir y gorchuddion wyneb hynny ac ym mha leoliadau. Felly, fel rwy'n dweud, gan fynd yn ôl at fy ateb cyntaf, os bydd y dystiolaeth yn newid, os yw'r cyngor yn newid, bydd y Llywodraeth yn hapus i egluro hynny ac i newid ein safbwynt oherwydd ein nod, fel erioed, yw cadw Cymru'n ddiogel.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Er gwaethaf eich haeriad, nid oedd yr hyn a welsom ni yr wythnos hon yn enghraifft o liniaru'r cyfyngiadau symud yn sylweddol. Mewn gwirionedd, newid bach ydyw, oherwydd i'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n byw yng Nghymru, bydd teulu'n byw mwy na 5 milltir i ffwrdd. Wrth gyhoeddi'r newidiadau, dywedodd y Prif Weinidog fod y penderfyniad i osod egwyddor gyffredinol o beidio â theithio mwy na 5 milltir yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol. Felly, Gweinidog, a wnewch chi gyhoeddi'r dystiolaeth honno? A yw'r dystiolaeth honno wedi'i hadolygu gan gymheiriaid? Gweinidog, a allwch chi egluro i'm hetholwyr nad ydynt yn gallu ymweld ag anwyliaid pam ei bod hi'n berffaith iawn iddynt deithio mwy na 5 milltir i giwio gyda dieithriaid mewn canolfan arddio, ond na allant deithio i sefyll 2 fetr oddi wrth aelod o'r teulu neu gyfaill?
Ddydd Llun, fe wnaethoch chi gyhoeddi pecyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc, sy'n cydnabod yr effaith enfawr y mae'r pandemig hwn yn ei chael ar iechyd meddwl pawb, a po hwyaf y bydd y cyfyngiadau'n para, mwyaf fydd yr effaith a gânt. Gwn fod mynd i'r afael â'r clefyd hwn yn golygu cadw'r ddysgl yn wastad rhwng niwed uniongyrchol COVID-19 a niwed anuniongyrchol. Gweinidog, a gredwch eich bod wedi taro'r cydbwysedd cywir yn yr achos hwn?
Mae ein cynllun i godi'r cyfyngiadau symud yn dibynnu ar dracio, olrhain a diogelu. Fodd bynnag, mae'n cymryd gormod o amser ar hyn o bryd i gynnal profion. Gweinidog, beth ydych chi'n ei wneud i gyflymu'r broses ac ehangu ein gallu i brofi? Bydd llawer o'r gweithgareddau'n gofyn am drefn brofi lawer ehangach a symlach, a gwyddom na all triniaethau deintyddol arferol ddechrau tan y flwyddyn nesaf, ond siawns, pe baem yn profi deintyddion a chleifion ac yn ardystio nad yw'r haint arnyn nhw, yna gellid gwneud y driniaeth. Heb system o'r fath ar waith, sut y bydd fy etholwr, perchennog siop gwisgoedd priodas, Elin Baker, yn cynnal ei busnes? Mae hi'n defnyddio ei hamser hamdden nawr a'i chyfleusterau a'i gwybodaeth i wneud cyfarpar diogelu personol i'r GIG, felly mae hi'n defnyddio'i hamser yn ddoeth, ond mae'n rhaid inni ddeall bod rhaid ffitio ffrogiau priodas, ac nad oes modd eu mygdarthu, felly a oes rhaid iddi aros nes bod brechlyn ar gael cyn iddi allu ailagor?
Ac yn olaf, Gweinidog, dywedodd Prif Weinidog Cymru ddydd Llun na allwch chi ond gwneud un newid i fesurau bob tair wythnos oherwydd y cyngor gwyddonol gan SAGE a Sefydliad Iechyd y Byd. Felly, a wnewch chi gadarnhau mai dyma'r dull yr ydych yn ei ddilyn ac a wnewch chi amlinellu pa mor hir yr ydych chi'n rhagweld y bydd hi cyn i'r rhan fwyaf o'r cyfyngiadau symud gael eu llacio? Diolch.
Efallai y gallaf ddechrau gyda'r sylw olaf yna, oherwydd rydym ni wastad wedi dweud—ac mae hyn wedi ei gynnwys yn rhai o'r papurau yr ydym ni eisoes wedi'u cyhoeddi ar y dystiolaeth wyddonol—rwy'n credu y buom ni mor agored os nad yn fwy agored nag unrhyw Lywodraeth arall yn y DU o ran darparu'r dystiolaeth yr ydym ni Weinidogion yn ei chael—y cyngor hwnnw—ac yna bwrw iddi mewn gwirionedd a gwneud ein penderfyniadau a bod yn atebol amdanynt. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod ein hymgynghorwyr yn deall ein bod ni'n cymryd cyfrifoldeb fel Gweinidogion ac yn cymryd eu cyngor o ddifrif. Mae hynny'n cynnwys y sylw hwn ynglŷn â bod un ymyriad sylweddol, ac rwyf eisiau asesu a deall ei effaith cyn cynnwys ymyriad sylweddol arall hefyd. A dyna pam y byddai'n hollol anghyfrifol ac yn gwbl anghywir i mi geisio darogan pryd y bydd y cyfyngiadau symud yn dod i ben ac y bydd bywyd yn dychwelyd i'r hyn yr oedd ym mis Chwefror eleni. Rwy'n credu bod y cyhoedd yn ddoeth yn hynny o beth ac yn cydnabod nad yw'r mathau hynny o derfynau amser artiffisial yn rhoi'r math o sicrwydd y maent yn chwilio amdano ac mae'n llawer gwell bod yn onest ac yn onest ynghylch faint yr ansicrwydd yr ydym yn ymdrin ag ef.
O fewn pob adolygiad, pan fyddwn yn cynnal adolygiad o'n rheoliadau ynghylch y cyfyngiadau symud, byddwn yn ystyried yr hyn yr ydym yn ei wneud, byddwn wedyn yn cadarnhau ein bod yn gwneud hynny ac fel rwy'n dweud, byddwn yn parhau i hysbysu'r cyhoedd o'r cyhoeddiadau a'r cyngor rheolaidd yr ydym yn eu cael fel modd o'u cynorthwyo, i gynnal yr ymddiriedaeth hanfodol sydd ei angen arnom ni hefyd. Ac rwyf yn credu bod un newid sylweddol a wnaethom ni y tro hwn yn—. Gall pobl fynd allan a chwrdd ar yr amod eu bod yn cadw pellter cymdeithasol, ehangu hynny a diffinio rhyw gymaint ar deithio, oherwydd yn y cyfnod blaenorol, cawsom gryn dipyn o feirniadaeth gan amrywiaeth o bobl, yn enwedig y rhai sy'n cynrychioli'r cymoedd ac ardaloedd gwledig, nad oedd dweud wrth bobl am ddefnyddio eu crebwyll ar yr hyn oedd yn lleol yn gweithio mewn gwirionedd. Ac wrth ddarparu 5 milltir fel rheol gyffredinol, fel y nododd y Prif Weinidog o'r funud y cyflwynodd y rheolau newydd, credaf ei fod wedi rhoi peth pendantrwydd i hynny heb iddi fod yn rheol gadarn, oherwydd ni fyddai hynny wedi ystyried yr amgylchiadau gwahanol y mae rhai pobl yn byw ynddynt, felly credaf ein bod wedi gwneud y peth iawn, ac mae'r rhesymeg dros aros yn lleol yn ymwneud â chyfyngu'r feirws ac atal ei ledaeniad. Pe baem yn dileu cyfyngiadau er mwyn i bobl deithio o amgylch y wlad, rwy'n credu bod digon o bobl yng Nghymru a fyddai'n gweithredu yn y fath fodd fel y byddech yn dechrau gweld pobl yn heidio i rannau o'r wlad—mannau prydferth a llecynnau eraill—mewn modd na fyddai'r un ohonom ni eisiau ei weld na'i annog. Felly, rwy'n credu ein bod yn gwneud y peth iawn wrth gadw neges 'aros yn lleol' a byddwch yn gweld nad yw hynny'n anghyson â'r negeseuon o'r Alban a Gogledd Iwerddon ac, yn wir, mae arweinydd Cyngor Bournemouth ei hun wedi dweud ei bod eisiau gweld yr un dull yn Lloegr.
O ran pa mor gyflym yr ydym ni'n profi, mae hynny'n gwella drwy'r amser; o ran ailddechrau gwasanaethau deintyddiaeth, caiff y llythyr at y prif swyddog deintyddol ei gyhoeddi; byddaf yn darparu datganiad ysgrifenedig byr er mwyn rhoi gwybod i'r Aelodau pryd y bydd ar gael. Nid wyf yn credu eich bod yn awgrymu bod dim ond ardystio nad oes COVID ar bobl o reidrwydd mor syml ag y mae hynny'n ymddangos. Mae'n dweud wrthych beth yw'r sefyllfa ar yr adeg y mae rhywun wedi cael y prawf, ac felly dydw i ddim yn credu bod hynny o reidrwydd yn ffordd ddefnyddiol o weithredu.
O ran eich etholwraig, sy'n gwneud ffrogiau priodas, fel y gwyddom ni, nid yw'r rhan fwyaf o briodasau'n cael eu cynnal, ac felly, mewn gwirionedd, nid oes busnes iddi hi yn ei busnes arferol ac mae hynny oherwydd y ffaith bod pobl yn mynd i briodasau ac yn cymysgu â phobl eraill. Cefais amser gwych ar fy niwrnod priodas, ond yn sicr ni allech gael priodas fel honno ar hyn o bryd.
Yna, yn olaf, o ran cydbwyso niweidiau, byddwch wedi gweld y cydbwyso hwnnw ar niweidiau yn y penderfyniad anodd a wnaeth y Gweinidog Addysg heddiw. Mae cydbwyso'r niwed y mae'r cyfyngiadau symud yn ei achosi drwy gau ysgolion, yr angen a'r awydd i ddychwelyd mewn modd mor ddiogel â phosib ac nid dim ond wrth wneud hynny, ond wrth feddwl am ffordd hollol wahanol o reoli'r diwrnod ysgol, a chydnabod y byddai peidio â darparu addysg i fwy o blant nes dechrau Medi yn achosi niwed i'r plant, a byddai'r niwed mwyaf i'r plant mwyaf agored i niwed a'u teuluoedd. Felly, rydym ni bob amser yn gorfod cydbwyso'r gwahanol niweidiau sy'n dod o'r coronafeirws, sy'n dod o'r cyfyngiadau symud, a byddwn yn parhau i weld Gweinidogion Cymru yn gwneud y gwaith anodd o ddal y ddysgl yn wastad wrth i ni barhau i gadw Cymru'n ddiogel.
Diolch. Dawn Bowden.
Iawn, Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf, roedd yn rhaid i mi droi fy meicroffon ymlaen.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Un o'r pethau yr hoffwn ei ddweud oedd fy mod yn ddiolchgar iawn am y sesiynau briffio a diweddaru parhaus yr ydym yn eu cael—Aelodau o'r Senedd ac Aelodau o Senedd y DU yn fy ardal—am gyfarfod â'r byrddau iechyd a chael yr wybodaeth reolaidd ganddynt. Rwy'n credu ei bod hi'n werth rhoi ar gof a chadw unwaith eto ein diolch i bawb sy'n gweithio yn y GIG ac yn gwneud pethau anhygoel, rhyfeddol yn ystod y pandemig hwn. Heb fod yn hunanfodlon mewn unrhyw ffordd, rwyf wedi bod yn falch iawn o weld nifer y bobl sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty wedi gwella'n llwyr o COVID, a gweld bod y capasiti mewn ysbytai ar draws fy ardal, gan gynnwys mewn unedau gofal dwys—yn ymdopi'n eithaf da mewn gwirionedd. Fodd bynnag, yr hyn sy'n parhau'n bryder i mi yw'r cyfraddau sylweddol o heintiau ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, ac mae hynny'n ymddangos yn gwbl groes i'r hyn sy'n digwydd yng ngweddill Cymru. Nawr, gwyddom fod gennym ni lawer o strydoedd teras a theuluoedd yn byw yn agos at ei gilydd ym Merthyr a Rhondda Cynon Taf, ac mae'n ddigon posib yr ystyrir hynny'n un o'r rhesymau dros y niferoedd sylweddol o heintiau, fel y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato, mi gredaf, wrth ymateb i gwestiynau am ei ddatganiad y bore yma. Ond mae hefyd yn wir fod gan gymunedau eraill yn y Cymoedd a rhai o'n hardaloedd canol dinas dai teras a theuluoedd yn byw'n agos at ei gilydd ac nid yw'n ymddangos bod ganddyn nhw'r un niferoedd o heintiau yn y mannau hynny. Nawr, rydym ni wedi clywed straeon anecdotaidd—
A allwch chi ddod at eich cwestiwn, os gwelwch yn dda? Diolch.
Rydym ni wedi clywed adroddiadau am bobl yn peidio â pharchu gofynion cadw pellter cymdeithasol mewn rhai ardaloedd, ond hoffwn wybod a oes rhywbeth mwy yn digwydd yn y cymunedau hyn? A byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud pa waith y mae epidemiolegwyr y Llywodraeth yn ei wneud i geisio sefydlu a oes unrhyw beth arall, mewn gwirionedd, heblaw am ymddygiad yn y cymunedau hyn sy'n cadw cyfradd yr heintio mor gymharol uchel.
Diolch am y cwestiwn, Dawn, ac mae'n ffaith—i roi hyn mewn rhyw gyd-destun—er bod uchafbwynt yr epidemig yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, mae'n ffaith bod ardaloedd Byrddau Iechyd Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf wedi cael mwy o achosion y pen o ran heintiau, a'r niwed sydd wedi'i achosi ac, yn ei dro, y cyfraddau marwolaethau—mae gan ardal Cwm Taf Morgannwg gyfradd marwolaethau uwch nag unrhyw ardal Bwrdd Iechyd arall yng Nghymru. Felly, mae'n fater o bryder amlwg. Ond rydych chi'n iawn i nodi bod gan gymunedau eraill nodweddion ffisegol a daearyddol tebyg, ac nid ydym ni eto wedi cael ar ddeall yn iawn gan ein hepidemiolegwyr yr union resymau pam y mae hyn yn wahanol yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr, oherwydd hyd yn oed y sylwadau am iechyd a lles corfforol y cymunedau sy'n cael eu gwasanaethu—wel, dydyn nhw ddim mor wahanol i lawer o gymunedau eraill y Cymoedd, ond rydym ni yn gweld cyfradd heintio sylweddol wahanol. Felly, rydym yn dal i edrych ar hynny wrth i ni arsylwi ar y pandemig yn ei gyfanrwydd a dysgu ohono.
Rwyf eisiau rhoi mwy o wybodaeth, nid yn unig am le yr ydym ni arni, ond am yr hyn y credwn y mae angen i ni gynghori pobl i'w wneud. Ond rwy'n credu mai'r man cychwyn yw y dylai pawb gymryd y negeseuon cadw pellter cymdeithasol o ddifrif. Mae'r canllawiau yno i helpu pobl i gadw at y rheolau, i egluro beth sy'n cael ei ganiatáu ac o fewn y rheolau ac ysbryd y rheolau yr ydym ni wedi'u creu, a byddant hefyd yn helpu pobl i ddeall yr hyn nad yw'n cael ei ganiatáu, ac i gydnabod bod hyn yn ymwneud ag atal niwed i'r bobl hynny a'u teuluoedd a'u cymunedau a phobl na fyddant efallai byth yn eu cyfarfod. Os nad yw pobl yn dilyn y canllawiau a ddarparwyd gennym ni ac nad ydynt—. Ym mhob rhan o Gymru yn ddieithriad bron, roedd gennym ni gryn gytundeb â'r rheolau a chefnogaeth sylweddol iddynt, ac mae angen i bob un ohonom ni lynu wrthynt oherwydd mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos hon yn dangos dros 2,100 o farwolaethau yng Nghymru, a cheir marwolaethau o hyd bob dydd. Felly, ni ddylai neb feddwl y gallwn ni ddychwelyd i sut yr oedd pethau ac ymddwyn fel petai hyn heb ddigwydd erioed. Bydd misoedd a misoedd o ymddygiad anodd yn ein hwynebu pan fyddwn yn gofyn i bobl fod yn hunan-ddisgybledig, oherwydd os na fyddwn ni, os gwelwn y coronafeirws yn dechrau lledaenu'n gyflym eto, byddwn yn gweld miloedd lawer mwy o bobl yn cael eu niweidio gan y coronafeirws. Ac, unwaith eto, yr ymrwymiad gwych yr ydym ni wedi'i gael gan ein holl wasanaeth iechyd gwladol a'r bobl sydd nawr wedi gwella—bydd angen i ni alw ar y bobl hynny hyd yn oed yn fwy, ac nid wyf yn credu y dylem ni bwyso eu hymrwymiad y tu hwnt i hynny. Mae'n rhaid i ni wneud ein dewisiadau ein hunain, pob un ohonom ni, o ran sut y byddwn i gyd yn gwneud ein rhan yn cadw Cymru'n ddiogel.
Diolch. Mark Isherwood.
Ni allaf ei glywed.
Mae angen i ni droi meicroffon Mark ymlaen.
Rwyf wedi gwneud hynny. Allwch chi fy nghlywed i?
Gallwn, ewch ymlaen, gallwch siarad nawr.
Diolch. Roeddwn yn meddwl ei fod yn awtomatig, ymddiheuriadau.
Mae cartrefi nyrsio yn cael cynnydd tâl dros dro ar gyfer lleoliadau gofal cymdeithasol i oedolion, ond nid yw hyn yn cynnwys lleoliadau a ariennir gan y bwrdd iechyd. O ran cyllid gofal iechyd parhaus, mae Fforwm Gofal Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod cartrefi nyrsio yn y gogledd o dan anfantais o'u cymharu â mannau eraill. Sut ydych chi, felly, yn ymateb i bryder y sector, er bod gan drigolion sy'n cael cyllid ar gyfer gofal iechyd parhaus anghenion mwy cymhleth fyth, ni fu sôn am gynnydd yn gysylltiedig â COVID-19?
Yn Lloegr, caniateir i bractisau deintyddol ailagor o 8 Mehefin, ar yr amod bod meini prawf caeth wedi'u bodloni cyn y gellir cynnal triniaethau sy'n ymwneud â chynhyrchu aerosol. Yng Nghymru, ni wnaed unrhyw ddarpariaeth i ganiatáu i bractisau deintyddol wneud hyn. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i lawfeddygon deintyddol yn y gogledd sy'n dweud wrthyf, oni newidiwch chi'r rheolau, y bydd gwasanaethau deintyddol a bywoliaeth miloedd o weithwyr proffesiynol ymroddedig ac ymrwymedig yng Nghymru yn cael eu dinistrio?
Diolch. O ran y ddau gwestiwn—ynglŷn â ffioedd cartrefi nyrsio, rydym ni'r Llywodraeth yn trafod yn rheolaidd â Fforwm Gofal Cymru. Buom yn trafod hynny yn yr ymwneud rheolaidd rhyngof i a swyddogion ynglŷn â gwella'r broses o brofi pobl, ac mae hynny bellach mewn gwell sefyllfa o lawer i'r sector gofal preswyl yn arbennig. Ac mae'r Dirprwy Weinidog, Julie Morgan, yn cyfarfod â Fforwm Gofal Cymru yn rheolaidd bob wythnos. Felly, mae trafodaethau a chyfleoedd rheolaidd i Fforwm Gofal Cymru godi pryderon, yn ogystal â'r Dirprwy Weinidog, ond, wrth gwrs, yn y drafodaeth reolaidd a gânt gyda swyddogion hefyd. Felly, byddwn yn parhau i adolygu—[torri ar draws.]
Mae'n ddrwg gennyf, a wnaiff rhywun ddiffodd meicroffon Mr Isherwood? Nid ydym yn derbyn tarfu ar gwestiynau na thorri ar eu traws, mae'n ddrwg gennyf. Vaughan Gething.
Byddwn yn parhau i siarad â nhw am yr hyn sy'n bosib wrth i ni barhau i adolygu'r hyn y gallwn ni ei wneud wrth ymateb i'r pandemig. Fel y dywedais wrth ateb cwestiynau'n gynharach, os bydd y dystiolaeth yn newid, byddwn yn fwy na pharod i newid y sefyllfa yr ydym ni ynddi ac, wrth gwrs, y ffordd yr ydym yn defnyddio'r adnoddau sydd ar gael i ni.
O ran y sefyllfa ynghylch deintyddiaeth yn Lloegr, nid yw mor syml ag yr adroddwyd amdani. Credaf y rhoddwyd yr argraff yn gynharach yr wythnos hon y byddai gwasanaethau deintyddiaeth yn agor ar raddfa eang yn Lloegr, ac nid yw hynny'n hollol gywir. Rydym ni wedi cael cyngor uniongyrchol gan y prif swyddog deintyddol yng Nghymru. Mae wedi ysgrifennu at bob practis deintyddol i egluro sut yr ydym ni eisiau ailddechrau gweithgarwch deintyddol yn ddiogel.
Ond mae a wnelo hynny ag ailddechrau gweithgarwch deintyddol yn ddiogel, oherwydd mae perygl i'r claf a'r unigolyn sy'n gweithio'n agos iawn ato. Yn union fel y bu'n rhaid i ni gydbwyso'r holl risgiau, y niwed a'r dystiolaeth sydd gennym ni yn y penderfyniad anodd y mae'r Gweinidog Addysg wedi'i wneud heddiw ynghylch ffurf wahanol ar weithrediad ysgolion am bedair wythnos erbyn diwedd y flwyddyn ysgol hon, rhaid inni feddwl am gydbwysedd y risgiau i bobl sy'n gweithio ym maes deintyddiaeth. Ni fyddwn i eisiau rhoi'r cyfle i wneud arian o flaen gweld ystod o'n gweithwyr deintyddol proffesiynol yn colli eu bywydau os ydym yn mynd ati mewn modd di-hid. Dyna pam mae cyngor proffesiynol y Prif Swyddog deintyddol mor bwysig. Fel y dywedais yn gynharach, byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth, a byddaf yn cyhoeddi ei llythyr a'i chyngor i ddeintyddion ledled Cymru.
Gweinidog, fis diwethaf, fe wnaethoch chi gyhoeddi y byddai gweithwyr gofal yng Nghymru yn cael taliad bonws o £500 am eu cyfraniad yn ystod pandemig COVID-19. Mae wedi dod yn amlwg erbyn hyn y bydd angen tynnu treth incwm ac yswiriant gwladol o hynny, sy'n golygu mai'r swm gwirioneddol y bydd pobl sy'n ennill dros y lwfans personol yn ei gael fydd £360, nid £500. Nid yw Plaid Cymru yn credu y dylid trethu'r taliad bonws hwn ac y dylid ei gynnig i bob gweithiwr cartref gofal, gan gynnwys staff glanhau a staff cegin.
Gweinidog, mae'n bosib bod y gofalwyr a glywodd eich cyhoeddiad y mis diwethaf wedi gwneud cynlluniau i wario'r £500 hwnnw eisoes ar wyliau haeddiannol wedi i hyn i gyd ddod i ben neu i dalu biliau hwyr. A yw'n edifar gan Lywodraeth Cymru na fuont yn agored ynghylch y ffaith y cai'r taliad bonws hwn ei drethu pan wnaed y cyhoeddiad gennych chi ar ddiwrnod rhyngwladol y gweithwyr?
Rwy'n credu bod dau beth—y cyntaf yw nad oedd Llywodraeth Cymru erioed mewn sefyllfa i roi gwarant na fyddai'n cael ei drethu. Gwnaethom yn glir yn gyhoeddus ein bod eisiau i Lywodraeth y DU gytuno i beidio â threthu hyn fel y gellid ei drin, fel y dywedodd Mike Hedges yn gynharach, fel rhodd, nid fel taliad trethadwy. Maen nhw wedi gwneud hynny yn y gorffennol o dan amgylchiadau eithriadol—er enghraifft, roedd yn gam a oedd i'w groesawu ar ran Llywodraeth y DU i beidio â threthu'r taliadau caledi yr oedd rhai cynghorau'n gallu eu gwneud yn ystod y llifogydd a welsom yn ddiweddar. Rwy'n siomedig dros ben bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu trethu'r taliad hwn.
Bu Llywodraeth Cymru yn pwyso'n uniongyrchol ar Lywodraeth y DU, nid yn gwneud datganiadau cyhoeddus yn unig, ac maen nhw bellach wedi ymateb drwy ddweud eu bod yn disgwyl gwneud didyniad treth. Penderfyniad i Lywodraeth y DU yw hynny. Credaf y dylent ailystyried, dylent ailfeddwl, er mwyn sicrhau y dylai'r hyn sydd yn ei hanfod yn weithlu isel ei gyflog, sy'n fenywaidd yn bennaf, gael y £500 llawn. Ond mater i Lywodraeth y DU yw penderfynu a yw'n bwysicach iddynt gymryd treth o'r taliad hwn neu wneud y peth iawn i'n gweithwyr gofal. Gobeithio y gwnânt y peth iawn.
Gweinidog, rydym ni wedi clywed cyfeiriad heddiw at y gwasanaeth iechyd yn mynd i'r afael yn gynyddol ag amgylchiadau nad oes a wnelon nhw â COVID, ac mae cynlluniau chwarter 1, rwy'n gwybod, i'w cyflwyno'n fuan. Ond rwy'n gwybod bod yr elusennau canser, er enghraifft, yn dal yn bryderus iawn nad ydym ni yn gweld yr ymgynghoriadau, y diagnosis, y canfod a'r driniaeth gynnar o'r cyflyrau canser hynod ddifrifol hyn, sydd yn llawer rhy gyffredin, a ddylai fod yn digwydd. Felly, tybed sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r elusennau canser, y byrddau iechyd, y sector iechyd yn gyffredinol, i sicrhau bod dychwelyd i ymdrin â'r achosion hyn nad oes a wnelon nhw â COVID, fel y byddai wedi digwydd cyn y pandemig, yn digwydd yn gynhwysfawr ac yn gyson ledled Cymru, ac ar yr un pryd, wrth gwrs, yn cydbwyso'r ymdriniaeth â'r pandemig, fel sy'n gorfod digwydd.
Diolch am y cwestiwn. Mae'n un o'r pryderon y bu gennyf ac rwyf wedi ei fynegi ers sawl wythnos bellach, nad yw pobl wedi defnyddio ein gwasanaethau gofal brys sydd wedi aros ar agor, yn rhannol oherwydd y bu pobl yn fwy ofnus o fynd i gyfleuster gofal iechyd na'r symptomau neu'r pryderon y byddent wedi'u cael. Chwe mis ynghynt, byddai pobl wedi bod yn fwy tebygol o fynd i ofyn am gymorth neu gyngor gan weithiwr iechyd proffesiynol. Mae hefyd yn wir ein bod yn darganfod ystod o ganserau pan fydd pobl yn mynychu am reswm gwahanol. Ar gyfer pob un o'r apwyntiadau a'r ymweliadau hynny nad ydynt yn digwydd, mae perygl nid yn unig o'r niwed uniongyrchol y mae rhywun yn ei ddeall sy'n gallu digwydd ond niwed arall sy'n cael ei ddarganfod.
Rydym ni nawr yn dechrau gweld cynnydd yn y niferoedd hynny o bobl sy'n mynd i'r cyfleusterau. Soniais rywfaint am hyn ddoe yn y gynhadledd i'r wasg ac rwyf wedi cyfeirio ato yn y datganiad ysgrifenedig hefyd. Fodd bynnag, rydym ni hefyd wedi gweld newid sy'n cael ei groesawu o ran atgyfeirio hefyd, felly po fwyaf o bobl sy'n mynd, mwyaf o bobl sy'n cael eu hatgyfeirio, er enghraifft, drwy ofal sylfaenol. Gwelsom gwymp yn nifer y bobl a gawsant eu hatgyfeirio, ond erbyn hyn rydym yn dechrau gweld adferiad.
Yn y datganiadau a wnaed ar gynlluniau chwarter 1, rydym ni hefyd yn y sefyllfa lle yr ydym ni'n gweld gwasanaethau diagnostig yn gwella. Ein bwriad yw bod gwasanaethau endosgopi yn ail-gychwyn. Mae hynny'n mynd i fod yn anodd oherwydd bydd llawer iawn o alw am y gwasanaethau hynny, ond rydym yn dechrau gweld adferiad graddol.
Ac yn y cynlluniau rhanbarthol y cyfeiriais atyn nhw, mae gwasanaethau canser yn faes amlwg iawn lle y byddai angen cydweithredu dros fwy nag un ardal bwrdd iechyd. Rydym ni eisoes yn darparu gwasanaethau canser dros fwy nag un ardal bwrdd iechyd yn rheolaidd. Bydd angen i ni weld mwy o hynny o ran cynllunio ein hadferiad. Ac o ran gweithio gyda'r elusennau canser, rwy'n disgwyl gweld y cynghrair canser cyn diwedd y mis hwn, rwy'n credu.
Ond mae hyn yn rhan o'n rhaglen ehangach, ac os caf wneud sylw yng nghyswllt rhywbeth arall, sef ein bod, mewn amrywiaeth o feysydd, yn gorfod meddwl am sut yr ydym yn gwneud pethau'n wahanol. Enghraifft dda y tu allan i'r ward ganser o orfod gwneud pethau'n wahanol oherwydd bod risg o hyd yw'r ffordd yr ydym wedi ail-gynllunio ein gwasanaeth retinopatheg diabetig i bobl sy'n feichiog. Felly, mae menywod beichiog sydd â diabetes mewn perygl penodol o ddioddef niwed i'w golwg. Mae gennym ni bellach ffordd newydd o'u trin a gyflwynwyd i sicrhau y gallwn ni ddarparu'r gwasanaeth hwnnw, fel arall gallai niwed sylweddol a pharhaol fod wedi'i achosi i'w golwg. Felly, rydym ni eisoes yn ymateb i hyn, ac ym mhob maes gweithgarwch, nid yn unig mewn gwasanaethau canser, gan orfod ailgynllunio ein gwasanaethau mewn modd fydd yn gwneud y lles mwyaf er mwyn osgoi achosi'r niwed mwyaf.
Gweinidog, rwyf wedi dioddef crawniad deintyddol yn ystod y cyfyngiadau symud. Dywedir wrthyf bod posibilrwydd cryf y gallai ddychwelyd; mae'n digwydd yn aml ar ôl i bobl gael y gwrthfiotigau. Nid mater brys mohono, felly ni allaf ond byw mewn gobaith. Felly, mae'r ffaith na chaiff ei drin yn briodol tan fis Ionawr 2021 yn amlwg yn effeithio'n uniongyrchol arnaf, ond mae llawer o gleifion a llawer, llawer o ddeintyddion yn ysgrifennu atom ni—ac rwy'n siŵr y byddai pob aelod yn cytuno â hyn—ac rwyf yn annog ystyried y cynllun ymhellach. Ac rwyf yn derbyn yn llwyr fod angen ei ystyried yn ofalus iawn, ond mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, mewn ymateb i'r awgrymiadau diweddar, wedi dweud fod galw mawr, cynyddol am weithredu'n gyflymach cyn Ionawr 2021. Hynny yw triniaethau nad ydynt yn rhai brys. Ac maen nhw hefyd wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Mae polisïau cadarn, rhagorol ar waith i sicrhau y caiff y cleifion a'r tîm eu diogelu.
Felly, a allwn ni edrych ar hyn yn ofalus iawn? Oherwydd rwy'n credu y bu sylwadau dirifedi ynghylch y cynllun cychwynnol ac mae'n debyg bod angen ei adolygu'n ofalus, ac rwy'n gobeithio y bydd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn cymryd rhan lawn yn hynny.
Wel, fe fyddwn i'n hapus iawn i wneud yn siŵr bod y Llywodraeth a'r arweiniad proffesiynol a ddarperir gan ein prif swyddog deintyddol yn parhau â'r trafodaethau rheolaidd hynny yr ydym yn eu cael gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yma yng Nghymru. Unwaith eto, rwy'n credu y dylem ni gyflymu'r broses o ddiwygio'r ffordd yr ydym ni'n darparu gwasanaethau deintyddol er mwyn canolbwyntio mwy ar wneud y gorau o'r adnoddau sydd ar gael i ni. Rwyf i, a'r prif swyddog deintyddol, yn dymuno dychwelyd i gael mwy o weithgarwch deintyddol yn gynt, yn hytrach nag yn hwyrach, ond mae'n rhaid iddo fod mewn ffordd ddiogel, a dyna'r sefyllfa yr ydym ni ynddi. Felly, er y byddaf yn glir ac yn dryloyw wrth gyhoeddi ei chyngor presennol i weithwyr deintyddol proffesiynol yng Nghymru, os bydd diweddariad pellach yn y drafodaeth barhaus honno, yna byddaf yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ac i wneud hynny. Ac os oes unrhyw newid pellach yn y ffordd y gallwn ni wneud hynny a pha mor gyflym y gallwn ni wneud hynny i gadw cleifion a gweithwyr deintyddol proffesiynol yn ddiogel, yna byddaf yn hapus iawn i sicrhau bod yr holl Aelodau'n cael gwybod am hynny ar yr un pryd.
Gweinidog, dim ond dau bwynt: rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y cyhoeddiad y byddai'n profi'r holl breswylwyr a'r staff mewn cartrefi gofal. Mae fy mwrdd iechyd fy hun yn dangos eu bod yn disgwyl cwblhau eu rhai nhw yn y maes hwn erbyn diwedd yr wythnos hon.
Fodd bynnag, rwyf yn pryderu am y sefyllfa o ran ailbrofi, oherwydd ceir sefyllfaoedd lle mae rhai profion wedi dod yn ôl yn gadarnhaol, am eu bod yn asymptomatig, ac felly ceir preswylwyr a staff nad oeddent yn dangos arwyddion na symptomau COVID-19 ond sydd wedi profi'n gadarnhaol drwy'r profion. A gallai fod sefyllfa lle y gallai aelodau eraill o'r staff, o ganlyniad i hynny, brofi'n bositif yn y dyfodol gan roi mwy o breswylwyr mewn perygl. Felly, a wnewch chi roi diweddariad manwl ynghylch pryd y gellid dechrau ailbrofi staff cartrefi gofal yn arbennig i sicrhau, wrth iddynt fynd i mewn ac allan o'r cartrefi, nad ydynt yn mynd â'r feirws yn ôl i mewn gyda nhw, gan eu bod yn asymptomatig?
A gaf i hefyd gytuno ar y sefyllfa gyda deintyddion? Rwy'n siŵr, fel yr amlygodd David Melding, ein bod i gyd wedi cael gohebiaeth ynglŷn â deintyddiaeth. Gwn, o dan glefyd Creutzfeldt-Jakob, fod y deintyddion wedi cymryd camau arbennig iawn, felly maen nhw eisoes yn hyddysg mewn arferion diogel o ran ymdrin â chleifion. Ond rwyf hefyd yn derbyn y cyfrifoldebau sydd gennych i sicrhau diogelwch y staff yn y practis deintyddol hefyd.
Wel, mae'r sylw ynglŷn â deintyddiaeth yn ddealladwy ac, wrth gwrs, o'm rhan fy hun yn Aelod etholaeth, mae gen i bobl a fydd eisiau defnyddio gwasanaethau deintyddol. A dweud y gwir, rydym ni wedi cael trafferth yn y gorffennol i gael pobl i fanteisio ar y gwasanaethau hynny yn y ffordd y byddem yn dymuno iddyn nhw wneud, ac agwedd arall yw arferion plant a phobl ifanc mewn gwirionedd a'n gallu i ymyrryd yn gynharach i annog arferion da ynghylch hylendid deintyddol. Felly, rwyf yn cymryd o ddifrif y pwyntiau y mae Aelodau o wahanol bleidiau wedi'u gwneud, yma ond hefyd y tu allan i'r lleoliad hwn, am yr awydd a'r budd a gafwyd o ailgychwyn gwasanaethau deintyddol. Felly, dydw i ddim yn anwybyddu nac yn diystyru hynny; rwyf yn wirioneddol yn ei gymryd o ddifrif.
O ran eich sylw am ailbrofi mewn cartrefi gofal: cyn diwedd y cyfnod cychwynnol, disgwyliaf gael cyngor am y cyfnod o amser y byddir yn ailbrofi o'i fewn a sut beth fydd y rhaglen ailbrofi honno, felly ni fydd sefyllfa gennym ni, ymhen tri mis, lle bydd pwl arall o ailbrofi pobl yn y sector cartrefi gofal, ond bod gennym ni raglen reolaidd a dealladwy. Ac yna mae'n rhaid i mi gydbwyso hynny â'r rheidrwydd y bydd angen i ni gynnal a diogelu capasiti o fewn ein rhaglen brofi i wneud hynny, a dal i wneud yn siŵr bod gennym ni ddigon o gapasiti i wneud yn siŵr nad yw olrhain cyswllt yn cael ei beryglu hefyd. Oherwydd yn sicr ni fyddwn i eisiau peryglu gwasanaeth newydd profi, olrhain, diogelu GIG Cymru. Ond, yn yr un modd, mae angen i ni sicrhau ein bod yn cydbwyso'r risgiau sy'n bodoli ym mhob rhan o'r gwasanaeth. Dyna pam y mae'r cynnydd a welsom ni yng nghapasiti labordai i gynnal mwy na 9,500 o brofion yn newyddion mor dda; mae'n caniatáu inni gael y dewisiadau hynny, i beidio â chael ein cyfyngu gan gapasiti. Ond mae angen i mi weld y dystiolaeth, i weld y cyngor, a, chyn gynted ag y bydd y rheini ar gael, byddaf yn falch o hysbysu nid yn unig yr Aelod ond yr holl Aelodau am yr hyn y mae hynny'n ei olygu a'n disgwyliad o ran ailbrofi staff a phreswylwyr yn y sector cartrefi gofal.
Helen Mary Jones. Na.
Nid yw meicroffon Helen Mary yn agored.
A allwn ni—a wnaiff rhywun helpu Helen Mary? Ni allwn ei chlywed hi. A all rhywun ei helpu i droi ei meicroffon ymlaen, os gwelwch yn dda? Na. A gaf i adael Helen? Dof yn ôl atoch, Helen, oni bai—a yw eich meicroffon yn agored nawr? Nac ydy. Iawn, dof yn ôl atoch chi. Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, bydd y coronafeirws, yr angen i ynysu a'r doll ariannol y mae trigolion ledled Cymru yn ei thalu yn cael effaith enfawr, wrth gwrs, ar eu hiechyd meddwl. Nawr, nid yw newyddion bod 1,700 o gleifion wedi'u rhyddhau mewn camgymeriad yn y gogledd yn rhoi hyder i neb fod gwasanaethau yn y gogledd yn union fel y dylent fod. Nawr, rwy'n deall bod pwysau enfawr ar ein GIG ar hyn o bryd, ond mae'n amlwg nad yw hyn yn ddigon da. Mae angen i drigolion yn y gogledd gael ffydd mewn gwasanaethau.
Gweinidog, rydym ni i gyd wedi bod yn dioddef o bandemig iechyd meddwl ymhell cyn COVID-19. Felly, nid dim ond fel seneddwyr a Llywodraethau, ond fel bodau dynol, mae angen i ni wneud mwy. Gweinidog, beth allwch chi ei ddweud wrth fy etholwyr i roi sicrwydd iddynt fod gwersi'n cael eu dysgu a bod y rhai yr effeithir arnynt yn cael y gefnogaeth y mae arnynt ei hangen fel mater o frys?
Rwy'n credu ei fod yn sylw yr wyf wedi ymdrin ag ef o'r blaen, ond mae'n sylw cwbl deg i'r Aelod ei godi yn y fan yma hefyd, am y camgymeriad, ac fe roedd yn gamgymeriad, a wnaethpwyd wrth ryddhau pobl pan na ddylid bod wedi gwneud hynny. Mae'r bwrdd iechyd yn y gogledd yn gwella hynny, oherwydd roedd y canllawiau a ddarparwyd gennym ni i bob bwrdd iechyd yn fy marn i yn glir iawn bod gwasanaethau iechyd meddwl yn wasanaethau hanfodol ac y dylent barhau drwy'r pandemig.
Ac mae yna agwedd ehangach yn hyn o beth—ac mae'n rhan, unwaith eto, o'r sylw a wnaethpwyd yn gynharach mewn cwestiynau am y niwed gwahanol sy'n cael ei achosi gan y coronafeirws, ac un o'r niweidiau, wrth ein cadw'n fyw yn gorfforol ac wrth achub bywydau, yw y byddwn yn ddiau wedi gweld niwed yn cael ei achosi i iechyd meddwl a lles pobl. Felly, bydd mwy o alw ar bob haen o'n gwasanaethau, felly mae'r gwasanaethau haen 0 a haen 1, sy'n rhai lefel gymharol isel, yn ddi-os yn gweld mwy o alw, yn union fel y bydd meysydd eraill lle mae galw mwy sylweddol.
Dyna pam y bu i mi a'r Gweinidog addysg wneud ein cyhoeddiad ynghylch darparu mwy o adnoddau i blant a phobl ifanc, a dyna pam y byddaf yn parhau i edrych ar y materion iechyd meddwl sy'n cael eu codi nid yn unig yn y pwyllgor plant a phobl ifanc, ac a fydd efallai'n cael sylw yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yfory, ond i wneud yn siŵr bod y seilwaith ychwanegol yr ydym ni wedi'i roi ar waith i brofi a gwirio bod gwasanaethau iechyd meddwl yn dal i weithredu ac yn ymdrin ag angen, yn dal ar gael. Fe wnaethom ni brynu mwy o welyau ar ddechrau'r pandemig hwn ar gyfer yr angen mwyaf posib; rwyf wedi darparu mwy o arian drwy'r gyllideb. Felly, gallaf sicrhau Jack Sargeant nad dim ond yr agweddau yn ymwneud â thriniaeth, ond yr agwedd sydd gennym ni ynghylch y sgwrs yr ydym ni'n ei chael am iechyd meddwl yn y wlad hon, mynd yn ôl at y geiriau, 'mae'n iawn dweud nad ydych chi'n iawn'—mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny hefyd yn y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau ein hunain gyda'r bobl o'n hamgylch, a'r hyn yr ydym yn ei ddweud a sut yr ydym yn gweithredu yn gyhoeddus hefyd.
Diolch. Rhown gynnig ar Helen Mary Jones eto.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Felly, mae'n ddrwg iawn gennyf, Gweinidog, ond nid wyf wedi fy nhawelu mwyach. [Chwerthin.] Os caf fynd â chi'n ôl at y mater o ran gwarchod a godwyd yn gynharach gyda'r Prif Weinidog gan fy nghyd-Aelod Delyth Jewell, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi i'r 32 o sefydliadau sydd wedi ysgrifennu atoch yn pryderu am y ffordd y cafodd y cyhoeddiad hwnnw ei wneud, ac yn gofyn am fwy o eglurder—gobeithio y gallwch chi roi ateb llawnach iddyn nhw nag y gwnaeth y Prif Weinidog ei roi i Delyth Jewell y prynhawn yma.
Ond, yn benodol iawn—a gobeithio y byddwch yn manteisio ar y cyfle hwn i dawelu meddyliau pobl—a yw'n wir, Gweinidog, y bydd y bobl hynny sydd wedi cael cyngor i warchod eu hunain yn parhau i gael y gwasanaethau cymorth y maen nhw yn eu cael ar hyn o bryd? Rwy'n meddwl am bethau fel y blychau bwyd, amseroedd penodol yn yr archfarchnadoedd. Nid wyf yn gwybod a yw Aelodau eraill wedi profi hyn, ond yn sicr mae etholwyr wedi cysylltu â mi sydd mewn peth dryswch ynghylch pa un a fyddant yn parhau i gael y gwasanaethau hynny ac am ba hyd. Felly, rwy'n gobeithio, Gweinidog, y byddwch chi'n manteisio ar y cyfle i dawelu eu meddyliau y prynhawn yma.
Efallai ei bod yn werth i mi nodi bod y cyhoeddiad am warchod wedi dod yn dilyn cyngor gan y prif swyddog meddygol. Felly, nid oedd hwn yn achos lle penderfynais fy mod i eisiau newid y categori ac felly gwneud hynny heb unrhyw dystiolaeth na chyngor. Roeddem yn credu ein bod yn mynd i fod mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiad unedig gyda gwledydd eraill y DU, ond yna newidiodd yr amserlen ar gyfer hwnnw. Gwnaethpwyd y cyhoeddiad yn Lloegr ar nos Sadwrn, pan oeddwn yn disgwyl y byddai wedi bod yn hwyrach. Byddem yn sicr wedi gallu ei wneud ar brynhawn Sul. Dyna oedd fy nisgwyliad, a byddem wedi cael nid yn unig dydd Sadwrn i fod yn barod, ond wedyn dydd Sul i gyd i siarad â rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl mewn llywodraeth leol—nid llywodraeth leol yn unig, wrth gwrs, ond y galwedigaethau gofal iechyd sy'n gofalu am bobl, ac amrywiaeth o rai eraill—i nodi bod newid ar y ffordd ac i nodi beth ydoedd.
Pan wnaethpwyd y cyhoeddiad yn Lloegr, i bob pwrpas, drwy erthygl papur newydd a aeth ar-lein nos Sadwrn, a chefais alwad ffôn anarferol ac annisgwyl ar nos Sadwrn i ddweud wrthyf fod hynny wedi ei gyhoeddi, yna cefais ddewis eithaf amlwg i'w wneud, ac roedd y ddau ddewis yn anniben. Y cyntaf oedd ceisio gweithredu yn ôl y bwriad a gwneud cyhoeddiad yn ail hanner dydd Sul, a fyddai wedi golygu'n anorfod y byddem wedi cael cwestiynau am yr hyn yr oeddem yn ei wneud yn ystod hanner cyntaf y Sul, ac rwy'n credu y byddai hynny wedi ein rhoi mewn sefyllfa chwerthinllyd lle, er i ni ddweud wrth randdeiliaid i baratoi ar gyfer cyhoeddiad, byddem yn dweud wrth y wasg, 'Dim sylw. Nid oes gennym unrhyw beth i'w ddweud', a byddai hynny wedi bod yn chwerthinllyd. Erbyn hynny, byddai ansicrwydd eisoes wedi bod ymhlith pobl a warchodir, eu teuluoedd a'u ffrindiau, yn ogystal â phobl sy'n darparu gofal a chymorth iddyn nhw yng Nghymru, ynghylch pa un a oeddem am wneud cyhoeddiad yng Nghymru ai peidio. Felly penderfynais-ac, unwaith eto, fy mhenderfyniad i oedd gwneud hyn-y dylem wneud ein cyhoeddiad fore'r dydd Sul. Nid yw'n ddelfrydol gwneud y cyhoeddiad hwnnw drwy ddatganiad i'r wasg pan nad oedd y datganiad ysgrifenedig ar gael a heb ei gwblhau tan yn ddiweddarach yn y dydd. Fel y dywedais, roedd yn anniben, ond fy marn i oedd mai dyna oedd y peth cywir i'w wneud, yn hytrach na threulio'r bore yn esbonio pam nad oeddem yn mynd i wneud unrhyw beth ac osgoi cwestiynau.
Byddai'n well gennyf i, wrth i ni adolygu'r categori gwarchod a'r gefnogaeth a roddir iddyn nhw ledled y DU, nid dim ond yng Nghymru, ein bod yn gallu gwneud hynny drwy sgwrs agored rhwng prif swyddogion meddygol ac yn wir y pedair adran iechyd, a gwn fod hynny'n farn a rennir gan gydweithwyr mewn rhannau eraill o'r DU. Ar gyfer y bobl a warchodir yng Nghymru, bydd y prif swyddog meddygol yn ysgrifennu'n uniongyrchol. Mae llythyrau'n cael eu hargraffu a byddant yn dechrau cael eu hanfon yfory. Byddant yn clywed yn uniongyrchol ganddo am ddyfodol y categori gwarchod. Gall pobl ddisgwyl i'r gwarchod hynny ddigwydd am o leiaf ychydig fisoedd eto. Bydd yn nodi manylion hynny, a bydd hefyd yn arwain y gynhadledd i'r wasg yfory i siarad yn uniongyrchol â'r cyhoedd, ond gall yr Aelodau ddisgwyl gweld copi o'r llythyr a fydd yn mynd i'ch etholwyr hefyd. Byddaf yn sicrhau bod hynny'n cael ei ddarparu i chi gan ei fod yn barod ac wedi'i gymeradwyo. Gwnaethom ni hynny o'r blaen. Gallwch ddisgwyl gweld hynny eto, oherwydd gall Aelodau mewn etholaethau a rhanbarthau o bob plaid ddisgwyl i etholwyr gysylltu i ofyn beth sy'n digwydd. Felly, rwy'n credu ei fod yn bwysig eich bod yn gweld testun y llythyr hwnnw.
O ran eich pwynt am y cymorth, fel yr wyf wedi egluro ar sawl achlysur, ac rwy'n falch o wneud hynny yn awr ar gofnod yn y Senedd, yr unig newid a wnaed yw bod pobl a warchodir bellach yn cael gwybod y gallant fynd allan, os ydyn nhw'n dymuno, i wneud ymarfer corff ac i weld un teulu arall gan gadw pellter cymdeithasol. Dyna'r unig newid yr ydym yn ei wneud-felly, gweld pobl y tu allan, mynd allan i wneud ymarfer corff. Mae pob mesur arall yn ei le, felly rydym ni'n dweud wrth unigolion a warchodir, 'Peidiwch â mynd i wneud eich siopa eich hunan. Peidiwch â mynd i mewn i siop i wneud hynny.' Rydym ni'n dweud wrth unigolion a warchodir, 'Os na allwch chi weithio o gartref, peidiwch â mynd i weithle gyda phobl eraill, oherwydd mae'r risgiau o fod mewn amgylchedd dan do yn dal yn sylweddol'. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, ein bod yn parhau i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwnnw o ran bwyd, felly, y blaenoriaethau ar gyfer dosbarthu archfarchnadoedd, y bobl hynny sy'n mynd â'r bocsys bwyd, mae'r cymorth hwnnw ar gael o hyd, ac mae'n cynnwys pethau eraill fel darparu meddyginiaethau hefyd. Felly, mae'r cymorth hwnnw i gyd yn dal ar waith, ond, ar gyfer unigolion a warchodir, y gallu i fynd allan nawr, y cyngor o'r blaen oedd i beidio â mynd allan ar gyfer ymarfer corff y tu allan i'ch cartref eich hun, mae hynny wedi newid, ac rwy'n credu bod hwnnw'n fater pwysig i unigolion a warchodir. Ond efallai y bydd angen i ni ailedrych ar hynny. Os bydd hyn yn mynd i mewn i fisoedd y gaeaf, yn yr hydref, efallai y byddwn mewn sefyllfa lle bydd angen i'r cyngor hwnnw newid eto, ac mae'n atgyfnerthu fy mhwynt ein bod yn bell o fod yn gweld diwedd y coronafeirws.
Gweinidog, fe wnes i wrando ar yr ateb yna i Helen Mary ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod bob amser yn ymddangos mai problem cyfathrebu rhywun arall ydyw, onid yw? Gadewch i ni fynd yn ôl i'r £500 ar gyfer gofalwyr. Clywais ymateb y Prif Weinidog i Mike Hedges, a oedd yn annidwyll yn fy marn i, a chlywais eich ymateb i Delyth Jewell. Felly, a ydych yn dweud wrthyf naill ai nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwybod, o dan gyfraith y DU, fod cyflogau'n cael eu trethu yn unol â lefelau ennill ac felly y byddai'r £500 hynny yn cael ei drethu, neu a ydych yn dweud wrthyf fod Llywodraeth Cymru eisiau i'r Canghellor ei roi fel rhodd, ond nad oeddech wedi trafferthu gofyn iddo cyn i chi wneud y cyhoeddiad?
Yn olaf, a allwch chi egluro i bawb pwy fydd yn cael y taliad hwn? Oherwydd, ar 28 Mai, dywedoch chi wrthyf na fyddai'r holl weithwyr cartrefi gofal sy'n gweithio mewn cartref gofal a ariennir yn breifat—hynny yw cartref gofal nad yw'n derbyn unrhyw bobl sy'n cael cymorth gan y wladwriaeth—yn cael y £500 hwnnw. Felly, pan ydym yn dweud y bydd yr holl weithwyr gofal yng Nghymru yn ei gael, mae hynny, yn dechnegol, fel y deallaf o'm sgwrs â chi ar 28 Mai, yn anghywir, a byddwn yn ddiolchgar iawn am eich eglurhad oherwydd pan ddefnyddiwn y geiriau 'wedi'u hariannu'n breifat', rhaid i ni gofio bod hyn yn golygu bod llawer o Gymry yn byw ar eu cynilion olaf i fynd i gartref gofal preifat. Nid oes ganddyn nhw lawer o arian, ni fydd gan eu staff lawer o arian.
Wel, bydd y manylion terfynol ynglŷn â phwy sy'n mynd i gael y taliad yn cael eu cyhoeddi pan fyddwn wedi cwblhau'r trafodaethau gyda chyflogwyr ac undebau llafur, sydd, yn ôl yr hyn yr wyf yn ei ddeall, yn derfynol, felly byddwch yn clywed hynny yn y dyddiau nesaf, ac rwy'n credu y bydd yn rhoi'r eglurder yr ydych chi'n chwilio amdano, Angela.
O ran y dreth ar yr £500, mae hynny wedi bod yn benderfyniad i'r DU erioed. Gwnaethom gyflwyno sylwadau drwy swyddogion ymlaen llaw ynglŷn â'r driniaeth o ran treth, ac fe wnaethom ni ysgrifennu yn uniongyrchol i gyflwyno sylwadau. Fe'i codwyd hefyd gan y Gweinidog cyllid mewn sgyrsiau. Felly, mater i Lywodraeth y DU yw penderfynu a ddylid rhoi'r arian hwn fel rhodd ai peidio, a'u dewis hwy oedd gosod treth arno. Rwy'n dal i gredu mai'r peth iawn iddyn nhw ei wneud yw ailystyried a pheidio â gosod treth ar y £500 ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol. Byddaf yn siomedig, fel rwy'n siŵr y bydd Aelodau eraill ar draws y pleidiau eraill, os na fydd Llywodraeth y DU yn ailystyried cymryd treth o'r arian hwn fel nad yw'n mynd yn uniongyrchol i bocedi menywod sy'n gweithio am gyflog cymharol isel ond yn hytrach yn mynd i'r Trysorlys. Rwy'n credu y byddai hynny—. A dweud y gwir, ni fyddai'n sefyllfa dda i Lywodraeth y DU fod ynddi, ac nid ydyn nhw'n disgwyl cael yr arian hwn, felly byddai yn ei hanfod yn ffawdelw treth i'r Trysorlys, ac yn sicr nid wyf yn credu dylai Trysorlys y DU fod yn cael ffawdelw o ofalwyr gofal cymdeithasol. Mae'r pŵer ganddyn nhw i sicrhau nad yw treth yn cael ei gosod ac unwaith eto rwy'n eu hannog i wneud hynny.
O ran y gwarchod, wel, mae beth ddigwyddodd ynglŷn â gwarchod yn fater o ffaith. Nid yw'n fater o ddweud mai—. Mae'n ffaith mai dyna a ddigwyddodd. Rwyf wedi gallu gweithio'n adeiladol iawn gyda Gweinidogion iechyd ar draws llywodraethau eraill, gyda'r Gweinidog iechyd unoliaethol yn y Llywodraeth amlbleidiol yng Ngogledd Iwerddon, Gweinidog iechyd yr SNP yn yr Alban ac, yn wir, Gweinidog iechyd y Cabinet Ceidwadol yn Lloegr, ond mae adegau pryd nad ydym ni bob amser yn cytuno. Rydym ni'n aeddfed ynghylch hynny. Mae yna adegau pan fydd yr hyn y mae pob un ohonom yn ei wneud yn effeithio ar y llall; roedd hyn yn un o'r achlysuron hynny. Felly yn syml, mae'n ffaith. Nid oeddem yn disgwyl cyhoeddiad ar warchod yn Lloegr i gael ei gyhoeddi drwy golofn papur newydd nos Sadwrn, ond dyna a ddigwyddodd.
Mick Antoniw.
Nid wyf yn clywed Mick. Nid wyf yn gallu darllen gwefusau ychwaith.
Na. Nid ydym yn cael—. A all rhywun gynorthwyo Mr Antoniw? Dyna ni.
Sut mae hwn? A yw hwn yn iawn?
Dyna ni. Dechreuwch eto.
Gweinidog, mae llawer o effeithiau i'r coronafeirws, nid y clefyd yn unig. Rydym wedi trafod effeithiau sy'n gysylltiedig â chyfyngiadau symud, megis iechyd meddwl. Fodd bynnag, yr un yr wyf eisiau ei godi yw'r risg gynyddol o ran dibyniaeth ar gamblo. Byddwch yn gyfarwydd, Gweinidog, am wn i, ag achos Chris Bruney, a oedd yn 25 mlwydd oed a gollodd £119,000 mewn pum diwrnod. Yna cafodd gynnig bonws o £400 gan y cwmni gamblo. Cymerodd ei fywyd ei hun, ac mae'r cwmni newydd gael dirwy. Nawr roedd hynny'n un o'r enghreifftiau cyn y coronafeirws.
Wrth gwrs, yr hyn sydd gennym nawr yw marchnad gaeth o ran gamblo ar-lein, ac mae data mis Mawrth yn unig ar gyfer 2020 yn dangos bod betio rhithwir wedi cynyddu 40 y cant, pocer 38 y cant ac, o'r rhai a oedd yn gosod mwy nag un bet, cynyddodd betio ar-lein 88 y cant, 53 y cant ar gyfer pocer ar-lein ac wrth gwrs, roedd llawer o ddata eraill oedd yn debyg hefyd. Dwi'n tybio y bydd ffigurau mis Ebrill yn dangos lefelau uwch fyth o gamblo ar-lein, gan arwain at y risgiau iechyd cyhoeddus a nodwyd cyn y cyfyngiadau symud. Tybed, Gweinidog, a wnewch chi roi gwybod i ni a yw hyn yn rhywbeth yr ydych wedi ei drafod gyda'r prif swyddog meddygol. Os nad ydych, a wnewch ei drafod gyda'r prif swyddog meddygol i weld beth y gallwn ei wneud mewn gwirionedd i baratoi ar gyfer yr hyn sy'n mynd i fod yn gynnydd sylweddol yn y problemau sy'n gysylltiedig â dibyniaeth ar gamblo ar-lein, a bydd yn waddol y bydd yn rhaid i ni ymdrin ag ef wrth inni ddod allan o'r coronafeirws?
Rwy'n credu bod pwynt yr Aelod yn un da, ac rwy'n cydnabod y diddordeb sydd ganddo ers tro, ac y mae ganddo o hyd, yn y niwed gwirioneddol y mae gamblo yn ei wneud i iechyd y cyhoedd. Nid wyf yn credu mai nawr yw'r amser i fanylu ynglŷn â sut mae pwerau wedi eu rhannu ar hyn o bryd, ond mae yn dal angen i ni ddeall beth mae hynny'n ei olygu ac rydym yn deall y bu cynnydd sylweddol mewn gamblo ar-lein, fel y mae'r Aelod yn ei nodi. Felly, byddaf yn sicr yn ei godi'n benodol gyda'r Prif Swyddog Meddygol, ynghylch lle yr ydym ni arni a beth y mae hynny'n ei olygu, nid yn unig o ran ein dealltwriaeth o'r niwed a achosir nawr, ond o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu yn y dyfodol. Os yw mwy o bobl yn treulio mwy o amser yn gamblo ar-lein, does dim sicrwydd—yn wir, byddem yn disgwyl na fyddai'r bobl hynny yn diflannu ac yn rhoi'r gorau i gamblo ar-lein yn yr union niferoedd wrth i ni symud allan o'r cyfyngiadau symud. Gallem fod yn sôn am heriau tymor hwy o ran pobl yn mynd yn gaeth i gamblo yn anffodus. Felly, byddaf yn fodlon ei godi gyda'r Prif Swyddog Meddygol, ac rwy'n fodlon ymrwymo i ysgrifennu at yr Aelod maes o law.
Diolch. Ac yn olaf, Neil McEvoy.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, o ran COVID, rydych chi'n dweud eich bod wastad wedi dilyn cyngor gwyddonol. Ni fyddwn i'n cytuno â hynny, mewn gwirionedd, ond rydych chi'n dweud eich bod wedi dibynnu ar wyddoniaeth. Felly, mae yna gynnig i waredu 780,000 o dunelli o fwd o du allan i orsaf bŵer niwclear Hinkley Point i mewn i'r dyfroedd ychydig y tu allan i Gaerdydd, un filltir oddi ar yr arfordir. Nawr, mae gwyddonwyr yn dweud wrthym eu bod yn argyhoeddedig—ac maen nhw wedi dweud hynny ar goedd—maen nhw wedi'u hargyhoeddi bod y mwd yn cynnwys plwtoniwm. Felly, a chithau'n Weinidog Iechyd a hefyd yr AC dros Dde Caerdydd, a wnewch chi gefnogi galwad y gwyddonwyr i brofi'r mwd am blwtoniwm, am nad yw erioed wedi cael ei brofi am hynny? Diolch.
Fel y gŵyr yr Aelod, rwyf yma i ateb cwestiynau yn rhinwedd fy swydd yn Weinidog Iechyd yn Llywodraeth Cymru. Rwy'n ymwybodol iawn o'm cyfrifoldebau ar gyfer yr etholaeth yr wyf wedi cael y fraint o gael fy ethol yn uniongyrchol i'w chynrychioli ddwywaith yn y senedd hon. Ac fel y gŵyr yr Aelod, mae digon o dystiolaeth a chyngor gwyddonol ynglŷn â symud a throsglwyddo mwd mewn aberoedd, a chofiaf y sgwrs bigog a gafodd yr Aelod yn y Siambr gydag Alun Davies, a oedd wedi treulio rhywfaint o amser yn edrych ar hyn yn ystod ei amser ger bron y Cynulliad, fel yr oedd bryd hynny, ac yn wir yn ystod ei gyfnod yn Weinidog yr Amgylchedd. Ac mae'r Aelod yn dilyn barn rhai gwyddonwyr yn hytrach na'r consensws gwyddonol a dderbyniwyd.
Felly, bydd Lesley Griffiths, y Gweinidog sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb yn y maes hwn, yn cael ei harwain gan y cyngor gwyddonol a gaiff. Mater i Gyfoeth Naturiol Cymru, fodd bynnag, wrth gwrs, fel y gwyddoch chi, yw deall y wyddoniaeth honno a phenderfynu beth i'w wneud wrth roi trwyddedau. Ac rwy'n credu bod ceisio dychwelyd at stori frawychus am fwd niwclear ar adeg pan rydym ni'n ymdrin â phandemig sydd ymhell o fod ar ben yn beth hollol anghywir i'w wneud o ran holi'r Gweinidog Iechyd ynglŷn â lle yr ydym ni arni o ran y digwyddiad unwaith mewn canrif hwn. Ond, yn ddiau, bydd Mr McEvoy yn parhau i wneud ei ddewisiadau ei hun.
Mae hynny'n sylw gwarthus, Gweinidog—gwarthus.
Diolch. Diolch, Gweinidog, am hynny.