– Senedd Cymru am 2:34 pm ar 3 Mehefin 2020.
Symudwn ymlaen nawr at eitem 5 ar ein hagenda, sef datganiad gan y Gweinidog Addysg a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth addysg. Felly, galwaf ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a phrynhawn da, gyd-Aelodau. Mae'r ymateb i COVID-19 wedi bod yn her enfawr i'r gymuned addysg gyfan. Mae ein hysgolion a'n colegau eisoes wedi camu i'r adwy yn erbyn COVID, gan sefydlu darpariaeth ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant sy'n agored i niwed, a rheoli dysgu o bell ar raddfa nas gwelwyd erioed o'r blaen gyda chyflymder rhyfeddol. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r gweithwyr addysg proffesiynol yn gyffredinol, ac yn enwedig i'r rhai sydd wedi cefnogi gweithredu'r hybiau, am eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb a'u gwaith caled dros y cyfnod hwn.
Mae'r Llywodraeth heddiw wedi cyhoeddi papur gan ei grŵp cynghori technegol ar COVID-19, sy'n cynrychioli'r ddealltwriaeth ddiweddaraf o'r feirws mewn cysylltiad â phlant ac addysg. Rwy'n fodlon bod lle a chyfle bellach i gynyddu gweithgarwch. I'r perwyl hwn, rwyf wedi gwneud y penderfyniad y dylai ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion gynllunio i gynyddu eu gweithgarwch o 29 Mehefin. Mae hyn yn rhoi tair wythnos a hanner i ysgolion, ac yn wir i rieni, barhau i baratoi ar gyfer y cam nesaf o ran addysg. Ac mae hefyd yn rhoi'r amser sydd ei angen ar gyrff llywodraethu a chynghorau i ddatblygu'r camau statudol angenrheidiol.
Bydd bron pob un dysgwr yn cael cyfle i fynychu ei ysgol. Rwy'n disgrifio hyn fel cyfle i gydweithio ar gyfer disgyblion er mwyn iddyn nhw allu dod i'r ysgol, dal ati i ddysgu a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi. Rwy'n cydnabod y gallai bod angen i rai dysgwyr a warchodir ddefnyddio ddulliau digidol.
Rwyf hefyd yn cynnig bod ysgolion yn agor am wythnos ychwanegol, gan gau ar 27 Gorffennaf, ac y bydd yr wythnos hon o wyliau yn cael ei throsglwyddo i dymor yr hydref. Mae hyn yn caniatáu mwy o amser cyswllt i ysgolion cyn yr haf ac yn rhoi egwyl ychwanegol yn nhymor yr hydref sy'n debygol o fod yn hir ac yn heriol.
Yn ymarferol, byddwn yn disgwyl i ysgolion gymryd nifer llai o ddysgwyr bob dydd yn dibynnu ar eu capasiti unigol eu hunain, gan sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol priodol. Disgwylir y bydd hyn yn golygu na fydd mwy na thraean o'r disgyblion yn bresennol ar unrhyw un adeg, er fy mod yn cydnabod ei bod hi'n bosib na fydd rhai ysgolion yn gallu gweithredu yn y modd hwn.
Yn y cyfnod hwn, byddwn yn disgwyl i ysgolion ddefnyddio'r amser i gefnogi iechyd a lles dysgwyr a'u staff, a dyna ddylai fod eu blaenoriaeth bennaf; trafod gyda'r dysgwyr a'u cynorthwyo i fod yn barod ar gyfer dysgu ac ystyried y camau dysgu nesaf fel y bo'n briodol; i brofi'r gweithrediadau yn barod ar gyfer tymor yr hydref; a pharhau i feithrin hyder teuluoedd yn y modd gofalus iawn yr ydym yn ei ddilyn. Mae hwn yn gyfle i ddysgwyr a staff baratoi a dod i arfer â'r sefyllfa 'normal newydd' fel y bydd ym mis Medi.
Yn y dyfodol rhagweladwy, bydd dysgwyr yn cael cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Yn yr hydref, disgwyliaf y bydd yn rhaid i ysgolion barhau i ddarparu ar gyfer yr holl ddysgwyr sy'n gallu bod yn bresennol am lai o amser er mwyn cadw pellter cymdeithasol. A phan fyddant yn yr ysgol, bydd yn teimlo'n wahanol iawn, gydag amser cyrraedd, amser gadael ac amseroedd chwarae ar adegau gwahanol, gyda llawer mwy o amser yn cael ei dreulio yn yr awyr agored, pan fydd y tywydd yn caniatáu, ac mewn dosbarthiadau llawer llai. Fodd bynnag, rwy'n disgwyl iddyn nhw fwynhau amser diogel, pwrpasol gydag athrawon a chyd-ddisgyblion y maen nhw'n eu hadnabod yn dda.
Mae'n rhaid i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, boed yn Weinidog, yn rhiant neu'n bennaeth, gydbwyso risgiau bob amser. Yn y cyfnod presennol hwn, mae'n rhaid i bob un ohonom ni ystyried y posibiliadau o niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol. Rwyf wedi gwneud y penderfyniad i gynyddu gweithrediadau cyn gwyliau'r haf am nifer o resymau allweddol. Byddai aros tan fis Medi yn golygu na fyddai'r rhan fwyaf o blant wedi tywyllu ysgol ers o leiaf 23 wythnos, a chredaf y byddai hyn yn niweidiol i'w datblygiad, i'w dysgu ac i'w lles. Rwy'n argyhoeddedig mai dim ond drwy ddychwelyd i'w hysgolion eu hunain y byddwn yn gweld mwy o bresenoldeb gan ein plant mwyaf agored i niwed a difreintiedig.
Mae'n caniatáu inni fanteisio i'r eithaf ar y tywydd cynnes a'r heulwen, sy'n cael effaith bwysig o ran brwydro i atal trosglwyddo'r feirws. Mae'n sicrhau y bydd y system profi, olrhain a diogelu wedi bod ar waith am fis ac y bydd yn parhau i ehangu. A gallaf gadarnhau y bydd staff ysgol yn grŵp â blaenoriaeth yn ein rhaglen profi gwrthgyrff newydd, gan ddechrau gyda staff sydd wedi bod yn gweithio yn ein hybiau ar hyn o bryd. Ac, yn hollbwysig, mae'r wyddoniaeth sy'n esblygu yn dweud wrthym fod cynnydd sydyn o ran y feirws yn yr hydref yn bosibilrwydd real iawn. Gallem fod yn colli hyd yn oed mwy o amser dysgu, a byddai hyd yn oed yn waeth heb y cyfnod hwn yr wyf yn ei gynllunio heddiw.
Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod gan ysgolion y gefnogaeth briodol i weithredu ar hyn o bryd, ac rydym ni'n gweithio gyda chynghorau ac ysgolion i gael yr holl stoc hylendid angenrheidiol, mesurau diogelwch a chyfundrefnau glanhau yn barod. Yr wythnos nesaf, byddaf yn cyhoeddi canllawiau i gynorthwyo ysgolion i weithredu o dan yr amodau newydd hyn, ac i gefnogi dysgu. Bydd y canllawiau'n cael eu hadolygu a'u diweddaru dros yr haf er mwyn helpu ysgolion i baratoi ar gyfer yr hydref, yng ngoleuni'r profiadau hyn.
Ar gyfer addysg bellach, o 15 Mehefin, bydd colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn dechrau ailagor ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb i grŵp cyfyngedig o fyfyrwyr a dysgwyr. Mae fy swyddogion wedi gweithio gyda cholegau a darparwyr hyfforddiant i gytuno ar grwpiau blaenoriaeth o ddysgwyr a fydd yn cael eu cynnwys yn y cyfnod ailagor cychwynnol hwn, gan ganolbwyntio ar y rhai y mae angen iddyn nhw ddychwelyd i'w coleg neu eu canolfan hyfforddi er mwyn parhau i wneud cynnydd gyda'u dysgu. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr y mae angen iddyn nhw gynnal asesiadau ymarferol i gwblhau eu cymwysterau, a'r myfyrwyr hynny sydd angen cymorth a chyfarwyddyd ychwanegol i aros ar y trywydd iawn ac i aros mewn addysg.
Bydd canllawiau ar gyfer darparwyr gofal plant hefyd yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos nesaf, gan eu cynorthwyo i gynyddu nifer y plant sy'n mynychu ochr yn ochr ag ysgolion.
Ar gyfer ysgolion, mae gennym ni dros dair wythnos bellach i barhau i gynllunio, ac i barhau i fod yn barod, ac yn hanfodol, i barhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch a lles. Byddwn yn gweithio gyda'r proffesiwn i sicrhau y cânt eu cefnogi nawr ac yn yr hydref. Bydd penaethiaid yn cael y cyfle i weithio gyda'u staff mewn ysgolion i baratoi'n llawn ar gyfer disgyblion. Mae hefyd yn rhoi'r amser sydd ei angen ar gyrff llywodraethu a chynghorau i ddatblygu'r camau statudol angenrheidiol a'r asesiadau risg er mwyn cynorthwyo staff a disgyblion i ddychwelyd.
Rwy'n cydnabod bod hwn yn gyfnod pryderus iawn i ni i gyd, ac mae hynny'n parhau. Gwn y bydd llawer yn teimlo'n bryderus. Ond rwyf eisiau dweud nad ydym ni wedi rhuthro'r gwaith hwn na'r penderfyniad hwn. Mae'r cyfnod tair wythnos a hanner cyn y cyfnod nesaf hefyd yn rhoi amser i mi gadw golwg ar ddatblygiadau mewn mannau eraill, a rhoi cyfleoedd gwirio pellach i adolygu'r dystiolaeth, ac i wylio'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen profi ac olrhain yn llwyddiannus.
Dyma'r dewis ymarferol gorau sy'n bodloni fy mhum egwyddor. Drwy weithio gyda'n gilydd, rwy'n gwybod y byddwn yn sicrhau tegwch a rhagoriaeth i ddisgyblion wrth iddyn nhw ddod i'r ysgol, dal ati i ddysgu a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Suzy Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A diolch i chi hefyd, Gweinidog; rwy'n credu y bydd llawer—plant yn enwedig— ar draws Cymru wedi bod yn edrych ymlaen at gyhoeddiad o'r math hwn. Ac a gaf i gytuno â'r sylwadau a wnaethoch chi ynghylch ein holl athrawon a theuluoedd, ac, wrth gwrs, staff cymorth sydd wedi helpu i weithio yn yr hybiau yn ogystal â gweithio gartref yn ystod y cyfnod hwn?
Roeddwn eisiau gofyn hyn i chi: os edrychwn ar wledydd ar draws Gorllewin Ewrop lle y gorfodwyd cyfyngiadau symud tua'r un adeg ag yn y DU, mae codi'r cyfyngiadau yn digwydd mewn modd gwahanol mewn gwahanol wledydd ac, mewn gwirionedd, o fewn rhai o'r gwledydd hynny. Ac ar yr wyneb, nid yw'r un gweithredoedd bob amser yn arwain ar yr un canlyniadau, rhwng y rhanbarthau hyn, heblaw am y ffaith amlwg fod ynysu yn cyfyngu ar ledaeniad y feirws. Er hynny, eu ffordd nhw ymlaen, bron yn gyfan gwbl, fu agor yn raddol mewn grwpiau blwyddyn. Felly, beth sydd wedi digwydd i'ch bodloni bod lle a chyfle i gynyddu gweithrediadau? A pham ydych chi wedi mynd ati i wneud hyn drwy gyflwyno cylch tair wythnos i draean o'r boblogaeth ysgolion, yn hytrach na'r dull mwy poblogaidd hwnnw o weithredu mewn grwpiau blwyddyn? Ac wrth wneud hynny, sut ydych chi wedi pwysoli ffactorau megis lles emosiynol a cholli dysgu o'u cymharu â'r prif bryder o gyfyngu lledaeniad y feirws yn y gymuned?
Bydd llwyddiant y dull hwn, wrth gwrs, yn dibynnu ar hyder y gymuned, ac rwy'n croesawu eich sylwadau am ddiogelu staff a phlant sy'n dal yn agored i niwed, fel na fydd neb yn cael ei gosbi am beidio â manteisio ar y cynnig i fynychu'r ysgol. Ond a fydd eich arweiniad i ysgolion yn cynnwys y gwaith o ganfod pa blant nad ydynt eisiau dychwelyd i'r ysgol? A allwch ddweud wrthym beth y mae cylch tair wythnos yn ei olygu mewn gwirionedd? A fydd hyn yn cael ei ymestyn i'r cyfnod sylfaen, ar gyfer plant rhwng tair a phump oed—ac os felly, a gaiff hyn effaith ar leoliadau nad ydynt yn ysgolion? Ac a fydd plant gweithwyr allweddol yn gallu mynychu eu hysgolion eu hunain bum diwrnod yr wythnos ynghyd â dysgwyr sy'n agored i niwed, neu a fyddant yn gorfod parhau i fynd i hybiau?
Diolch yn fawr iawn. Fe wnaf fy ngorau i geisio ymdrin â'r cwestiynau lluosog y mae Suzy Davies wedi'u gofyn. Bydd plant gweithiwr allweddol yn gallu mynychu eu hysgolion eu hunain, am yr un oriau ag y maen nhw'n mynychu eu hysgolion hyb ar hyn o bryd. Ac mae hynny'n wir ar gyfer plant agored i niwed y mae ganddyn nhw hawl eisoes—byddant yn gwneud hynny nawr yn eu hysgol gartref, pan symudwn at y cam nesaf ddiwedd mis Mehefin.
O ran y teuluoedd hynny, rwy'n parchu'r ffaith y bydd pob teulu'n gwneud penderfyniad ar sail nifer o ffactorau, a'r hyn sy'n iawn iddyn nhw, ac rwy'n parchu teuluoedd a'u gallu i wneud yr union beth hwnnw. Os bydd teulu, am ba reswm bynnag, yn penderfynu peidio â manteisio ar y cyfle i blentyn ddod i'r ysgol, yna byddwn yn parchu hynny ac ni fydd neb yn cael dirwy, ac ni fydd presenoldeb yn rhan o unrhyw fesur o berfformiad ysgol ychwaith. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig i'w ddweud wrth athrawon.
Rydym yn gwybod, ar hyn o bryd, bod 4,000 o blant sydd eu hunain wedi cael llythyr gwarchod. Ni fydd pob un o'r plant hynny o oedran ysgol, a'n cyngor i'r plant hynny yw na ddylai'r plant hynny fanteisio ar y cyfle hwn i ddod i'r ysgol, a'n bod yn disgwyl y bydd eu hanghenion yn cael eu diwallu mewn ffordd wahanol. Ac i'r rhieni hynny sy'n cael llythyr gwarchod, unwaith eto, ein cyngor ni yw na ddylai eu plant o anghenraid fanteisio ar y cynnig, er mai mater iddyn nhw yw pwyso a mesur. Ond unwaith eto, ni fyddant o dan anfantais—bydd y broses o ddod i'r ysgol yn digwydd mewn ffordd wahanol i'r plant hynny hefyd.
Yr hyn sydd wedi bod yn bwysig iawn i mi yw'r egwyddor o degwch a chydnabod bod pob plentyn i gael cyfle cyfartal, ac er y byddai mewn rhai ffyrdd yn symlach yn logistaidd i gael grwpiau blwyddyn, mae hynny'n golygu, i rai plant, na fyddent wedi tywyllu ysgol, fel y dywedais, ers amser maith a chredaf fod hynny'n niweidiol iddyn nhw.
Rydym yn symud yn ofalus iawn ac, fel y dywedais, byddwn yn cyfyngu'n ddifrifol ar nifer y plant a all fod ar y safle ar unrhyw un adeg. Rydym yn disgwyl i'r dosbarthiadau fod yn rhai bach iawn, gydag aelod o staff penodol. Ac mae angen imi ei gwneud yn glir iawn i Aelodau, fel y gwnes i, gobeithio, i rieni yn gynharach heddiw, nad yw hyn yn debyg o gwbl i ysgol yn dychwelyd i'r sefyllfa arferol. Felly, ni fydd plant yn gwneud wythnos lawn yn yr ysgol, yn mynychu'r ysgol bob dydd—byddant yn cael amseroedd penodol i fynychu er mwyn iddyn nhw wneud hynny.
Nawr, o ran canfod faint o alw sydd yna, byddwn yn disgwyl i benaethiaid yn y tair wythnos a hanner nesaf gysylltu â rhieni i weld pa rieni fydd yn derbyn y cynnig i'w myfyrwyr ddod i'r ysgol ar adegau penodol ac yna byddant yn gallu cynllunio'n unol â hynny i sicrhau nad yw'r niferoedd yn fwy na'r hyn sy'n ddiogel i'w rheoli. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pob un plentyn yn cael y cyfle i drafod gyda'i athro, bod modd asesu dysgu'r holl blant ar yr adeg hon ac y gellir helpu'r holl deuluoedd ar gyfer y cam nesaf o ran addysg.
Diolch am hynny. Credaf fod pwynt difrifol yma am hyder rhieni, ac mae'n debyg mai un ffordd y gallech helpu i wella hynny yw drwy eu helpu i ddeall, er enghraifft, sut y profwyd unrhyw oedolion mewn hybiau ysgol ledled Cymru a pha ganlyniadau a gafwyd, ac a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer profi oedolion asymptomatig mewn ysgolion yn ystod y cyfnod o ddychwelyd fesul cam, a hefyd a fydd rhywfaint o gyllid ychwanegol yma i ysgolion weithredu'r mesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid, ac i gynghorau ddarparu digon o gludiant ysgol i gydymffurfio â'r un gofynion.
Rwy'n credu bod cwestiwn hefyd ynglŷn â chysondeb y broses o weithredu'r canllawiau presennol ar draws Cymru gyfan. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi ei godi gyda chi o'r blaen. Os na fydd rhai plant yn mynd i'r ysgol o hyd, a bydd dwy ran o dair o'r rhai sy'n gwneud hynny yn dal i gael eu dysgu gartref, rwy'n credu bod angen rhywfaint o sicrwydd arnom ni mewn gwirionedd ynghylch sut yr ydych chi wedi bod yn dilyn cynghorau ac ysgolion dros y cyfnod hwn i gadarnhau y dilynwyd y canllawiau yr ydych chi wedi'u darparu yn gyson ledled Cymru.
Yn gyntaf, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod gennym ni drefn brofi, olrhain a diogelu sy'n gadarn i gefnogi'r cyfnod nesaf o weithrediadau addysgol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod papurau SAGE wedi ei gwneud hi'n glir iawn, wrth agor ysgolion i fwy o ddisgyblion, bod yn rhaid profi ac olrhain. Bydd gennym ni fis o'r drefn profi ac olrhain yma yng Nghymru cyn y bydd plant ychwanegol yn mynd i'r ysgol. Mae hynny'n rhoi hyder inni fod y system honno ar waith ac yn gadarn.
O ran profi gwrthgyrff, byddwn yn cynnwys staff addysgu ac addysgol sydd wedi bod yn gweithio yn ein hybiau ar gyfer profion gwrthgyrff. Gall hynny wella ein dealltwriaeth o sut—os oes rhai—mae'r clefyd yn gweithio mewn ysgol, lleoliad gofal plant. Mae'r ffigurau diweddaraf a welais yn dangos bod y mwyafrif helaeth o'r profion sydd wedi'u cynnal ar y rhai sy'n gweithio mewn sefydliadau addysgol wedi dod yn ôl yn negyddol. Rydym wedi cael rhai achosion ond, wrth gwrs, mae'n amhosib gwybod a gafodd yr unigolyn hwnnw'r feirws yn y gweithle neu a gafodd ei heintio pan oedd yn ei archfarchnad leol neu pan oedd, o bosib, yn rhyngweithio mewn ffordd arall. Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw mai anaml iawn, iawn, y mae plant yn trosglwyddo'r clefyd mewn unrhyw fodd—mae'n annhebygol iawn eu bod wedi trosglwyddo'r clefyd hwnnw, y feirws, i unrhyw un arall. Ac, wrth gwrs, mae pob athro yn gymwys ar hyn o bryd—felly hefyd y cyhoedd yng Nghymru—i gael eu profi, a byddwn yn cymryd cyngor pellach ynglŷn â sut y dylid cynnal profion rheolaidd, ond mae'r drefn profi, olrhain a diogelu yn gwbl hanfodol inni.
O ran gwirio'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, mae gennym ni rydym ni'n gwneud hynny mewn sawl ffordd. Yn ddiweddar, gwnaeth Parentkind arolwg annibynnol o rieni. Dywedodd 84 y cant o rieni Cymru eu bod yn fodlon gyda'r gefnogaeth yr oedden nhw wedi ei gael gan ysgolion eu plant. Yn amlwg, mae trefn yma i awdurdodau addysg lleol barhau â hi. Nid yw eu gwaith o gefnogi eu hysgolion wedi diflannu, na'r rhan sydd gan y gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol i'w chwarae ychwaith.
Rydym ni wedi gofyn i wasanaethau rhanbarthol gwella ysgolion ddechrau dull trefnus o edrych ar arferion ar hyn o bryd. Bydd eu hadroddiad cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar 19 Mehefin, ac yna byddem yn disgwyl adroddiad dilynol rheolaidd i ganfod faint o ymgysylltu sydd yna a natur y broses o ymgysylltu â dysgu ar-lein, a bydd hwnnw'n adroddiad rheolaidd er mwyn inni gael sicrwydd ynghylch yr hyn y mae ysgolion yn ei wneud. Mae Estyn eisoes wedi dechrau gweithio ar ganllawiau arfer da, gan edrych ar sut y mae'r system wedi ymateb i'r argyfwng a sicrhau bod arferion gorau yn cael eu deall a'u lledaenu wrth i ni symud ymlaen.
A gaf i ddweud fy mod yn credu bod ysgolion wedi symud gyda chyflymder aruthrol i gofleidio ffyrdd newydd o ddysgu? Bydd hynny'n parhau i ddatblygu, oherwydd yr hyn sy'n ein hwynebu yw cyfnod estynedig o addysg lle bydd cymysgedd o ddysgu ar-lein a chyswllt wyneb yn wyneb. Ond mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu bod dysgu ar-lein yn gwella'n fawr pan ellir cefnogi hynny â sesiynau wyneb yn wyneb rheolaidd.
Mae gen i amheuon mawr ynglŷn ag ailagor ysgolion ddiwedd Mehefin. Mae'n rhy gynnar. Mi fydd llawer o rieni ac athrawon a phlant a phobl ifanc yn bryderus hefyd. Dydy'r gyfundrefn profi ac olrhain ddim mewn lle eto. Dydyn ni ddim yn gwybod yn iawn sut mae'r feirws yma yn gweithredu—sut mae o'n trosglwyddo rhwng plant a rhwng plant ac oedolion. Dwi'n credu bydd ennyn hyder teuluoedd ei bod hi'n ddiogel hyd yn oed i grwpiau bach o blant i ddychwelyd cyn yr haf yn dasg anodd iawn.
Mi oeddem ni ym Mhlaid Cymru wedi awgrymu cynllun arall, cynllun fyddai yn golygu newid patrwm y tymhorau, peidio ailagor yr ysgolion ym Mehefin a Gorffennaf, ac wedyn, dim ond os oedd hi'n saff, i ailagor yn raddol ac i grwpiau bychain o blant o ganol Awst ymlaen, pan, erbyn hynny gobeithio, fyddai gennym ni well darlun o'r hyn sy'n digwydd efo'r feirws. Hoffwn i wybod pam wnaethoch chi ddim mynd efo'r cynllun hwnnw, achos dwi'n deall ei fod o wedi bod yn cael ei drafod.
O ran agor i bob disgybl—ac rydych wedi bod yn trafod hynny rŵan—mae'r undebau, fel y gwyddoch chi, o blaid agor i flynyddoedd 6, 10 a 12 fel blaenoriaeth. Rydym ni wedi trafod hyn, ac mae gen i gydymdeimlad efo'ch safbwynt chi o gynnig cyfle i bob disgybl fedru siecio i mewn. Sut ydych chi'n mynd i ofyn i ysgolion roi'r cyfle hwnnw? Ac a fyddwch chi'n annog ysgolion i chwilio'n benodol am y plant hynny, am y bobl ifanc hynny, sydd ddim wedi bod yn cyfranogi o'r gwersi ar-lein neu o'r dysgu ar-lein, ac sydd ddim wedi bod yn cynnal cyswllt rheolaidd efo'r ysgolion? A fyddwch chi'n annog blaenoriaeth ar gyfer y grŵp penodol yna o blant?
A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am ei chwestiynau? Bydd yn rhaid iddi faddau i mi, nid wyf yn cofio iddi drafod dychwelyd ym mis Awst gyda mi yn ein cyfarfodydd wythnosol, ond mae hi'n gywir yn awgrymu ein bod wedi ymchwilio i'r posibilrwydd o ddod â thymor yr haf i ben yn gynnar a dechrau'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Awst. Roedd llawer o atyniadau i'r cynllun penodol hwnnw. Yn gyntaf, gwneud y gorau o fisoedd yr haf, fel y dywedais yn gynharach, rydym yn gwybod bod heulwen a'r tywydd gwell a'r gallu i gael plant y tu allan ac awyru adeiladau ysgolion yn haws yn ystod misoedd yr haf, a byddai wedi caniatáu hyd yn oed mwy o amser i'r gyfundrefn profi, olrhain a diogelu ymwreiddio.
Trafodwyd hyn gyda phob un o'n cydweithwyr yn yr undebau—undebau penaethiaid, undebau athrawon ac undebau staff cymorth. Byddem wedi torri tymor yr hydref hwnnw yn nifer penodol o gyfnodau i greu toriadau naturiol. Ond mewn gwirionedd, gwrthododd pob un undeb y cyfle hwnnw. Ac o ystyried y ffaith y byddai hyn, wrth gwrs, yn newid sylweddol i delerau ac amodau ein staff addysgu, ni allwn ond symud ymlaen gyda newid mor ddirfawr os gwneir hynny gyda chydsyniad ein gweithwyr proffesiynol, ac ni chafwyd eu cydsyniad. Felly, roedd yn gynnig da, ond credaf fod yr hyn a gyflwynwyd gennym ni heddiw yn rhannu llawer o'r cyfleoedd tebyg: mae'n caniatáu i'r rhaglen profi ac olrhain ymwreiddio dros fis cyfan; mae'n ein galluogi i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd dysgu yn yr haf; mae'n rhoi toriad naturiol i ni i fyfyrio ar ein hymarfer yn ystod y chwe wythnos o wyliau haf; ac yn caniatáu inni roi ychydig o doriad ychwanegol—saib—yn nhymor yr hydref pan allai pethau fod yn anodd unwaith eto, o bosib. A dyna sut yr ydym ni wedi penderfynu bwrw ymlaen.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod ei bod hi'n anodd iawn nodi addysg pa blant sy'n bwysicach nag addysg pobl eraill. I blant hŷn, nid dim ond mater o nodi grwpiau arholiadau ydyw—mae gan ysgolion gwahanol batrymau arholiadau gwahanol. Byddai rhai plant sydd ym mlwyddyn 8 ar hyn o bryd yn dechrau eu cyrsiau TGAU yn yr hydref. Mae yna blant a fydd yn sefyll uned 1 eu harholiadau TGAU. Felly, mae amrywiaeth eang o ddosbarthiadau arholiadau—nid dim ond y rhai y mae Siân Gwenllian wedi'u hamlinellu, ac rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol, o ran blwyddyn 6, eu bod yn cael cyfle i ffarwelio â'u hathrawon a'u hysgolion cyn iddyn nhw symud ymlaen i'r ysgol uwchradd. Ond o ran y cwricwlwm, mewn gwirionedd, maen nhw wedi dod i ddiwedd eu cwricwlwm cyn iddyn nhw symud ymlaen i gyfnod nesaf eu haddysg. Cefais nifer o sylwadau gan weithwyr addysgu proffesiynol a oedd yn dweud y dylai blwyddyn 5 gymryd blaenoriaeth dros flwyddyn 6.
Yr hyn yr ydym yn ei wneud yw sicrhau bod pob un plentyn yn cael cyfle i drafod gyda'i athro, i gael y newyddion diweddaraf ynghylch yr hyn a fu'n digwydd yn eu bywydau, sut y bu pethau, sut y bu pethau gartref, sut y bu'r dysgu, beth sydd wedi bod yn anodd, beth sydd wedi bod yn hawdd, a oes ganddyn nhw y cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw o ran y pecyn a'r offer i ganiatáu iddyn nhw ddysgu, a beth yw'r camau nesaf y mae angen iddyn nhw weithio arnyn nhw dros yr haf ac wrth baratoi ar gyfer mis Medi.
A phan ystyriwn ni y gallem fod wedi bod yn gofyn i rai plant ifanc iawn fynd yn ôl ym mis Medi, heb iddyn nhw dywyllu'r ystafell ddosbarth ers dros 23 o wythnosau, mae hynny'n ofyn mawr i blentyn bach, a hefyd, mae'r ystafell ddosbarth honno'n mynd i edrych yn wahanol iawn o'i chymharu â'r tro diwethaf yr oedden nhw ynddi, a bydd eu hysgol yn gweithio mewn ffordd wahanol iawn i'r tro diwethaf yr oedden nhw ynddi. Mae hyn yn caniatáu i ni ddychwelyd fesul cam er mwyn gallu cyflwyno ein plant yn araf i'r hyn y bydd addysg yn y dyfodol, a dyna pam y mae angen i ni gymryd y cyfle i wneud hynny cyn diwedd tymor yr haf.
Mae hi'n hanfodol, wrth gwrs, nad oes yr un plentyn yn cael ei adael ar ôl a bod pob plentyn yn cael yr addysg orau posib o dan yr amgylchiadau presennol. Mae'n hathrawon ni wedi bod yn hyblyg iawn ac yn gwneud gwaith arbennig, ond ydych chi'n hyderus bod pob plentyn yn ymgysylltu efo'u haddysg? Oes gan bob plentyn ddyfais, band-eang, gofod i weithio ynddo fo a digon o gefnogaeth er mwyn cymryd rhan yn eu gwersi? A sut ydych chi'n mynd i osod disgwyliadau cadarn i bob awdurdod lleol a phob ysgol bod rhaid i ddysgu o bell fod yn rhan greiddiol o'n system addysg ni i'r dyfodol, ddim jest yn ystod cyfnod y coronafeirws, ond mi fydd yna ddisgwyliadau i addysg newid yn sylweddol yn sgil y cwricwlwm newydd, er enghraifft, efo llawer iawn o bwyslais ar ddefnyddio technoleg? Ydych chi'n credu ar hyn o bryd bod yna ddigon yn cael ei wneud i fireinio a datblygu dysgu o bell, gan gynnwys ffrydio gwersi'n fyw? Dydw i ddim yn siŵr ydy hwnna'n digwydd yn gyson ar draws Cymru.
A gaf i jest droi'n olaf at Fil y cwricwlwm? Fedrwch chi gadarnhau wrthym ni pa bryd y bydd y drafft yn cael ei gyhoeddi? Dwi'n deall bod hyn ar fin digwydd ond dwi'n deall hefyd bod yna fygythiad i'r arfer o drochi plant ifanc yn y Gymraeg oherwydd y geiriad fydd ar wyneb y Bil, ac mi fyddai hynny'n ergyd drom iawn i'r nod miliwn o siaradwyr. Fedrwch chi ymrwymo felly i newid y cymal yma cyn cyhoeddi'r fersiwn drafft o Fil y cwricwlwm? Diolch.
Wel, mae Siân Gwenllian yn iawn: mae'r cyfnod hwn yn sicr wedi bod yn hwb gwirioneddol i ddatblygu sgiliau cymhwysedd digidol pawb—plant, athrawon, yn wir, Aelodau'r Senedd. Rydym ni i gyd, rwy'n siŵr, yn llawer mwy cymwys yn ddigidol heddiw nag yr oeddem ni 10 wythnos yn ôl er bod rhai ohonom ni, o bryd i'w gilydd, yn dal i frwydro gyda'n botymau distewi.
Mae'n bwysig iawn i mi fod pawb yn cael cyfle i ddysgu ar-lein. Dyna pam y bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r cymorth ariannol yr ydym ni wedi'i roi i fynd i'r afael ag allgáu digidol disgyblion. Hyd yma, o ganlyniad i gymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, mae tua 10,849 o unedau wi-fi wedi cael eu dosbarthu. Mae hynny'n gymorth a ddarparwyd ac a ddefnyddiwyd gan bob un o'r 22 awdurdod lleol, ac fe barheir i wneud ceisiadau am gymorth ychwanegol ac rydym yn bodloni'r ceisiadau hynny.
O ran dyfeisiau sydd wedi'u haddasu at ddibenion gwahanol, gallaf ddweud ein bod wedi rhoi trwyddedau ar gyfer tua 8,966 o ddyfeisiau. Mae'r rheini'n ddyfeisiau sy'n cael eu dosbarthu ar draws 14 o awdurdodau lleol sydd wedi elwa ar drefniadau canolog Llywodraeth Cymru, ond mae cyfanswm nifer y dyfeisiau sydd wedi'u benthyca yn uwch na hynny gan fod rhai awdurdodau lleol wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth ddyrannu'r dyfeisiau hynny ar ddechrau'r argyfwng, ac felly nid ydynt o anghenraid wedi manteisio ar hyn. Felly, gwyddom fod cryn dipyn o gymorth wedi'i ddarparu o ran allgáu digidol. A dyna pam, Siân, mae angen i bawb ddod i'r ysgol neu o leiaf gael y cyfle i ddod i'r ysgol oherwydd, rydych chi'n iawn, ni allaf eich sicrhau bod pob plentyn wedi bod yn dysgu, a gallai hynny fod am amryw byd o resymau, boed hynny'n allgáu digidol, boed hynny am fod mamau a thadau yn gweithio'n galed iawn o gartref ac yn cael trafferth i ddarparu'r gefnogaeth honno. I rai, gallai'r cymhelliant o beidio â bod ymhlith eu cyd-ddisgyblion fod yn anodd iawn. A dyna'n union pam y mae'n rhaid i ni beidio â dewis grwpiau blwyddyn, ond mewn gwirionedd rhoi cyfle i'r holl fyfyrwyr weld eu hathrawon fel y gellir cael y trafodaethau hyn fel y gallwn ni ddarganfod beth sydd wedi bod yn digwydd ym mywydau plant; gallwn ddarganfod pam nad ydynt wedi bod yn ymgysylltu, a'r hyn y mae angen i ni i gyd ei wneud i'w cefnogi'n well.
Mae gwersi byw yn fater i ymarferwyr ac ysgolion unigol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau ar sut y gall ymarferwyr wneud hynny'n ddiogel ac yn briodol, felly efallai y byddant yn gallu gwneud hynny a gallaf sicrhau'r Aelod nad oes dim yn y Bil cwricwlwm sydd ar y gweill sy'n atal neu'n tanseilio'r arfer o drochi; yn wir, i'r gwrthwyneb: am y tro cyntaf bydd sail gyfreithiol i'r arfer o drochi.
Roeddwn yn siomedig fod hwn wedi dod ar ôl yn hytrach na chyn y datganiad i'r wasg yn gynharach, ond serch hynny, hoffwn groesawu'r datganiad hwn gan yr Ysgrifennydd Addysg, a'n bod yn mynd i weld o leiaf rhywfaint o ailagor ysgolion. Yn wahanol i Siân Gwenllian, byddai'n well gennyf i petai hynny'n gynharach yn hytrach nag yn hwyrach ond mae'n digwydd ac rwy'n croesawu hynny, a hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Addysg am ei gwaith i sicrhau hynny. Roeddech yn onest iawn, fe deimlais, yn eich sylwadau'n gynharach, pan ddywedsoch chi mai'r undebau a rwystrodd yr hyn a oedd yn swnio fel eich dewis cyntaf, sef agor ysgolion yng nghanol mis Awst. A gaf i hefyd fod yn glir a oedd yr undebau hefyd yn ddylanwadol wrth benderfynu pryd y dylid rhoi'r wythnos ychwanegol hon sydd i'w gweithio'n hwyr yng Ngorffennaf yn ôl? Oni fyddai wedi bod yn well efallai i rieni a disgyblion pe bai'r wythnos honno wedi bod yn ystod yr wythnosau nesaf pan nad oedd ond cyfleoedd ar-lein ar gael, yn hytrach na'i bod yn wythnos ychwanegol a gaiff ei cholli nawr yn nhymor yr Hydref? Ni fyddwn yn hoffi, fodd bynnag, i'r cwestiwn hwnnw gael ei ddehongli fel un yn erbyn yr undebau nac fel beirniadaeth o'r Gweinidog am ymgysylltu â'r undebau. Yn amlwg, os yw'r undebau'n gallu cael cefnogaeth eu haelodau, mae'n bragmatig ac yn synhwyrol gweithio gyda nhw i geisio cael mwy o athrawon yn ôl i'r gwaith ac i ddychwelyd mewn ffordd fwy cadarnhaol, cyfranogol a chefnogol. Mae hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, a gaf i hefyd ofyn: a yw hi wedi ystyried buddiannau rhieni a disgyblion hefyd, oherwydd maen nhw hefyd yn amlwg yn rhanddeiliaid pwysig iawn yn hyn i gyd?
Yn gyffredinol, credaf fod yr hyn y mae'n ei ddweud am ddod â'r holl blant yn ôl o leiaf i gael rhywfaint o addysg yn fy nharo fel cynllun sydd â rhinweddau. Soniodd am yr agwedd o gydraddoldeb yn hynny, ond o ran cefnogi dysgu ar-lein a chyfarfod yn gorfforol hefyd, yn amlwg bydd manteision i hynny: cadw llygad ar blant, gwybod lle mae plant, gallu cyfeirio ac ymyrryd pan fo'n briodol, ac mae cefnogi dysgu ar-lein gyda pheth cyswllt corfforol i bawb yn ymddangos yn gadarnhaol.
Yn olaf a gaf i gadarnhau'r hyn y mae'r datganiad ysgrifenedig yn ei ddweud sef bod tua thraean o'r disgyblion yn dychwelyd? Credaf ichi ddweud nawr nad oedd yn fwy na thraean o'r disgyblion. Yn yr un modd, mae cyfeiriad at eu capasiti, eu capasiti unigol eu hunain ar gyfer ysgolion, a chredaf mewn datganiad ysgrifenedig: efallai y bydd angen amser ar ysgolion i allu gweithredu yn y modd hwn. Rwy'n credu i hynny gael ei newid wedyn i: efallai na fydd ysgolion yn gallu gweithredu yn y modd hwnnw. Yn amlwg, mater i'r Gweinidog yw diweddaru datganiadau ysgrifenedig a rhoi'r fersiwn lafar, sef y cofnod, wrth gwrs, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond tybed, serch hynny, a yw hynny'n awgrymu bod y pwnc hwnnw'n un dadleuol? A gwestiynwyd ei datganiad yn gynharach a arweiniodd at unrhyw newid meddwl neu bwyslais ar hynny? A soniodd am fwy o ysgolion a allai ei chael hi'n anodd gweithredu yn y modd hwnnw, a oes ysgolion eraill sy'n teimlo y gallant weithredu'n ddiogel gyda mwy o ddisgyblion na thraean, ac a wnaiff hi roi rhyddid i ysgolion ar ddwy ochr yr hafaliad i arfer eu doethineb? Diolch yn fawr iawn.
Diolch am hynny, Mr Reckless. O ran ei siom nad oeddwn wedi gwneud hyn yn gynharach, nid wyf yn teimlo y byddai wedi bod yn ddiogel gwneud hyn yn gynharach. Fel y dywedais, roedd Cyngor SAGE yn glir iawn, mae angen inni gael trefn i'w defnyddio ar gyfer yr holl waith cyn y gallem ni weld mwy o blant yn cael addysg. Dim ond yr wythnos hon y mae'r system wedi dechrau, ac nid oeddwn yn barod i weld mwy o blant yn mynd yn ôl i'r ysgol nes y bu'r system honno ar waith ac wedi cael ei phrofi. Felly, dyna pam nad ydym ni wedi mynd yn ôl yn gynharach. Mae hefyd yn ddiddorol iawn darllen cyngor SAGE—grŵp annibynnol SAGE, mewn gwirionedd—a oedd yn dweud bod y gwahaniaeth rhwng plant yn dychwelyd ar 1 Mehefin a phlant yn dychwelyd ar 15 Mehefin yn haneru'r tebygolrwydd y bydd plentyn yn cael y feirws. Rydym yn mynd yn ôl hyd yn oed yn hwyrach, sy'n unol â'r ymagwedd ofalus iawn y mae Llywodraeth Cymru yn ei chymryd tuag at bob un o'r mesurau llacio, ac mae hynny'n seiliedig ar gyngor SAGE, fel y dywedais, sy'n hysbys i'r cyhoedd erbyn hyn, rwy'n credu.
O ran yr wythnos ychwanegol, rwy'n bwriadu ymestyn y tymor gan roi wythnos ychwanegol i fachu ar y cyfle hwnnw i ddysgu yn ystod yr haf, oherwydd, fel y dywedais yn gynharach, gwyddom fod hynny'n rhoi'r cyfle gorau inni gael cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Rydym ni'n dod i ddiwedd y flwyddyn academaidd; mae'r wythnos ychwanegol honno'n golygu y gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn a sicrhau cymaint â phosib o gyfleoedd i gael cyswllt wyneb yn wyneb rhwng plant a'u hathrawon yr ochr hon i'r haf. O ran wythnos ychwanegol ym mis Hydref, rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwnnw i ailddyrannu'r wythnos honno. Rwyf wedi gwneud hynny, eto, oherwydd fel y trafodwyd yn hirfaith ddoe, mi gredaf gan y Gweinidog Iechyd, rydym yn pryderu fwyfwy am batrwm y clefyd yn yr hydref. Rwy'n gobeithio o ddifri, nid oes neb—ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yr un fath—nid oes neb eisiau gweld y feirws yn cynyddu eto yn yr hydref. Mae'n rhy gynnar i ddweud a fydd hynny'n digwydd, ond mae—. Y cyngor yr ydym yn ei gael yw ei bod yn ddigon posib y gwelwn y feirws yn dychwelyd. Felly, mae cael egwyl naturiol a blaenoriaethu cyswllt wyneb yn wyneb nawr, a ninnau'n gwybod y gallwn ni ei wneud, yn hytrach na cholli amser cyswllt wyneb yn wyneb ychwanegol yn yr hydref, yn rhan bwysig o'm strategaeth. Hefyd, mae'n dymor hir iawn beth bynnag, ac mae'n rhoi'r cyfle i ni greu egwyl naturiol ar adeg pan allai'r clefyd—ac rydym i gyd yn gobeithio na fydd—ddechrau amlygu ei hun eto.
O ran maint—mae'n ddrwg gennyf. Does dim dadl. Rwy'n aml yn hollti blew ac unwaith y bydd popeth mewn print ac yn cael ei roi i bobl, weithiau byddaf yn newid fy ngeiriau gan fy mod yn hoffi gair gwahanol, Mr Reckless. Dyna fy hawl fel Gweinidog. Weithiau rwyf eisiau newid fy ngeiriau, ond yn sicr nid yw oherwydd unrhyw beth dadleuol. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw cydnabod bod addysg Gymraeg yn hynod amrywiol. Wyddoch chi, mae gennym ni rai ysgolion sydd â 40 o ddisgyblion ynddyn nhw, ac mae gennym ni rai ysgolion sydd â llawer o ddisgyblion ynddyn nhw, ac mae'n rhaid i ni ymddiried yn ein penaethiaid a'n hawdurdodau addysg lleol i wneud yn siŵr bod digon o hyblygrwydd i adlewyrchu natur wahanol iawn ein hysgolion. Rhaid inni dderbyn hefyd na fydd y gweithlu o bosib ar gael yn llawn. Gwyddom, a'n hargymhelliad a'n cyngor ni yw na ddylai athro sy'n cael llythyr gwarchod ddychwelyd i'r gweithle ffisegol. Mae pethau y gallant eu gwneud gartref ac ar-lein i gefnogi dysgu, ond ni ddylen nhw fod yn y gweithle. Felly, mae'n rhaid inni gael rhywfaint o hyblygrwydd yn y system. Y traean yw'r nifer fwyaf o blant y byddem eisiau eu gweld. Ond, unwaith eto, mae'n rhaid i ni gael rhywfaint o hyblygrwydd a rhaid i ni ddibynnu ar ddoethineb penaethiaid a chyrff llywodraethu unigol o ran sut y bydd yn gweithio yn eu lleoliad nhw, cyn belled â bod hynny'n gweithio o fewn y cyd-destun cenedlaethol a'r fframwaith y byddwn wedi'i osod iddyn nhw. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod addysg Gymraeg yn amrywiol, ac y gall adeiladau a lleoliadau ysgolion unigol fod yn haws i'w rheoli nag eraill, a rhaid inni gydnabod hynny fel ymateb ymarferol iawn i'r sefyllfa. Nid yw un ateb yn addas i bob sefyllfa.
Diolch. Galwaf nawr ar Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Lynne Neagle.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Fel llawer o bobl, mae arnaf eisiau cymryd rhywfaint o amser i ddarllen y ddogfen ynghyd a'r dogfennau cysylltiedig cyn rhoi ymateb ystyriol a phwyllog iddo, ond roeddwn eisiau dweud mai un o'r pryderon mawr i mi yn y pandemig hwn yw bod y rhan fwyaf o'n plant yn anweledig a chudd i raddau helaeth. Felly, mae'r cyfle i gael archwiliadau lles i'n plant, a'r cyfle i gysylltu â'r athrawon yn uniongyrchol, yn rhywbeth y byddwn i, yn bersonol, yn ei groesawu, rwy'n credu.
Mae gennyf rai cwestiynau penodol. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy ynghylch sut y mae cadw pellter cymdeithasol yn mynd i weithio'n ymarferol. Fe wnaethoch chi gyfeirio at ganllawiau a gyhoeddir yr wythnos nesaf. A allwch chi ddweud a fydd hynny'n digwydd—faint o gyfarwyddyd fydd yn y canllawiau hynny? Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol gwybod hynny.
Fe ddywedsoch chi mewn ymateb i Suzy Davies mai'r hyn a'ch arweiniodd at gael yr holl blant yn ôl yn hytrach na grwpiau blwyddyn penodol, sef yr hyn a drafodwyd o'r blaen, oedd y ffaith eich bod eisiau cael dull o weithredu sy'n seiliedig ar gydraddoldeb a bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei weld. A wnewch chi gadarnhau mai dyna oedd yr unig beth a oedd yn troi'r fantol o blaid cael pob plentyn yn ôl?
Byddwn â diddordeb hefyd mewn cael gwybod i ba raddau y mae hawliau plant wedi bod yn ffactor yn y penderfyniad hwn. Hoffwn wybod a wnaed asesiad o'r effaith ar hawliau plant ynghylch hyn, fel yr wyf wedi bod yn gofyn drwy gydol y broses hon, mewn gwirionedd.
Hoffwn ofyn beth yw'r pethau allweddol neu'r sbardunau a allai arwain at ailfeddwl ynghylch hyn neu at atal hyn rhag digwydd yn yr amserlen yr ydych wedi'i gosod. Ai newid yng ngwerth yr 'R' fyddai hynny? Beth fyddai'r ffactorau y byddech chi yn eu hystyried?
Yn olaf gennyf fi, rwy'n credu bod y cyfyngiadau symud wedi bod yn drawmatig i bob un ohonom ni, ond i neb mwy felly nag i'n plant, mewn gwirionedd. Sut y byddwch yn sicrhau bod ysgolion wedi'u paratoi'n dda ar gyfer rheoli a chefnogi'r hyn a allai fod yn llawer o blant sydd wedi dioddef trawma mawr, pan fyddant yn dod yn ôl yn y pen draw? Wrth gwrs, mae yna hefyd fater o les staff ein hysgolion hefyd. Diolch yn fawr.
Diolch, Lynne. Byddwn, byddwn yn cyhoeddi canllawiau gweithredol yr wythnos nesaf. Mae hynny'n cael ei gwblhau—rydym yn dal i ymgynghori â'n hawdurdodau addysg lleol, undebau athrawon a'r grwpiau yr ydym wedi'u sefydlu i sicrhau bod y canllawiau hynny cystal ag y mae angen iddyn nhw fod, ac mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Bydd yn ymdrin â'r holl faterion gweithredol sy'n gysylltiedig â'r sesiynau dod i'r ysgol sy'n cael eu darparu i blant.
Rwy'n cytuno â hi: un o'r pethau sy'n fy nghadw'n effro yn y nos yw plant agored i niwed. Er gwaethaf ymdrechion gorau awdurdodau lleol ac athrawon unigol, ac ers gwyliau'r Pasg, rydym ni wedi gweld cynnydd yn nifer y plant agored i niwed sy'n mynd i'r ysgol, ac nid wyf yn teimlo'n gyfforddus â'r niferoedd. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod plant sy'n agored i niwed yn fwy tebygol o fynd i'r ysgol os mai hi yw eu hysgol nhw a'i bod hi yn eu cymuned nhw. Felly, un ystyriaeth bwysig yn y penderfyniad yr wyf wedi'i wneud yw cael mwy o blant sy'n agored i niwed yn ôl.
Gall hyn fod yn fater penodol sy'n ymwneud â rhai o'n plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Er bod plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol wedi gallu mynd i'n hybiau y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw, yn aml nid yw hynny wedi bod—mewn gwirionedd, nid yw wedi bod ar gael, oherwydd i rai plant mae'n amgylchedd estron, amgylchedd nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus ynddo. Yn aml, mae'r hybiau hynny, yn ddigon dealladwy, yn cael eu staffio ar sail rota. Mae'r staff yn newid, wyddoch chi drwy'r amser, ac, unwaith eto, gall hynny fod yn gythryblus iawn i rai plant.
Bydd y gallu i ddisgyblion fynd yn ôl i'w hysgolion eu hunain, mewn adeilad ac amgylchedd sy'n gyfarwydd iddyn nhw, gydag unigolion sy'n gyfarwydd iddyn nhw, gobeithio yn lliniaru rhywfaint ar y pwysau sydd, yn ddi-os, wedi bod ar rai teuluoedd, y mae'r sefyllfa o ran hybiau—er ei fod yn hawl, nid ydyn nhw wedi teimlo eu bod yn gallu defnyddio'r hawl honno oherwydd nad yw wedi diwallu anghenion eu plant. Rwy'n credu, unwaith eto, dyna pam y mae hwn yn gam pwysig ymlaen o ran gwneud yn siŵr bod plant mwy agored i niwed yn gallu cael y cymorth hwn.
Mae hawliau plant yn hollbwysig ac roedd yn benderfyniad anodd dweud bod addysg rhai plant yn bwysicach nag addysg eraill, ac y dylai hawliau rhai plant fod yn wahanol i hawliau eraill. Mae hyn yn ein galluogi i sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal.
Lynne, rydych chi'n iawn i ddweud bod yr holl benderfyniadau yr wyf wedi'u hamlinellu heddiw yn dibynnu ar a yw'r feirws yn ein galluogi ni i wneud y newidiadau hyn. Felly, unwaith eto, mae hynny'n rhan bwysig o'r tair wythnos a hanner nesaf o ran gwneud yn siŵr nad yw'r cyfyngiadau sydd eisoes wedi cael eu llacio yn arwain nid yn unig at gynnydd yn y rhif 'R' ond at nifer y derbyniadau i'r ysbyty a lefelau'r haint, a hefyd at gadernid y drefn o brofi, olrhain a diogelu.
Felly, fel y dywedais yn fy natganiad, byddwn yn defnyddio'r tair wythnos a hanner hyn i wneud yn siŵr y gall y penderfyniad yr ydym ni wedi'i amlinellu heddiw fynd rhagddo mewn gwirionedd. Ac os nad wyf yn fodlon, yna dywedaf hynny.
Diolch. Darren Millar. Na, mae'n ddrwg gennyf. Mae angen inni droi eich meicroffon ymlaen. Dyna chi, rhowch gynnig arall arni.
A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad heddiw, Gweinidog? Rwy'n credu y bydd llawer o bobl yn falch iawn bod ysgolion yn ailagor. A gaf i ofyn am ychydig mwy o eglurhad o ran y plant dan bump oed, ac yn enwedig y rheini sy'n blant oedran meithrin mewn meithrinfeydd a leolir mewn ysgolion? Pa ddarpariaeth fydd ar gael iddyn nhw o dan y trefniadau hyn?
Ac yn ail, un maes na wnaethoch chi roi diweddariad amdano heddiw oedd prifysgolion Cymru. Mae llawer o fyfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael bargen wael iawn gan brifysgolion am eu ffioedd dysgu ar hyn o bryd. Yn amlwg, am gyfnod sylweddol nawr, maen nhw wedi bod yn gwneud eu cyrsiau drwy ddysgu o bell. Manteisiais ar y cyfle i gael golwg ar wefan y Brifysgol Agored heddiw ac am rywbeth sy'n cyfateb i werth blwyddyn lawn o addysg yn y Brifysgol Agored, byddai'n costio ychydig dros £2,000 am hynny, ond mae prifysgolion Cymru yn dal i godi £9,000. A yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n gobeithio mynd i'r afael ag ef yn y dyfodol? Rwy'n gwybod eich bod wedi rhoi cymorth ariannol i brifysgolion, ond nid ydych chi wedi gwneud hynny ar gyfer myfyrwyr hyd yn hyn.
O ran ein plant ieuengaf, gwn fod hwn yn faes sy'n peri pryder penodol i lawer o bobl oherwydd gallu ein dysgwyr ieuengaf i ddeall y cysyniad o gadw pellter cymdeithasol. Gallwch gael sgwrs gyda phlant hŷn a gallant ddeall yr hyn y cânt ac na chânt ei wneud; greddf naturiol ein dysgwyr ieuengaf oll yw bod gyda'i gilydd, a gall hynny fod yn heriol iawn.
Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn i'w ddweud yw ein bod, dros y 10 wythnos diwethaf, wedi magu llawer o brofiad ynglŷn â sut i leihau'r risg yn y sefyllfaoedd hynny. Mae'n bwysig cofio bod chwarter o'n hysgolion wedi bod ar agor am y 10 wythnos diwethaf i blant o bob oed, felly hefyd ein darparwyr gofal plant ar gyfer plant hyd yn oed yn iau. Felly, rydym ni wedi gallu dysgu o'r profiad hwnnw ynglŷn â sut y gallwch chi reoli risg yn effeithiol. Ond rwy'n cydnabod ei bod yn anhygoel o anodd esbonio i blentyn pedair oed sut i gadw pellter cymdeithasol. Felly, mae ffyrdd ymarferol i leihau eu rhyngweithio.
Felly, yn gyntaf oll, byddwn yn cadw plant mewn grwpiau bach iawn, felly nid yn eu dosbarthiadau traddodiadol ond mewn grwpiau bach iawn gydag aelod penodol o staff. Byddwn yn rhoi cyngor ac arweiniad, er enghraifft, ar adnoddau a rhannu adnoddau. Ond heb rithyn o amheuaeth, Darren, mae'n heriol iawn i'r plant hynny. Ond rydym wedi edrych ar enghreifftiau rhyngwladol o'r ffordd y mae hynny wedi llwyddo, ac mae'n rhaid i mi ddweud ein bod yn gwybod mai'r plant hynny sydd leiaf tebygol o fod mewn perygl. Felly, yr eironi yw ar gyfer y rhai sydd leiaf tebygol o gadw pellter cymdeithasol, byddai'r dystiolaeth yn awgrymu mai nhw sydd leiaf tebygol o fod mewn perygl. Ond mae gennym ni brofiad o sut y gallwn ni reoli'r broses honno a lleihau'r risg gymaint â phosibl. Ac fel y dywedais, o ran gwarchod plant a gofal plant, cyhoeddir mwy o ganllawiau yr wythnos nesaf.
O ran prifysgolion, yn union fel eich cydweithiwr yn Llywodraeth San Steffan, nid oes gennyf gynlluniau i ostwng ffioedd yma ym mhrifysgolion Cymru.
Diolch. Helen Mary Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Os caf fynd â chi, Gweinidog, at addysg ôl-16—
Na, mae'n ddrwg gennyf, Helen. Rydym ni'n dal i gael problemau gyda'ch meicroffon. Gadewch i ni roi cynnig arall arni.
Beth am hwn?
Dyna welliant, diolch.
Diolch. Diolch, Dirprwy Lywydd. O ran—af â chi i addysg ôl-16, os caf i, Gweinidog. O ran y trefniadau ar gyfer colegau addysg bellach, a wnewch chi gadarnhau y bydd rhai o'r myfyrwyr hynny a fydd yn gallu dychwelyd, yn fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau galwedigaethol y bydd angen iddyn nhw sefyll arholiadau ymarferol er mwyn gallu cwblhau eu cymwysterau?
Os gallaf fynd â chi wedyn i'r sector prifysgolion, pa drafodaethau pellach ydych chi wedi'u cael ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU yn gweithredu fel Llywodraeth Lloegr i roi uchafswm ar nifer y myfyrwyr sy'n dod o brifysgolion Lloegr i brifysgolion Cymru? Yn amlwg, bydd gan hyn oblygiadau posibl o ran adnoddau i brifysgolion a fydd eisoes dan bwysau, ac a ydych chi wedi ystyried eto sut tybed y byddai Llywodraeth Cymru yn ymateb?
Iawn. Yn gyntaf, o ran colegau addysg bellach, ailadroddaf yr hyn a ddywedais yn fy natganiad: bydd colegau addysg bellach yn agor ar gyfer mwy o ddysgu wyneb yn wyneb ar 15 Mehefin. Mae hynny ychydig yn gynharach, oherwydd, mewn trafodaethau gyda phenaethiaid y colegau, ColegauCymru a'r undebau, maen nhw'n credu y gallant symud yn gyflymach i wneud hynny. Ac mae hi'n hollol iawn, wrth gytuno ar rai blaenoriaethau, mae'r grŵp hwnnw o fyfyrwyr y cyfeiriodd Helen Mary Jones ato yn flaenoriaeth. Felly, dyma'r un garfan o ddysgwyr—dyma'r un garfan fawr o ddysgwyr nad ydym ni wedi gallu dod i hyd i ffordd arall o ganiatáu iddyn nhw gwblhau eu cyrsiau gyda gradd. Felly, rydym ni wedi gallu gwneud hyn i bawb arall fwy neu lai, ond mae angen i'r grŵp hwn o ddysgwyr ddangos eu cymhwysedd technegol i ennill eu cymhwyster—ac mae hynny'n briodol. Os ystyriwch chi osodwyr nwy neu adeiladwyr, mae angen y dystysgrif dechnegol honno arnyn nhw ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael cyfle i gwblhau eu cwrs, felly nhw yw'r flaenoriaeth o ran y gwaith y mae'n rhaid i golegau ei wneud er mwyn iddyn nhw allu cwblhau eu cymhwyster a symud ymlaen i'r camau nesaf.
O ran addysg uwch a rheoli nifer y myfyrwyr, rydym yn cytuno bod y sefyllfa y mae addysg uwch ynddi yn golygu bod yn rhaid inni gyflwyno dull o reoli nifer y myfyrwyr. Yn wir, mae'r sector wedi cytuno bod hyn yn un ffordd bwysig o gyflwyno elfen o sefydlogrwydd ar adeg heriol iawn i'r sector.
Yr hyn a oedd yn syndod, ar ôl cytuno y byddem i gyd yn cyflwyno rhywfaint o reoli o ran nifer y myfyrwyr, a byddaf yn gwneud hynny yng Nghymru gyda'n sefydliadau, oedd canfod wedyn, mai'r ymagwedd a oedd gan Loegr oedd nid yn unig i gyflwyno rheolaethau ar nifer myfyrwyr eu sefydliadau eu hunain, ond i weithredu hynny ar draws awdurdodau eraill, sydd yn fy marn i yn anffodus iawn ac yn ddiangen, oherwydd rydym yn bwriadu gweithredu i gyflwyno sefydlogrwydd yma yng Nghymru. Nid ydym eisiau gweld ein prifysgolion yn ymddwyn mewn ffordd sy'n ansefydlogi ei gilydd yng Nghymru nac yn ansefydlogi sefydliadau eraill; mae angen inni weithio gyda'n gilydd ar hyn. Ac mae'n hollol anffodus bod hyn wedi digwydd. Byddwch yn ymwybodol fy mod wedi ysgrifennu at y Gweinidog yr wythnos diwethaf, fel y gwnaeth swyddogion cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban. Siaradais â'r Gweinidog fore Llun, ac nid oedd y Llywodraeth yn barod i newid ei meddwl, sy'n destun gofid i mi.
Mae CCAUC wedi bod yn cynnal ymgynghoriad i ni ar sut y byddai'r rheolaethau ar nifer y myfyrwyr yn gweithio yng nghyd-destun Cymru. Daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 1 Mehefin. Rwy'n credu mai 3 Mehefin yw'r dyddiad nawr, felly rwy'n aros am adroddiad gan CCAUC o ganlyniad i'w sgwrs, ac yna byddwn yn gwneud cyhoeddiadau ar gyfer Gymru. Ond mae'n destun gofid, oherwydd roedd cytundeb rhwng y ddwy Lywodraeth y byddem yn gweithredu i gyflwyno rheolaethau ar nifer myfyrwyr. Gallem fod wedi darparu'r sefydlogrwydd o fewn ein gwledydd ein hunain. Nid oedd angen inni dresmasu ac ymestyn rheolaethau ar nifer y myfyrwyr i sefydliadau y tu allan i'n gwledydd ein hunain, ac mae'n destun gofid i mi ein bod yn y sefyllfa hon. Ond byddaf yn myfyrio ar ymgynghoriad CCAUC ac yn gwneud cyhoeddiad cyn gynted ag y gallaf.
Gweinidog, hoffwn groesawu natur ymarferol eich penderfyniad heddiw. Mae hwn yn feirws a allai fod gyda ni am flwyddyn neu ddwy neu hyd yn oed fwy, ac ni allwn ni amddifadu ein pobl ifanc o addysg wyneb yn wyneb am gyfnod mor hir â hynny. Ond mae hwn yn ddull o ddychwelyd fesul grŵp, ac mae angen ei wneud yn ddiogel, felly hoffwn ofyn i chi am ychydig mwy o fanylion ynghylch sut yr ydych yn gweithio gydag athrawon i sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel yn yr ystafell ddosbarth, a hefyd gyda'r staff glanhau mewn ysgolion yn ogystal, er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o amser a digon o adnoddau i lanhau amgylchedd yr ysgol yn drylwyr.
Yn ail, hoffwn ofyn am ychydig mwy o fanylion ynghylch cludiant i'r ysgol, sut y bwriadwch sicrhau bod disgyblion yn cydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol pan fyddant yn cael eu cludo i'r ysgol, a hefyd, os bydd unrhyw gostau ychwanegol i awdurdodau lleol o ran darparu bysiau ychwanegol, sut y bwriedir talu'r costau hynny.
Mae a wnelo fy nghwestiwn olaf â phrydau ysgol am ddim, a gyda'r dull hwn o ddychwelyd fesul grŵp, mae'n amlwg y bydd rhai disgyblion yn bresennol yn amgylchedd yr ysgol, tra bo eraill gartref ar wahanol adegau. Sut byddwch chi'n sicrhau bod pob teulu'n cael y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim, boed hynny o fewn yr ysgol neu gartref?
Diolch, Vikki. Un o'r rhesymau rydym yn cymryd tair wythnos a hanner—rydym ni wedi archwilio rhai o'r rhesymau iechyd cyhoeddus ynghylch pam y mae angen i ni roi mwy o amser i ni ein hunain, ond un o'r rhesymau pwysig iawn eraill yw bod angen i ni roi amser i staff ein hysgolion roi'r system hon ar waith a darparu hyfforddiant i benaethiaid, athrawon a'r rhai sydd â chyfrifoldeb am gynnal ein hysgolion ar sut i wneud hyn yn ddiogel. Ni allwn ddisgwyl gwneud cyhoeddiad heddiw a chael popeth yn ei le yn ddiogel ddydd Llun, felly mae angen i ni ddefnyddio'r amser hwn i wneud yn siŵr bod yr hyfforddiant priodol ar waith. Rwyf eisiau sicrhau Vikki, pan rydym yn sôn am ymgynghoriadau gydag undebau, fod hynny'n cynnwys y GMB ac Unsain, sy'n cynrychioli'r staff, a'u bod wedi cael eu cynnwys yn llawn yn y trafodaethau. Felly, dyna un o'r rhesymau ymarferol pam mae'n rhaid i ni gael bwlch rhwng cyhoeddiad a gweithredu'r cyhoeddiad hwnnw, fel y gallwn ni wneud yn union yr hyn y mae Vikki yn ei ddweud: sicrhau bod yr hyfforddiant a'r adnoddau yn cael eu rhoi yn eu lle. Ac rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ynghylch pa gymorth ymarferol ac ariannol y gall Llywodraeth Cymru eu cynnig o ran yr arferion hylendid hynny a'r cyflenwadau y bydd eu hangen ar ysgolion.
Fel y dywedais, byddwn yn cyhoeddi canllawiau yr wythnos nesaf ar sut y dylai hynny weithio, ac mae hynny'n cynnwys canllawiau ynghylch trafnidiaeth i ysgolion. Yn amlwg, os yn bosib, dylai rhieni gerdded, gyrru sgwter, beicio, ond, mae gan fy mhlant fy hun daith 25 milltir un ffordd i'r ysgol. Dydy hi ddim yn bosib mynd ar sgwter na cherdded y pellter yna. Felly, bydd llawer o deuluoedd yn dibynnu ar gludiant i'r ysgol ac, unwaith eto, rydym yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol. Mae'n un o'r problemau anodd y mae'n rhaid i ni eu goresgyn. Ond allwn ni ddim ildio. Vikki, rydych chi'n hollol gywir; gallai hyn fod gyda ni am gyfnod sylweddol o amser. Nid yw gwneud dim a gobeithio y gallai fod yn well yn ddewis mewn gwirionedd; mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r materion hyn ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i atebion diogel a chynaliadwy i drafnidiaeth, a byddwn yn parhau i gael y trafodaethau hynny.
O ran prydau ysgol am ddim, mae awdurdodau lleol yn parhau i wneud gwaith anhygoel yn cefnogi teuluoedd prydau ysgol am ddim mewn amrywiaeth o ffyrdd—popeth o ddosbarthu bwyd yn uniongyrchol i dalebau neu i arian parod. Bydd angen i ni wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei reoli'n briodol dros y pedair wythnos heb rywbeth sy'n rhy fiwrocrataidd, oherwydd dydym ni ddim eisiau sefyllfa lle mae rhywun mewn am ddiwrnod, ond mae eu taliad yn peidio a dydyn nhw ddim mewn am weddill yr wythnos. Felly, rhaid i ni fod yn ymarferol o ran sut y gwnawn hyn. Yn wir, un o'r ystyriaethau y gallai ysgol unigol ei ystyried yw a yw pobl yn mynychu fesul hanner diwrnod, ac felly, yn caniatáu'r bwlch hwnnw yng nghanol y dydd. Ond rydym yn ymwybodol iawn nad ydym ni eisiau proses fiwrocrataidd sy'n golygu y gallai teuluoedd unigol neu blant golli allan ar eu hawl.
Mae awdurdodau lleol yn dal i ddweud wrthym eu bod yn cefnogi mwy o deuluoedd nag erioed. Os gallwch ddychmygu, fel arfer, mae'n rhaid i chi fod yn yr ysgol i gael eich cinio ysgol am ddim, ac weithiau nid yw plant yn mynychu, neu efallai, am ba bynnag reswm, nad ydynt eisiau defnyddio hynny o fewn yr ysgol—am ba reswm bynnag. Mewn gwirionedd, rydym ni'n cefnogi mwy o blant a mwy o deuluoedd nag a fyddem ni pan fydd ysgolion yn gweithredu fel arfer, a bydd y gefnogaeth, rwy'n ailadrodd, ar gael dros wyliau'r haf. Rydym ni hefyd yn ymestyn rhywfaint o gefnogaeth i fyfyrwyr sydd mewn colegau addysg bellach ac yn ceisio darparu rhywfaint o gymorth ariannol o ran hawl rhai dysgwyr addysg bellach i gael prydau ysgol am ddim hefyd.
Diolch. Rwyf yn mynd i alw ychydig yn rhagor. Rydym ni wedi dod at yr amser sydd wedi'i neilltuo, ond rwyf yn dymuno cael cwestiwn gan aelodau'n awr, ac, os gofynnwyd eich cwestiwn eisoes, yna peidiwch â'i ofyn eto. Rhianon Passmore.
Na, mae'n ddrwg gennyf—mae angen i chi droi eich meicroffon ymlaen. Dyna chi.
Iawn, mae'n ddrwg gennyf. Diolch. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag effaith COVID-19 ar gwblhau asesiadau statudol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol? Mae llawer o staff awdurdodau addysg leol yn parhau i gael eu trosglwyddo ar draws y gwahanol adrannau er mwyn darparu'r gallu proffesiynol i weithio gyda'r plant sydd fwyaf agored i niwed, felly a wnaiff y Gweinidog ddatgan pa mor barod yw hi felly i ddarparu arweiniad a chymorth pellach yn yr ardal asesu statudol os a phan fydd angen, ac a wnaiff y Gweinidog ystyried ymhellach y defnydd o offer asesu rhithwir fel na fydd darpariaeth a cherrig milltir allweddol yn cael eu colli, fel bod ein plant ADY sydd mwyaf agored i niwed yn cael eu meithrin ar gyfer y dyfodol?
Dirprwy Lywydd, yr ateb i'r ddau beth hynny yw 'gwnaf', ac adroddaf yn ôl i Rhianon Passmore wrth i ni ystyried y sylwadau y mae wedi'u gwneud.
Gweinidog, maddeuwch i mi os yw fy nghwestiwn yn torri ar draws yr hyn sydd wedi'i ofyn eisoes, ond rwyf wedi bod yn cael trafferthion gyda fy fideo heddiw. Roeddwn yn meddwl tybed a ydych chi—. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad, a tybed a allech chi roi amlinelliad i mi o'r hyn a addysgir ym mlynyddoedd 10 a 12. Rwy'n deall bod CBAC a Chymwysterau Cymru wedi dweud y gallai rhannau o'r cwricwlwm gael eu gollwng. A yw hyn yn gywir? Os felly, a allwch chi gadarnhau y gellir cynnal cyfanrwydd y cwricwlwm, ac na fydd athrawon yn y blynyddoedd hynny yn gwastraffu amser yn addysgu unedau a fydd yn cael eu gollwng wrth ddychwelyd yn raddol? Ac yn olaf, a allech chi gadarnhau pryd y gwnaethoch chi ofyn i'r consortia rhanbarthol a chynghorau lleol ymgymryd â'r gwaith monitro hwn?
Yn sicr, Angela, gallaf gadarnhau bod Cymwysterau Cymru a CBAC eisoes yn dechrau ceisio canfod beth yw cyfnod parhaus o darfu ar addysg—yr effaith a gaiff hynny ar y gyfres nesaf o arholiadau. Rydych chi yn llygad eich lle; maen nhw wrthi'n ystyried beth fyddai'n briodol o ran elfennau a fyddai'n draddodiadol yn cael eu cyflawni, a sut y byddai hynny'n effeithio ar arholiadau'r flwyddyn nesaf—felly, er enghraifft, a oes angen cael yr holl waith cwrs arferol sy'n gysylltiedig â'r cymhwyster, ac yn hytrach na chanolbwyntio ar waith cwrs, canolbwyntio ar yr amser addysgu yn barod ar gyfer yr arholiad allanol ar y diwedd. Felly, mae'r ystyriaethau hynny'n cael sylw ar hyn o bryd a bydd angen eu cyfleu'n glir i'r staff a'r myfyrwyr hynny cyn pryd, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.
Mae'n ddrwg gen i, rydw i wedi colli rhediad fy meddwl. Beth oedd yr ail gwestiwn, Angela, mae'n ddrwg gen i?
Roeddwn eisiau gwybod os—
O, y consortia rhanbarthol—ie.
—bydd athrawon—. A'r consortia rhanbarthol a phryd oedd yn rhaid iddyn nhw edrych arno, ie.
Ie. Felly, ni allaf gofio'r union ddyddiad y rhoesom ni'r cyfarwyddiadau hynny i'r consortia rhanbarthol, ond disgwylir i'w hadroddiad cyntaf gael ei gyhoeddi ar 19 Mehefin.
Mewn perthynas â'r cwestiwn gwnaeth Siân Gwenllian ei ofyn yn gynharach ynglŷn â'r Bil cwricwlwm, ble mae'r dystiolaeth sy'n cefnogi bod gwneud y Saesneg yn statudol ar wyneb y Bil yn y cyfnod sylfaen yn cryfhau addysg Cymraeg? Ble mae'r dystiolaeth yna? Ac o ystyried y pryderon mae'ch cyn-gydweithiwr Aled Roberts, fel Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, wedi'u lleisio eisoes, a wnewch chi dynnu'r cymal arfaethedig allan o'r Bil cyn ei gyflwyno ddydd Gwener?
Wel, Dai, nid yw'r Bil wedi'i strwythuro mewn ffordd sy'n—. Mae'r Saesneg ar wyneb y Bil ar gyfer pob cyfnod addysg, ac mae'r Bil yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn yr un ffordd yn union. Mae'r Bil hefyd yn caniatáu i'r Saesneg gael ei datgymhwyso yn y lleoliadau hynny lle deallir yn dda bod trochi yn ffordd briodol i'n myfyrwyr ieuengaf gaffael sgiliau Cymraeg. Yr hyn y mae arnaf ei eisiau o'n cwricwlwm yw i fwy o'n myfyrwyr adael eu cyfnod addysg statudol yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru, ac nid oes unrhyw beth yn y Mesur sy'n atal hynny rhag digwydd. Fel y dywedais, i'r gwrthwyneb, mae mewn gwirionedd yn caniatáu sail statudol i'r broses drochi drwy ganiatáu i'r Saesneg gael ei datgymhwyso yn y lleoliadau hynny.
Rwy'n credu bod mater yma ynglŷn â chynnwys cwricwlwm, statws ieithyddol ysgol a chyfrwng yr addysgu o fewn yr ysgol. Byddwn yn awgrymu i'r aelod fod y rheini'n dri pheth gwahanol, a'r hyn y mae'r Bil cwricwlwm yn canolbwyntio arno yw'r cwricwlwm. Nid yw'n canolbwyntio ar y cyfrwng addysgu nac yn canolbwyntio ar gategori iaith ysgol unigol.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich datganiad rhagorol. Rwy'n falch iawn, iawn y byddwn yn cynnig rhywfaint o gyfle i bob myfyriwr fod yn yr ysgol peth o'r amser am o leiaf bedair wythnos cyn toriad mis Awst. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod myfyrwyr difreintiedig ac sy'n agored i niwed yn annhebygol o fynychu unrhyw beth heblaw am eu hysgol leol eu hunain, ac felly mae hyn yn newyddion da iawn iddyn nhw.
O gofio nad yw'r pandemig drosodd eto, mae'n ymddangos i mi y dylai hwn fod yn oes aur o addysg awyr agored, oherwydd dyma'r ffordd orau o beidio â lledaenu'r coronafeirws ymhlith myfyrwyr a staff. Felly roeddwn yn meddwl tybed pa ran fyddai i'r consortia rhanbarthol o ran hybu rhagoriaeth mewn addysg awyr agored a chynorthwyo'r ysgolion hynny nad oes ganddyn nhw ddarpariaeth awyr agored arbennig o ysgogol i wneud gwelliannau i wella ar hynny.
Wel, mae'r Aelod yn hollol gywir, un o'r rhesymau pam y mae angen inni fanteisio ar fisoedd yr haf yw oherwydd y gallwn ni wneud mwy o'n haddysgu y tu allan, a dyna un o'r rhesymau pam yr ydym wedi gwneud y penderfyniad a wnaethom ni.
O ran ei sylwadau ar hybu rhagoriaeth mewn addysg awyr agored, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i sicrhau bod adnoddau ac arferion da ar gael i ymarferwyr. Yn sicr, ychydig cyn y pandemig, cefais gyfarfod â Chyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â'r hyn y gallent ei wneud fel asiantaeth statudol yma yng Nghymru i gefnogi'r agenda hon, a byddwn yn gweithio gyda nifer o asiantaethau i sicrhau bod ysgolion yn defnyddio'r arferion gorau. Mae eich sylw yn un da, a byddaf yn sicrhau bod hynny'n digwydd.
Diolch, ac yn olaf, Nick Ramsay.
Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn i'n defnyddio'r llygoden sydd ddim yn gweithio. [Chwerthin.]
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, tybed a allech chi roi ychydig mwy o wybodaeth i ni am addysg y rhai dan bump oed y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn gynharach wrth ateb Darren Millar. Rwy'n credu eich bod wedi dweud ei fod yn amhosib glynu mewn gwirionedd at ymbellhau cymdeithasol gyda'r math hwnnw o grŵp oedran, ac rwy'n credu eich bod wedi sôn ei bod hi'n debygol ei bod hi'n haws eu rhannu'n grwpiau bach. Mae'n ymddangos i mi fod rhai meithrinfeydd mewn ardaloedd trefol yn llawer llai, bod llawer llai o ofod ac felly efallai eu bod yn ei chael hi'n llawer anos gwneud hynny na meithrinfeydd mewn ardaloedd gwledig. Tybed a edrychwyd ar neu a ystyriwyd unrhyw ran o hynny.
Diolch, Nick. Wrth gyhoeddi'r canllawiau yr wythnos nesaf, yn amlwg dyna'r cyd-destun cenedlaethol yr ydym yn disgwyl i ddarparwyr, sefydliadau a lleoliadau weithredu ynddo, ond fel y dywedais wrth ateb Mr Reckless yn gynharach, rhaid i mi dderbyn nad yw un ateb yn addas i bob sefyllfa a rhaid i ni ddibynnu ar grebwyll proffesiynol a phroffesiynoldeb arweinwyr lleoliadau a phenaethiaid unigol. Os ydym yn meddwl am ofal preifat i blant, efallai y bydd angen hynny—ac mae'n rhaid i bob un ohonom ni dderbyn y gallai arwain at rywfaint o amrywiad yn y niferoedd sy'n dychwelyd ac yng ngallu lleoliadau unigol i ymateb. Ac rwy'n credu, er ein bod ni fel gwleidyddion yn aml yn hoffi i bethau fod yn dwt, yn unffurf ac yn daclus—mae'n apelio at ein natur—yn y sefyllfa hon, mae'n rhaid i ni gael rhywfaint o hyblygrwydd i gydnabod, fel rydych chi newydd ei ddweud, y gall adeiladau a lleoliadau unigol wneud pethau mewn ffyrdd gwahanol, ac mae'n rhaid i ni gydnabod hynny.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Diolch.