3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 12:46 pm ar 24 Mehefin 2020.
Cwestiynau nawr gan lefaryddion y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, rwy’n siŵr, fod ymchwiliad troseddol bellach ar y gweill i’r tân ar safle tirlenwi Hafod—
Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd; ni allaf glywed.
O, iawn. Rwy’n gallu clywed. Llyr, a allwch chi—
Gallaf glywed nawr. Mae’n ddrwg gennyf, Llyr.
O'r gorau, mae pawb yn iawn. Gallwn barhau. Parhewch, Llyr.
Gofyn oeddwn i, Weinidog, fy mod yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r ymchwiliad troseddol sydd ar y gweill i'r tân ar safle tirlenwi Hafod, ger Wrecsam, yn gynharach y mis hwn. Ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru a'r cwmni sy'n rhedeg y safle wedi dweud wrthyf nad ydynt yn gwybod beth ddechreuodd y tân. Nawr, os felly, onid ydych yn credu ei bod yn ddoeth peidio â chaniatáu i'r cwmni barhau i ddympio yno, cyn i'r ymchwiliad troseddol ddod i ben?
Cefais sicrwydd gan CNC ei bod yn gwbl ddiogel i barhau. Mae gennyf gyfarfod gyda CNC yfory. Dim ond yn ddiweddar y cefais wybod am y digwyddiad rydych newydd gyfeirio ato. Felly, byddaf yn sicr yn ei godi gyda CNC yfory, ac yn cael mwy o sicrwydd ac yna rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo yn dilyn fy nghyfarfod yfory.
Wel, rwy'n siŵr y bydd nifer o bobl yn synnu eu bod yn cael parhau heb wybod beth yn union a achosodd y tân. Felly, hoffwn eich annog, Weinidog—ac rwyf wedi codi hyn gyda chi eisoes—i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn gynt yn hytrach na’n hwyrach. Oherwydd yn amlwg, nid oedd y gymuned leol yn dymuno’i gael yno yn y lle cyntaf, a bellach rydym yn gweld rhai o ganlyniadau'r datblygiad hwnnw.
Nawr, fe gyfeirioch chi at Cyfoeth Naturiol Cymru yn eich ymateb i mi, wrth gwrs, ac maent yn allweddol o ran amddiffyn ein hamgylchedd, ymateb i achosion o lygredd fel hyn, ond hefyd yr ymateb i’r llifogydd rydym wedi’u gweld mewn gwahanol rannau o Gymru dros y misoedd diwethaf, ac ar raddfa ehangach, yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur sy’n ein hwynebu. Ac rwyf wedi mynegi pryderon wrthych chi o'r blaen ynglŷn â chyllid Cyfoeth Naturiol Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, a'r ffaith eu bod ar drywydd anghynaliadwy o adnoddau sy'n prinhau yn sgil toriadau cyllid ar y naill law, ac ar y llaw arall, mwy o ddyletswyddau a chyfrifoldebau. Felly, i bob pwrpas, mae'r Llywodraeth hon yn gofyn i CNC wneud mwy gyda llai.
Roeddent eisoes wedi cael toriad mewn termau real yn eu cyllideb ar gyfer eleni, a bellach, maent yn wynebu toriad pellach, fel y gwyddoch, o £7.5 miliwn i'w cyllideb yn ystod y flwyddyn. Nawr, os ychwanegwch y miliynau o bunnoedd o golledion a ragwelir ar gyfer eu gweithgarwch pren, mae hon yn troi'n sefyllfa enbyd. Felly, yng ngoleuni eu rôl hanfodol yn amddiffyn yr amgylchedd, yn ymateb i lifogydd ac yn arwain y frwydr yn yr argyfwng hinsawdd, a wnewch chi ailystyried y toriad arfaethedig yn y gyllideb i Cyfoeth Naturiol Cymru?
Unwaith eto, rwy'n credu fy mod wedi cyfeirio at hyn yn fy atebion i'r pwyllgor, ac rydym yn gweithio'n galed iawn gyda CNC. Nid ydym eisiau bod yn y sefyllfa hon, lle rydym wedi gorfod ailosod ac addasu ein cyllideb at ddibenion gwahanol mor fuan yn y flwyddyn ariannol, ond gyda'r pandemig COVID-19, rwy’n siŵr y bydd pob Aelod yn derbyn ei bod hi'n gwbl hanfodol inni wneud hynny. Pan gyfarfûm â CNC oddeutu pythefnos neu dair wythnos yn ôl, gofynnais iddynt am eu hasesiad ynghylch cyllid nad yw’n gyllid cymorth grant, a chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar y—os bydd hynny’n gostwng. Gwn eu bod yn aros am ffigurau pren mis Mehefin cyn rhoi gwybodaeth fwy cadarn inni ynglŷn â hynny.
Yr hyn sy'n bwysig iawn, yn fy marn i, yw ein bod yn gweithio gyda hwy i sicrhau bod ganddynt hyblygrwydd mewn perthynas â’u cyllidebau. Felly, dyma'r brif eitem ar yr agenda yfory. Ond ar hyn o bryd, gyda'r ffordd rydym wedi gorfod darparu arian ar gyfer yr ymateb i bandemig COVID-19, mae arnaf ofn na allaf edrych ar y toriad hwnnw yn y gyllideb yn y ffordd y byddech yn dymuno. Ond fel rwy'n dweud, mae pob un ohonom wedi gorfod gwneud hyn, ac mae'n rhaid i bawb ddeall, gyda phandemig COVID-19, na fydd yr un lefel o gyllid ar gael ag y byddai wedi bod ar gael.
Rwy'n deall y pwynt a wnewch, ond wrth gwrs, rydym yn wynebu mwy nag un argyfwng ar hyn o bryd, a chredaf fod angen cofio hynny hefyd.
Mae yna un mater arall buaswn i'n hoffi ei godi gyda chi, os caf i, Weinidog, a hynny yw, wrth gwrs, y clwstwr o achosion COVID-19 rŷn ni wedi'i weld mewn ffatrïoedd prosesu cig yng Nghymru, a hynny'n adlewyrchu, wrth gwrs, yr hyn rŷn ni'n ei weld mewn gwledydd eraill fel yr Unol Daleithiau a'r Almaen ac yn y blaen. A'r hyn dwi eisiau gwybod yw beth ŷch chi fel Gweinidog a beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymateb yn rhagweithiol i'r sefyllfaoedd yma. Hynny yw, yn lle aros i achosion ymddangos, oni ddylid bod yn datblygu nawr rhaglen brofi wedi'i thargedu'n benodol ar ffatrïoedd prosesu fel hyn er mwyn, wrth gwrs, inni allu dal yr achosion yma yn gynnar a wedyn lleihau'r risg bod hynny wedyn yn lledu i'r gymuned?
Diolch. Gofynnais i fy swyddogion wneud gwaith cyflym ar hyn. Rydym wedi’i alw'n asesiad risg cychwynnol o ddwysedd ac amgylchedd, nid yn unig ar gyfer safleoedd prosesu cig a lladd-dai, ond hefyd ar gyfer ein holl fusnesau bwyd. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n dda—rwy’n disgwyl adroddiad cychwynnol erbyn diwedd y dydd heddiw—gan y credaf ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn rhyngwladol. Fe sonioch chi am America a'r Almaen, sydd wedi cael achosion a chlystyrau tebyg. Mae'n bwysig iawn ein bod yn dysgu gwersi. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn dysgu gwersi o'n safleoedd prosesu cig ein hunain. Felly, os ydych yn meddwl am—wel, am bob un ohonynt yn ôl pob tebyg, mae ganddynt chwaer-gwmnïau mewn gwledydd eraill. Gwn eu bod hwy—felly, Kepak, 2 Sisters, Dunbia—i gyd yn edrych ar eu sefydliadau eu hunain ac yn darparu gwybodaeth i fy swyddogion ar hyn. Felly, mae hwn yn waith sy’n cael ei wneud yn gyflym, fel rwy'n dweud, a byddaf yn cael yr adroddiad heddiw, gan y credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'n gilydd.
Felly, yn amlwg, rwyf wedi bod yn cael trafodaethau gyda'r Gweinidog iechyd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwarae rhan fawr hefyd wrth gwrs, a'r awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd, ac rwy'n credu bod ein cynllun profi, olrhain, diogelu, wedi cael ei brofi’n drylwyr ac mae'n llwyddo. Ond yn amlwg, mae angen i ni gadw llygad barcud ar hyn.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, os caf sôn am y pwynt a godwyd gennych mewn ymateb i gwestiwn diwethaf Llyr, a fyddwch yn sicrhau bod yr adroddiad hwnnw ar gael i'r Aelodau ei weld? Oherwydd credaf fod cryn dipyn o ddiddordeb cyhoeddus yn hyn ar yr adeg hon, a byddai'n bwysig deall pa gasgliadau y daethpwyd iddynt yn yr adroddiad a gomisiynwyd gennych. Ac yn ail, yn yr adroddiad hwnnw, a fydd yn nodi unrhyw fannau problemus ar y safle? Oherwydd fel rhywun sy'n gyfarwydd â safleoedd sy'n prosesu bwyd yn y ffordd hon, yn aml iawn, mae'r amodau oer yn y gaeaf yn aml i'w cael ar yr ochr brosesu, yn hytrach na’r llociau neu’r lladd-dy. Felly, a yw'r lefel honno o waith rydych yn ei wneud, neu'n wir, y mae’r Gweinidog iechyd yn ei wneud, yn benodol ar gyfer ceisio dod o hyd i'r rhan o'r safle sy'n agored i feirws COVID-19? Ond yn bwysicach fyth, a fydd yr adroddiad cyffredinol ar gael i'r Aelodau ei weld?
Yr asesiad hwn y gofynnais i swyddogion—yn fy is-adran fwyd—edrych arno, ac rydym yn ei wneud yn agos iawn gydag Arloesi Bwyd Cymru—. Mae'r Athro David Lloyd a Martin Jardine—fe fyddwch yn ymwybodol iawn o'r ddau ohonynt—yn arwain ar y gwaith hwn. A chan fy mod am iddo gael ei gwblhau’n gyflym iawn, roedd yn bwysig iawn inni ofyn am gymorth.
A fyddaf yn ei gyhoeddi? Mae yno i'n helpu fel Gweinidogion a Llywodraeth Cymru i ddarparu canllawiau i'r cwmnïau hyn. Nid wyf yn gwybod beth sydd—. Pe bai unrhyw beth i ddweud na allaf ei gyhoeddi—ond fel y gwyddoch, rwy'n Weinidog tryloyw iawn, ac os gallaf ei wneud yn gyhoeddus, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod—y pwyntiau a godwch. Felly, gwyddom y gall y feirws fyw’n llawer hwy ar ddur gwrthstaen oer, er enghraifft, nag y gall yn yr awyr agored. Felly, yn amlwg, i'r rheini ohonom sydd wedi bod yn y mathau hynny o sefydliadau a lleoedd, gwyddom eu bod yn oer iawn. Yr wythnos diwethaf, dywedwyd wrthym y gall sŵn gael effaith. Felly, unwaith eto, mae rhai o'r lleoedd hyn yn swnllyd iawn, felly gallai hynny fod yn cael effaith hefyd.
Yn amlwg, mae'r pellter 2m, mewn rhai mannau—rydym wedi gweld llinellau cynhyrchu—yn anodd iawn, a gwn fod cwmnïau wedi bod yn drylwyr iawn wrth geisio cadw at hynny, ond yn amlwg, mae llawer o faterion yn codi, a’r syniad wrth gael yr adolygiad cyflym hwn oedd gweld beth oedd yno a beth y gallem gynorthwyo gydag ef, a soniais yn fy ateb i Llyr fod llawer o arferion gorau, ac wrth gwrs, mae cwmnïau a sefydliadau’n gystadleuol, ond gwn fod pawb yn awyddus iawn i rannu’r arferion gorau hynny.
Wel, rwy’n gwerthfawrogi eich tryloywder, Weinidog, a hoffwn eich annog i sicrhau bod yr adroddiad hwnnw ar gael os nad oes unrhyw beth yn eich rhwystro rhag gwneud hynny. Efallai y bydd rhai cyfyngiadau cyfreithiol nad wyf yn ymwybodol ohonynt, ond pe gellid sicrhau ei fod ar gael, credaf y byddai'n cael ei werthfawrogi.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon becyn cymorth gwerth £25 miliwn i amaethyddiaeth mewn perthynas ag argyfwng COVID-19. Mae Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon wedi rhoi pecyn cymorth gwerth £45 miliwn ar waith ar gyfer y diwydiant amaeth. A ydych wedi cael trafodaethau gyda'r Gweinidog cyllid, o ystyried y cyllid canlyniadol sydd wedi’i ddarparu a'r mesurau cadernid economaidd ychwanegol sydd wedi bod ar gael i sectorau eraill yn economi Cymru—a ydych wedi cael sgwrs gyda'r Gweinidog cyllid i weld a ellir rhoi lefel debyg o gefnogaeth ar waith i gefnogi'r diwydiant amaeth, sydd mewn rhai amgylchiadau wedi profi gostyngiadau yn y prisiau o 15 i 20 y cant o ran maint yr elw y gallant ei wneud wrth werthu eu cynnyrch, ac i mewn i sector sydd wedi cau'n llwyr yn aml iawn, megis y sector gwasanaeth?
Mae'n ddrwg gennyf. Rhewodd fy nghyfrifiadur am ychydig, ond rwy'n credu fy mod wedi deall byrdwn eich cwestiwn, Andrew. Rwy'n cael llawer o sgyrsiau gyda'r Gweinidog cyllid, fel y byddwch yn deall, rwy’n siŵr, ynglŷn â gwahanol agweddau ar fy mhortffolio. Dywedais yn glir iawn ar y dechrau y byddem yn ystyried pob achos yn unigol pe bai unrhyw rannau o'r sector amaethyddol yn dod ataf am gyllid, ac roedd hynny'n amlwg—. Y sector llaeth a ddaeth yn gyntaf. Felly, roedd y ffaith bod y cyllid gennym i gael cynllun ar gyfer y sector llaeth yn ganlyniad i lawer o sgyrsiau gyda’r Gweinidog cyllid a chyd-Weinidogion eraill, ac roedd hynny, yn amlwg, oherwydd amgylchiadau penodol y farchnad mewn perthynas â chynnyrch llaeth, nad wyf yn credu eu bod yn bodoli mewn rhannau eraill o'r sector amaethyddol ar hyn o bryd.
Felly, nid oes gennyf gyllid ar gael i wneud yr hyn rydych newydd ddweud bod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi'i wneud, ond yn amlwg, byddem yn edrych arno ar sail achosion unigol. Rwy'n cyfarfod bob pythefnos gydag undebau'r ffermwyr yn awr a gwn mai hwy fydd y cyntaf i ddweud wrthyf os ydynt yn teimlo bod yna faes amaethyddol y dylem fod yn edrych arno.
Credaf fy mod wedi deall o'ch ateb, Weinidog, nad ydych wedi gwneud cais o'r fath i'r Gweinidog cyllid. Gydag arian o'r fath yn mynd i'n cystadleuwyr yng Ngogledd Iwerddon a'r Weriniaeth, hoffwn nodi y bydd hyn yn y tymor canolig i'r tymor hir yn rhoi’r sector amaethyddol o dan anfantais ddifrifol.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch gyhoeddi ymgynghoriad ar werthu cŵn bach gan drydydd parti, ac yn amlwg, mae'r ymgyrch mewn perthynas â chyfraith Lucy wedi ysgogi llawer o Aelodau ar draws y Siambr o bob plaid wleidyddol. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae disgwyl i'r ymgynghoriad hwnnw ddod i ben ganol mis Awst. Os cewch gyfle yn yr amserlen ddeddfwriaethol, pryd y disgwyliwch iddo gael ei gyflwyno i’r Cynulliad fel y gallwn drafod sut y gellir bwrw ymlaen â'r mater? Oherwydd, gyda’r diddymu ar 31 Mawrth, mae pwysau enfawr i geisio cael hyn ar y llyfr statud cyn y dyddiad hwnnw wrth gwrs. A allwch roi hyder inni y byddwch chi, fel Gweinidog, yn sicrhau y bydd hyn ar y llyfr statud erbyn y diddymu ar 31 Mawrth?
Yn sicr, dyna fy mwriad, ac roeddwn yn ddiolchgar i'r Aelod a holl aelodau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am eu hymrwymiad i fy helpu i wneud hynny. Rwyf wedi cynnal yr ymgynghoriad byrraf y gallwn ei gynnal. Rydym wedi cynnal ymgynghoriadau o'r blaen, ond yn amlwg, mae'n rhaid i ni fynd drwy'r broses. Ond rwy'n sicr yn gobeithio y byddaf mewn sefyllfa yn gynnar yn 2021 i roi hynny ar y llyfr statud.
Cwestiwn 3—Dawn Bowden.
Iawn, rwy'n credu ein bod yn gallu eich clywed yn awr.
Iawn. Diolch yn fawr, Lywydd. Roeddwn yn cael trafferth i agor fy microffon. Rwy'n ymddiheuro.