1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Gorffennaf 2020.
6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith y cyfyngiadau symud ar gyrhaeddiad addysgol yng Ngogledd Cymru? OQ55364
Llywydd, nid oes unrhyw ymchwil yr wyf i'n ymwybodol ohono yn awgrymu bod effaith cyfyngiadau symud ar gyrhaeddiad addysgol wedi amrywio yn ôl daearyddiaeth. Rydym ni wedi canolbwyntio ar ddysgwyr sy'n agored i niwed neu sydd o dan anfantais, pa le bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru.
Diolch. Prif Weinidog, mae astudiaeth fawr o addysgu gartref yn ystod y cyfyngiadau symud gan Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain wedi tynnu sylw at rai canfyddiadau sy'n peri gofid ynglŷn â sut y gallai addysg plant yng Nghymru fod yn dioddef. Maen nhw'n awgrymu, o dan eich goruchwyliaeth chi, bod plant yng Nghymru yn gwneud llai o waith ysgol ac yn cael llai o addysg ar-lein na'u cyfoedion ar draws gweddill y DU tra bod ysgolion wedi bod ar gau. A wnaiff eich Llywodraeth gomisiynu ymchwiliad i ystyried pam a sut y mae'n ymddangos bod plant yng Nghymru wedi cael eu siomi mor enbyd gan y rhai sydd yn gofalu am eu haddysg?
Wel, Llywydd, yn sicr, ni fyddwn i'n barod i wneud hynny ar sail un astudiaeth nad wyf i wedi cael unrhyw gyfle i edrych arni fy hun. Rwy'n credu y bu rhai enghreifftiau rhagorol mewn ysgolion ledled Cymru o'r ffordd y mae athrawon wedi gallu ymateb i heriau coronafeirws a darparu addysg yn y cyd-destun y mae wedi ei greu. Yr hyn yr ydym ni'n benderfynol o'i wneud nawr yw creu cyfres o ddisgwyliadau cenedlaethol sy'n golygu bod pob ysgol yng Nghymru yn yr hydref yn gallu manteisio ar brofiad y rhai gorau un i wneud yn siŵr bod safonau presenoldeb gofynnol yn yr ysgol, bod safonau ar gyfer amlder cyswllt pan nad ydyn nhw yn yr ysgol a bod safonau asesu ansawdd gwaith, marcio ac adborth yn gyffredin ar draws Cymru gyfan.
Byddwn yn defnyddio arolygwyr Estyn o fis Medi ymlaen i wneud yn siŵr bod arferion da yn cael eu rhannu ar draws y system addysg yng Nghymru, i wneud yn siŵr bod y gorau un, sydd wedi bod yn rhagorol, yn fy marn ni, lle mae wedi cael ei gynnig, ar gael yn fwy eang i bob plentyn yng Nghymru.
Diolch i'r Prif Weinidog.