1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Gorffennaf 2020.
3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith COVID-19 ar yr economi yng Nghanol De Cymru? OQ55436
Lywydd, mae Cymru’n parhau i fod yng nghanol argyfwng y coronafeirws, ond wrth i gylchrediad y feirws leihau, mae gweithgarwch economaidd yng Nghanol De Cymru yn parhau i wella gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Diolch i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Mae cael ymateb cydgysylltiedig gan wahanol Lywodraethau yn y DU wedi bod yn un o broblemau'r argyfwng rydym yn byw drwyddo, ac mae'n amlwg y bydd yr economi yng Nghymru yn dioddef i raddau mwy gan fod y Prif Weinidog yn mynnu gwneud pethau'n wahanol yma. Rwy'n teimlo y gallai'r broblem fod yn cael ei gwaethygu gan fod gan y Prif Weinidog syniad chwyddedig o'i bwysigrwydd ei hun. Efallai mai un broblem yw bod cyflog Prif Weinidog Cymru bron yr un faint â chyflog Prif Weinidog y DU. O ystyried bod cymdeithas fasnach bwysig yng Nghymru newydd ddatgan nad oes hyder ganddynt yn y Prif Weinidog, a yw'n credu'n wirioneddol ei fod yn haeddu cyflog o'r fath?
Lywydd, rwy'n gweithio mor galed ag y gallaf bob dydd i roi sylw i anghenion pobl Cymru. Deallaf fod yr Aelod yn ei chael hi’n anodd iawn deall y gwahaniaeth rhwng yr hyn sy'n bosibl i Gymru a'r hyn sy'n bosibl mewn mannau eraill. Gwelaf, yn ei gyfraniad diwethaf—. Tynnwyd fy sylw at ei gyfraniad ar 24 Mehefin, pan ddywedodd,
'rydym yn gwybod na wnaeth Mark Drakeford fynychu cyfarfodydd COBRA am sawl wythnos, pan oedd yn gallu gwneud hynny.'
Lywydd, efallai y dylwn gofnodi, gan fy mod yn siŵr na fyddai'r Aelod yn dymuno camarwain pobl yn fwriadol, nad oes unrhyw gyfarfod COBRA wedi bod—cyfarfod y cefais wahoddiad iddo—nad wyf wedi’i fynychu.
A gaf finnau ddiolch ar goedd hefyd i staff y Comisiwn ac i chi fel Llywydd am sicrhau bod y cyfleusterau hyn ar gael heddiw ar gyfer y Cynulliad hybrid cyntaf?
Brif Weinidog, mae economïau de Cymru wedi’u cydblethu’n agos iawn, ac mae’r newyddion ddoe am ailystyriaeth Ineos—os cawn ei alw’n hynny—ynghylch eu cynigion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn effeithio ar Ganol De Cymru, ac yn benodol, ar Fro Morgannwg, lle mae llawer o deithio yn ôl ac ymlaen i gyrraedd swyddi. A allwch egluro beth yn union sy'n digwydd gyda'r cynnig? Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Ineos wedi rhoi’r gorau i ystyried bwrw ymlaen â chamau nesaf y prosiect ar hyn o bryd, ond nid ydynt wedi dod â'r prosiect ei hun i ben. Ac nid oedd sylwadau gan AS yr etholaeth ar y teledu neithiwr ynglŷn â methu ymddiried yn y cwmni yn ddefnyddiol o gwbl. Does bosibl na ddylem fod yn gweithio ddydd a nos i argyhoeddi Ineos fod Pen-y-bont ar Ogwr ac economi ehangach de Cymru yn gartref delfrydol ar gyfer eu cynigion uchelgeisiol ar gyfer y cyfleuster newydd hwn.
Diolch i'r Aelod am hynny. Hoffwn ddweud wrtho fod Llywodraeth Cymru a'r contractwyr rydym wedi'u cyflogi wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod y safle wedi cael ei baratoi yn unol ag amserlenni tynn Ineos a bod y gwaith hwnnw wedi parhau er gwaethaf y llifogydd yn gynharach yn y flwyddyn a'r argyfwng coronafeirws. Felly, rydym wedi gweithio'n galed iawn i geisio bodloni’r gofynion a nodwyd gan y cwmni. Felly, roedd yn anochel ein bod wedi cael ein siomi ar 2 Gorffennaf, pan ddywedwyd wrth swyddogion—nid Gweinidogion; dywedwyd wrth swyddogion—fod y cwmni'n bwriadu atal ei gynlluniau ar gyfer buddsoddi yng Nghymru ac ym Mhortiwgal, hyd nes y cynhelir adolygiad. Roedd y cwmni i fod i arwyddo cytundeb pwysig gyda Llywodraeth Cymru ddydd Llun. Roedd yn siomedig iawn i ni, ar ôl yr holl ymdrechion a wnaed, nad oedd hynny'n bosibl.
Ond gadewch i mi gytuno â'r hyn y mae Andrew R.T. Davies wedi’i ddweud: er bod posibilrwydd o hyd y gallai’r cwmni hwn ddod i Gymru, rhaid inni weithio'n gadarnhaol gyda hwy i ddadlau pob achos dros sicrhau hynny. Siaradodd fy nghyd-Aelod Ken Skates yn uniongyrchol gyda’r cwmni nos Lun, a gwn iddo wneud y pwynt hwnnw: er gwaethaf ein siom, mor hwyr yn y dydd, i ddarganfod y gallai’r cwmni fod yn ailfeddwl, bydd unrhyw beth y gallwn ei wneud o hyd i'w perswadio ynglŷn â manteision dod i Ben-y-bont ar Ogwr a'r gweithlu rhagorol sydd ar gael iddynt yno—ni fyddwn byth yn rhoi'r gorau i ddadlau’r achos hwnnw, hyd at y pwynt pan fydd y cwmni hwnnw'n gwneud penderfyniad terfynol.
Brif Weinidog, rwyf wedi bod yn trafod gyda llawer iawn o fusnesau yng Nghwm Cynon sy'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol a gawsant gan Lywodraeth Cymru o dan y gronfa cadernid economaidd. Er mwyn cael mynediad at y gronfa honno, nodaf fod angen iddynt ymrwymo i gontract economaidd Llywodraeth Cymru. A allwch roi asesiad inni o sut rydych yn meddwl y bydd ymrwymo i’r contract economaidd hwnnw o fudd i economi a chymdeithas rhanbarth Canol De Cymru yn y dyfodol?
Diolch i Vikki Howells am hynny, Lywydd. Gwn y bydd yn cydnabod bod y cyflymder anhygoel y bu’n rhaid gwneud popeth yn ystod yr argyfwng coronafeirws yn golygu na fu modd cael y math o drafodaeth fanwl y byddem fel arfer yn ei chael gyda busnesau ynghylch contract economaidd.
Cyn yr argyfwng, roeddem wedi cytuno ar gontractau economaidd gyda 385 o gwmnïau yng Nghymru. Heddiw, mae dros 4,000 o gwmnïau wedi ymrwymo i egwyddorion y contract economaidd. Ac mae'r egwyddor yn bwysig iawn. Mae'n dweud wrth gwmnïau, pan fydd y cyhoedd yng Nghymru yn dod o hyd i arian i'w cefnogi yn y gwaith a wnânt ac i'w helpu i gynnal a chreu swyddi newydd, fod gan y cyhoedd yng Nghymru hawl i elw ar y buddsoddiad hwnnw sy'n mynd y tu hwnt i fuddiant y cwmni ei hun, a bod yna bethau pwysig rydym am eu creu ledled Cymru: dyfodol carbon isel, lefelau cynyddol o fuddsoddiad mewn sgiliau, ac ymagwedd gwaith teg tuag at Gymru. Mae'r holl bethau hynny'n bwysig, a phan fyddwn yn llunio contract economaidd gyda chwmni, rydym yn ceisio negodi’r enillion ychwanegol hynny ar y buddsoddiad a wneir gan y cyhoedd yng Nghymru.
A'r newyddion da, Lywydd, yw bod cwmnïau yng Nghymru yn barod iawn i weld manteision hynny. Maent hwythau hefyd yn awyddus i gael dyfodol yng Nghymru sy'n caniatáu iddynt barhau i fasnachu'n llwyddiannus mewn gwlad lle nad oes gennym gyflogau isel, lle nad oes gennym sgiliau isel, a lle rydym yn canolbwyntio, fel y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei fynnu gennym, ar wneud penderfyniadau heddiw sy'n rhoi cyfle iawn i'r rheini a ddaw ar ein holau i gael dyfodol llwyddiannus.
Tynnwyd cwestiwn 4 [OQ55414] yn ôl. Cwestiwn 5—Rhun ap Iorwerth.