4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 8 Gorffennaf 2020.
1. Pryd y bydd GIG Cymru yn gweithredu fel yr oedd cyn y pandemig Covid-19? OQ55426
Mae'n amhosibl dweud pryd y gallai GIG Cymru weithredu fel y gwnaeth cyn y pandemig COVID-19. Ni all yr un ohonom ddweud gyda sicrwydd pa bryd y daw’r pandemig i ben. Serch hynny, fel y dywedais o'r blaen, byddwn yn addasu ymarfer y GIG i ystyried yr arloesi a'r gwelliant a welwyd yn ystod y pandemig.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Dywed cannoedd o feddygon yng Nghymru fod gofal ehangach i gleifion wedi cael ei esgeuluso yn ystod y pandemig COVID-19. Erbyn ddoe, nifer y bobl sydd wedi marw yng Nghymru o COVID-19 oedd 1,531. Mae pob un o'r rheini'n golled drist iawn i'r teulu dan sylw, ond mae'r gostyngiad yn nifer y bobl sy'n dechrau triniaeth ganser hanfodol yn llawer uwch. Er enghraifft, ym mis Ebrill yn unig, roedd yn fwy na 5,000, ac mae atgyfeiriadau at lwybr canser sengl wedi haneru ers y cyfyngiadau symud. Mae Dr David Bailey, cadeirydd cyngor Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu, mae yna lawer o gleifion nad ydynt yn cael y gofal sydd ei angen arnynt yn awr—maent mewn perygl o weld eu cyflyrau’n gwaethygu ac efallai y bydd rhai’n marw o ganlyniad i hynny hyd yn oed.
Mae ymchwil gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn dangos bod mwy o blant yn y DU wedi marw yn sgil gohirio triniaeth yn ystod y cyfyngiadau symud nag a fu farw o COVID-19, gan gynnwys naw o sepsis canser a chlefyd metabolig. Mae'n ymddangos eich bod yn hapus i frolio eich bod yn atal mwy o farwolaethau o COVID-19, ond pa bryd y byddwch chi'n cyhoeddi ffigurau'r nifer o bobl sydd wedi marw o glefydau eraill oherwydd y cyfyngiadau rydych chi wedi'u rhoi ar ein GIG?
Wel, rwy'n credu bod un neu ddau o bwyntiau pwysig yn codi o'r sylwadau amrywiol. Yn amlwg, nid wyf yn cytuno â phob sylw a wnaeth yr Aelod, ond o ran gwasanaethau canser, rydym eisoes wedi nodi'n glir fod gwasanaethau canser brys ar gael bob amser yn ystod y pandemig, hyd yn oed pan gaewyd rhannau eraill o'r GIG, yn dilyn fy mhenderfyniad ar 13 Mawrth. Felly, rydym yn bwriadu ailgychwyn gwasanaethau yn gynyddol. Byddwn yn ailgychwyn gwasanaethau sgrinio; bydd yr Aelod ac eraill yn ymwybodol eu bod yn cael eu hailgychwyn yn gynyddol trwy'r haf.
Mae'n rhan o'r anhawster, serch hynny, oherwydd y pandemig, fod yna ystod o gleifion wedi dewis gohirio eu triniaeth. Digwyddodd hynny mewn ymgynghoriad â'r clinigwyr a oedd yn eu trin. Darparwyd opsiynau triniaeth amgen, ac rwy'n pryderu, wrth gwrs, nid yn unig ym maes canser, ond mewn ystod eang o feysydd eraill, nad ydym wedi gweld y lefel o weithgaredd yn cael ei chynnal, a'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw ailfeddwl, fel rydym yn ei wneud yn gynyddol, sut y mae gwasanaethau'r GIG yn ailgychwyn, yn ogystal â meithrin hyder yn y cyhoedd y gallent ac y dylent wneud defnydd o’r gwasanaethau GIG sydd ar gael, fel y mae'r rhai ar gyfer canser yn wir. Rydym yn dechrau gweld adferiad yn nifer yr atgyfeiriadau hynny.
Yr ail bwynt, rwy’n credu, Lywydd, yw'r pwynt ehangach a wnaed ar farwolaethau ychwanegol. Mae gennyf ddiddordeb erioed yn y ffigurau marwolaethau ychwanegol, a beth y maent yn ei olygu, nid yn unig o ran Cymru ond pob rhan arall o'r Deyrnas Unedig, wrth inni geisio dysgu o gyfnod cyntaf y pandemig hwn. Rwy'n obeithiol cyn diwedd yr wythnos nesaf y bydd gennym adroddiad dros dro ar farwolaethau ychwanegol, gyda gwersi, nid yn unig i ni yma yng Nghymru, ond i’w rhannu â rhannau eraill o'r DU, gan fy mod am ddysgu o ymarfer yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Lloegr.
Clywais eich ymateb i’r cwestiwn cynharach, Weinidog, a chlywais hefyd eich ymateb i'r Prif Weinidog—mae'n ddrwg gennyf, cwestiwn Paul Davies i'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw ar y pwnc hwn. A gaf fi ofyn pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd trigolion Cymru yn cael eu trin yn gyfartal gan ysbytai Lloegr wrth ailddechrau gwasanaethau'r GIG, ac yn enwedig wrth ailddechrau gwasanaethau allgymorth gan feddygon ymgynghorol ysbytai yn Lloegr i ysbytai Cymru i ddarparu apwyntiadau a thriniaethau yn nes at adref i gleifion Powys?
Diolch am y cwestiwn. Mae’n fater pwysig sy’n ymwneud â gofal trawsffiniol, i'r rhai sy'n dod i mewn i Gymru, yn enwedig mewn gofal sylfaenol, ond rhywfaint o driniaeth ysbyty sy'n digwydd hefyd fel rhan reolaidd, arferol o driniaeth y GIG i drigolion Cymru yn ysbytai Lloegr. Mae'n arbennig o wir ar gyfer Powys ac ar gyfer Betsi Cadwaladr lle mae elfennau o ofal yn cael eu comisiynu'n rheolaidd, ac maent wedi cael sgyrsiau rheolaidd gyda'r ymddiriedolaethau, oherwydd mae Lloegr wedi trefnu eu hymddiriedolaethau ysbyty yn grwpiau rhanbarthol, a chânt eu rheoli trwy drefniadau rheoli arian ac aur. A gallaf sicrhau'r Aelod, a'r bobl sy'n gwylio, fod Powys a Betsi Cadwaladr yn bartneriaid gweithredol yn y sgwrs honno fel sefydliadau comisiynu sy'n darparu gofal i drigolion Cymru.
Mae yna heriau unigol gan fod rhai o'r cenadaethau wedi newid mewn ysbytai unigol. Gwn y bu newid bach yn Gobowen yn y ffordd y mae'r darparwr yn cyflawni, yn yr un modd ag y mae rhai heriau mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford sydd wedi cael llawer o sylw. Ond rwy'n hapus i roi sicrwydd i'r Aelod fod system Cymru yn ymgysylltu'n briodol â'n partneriaid rheolaidd dros y ffin yn Lloegr, i geisio sicrhau na pheryglir gofal trigolion Cymru.
Weinidog, ni all staff y GIG fynd i’r afael ag ôl-groniad o waith mawr ei angen oni bai eu bod yn gallu gweithio dros yr haf, ac i staff y GIG sydd ag aelodau teuluol yn unig y bydd swigod cymorth yn ddefnyddiol. Nawr, cafwyd cyhoeddiad i'w groesawu'n fawr am gyllid ychwanegol ar gyfer gofal plant dros yr haf yn gynharach yn yr wythnos, ond ni chyhoeddwyd unrhyw ganllawiau i awdurdodau lleol ar ddarparu gofal plant i weithwyr allweddol y GIG a gofal cymdeithasol. Rwy’n falch iawn o ddweud y bydd cyngor Torfaen yn darparu gofal plant i staff y GIG a gofal cymdeithasol, ond rwyf wedi clywed am un awdurdod lleol sy’n ystyried codi £20 y dydd ar weithwyr allweddol, sy’n gic go iawn yn y dannedd i staff y GIG sydd wedi aberthu cymaint yn y pandemig hwn. A wnewch chi drafod hyn gyda’r Dirprwy Weinidog ar frys, a chyhoeddi arweiniad clir i awdurdodau lleol ar beth rydych chi’n ei ddisgwyl ganddynt dros yr haf, fel y gall staff y GIG fynd yn ôl i ymdrin â’r ôl-groniad o waith hanfodol y gwyddom fod ei angen yn ddirfawr? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Wrth gwrs, rydym eisiau gweld gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu parhau i weithio yn ystod yr haf, ac rwy'n cydnabod bod trefniadau gofal plant yn rhan o hynny. Byddai'n ddefnyddiol i mi pe bai'r Aelod yn darparu'r enghraifft y mae wedi'i roi heddiw yn fwy manwl i mi. Byddwn yn falch iawn o weld gohebu rhyngoch chi a’r Dirprwy Weinidog a minnau i ni allu trafod materion gyda'n swyddogion yma, a chael sgwrs adeiladol hefyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, oherwydd trwy gydol y pandemig, maent wedi bod yn bartner adeiladol iawn gyda ni, a chredaf y byddant yn cydnabod y problemau sy'n bodoli ym mhob cymuned, oherwydd, wrth gwrs, maent yr un mor awyddus â ninnau i weld y GIG yn parhau i wneud ei waith, ynghyd â phartneriaid mewn gofal cymdeithasol.