1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Gorffennaf 2020.
3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i fusnesau yng Nghymru? OQ55469
Diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn yna. Llywydd, mae ein pecyn cymorth busnes gwerth £1.7 biliwn, sy'n cyfateb i 2.6 y cant o'n gwerth ychwanegol gros, yn ategu cynlluniau eraill yn y DU ac yn golygu bod gan gwmnïau yng Nghymru fynediad at y cynnig mwyaf hael o gymorth yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig yn ystod argyfwng y coronafeirws.
Diolch, Prif Weinidog. Mae llawer o fusnesau wedi cysylltu â'm swyddfa etholaeth i fynegi eu diolch am y cymorth y maen nhw wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru a chan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae rhai busnesau yn dal i bryderu efallai na fyddan nhw'n gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, microfusnesau yn bennaf. A wnaiff y Prif Weinidog roi sicrwydd felly y bydd y dulliau cymorth yn cael eu hadolygu'n gyson i wneud yn siŵr bod cymaint o gymorth a phosibl ar gael i gynifer o fusnesau â phosibl?
Llywydd, diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn atodol yna. Fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen yn y Cynulliad, yn y Senedd, rydym ni wedi ceisio defnyddio ein cyllid i ategu'r cymorth sydd wedi bod ar gael trwy gynlluniau Llywodraeth y DU, ac mae microfusnesau yn un o'r meysydd hynny yr ydym ni wedi canolbwyntio arnyn nhw o ganlyniad. Lansiodd fy nghyd-Weinidog Ken Skates gam 2 y gronfa cadernid economaidd, Llywydd, fel y soniais—£100 miliwn arall i gynorthwyo busnesau Cymru. Gwn y bydd o ddiddordeb i'm cyd-Aelod Carwyn Jones wybod, pan gaeodd y gronfa i geisiadau ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, bod y gronfa microfusnesau wedi cael 5,524 o geisiadau, a phe byddech chi'n adio'r ceisiadau hynny at ei gilydd, byddai wedi arwain at geisiadau am £54.2 miliwn o'r gronfa microfusnesau. Derbyniodd y gronfa unig fasnachwyr 453 o geisiadau am swm o £4.4 miliwn, ac roeddwn i'n falch iawn fy hun o allu lansio'r gronfa busnesau newydd sbon yn rhan o gam 2 y gronfa cadernid economaidd, cronfa gwerth £5 miliwn. Gallai helpu hyd at 2,000 o fusnesau gyda hyd at £2,500 yr un. Mae'r rhain i gyd ar gyfer yr union fathau o fusnesau y mae Carwyn Jones wedi eu crybwyll y bore yma, Llywydd, ac rwy'n credu eu bod nhw'n enghreifftiau o'r ffordd yr ydym ni wedi ceisio defnyddio ein harian i lenwi'r bylchau hynny a chanolbwyntio ar y busnesau hynny sydd wedi llithro trwy rwyd y cynlluniau mawr y mae Llywodraeth y DU wedi eu rhoi ar waith, a defnyddio ein harian i gyflawni'r effaith orau.
Prif Weinidog, yr hyn a fyddai'n drychinebus yn economaidd fyddai'r angen am naill ai cyfyngiadau symud o'r newydd neu gyfyngiadau symud lleol, ac un o'r mesurau allweddol yr ydych chi wedi eu rhoi ar waith yw profi ac olrhain. Mae eich ffigurau ar gyfer dychwelyd y canlyniadau o brofi ac olrhain yn gwaethygu. Mae'r ffigurau ar gyfer darpariaeth mewn 24 awr o dan gyfradd ymateb o 50 y cant, ac mewn 48 awr dim ond 66 y cant o brofion sy'n cael eu dychwelyd i'r bobl sydd wedi cyflwyno eu hunain ar gyfer prawf. Sut yr ydych chi'n mynd i wella'r ffigurau hyn i ddod yn agosach at y 90 y cant y mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr yn credu sy'n cynnig strwythur profi effeithiol a fyddai'n ein hamddiffyn yn economaidd, a hefyd ein hiechyd?
Llywydd, rwy'n cytuno ag Andrew R.T. Davies bod osgoi ail don o'r coronafeirws yn ddiweddarach eleni yn bwysig dros ben i iechyd busnesau, yn ogystal ag iechyd y boblogaeth, a dyna pam yr ydym ni wedi mabwysiadu'r dull yr ydym ni wedi ei fabwysiadu yma yng Nghymru. Ac rydym ni'n gweld mewn rhannau eraill o'r byd yn union pa mor hawdd yw hi i symud o sefyllfa o ddiogelwch cymharol i un lle mae'n rhaid ailgyflwyno cyfyngiadau symud. Felly, rwy'n cytuno â'i bwynt yn hynny o beth.
Mae angen i'n system 'Profi Olrhain Diogelu' ddychwelyd mwy o brofion yn gyflymach, ac rydym ni'n gweithio gyda'r system er mwyn i hynny ddigwydd. Byddem ni wedi cael gwell canlyniadau ddiwedd yr wythnos diwethaf oni bai i un o'r labordai goleudy, yr ydym ni'n eu defnyddio mewn niferoedd mwy erbyn hyn, wynebu cyfres o anawsterau yr wythnos diwethaf a oedd yn golygu bod eu gallu i ddychwelyd profion mewn 24 awr wedi cael ei rwystro gan yr heriau yr oedden nhw'n eu hwynebu. Rydym ni'n trefnu gwasanaeth cludo gwell i wneud yn siŵr bod profion yn cael eu cludo o'r safle profi i'r labordy yn gyflymach ac yn fwy rheolaidd yn ystod y dydd. Rydym ni'n archwilio gyda'n labordai yng Nghymru ffyrdd y gallan nhw ddarparu canlyniadau'r profion hyn yn gyflymach.
Yn y cyfamser, mae'r system 'Profi Olrhain Diogelu' yn ei chyfanrwydd, rwy'n falch o ddweud, yn gweithio'n dda iawn; cysylltwyd yn llwyddiannus gydag 82 y cant o achosion positif a nodwyd rhwng 28 Mehefin a 4 Gorffennaf, a gwnaed gwaith dilynol llwyddiannus ar 87 y cant o dros 1,150 o gysylltiadau agos. Ac mae'r ffigurau hynny'n cymharu yn ffafriol iawn â lefelau o gamau dilynol llwyddiannus sy'n cael eu cyflawni mewn mannau eraill.
Mae nifer o fusnesau gwledig, yn enwedig, dros y blynyddoedd wedi bod yn cael cefnogaeth ar gyfer eu busnesau drwy cynlluniau fel y cynllun datblygu gwledig, yr RDP, ac fe welon ni'n ddiweddar adroddiad gan Archwilio Cymru a oedd wedi amlygu bod yna gamweinyddu wedi bod gan Lywodraeth Cymru ar rai agweddau ohono—gwerth £53 miliwn wedi cael ei ddosrannu mewn ffordd oedd ddim â mesurau yn eu lle i sicrhau gwerth am arian. Mi gawson ni gadarnhad yn y pwyllgor datblygu cynaliadwy wythnos diwethaf y byddai yna disallowance; hynny yw, bod yna drafodaethau nawr yn digwydd rhwng y Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru i adhawlio peth, os nad y cyfan, o'r arian yna.
Fyddech chi felly yn derbyn nawr ei bod hi'n amser i ni gael adolygiad llawn o'r modd mae'r RDP yng Nghymru wedi cael ei weinyddu, ac wedi cael ei ddefnyddio, er mwyn i ni fod yn hyderus ein bod ni wedi cael y gwerth am arian y dylen ni fod wedi cael am y buddsoddiad yma, yn enwedig o gofio bod eich Llywodraeth chi nawr yn bwriadu defnyddio'r model RDP, a'r modd y mae hwnnw yn cael ei weithredu, fel sail ar gyfer y cynlluniau rŷch chi'n eu dod gerbron ar gyfer cefnogi amaeth a rheolaeth tir cynaliadwy yn y dyfodol? Mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu gwersi.
Wrth gwrs, dwi'n cytuno ei bod yn bwysig dysgu gwersi. Rŷn ni yn gwneud hynny, ac mae'r RDP yn cael pobl i edrych i fewn i beth rŷn ni'n ei wneud ar y lefel Ewropeaidd ac ar y lefel leol hefyd. Mae'n bwysig i fod yn glir ar beth roedd yr audit office wedi'i ddweud, Llywydd.
Yr hyn a ddywedwyd ganddyn nhw oedd nad oedd y prosesau yn sicrhau bod gwerth am arian wedi ei gyflawni, ac rydym ni wedi gwella'r prosesau hynny ers hynny. Yr hyn na wnaethon nhw ei ddweud oedd nad oedd y cynlluniau a ariannwyd yn cynnig gwerth am arian, oherwydd ni ystyriwyd y cynlluniau ganddyn nhw o gwbl, dim ond y broses a ddefnyddiwyd i ariannu'r cynlluniau. Mae cryn nifer o'r cynlluniau a ystyriwyd ganddyn nhw wedi mynd ymlaen i fod yn gynlluniau arobryn yma yng Nghymru, a'r tu hwnt i Gymru hefyd. Felly, ni ddywedodd yr adroddiad erioed na wnaeth y cynlluniau eu hunain sicrhau gwerth am arian, y cwbl a ddywedwyd oedd nad oedd y broses a ddefnyddiwyd i'w hariannu yn rhoi sicrwydd i chi bod yr arian wedi ei wario yn y ffordd honno, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni roi sylw iddo. Mae ein pwyslais, Llywydd, yn ogystal â dysgu gwersi, ar geisio gwneud yn siŵr bod gennym ni gyllid cyfatebol yn y dyfodol i barhau i wneud y buddsoddiadau hynny yn yr economi wledig y mae'r Cynllun Datblygu Gwledig wedi caniatáu i ni eu gwneud. Ac nid ydym ni'n agos at gael y sicrwydd hwnnw gan Lywodraeth y DU, ac nid oes llawer o amser erbyn hyn tan bydd y cyllid hwnnw'n ddechrau dod i ben.