– Senedd Cymru am 11:07 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw'r Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i agenda heddiw: mae'r cynigion ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) a Rheoliadau Rhif 7 wedi'u tynnu'n ôl, ac mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael ymhlith y papurau sydd wedi'u darparu'n electronig i Aelodau.
Rwy'n credu ei bod yn drueni mawr, Trefnydd, bod y rheoliadau penodol hynny wedi'u tynnu'n ôl heb gyfle i gael dadl ar y camau sydd wedi'u cymryd ar y cyfyngiadau coronafeirws yn ystod y chwe wythnos diwethaf o ran yr eitemau a oedd wedi'u cynnwys yn y cyfyngiadau hynny, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd roi ystyriaeth i'r materion hyn mewn ffordd wahanol, efallai drwy ddadleuon, i nodi mater yn y dyfodol, cyn pleidleisio mewn gwirionedd ar reoliadau.
A gaf i alw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw, os gwelwch yn dda,—y cyntaf o ran twristiaeth, er mwyn cael rhywfaint o eglurder ar ailagor ffeiriau parhaol yng Nghymru? Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu, ar hyn o bryd, fod yn rhaid i ffeiriau fod ar gau yng Nghymru. Ond mae parciau thema yng Nghymru yn cael agor ar hyn o bryd, ac mae'n ymddangos yn eithaf anghyson, o ystyried bod eu gweithredu yn debyg iawn o safbwynt sicrhau bod y cyfleusterau'n ddiogel i bobl ymweld â nhw. Mae busnesau yn fy etholaeth i fy hun wedi colli cryn dipyn o fasnach yn ystod y penwythnos diwethaf, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol gwneud yr hyn a allwn ni i sicrhau nad ydyn nhw'n colli'r busnes hwnnw ar benwythnosau yn y dyfodol. Felly, os gallwn ni gael datganiad ar hynny, byddwn i'n ddiolchgar iawn.
Ac yn ail, a gaf i hefyd alw am ddatganiad ar ddyfodol fforymau lleol Cymru Gydnerth? Mae'r Gymdeithas Genedlaethol Trefnwyr Angladdau wedi galw am bresenoldeb parhaol ar fforymau lleol Cymru Gydnerth er mwyn iddyn nhw allu bod yn rhan o'r broses gynllunio ar gyfer pandemigau yn y dyfodol a materion eraill, felly rwy'n credu y dylai hynny gael ei ystyried ac yn tybio a oes modd inni gael datganiad ar y mater. Diolch.
Diolch i Darren Millar am godi'r materion hynny ac, wrth gwrs, cawsom gyfle i drafod yn helaeth y mater cyntaf a gododd, o ran pryd y byddwn ni'n trafod ein rheoliadau, yn y Pwyllgor Busnes yn gynharach yr wythnos hon, ac fe wn i y bydd trafodaethau pellach rhwng y Llywydd a'r Llywodraeth ar y mater penodol hwnnw yn y dyfodol.
O ran twristiaeth, yn sicr, byddaf i'n ceisio'r eglurder hwnnw y gofynnwch amdano o ran y ffeiriau parhaol a sicrhau ein bod ni'n dod o hyd i'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch hynny, oherwydd rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud yn bwysig. Wrth ddechrau agor mwy a mwy o'n heconomi, yna mae'n amlwg y bydd achosion unigol a mathau unigol o fusnes sydd eisiau mwy o fanylion am yr hyn y mae'n ei olygu iddyn nhw, felly byddaf i'n mynd ar drywydd hynny ar eich rhan.
O ran fforymau lleol Cymru Gydnerth, rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am lywodraeth leol yn gwrando ar hyn, yn amlwg, ac y bydd yn ystyried dyfodol y fforymau hynny wrth inni symud ymlaen o'r cyfnod argyfwng ac i'r cyfnod sefydlogi a gwella.
Mae llawer o ofalwyr yn y gymuned wedi gweithio drwy gydol yr argyfwng COVID, a gwyddom fod staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal yn cael eu profi'n rheolaidd, pa un a oes ganddyn nhw symptomau ai peidio. Mae gofalwyr sy'n mynd i mewn i gartrefi pobl yn y gymuned yn cael eu profi dim ond os ydyn nhw'n dangos symptomau, sy'n broblem pan rydym yn gwybod y gall pobl heintio eraill pan nad ydyn nhw'n dangos symptomau, ac felly gall un gofalwr yn y gymuned heintio cannoedd o bobl heb wybod ei fod yn cario COVID hyd yn oed. Felly, a gawn ni ddatganiad ar y polisi profi? Mae gwell system profi ac olrhain, dywedwyd wrthym, yn allweddol os ydym eisiau lleihau risg ail don; yn benodol, hoffwn gael datganiad sy'n rhoi sylw i'r pwynt hwn ynglŷn â phrofi gweithwyr asymptomatig sy'n dod i gysylltiad agos â'r bobl fwyaf agored i niwed. Mae gennym ni gapasiti profi sbâr, ac mae gennym un cyfle i atal ail don—gadewch inni beidio â gwastraffu'r cyfle hwnnw.
Diolch am godi'r mater hwn, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog iechyd wedi bod yn gweithio ar fersiwn nesaf y strategaeth brofi, ac y bydd hysbysiad a chyhoeddiad am hynny cyn bo hir. Ac yn amlwg, bydd wedi clywed yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud am ofalwyr yn y gymuned a sut yr ydym ni'n sicrhau bod profion ar gael i'r holl bobl hynny sydd eu hangen ac a fyddai'n elwa arnynt.
Rwy'n credu, Trefnydd, ein bod ni i gyd wedi bod yn ddiolchgar iawn i Weinidogion sydd wedi rhoi o'u hamser i wneud cyfres o ddatganiadau cyhoeddus ar beth fu eu hymateb i'r argyfwng coronafeirws datblygol, ac rwy'n credu bod y cyfathrebu gan Lywodraeth Cymru wedi bod o'r radd flaenaf. Mae'r ffordd y mae Gweinidogion wedi galluogi bod craffu yn digwydd, o fewn y maes cyhoeddus ac yma, wedi bod y tu hwnt i gymhariaeth yn llwyr, yn enwedig gyda'r anhrefn ar ben arall yr M4. Fodd bynnag, mae rhai datganiadau y dylid eu gwneud i'r lle hwn yn gyntaf, ac mae'r angen am graffu seneddol yn wahanol i'r angen am graffu cyhoeddus. A phan fo datganiadau'n cael eu gwneud a fydd yn cynnwys newidiadau i'r gyfraith a newidiadau i gyfraddau trethiant, yna dylid eu gwneud gerbron y lle hwn cyn iddyn nhw gael eu gwneud yn y byd cyhoeddus, er mwyn galluogi'r gwaith craffu hwnnw i ddigwydd. Felly, byddwn i'n gofyn am gefnogaeth y Llywydd hefyd i'r materion hyn, gan ddiogelu hawliau'r Senedd hon, a'r Llywodraeth, i sicrhau bod datganiadau'n cael eu gwneud i'r lle hwn, ac y gall y craffu cyhoeddus anochel a chywir y mae'r Gweinidogion yn ei wynebu wneud hynny hefyd, ond nid wyf yn credu y dylai ddigwydd yn lle craffu seneddol. Felly rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ymateb yn gadarnhaol i hynny.
Ar yr un pryd, rydym hefyd yn gwybod ein bod yn cyfarfod ddwywaith yn ystod misoedd yr haf er mwyn gwneud rhai penderfyniadau o ran deddfwriaeth; rwyf yn daer o blaid ailgynnull i wneud y gwaith hwnnw. Ond rwy'n ymwybodol hefyd, ac fe welais i stori yn y Financial Times ar y penwythnos, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu deddfwriaeth ar frys a allai gyfyngu'n ddifrifol ar bwerau'r lle hwn a'n hawl ni i arfer y pwerau hynny. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Swyddfa'r Llywydd yn edrych yn ffafriol ar unrhyw Aelod sy'n ceisio codi'r materion hyn pan fyddwn ni'n cyfarfod yn ystod mis Awst er mwyn ymdrin â rheoliadau coronafeirws, oherwydd rwy'n credu nad yw'r bygythiadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i'r pwerau y mae pobl Cymru wedi ceisio eu rhoi yn y lle hwn yn rhywbeth y dylem ni aros i fynd i'r afael â nhw. Dylid rhoi cyfle i'r lle hwn fynegi ei farn yn ystod misoedd yr haf, os oes angen.
Rwy'n diolch i Alun Davies yn sicr am ei sylwadau agoriadol, o ran y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu craffu ac wedi bod mor agored a thryloyw â phosib drwy gydol yr argyfwng.
Rwy'n derbyn ei feirniadaeth ynghylch y datganiad diweddar ar y dreth trafodiadau tir. Yr unig beth y byddaf i'n ei ddweud yw bod cyflymder y broses benderfynu wedi bod yn rhyfeddol, ac mae nifer y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud bob dydd yn rhyfeddol. Wrth gwrs, nid oes gennym ond ychydig iawn o amser yn y Siambr, ond rwy'n derbyn y feirniadaeth a wnaeth ef, ac rwyf yn rhannu ei bryderon ynghylch y bygythiad i ddatganoli ac i bwerau'r Senedd o ran y modd y mae Llywodraeth y DU wedi ceisio symud ymlaen drwy'r argyfwng hwn, ond hefyd o ran y ffordd yr ydym ni'n nesáu at adael, neu wrth i ni nesáu at ddiwedd y flwyddyn gyda'r posibilrwydd o adael yn ddi-drefn gyda Brexit heb gytundeb. Felly, yn amlwg, rydyn ni'n rhannu meysydd sy'n peri pryder mawr.
Rheolwr busnes, hoffwn i ddeall pam nad yw'r Llywodraeth wedi cyflwyno datganiad heddiw gan y Gweinidog iechyd, a fydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn gwneud cyhoeddiad, drwy gynhadledd y Llywodraeth i'r wasg, ar y drefn brofi newydd y mae'r Llywodraeth yn ei chyflwyno. Fe wnes i ei godi gyda'r Prif Weinidog, ond ar lawr y Siambr y dylai'r Gweinidog iechyd fod yn gwneud y datganiad hwn ac nid o gysur y ddarllenfa ym Mharc Cathays. Nid yw'n ddigon da bod datganiadau o'r fath yn cael eu gwneud o Barc Cathays am 12:30, pan mae'r we ar hyn o bryd yn rhoi gwybod imi y bydd yn siarad am y drefn brofi, ac rydym ni'r Aelodau yn eistedd yma yn y Bae yn gwrando ar faterion eraill. Mae hyn yn rhan allweddol o sicrhau nad oes ail frig neu ail achos drwy raglen y Llywodraeth, a hyd yn hyn mae'r drefn brofi wedi methu'n druenus, fel y dengys y ffigurau a gyflwynir gennyf i i'r Prif Weinidog. A allwch chi fy ngoleuo i ynghylch pam nad yw'r Gweinidog iechyd yn gwneud datganiad i'r Senedd, yn hytrach na'r gynhadledd i'r wasg ym Mharc Cathays?
Yn ail, a gaf i ofyn am eglurhad gennych chi neu rywun yn y Llywodraeth ynghylch y canllawiau ar briodasau? Ym mis Awst, byddwch yn gallu priodi mewn swyddfa gofrestru neu eglwys, ond, yn anffodus, ni fyddwch yn gallu priodi mewn lleoliad arall sydd, yn draddodiadol, wedi cael ei drwyddedu ar gyfer seremoni briodas. Rwy'n credu bod hyn yn anomaledd, a byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Llywodraeth edrych ar hyn, oherwydd yn fy ardal i, Canol De Cymru, mae yna fusnesau sydd wedi addasu eiddo i fod yn lleoliadau priodasau, ac eto i gyd ni fyddant yn gallu cynnal y seremoni yn y cyfleusterau lle maen nhw wedi buddsoddi symiau sylweddol o arian ynddynt. Felly, a oes modd imi ofyn am eglurhad ynghylch pam mai swyddfeydd cofrestru ac eglwysi yn unig fydd yn gallu cynnal priodasau, yn hytrach na lleoliadau eraill sydd, yn draddodiadol, wedi cael trwydded i gynnal seremoni o'r fath?
O ran pwynt cyntaf Andrew R.T. Davies, byddwn i'n ei gyfeirio at yr ateb yr wyf i newydd ei roi i Alun Davies, a gododd bryder tebyg. Ond, o ran y seremonïau priodas, gallaf eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus ar sut y gallwn ni agor y lleoliadau eraill hynny nad ydyn nhw'n swyddfeydd cofrestru nac yn addoldai. Pan fyddwn yn gallu dweud mwy am hynny, byddwn yn sicr yn gwneud hynny.
A gaf i ofyn am ddatganiad ynglŷn ag arian i'r celfyddydau? Mae pryderon mawr wedi codi am y £59 miliwn a gyhoeddwyd ac a adroddwyd yn eang wythnos diwethaf. Mae'n ymddangos bellach nad ydy'r swm yma ar gael, ac nad oes yna ddim byd yn agos at y swm yma ar gael i sector y celfyddydau yng Nghymru wedi'r cwbl. Mae angen eglurer. I ddechrau, faint o arian fydd ar gael i'r sector? Yn ail, sut fydd unrhyw arian newydd yn cael ei rannu ar draws y celfyddydau? Mae'n hynod siomedig nad ydy'r eglurder yna ddim ar gael, a byddwn yn gwerthfawrogi cael datganiad buan gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda.
Oes, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud yn y maes penodol hwn, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, wedi cwrdd ddoe â Chyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi bod yn llunio cynnig, a fyddai'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru gyda golwg ar gael rhywfaint o arian o'r gronfa COVID yr ydym wedi ei sefydlu. Nid wyf wedi gweld y cynnig hwnnw eto ond, unwaith eto, cyn gynted ag y bydd gennym ni gynnig, byddwn ni'n ceisio gwneud penderfyniad buan er mwyn darparu datganiad sy'n egluro'r penderfyniadau a wnaed.
Gweinidog, rwy'n cysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaeth Alun Davies yn gynharach. Yr wythnos diwethaf, cafodd £470 miliwn o ddyledion byrddau iechyd eu dileu mewn cynhadledd i'r wasg ac, fel Aelod Cynulliad sy'n cynrychioli bwrdd iechyd sydd bob amser wedi gweithredu mewn elw yn un o rannau tlotaf Cymru, byddwn i wedi hoffi cael y cyfle i graffu ar hynny.
Fodd bynnag, fy mhrif reswm dros siarad heddiw yw gofyn am ddatganiad ar effaith barhaus y cyfyngiadau symud ar y rhai sy'n byw gyda dementia. Yr wythnos diwethaf, clywodd y grŵp trawsbleidiol gan bobl sy'n byw gyda dementia am yr effaith anferthol a thorcalonnus a gafodd y cyfyngiadau symud ar eu bywydau. Roedd yn frawychus, roedd yn ergyd drom ac yn ofid mawr. Hoffwn i ofyn am ddatganiad, gan fy mod wedi tynnu sylw'r Prif Weinidog o'r blaen at y niferoedd uchel o bobl sy'n marw o ddementia, nid COVID, yn ystod y cyfyngiadau symud. Hefyd mae pryderon o hyd am y diffyg cyfle i fanteisio ar asesiadau clinig cof wrth symud ymlaen, ac mae'n hollbwysig mynd i'r afael â'r gwaith hwnnw fel mater o frys. Felly, hoffwn i alw am y datganiad ysgrifenedig hwnnw, datganiad manwl, fel mater o frys. Diolch.
Iawn, diolch. Ac unwaith eto, rwy'n nodi'r sylwadau agoriadol a wnaethoch, ac yn amlwg byddaf i'n cael rhai trafodaethau pellach gyda chydweithwyr ynghylch y mater penodol hwn. Ond o ran eich cais am ddatganiad ar ddementia, rwy'n credu y bydd y Gweinidog iechyd wedi clywed y cais penodol hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd yn awyddus i rannu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i gefnogi pobl â dementia yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn, ac o bosib yn fwy felly i bobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd. Felly, byddaf i'n cysylltu â'r Gweinidog iechyd ynghylch y mater penodol hwnnw.
Hoffwn i ategu'r cais am y datganiad ynglŷn â phrofi ein gweithwyr gofal cymdeithasol a darparwyr gofal cartref sy'n rhoi gofal yn y gymuned, mewn geiriau eraill yn eu cartrefi eu hunain. Fis diwethaf, ar ôl sawl wythnos o'r llanastr profi mewn cartrefi gofal yng Nghymru, gofynnais i'r Gweinidog iechyd pa gamau yr oedden nhw'n eu cymryd i brofi'r rhai sy'n mynd i gartrefi pobl sy'n agored i niwed. Roedd ef yn cytuno â fy mhryderon ac yn cydnabod bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi mynegi pryderon hefyd. Nid wyf wedi clywed unrhyw beth ers hynny. Felly, hoffwn i ategu sylwadau Leanne Wood: a allwn ni gael datganiad manwl? Hoffwn gael gwybod faint o'r rhai sy'n darparu gofal i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed, yn eu cartrefi eu hunain, sydd wedi cael prawf COVID-19 mewn gwirionedd. Diolch.
Unwaith eto, hoffwn eich cyfeirio at yr ateb a roddais i Leanne Wood ynglŷn â'r strategaeth brofi newydd. Ond hefyd, ar ôl y sesiwn hon heddiw, byddaf i'n sicr o gael y sgwrs honno gyda'r Gweinidog iechyd am y pryderon yr ydych chi a Leanne Wood wedi'u codi ynghylch pobl sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol ond sy'n gwneud hynny yng nghartrefi pobl, gan ddarparu gofal cartref a mathau eraill o gymorth yn y gymuned.
Hoffwn i gael datganiad ar brofi'r mwd niwclear o orsaf bŵer niwclear Hinkley Point, neu ddiffyg hynny, mewn gwirionedd. Clywsom yr wythnos diwethaf fod panel o arbenigwyr wedi'i sefydlu heb broses o gais cyhoeddus. Rwy'n bryderus iawn bod rhai arbenigwyr allweddol mewn ffiseg niwclear—gwyddonwyr—wedi cael eu hepgor o'r grŵp hwnnw, sy'n destun pryder. Ond y datganiad syml iawn yr wyf yn dymuno ei gael yw hyn: os yw gwyddonwyr yn dweud bod y mwd wedi'i halogi gan blwtoniwm—dywedant eu bod yn argyhoeddedig ei fod wedi'i halogi—pam ar y ddaear nad yw'r Llywodraeth yn mynnu bod y mwd yn cael ei brofi am blwtoniwm? Mae'n anghredadwy. Datganiad syml iawn.
A gaf i ofyn ichi ysgrifennu at y Gweinidog yn mynegi'r pryder hwnnw, gyda'ch awgrymiadau ynghylch pobl a allai fod â rhywbeth defnyddiol i'w gyfrannu at y ddadl hon?
Hoffwn gael datganiad am y cynlluniau newydd ar gyfer strydoedd sy'n cael eu cyflwyno ledled Cymru i gefnogi ymbellhau cymdeithasol ac, yn briodol, i adfywio canol trefi a'n helpu ni i gymdeithasu unwaith eto. Ond bydd llawer o'r cynlluniau hyn yn cyflwyno heriau i bobl sydd wedi colli eu golwg, a dylid, yn fy marn i, asesu'r cynlluniau hyn o ran effaith ar gydraddoldeb i sicrhau nad ydynt yn eithrio'r bobl sydd fwyaf agored i niwed. Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion wedi cynnig cod cwrteisi coronafeirws, a byddai hwnnw, yn wir, yn ein helpu ni i gyd i ddatblygu parch y naill at y llall, i rannu gofod yn ddiogel yn y normal newydd. Maen nhw ac elusennau eraill yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r her y bydd ymbellhau cymdeithasol yn ei hachosi i bobl anabl.
Hoffwn ddiolch hefyd, ar yr un pryd, i'r holl bobl hynny yn yr ardaloedd awdurdodau lleol sydd wedi gweithio mor galed i ad-drefnu'r strydoedd yn eu hamser eu hunain, yn aml iawn, a'r elusennau a fu'n ymwneud â rhoi'r cyngor hwnnw. Ond yr hyn sy'n hanfodol yma yw bod y Llywodraeth yn rhoi datganiad clir am yr agenda parch i bawb.
Rwy'n diolch i Joyce Watson am godi hynny ac rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth a ddywedodd. Mae gwaith yr RNIB, er enghraifft, yn bwysig iawn, pan fyddwn ni'n ystyried sut yr ydym yn ad-drefnu'r amgylchedd i'r cyhoedd, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud hynny mewn modd cynhwysol a heb achosi trafferthion diangen ac ychwanegol i bobl sy'n anabl, boed hynny oherwydd nam ar y golwg neu fathau eraill o anableddau, gan y gymdeithas sydd o'u cwmpas nhw. Yn fy marn i, mae hyn yn ein hatgoffa ni am bwysigrwydd y model cymdeithasol o anabledd a phwysigrwydd addasu ein cymdeithas i sicrhau bod pawb yn gallu chwarae eu rhan a gwneud hynny mewn ffordd sy'n gynhwysol.
Fe wn i fod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cymryd diddordeb arbennig yn hyn o ran y cyngor y mae'n ei gael ac yn ei geisio gan y sector cydraddoldeb, a all helpu i sicrhau, pan fyddwn yn addasu i'r normal newydd, ei fod yn normal newydd sy'n gynhwysol.
Diolch i'r Trefnydd.