3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 15 Gorffennaf 2020.
2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i brentisiaid a'r rhai sy'n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith, yn sgil yr effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar eu lleoliadau? OQ55451
Wel, a gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiwn hi a dweud bod darparwyr prentisiaethau wedi cael cymorth drwy gydol y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf ar sail taliadau cyfartalog? Rwy'n falch o ddweud bod darparwyr wedi datblygu modiwlau dysgu ar-lein i sicrhau y gall prentisiaid barhau i ddatblygu gyda'u dysgu. Rydym hefyd wedi gweithio gyda darparwyr dysgu a rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun cadernid COVID-19 wedi'i gyhoeddi ar gyfer y sector ôl-16.
Diolch i chi am yr ateb yna. Rwy'n nodi na wnaethoch chi sôn yn benodol am brentisiaid newydd, oherwydd fe fydd angen y rheini i adfer economi Cymru. Ond, fel y dywedwch, mae angen inni gadw ein prentisiaid presennol mewn cof. Nid wyf i'n gwybod beth yw'r sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd. A ydym ni'n ystyried ffyrlo i hanner ein prentisiaid adeiladu ni, fel y maen nhw'n gwneud yn Lloegr? Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod prentisiaid presennol yn gallu cwblhau eu prentisiaethau nhw yn hytrach na'u bod yn wynebu diswyddiad? Byddai rhywfaint o fanylion o bosib am hynny'n wych. A sut maen nhw'n helpu cyflogwyr i gadw'r sgiliau hynny ar ôl gorffen y brentisiaeth? Yn benodol, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau na fydd prentisiaethau'n mynd yn fwy anhyblyg nag y maen nhw ar hyn o bryd?
Wel, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod prentisiaid yn parhau drwy gydol eu fframweithiau nhw, hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn. Os caf ddefnyddio un enghraifft, cyfeiriaf at Airbus, lle rydym wedi llwyddo i sicrhau bod y cynllun prentisiaeth yn parhau fel y'i cynlluniwyd, er bod y dyddiadau cychwyn yn digwydd fesul cam, wrth gwrs, oherwydd dosbarthiadau llai o faint. Ond, rydym yn edrych hefyd ar becyn ariannu i ymestyn yr hyfforddiant ym mlwyddyn 3.
Nawr, o ran prentisiaid a gafodd eu diswyddo, fe ddylai darparwyr wneud eu gorau glas i sicrhau eu bod nhw'n dod o hyd i waith arall i brentisiaid sy'n colli eu swyddi. Fe fyddwn ni'n monitro ac, fel y gallwch ddychmygu, yn dadansoddi data ynglŷn â diswyddiadau prentisiaethau, ac fe fyddwn ni'n ystyried unrhyw ymyriadau a chymorth sy'n angenrheidiol. Fe fydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod i wedi cyhoeddi £40 miliwn ychwanegol o'r gronfa cadernid economaidd i helpu i gefnogi pobl o ran hyfforddiant, cyflogadwyedd, ac wrth gwrs, fe fyddwn ni'n edrych ar y gronfa honno i gefnogi prentisiaid segur i ddod o hyd i gyfleoedd newydd i gwblhau eu hyfforddiant. Fe allaf i sicrhau'r Aelod ein bod ni'n dal i fod ar y trywydd iawn i greu 100,000 o brentisiaethau o safon uchel ar gyfer pob oedran, yn ystod y tymor Seneddol hwn, ac mae honno'n addewid yr ydym ni'n falch o allu ymrwymo iddi.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi'n bersonol am eich cyfraniad chi a chyfraniad Llywodraeth Lafur Cymru, oherwydd mae'r ddeubeth wedi cefnogi'r cynllun prentisiaeth yn fawr iawn? Fe wn i o brofiad pa mor werthfawr ydyn nhw. Rydych chi'n iawn—mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n parhau i gefnogi cwmnïau yn y Gogledd-ddwyrain i barhau i ddarparu prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi pellach er mwyn cadw cymaint o sgiliau yn ein rhanbarth ni ag sy'n bosib. Pa gymorth ariannol yr ydych yn ei gynnig i wireddu hyn?
A gaf i ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn a datgan unwaith eto fy ymrwymiad i i'r rhaglen brentisiaethau? Rwy'n falch o ddweud bod gennym un o'r cyfraddau llwyddiant uchaf yn Ewrop o ran ein darpariaeth ni o brentisiaethau, hynny yw, prentisiaid sy'n mynd ymlaen i ennill gwaith sy'n gynaliadwy. Mae hynny'n dangos gwerth ein system ni. Nid ydym wedi glastwreiddio na dibrisio'r rhaglen brentisiaeth yng Nghymru. Nawr, yn amlwg, fe fydd yna lawer o bwysau ar gyllidebau wrth i gyfyngiadau gael eu llacio oherwydd camau gweithredu Llywodraeth Cymru wrth frwydro yn erbyn COVID-19, ond fe fyddwn ni'n canolbwyntio ein buddsoddiad ni ar brentisiaethau yn y meysydd hynny o'r economi a fydd yn cefnogi'r adferiad yn y ffordd orau bosib. Mae swyddogion yn ystyried mesurau pellach ar hyn o bryd i gynorthwyo'r adferiad a chefnogi prentisiaid.