– Senedd Cymru am 2:45 pm ar 26 Awst 2020.
Felly'r Gweinidog iechyd, Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y tair cyfres o reoliadau ger ein bron heddiw yn ffurfiol a gofynnaf i Aelodau eu cefnogi. Fel gyda'r rheoliadau sydd wedi'u rhagflaenu, mae'r rheoliadau hyn sy'n cael eu trafod heddiw wedi'u cyflwyno o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 drwy weithdrefnau brys i gefnogi sut rydym ni'n mynd i'r afael â'r coronafeirws yma yng Nghymru. Wrth i nifer yr achosion o'r coronafeirws leihau, rydym ni wedi parhau i adolygu'r cyfyngiadau y bu'n rhaid eu gorfodi ar unigolion, busnesau a sefydliadau eraill i reoli'r argyfwng eithriadol hwn o ran iechyd y cyhoedd. Mae'r adolygiad parhaus o'r rheoliadau yn ychwanegol at y cylch adolygu 21 diwrnod, lle mae angen i Weinidogion Cymru adolygu'r angen am gyfyngiadau a gofynion o leiaf bob 21 diwrnod.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, bydd Aelodau'n ymwybodol ein bod ni wedi ceisio lliniaru'n raddol yr ystod o gyfyngiadau sy'n berthnasol yng Nghymru wrth i'r amgylchiadau ganiatáu inni wneud hynny. Mae'r rheoliadau sydd gerbron y Senedd heddiw yn parhau â'r broses honno. Mae'r holl newidiadau a gyflwynir gan y rheoliadau hyn unwaith eto yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf a chyngor iechyd y cyhoedd. Ar y sail honno, ystyriwn gyfyngiadau y mae hi'n ddiogel inni eu dileu neu eu lliniaru gan warchod ar yr un pryd rhag unrhyw gynnydd pellach yn lledaeniad y feirws yma yng Nghymru. Gyda'i gilydd, mae'r tair cyfres o reoliadau wedi dileu llawer o'r cyfyngiadau cyfreithiol sy'n weddill ar fywyd bob dydd a'r economi. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hynny, ar adegau, rydym ni hefyd wedi gorfod cymryd camau lliniarol i gadw rheolaeth ar y feirws.
Daeth rheoliadau diwygio Rhif 3 i rym ar 3 Awst. Roeddent yn caniatáu i hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored; i dafarndai, bariau, caffis a bwytai ailagor dan do; ac alïau bowlio, neuaddau bingo a thai arwerthiant i ailagor. Roedd rheoliadau gwelliant Rhif 4, a ddaeth i rym ar 10 Awst, yn caniatáu llacio'r cyfyngiadau coronafeirws ymhellach drwy ganiatáu i amrywiaeth o safleoedd eraill ailagor, gan gynnwys pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd, cyfleusterau sba i'r graddau nad oeddent eisoes ar agor, canolfannau hamdden a mannau chwarae dan do. Roeddent hefyd yn ehangu'r gweithgareddau y gellid eu cynnal mewn canolfannau cymunedol.
Yn yr amserau eithriadol hyn, daw rhyddid gyda chyfrifoldebau. Rhoddodd y rheoliadau hyn bwerau newydd i awdurdodau lleol sicrhau bod adeiladau'n dilyn y gyfraith ac yn cymryd pob cam rhesymol i liniaru lledaeniad y coronafeirws. Rhoddwyd pwerau i swyddogion gorfodi yr awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiadau gwella, neu yn yr enghraifft ddiwethaf hon i'w gwneud hi'n ofynnol i safleoedd gau. Deallaf fod pedwar hysbysiad gwella wedi'u cyflwyno hyd yma ledled Cymru. Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o fusnesau'n awyddus i wneud popeth sydd ei angen, felly ni ddylai camau o'r fath fod yn angenrheidiol yn y mwyafrif helaeth o achosion. Ein nod fu cefnogi'r mwyafrif helaeth o fusnesau a chyflogwyr cyfrifol drwy sicrhau bod chwarae teg i bawb.
Dylwn gydnabod un amryfusedd a wnaed yn y rheoliadau hynny lle'r oeddem yn honni rhoi'r pŵer i lysoedd ynadon osod dedfryd o garchar am dorri'r gofynion. Fel y nodwyd yn gywir gan y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, ni ellir rhoi pŵer o'r fath o dan y pwerau hyn. Felly, aethom ati yn brydlon ac yn uniongyrchol i wneud y cywiriad sy'n ofynnol yn y gyfres derfynol o reoliadau sydd ger ein bron heddiw, a ddaeth i rym ar 17 Awst. Deallaf, rhwng 10 Awst a gwneud y cywiriad hwn, na chyhoeddodd yr un llys ddedfryd o garchar ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am godi'r mater hwn.
Yn olaf, mae rheoliadau gwelliant Rhif 5 a ddaeth i rym ar 17 Awst yn ei gwneud hi'n orfodol mewn lleoliadau risg uchel i gasglu manylion cyswllt y rhai sy'n ymweld â'r safle. Mae hynny'n golygu, os gellir olrhain achos neu glystyrau yn ôl i dafarn, caffi neu leoliad arall penodol, fel sydd eisoes wedi digwydd yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DU, y bydd gennym ni gofnod wedyn o bwy oedd yno ar y pryd, ffordd o gysylltu â nhw yn gyflym, er mwyn sicrhau eu bod nhw a'u haelwydydd yn hunanynysu, a rhoi cyfle i atgyfnerthu'r angen i gael prawf yn ôl y gofyn. Mae hyn yn rhagofal synhwyrol i'w gymryd ar hyn o bryd yng ngoleuni cyngor y prif swyddog meddygol bod misoedd yr hydref a'r gaeaf yn debygol o ddod â heriau newydd ac ychwanegol o ran rheoli'r coronafeirws yma yng Nghymru.
Llywydd, mae'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y coronafeirws wedi bod yn ddigynsail. Mae'r gyfraith yn glir, fodd bynnag, mai dim ond cyhyd ag y maent yn angenrheidiol ac yn gymesur y gellir cadw'r cyfyngiadau hynny ar waith. Addawodd ein canllaw, a gyhoeddwyd ar 15 Mai, ddull gofalus a chydlynol o liniaru'r cyfyngiadau drwy newidiadau rheoleiddiol graddol dros amser. Credaf fod y rheoliadau y mae Aelodau'n pleidleisio arnyn nhw heddiw wedi helpu i anrhydeddu'r addewid hwnnw ac anogaf y Senedd i'w cefnogi.
Galwaf ar Dai Lloyd nawr i siarad ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Llywydd, a dwi'n siarad fel Cadeirydd dros dro, felly, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, fel rydych chi newydd nodi.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 ydy'r prif reoliadau ar y coronafeirws yng Nghymru. Cymeradwyodd y Senedd y rheoliadau hyn ar 5 Awst eleni, ynghyd â dwy set o reoliadau diwygio. Ar 24 Awst, gwnaethom adrodd ar dair set arall o reoliadau diwygio, sef y rheoliadau sy'n destun y ddadl yma heddiw. Roedd rheoliadau diwygio Rhif 3 yn caniatáu i fwytai, caffis, bariau a thafarndai agor dan do ac yn caniatáu i neuaddau bingo, aleau bowlio a thai ocsiwn agor hefyd. Fodd bynnag, rhaid cymryd mesurau i leihau'r risg o ddod i gysylltiad efo'r feirws. Fe wnaeth rheoliadau diwygio Rhif 3 hefyd lacio ar y cyfyngiad ar gynulliadau fel y caniateir cynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 30 o bobl, pa un a yw'n ymwneud â gweithgareddau yn yr awyr agored sydd wedi eu trefnu ai peidio. Tynnodd ein hadroddiad ar reoliadau diwygio Rhif 3 sylw at y ffaith na chafwyd ymgynghoriad cyhoeddus nac asesiad effaith rheoleiddiol ar y rheoliadau, a hynny o ganlyniad i'r amgylchiadau presennol, yn amlwg.
Roedd rheoliadau diwygio Rhif 4 yn caniatáu i ganolfannau cymunedol, pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd, campfeydd, sbaon, canolfannau hamdden, a mannau chwarae o dan do i agor hefyd. Unwaith eto, fodd bynnag, rhaid cymryd mesurau i leihau'r risg o ddod i gysylltiad efo'r coronafeirws yn y fangre. Maent hefyd yn rhoi pwerau newydd i swyddogion gorfodaeth awdurdodau lleol i sicrhau y cymerir mesurau er mwyn lleihau'r risg o ddod i gysylltiad efo'r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd eraill sydd ar agor.
Gwnaethom godi pwyntiau technegol a phwyntiau rhinweddau mewn perthynas â rheoliadau diwygio Rhif 4. Yn gyntaf, o ran y pwyntiau technegol, gwnaethom dynnu sylw at y ffaith bod y rheoliadau yn cynnwys cosb bosibl o chwe mis o garchar mewn perthynas â throseddau newydd sy'n ymwneud efo hysbysiadau cau mangre. Dwi'n clywed beth mae'r Gweinidog newydd ddweud. Fodd bynnag, byddai hyn yn afreolaidd, wrth gwrs, gan fod y Ddeddf y mae'r rheoliadau yn ddarostyngedig iddi, sef Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn darparu na ellir cosbi troseddau o'r fath trwy garcharu. Er ein bod yn nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi sylw i'r mater hwn yn rheoliadau diwygio Rhif 5 trwy wneud yn glir mai dim ond trwy ddirwy y gellir cosbi troseddau o'r fath, roedd y ddarpariaeth yn ymwneud â charcharu mewn grym rhwng 10 Awst 2020 a 17 Awst 2020. Felly, rydym yn ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn iddo gadarnhau na chafodd y ddarpariaeth honno unrhyw effaith ymarferol yn ystod y cyfnod hwnnw. Eto, dwi'n clywed beth mae'r Gweinidog wedi ei ddweud heddiw.
Yn ein hadroddiad, gwnaethom ofyn hefyd am eglurder ynghylch y broses o gymhwyso rheoliad 18(7), sy'n ymwneud efo'r wybodaeth y gall swyddog gorfodi ofyn amdani, a sut y gellir ei defnyddio mewn achos. O ran y pwyntiau rhinweddau, mae ein hadroddiad yn ceisio eglurder ynghylch dull gorfodi Llywodraeth Cymru, a hefyd ynghylch sut mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda swyddogion gorfodi mewn awdurdodau lleol, o ystyried bod y cyfyngiadau sy'n berthnasol i unigolion a busnesau yng Nghymru bellach wedi'u gwneud ac wedi eu diwygio 17 o weithiau. Mae hwn yn bwynt pwysig gan fod amlder y newidiadau a wnaed at ddibenion adlewyrchu natur newidiol y pandemig yn ei gwneud hi'n anodd i unigolion a busnesau ddilyn yr hyn y mae gofyn iddyn nhw ei wneud. Yn ei dro, mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch sut mae'r cyfyngiadau wedi cael eu gorfodi.
Rydym hefyd yn gofyn am wybodaeth ynghylch yr adnoddau y mae eu hangen i gyflawni'r gweithgarwch gorfodi hwn. Yn ein barn ni, byddai wedi bod yn ddelfrydol pe bai gwybodaeth am y gyfundrefn orfodi wedi cael ei chynnwys yn y memorandwm esboniadol.
Er na godwyd unrhyw bwyntiau gennym yn ein hadroddiadau ar reoliadau diwygio Rhif 5, byddwn yn ysgrifennu at y Prif Weinidog yn sgil y ffaith bod canllawiau Llywodraeth Cymru ar reoliadau Rhif 5 wedi dod i'n sylw ers hynny. Yn benodol, mae'r canllawiau yn dweud bod rhwymedigaeth gyfreithiol ar y sector lletygarwch, sinemâu, campfeydd ac ati i gasglu a chadw gwybodaeth am gwsmeriaid. Fodd bynnag, mae'r rheoliadau'n dweud bod yn rhaid i bob busnes, mangre agored, gweithle ac ati, gan gynnwys y sector lletygarwch, sinemâu a champfeydd, gymryd mesurau rhesymol i ymdrin â'r feirws. Ym mwyafrif helaeth yr achosion, efallai ei bod hi'n rhesymol i'r sector lletygarwch a champfeydd ac ati gasglu a chadw gwybodaeth, fodd bynnag, nid ydym yn credu bod hyn yn gyfystyr â rhwymedigaeth gyfreithiol gyffredinol. Dylid gwneud penderfyniad ar bob achos ar sail y ffeithiau perthnasol, ac, fel y gwyddom ni, ni ellir datgan y gyfraith mewn canllawiau. Y gyfraith yw'r hyn a nodir yn y rheoliadau eu hunain.
Trof yn awr at y pwynt olaf ar reoliadau Rhif 5. Ymddengys bod y canllawiau'n dweud y gellir casglu a chadw gwybodaeth am gwsmeriaid er mwyn lleihau'r risg y bydd unrhyw berson
'sydd wedi bod ym mangre rhywun'— dwi'n dyfynnu yn y fan yna—yn lledaenu'r feirws. Fodd bynnag, mae'r rheoliadau yn dweud y gellir casglu gwybodaeth am gwsmeriaid at y diben gwahanol o leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws 'yn y fangre'. Ac, eto, dwi'n dyfynnu eto.
Byddaf yn ddiolchgar, felly, i orffen, pe bai'r Llywodraeth yn gallu egluro a oes unrhyw anghysondeb rhwng y canllawiau a'r rheoliadau ar y pwynt yma. Diolch yn fawr iawn i chi.
Gweinidog, diolch ichi am eich diweddariad am y rheoliadau a byddwn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi'r rheoliadau fel y'u cyflwynwyd gan y Llywodraeth y prynhawn yma. Hoffwn ofyn am ddau bwynt o eglurder gennych chi os oes modd, os gwelwch yn dda.
Yn eich diweddariad, fe wnaethoch chi dynnu sylw at y pedwar hysbysiad gwella a gyflwynwyd o dan y rheoliadau. A ydych chi mewn sefyllfa i ddweud wrthym ni beth oedd angen cyflwyno'r hysbysiadau gwella arnynt? Ai lleoliadau lletygarwch oedden nhw, ai gweithleoedd oedden nhw, ac a oedd lleoliadau daearyddol penodol lle'r oedd hi'n anoddach gweithredu'r gyfraith? Felly, a oedd hyn yn rhywbeth a oedd yn effeithio ar fusnesau neu letygarwch yn y gogledd neu ai yn y de, neu ai dim ond mater cyffredinol ydoedd ledled Cymru?
Ac, yn ail, crybwyllodd y Prif Weinidog hyn yn ei ddatganiad heddiw, a gan ein bod yn edrych ar y rheoliadau, rwy'n synnu nad ydych chi wedi crybwyll gorchuddion wyneb mewn lleoliadau addysgol yma heddiw. Dywedir wrthym ni y bydd cyhoeddiad yn ddiweddarach heddiw, ond mae hwn yn gyfarfod ffurfiol o Senedd Cymru, byddwn wedi tybio, fel Aelodau, y byddai wedi bod yn ddigon cwrtais i ddweud wrthym ni yn union beth oedd meddylfryd Llywodraeth Cymru ynghylch hyn, a byddai hwn yn gyfle delfrydol i chi wneud hynny. Fel y cyfeiriodd y Prif Weinidog at y ffaith ei bod hi'n ddigon posib y byddai angen y gofynion hyn yn lleol mewn ysgolion addysgol, prifysgolion a cholegau addysg bellach er mwyn gwisgo mygydau wyneb, a allwch chi ein goleuo ni yma heddiw o ran eich barn am y mesurau hyn, a phryd y gallwn ni glywed newyddion mwy pendant gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gellid datblygu hyn?
Er fy mod yn croesawu llacio'r cyfyngiadau, fy ngwrthwynebiad i'r rheoliadau hyn yw nad ydynt yn mynd yn ddigon pell. Cyfeiriodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad yn gynharach at yr angen i gynnal cydbwysedd wrth wneud penderfyniadau am lacio—mae'r un peth yn wir am eu gorfodi yn y lle cyntaf. Er bod costau'r cyfyngiadau hyn yn ymddangos yn eithaf hawdd i'w mesur, gwyddom y bu gostyngiad o un rhan o bump yn ein hincwm cenedlaethol yn y chwarter diwethaf, a gwyddom hefyd y gost i'r cyhoedd mewn ffyrdd eraill drwy ganslo neu ohirio llawdriniaethau mewn ysbytai, a nifer y marwolaethau a fu o ganlyniad i gyflyrau eraill oherwydd y flaenoriaeth a roddir i drin cleifion sydd â'r coronafeirws arnyn nhw. Ond, mae'n llawer anoddach mesur manteision y cyfyngiadau, ar y llaw arall.
Gwyddom o gymariaethau rhyngwladol nad oes cymaint â hynny o wahaniaeth, mewn gwirionedd, rhwng gwledydd sydd wedi gosod cyfyngiadau symud llym a'r rhai nad ydyn nhw wedi gwneud hynny. Cyfeiriodd y Prif Weinidog yn gynharach at achos Sweden, y dywedodd ei fod wedi edrych arno, ac eto, os edrychwch chi ar brofiad Sweden, mae costau eu hymateb i'r coronafeirws yn llawer is na'r costau yr ydym ni wedi'u hysgwyddo. Ac nid yw Sweden wedi dioddef fel a wnaethom ni oherwydd y clefyd chwaith. Ar hyn o bryd yn Sweden, dim ond 21 o bobl—21 o bobl—sydd mewn cyflwr difrifol neu dyngedfennol oherwydd coronafeirws. Y ffigur ar gyfer y DU yw 72. Mae nifer fach iawn o bobl mewn gwirionedd yn dioddef canlyniadau sylweddol o ddod i gysylltiad â'r clefyd.
Gwyddom mai prif nodwedd COVID yw nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn dioddef unrhyw effeithiau gwael o gwbl; maen nhw'n asymptomatig neu dim ond math ysgafn iawn o'r feirws sydd ganddyn nhw. Y cyfartaledd symudol saith diwrnod ar gyfer marwolaethau yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yw rhwng 14 a 10. Mae llawer o achosion eraill o farwolaeth sy'n uwch na'r ffigurau hynny, ac eto nid ydym ni yn gosod cyfyngiadau symud llym er mwyn eu gwrthweithio. Y ffigur ar gyfer Sweden yw dim ar hyn o bryd—dim marwolaethau.
Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog efallai ailystyried agwedd Llywodraeth Cymru at y rheoliadau hyn a bod yn fwy beiddgar nag y buont. Er bod llacio, fel y dywedais, i'w groesawu, mae angen llacio cyflymach arnom ni, llacio ehangach, oherwydd mae'r manteision o ran y costau'n llawer mwy na pha ddifrod bynnag y gellid ei wneud.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Ni allaf glywed y Gweinidog ar hyn o bryd. A gawn ni—? Ydw, rwy'n credu ei fod yn iawn nawr. Ewch ymlaen.
Diolch, Llywydd, a diolchaf i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl, y ceisiaf ymdrin â nhw yn eu tro.
Diolch i Dai Lloyd am ei gyfraniad ar ran y pwyllgor. Nodais y cywiriad sy'n ofynnol yn fy sylwadau agoriadol a chadarnheais nad oedd unrhyw effaith ymarferol ar y mater yr oedd angen ei gywiro. Nid wyf yn credu bod anghysondeb rhwng y canllawiau a'r rheoliadau, ond byddaf yn hapus i roi sylw pellach i hyn o ystyried y manylion ychwanegol y mae'r Aelod wedi'u darparu.
O ran sylwadau Andrew R.T. Davies, un o'r pedwar mater sydd yn hysbys i'r cyhoedd i raddau helaeth am yr hysbysiadau gwella a gyflwynwyd yw Wetherspoon yn Wrecsam lle bu clwstwr o achosion a fu'n gysylltiedig â'r dafarn benodol honno. Mae'n ymwneud yn bennaf â diffyg cadw pellter cymdeithasol yn yr ardaloedd staff, a dyna ddiben yr hysbysiad gwella a gyflwynwyd gan gyngor Wrecsam. Mae'n bwysig cydnabod bod hyn yn ymwneud â sut mae busnesau'n gofalu am eu cwsmeriaid, ond hefyd eu staff yn ogystal. Ac nid oedd hynny oherwydd ei bod hi'n amhosib i aelodau staff gadw pellter cymdeithasol, roedd mewn gwirionedd oherwydd nad oedd y gofynion eu hunain yn cael eu dilyn. Ac i fod yn deg, mae'r cyflogwr wedi cydnabod bod angen ailedrych ar y canllawiau a'r hyfforddiant sydd gan staff i sicrhau bod ymlyniad priodol yn y dyfodol.
O ran y sylw a wnaethpwyd am y lleoliadau addysgol, clywais ef yn gwneud yr un sylw i'r Prif Weinidog hefyd, ac wrth gwrs rydym yn trafod y rheoliadau sydd eisoes wedi'u pasio yn hytrach na'r gwaith sydd heb ei orffen eto o ddatrys ac adolygu unrhyw gyngor a roddwn ni ynghylch gorchuddion wyneb ac addysg. Fel y dywedais, nid ydynt yn rhan o'r rheoliadau, ac fel y dywedais ddoe, rwy'n disgwyl i ni wneud datganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw. Byddai'n well gennyf fod mewn sefyllfa i wneud hynny nawr, ond mae'n bwysig ein bod yn gwneud pethau'n iawn pan fyddwn yn gwneud hynny, a phan fyddwn yn gwneud hynny bydd hynny ar ffurf datganiad ffurfiol i'r Aelodau a byddwn yn amlwg yn ateb cwestiynau yn gyhoeddus amdano.
O ran sylwadau Neil Hamilton, nid wyf yn cytuno â'i wrthwynebiad cyson i unrhyw fesurau gan Lywodraeth Cymru yr ydym ni wedi'u gweithredu ar y sail ein bod yn cadw Cymru'n ddiogel. Nid wyf yn cytuno â'i apêl i ddileu'r holl fesurau rheoli a bod y manteision yn drech na'r difrod. Dywedais yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth fod o leiaf 2,557 o bobl yng Nghymru wedi colli eu bywydau o ganlyniad i'r coronafeirws. Dyna'r math o ddifrod yr ydym yn sôn amdano, a heb unrhyw fesurau rheoli, credaf y byddai llawer mwy o deuluoedd wedi dioddef colled, byddai llawer mwy o bobl wedi cael niwed hirdymor i'w hiechyd. Mae hwn yn fygythiad newydd sy'n achosi marwolaethau sylweddol o fewn ein poblogaeth. Nid wyf yn credu y byddai'n gydwybodol o gwbl i Lywodraeth Cymru wrthod gweithredu i gadw ein dinasyddion yn ddiogel, ac rwy'n falch o'r ffordd y mae'r rhan fwyaf o bleidiau'r Senedd wedi cydnabod yr angen i'r Llywodraeth hon weithredu yn ystod y pandemig.
Felly, mae'r holl reoliadau a drafodwyd heddiw yn adlewyrchu ystyriaeth ofalus ynglŷn â'r ffordd orau o gydbwyso rhyddid â rheoli bygythiad parhaus y feirws. Rydym ni wedi ystyried barn amrywiaeth o bartneriaid, busnesau, awdurdodau lleol ac, yn wir, cyngor partneriaeth gymdeithasol yr wrthblaid ac undebau llafur mewn trafodaethau eraill.
Rydym yn parhau i geisio paratoi ein hunain ar gyfer yr hydref a'r gaeaf sydd ar ddod a siarad, lle y bo'n bosib, â chyd-Aelodau mewn gweinyddiaethau eraill. Ac yn hynny o beth, wrth weithredu agweddau ar ein fframwaith gorfodi, mae eraill, gan gynnwys Llywodraeth yr Alban, bellach yn ceisio dysgu o'r hyn yr ydym yn ei wneud yma yng Nghymru. Felly, nid wyf yn ymddiheuro am ochelgarwch parhaus Llywodraeth Cymru, yn enwedig am ganiatáu i bobl gymysgu'n rhydd mewn mannau dan do na ellir eu rheoleiddio. Mae'n siŵr bod pob un ohonom ni yn ddiamynedd i ymweld â ffrindiau a theulu yn eu cartrefi, a thrwy ymestyn maint posibl aelwyd estynedig, rwy'n gobeithio y byddwn yn helpu mwy o bobl i wneud hynny'n ddiogel. Ond, fel ag erioed, rhaid cymryd un cam ar y tro. Byddwn yn parhau i fod yn wyliadwrus wrth arsylwi'r dystiolaeth a chwilio am gyfleoedd i liniaru ymhellach cyn gynted â phosib, mor ddiogel â phosib. Ond, yn y cyfamser, cymeradwyaf y rheoliadau i'r Senedd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly dwi'n gohirio'r eitem yna tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi'n gohirio'r bleidlais unwaith eto ar eitem 3.
Ac wedyn y cwestiwn olaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 4? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu eitem 4? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly dwi'n gohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd egwyl o bum munud cyn cynnal y cyfnod pleidleisio. Bydd y tîm cymorth technoleg gwybodaeth wrth law i helpu gydag unrhyw faterion yn ystod y cyfnod yma, ac felly dwi'n gohirio'r cyfarfod am bum munud.