1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 15 Medi 2020.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, daeth i'r amlwg ddoe bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfaddef mynediad diawdurdod at ddata a arweiniodd at bostio manylion ychydig dros 18,000 o bobl, a oedd wedi profi'n bositif ar gyfer COVID-19, ar ei wefan am bron i ddiwrnod cyfan. Roedd y ffigur hwnnw yn cynnwys bron i 2,000 o bobl yn byw mewn lleoliadau cymunedol fel cartrefi nyrsio a'r rhai sy'n byw mewn tai â chymorth, a aeth mor bell â datgelu eu mannau preswylio. Prif Weinidog, o gofio nad dyma'r tro cyntaf y bu problem gyda data iechyd y cyhoedd, mae'n destun pryder mawr na ddatgelodd y Gweinidog iechyd hyn ar unwaith a chydag esboniad o ba gamau a fydd yn cael eu cymryd nawr i adennill ffydd y cyhoedd, oherwydd awgrymwyd bod y Llywodraeth wedi bod yn ymwybodol o hyn ers wythnosau. Felly, Prif Weinidog, rwy'n gobeithio y gwnewch chi achub ar y cyfle heddiw i ymddiheuro i'r bobl a gafodd eu heffeithio gan yr achos diweddaraf hwn o fynediad diawdurdod at ddata. A wnewch chi hefyd fanteisio ar y cyfle i ddweud wrthym ers pryd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwybodol o'r mynediad diawdurdod hwn a'r hyn yr ydych chi'n ei wneud i adennill ffydd y cyhoedd o ran rheoli eu data?
Wel, Llywydd, clywais am y mynediad diawdurdod at ddata hwn ddoe, a chlywais amdano o ganlyniad i ddatganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru, a dynnodd sylw, fel y dywedodd Paul Davies, at y mynediad diawdurdod at ddata. Mae'n fater difrifol pan nad yw rheoliadau data yn cael eu dilyn yn briodol, ac rwy'n credu bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn iawn i ymddiheuro i'r bobl hynny y cyhoeddwyd eu data yn anfwriadol fel hyn. Diolch byth, fel y dywedodd Paul Davies, parhaodd y mynediad diawdurdod at ddata am lai na diwrnod ac mae'r ymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu na wnaed unrhyw niwed o ganlyniad. Ond mater o lwc yw hynny yn hytrach na dim byd arall.
Mae'n iawn, felly, bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi sefydlu ymchwiliad i'r hyn a aeth o'i le, wedi hysbysu'r Comisiynydd Gwybodaeth, a byddwn yn disgwyl i'r ddwy swyddfa hynny wneud yn siŵr y gellir nodi'r rhesymau sydd y tu ôl i'r mynediad diawdurdod at ddata, ac os oes unrhyw systemau y mae angen eu trwsio, bod y camau hynny yn cael eu cymryd yn gyflym.
Wel, rwy'n siŵr, Prif Weinidog, y byddai'r bobl sydd wedi cael eu heffeithio yn gwerthfawrogi ymddiheuriad gennych chi fel Prif Weinidog, o gofio bod yr amgylchiadau hyn wedi codi. Ond, wrth gwrs, nid dyma'r mynediad diawdurdod at ddata personol cyntaf, yn dilyn y digwyddiad pan anfonwyd 13,000 o lythyrau gwarchod i'r cyfeiriadau anghywir yn gynharach eleni, nid unwaith, ond dwywaith, wrth gwrs. Gadewch i ni gofio hefyd fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, o dan eich rheolaeth uniongyrchol chi, Prif Weinidog, wedi methu ag adrodd ffigurau marwolaethau coronafeirws dyddiol oherwydd ei fod wedi defnyddio gwahanol system adrodd i un a sefydlwyd ar gyfer GIG Cymru. Felly, gadewch i ni obeithio mai dyma'r tro olaf y bydd data personol pobl yn cael ei gamdrafod yn ystod y pandemig hwn, gan ei bod yn bosibl iawn y gallai hyn niweidio ffydd y cyhoedd, yn enwedig gan y gofynnir i bobl drosglwyddo manylion personol ar gyfer y system olrhain.
Prif Weinidog, ceir pryder dealladwy hefyd ynghylch cynlluniau i leihau profion COVID-19 o sail wythnosol i bob pythefnos mewn cartrefi gofal yn y gogledd. A allwch chi gadarnhau felly na fydd Llywodraeth Cymru yn lleihau'r profion wythnosol ar breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda'r rhai yn sector gofal Cymru am eu rhaglen brofi?
Wel, Llywydd, mae'n bwysig cywiro nifer o bwyntiau yn hynny o beth. Gadewch i ni fod yn eglur nad oedd defnydd Betsi Cadwaladr o wahanol system adrodd yn cynnwys unrhyw achosion o fynediad diawdurdod at ddata personol. Mae'r ddau beth yn hollol wahanol ac nid ydyn nhw wedi'u cysylltu yn y ffordd y ceisiodd yr Aelod eu cysylltu nhw yn ei gwestiwn dilynol, ac nid yw preswylwyr cartrefi gofal yn cael eu profi ychwaith. Staff cartrefi gofal sy'n cael eu profi yn wythnosol neu bob pythefnos, nid preswylwyr. Felly, gadewch i ni fod yn eglur ynglŷn â hynny hefyd. Mae'n eithaf pwysig yn hyn o beth i fod yn fanwl gywir yn y ffordd yr ydym ni'n gofyn y cwestiynau hyn ac yn eu trafod.
Felly, rydym ni mewn trafodaethau, wrth gwrs, gyda'r holl gyrff iechyd lleol ynglŷn â'r gyfradd yr ydym ni'n profi staff, a phan fydd preswylwyr â symptomau bod preswylwyr yn cael eu profi hefyd. 0.12 y cant oedd cyfradd bositif staff a brofwyd yng nghartrefi gofal Cymru yn ystod yr haf hwn. Roedd yn fychan iawn, ac mae'n bwysig bod yn gymesur, fel yr wyf i'n credu bod eich Ysgrifennydd iechyd Matt Hancock wedi bod yn ei bregethu drwy'r bore, am y ffordd yr ydym ni'n defnyddio'r adnodd prin y mae profion yn ei gynrychioli.
Mae'r anawsterau sy'n ein hwynebu o ran profi cartrefi gofal yng Nghymru oherwydd i ni newid profion cartrefi gofal i'r labordai goleudy a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU. Mae'n ddrwg gen i bod rhai cartrefi gofal yn colli ffydd yn y system honno ac yn awgrymu na fydden nhw'n barod i gymryd rhan ynddi. Byddwn ni'n edrych i weld a oes angen i ni newid capasiti yn ôl i system Cymru yn ystod cyfnod yr wyf i'n obeithio fydd yn fyr tra bydd y labordai goleudy hynny yn dychwelyd i'r gwasanaeth da iawn yr oedden nhw'n ei ddarparu yng Nghymru, fel mewn mannau eraill, dim ond tair wythnos yn ôl. Ond mae'r anawsterau dros dro o ran profi mewn cartrefi gofal, fel y maen nhw, o ganlyniad i'r anawsterau y mae'r system honno, y system DU honno, yn eu wynebu, nid oherwydd anawsterau yn system brofi Cymru.
Y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud, Prif Weinidog, yw ei bod hi'n bwysig eich bod chi fel Llywodraeth yn ymgynghori â'r sector cartrefi gofal, gan ei bod hi'n gwbl hanfodol eich bod yn ymgynghori'n llawn â'r sector ar eich polisi profi, a gobeithiaf y byddwch chi'n myfyrio ar eich sylwadau.
Nawr, un agwedd ar bolisi profi a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran nodi bygythiadau posibl yw profi mewn meysydd awyr. Siawns y bydd profi pawb sy'n dychwelyd adref o dramor yn cadw pobl yn ddiogel. Nawr, galwodd Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid, Nick Thomas-Symonds, am drefn brofi gadarn mewn meysydd awyr fel ffordd o sicrhau bod cyn lleied â phosibl o angen am y cyfnod ynysu o bythefnos ar ôl dychwelyd i'r DU, ac mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref, fe'i gwnaeth yn eglur bod cynyddu profion yn rhan bwysig o geisio ymateb i'r pandemig ac ailagor cymdeithas yn ddiogel. Dywedodd hefyd,
O gofio'r heriau enfawr sy'n wynebu'r sector teithio a maint y colledion swyddi, mae'n gwneud synnwyr i edrych ar y maes hwn yn rhan o becyn ehangach o welliannau i'r drefn brofi.
Mae Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid yn iawn; rwy'n cytuno ag ef. Ydych chi'n cytuno ag ef?
Wel, Llywydd, rydym ni'n cynnal trafodaethau gyda'r maes awyr yng Nghaerdydd i weld a allwn ni ddod o hyd i ffordd ymarferol o gynnal profion yn y maes awyr ei hun. Ceir rhai materion ymarferol y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw yn hynny o beth, o ran yr amser y gallai fod yn rhaid i bobl aros mewn maes awyr, am ba hyd y byddai pobl yn barod i aros mewn maes awyr—ni allwch chi fynnu bod pobl yn gwneud y pethau hyn; mae'n fater o gymryd rhan yn wirfoddol. Felly, mae'n rhaid i chi dreulio ychydig o amser i wneud yn siŵr, os gallwch chi ddarparu profion mewn maes awyr, y gallwch chi wneud hynny mewn modd sy'n effeithiol, ac mae'r trafodaethau hynny gydag awdurdodau'r maes awyr yma yng Nghaerdydd yn parhau.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae BMA Cymru Wales wedi rhybuddio bod ail uchafbwynt COVID yn debygol iawn y gaeaf hwn, ac mai dyma'r prif bryder ymhlith y proffesiwn meddygol, fel sy'n wir, rwy'n siŵr, i bob un ohonom ni. A gaf i annog y Prif Weinidog i roi ystyriaeth ddifrifol i fabwysiadu elfennau o'r cynllun gaeaf 10 pwynt a gyhoeddwyd gennym ni heddiw, sydd â'r nod o osgoi ail don ac ail gyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol? Yn benodol, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog archwilio'r achos dros gyflwyno, pryd bynnag y bo hynny'n bosibl, y dull wedi'i dargedu a fabwysiadwyd gan rai gwledydd yn seiliedig ar gyfyngiadau symud clyfar sy'n canolbwyntio ar niferoedd uchel o haint ar lefel gymunedol neu gymdogaeth, yn hytrach na chyfyngiadau symud ar draws ardal awdurdod lleol gyfan?
Diolchaf i Adam Price am y cwestiwn yna, Llywydd, ac rwy'n edrych ymlaen at gael cyfle i edrych yn iawn ar y cynllun 10 pwynt. Mae croeso i unrhyw gyfraniadau adeiladol at ffyrdd y gallwn ni fynd i'r afael â'r gaeaf yn well. Gwn y bydd wedi gweld y cynllun diogelu'r gaeaf y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyhoeddi heddiw, a cheir llawer o orgyffwrdd rhwng y syniadau. Felly rwy'n awyddus iawn i edrych yn adeiladol ar y syniadau hynny.
Mewn sawl ffordd, gellir gweld y syniad o ddull gweithredu clyfar neu wedi'i dargedu yn y ffordd yr ymatebodd ein system profi, olrhain, diogelu, er enghraifft, i achosion Rowan Foods yn Wrecsam, pan nad oedd angen i ni gael cyfyngiadau ar ryddid pobl ar draws y fwrdeistref gyfan: roeddem ni'n gallu canolbwyntio ar y bobl a oedd yn gweithio yn y gwaith hwnnw a'u cysylltiadau uniongyrchol. Credaf y gellid ystyried y gofyniad i hunanynysu, y cyngor a roddwyd i'r grŵp penodol hwnnw yn y boblogaeth, fel enghraifft deg o gyfyngiadau symud clyfar, gan fod y bobl hynny wedi'u hynysu am 14 diwrnod. Y mwyaf y gallwn ni dargedu ein hymyraethau fel eu bod nhw'n ymateb i natur y broblem sydd gennym ni o'n blaenau, ac nad ydyn nhw'n cyfyngu felly ar fywydau pobl nad ydyn nhw'n rhan uniongyrchol o hynny, y gorau oll yr wyf i'n credu y byddwn ni'n ennyn hyder y cyhoedd pan fydd angen cymryd y mesurau hynny.
Mae'r tîm rhagolygon yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain yn adrodd ar hyn o bryd mai 1.43 yw eu hamcangyfrif o ffigur R Cymru, ar 11 Medi, a fyddai'n golygu mai Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o dwf yn y DU ar hyn o bryd ac amser dyblu o ychydig dros chwe diwrnod. A ydych chi'n cydnabod yr amcangyfrifon hynny, Prif Weinidog? Os nad ydych chi, beth yw amcangyfrifon diweddaraf Llywodraeth Cymru? O gofio brys cynyddol y sefyllfa a'r anawsterau y cyfeiriasoch chi atyn nhw'n gynharach o ran system labordy goleudy'r DU, a yw'n bosibl cyflwyno'r rhwydwaith newydd hwnnw o gyfleusterau labordy poeth sy'n cael eu cynllunio yng Nghymru yn gynharach na mis Tachwedd? Wrth i gapasiti dyfu, a allwn ni edrych ar brofi cysylltiadau asymptomatig fel y mae llawer o wledydd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, wedi dechrau ei wneud erbyn hyn?
Llywydd, diolchaf eto i Adam Price am y cwestiynau yna. Mae'r crynodeb y gell cyngor technegol a gyhoeddwyd heddiw, rwy'n credu, yn awgrymu bod y lefel R yng Nghymru yn uwch nag 1. Nid wyf i'n credu y byddem ni'n ymrwymo i ffigur mor fanwl ag 1.43. Y broblem gyda'r ffigur R ar gyfer Cymru gyfan yw ei bod hi'n anochel bod cornel de-ddwyrain Cymru yn effeithio arno, lle'r ydym ni wedi gweld cymaint o gynnydd i achosion yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Mae rhannau cyfan o Gymru, Llywydd, lle mae'r niferoedd yn dal i gael eu cadw'n isel yn effeithiol iawn, ac ni fyddai lefel R o 1.43 yn adlewyrchiad o gylchrediad y feirws yn y rhannau hynny o Gymru. Felly, mae'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yng Nghaerffili, yn Rhondda Cynon Taf ac yn fwy diweddar yng Nghasnewydd, yn effeithio'n arbennig ar y ffigur unigol ar gyfer Cymru ar hyn o bryd. Serch hynny, mae crynodeb y gell cyngor technegol yn awgrymu bod y gyfradd wedi codi yn ôl yn uwch nag 1 yng Nghymru, a dyna pam y cymerwyd y mesurau a gymerwyd gennym ni ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, i ymateb ar sail Cymru gyfan i'r darlun hwnnw a oedd yn dod i'r amlwg.
Bydd y buddsoddiad o £32 miliwn a gyhoeddodd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething ar 18 Awst, Llywydd, yn golygu gweithio 24 awr mewn labordai yn Abertawe, yng Nghaerdydd ac yn y Rhyl ym mis Hydref, a chapasiti labordy poeth yn ehangach yng Nghymru—ar hyn o bryd ym mis Tachwedd. Os gallwn ni, wrth gwrs, ei gyflwyno yn gynharach, byddwn yn dymuno gwneud hynny. Mae'r buddsoddiad yn fater o fuddsoddiad cyfalaf ond hefyd yn fater o gyflogi mwy o staff yn y labordai hynny. Cawsom 3,000 o geisiadau am y 160 o swyddi a fydd yn cael eu recriwtio, a dechreuodd cyfweliadau ar gyfer y swyddi hynny ddoe. Felly, gorau po gyntaf y gallwn ni gael y bobl hynny yn y swyddi, gorau po gyntaf y byddwn ni'n gallu cael y capasiti labordy hwnnw ar waith yma yng Nghymru. A phan fydd gennym ni fwy o gapasiti yn y modd hwnnw, byddwn yn gallu ystyried eto pwy yr ydym ni'n eu profi, pryd y byddwn ni'n eu profi, gan gynnwys—nid wyf i'n awgrymu ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad hwnnw o gwbl, ond bydd yn caniatáu i ni ystyried y mater o brofion asymptomatig mewn ffordd wahanol.
Ymhen chwe wythnos, bydd cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn dod i ben, a bydd pen y dibyn sydd ar y gorwel yn gadael miloedd o weithwyr yn wynebu ansicrwydd andwyol diweithdra. Os bydd cynnydd pellach i achosion COVID yn golygu y bydd yn rhaid gorfodi cyfyngiadau symud lleol mewn ardaloedd eraill dros y misoedd nesaf, ac os na fydd Llywodraeth y DU yn gweithredu, a oes gan Lywodraeth Cymru gynllun wrth gefn i gynnig ffyrlo lleol, i bob pwrpas, yn ogystal â chymorth ariannol i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus lleol yn yr ardaloedd sy'n cael eu heffeithio, yn ogystal â'r rhai nad ydyn nhw yn gallu ennill gan eu bod nhw'n hunanynysu? Rwy'n siŵr y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno y byddai'n gwbl anghywir i gosbi pobl dim ond am eu bod yn sâl.
Rwy'n cytuno yn llwyr â'r pwynt yna, Llywydd, ac mae wedi cael ei wneud dro ar ôl tro gennyf i, gan Vaughan Gething, gan Brif Weinidog yr Alban mewn galwad pan ymunais â hi, ac, yn wir, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon yn galw ar Lywodraeth y DU i beidio â dod â'r cynllun ffyrlo i derfyn sydyn—i'w ail-grynhoi, ei ail-lunio a'i ychwanegu at allu i gefnogi cyflogau'r bobl hynny yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw hunanynysu am 14 diwrnod. Ar hyn o bryd, ceir cymhelliad gwrthnysig i'r bobl hynny sy'n gweithio ar gyflogau isel iawn fynd i'r gwaith pan nad ydych chi'n teimlo'n dda, oherwydd fel arall mae'n rhaid i chi ddibynnu ar werth £95 o dâl salwch bob wythnos. Byddai cynllun syml lle byddai Llywodraeth y DU ei hun yn sicrhau lefel cyflog arferol y bobl hynny, neu'n ei wneud mewn partneriaeth â chyflogwyr yn wir, yn cael gwared ar y cymhelliad gwrthnysig hwnnw. Rwy'n credu y byddai'n cynyddu cydymffurfiad â'r rheolau sy'n ein cadw ni i gyd yn ddiogel ac yn fuddsoddiad doeth gan Lywodraeth y DU, oherwydd fe fyddwch, yn y modd yr ydym ni'n aml yn siarad amdano yn y Siambr hon, yn gweithredu'n ataliol yn hytrach na gorfod talu'r pris sy'n dilyn pan fydd y person hwnnw yn mynd i'r gwaith, yn heintio pobl eraill, yn arwain at fwy o alw am wasanaethau cyhoeddus a chwmnïau yn gorfod rhoi'r gorau i gynhyrchu, ac yn y blaen.
Mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates wrthi'n gweithio ar hyn o bryd ar drydydd cam y gronfa cadernid economaidd yma yng Nghymru. Rhan o'r ystyriaeth honno yw'r cymorth y gallwn ni ei roi i gwmnïau sy'n canfod eu hunain yn destun cyfyngiadau symud lleol yma yng Nghymru yn y dyfodol. A fydd ein cyllideb yn ymestyn i gynnal incwm pobl sy'n cael eu heffeithio gan ddiwedd y cynllun ffyrlo neu sydd angen hunanynysu? Rwy'n ofni nad yw'r adnoddau gennym ni i wneud hynny. Nid yw cynnal incwm yn swyddogaeth sydd wedi ei datganoli i Lywodraeth Cymru. Nid oes cyllid yn llifo i ni gan Lywodraeth y DU i gefnogi hynny, ac mae'n llawer anoddach gweld sut y byddem ni'n gallu llunio, mewn ffordd fforddiadwy, cynllun o'r math y mae Adam Price yn tynnu sylw ato'n briodol ond yn yr un modd, yn briodol, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw rhoi hynny ar waith.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, o ystyried y gofyniad cyfreithiol i hysbysu'r Comisiynydd Gwybodaeth o fewn 72 awr, a'i ganllawiau i hysbysu'r rhai yr effeithir arnynt heb oedi diangen, a wnaethoch chi a/neu Iechyd Cyhoeddus Cymru eistedd, rwy'n credu, am oddeutu pythefnos ar newyddion am y datgeliad data mawr hwn?
A gaf i ofyn i chi hefyd egluro eich fersiwn chi o'r rheol chwech, yr ydych chi'n mynnu ei bod yn rhaid iddi fod yn wahanol i un Lloegr? Pam ydych chi'n dweud bod yn rhaid i'r chwech hyn fod o'r un aelwyd estynedig, wedi'i ffurfio o hyd at bedair aelwyd, heb gynnwys plant, ond yna efallai na fydd y pedair aelwyd hyn, er eu bod yn ffurfio aelwyd estynedig, yn cael cyfarfod ar yr un pryd os oes mwy na chwech?
A gaf i eich atgoffa hefyd eich bod chi wedi dweud yn y gorffennol mai dim ond dadl iechyd cyhoeddus ymylol oedd dros ddefnyddio gorchuddion wyneb anfeddygol? Dywedodd eich Gweinidog iechyd bod Prif Swyddog Meddygol Cymru yn credu y dylai masgiau fod yn fater o ddewis personol. Pa dystiolaeth newydd ydych chi wedi ei gweld i gymryd y dewis personol hwnnw oddi wrth bobl?
Llywydd, nid wyf i'n credu ei bod hi'n anodd iawn dilyn y rheol chwech. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod coronafeirws yn cael ei drosglwyddo gan bobl sy'n cyfarfod y tu mewn i dai ei gilydd. Dyna sydd y tu ôl i'r trosglwyddiad yng Nghaerffili. Dyna sydd y tu ôl i'r trosglwyddiad mewn sawl rhan o Loegr. Ac er mwyn ceisio dod â'r sefyllfa yn ôl dan reolaeth, yr hyn yr ydym ni'n ei gynnig yng Nghymru yw na ddylai mwy na chwech o bobl gyfarfod dan do ar unrhyw un adeg; mae'n cyfyngu ar y gadwyn drosglwyddo. Mae mor syml â hynny. A phan fo cadwyni trosglwyddo yn cynyddu ffigurau pobl sy'n dioddef o coronafeirws mewn rhannau helaeth o Gymru, ac yn gwneud hynny mewn ffordd eithaf brawychus, yna mae'n bwysig iawn bod y Llywodraeth yn gweithredu i ddod â hynny yn ôl dan reolaeth.
Mae gennym ni drefn fwy rhyddfrydol yma yng Nghymru nag mewn mannau eraill gan y gall pedair aelwyd ffurfio un aelwyd estynedig, ac mae hynny ynddo'i hun yn cynnig ymbarél sy'n helpu i darfu ar gadwyni trosglwyddo, ond ni ddylai mwy na chwech o'r bobl hynny gyfarfod ar unrhyw un adeg. Byddwn yn caniatáu i blant oedran ysgol gynradd fod yn rhan o'r aelwyd honno y tu hwnt i'r chwech oherwydd y dystiolaeth nad yw'r plant hynny yn dioddef o coronafeirws ac nad ydyn nhw'n trosglwyddo coronafeirws yn y ffordd y mae oedolion yn ei wneud. Mae'n ymgais gymesur i geisio peidio ag ymyrryd â rhyddid pobl yn fwy na'r hyn sy'n angenrheidiol, ond gwneud y lleiaf sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â'r cynnydd i'r coronafeirws yr ydym ni'n ei weld mewn gormod o rannau o Gymru.
O ran gorchuddion wyneb, yn ein cynllun cyfyngiadau symud lleol, a gyhoeddwyd hefyd yng nghanol mis Awst, Llywydd, dywedasom, pe byddai cylchrediad y feirws yng Nghymru yn symud y tu hwnt i drothwy penodol, y byddem ni'n ailystyried ein cyngor ar orchuddion wyneb. Ddiwedd yr wythnos diwethaf, aeth y gyfradd yng Nghymru i 20 o bob 100,000 o'r boblogaeth, ac mae wedi aros yn uwch nag 20 byth ers hynny. Ugain yw'r ffigur yr ydym ni'n ei ddefnyddio i nodi gwledydd tramor lle os ydych chi wedi bod dramor a bod yn rhaid i chi ddychwelyd i'r Deyrnas Unedig, mae'n rhaid i chi hunanynysu. Roedd hon yn ymddangos i mi unwaith eto yn ffordd gymesur o nodi'r trothwy anffodus hwnnw y dylem ni ofyn i bobl yng Nghymru wneud y peth ymylol hwnnw, oherwydd pan fyddwch chi'n cyrraedd cylchrediad y feirws ar y lefel honno, mae darnau ymylol o gymorth sy'n ein cynorthwyo ni i gyd i'w gadw dan reolaeth a'i yrru at i lawr yn dod yn werth chweil.
Yn Sweden, nid oedd unrhyw gyfyngiadau symud, fel yr ydym ni wedi ei drafod o'r blaen, Prif Weinidog, ac ni fu unrhyw atgyfodiad sylweddol yn y feirws hyd yma; yn wir, rydym ni newydd godi cyfyngiadau teithio ar Sweden. Ac eto, yn Sbaen, lle cafwyd cyfyngiadau symud difrifol iawn, rydym ni'n gweld atgyfodiad mawr o'r feirws. Beth felly yw'r rhesymeg sy'n sail i strategaeth Llywodraeth Cymru o gadw pobl dan glo drwy'r haf pan fo systemau imiwnedd pobl ar eu cryfaf, a phan fo capasiti'r GIG ar ei fwyaf, dim ond i ohirio cynyddu heintiau tan i ni gyrraedd y gaeaf? Rydych chi wedi cyflwyno cyfyngiadau symud ar fy etholwyr i yn ardal cyngor Caerffili, a hyd yn oed wedi sôn am y posibilrwydd o gyrffyw a chyfyngiadau ar werthu alcohol fel mesurau posibl y gallech chi eu hystyried. Ar ôl cymryd haf pobl oddi arnynt dim ond i achosion gynyddu unwaith eto, a ydych chi'n derbyn bod blinder â chyfyngiadau symud wedi dod i'r amlwg ac na allwch chi gadw pobl dan glo am byth?Am faint yn hwy ydych chi'n disgwyl cadw'r pandemig hwn i fynd yng Nghymru drwy eich cyfyngiadau?
Wel, Llywydd, mae'n ymddangos bod yr Aelod yn aml yn byw mewn byd nad oes llawer o'r gweddill ohonom ni yn byw ynddo, ond mae'n ymddangos erbyn hyn bod ganddo wahanol dymhorau yn ei gloc hefyd. Nid oedd Cymru yn destun cyfyngiadau symud yn ystod yr haf. Mae ein diwydiant twristiaeth wedi ailddechrau, mae ein cyfyngiadau 'aros yn lleol' wedi eu codi, mae pobl wedi cael cyfarfod yn yr awyr agored, mae pobl wedi cael cyfarfod dan do. Mae'n gwbl hurt i ddweud y collwyd yr haf hwn yng Nghymru. Yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru mewn gwirionedd yw bod rhai pobl, lleiafrif o bobl yng Nghymru, wedi cymryd yr haf fel arwydd bod coronafeirws ar ben, ac maen nhw wedi cymryd y ffaith eu bod nhw wedi gallu gwneud cymaint mwy nag yr oedden nhw yn flaenorol fel rhyddid i wneud hyd yn oed mwy na'r hyn a ganiatawyd, ac rydym ni'n gweld y canlyniadau. Rydym ni'n gweld y canlyniadau ym mywydau pobl sy'n dioddef o'r clefyd hwn erbyn hyn, ac mae arnaf i ofn y byddwn ni'n gweld, dros yr wythnosau i ddod, effaith hynny wrth i bobl gael eu derbyn i'r ysbyty ac yn galw ar welyau ein hunedau gofal dwys unwaith eto. Felly, ymhell iawn o Lywodraeth Cymru yn atal rhyddid y dylai pobl fod wedi ei fwynhau, rydym ni wedi gwneud ein gorau glas i adfer rhyddid pryd bynnag y bu'n ddiogel i wneud hynny, ac mae'r ffaith ein bod ni, ar hyn o bryd, yn wynebu sefyllfa lle mae profiad Cymru o coronafeirws, yn hytrach na gwella, yn gwaethygu yn fy nigalonni. Efallai y bydd yn rhaid i bob un ohonom ni unwaith eto wneud yr ymdrechion hynny a wnaed gennym ni yn gynharach eleni oni bai y gallwn ni berswadio'r holl bobl hynny—yn etholaeth yr Aelod ac fel arall—i ymddwyn mewn ffordd sy'n diogelu eu hunain, yn diogelu pobl eraill ac yn ein helpu ni i gyd i gadw Cymru yn ddiogel.