2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 30 Medi 2020.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu rhag y ffliw y gaeaf hwn? OQ55595
Diolch. Y gaeaf hwn, gyda phresenoldeb parhaus, neu atgyfodiad COVID-19 yn wir, rydym am sicrhau bod mwy o bobl nag erioed yn derbyn brechlyn ffliw. Dyna pam ein bod wedi ymestyn y meini prawf cymhwysedd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i sicrhau'r nifer fwyaf sy'n bosibl o frechlynnau ffliw, a bydd cyflenwad ychwanegol o'r brechlyn ar gael i gefnogi'r galw cynyddol a ragwelir.
Diolch am eich ateb. Yn ei sesiwn dystiolaeth gyda phwyllgor iechyd y Senedd yr wythnos diwethaf, dywedodd Dr Quentin Sandifer o Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cyfnod cyffredin byddem yn anelu at ddarparu brechlyn ffliw i 75 y cant o'r bobl sydd mewn grwpiau cymwys ac y byddai hynny'n ‘ymestyn yr effaith amddiffynnol i'r eithaf’. Felly, yn amlwg, hoffem gyflawni o leiaf hynny eleni. Felly, beth sy'n cael ei wneud i sicrhau ein bod yn cyflawni'r gyfradd fwyaf sy'n bosibl? A yw'r GIG wedi cysylltu â phawb sy'n gymwys i gael y brechlyn ffliw am ddim, ac a yw'r stociau a'r trefniadau logistaidd ar waith i ddarparu'r nifer uchaf erioed o ddosau mewn pryd? O ystyried y cynnydd a welsom yn nifer y profion coronafeirws ac absenoldebau ar ddechrau'r tymor ysgol newydd, ac o ystyried y perygl cynyddol o gael y coronafeirws a'r ffliw ar yr un pryd, ble rydym arni o ran y niferoedd sy'n manteisio ar y brechlyn ffliw drwy chwistrelliad trwynol a'i ddarparu mewn ysgolion cynradd?
Diolch am y cwestiynau hynny. Ac mae'n ymgyrch wirioneddol bwysig, eleni yn fwy nag erioed. Mewn tymor ffliw cyfartalog, mae 8,000 i 10,000 o bobl ledled y DU yn colli eu bywydau o ganlyniad i ffliw, felly mae'n achos marwolaeth sylweddol ar adegau arferol. O ystyried risg ychwanegol y coronafeirws, mae'n bwysicach nag erioed i bobl fanteisio ar y cynnig i gael pigiad ffliw am ddim gan y GIG, ac yn wir i aelodau eraill o'r cyhoedd ddiogelu eu hunain, os gallant wneud hynny.
Gyda gwledydd eraill y DU, rydym wedi caffael mwy o'r brechlyn ffliw nag erioed o'r blaen—tua 50 y cant yn fwy. Bydd hynny'n sicrhau bod y nifer fwyaf sy'n bosibl o bobl yn manteisio ar y cynnig yn y grwpiau risg, a hysbysir y bobl hynny'n rheolaidd drwy eu darparwyr gofal iechyd a byddant yn cael yr un hysbysiad. Er hynny, rydym eisoes yn gweld tystiolaeth gadarnhaol o gynnydd yn y galw am bigiad ffliw y GIG, felly mae hynny'n newyddion da. Ond mae hynny'n golygu bod angen sicrhau bod pobl yn gallu cael y pigiad boed mewn practis cyffredinol neu fferyllfeydd cymunedol—ein dwy brif system gyflenwi ar gyfer y pigiad rhag y ffliw i oedolion a phobl ifanc—ac mae'n bwysig bod hynny'n parhau.
Ar y chwistrell drwynol i blant iau, yn y cyfnod cyn-ysgol ac mewn addysg gynnar, unwaith eto mae mwy o gyflenwadau ar gael i ni, ac mae hynny'n cael ei gyflwyno ym mhob bwrdd iechyd wrth inni siarad. Felly, dros yr wythnosau nesaf—. Cawsom lythyr ar fy aelwyd fy hun yn gofyn am ein cydsyniad i'n plentyn oedran ysgol gynradd gael y chwistrell drwynol ar gyfer y ffliw yn ystod y tymor.
Mae'n bwysig ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn cyn dechrau mis Rhagfyr. Felly rydym am i gynifer o bobl gael eu brechu ag sy'n bosibl erbyn mis Tachwedd, os oes modd o gwbl, oherwydd mae'r ffliw'n tueddu i ledaenu'n fwy eang, i fwy o niferoedd, o fis Rhagfyr ymlaen. Felly rwy'n hyderus y bydd y proffil uwch sydd i'r ymgyrch hon eleni yn arwain at alw cyson o gryf am y brechlyn, ac os gallwn gael y lefel uchel honno o frechu ymhlith ein categorïau sy'n wynebu fwyaf o risg, byddwn yn cyflwyno ymgyrch arall ar gyfer pobl dros 65 oed a rhai dros 50 oed wedyn.
Ond mae wedi bod yn ddechrau da hyd yma ac rwy'n credu o ddifrif ein bod wedi gweld proffil llawer uwch i'r ymgyrch brechu rhag y ffliw. Fel arfer gwelir cyfnod o ddiddordeb am gyfnod byr o wythnosau ac yna mae'n tueddu i leihau, ond gyda bygythiadau ychwanegol coronafeirws, rwy'n credu y gwelwn fwy a mwy o bobl yn awyddus i fanteisio ar y cynnig.
Weinidog, mae'r cynnydd yn y galw i'w groesawu'n fawr iawn, fel y mae ymestyn y meini prawf cymhwysedd, ond yn anffodus, mae gennyf bobl yn fy etholaeth sydd wedi cael clywed na allant drefnu apwyntiad i gael pigiad rhag y ffliw yn eu meddygfeydd am fis arall, sy'n amlwg yn gwbl annerbyniol, yn enwedig i'r rheini yn y categorïau agored i niwed rydych eisoes wedi cyfeirio atynt. Ac wrth gwrs, nid dim ond y brechlyn ffliw y mae pobl am ei gael; ceir brechlyn niwmococol hefyd i ddiogelu pobl rhag niwmonia, ac rwy'n ymwybodol fod yna brinder o'r brechlyn hwnnw ledled Cymru a rhannau eraill o'r DU ar hyn o bryd. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod digon o gapasiti yn y system i allu diwallu'r galw am frechiad i bawb sydd ei angen?
Mae'r ddarpariaeth yn gymysg. Felly mae Llywodraeth y DU fel arfer yn caffael cyflenwadau o'r brechlyn ffliw ar gyfer y DU gyfan, a dyna lle rydym wedi cytuno i gael ymarfer caffael mwy eang yn y DU, ac mae amryw o bractisau meddygon teulu hefyd yn caffael eu brechlyn eu hunain. Rydym yn ymwybodol o heriau yn y cyflenwad a phroblemau yn y tymor byr yw'r rheini yn ôl ein dealltwriaeth ni. Felly, er enghraifft, mae un o'r prif weithgynhyrchwyr wedi penderfynu rhyddhau'r brechlyn ffliw fesul cam eleni, a dyna pam y bydd rhai fferyllfeydd cymunedol a rhai practisau'n profi oedi ac yn mynd ati i ddarparu'r brechlyn fesul cam.
O ran yr hyn sy'n dderbyniol neu'n annerbyniol, rwy'n credu ei bod yn wir, fel y dywedais, oherwydd bod lledaeniad y ffliw yn tueddu i ddigwydd yn ddiweddarach yn y gaeaf, drwy fis Rhagfyr, y pwynt pwysig yw defnyddio mis Medi, mis Hydref a mis Tachwedd i gael cynifer o bobl â phosibl wedi'u brechu er mwyn darparu lefel o ddiogelwch cyn i'r tymor ffliw gyrraedd ei anterth. Byddwn yn parhau i weithio gyda meddygon teulu a fferylliaeth gymunedol. A byddwn yn dweud, os oes heriau gwirioneddol yn y cyflenwad, yn hytrach na bod y cyflenwad yn cael ei ryddhau fesul cam, oherwydd mae'r ddau'n wahanol, fel bob amser byddwn yn parhau i weithio ar hynny mewn ffordd adeiladol ledled y DU. Mae'n un o'r meysydd lle mae gan bob un o'r pedair Llywodraeth, waeth pwy yw'r arweinwyr gwleidyddol, ffordd aeddfed ac effeithiol iawn o weithio gyda'i gilydd yn fy marn i.
Teimlaf fod cwestiwn Joyce Watson yn eithriadol o bwysig, yn enwedig yng ngoleuni'r argyfwng COVID, lle mae ffigurau'n dangos bod y nifer sy'n manteisio ar frechlynnau ffliw yn llawer llai ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed. Efallai mai'r rheswm am hyn yw bod pobl yn ofni mynychu meddygfeydd—rhywbeth a allai ddeillio o amharodrwydd meddygon i ymgysylltu â phawb heblaw pobl sy'n ddifrifol wael. Mae'r nifer isel sy'n manteisio ar y brechlyn yn peri pryder arbennig o gofio bod y ffliw wedi lladd 10 gwaith cymaint o bobl â COVID yn ystod y 14 wythnos diwethaf. A yw hyn yn rhan o'r ystadegau a fyddai'n annog rhai gwyddonwyr i ddweud y gallai'r cyfyngiadau ladd 75,000 o bobl? Weinidog, o gofio'r effeithiau dinistriol y mae cyfyngiadau symud yn eu cael ar gymdeithas yn gyffredinol, a allwch chi sicrhau pobl Cymru mai dim ond ar ôl cael yr holl gyngor gwyddonol sydd ar gael y bydd y cyfyngiadau'n digwydd ac y byddant yn dod i ben cyn gynted ag y ceir data nad yw'n cefnogi'r cyfyngiadau?
Ofnaf fod llawer iawn o gamddealltwriaeth yn rhan gyntaf y cwestiwn hwnnw. Mae cwestiwn Joyce Watson yn bwysig iawn oherwydd y risgiau ychwanegol y gwyddom eu bod yn dod, nid yn unig mewn tymor ffliw arferol, lle mae 8,000 i 10,000 o bobl ledled y DU, fel y dywedais, yn colli eu bywydau o ganlyniad i'r ffliw a'i effeithiau bob blwyddyn, ond mewn gwirionedd rydym mewn sefyllfa lle rydym eisoes yn gweld mwy o bobl yn manteisio ar y brechlyn. Nid yw pobl yn amharod i gael y brechlyn ffliw eleni—i'r gwrthwyneb. Mae pobl yn awyddus, nid yn unig yng Nghymru, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf o rannu gwybodaeth rhwng y pedair gwlad, mae pobl ym mhob un o bedair gwlad y DU yn awyddus i fanteisio ar y brechlyn ffliw ac am ei gael yn gynnar, sy'n newyddion da i bob un ohonom.
O ran y cyfyngiadau a roddwyd ar waith, y mesurau lleol presennol sydd gennym ac yn wir y cyfyngiadau symud llawnach a gyflwynwyd ym mis Mawrth, cânt eu cyflwyno'n unig ar sail y wybodaeth sydd ar gael i ni: ar sail y wybodaeth feddygol a gwyddonol am ledaeniad y feirws, ar ei effaith a'i effaith debygol os na chaiff mesurau eu cymryd i atal ei ledaeniad. Ni fyddwn ond yn cyflwyno'r mesurau hyn lle ceir sylfaen dystiolaeth i'w cefnogi a bydd yn lleihau niwed coronafeirws, a byddwn yn eu codi pan fydd y dystiolaeth yno nad ydynt bellach yn ymyrraeth gymesur yn y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau.
Rydym yn gweithredu nawr i osgoi'r math o niwed a welsom yn y don gyntaf o'r coronafeirws. Nid wyf am aros nes bydd ein hysbytai'n llawn a minnau'n gorfod adrodd ar ffigurau marwolaethau sy'n sylweddol uwch bob dydd cyn inni fod yn barod i weithredu. Mae gweithredu yn awr yn osgoi gosod cyfyngiadau hyd yn oed yn fwy llym ar y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau, ac yn osgoi niwed mwy sylweddol eto i deuluoedd a chymunedau ledled y wlad.