1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Hydref 2020.
5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymestyn ac ehangu'r cynllun cadw swyddi ar gyfer ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol? OQ55770
Llywydd, diolchaf i Alun Davies am hynna. Cafodd manteision a chyfyngiadau cymorth Llywodraeth y DU i weithwyr a gafodd eu heffeithio gan effaith coronafeirws eu trafod yn helaeth rhwng pedair gwlad y DU yng nghyfarfod diwethaf COBRA. Ers hynny, fel y mae'r Aelodau wedi clywed, rwyf i wedi llythyru â Changhellor y Trysorlys ar y mater hwn.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Wrth gwrs, mae'r cwestiwn yn rhagflaenu'r cyhoeddiad ddoe am y dull sy'n cael ei fabwysiadu dros yr wythnosau nesaf. Rwy'n siŵr eich bod chi, fel finnau, yn siomedig nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dod i'r adwy ac yn rhoi cymorth di-dor i bobl sy'n cael eu heffeithio gan hynny. Ond byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, Prif Weinidog, pe gallech chi amlinellu i ni y prynhawn yma sut yr ydych chi'n gweld y cymorth i weithwyr ac i fusnesau yn ystod y pythefnos o gyfyngiadau symud cenedlaethol, a sut ydych chi'n gweld y gwahanol gynlluniau yn asio â'i gilydd i sicrhau bod gennym ni gymorth di-dor i bobl drwy gydol y cyfnod hwn a sut ydych chi'n gweld unrhyw fylchau yn y cymorth hwnnw yn cael sylw wrth i ni symud ymlaen.
Llywydd, hoffwn ddiolch i Alun Davies am y cwestiwn yna. Ailadroddodd y gair 'di-dor' yn ei gwestiwn atodol, a dyna'r gair yr hoffwn ganolbwyntio arno yn yr ateb hwn. Felly, yn y cymorth y byddwn ni'n ei ddarparu drwy ein £294 miliwn, bydd rhan fawr o hynny yn cael ei ddarparu yn awtomatig i fusnesau yng Nghymru. Felly, ni fydd angen iddyn nhw wneud cais amdano; bydd yn dod drwy'r mecanweithiau a ddatblygwyd gennym ni gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol yn gynharach yn y pandemig: £1,000 i bob busnes â gwerth trethadwy o lai na £12,000; £5,000 i fusnesau â gwerth trethadwy dros £12,000 a byddan nhw'n cael hwnnw yn awtomatig—yn ddi-dor, i ddefnyddio'r term a ddefnyddiodd Alun Davies.
Fy mhroblem gydag ateb y Canghellor i'm llythyr yw fy mod i'n gofyn am rywbeth tebyg o ran y cymorth y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu, ac rwyf i wedi ceisio, pryd bynnag yr wyf i wedi cael y cyfle, cydnabod gwerth y cymorth y mae Llywodraeth y DU wedi ei roi i weithwyr y mae coronafeirws wedi effeithio arnyn nhw. Y cwbl yr oeddwn i ei eisiau oedd cael un cynllun cymorth yng Nghymru, yn hytrach na bod busnesau yn gorfod gwneud cais ddwywaith am gymorth: unwaith hyd at 30 Hydref, a gwahanol gynllun y tu hwnt i hynny. Ac fel y dywedais, cynigiais—roeddwn i'n meddwl—ffordd syml iawn i'r Canghellor helpu busnesau yng Nghymru fel bod y cymorth yr oedden nhw'n ei gael gan Lywodraeth y DU mor ddi-dor â'r cymorth yr ydym ni eisiau ei gynnig iddyn nhw drwy Lywodraeth Cymru. Mae'n siomedig na allai'r Canghellor ddod o hyd i ffordd syml o ganiatáu i'r cynllun y bydd yn ei gyflwyno ar 1 Tachwedd fod yn gymwys yma yng Nghymru wythnos yn gynharach na hynny. Rwyf i wedi cynnig gwahanol ateb iddo heddiw—nid cystal â hynny—ond byddai'n helpu i ddatrys rhai o'r anawsterau y bydd busnesau yn eu hwynebu fel arall a byddai'n mynd ran o'r ffordd o leiaf i ateb yr alwad y mae Alun Davies wedi ei gwneud am y cymorth di-dor y mae busnesau yng Nghymru ei angen.