1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Hydref 2020.
3. Pa gamau a gymerir i atal Bil marchnad fewnol y DU rhag cyfyngu ar ymdrechion Llywodraeth Cymru i drawsnewid llesiant pobl yng Nghymru? OQ55769
Llywydd, diolchaf i Jenny Rathbone am hynna. Rydym ni wedi cyhoeddi cyfres o welliannau enghreifftiol i ddangos sut i ddiogelu marchnad fewnol y DU heb y cyfyngiadau diangen ar gymhwysedd datganoledig y byddai'r Bil hwn yn eu cyflwyno. Byddwn yn gweithio'n ddiwyd i gael cefnogaeth drawsbleidiol yn Nhŷ'r Arglwyddi ac i berswadio Llywodraeth y DU i ailfeddwl.
Rwy'n cytuno a geiriau'r Farwnes Ilora Finlay, Aelod trawsbleidiol o Dŷ'r Arglwyddi a chlinigydd blaenllaw iawn, y byddai'r Bil marchnad fewnol yn caniatáu i'n gwlad gael ei llenwi â chyw iâr clorinedig a bwyd amhur arall wedi'i weithgynhyrchu yn yr Unol Daleithiau, ac mae hynny'n rysáit ar gyfer gordewdra a bywydau byrrach. Ond, ar ôl cael gwybod na fyddem ni'n cael ceiniog yn llai i Gymru pe byddem ni'n pleidleisio dros adael yr UE, a fyddai'r Bil hwn hefyd yn galluogi Llywodraeth y DU i ddargyfeirio'r arian yr oedd Cymru yn ei gael yn flaenorol o gronfeydd strwythurol yr UE ar gyfer prifysgolion, ar gyfer busnesau a chryfhau cymunedau drwy ein sector gwirfoddol, er mwyn ei wario ar rywbeth arall yn gyfan gwbl, gan amddifadu Cymru o gronfeydd buddsoddi hanfodol? Beth sydd i atal y gronfa ffyniant gyffredin fel y'i gelwir rhag dod yn haelioni pellach i Serco a'r Boston Consulting Group, yr athrylithoedd hynny sy'n rhedeg y system profi ac olrhain yn Lloegr?
Wel, Llywydd, mae gen i ofn mai'r ateb trist yw nad oes dim i atal hynny rhag digwydd. Yn wir, mae'r Bil hwn yn agor y drws i hynny yn union. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Farwnes Finlay—fel y dywedodd Jenny Rathbone, aelod trawsfeinciol wirioneddol nodedig yn Nhŷ'r Arglwyddi—am ei chymorth i ni i gael ein gwelliannau, gwelliannau a gefnogir gan arglwyddi Plaid Cymru, gan arglwyddi'r Democratiaid Rhyddfrydol, gan arglwyddi trawsfeinciol ac eraill yn Nhŷ'r Arglwyddi—i wneud yn siŵr bod y gwelliannau hynny yn cael eu gosod ar gyfer dadl. Y pwyntiau y mae'r Farwnes Finlay yn eu gwneud yw'r rhai y mae Jenny Rathbone wedi eu hadleisio yma. Mae hwn yn Fil sy'n golygu na allai'r Senedd hon atal bwyd rhag cael ei werthu yng Nghymru sy'n cael ei gynhyrchu i safon is na'r safonau y mae pobl yng Nghymru yn eu mwynhau heddiw; ni allai hyd yn oed ganiatáu i ni fynnu bod y bwyd hwnnw yn cael ei labelu fel y byddai dinasyddion Cymru yn gwybod beth sy'n cael ei gynnig iddyn nhw; ni allai atal y bwyd hwnnw rhag cael ei gynhyrchu i safonau iechyd anifeiliaid is; ni fyddai'n caniatáu i ni gyflawni ein cynllun i wahardd naw gwahanol fath o blastig untro; ni allai ganiatáu i ni ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid ysgolion, fel yr ydym ni heddiw, feddu ar lefel cymwysterau proffesiynol yr ydym ni'n ei gwneud yn ofynnol ar hyn o bryd yng Nghymru. Ac yn ychwanegol at hynny i gyd, mae'n cael gwared ar allu'r Senedd hon a'n partneriaid yng Nghymru i wneud y penderfyniadau ynghylch ble mae arian ar gyfer datblygu economaidd, sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth—ni fydd y penderfyniadau hynny yn cael eu gwneud yng Nghymru, lle dylen nhw gael eu gwneud, ond y tu ôl i ddesg yn Whitehall. Mae wir yn llanast o Fil. Rydym ni'n gweithio'n galed, ochr yn ochr ag eraill, i geisio datrys y problemau hynny, ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth yr ydym ni'n ei chael yn Nhŷ'r Arglwyddi, ar draws y sbectrwm cyfan yno, i wneud yn union hynny.
Prif Weinidog, yn amlwg, mewn llawer o ddadleuon yn Nhŷ'r Cyffredin, nodwyd na fydd yr un grym yn cael ei gymryd oddi wrth y Cynulliad oherwydd y Bil hwn—neu Senedd Cymru ddylwn i ei ddweud. Dywedasoch mewn ymateb cynharach i gwestiwn arall y byddai pwerau yn cael eu diddymu. A allech chi restru'r pwerau yr ydych chi'n credu y bydd y Bil hwn yn eu diddymu?
Wel, rwyf i newydd wneud, Llywydd. Nid wyf i'n gwybod a oedd yr Aelod yn gwrando o gwbl. Rwyf i newydd esbonio iddo bod y pwerau sydd gennym ni heddiw i atal bwyd rhag cael ei werthu yng Nghymru ar safon sy'n is na'r hyn yr ydym ni, y Senedd, wedi ei benderfynu sy'n briodol i Gymru—mae'r grym hwnnw yn cael ei gymryd oddi arnom ni. Mae'r grym sydd gennym ni i fynnu bod bwyd yn cael ei labelu yn briodol—mae'r grym hwnnw yn cael ei gymryd oddi arnom ni. Y grym i gynnal safonau iechyd anifeiliaid yng Nghymru—mae'r grym hwnnw yn cael ei gymryd oddi arnom ni. Y grym i wahardd plastigau untro yng Nghymru—mae'r grym hwnnw yn cael ei gymryd oddi arnom ni. Y grym i bennu safonau cymwysterau proffesiynol ar gyfer athrawon yn ein hysgolion a phenaethiaid—mae hwnnw yn cael ei gymryd oddi arnom ni. Faint mwy o bwerau y mae ef eisiau i mi eu rhestru?
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn ddiweddar y bydd yn ymuno â Chynghrair yr Economi Llesiant—cam yr ydym ni wedi ei groesawu—a bwriedir i hyn wneud llesiant yn ganolog i benderfyniadau economaidd. Gyda hyn mewn golwg, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud os bydd penderfyniadau gwario a wneir gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i'r Bil hwn yn cael effaith andwyol ar ddangosyddion llesiant yng Nghymru, fel iechyd, yr amgylchedd a chynaliadwyedd? A yw bod yn rhan o Gynghrair yr Economi Llesiant yn cymryd cam yn ôl os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu nad ydyn nhw'n hoffi'r hyn yr ydym ni'n ei wneud? Ac os yw hynny'n wir, Prif Weinidog, pa drafodaethau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda phartneriaid eraill yn y gynghrair i egluro y gall San Steffan sathru ar ein bwriadau da?
Diolchaf i Delyth Jewell am hynna, Llywydd. Mae Cymru yn aelod cymharol ddiweddar o Gynghrair yr Economi Llesiant. Rwy'n falch iawn o fod wedi cael gwahoddiad i wneud hynny. Wrth gwrs, mae Delyth Jewell yn iawn—mae'r Bil hwn yn cael effaith andwyol ar aelodau eraill o'r gynghrair hefyd. Mae ein hymdrechion ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar droi'r Bil yn ôl, yn hytrach nag ymdrin â'i ganlyniadau andwyol, oherwydd dyna'r ffordd well o ddatrys y broblem hon—i argyhoeddi Llywodraeth y DU, drwy'r camau y byddwn ni'n eu cymryd, gan weithio gydag eraill, i beidio â gorfodi'r niwed hwnnw arnom ni yn y lle cyntaf. Oherwydd bydd y niwed hwnnw yn cael ei deimlo nid yn unig yn uniongyrchol yng Nghymru o ran y pethau y byddem ni eisiau eu gwneud, ond bydd yn effeithio ar ein gallu i weithio gydag eraill i hyrwyddo'r achosion syml ond blaengar hynny sydd wedi gwneud cymaint i amddiffyn pobl yma yng Nghymru—i'w hamddiffyn rhag bwyd amhur, i ddiogelu safonau iechyd anifeiliaid, i hyrwyddo agenda wirioneddol amgylcheddol yma yng Nghymru. Nid ydym ni eisiau gweld hynny, nid yw pobl yng Nghymru eisiau gweld hynny, a byddwn yn gweithio gydag eraill, fel y dywedais, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y gynghrair hefyd, i barhau i ddadlau'r achos hwnnw.