1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 21 Hydref 2020.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau y mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn effeithio arnynt? OQ55763
Mewn ymateb i'r cyfnod atal byr sydd ar fin digwydd, ac yn unol â'n hymrwymiad i ddarparu cymorth pellach, rydym wedi creu cam 3 estynedig o'r gronfa cadernid economaidd i Gymru'n unig, gyda bron i £300 miliwn i gefnogi busnesau y mae'r cyfnod atal byr yn effeithio arnynt a chyfyngiadau lleol blaenorol.
Weinidog, mae pobl ledled Cymru, ac yn sicr yn fy etholaeth ym Mlaenau Gwent, yn ddiolchgar iawn am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gefnogi busnesau drwy gydol y cyfnod hwn. Rwy'n gwybod bod cannoedd o fusnesau yn fy etholaeth i wedi cael cymorth a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, a chredaf fod y pecyn mwyaf o gymorth busnes yn unman yn y DU yn rhywbeth sydd eisoes wedi diogelu llawer o swyddi. Ond fel y nodwyd eisoes gan ein cyd-Aelod Huw Irranca-Davies, mae rhai o'r busnesau lleiaf yn enwedig yn syrthio drwy rai o'r bylchau sydd ar gael. Rwy'n meddwl am yrwyr tacsi, er enghraifft, ac rwy'n meddwl am bobl sy'n gweithio fel masnachwyr er mwyn eu cefnogi hwy a'u teuluoedd nad ydynt yn gweithio o fewn strwythur corfforaethol ffurfiol, os mynnwch. Weinidog, a yw'n bosibl sicrhau bod yr arian gennym i gefnogi'r bobl hyn sy'n anadl einioes i economi leol?
Fel rhan o'n pecyn cymorth gwerth £300 miliwn, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, rydym yn sicrhau bod elfen ddewisol yno i awdurdodau lleol ei rhannu i fusnesau yn eu hardal, ac er mwyn gwneud hynny, rydym yn meddwl yn arbennig am y busnesau nad oes ganddynt safle, fel y mae Alun Davies yn dweud, felly nid ydynt yn ddarostyngedig i ardrethi annomestig, er enghraifft, ac felly maent yn colli'r cyllid grant awtomatig y bydd pob busnes sy'n cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn ei gael, ond serch hynny maent yn chwarae rhan bwysig yn ein heconomïau lleol ac maent yn swyddi sy'n aml yn arbennig o agored i niwed. Felly, rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu darparu'r elfen ddewisol honno o gyllid gyda'r cynllun hwn, ac rydym wrthi'n gweithio drwy'r canllawiau terfynol a'r mecanwaith y byddwn yn ei ddefnyddio i ddarparu'r cyllid hwnnw i awdurdodau lleol, ond mae cynnydd yn gyflym iawn ar hynny, felly dylem allu dweud rhagor yn fuan iawn.
Weinidog, mae busnesau yng Nghonwy a Sir Ddinbych ar eu gliniau'n llythrennol, ac mae llawer o swyddi sy'n dibynnu ar y busnesau hynny bellach yn ei chael hi'n anodd dal eu pennau uwchben y dŵr. Mae bron i dair wythnos wedi mynd heibio ers i chi roi Conwy a Sir Ddinbych, ynghyd â rhannau eraill o ogledd-ddwyrain Cymru, dan gyfyngiadau lleol. Mae hynny'n golygu eu bod eisoes wedi dioddef yn economaidd am dair wythnos yn hwy na'r hyn a achosir yn y rhannau hyn o Gymru o ganlyniad i'r cyfyngiadau ledled Cymru a fydd yn dechrau ddydd Gwener, ac eto, fel y nodwyd eisoes, ceir busnesau nad ydynt wedi cael unrhyw gymorth ychwanegol i adlewyrchu'r cyfnod hwnnw o gyfyngiadau lleol. Rwyf wedi eich clywed yn cwyno am yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Rydych wedi cael gwerth £4.4 biliwn o adnoddau at eich defnydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth y DU. Pam na allwch ganolbwyntio mwy o gymorth ar gyfer y lleoedd nad ydynt eto wedi bod yn gymwys i gael adnoddau ychwanegol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, fel rhan o'r pecyn rydych wedi'i gyflwyno gyda Gweinidog yr economi yr wythnos hon? Ac a allwch sicrhau busnesau yng Nghonwy a Sir Ddinbych y byddant hwy ar flaen y ciw am gymorth oherwydd y tair wythnos o boen ychwanegol y maent wedi'i ddioddef?
Wel, fel y mae Alun Davies newydd gydnabod yn ei gyfraniad, mae gan fusnesau ledled Cymru fynediad at y pecyn mwyaf hael o gymorth busnes yn unrhyw le yn y DU. A chredaf fod hynny'n adlewyrchiad o'r flaenoriaeth rydym wedi'i rhoi i gefnogi busnesau drwy'r addasiadau a wnaethom i gyllidebau Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â'r cyllid canlyniadol ychwanegol a gawsom gan Lywodraeth y DU. Ac o ganlyniad i'r penderfyniadau a wnaethom, yng Nghonwy yn unig dyfarnwyd cyfanswm o £8 miliwn o gyllid i 461 o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig, ac mae 83 o grantiau dechrau busnes wedi'u dyfarnu i fusnesau yng Nghonwy hefyd, sef cyfanswm o £207,500. A thrwy grant ardrethi busnes annomestig COVID-19, cafodd cyfanswm o 3,311 o ddyfarniadau eu prosesu i fusnesau Conwy, sef cyfanswm o bron i £40 miliwn. Ni fyddai llawer iawn o'r arian hwn wedi bod yn bosibl oni bai am yr ymarfer blaenoriaethu a wnaethom ar draws y Llywodraeth, a ryddhaodd £0.5 biliwn o gymorth ychwanegol er mwyn i ni ariannu ein cronfa cadernid economaidd. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn mynd y tu hwnt i'r hyn rydych yn ei weld gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'n cymorth i fusnesau.
Yn ystod y cyfyngiadau symud ledled y DU yn gynharach yn y flwyddyn daeth yn amlwg nad oedd rhai pobl yn cael eu diogelu gan y cynllun ffyrlo. Un enghraifft yw Aled o Ystrad Mynach yn fy rhanbarth. Sefydlodd fusnes flwyddyn yn ôl, a olygai nad oedd yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig a oedd yn mynnu bod ffurflenni treth dwy flynedd ariannol ar gael er mwyn gallu ei dderbyn, ac nid oedd ei fusnes yn gymwys ychwaith ar gyfer cynllun grantiau cychwyn Llywodraeth Cymru. Mae ei fusnes wedi colli dros £1,000 o enillion. Gan ein bod yn dechrau ar gyfnod atal byr ddydd Gwener, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi na fydd pobl hunangyflogedig yn sefyllfa Aled yn syrthio drwy'r craciau eto? A gaf fi ofyn i chi hefyd, Weinidog, a fyddech yn ystyried yr alwad gan dasglu llawrydd Cymru, sy'n cynrychioli buddiannau gweithwyr llawrydd sy'n gweithio yn y diwydiant perfformio, i gynyddu'r cyllid sydd ar gael? Maent yn dweud bod gormod o geisiadau am y cynllun presennol, gyda llawer yn methu cael unrhyw gymorth. Felly, hoffwn glywed a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu helpu ymhellach.
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, a hefyd am nodi'r amgylchiadau penodol y mae Aled yn eu hwynebu. Yn amlwg, nid wyf yn gwybod beth yw'r amgylchiadau llawn sy'n gefndir i'w sefyllfa, ond fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn blaenorol, mae'n bwysig iawn ein bod, y tro hwn, wedi ychwanegu'r elfen ddewisol i awdurdodau lleol, nad yw wedi bod yno o'r blaen. A hynny i gydnabod yr achosion a gyflwynwyd i ni, fel achos Aled rydych wedi sôn amdano, sydd wedi syrthio rhwng yr holl gynigion gwahanol o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Felly, rydym yn ceisio sicrhau bod mecanwaith ychwanegol ar waith yn awr i awdurdodau lleol allu darparu cymorth i fusnesau'n lleol. Ac fel y dywedais, rydym yn gweithio drwy'r manylion terfynol ar hynny, gyda'r bwriad o roi rhywfaint o arweiniad i awdurdodau lleol.
Weinidog, yn anffodus mae gormod o lawer o fusnesau'n syrthio drwy'r craciau yn y cymorth a gynigir, ac yn sicr nid yw'r gefnogaeth sydd ar gael yn gwneud iawn am yr effeithiau hirdymor y mae gwahanol gyfyngiadau wedi'u cael. Nid yw busnesau'n gwybod a fyddant ar agor neu ar gau o un wythnos i'r llall, ac nid yw llawer o ficrofusnesau'n cael unrhyw gymorth o gwbl am nad oes ganddynt gyfrifon am fwy nag un flwyddyn. Un enghraifft: cysylltodd fy etholwr â mi ynghylch dyfodol ei salon harddwch am nad yw'n gymwys i gael cymorth. Nid oes ganddi gyfrifon llawn oherwydd absenoldeb mamolaeth. Weinidog, pa gamau a gymerwch i sicrhau bod pob busnes yng Nghymru y mae mesurau diogelwch COVID yn effeithio arnynt yn cael cymorth ariannol, fel fy etholwr drwy ei chyfnod mamolaeth? Diolch.
Diolch am ddarparu enghraifft arall o fusnes nad yw wedi gallu cael cyllid hyd yma. Yn amlwg, nid wyf am roi'r argraff y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi pob busnes yng Nghymru, oherwydd nid yw'r cyllid sydd gennym yn ddigon ar gyfer hynny. Felly, rwyf am fod yn realistig, ond ar yr un pryd, rwyf am adlewyrchu'r ffaith ein bod wedi rhoi ystyriaeth drylwyr i'r materion a gyflwynwyd gennych chi ac eraill mewn perthynas ag unigolion sy'n rhedeg busnesau sydd wedi syrthio drwy'r bylchau yn y cymorth hyd yma. A dyna pam y mae'r elfen ddewisol hon mor bwysig, a pham ei bod yn bwysig ein bod yn cael y cyngor a'r arweiniad i awdurdodau lleol yn iawn er mwyn eu galluogi i gefnogi'r busnesau sy'n aml yn bwysig iawn yn lleol.