1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 4 Tachwedd 2020.
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y bobl â COVID-19 mewn ysbytai yng Nghymru? OQ55796
Mae nifer y cleifion COVID-19 mewn ysbytai yn parhau i gynyddu yma yng Nghymru. Ar 3 Tachwedd, nifer y cleifion ag achosion sy'n gysylltiedig â COVID mewn gwelyau ysbyty oedd 1,344. Mae hynny 21 y cant yn uwch na'r un diwrnod yr wythnos diwethaf. Dyma'r nifer uchaf o gleifion ag achosion sy'n gysylltiedig â COVID mewn gwelyau ers 25 Ebrill, ac rydym yn agosáu at uchafbwynt mis Ebrill o ran defnydd gwelyau.
Diolch, Weinidog. Ddoe, rhoddodd Andrew Goodall rybudd llwm fod disgwyl i’r galw am welyau gofal critigol i bobl â'r coronafeirws gynyddu dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf. Sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer y sefyllfa hon, ac yn hollbwysig, pa effaith ganlyniadol y gallai hyn ei chael ar feysydd gwasanaeth eraill yn ein hysbytai yng Nghymru?
Credaf fod hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, unwaith eto, i’n hatgoffa ni yn y Senedd, ond hefyd y cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu, nad yw'r effaith yn ymwneud â niwed yn sgil COVID yn unig. Y rheswm pam y gwnaethom gyflwyno'r cyfnod atal byr oedd i atal y cynnydd mewn derbyniadau a'r cynnydd mewn niwed rydym yn ei weld ar hyn o bryd, a’r hyn roeddem yn meddwl y byddem yn ei weld pan wnaethom gyflwyno'r cyfnod atal byr. Ac mae hynny oherwydd, pan welwch y cyfraddau heintio’n cynyddu, mae bwlch rhwng yr heintiau hynny a phobl yn mynd i ysbytai. Dyma pam rwy’n bwriadu cyhoeddi'r data ar gyfraddau heintio ymhlith pobl dros 60 oed hefyd—mae hwnnw'n ddangosydd hyd yn oed yn fwy dibynadwy o’r niwed rydym yn debygol o'i weld mewn ysbytai, a'r niwed y byddwn yn ei weld yn y pen draw yn y ffigurau marwolaethau hefyd mae arnaf ofn.
Y capasiti gofal critigol—mae oddeutu un rhan o dair o'n gwelyau gofal critigol bellach yn cael eu defnyddio i drin cleifion COVID. Ac mae cleifion COVID yn treulio cyfnod hirach o amser yn y gwelyau gofal critigol hynny, felly nid rhif yn unig mohono, mae'n ffaith eu bod yn debygol o fod yno am fwy o amser, ac mae hynny'n effeithio ar ein gallu i ymgymryd â meysydd gwasanaeth eraill, oherwydd ar yr adeg hon o'r flwyddyn, rydym yn dod i arfer â'r ffaith y byddai gofal critigol fel arfer yn eithaf llawn oherwydd ein bod yn gweld mwy o bobl sy'n ddifrifol wael ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Ac fel y dywedais yn gynharach, bydd yn amharu ar ein gallu i drin cleifion nad ydynt yn dioddef o COVID.
Er ein bod yn agor ein hysbytai maes ar hyn o bryd, y newyddion cadarnhaol fodd bynnag yw ein bod yn gweld pobl yn llifo i mewn ac allan ohonynt. Ar hyn o bryd, mae oddeutu tri dwsin o bobl yn ysbyty maes Cwm Taf, Ysbyty’r Seren. Mae pobl yn mynd a dod o’r fan honno, a hoffwn dalu teyrnged i'r holl bobl sy'n trin pobl yn ein hysbytai prif ffrwd ac yn ein hysbytai maes. Mae'r siwrnai adfer ac adsefydlu yn aml yn dibynnu ar staff nyrsio a gweithio ar y cyd â therapyddion. Ac efallai ei bod yn briodol cydnabod ar y pwynt hwn ei bod yn Wythnos Therapi Galwedigaethol, er mwyn inni gydnabod y gwaith y maent yn ei wneud i'n cadw'n fyw ac yn iach, ac yn arbennig ar y daith i adfer ac adsefydlu.
Weinidog, gwrandewais ar eich ateb i Vikki Howells gyda diddordeb. Byddwch yn gwybod fy mod wedi mynegi fy mhryderon ynghylch cywirdeb a dibynadwyedd casglu data ar dderbyniadau i ysbytai oherwydd COVID sawl gwaith yn barod eleni, gan ei bod yn hanfodol i'n dealltwriaeth o'r clefyd ein bod yn deall pwy sydd â COVID ac yna’n marw o COVID wedi hynny, a phwy, yn anffodus, sy’n marw pan nad yw COVID yn brif achos marwolaeth.
Tybed a ydych yn gwneud—. Fe siaradoch â Vikki Howells yn gynharach ynglŷn â gwneud dadansoddiad ynghylch y mathau o bobl a allai gael COVID, ond a ydych yn dadansoddi pobl sydd wedi cael eu derbyn i'r ysbyty ac a yw hynny'n digwydd oherwydd COVID, neu a oedd yn digwydd bod arnynt pan ddaethant i mewn oherwydd eu bod wedi torri eu coes er enghraifft, neu am eu bod yn cael triniaeth canser? Ac wedi hynny, pan fydd rhywun yn marw, a ydych wedi meddwl ymhellach am alwadau Coleg Brenhinol y Patholegwyr am gynnal mwy o archwiliadau post-mortem fel y gallwn wirio'r ffigurau rhwng y rheini sy'n marw o COVID a'r rheini sy'n marw gyda COVID, gan fod hynny'n ystumio’r data yn aruthrol?
Mae'r rheini'n bryderon teg, ac a bod yn deg, mae'r Aelod wedi gofyn cwestiynau droeon yn y cyswllt hwn. Felly, pan fyddwn yn sôn am gleifion ag achosion sy'n gysylltiedig â COVID, rydym yn sôn am yr holl bobl y cadarnhawyd bod ganddynt COVID yn ogystal ag achosion lle ceir amheuaeth bod ganddynt COVID. Y rheswm am hynny yw ei fod yn newid y ffordd y mae angen i'r gwasanaeth iechyd drin y bobl hynny pan fyddant yn gwybod eu bod yn achos posibl. Mae hynny'n cael effaith ar nifer y staff ac ar yr offer y mae pobl yn ei ddefnyddio neu beidio.
Rydym yn trin pawb sy'n cael eu derbyn—rydym yn profi pawb sy'n cael eu derbyn, yn hytrach, ac rydym yn darganfod bod lefelau'r achosion positif ymhlith pobl sy'n cael eu derbyn yn cyd-fynd yn daclus iawn â chyfraddau canlyniadau positif mewn trosglwyddiad cymunedol. Felly, rydym yn gweld rhai pobl a chanddynt symptomau yn dod i mewn ac yn cael eu derbyn gan ein bod yn meddwl y gallai fod ganddynt COVID, ac rydym hefyd yn gweld pobl eraill yn profi'n bositif drwy’r rhaglen brofi honno pan fyddant yn cael eu derbyn.
Rydym hefyd yn gwneud peth gwaith—ac unwaith eto, mae gwaith y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ddefnyddiol yn hyn o beth—ar ddeall nifer y bobl lle bo COVID yn brif achos, a'r rheini lle mae COVID yn achos isorweddol neu'n achos posibl. Rwy’n cydnabod yr awgrym gan Goleg Brenhinol y Patholegwyr a byddaf yn ymgynghori â'r prif swyddog meddygol yn ei gylch, nid o ran deall a yw'n rhywbeth defnyddiol i'w wneud, ond er mwyn deall gwir effaith hynny yn y ffordd y byddai ein staff yn mynd ati i ymgymryd â rhagor o weithgarwch o bosibl gan fod yn rhaid cydbwyso'r holl bethau hyn yn eu tro. Mae gennym syniad gwell o lawer bellach, diolch i raglen brofi fwy o lawer, o lefelau achosion yn y gymuned, y gallu i ddeall pwy sy'n dod i'n hysbytai a'n gallu i gynllunio a darparu gofal nad yw'n gysylltiedig â COVID hefyd. Yr hyn nad wyf yn dymuno’i wneud yw tanseilio ein dull o allu ymdrin â'r materion hynny drwy ymgymryd â maes gweithgarwch ychwanegol na fyddai'n sicrhau'r budd ehangach hwnnw, ac unwaith eto, mae'n enghraifft daclus arall o gydbwyso holl fuddion posibl unrhyw gamau gweithredu gyda'r niwed posibl.
Weinidog, ar ôl clywed yr hyn rydych wedi'i ddweud wrth eraill am ba mor anodd yw creu mannau sy'n rhydd o COVID neu ysbytai sy'n rhydd o COVID, rwyf wedi cael gohebiaeth yr wythnos hon gan etholwyr a oedd yn poeni am fynd i Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli i gael triniaethau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID gan eu bod yn poeni am y posibilrwydd o ddal COVID yno. Pa sicrwydd pellach y gallwch ei roi i'r cleifion hynny, gan weithio gyda'r bwrdd iechyd lleol, eu bod yn gallu cael y triniaethau hynny nad ydynt yn gysylltiedig â COVID mewn ffordd ddiogel? Oherwydd rwy’n cytuno’n gryf â'r hyn rydych wedi'i ddweud am ba mor bwysig yw hi fod pobl yn parhau i gael triniaethau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID ar hyn o bryd.
Credaf fod dau bwynt i'w gwneud. Y cyntaf yw bod ein gwasanaeth iechyd bellach mewn sefyllfa wahanol i lle'r oedd ym mis Mawrth a mis Ebrill. Bellach gallwn brofi pawb sy'n dod i mewn, ni waeth beth yw'r rheswm, a gwneir hynny'n gyson ar draws y gwasanaeth, felly gall pobl fod yn dawel eu meddwl fod y gwiriad ychwanegol hwnnw'n cael ei wneud, a bod hyn oll yn ymwneud â lleihau'r risgiau, y ffordd y mae'r ddarpariaeth o gyfarpar diogelu personol yn gweithio bellach. Mae'r holl bethau gwahanol hyn a'r ffordd rydym wedi trefnu ein gwasanaeth i gael parthau sy'n rhydd o COVID, yn ogystal â mannau COVID positif a mannau lle ceir amheuaeth o COVID, i geisio cael y rhaniad hwnnw rhwng cleifion, ac yn wir, y ffordd rydym yn gobeithio cael rhaniad yn y ffordd y mae grwpiau o staff yn gweithio hefyd—. Felly, mae'r holl fesurau hynny'n cael eu rhoi ar waith i geisio lleihau'r risg o niwed i unrhyw un a ddaw i mewn i un o ysbytai’r GIG, neu'n wir i ofal sylfaenol; mae gofal sylfaenol wedi parhau i fod yn hynod o brysur drwy gydol y pandemig hefyd.
Yr ail bwynt hollbwysig y byddwn yn ei wneud—ac mae'n mynd yn ôl at sylwadau a wnaed yn gynharach yn y cwestiynau hyn—yw y byddai naill ai roi stop ar neu beidio ag ymgymryd â gweithgarwch nad yw'n gysylltiedig â COVID yn peri niwed gwirioneddol. Yn hanner cyntaf y pandemig, gwelsom gwymp sylweddol yn nifer y derbyniadau brys i'n hadrannau brys, a hefyd, yn weladwy iawn i mi, yn ogystal â'r effaith ar ofal canser, gyda phobl yn optio allan o hynny, gwelsom ostyngiad sylweddol yn nifer y derbyniadau brys ar gyfer achosion o strôc. Nawr, nid oherwydd bod y cyhoedd wedi dod yn llawer iachach dros nos y digwyddodd hynny; deilliai o'r ffaith bod pobl yn poeni cymaint am fynd i mewn i un o ysbytai’r GIG fel eu bod yn optio allan, a byddai hynny wedi golygu canlyniadau gwaeth i'r bobl hynny, gan gynnwys marwolaethau y gellid bod wedi eu hosgoi o bosibl. Felly, mae'n bwysig iawn fod pobl yn deall bod y GIG yn agored i fusnes. Mae yno i'ch gwasanaethu a'ch amddiffyn, ac rydym yn cymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg—mor isel â phosibl—i amddiffyn pobl rhag niwed yn sgil COVID.