– Senedd Cymru am 7:31 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Felly, mae'r grŵp nesaf o welliannau yn ymwnued â chyd-bwyllgorau corfforedig a gofynion eraill. Gwelliant 19 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gyflwyno'r gwelliant a'r grŵp. Gweinidog.
Diolch, Llywydd. Technegol yw gwelliant 19 ac mae'n mewnosod diffiniad o 'ddogfennau' at ddibenion Rhan 5 y Bil. Mae gwelliannau 31 a 32 yn gysylltiedig â'r gwelliant hwn ac yn mireinio'r ddarpariaeth bresennol i ddarparu, wrth wneud rheoliadau, y caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau, cyd-bwyllgorau corfforedig ac yn y blaen ddarparu dogfennau yn ogystal â gwybodaeth.
Mae gwelliant 20 yn darparu mwy o eglurder ynghylch yr ystod o sefyllfaoedd lle y gellir defnyddio'r pwerau presennol yn adran 82 i wneud darpariaeth atodol. Mae gwelliant 21 yn ganlyniadol i'r gwelliant hwn ac mae'n dileu is-adran sydd wedi'i gwneud yn ddiangen.
Mae gwelliannau 22 i 30 yn darparu y gellir defnyddio pwerau presennol i wneud rheoliadau o dan y Rhan hon yn gysylltiedig â materion sy'n ymwneud â symud staff, eiddo, hawliau cysylltiedig ac yn y blaen hefyd os bydd swyddogaeth yn peidio â chael ei harfer gan gyd-bwyllgor corfforedig ac yn hytrach yn cael ei harfer gan berson arall.
Yn olaf, o ran gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn, mae gwelliant 76 yn dileu diwygiad canlyniadol i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, nad oes ei angen gan fod Deddf 2005, i bob pwrpas, wedi'i diddymu gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.
Gan droi at welliannau 123 a 124, sy'n ymwneud â'r swyddogaeth llesiant economaidd, bydd y swyddogaeth llesiant economaidd yn galluogi'r cyd-bwyllgorau corfforedig hynny y mae'r swyddogaeth wedi ei chaniatáu iddynt, mewn rheoliadau, i wneud unrhyw beth sy'n debygol yn eu barn nhw o hybu neu wella llesiant economaidd yr ardal. Mae gan brif gynghorau gyfoeth o brofiad o gyflawni swyddogaethau economaidd, gan gynnwys ar lefel ranbarthol, drwy, er enghraifft, y cytundebau dinas a'r cytundebau twf. Yn rhan o'r uchelgais a rennir i symleiddio trefniadau rhanbarthol a chyfochri swyddogaethau strategol allweddol ar lefel ranbarthol, rwy'n gobeithio y bydd rhanbarthau yn trosglwyddo eu trefniadau rhanbarthol presennol i'r cyd-bwyllgorau corfforedig ar ôl eu sefydlu. Nid yw'n fwriad i gennyf i ddechrau gorchymyn sut y mae llywodraeth leol yn cyflawni ei swyddogaethau economaidd drwy gyd-bwyllgorau corfforedig na thrwy unrhyw drefniant arall. Os bydd angen, mae'n ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforedig, o dan adran 85 y Bil, roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gennym ni yn gysylltiedig â'u gweithrediadau gan gynnwys eu swyddogaethau. Yn ogystal â hyn, bydd Gweinidogion Cymru hefyd yn gallu gosod cyfyngiadau ar y modd o arfer y swyddogaeth llesiant economaidd drwy reoliadau. Ar y sail hon, nid oes angen gwelliannau 123 a 124 ac nid wyf i'n eu cefnogi.
Er fy mod i'n cydnabod y bwriad y tu ôl i welliannau 132 a 134, rwy'n gofyn i'r Aelodau eu gwrthod. Mae'r Bil yn nodi'r fframwaith ar gyfer sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig. Bydd manylion sut y byddan nhw yn gweithredu, gan gynnwys materion fel y rhai a gwmpesir gan y gwelliannau hyn, yn cael eu nodi mewn rheoliadau. Fel yr wyf i wedi ei nodi yn yr ymgynghoriad ar y rheoliadau sefydlu drafft, a ddechreuodd yn gynnar ym mis Hydref, fy mwriad yw sicrhau bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig, pan fo'n bosibl, i'r un ddeddfwriaeth neu ddeddfwriaeth debyg ag a gymhwysir ar hyn o bryd i lywodraeth leol. Er enghraifft, drwy reoliadau, byddem yn ceisio cymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r dyletswyddau cyfranogiad y cyhoedd a gynhwysir yn Rhan 3 y Bil hwn. Bydd hyn yn darparu ar gyfer yr adroddiadau blynyddol a'r gofynion cyfranogiad y mae'r gwelliannau hyn yn eu ceisio.
Rwyf hefyd yn gwrthod gwelliannau 149 a 150 ar yr un sail. Bwriedir i gyd-bwyllgorau corfforedig fod yn ddarostyngedig i'r gyfundrefn perfformiad a llywodraethu a gynhwysir yn Rhan 6 y Bil, ynghyd â darpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a deddfwriaeth berthnasol arall sy'n ymwneud â llywodraethu ariannol. Bydd hyn yn rhoi'r sicrwydd a geisir gan y gwelliannau hyn ac yn sicrhau bod gan gyd-bwyllgorau corfforedig y trefniadau llywodraethu a rheoli ariannol priodol ar waith, fel y byddech yn ei ddisgwyl gan gorff cyhoeddus. Ar y sail hon, gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwelliannau 123, 124, 132, 13, 149 a 150. Diolch, Llywydd.
Wel, mae gwelliannau 123 a 124 yn ceisio mewnosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud a chyhoeddi canllawiau ar sut y dylai cyd-bwyllgor corfforedig gyflawni ei swyddogaeth llesiant economaidd. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio cryfhau'r trefniadau ar gyfer craffu ar gyd-bwyllgorau corfforedig er mwyn sicrhau atebolrwydd a thryloywder wrth iddyn nhw gyflawni eu swyddogaethau, yn ogystal â chynnwys pobl leol a sefydliadau lleol sydd wedi ei lleoli yn y gymuned yn y broses o wneud penderfyniadau. Yr agosaf y mae'r penderfyniadau hyn at bobl, y cymunedau a'r rhanbarthau, a'r pellaf o reolaeth ganolog, gorau oll fydd y canlyniad i'r bobl a'r cymunedau dan sylw.
Mae gwelliant 132 yn ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforedig gyhoeddi adroddiad blynyddol sydd i'w osod gerbron Senedd Cymru a'r cynghorau cyfansoddol sy'n rhan o'r cyd-bwyllgor corfforedig. Mae'n rhaid i'r adroddiad amlinellu nifer o bethau, gan gynnwys yr hyn y mae'r pwyllgor wedi ei gyflawni ar gyfer y maes lle mae'n arfer ei swyddogaethau, cynllun tymor canolig a hirdymor y pwyllgor ar gyfer sut y mae'n bwriadu arfer ei swyddogaethau a threfniadau'r pwyllgor o ran rheoli ei faterion ariannol. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio cryfhau'r trefniadau ar gyfer craffu ar gyd-bwyllgorau corfforedig, sicrhau atebolrwydd a thryloywder a chynnwys pobl leol a sefydliadau sydd wedi eu lleoli yn y gymuned.
Mae gwelliant 134 yn ceisio sicrhau bod pobl leol a sefydliadau lleol sydd wedi eu lleoli yn y gymuned yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau cyd-bwyllgorau corfforedig. Yn ystod Cyfnod 1, cododd rhanddeiliaid bryderon am y diffyg darpariaethau ar gyfer ymwneud yn lleol â chyd-bwyllgorau corfforedig. Er enghraifft, rhannodd Cartrefi Cymunedol Cymru bryderon ynghylch y ddarpariaeth gyfyngedig ar gyfer trefniadau atebolrwydd cyd-bwyllgorau corfforedig, sydd:
yn groes i ymrwymiad y Bil i wella mynediad at y broses o wneud penderfyniadau yn lleol a chael cymryd rhan yn hynny.
Mae'r gwelliant hwn felly yn ymgorffori egwyddorion cysylltiad a chyfranogaeth o fewn y Bil. Mae dulliau cysylltu yn cynnwys gweithio gyda phobl yn gynharach, helpu i nodi materion ac atebion posibl a'u cynorthwyo i barhau i gymryd rhan drwy gydol prosesau dylunio, gweithredu a gwerthuso. Yn ystod Cyfnod 2, dywedodd y Gweinidog na fyddai hi'n derbyn y gwelliant hwn, gan, fel y dywedodd:
mai'r rheoliadau fydd yn manylu ar sut y dylai cyd-bwyllgor corfforedig weithredu.'
Dywedodd:
Rwy'n credu felly ei bod yn fwy priodol i'r materion a godwyd gan y gwelliant gael eu hystyried yn rhan o'r gwaith o baratoi rheoliadau corfforaethol y cydbwyllgor.
Fodd bynnag, fel y dywedais yn ystod trafodion Cyfnod 2:
Rydym ni yn clywed llawer o iaith gadarnhaol erbyn hyn gan aelodau o bob plaid am faterion fel cyd-gynhyrchu, grymuso cymunedau, ymgysylltu â dinasyddion, ond mewn gwirionedd, mae'n brin ar lawr gwlad.
Felly, mae'r gwelliant hwn yn ceisio sicrhau bod egwyddorion cyd-gynhyrchu yn cael eu hymgorffori'n llawn ar wyneb y Bil er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforaethol gyflawni cyfranogiad pobl leol a sefydliadau cymunedol lleol.
Mae gwelliannau 149 a 150 wedi eu drafftio i adlewyrchu pryderon Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio sicrhau bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, sy'n bwysig i hyder y cyhoedd yn y modd y defnyddir arian cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud darpariaeth o'r fath drwy reoliadau yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae swyddfa'r archwilydd cyffredinol wedi datgan bod defnyddio'r dull hwnnw yn creu perygl o gymhlethdod a dryswch ac y byddai darparu ar gyfer y gofyniad hwn drwy'r Bil yn sicrhau bod darpariaethau archwilio llywodraeth leol yn cael eu cydgrynhoi mewn un lle i gynorthwyo dehongli a chynnal llyfr statud sydd wedi ei strwythuro'n dda. Unwaith eto, dyma'r cyrff y dylem ni fod yn cymryd arweiniad ganddyn nhw,ac nid cyflwyno arweiniad iddyn nhw, ar y materion penodol hyn. Diolch. Diolch.
Y Gweinidog i ymateb. Dim ymateb. Iawn. Fe symudwn ni'n syth at y bleidlais.
Gwelliant 19. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 19? [Gwrthwynebiad.]
Ie, gallaf weld gwrthwynebiad gan Gareth Bennett.
Felly, agor y bleidlais ar welliant 19. Cau'r bleidlais. O blaid 42, chwech yn ymatal, dau yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i gymeradwyo.
Gwelliant 120, yn enw Mark Isherwood.
Mae'n cael ei gyflwyno. Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 120. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi cael ei wrthod.
Gwelliant 121, yn enw Mark Isherwood.
Mae'n cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 121. Cau'r bleidlais. O blaid 21, tri yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi cael ei wrthod.
Gwelliant 122, yn enw Mark Isherwood.
Mae'n cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 122. Cau'r bleidlais. O blaid 21, tri yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 123, yn enw Mark Isherwood.
Mae'n cael ei gynnig. [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, ac felly, agor y bleidlais. Gwelliant 123. Cau'r bleidlais. O blaid 18, tri yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 123 wedi ei wrthod.
Gwelliant 124, yn enw Mark Isherwood.
Mae'n cael ei gyflwyno. Oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly agor y bleidlais ar welliant 124. Cau'r bleidlais. O blaid 18, tri yn ymatal, 30 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Gwelliant 165 yw'r gwelliant nesaf, yn enw Delyth Jewell.
Mae wedi'i gyflwyno. [Gwrthwynebiad.] Mae'n cael ei wrthwynebu. Felly, pleidlais ar welliant 165. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, 11 yn ymatal, 30 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 166 yn enw Delyth Jewell.
Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais ar welliant 166. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, 12 yn ymatal, 30 yn erbyn. Gwelliant 166 wedi ei wrthod.
Gwelliant 125—
Rwy'n cynnig.
—yn cael ei symud, yn enw Mark Isherwood. Oes gwrthwynebiad i 125? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 125. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Mark Isherwood, gwelliant 126—
Cynigiwyd.
—yn cael ei gyflwyno. [Gwrthwynebiad.] Ac yn cael ei wrthod. Ac felly, os derbynnir gwelliant 126, bydd gwelliant 167 yn methu. Pleidlais, felly, ar welliant 126. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, tri yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi methu.
Gwelliant 167, Delyth Jewell.
Yn cael ei gyflwyno. [Gwrthwynebiad.] Yn cael ei wrthwynebu. Felly, agor y bleidlais ar welliant 167. Cau'r bleidlais. O blaid 17, chwech yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 167 wedi ei wrthod.
Gwelliant 127, yn enw Mark Isherwood—
—yn cael ei gyflwyno. [Gwrthwynebiad.] Yn cael ei wrthwynebu. Ac felly agor y bleidlais ar welliant 127. Cau'r bleidlais. O blaid 18, pump yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 128, yn enw Mark Isherwood.
Mae wedi cael ei gyflwyno. [Gwrthwynebiad.] Mae'n cael ei wrthwynebu. Felly, agor y bleidlais ar welliant 128. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 128 wedi ei wrthod.
Gwelliant 129, yn enw Mark Isherwood.
Mae'n cael ei gyflwyno. [Gwrthwynebiad.] Ac yn cael ei wrthwynebu. Ac felly agor y bleidlais ar welliant 129. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 129 wedi ei wrthod.
Gwelliant 130, yn enw Mark Isherwood—
—yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 130. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 130 wedi ei wrthod.
Gwelliant 20, yn enw Julie James—
Cynnig.
—yn cael ei gyflwyno. Oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 20? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gareth Bennett yn gwrthwynebu. Felly, agor y bleidlais ar welliant 20. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 21 yn enw'r Gweinidog.
Cynigiwyd.
Oes gwrthwynebiad i welliant 21? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 21. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 21 wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 22 yn enw'r Gweinidog.
Cynigiwyd.
Oes gwrthwynebiad i welliant 22? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 22. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Gwelliant 22 wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 23 yn enw'r Gweinidog.
Cynigiwyd.
Wedi cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 23. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 23 wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 24 yn enw'r Gweinidog.
Cynigiwyd.
Oes gwrthwynebiad i welliant 24? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly agor y bleidlais ar welliant 24. Cau'r bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Gwelliant 24 wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 25 yn enw'r Gweinidog.
Cynigiwyd.
Oes gwrthwynebiad i welliant 25? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 25. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 26 yn enw'r Gweinidog.
Cynigiwyd.
Wedi cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 26? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 26. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 27 yn enw'r Gweinidog.
Cynigiwyd.
Oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 27. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Gwelliant 27 yn cael ei gymeradwyo.
Gwelliant 28 yn enw'r Gweinidog.
Cynigiwyd.
Oes rhywun yn gwrthwynebu gwelliant 28? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly pleidlais ar welliant 28. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei gario.
Gwelliant 29 yn enw'r Gweinidog.
Cynigiwyd.
Oes rhywun yn gwrthwynebu gwelliant 29? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 29. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Gwelliant wedi'i gario.
Gwelliant 30 yn enw'r Gweinidog.
Cynigiwyd.
Oes rhywun yn gwrthwynebu gwelliant 30? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 30. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Gwelliant 30 wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 131 yn enw Mark Isherwood.
Oes rhywun yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 131. Cau'r bleidlais. O blaid 19, chwech yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 131 wedi cwympo.
Gwelliant 31 yn enw'r Gweinidog.
Cynigiwyd.
Oes rhywun yn gwrthwynebu gwelliant 31? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 31. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae gwelliant 31 wedi'i gario.
Gwelliant 32, Gweinidog.
Cynigiwyd.
Oes unrhyw un yn gwrthwynebu gwelliant 32? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly agor y bleidlais ar welliant 32. Cau'r bleidlais. O blaid, 42, pedwar yn ymatal, pump yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 32 wedi'i wrthod. Na, mae'n ddrwg gyda fi—gwelliant 32 wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 132 yn enw Mark Isherwood nesaf.
Wedi cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gwelliant 132—agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, pedwar yn ymatal, 28 yn erbyn. Y gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 133, Mark Isherwood.
Wedi cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar 133. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 26 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 133 wedi'i wrthod.
Gwelliant 135 yn enw Mark Isherwood.
Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 135. Cau'r bleidlais. O blaid 17, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 134 yn enw Mark Isherwood.
Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 134? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 134.
Rwyf yn cau'r bleidlais.
O blaid 17, pump yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 134 wedi'i wrthod.
Y gwelliant nesaf, felly, yw gwelliant 135 yn enw Mark Isherwood. Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i 135? [Gwrthwynebiad.] Felly, agor y bleidlais ar welliant 135.
Fy mai i—[Torri ar draws.] Ie, doeddwn i ddim wedi dileu un oddi ar fy narn o bapur, felly rwyf i wedi drysu nawr, ond gwelliant 149 ddylai'r gwelliant fod, y dylwn i fod wedi'i alw.
Mae wedi ei gynnig ac mae gwrthwynebiad iddo. Felly, rwy'n galw pleidlais ar welliant 149.
Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant yna wedi'i wrthod.
Gwelliant 76 yn enw'r Gweinidog.
Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 76? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 76. Cau'r bleidlais. O blaid 43, saith yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae gwelliant 76 wedi'i dderbyn.
Gwelliant 150 yn enw Mark Isherwood—
—yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 150. Cau'r bleidlais. O blaid 19, pump yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 150 wedi'i wrthod.