– Senedd Cymru am 5:21 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Felly, mae'r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â safonau'r Gymraeg. Gwelliant 158 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Delyth Jewell i gyflwyno'r gwelliant hwnnw ac i siarad i'r gwelliannau yn y grŵp yma. Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser cael arwain y ddadl ar y grŵp yma a chynnig yn ffurfiol y pedwar gwelliant sydd yn y grŵp—y pedwar ohonynt wedi cyflwyno yn fy enw i ar ran Plaid Cymru.
Pedwar gwelliant sydd i gyd mewn dwy set, sef gwelliannau 158 a 159, a gwelliannau 165 a 166. Bwriad y set gyntaf hon yw dileu'r anomali yn y gyfraith sy'n golygu nad ydy swyddogion canlyniadau etholiadau, na swyddogion canlyniadau gweithredol, yn destun unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol yn ymwneud â'r Gymraeg, er bod eu gwaith yng ngolwg unrhyw berson cyffredin heb os yn rhan annatod o waith llywodraeth leol, sydd, wrth gwrs, yn destun disgwyliadau clir ar ddefnydd y Gymraeg o dan y safonau.
Bwriad yr ail set o welliannau hyn yw sicrhau y bydd unrhyw gyd-bwyllgorau corfforedig newydd fydd yn cael eu creu neu eu sefydlu yn agored i orfod cydymffurfio â safonau'r Gymraeg, so byddem ni'n gwneud yn siŵr eu bod nhw yn gorfod cydymffurfio o'r cychwyn cyntaf, ac y gall Comisiynydd y Gymraeg osod safonau arnynt. O'u derbyn, byddai'r gwelliannu yma yn ychwanegu swyddogion canlyniadau etholiadau, a'r cyd-bwyllgorau corfforedig arfaethedig, at yr Atodlenni ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac yn eu hychwanegi at y set fwyaf perthnasol o reoliadau yn yr achos yma, sef Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015, a basiwyd gan y Senedd eisoes ar gyfer cyrff llywodraeth leol yn ôl yn 2015. Byddai hynny wedyn yn caniatáu i'r comisiynydd wneud ei waith o osod y safonau mwyaf addas.
Mae'r gwelliannau wedi eu drafftio yn union yr un dull sydd wedi'i dderbyn gan y Llywodraeth eisoes fel ffordd gwbl briodol o ychwanegu cyrff at y safonau. Cefnogodd y Llywodraeth y dull hwn o fanteisio ar ddarn o ddeddfwriaeth gynradd fel cerbyd i gyflwyno safonau yn achos Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) a'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), gan arwain at ychwanegu yn gyntaf yr ombwdsmon a chorff llais y dinesydd at y safonau o ganlyniad i'r rheini. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi sôn sawl gwaith yn ystod y Senedd hon am y cyfyngiadau ar ei chapasiti deddfwriaethol sy'n ei hatal rhag cyflwyno mwy o safonau a chreu rhagor o hawliau i ddefnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr Cymraeg eu hiaith. Ond mae'r Llywodraeth yn dweud ei bod yn parhau yn uchelgais ganddi i weld mwy o gyrff yn dod yn destun safonau. Felly, mae cyfle ar blât i wneud hynny heddiw a dwi'n gobeithio fy mod i wedi gwneud cymwynas â chi fel Llywodraeth, drwy arbed tipyn o gapasiti'r Llywodraeth drwy gyflwyno'r safonau ar eich rhan. Edrychaf ymlaen at glywed y Gweinidog yn cadarnhau, felly, wrth ymateb i'r ddadl, y bydd y Llywodraeth yn gallu cefnogi'r gwelliannau hyn.
Mae'r angen i weithredu yn glir, ond peidiwch â chymryd fy ngair i am hynny—mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi sawl adroddiad ac wedi dweud wrth bwyllgorau'r Senedd yma ar sawl achlysur fod siaradwyr Cymraeg yn cael trafferth ceisio gwasanaethau syml, fel ffurflenni Cymraeg, yn y maes, a bod y Gymraeg yn aml yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg wrth gyhoeddi canlyniadau etholiadau. 'Annigonol' oedd y ddarpariaeth Gymraeg yn hyn o beth yn etholiadau'r Cynulliad 2016, yn ôl y comisiynydd ar y pryd. Dydy hi ddim yn gwneud dim synnwyr bod swyddogion canlyniadau etholiadau a swyddogion canlyniadau gweithredol, sydd, yn fwy aml na ddim, yn swyddogion awdurdodau lleol, yn defnyddio adnoddau awdurdodau lleol ac yn cael eu talu gan awdurdodau lleol, ond eu bod nhw ddim yn destun yr un dyletswyddau â'r awdurdod lleol hwnnw yn rhinwedd yr agwedd briodol hon o'u gwaith.
Mae'n bryder gan y comisiynydd hefyd, nifer y sefydliadau cenedlaethol o bwys newydd sydd wedi'u creu bod y Llywodraeth yn gosod safonau arnyn nhw am gryn amser. Mae rhai yn dal i aros i dderbyn sylw. Ni allwn ni ganiatáu i gydbwyllgorau corfforedig, o ystyried y rôl arwyddocaol y gallan nhw eu chwarae ym mywydau pobl Cymru, fod yn ychwanegiad diweddaraf at y rhestr hir o gyrff sydd wedi'u hanghofio. Awgrymodd y Gweinidog yn ystod Cyfnod 2 mai eu bwriad byddai defnyddio'r rheoliadau sy’n sefydlu pwyllgorau i osod gofynion o ran y Gymraeg arnyn nhw. Ond mae yna farc cwestiwn ynglŷn â gallu'r comisiynydd i osod a monitro safonau drwy’r dull hwnnw. Mae'r gwelliannau hyn yn ffordd fwy dymunol, clir a thaclus o gyflwyno'r nod hwnnw. Diolch.
Rwy'n cefnogi egwyddorion gwelliannau 158 a 159 yn llwyr, ac rwy'n cytuno bod angen gwaith pellach gyda'r gymuned etholiadol gyfan ynghylch sicrhau bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal drwy gydol y broses etholiadau.
Mae'r Bil eisoes yn cynnwys darpariaeth i wella hygyrchedd dogfennau etholiadol, gan gynnwys yn Gymraeg, ac, ar wahân, rwy'n cyflwyno rheoliadau i eithrio costau cyfieithu Cymraeg a Saesneg o derfynau gwariant ymgeiswyr. Fodd bynnag, mae'r hyn sy'n cael ei gynnig yn y gwelliant hwn yn rhan o ddarn llawer ehangach o waith sydd eisoes ar y gweill, sy'n ymwneud â'r Bil gweinyddu etholiadol technegol y bydd angen ei gyflwyno yn y Senedd nesaf. Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i drafod gyda swyddogion canlyniadau, Comisiynydd y Gymraeg a'r gymuned etholiadol i sicrhau bod profiad cyfan yr ymgeisydd a phleidleiswyr ar gyfer etholiadau datganoledig yr un fath yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rwyf eisiau sicrhau ein bod ni'n cael hyn yn gywir drwy roi'r amser i sicrhau bod yr holl faterion angenrheidiol yn cael eu hystyried cyn inni ddechrau gwneud darpariaeth ddeddfwriaethol. Yn y cyfamser, ar gyfer etholiadau 2021, gofynnaf i fy swyddogion godi'r mater yn ystod eu trafodaethau rheolaidd â'r gymuned etholiadol.
Rwyf hefyd yn cydnabod ac yn cytuno â'r bwriad y tu ôl i welliannau 165 a 166 o ran cyd-bwyllgorau corfforedig. Fodd bynnag, nid yw'r gwelliannau hyn yn angenrheidiol nac yn unol â'r dull sy'n cael ei ddefnyddio yn yr achos hwn. Mae'r Bil yn darparu'r fframwaith ar gyfer sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig; bydd y manylion sy'n cefnogi eu gweithredu yn cael eu nodi mewn rheoliadau. Amlinellir y dull hwn yn yr ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft sy'n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig, a gafodd eu lansio fis diwethaf.
Rwyf eisoes yn bwriadu sicrhau bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig, lle y bo'n briodol, i'r un rheolau a gweithdrefnau â phrif gynghorau a'm bwriad yw cymhwyso'r un safonau iaith Gymraeg i'r cyd-bwyllgorau corfforedig ag sy'n berthnasol i brif gynghorau. Mae fy swyddogion wedi bod yn trafod gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i sicrhau bod y rheoliadau'n cyflawni hyn.
Rhoddir sylw i safonau'r Gymraeg yn rhan o'r rheoliadau cyffredinol y cyfeiriwyd atyn nhw yn ymgynghoriad y cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu'r rheoliadau hyn, a'm bwriad i yw sicrhau eu bod ar waith cyn y bydd yn ofynnol i'r cyd-bwyllgorau corfforedig gyfarfod am y tro cyntaf. Ar y sail hon, Llywydd, gofynnaf i'r Aelodau wrthod yr holl welliannau yn y grŵp hwn. Diolch.
Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl. Oes yna ymateb?
Oes. Diolch, Llywydd. Diolch i'r Gweinidog am hynny. Rwyf yn siomedig i glywed bod y Gweinidog yn dweud bod y Llywodraeth yn barod i gytuno mewn egwyddor, ond ddim yn fodlon gweithredu ar hyn yn syth yn y dull dŷn ni'n rhoi ymlaen. Ond rwyf yn clywed beth mae'n ei ddweud, ac mae rhai pethau yna, yn amlwg, rŷn ni yn croesawu.
Buaswn i jest yn dweud eto fod y Llywodraeth wedi derbyn y drafftio a'r dull union hwn o ychwanegu cyrff at y safonau yn y gorffennol, so does dim anhawster technegol, ac mae'n bolisi gan y Llywodraeth i ehangu'r safonau i ragor o gyrff er mwyn creu rhagor o gyfleoedd a hawliau i bobl Cymru fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, does dim anghydweld polisi yma chwaith.
Mae'r Llywodraeth yn cwyno yn aml, efallai ddim jest nawr gan y Gweinidog, ond yn aml mae'r Llywodraeth yn cwyno am y diffyg capasiti, ac yn amlwg, mewn cyfnod o bandemig, bydd yna hyd yn oed fwy o ddiffyg capasiti deddfwriaethol i gyflwyno ragor o safonau. Ac mae yna hefyd, fel roeddwn i'n dweud yn fy araith o'r blaen, mae yna gyfle fan hyn, ar blât yma heddiw, i wneud hyn. Felly, y gwrthwyneb i ddiffyg capasiti ac adnodd sydd yma. Byddwn i'n erfyn arnoch chi felly, Weinidog, i ailystyried hyn. Os yw'r Llywodraeth yn gwrthod y gwelliannau yma heddiw, fel rydych chi wedi sôn byddwch chi'n gwneud, gall y Llywodraeth fyth ddefnyddio'r esgusodion diffyg capasiti ac adnodd pan ddaw hi at beidio cyflwyno safonau byth eto, ac fe fydd hi'n glir i bawb i weld mai diffyg brwdfrydedd mewn deddfu o blaid y Gymraeg ydy'r gwir broblem, a buaswn i ddim eisiau i bobl feddwl hynny.
So, i gloi, Llywydd, dwi eisiau gofyn i Aelodau i ystyried rhywbeth. Cawson ni ein hatgoffa dros y dyddiau diwethaf o'r gwaith arbennig y mae swyddogion canlyniadau etholiadau yn ei wneud yn enw democratiaeth, gan sicrhau bod y broses ddemocrataidd yn hygyrch i bawb, a bod pleidlais pawb yn cyfri yr un faint. Siarad ydw i, yn amlwg fanna, am America, ond yng Nghymru mae'n hollbwysig fod y Gymraeg yn cael ei phriod le ac y gall ein dinasyddion fod yn hyderus y bydd y gyfraith yn gwarantu, fel mater o hawl, nid disgresiwn y swyddog canlyniadau unigol, eu gallu i ymwneud â'r broses ddemocrataidd ac i ymwneud â chyrff democrataidd Cymru yn Gymraeg, yn enwedig wrth i ni ehangu'r etholfraint ac ehangu ein democratiaeth i'r genhedlaeth nesaf trwy'r Bil yma. Felly, roeddwn i'n meddwl bod hwn yn gyfle euraid. Mae gan Aelodau'r Senedd yma gyfle i sicrhau hyn heddiw. Dewch i ni gydio ynddo.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 158? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, pleidlais ar welliant 158. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, 11 yn ymatal, 31 yn erbyn. Ac, felly, mae gwelliant 158 wedi ei wrthod.
Gwelliant 159, Delyth Jewell. Ydy e'n cael ei symud?
Ydy. Felly, oes gwrthwynebiad i 159? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar 159. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, 11 yn ymatal, 31 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 106, Mark Isherwood, yn cael ei symud.
Oes gwrthwynebiad i 106? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar 106. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, pump yn ymatal, 29 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Gwelliant 62, Julie James.
Cynnig.
A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 62? [Gwrthwynebiad.] Ocê, mae yna wrthwynebiad. Dwi'n gweld y gwrthwynebiad. Felly, pleidlais ar welliant 62. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 145, Mark Isherwood.
Os derbynnir 145, bydd gwelliant 176 yn methu. A oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly gwelliant 145. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, pedwar yn ymatal, 37 yn erbyn, felly mae gwelliant 145 wedi cwympo.
Delyth Jewell, gwelliant 176.
Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i 176? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar 176. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 176 wedi ei wrthod.
Gwelliant 146 yn cael ei symud.
Os derbynnir gwelliant 146, bydd gwelliannau 63 ac 177 yn methu. Oes gwrthwynebiad i welliant 146? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar 146. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, tri yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwellaint 63, Julie James.
Oes gwrthwynebiad i welliant 63? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly symudwn i bleidlais ar welliant 63. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pump yn ymatal, dau yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 63 wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 177, Delyth Jewell.
Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gwelliant 177 i'r bleidlais, felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 64, Julie James.
Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 64? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld Gareth Bennett yn gwrthwynebu. Felly, pleidlais ar welliant 64. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, chwech yn ymatal, dau yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 64 wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 65 yn cael ei symud.
Oes gwrthwynebiad i welliant 65? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad gan Gareth Bennett. Felly, pleidlais ar welliant 65. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, un yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 65 wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 66 yn cael ei symud gan y Gweinidog. Ydy e?
Ydy, yn cael ei symud. Felly, unrhyw wrthwynebiad i welliant 66? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, pleidlais ar welliant 66. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 67. Ydy gwelliant 67—?
Ydy, yn cael ei symud gan y Gweinidog. Oes gwrthwynebiad i welliant 67? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae e. Felly, pleidlais ar welliant 67. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, un yn erbyn. Felly mae gwelliant 67 wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 147 yn enw Mark Isherwood.
Cynnig.
Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 147. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, pump yn ymatal, 29 yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Gwelliant 83, Mark Isherwood.
Cynigiwyd.
Ydy, mae'n cael ei symud. Os bydd e'n cael ei basio, yna fydd gwelliant 151 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 83? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, tri yn ymatal, 36 yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Delyth Jewell, 151.
Oes gwrthwynebiad i 151? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 151. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 39 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.