1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr, Lywydd. Os caf ddechrau drwy fynd â'r Gweinidog yn ôl at drydydd cam y gronfa cadernid economaidd—ac wrth gwrs, cawsom gyfle i'w holi am y sefyllfa, am orfod cau'n gynnar, yr wythnos diwethaf. Wrth gwrs, mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth medd yr hen air, a tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym a yw'n gallu rhoi amserlen i ni bellach i nodi erbyn pryd y mae'n disgwyl i'w swyddogion fod wedi gallu prosesu'r holl geisiadau, er mwyn didoli, fel y mae eisoes wedi awgrymu yn ei ateb i Andrew R. T. Davies, y rhai a oedd mewn gwirionedd yn fwy addas ar gyfer cymorth brys a'r rhai sy'n gyfleoedd datblygu. Ac a yw'r Gweinidog yn disgwyl gallu ailagor y gronfa honno, neu o ystyried faint o geisiadau y mae eisoes wedi'u cael, a yw'n debygol y byddwn yn edrych mewn gwirionedd ar rownd arall ychydig yn ddiweddarach yn y flwyddyn?
Mae'n sicr yn ymddangos y bydd angen rownd arall o gymorth yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac yn hytrach na rhoi arwydd y gallai'r trydydd cam gael ei ailagor, byddai'n well gennyf ddweud y bydd pedwerydd cam o'r gronfa ar gael i fusnesau. Ni fyddwn am greu unrhyw ddisgwyliadau artiffisial y gellid ailagor y trydydd cam. Efallai y bydd tanwariant yn y gronfa grantiau datblygu. Os oes tanwariant yn y gronfa honno, byddem yn ceisio ei ddefnyddio ar gyfer y pedwerydd cam. Ond fel y dywedais wrth Andrew R.T. Davies, byddwn yn annog unrhyw fusnesau a roddodd o'u hamser i lunio ceisiadau gyda'r holl dystiolaeth ategol, i ddal eu gafael ar y ceisiadau hynny'n barod ar gyfer y mecanwaith mynegi diddordeb a fydd yn mynd yn fyw ar wefan Busnes Cymru yn ddiweddarach yr hydref hwn.
Wrth gwrs, rydym eisoes wedi dechrau ar y broses o ddyfarnu arian i fusnesau sy'n gwneud cais am grantiau datblygu. Rwy'n credu fy mod eisoes wedi nodi yn y pwyllgor rai enghreifftiau gwirioneddol dda o fusnesau a gyflwynodd geisiadau llwyddiannus. A hyd yn hyn, fel rhan o gam 3 y gronfa cadernid economaidd, mae cyfanswm o 14,000 o ddyfarniadau wedi'u gwneud, gwerth mwy na £43 miliwn. Felly, mae cyflymder yn hanfodol. Rydym yn ateb y galw drwy dalu arian brys yn gyflym. Ond wrth gwrs rwy'n cydnabod bod y galw am grantiau datblygu yn aruthrol, a dyna pam ein bod yn dysgu mor gyflym ag y gallwn er mwyn inni allu llunio'r rownd nesaf o gymorth yn ôl yr hyn y mae busnesau ei angen mewn gwirionedd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb ac am y sgyrsiau preifat a gafodd gyda mi, a chyda llefarwyr y pleidiau eraill ar y mater hwn. Tybed a all fanteisio ar y cyfle i ddweud mwy wrthym am y gwersi a ddysgwyd o'r materion a gododd gyda cham 3 ac y cyffyrddodd â hwy eisoes yn ei atebion, er enghraifft y broses mynegi diddordeb, a allai helpu i gael gwared ar geisiadau nad ydynt yn addas.
Ac o ran yr hyn y gallai'r pedwerydd cam fynd i'r afael ag ef, bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod gennyf bryder parhaus am fusnesau a ddylai, neu sy'n gorfod 'gaeafgysgu', fel petai—busnesau na allant fasnachu, neu na allant fasnachu gydag unrhyw fath o elw, hyd nes y cawn frechlyn a hyd nes y gallwn ddychwelyd at ryw fath o fywyd normal. Ac mae'n cynnwys popeth o—gwn fy mod wedi sôn wrtho yn y gorffennol am bethau fel llogi dillad, lleoliadau cerddoriaeth fyw a allai agor gyda gigs dan fesurau cadw pellter cymdeithasol, ond na fyddant yn gallu gwneud unrhyw arian, a mathau penodol o fusnesau gwyliau. Yn amlwg, bydd y ffaith bod gennym ffyrlo nawr o gymorth enfawr i'r busnesau hynny, ond mae ganddynt gostau parhaus ar bethau eraill, fel rhent, cynnal a chadw cyfarpar a gwasanaethu benthyciadau. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ystyried a ddylid cael cymorth penodol wedi'i dargedu i fusnesau yn y sectorau hynny yn y pedwerydd cam o gofio'r hyn a ddywedodd o'r blaen am unrhyw fusnesau a oedd yn hyfyw ym mis Chwefror eleni, ein bod am iddynt fod yn hyfyw ac yn cyfrannu at yr economi erbyn y gwanwyn nesaf?
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn a chroesawu hefyd y sgyrsiau hynod werthfawr a gawsom yn ystod y pandemig, ac a gawsom gyda llefarwyr y gwrthbleidiau eraill hefyd? Mae eich mewnbwn wedi bod yn hynod bwysig yn helpu i lunio ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng economaidd. Ac wrth gwrs, bydd rhai o'r sectorau a'r is-sectorau a nodwyd gennych hyd yma yn sicr o ymadfer yn eithaf cyflym—gobeithio—pan gawn amrywiaeth o frechlynnau at ein defnydd. Yr hyn sy'n ofynnol yn y cyfamser yw'r cymorth i dalu am gostau sefydlog amrywiol eraill yn ychwanegol at gostau llafur. Wrth gwrs, mae ymestyn y cynllun ffyrlo i'w groesawu'n fawr, ond diben y gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau lleol yw sicrhau ein bod yn darparu arian brys i gynorthwyo busnesau i dalu'r costau eraill hynny, boed yn rhent, yn wres ac yn y blaen, a byddwn yn defnyddio pedwerydd cam y gronfa cadernid economaidd i sicrhau ein bod yn creu'r bont honno o nawr hyd at y pwynt lle gwyddom y gall busnesau—busnesau hyfyw, da—weithredu'n llwyddiannus eto.
Ac o ran peth o'r cymorth penodol y gellir ei ystyried, fel rhan o gam 3 y gronfa cadernid economaidd, gwnaethom ddarparu cronfa wedi'i chlustnodi o £20 miliwn ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch. Byddwn yn asesu pa mor effeithiol y mae honno wedi bod. Cafwyd ymyriadau eraill hefyd mewn adrannau eraill, er enghraifft, y gronfa adferiad diwylliannol, sydd wedi bod yn bwysig i fusnesau yn y sector celfyddydau a diwylliant. Unwaith eto, byddwn yn dysgu gwersi gan y rheini mewn pedwaredd rownd o gymorth hollbwysig, yn fy marn i, i fusnesau i'w cynnal hyd at ddiwedd y chwarter cyntaf, hyd at y pwynt pan fo llawer o arbenigwyr gwyddonol yn awgrymu y gallai bywyd ddychwelyd at ryw fath o normalrwydd
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am hynny. Os caf fynd â ni i gyfeiriad ychydig yn wahanol, cyfeiriad mwy tymor canolig, roeddem yn ddiolchgar iawn am fewnbwn y Gweinidog i'n trafodaethau yn y pwyllgor y bore yma, ac un o'r meysydd a grybwyllwyd gennym oedd y ffordd—. Mae sefydliadau cydraddoldeb wedi bod yn dweud wrthym fel pwyllgor nad yw ystyriaethau cydraddoldeb, tegwch, bob amser wedi bod yn hawdd eu prif ffrydio mewn polisi datblygu economaidd. Cafwyd mentrau penodol, ond nid yw o reidrwydd wedi'i brif ffrydio.
Er mwyn canfod a fydd unrhyw fentrau yn y dyfodol yn gweithio, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cydnabod bod angen system fonitro effeithiol, ond hefyd nad ydym am wneud hynny'n rhy fiwrocrataidd i fusnesau ymateb iddo. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog y prynhawn yma a fydd yn ystyried gweithio gyda phartneriaid sy'n arbenigwyr yn y maes hwn, o ran cydraddoldeb rhywiol, cydraddoldeb hiliol a chan feddwl am y mudiadau anabledd hefyd, i weld a allwn gynhyrchu system syml lle bydd yn gallu monitro, ac felly bydd y rheini ohonom ar y pwyllgor priodol yn gallu monitro, a yw ei fwriadau o ran prif ffrydio agenda gwaith teg yn mynd i'r afael â rhai o'r gwahaniaethau rhwng dynion a menywod yn y farchnad swyddi, gwahaniaethau rhwng pobl dduon a phobl liw—? A yw'n bosibl, ac a wnaiff ystyried creu system wirioneddol gadarn a chlir nad yw'n rhy fiwrocrataidd ond lle gallwn weld beth sy'n digwydd pan ddaw'n fater o adeiladu nôl yn well yn hyn o beth?
Wel, rwy'n croesawu cwestiwn yr Aelod yn fawr. Rwy'n credu ei fod yn haeddu trafodaeth bellach, a byddaf yn sicr mewn cysylltiad i drafod yr argymhelliad pwysig hwn. Credaf fod adnewyddu'r contract economaidd yn eithriadol o bwysig—mae hynny'n digwydd ar hyn o bryd, ac mae'n rhoi cyfle inni edrych ar sut y gallwn ddatblygu'r systemau monitro hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol. Rydym bob amser yn agored i her; rydym bob amser yn agored i gyngor a chymorth. Dyna pam rydym wedi tynnu'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i mewn i asesu dyfodol buddsoddi rhanbarthol. Ac wrth gwrs, cynlluniwyd y cynllun gweithredu economaidd i ysgogi twf cynhwysol, i leihau anghydraddoldebau, ac ar yr un pryd, i fuddsoddi neu, os mynnwch, i sbarduno diwydiannau yfory.
Yn ystod y pandemig, un grŵp pwysig sydd wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd iawn yw'r grŵp cynghori COVID-19 du, Asiaidd, lleiafrifol ethnig economaidd-gymdeithasol, ac wrth gwrs, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod argymhellion y grŵp hwnnw'n cael eu hymgorffori yng ngwaith Llywodraeth Cymru ar draws pob adran, ym mhob portffolio, gan gynnwys fy mhortffolio i, ac yn hollbwysig, yn y broses o adnewyddu'r contract economaidd. Ond yn sicr, byddwn yn croesawu trafodaethau pellach gyda'r Aelod ynghylch yr awgrym a wnaeth heddiw.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Rhaid imi ddweud, Weinidog, mae'r sedd arbennig honno yn y Siambr yn gweddu i chi y prynhawn yma.
Caredig iawn.
Weinidog, byddwn yn croesawu'r £600 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Canghellor yr wythnos diwethaf mewn symiau canlyniadol gwarantedig i Lywodraeth Cymru, ac mae hynny, wrth gwrs, ar ben yr £1.1 biliwn a warantwyd yn gynharach eleni. Daw hynny â chyfanswm y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU i £5 biliwn i ymladd y pandemig yma yng Nghymru. Nawr, rwy'n sylweddoli mai dim ond yr wythnos diwethaf y digwyddodd y cyhoeddiad, ond a allwch ddweud wrthyf faint o arian sy'n dal i fod yng nghoffrau Llywodraeth Cymru yn hytrach na'i fod wedi cael ei ddosbarthu i fusnesau i'w cefnogi yn ystod y pandemig hwn?
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiwn? Rhaid i mi ddweud fy mod braidd yn bryderus fod cymaint o Geidwadwyr wedi cymeradwyo pan awgrymodd fod cadair y Prif Weinidog yn gweddu i mi. [Chwerthin.]
Yn gyntaf oll, rwyf am ddweud nad wyf am fod yn bitw fy meddwl, nid wyf am fod yn wleidyddol. Ar adeg o argyfwng cenedlaethol, mae'n bwysig iawn fod pleidiau'n rhoi eu gwahaniaethau i'r naill ochr ac yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n eu huno gymaint â phosibl, yn canolbwyntio ar yr achos cyffredin. Felly, dechreuaf fy ateb drwy ddweud fy mod yn croesawu pob ceiniog y mae Llywodraeth y DU yn ei darparu i fynd i'r afael â'r argyfwng economaidd sy'n ein hwynebu. Rwy'n awyddus i weithio gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU lle bynnag a phryd bynnag y gallaf. Rwy'n credu mai dyna mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl gennym—rhoi gwahaniaethau pleidiol o'r neilltu a gweithio mewn undod cyffredin.
O ran y symiau canlyniadol, mae arnaf ofn ei fod yn gwestiwn sy’n fwy addas i’w ofyn i’r Gweinidog cyllid, ac yn sicr, fe wnaf ofyn iddi ymateb iddo’n fanwl, ond o ran yr arian sydd ar gael i fusnesau, gallaf ddweud bod y Gweinidog cyllid eisoes wedi neilltuo £300 miliwn o arian ychwanegol os bydd ei angen, ac mae’n siŵr y bydd. Fe fydd yn ffurfio pedwerydd cam y gronfa cadernid economaidd. Ac rydym hefyd yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio’r tanwariant o drydydd cam y gronfa cadernid economaidd; bydd yr Aelodau’n cofio fod tanwariant o £35 miliwn gyda’r grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig a weinyddwyd, arian y gallem ei addasu at ddibenion gwahanol, ac rydym yn edrych ar sut y gallem wneud hynny. Ar hyn o bryd, rwy'n credu ein bod yn ffafrio ymestyn y dyfarniadau dewisol y mae awdurdodau lleol yn eu rhoi, oherwydd yn fy marn i mae awdurdodau lleol yn adnabod eu hardaloedd, eu cymunedau, eu busnesau, yn hynod o dda ledled Cymru ac felly, mae cael y gallu hwnnw i fuddsoddi mwy ar sail ddewisol yn gwneud synnwyr perffaith.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n cytuno â'ch safbwyntiau hefyd. Rwy'n credu ei bod yn well fod pleidiau'n gweithio gyda'i gilydd lle gall hynny ddigwydd. Roedd yn gwestiwn a ofynnais yr wythnos diwethaf, ac efallai eich bod yn iawn i ddweud bod hwn yn gwestiwn i'r Gweinidog cyllid, ond mae Prifysgol Caerdydd wedi amcangyfrif bod mwy na £1 biliwn yn parhau i fod heb ei ddyrannu o gyllidebau presennol Llywodraeth Cymru, felly rwy'n gobeithio'n fawr y gall Llywodraeth Cymru, naill ai chi'ch hun neu'r Gweinidog Cyllid, gadarnhau, os yw hyn yn wir, pam nad yw Llywodraeth Cymru'n ymrwymo'r arian hwn nawr i gefnogi busnesau yn hytrach na'i gadw’n ôl. Felly, rwy'n sylweddoli bod rhan o'r cwestiwn hwnnw i'r Gweinidog cyllid, ond yn sicr, byddwn yn croesawu eich persbectif chi o ran bod yr arian sydd gan Lywodraeth Cymru yn ei chronfeydd wrth gefn yn cael ei wario yn eich maes portffolio chi. Ac os ydych chi'n cytuno â hynny, ai dyma'r math o sgwrs y gallwn ddisgwyl i chi ei chael gyda'r Gweinidog cyllid?
Ie, ac mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn y bydd symiau canlyniadol sy'n deillio o gynnydd mewn gwariant ar gymorth busnes yn Lloegr yn cael eu dyrannu i gymorth busnes yng Nghymru. Y broblem sy'n ein hwynebu yn Llywodraeth Cymru yw ansicrwydd parhaus ynghylch yr arian sydd ar gael. Mae hon yn farathon hefyd; bydd yn para am fisoedd lawer. Bydd hyn yn para am sawl blwyddyn ar sawl ystyr. Bydd yna ganlyniad economaidd i'r argyfwng uniongyrchol, a gwyddom y bydd costau uwch yn gysylltiedig â bron bob gwasanaeth cyhoeddus ac felly, mae'n iawn ac yn gyfrifol i gadw rhywfaint o adnoddau ar gyfer yn nes ymlaen yn yr hydref ac i mewn i'r flwyddyn newydd. Dyna pam y credaf ei bod yn hanfodol bwysig fod y Gweinidog cyllid wedi rhoi £300 miliwn o gymorth datblygu busnes mewn cronfa wrth gefn.
Diolch am eich ateb. Fe symudaf ymlaen efallai o'r pwynt hwn i fy nghwestiwn olaf heddiw. Pan gyfeiriwn at gefnogi busnesau, rydym yn siarad wrth gwrs nid yn gymaint am fusnesau mawr gyda phentwr o gronfeydd wrth gefn, rydym yn siarad am gwmnïau teuluol bach, busnesau bach sy'n cael eu rhedeg gan unigolion. Mae busnesau angen eglurder ar frys. Nawr, rwy'n gwybod, Weinidog, fod disgwyl i chi wneud datganiad ar y gronfa cadernid economaidd yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf ac mae hwnnw bellach wedi'i ohirio tan fis nesaf. O’m rhan i, mae'r pandemig hwn yn niweidio bywoliaeth a bywydau pobl—rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno. Ond mae angen eglurder arnom a hoffwn weld y cyllid hwnnw a'r cam nesaf yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl, oherwydd gwyddom fod bywoliaeth pobl yn dibynnu ar hynny.
Nid wyf yn credu ei bod yn gwbl annheg awgrymu na chafodd cam 3 y gronfa cadernid economaidd ei drefnu cystal ag y gallai fod ac yn sicr—. O'm rhan i, os dywedwch wrth fusnesau fod cronfa gyfyngedig ar gael, ar sail y cyntaf i’r felin, ni ddylem synnu bod gwefannau’r Llywodraeth a Busnes Cymru wedi eu gorlethu o fewn 24 awr. Nawr, mae angen adnoddau priodol ar Busnes Cymru wrth gwrs, a tybed pa mor fanwl oedd y sgyrsiau a gafwyd gyda hwy cyn y cyhoeddiad i sicrhau eu bod mor barod â phosibl ar gyfer lefel y cyswllt a gafwyd â busnesau bach. Roedd peth dryswch hefyd ymhlith awdurdodau lleol mewn perthynas â chael gwahanol ganllawiau a gwahanol ddulliau gweithredu a’r ffaith bod gwahanol setiau o ganllawiau wedi dod i law, felly fy nghwestiwn olaf, yn debyg i un Helen Mary, ond yn y cyd-destun rwyf newydd siarad amdano: pa wersi a ddysgwyd gennych dros y pythefnos diwethaf y gellir eu cymhwyso i'r rownd nesaf o gyllid rydych yn bwriadu ei gyhoeddi?
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Roedd nifer o gwestiynau yno, bob un yr un mor bwysig, rwy'n meddwl. Yn amlwg, bydd gwersi'n cael eu dysgu o bob un o gamau'r gronfa cadernid economaidd ac o gronfeydd eraill sy'n gweithredu mewn portffolios eraill. Un o'r gwersi clir sy'n rhaid inni ei dysgu o ran grant datblygu cam 3 y gronfa cadernid economaidd yw sicrhau bod busnesau'n gwneud ceisiadau ar sail diben y gronfa, nid yn y gobaith o ddenu cyllid at ddiben gwahanol. Gwyddom fod cyfran sylweddol o'r busnesau sy'n gwneud cais am grantiau datblygu yn chwilio am arian brys mewn gwirionedd. Mae'r arian brys yn dal i fod ar gael drwy'r gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau gwerth £200 miliwn sy'n dal ar gael. Ac felly bydd angen arweiniad clir iawn yn y dyfodol i sicrhau nad yw busnesau'n ceisio gwneud ceisiadau lluosog am ddyfarniadau arian brys, ac i sicrhau bod busnesau'n deall beth y maent yn gwneud cais amdano a'r meini prawf sydd angen eu bodloni hefyd, oherwydd mae meini prawf llym ynghlwm wrth gynllun y grantiau datblygu.
O ran y gronfa cadernid economaidd a'r datganiad ar adfer ac ailadeiladu, mae'r ddau'n wahanol iawn. Y gronfa cadernid economaidd yw'r gronfa sy'n weithredol ar hyn o bryd; mae'n dal yn fyw. Mae'r rhan £200 miliwn o'r gronfa honno ar gael o hyd i fusnesau, ond roedd y datganiad a oedd i fod i gael ei wneud yn y Siambr yr wythnos diwethaf yn ymwneud â'r cynigion hirdymor i ailadeiladu ac adfer yr economi gan Lywodraeth Cymru. O ystyried lle roeddem arni gyda'r cyfnod atal byr, ac o gofio'r ymateb uniongyrchol oedd ei angen i gefnogi busnesau drwy'r cyfnod anodd hwnnw, teimlwyd bod oedi bach cyn amlinellu'r uchelgeisiau hirdymor ar gyfer yr economi yn ddoeth ac yn briodol, ac y dylai'r ffocws yr wythnos diwethaf fod yn gyfan gwbl ar y cymorth uniongyrchol sydd ei angen ar fusnesau, ac mae'n briodol mai felly y bu.
Byddwn yn cytuno bod angen brys ac eglurder bob amser, a dyna pam y mae gennym un pwynt cyswllt ar gyfer busnesau, sef Busnes Cymru. Roeddent dan bwysau—pwysau aruthrol—yn ystod y broses ymgeisio pan oedd y grantiau datblygu'n fyw. Rydym mewn deialog gyson â hwy o ran capasiti. Rydym yn amrywio capasiti yn ôl y galw, ac roeddent yn amlwg yn gweithredu ar y capasiti mwyaf pan oedd y gronfa grantiau honno'n mynd yn fyw. Yr hyn na ragwelais, yn anffodus, oedd yr achosion niferus iawn o gam-drin geiriol. Mae hynny'n gwbl annerbyniol, ac rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn y Siambr hon yn cytuno ei bod hi'n bwysig iawn i bobl fusnes ddangos parch a chwrteisi at y bobl sy'n eu helpu, ni waeth pa mor anodd yw'r amgylchedd gweithredu iddynt.