– Senedd Cymru am 7:02 pm ar 17 Tachwedd 2020.
A gaf i yn awr alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y rheoliadau? Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynigion sydd ger ein bron ar gyfer y cyfresi perthnasol o reoliadau.
Cyflwynwyd y cyfnod atal byr gennym gan ein bod yn credu bod yn rhaid i ni weithredu yn gynnar ac yn bendant yn wyneb bygythiad gwirioneddol a chynyddol i iechyd y cyhoedd gan feirws a oedd yn lledaenu ar draws ein gwlad ac yn bygwth llethu ein GIG. Ni fyddwn yn gweld effaith lawn y cyfnod atal byr am wythnos neu ddwy arall, ond mae arwyddion calonogol ei fod wedi torri cadwyni trosglwyddo, gan arwain at ostyngiad yn nifer yr achosion positif newydd. Mae hynny'n arbennig o glir mewn ardaloedd lle ceir llawer o achosion, fel Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful.
Fe wnaethom addewid i bobl Cymru y byddai'r cyfnod atal byr hwn yn llym ond yn fyr, ac mae hwnnw'n addewid a gadwyd gennym. Fe wnaethom addo hefyd y byddem ni'n dod allan o'r cyfnod atal byr gyda chyfres newydd o fesurau cenedlaethol a fyddai mor syml, teg a chlir ag sy'n bosibl. Mae cyfyngiadau cenedlaethol yn symlach ac yn haws i bobl eu dilyn, ond, fel y gwelsom, gall y coronafeirws gynyddu'n gyflym mewn ardal leol, ac, os gwna hynny, mae amrywiaeth o gamau lleol y gellid eu cymryd yn yr ardaloedd hynny.
Fodd bynnag, yr hyn sy'n bwysicach nag unrhyw reolau, rheoliadau na chanllawiau yw'r ffordd y mae pob un ohonom ni yn ymateb i'r feirws. Bydd ein cyfreithiau newydd yn llwyddiannus dim ond os byddwn ni i gyd yn gwneud ein gorau i leihau ein hamlygiad i'r feirws drwy gadw'r cysylltiadau a gawn â phobl eraill cyn lleied â phosibl gartref, yn y gwaith a phan fyddwn ni'n mynd allan. Dim ond hyn a hyn y gall unrhyw Lywodraeth ei wneud. Bydd ein hymdrech gyfathrebu yn parhau i ganolbwyntio ar ofyn i bobl feddwl yn ofalus am eu dewisiadau a'u gweithredoedd a'r canlyniadau a gaiff y rheini.
Fel gyda'r cyfyngiadau symud cyntaf, rydym ni wedi arfer dull gofalus, gan lacio'r cyfyngiadau yn raddol. Ni ddylai'r un ohonom ni fod eisiau colli yr hyn a fu'n anodd ei gyflawni yr ydym ni yn awr yn dechrau ei weld yn cael ei adlewyrchu yn sgil y cyfnod atal byr. Rydym ni'n parhau i geisio mynd ati'n gytbwys ac yn gyfartal i ymdrin â rheolau ar gwrdd â phobl o dan do, tynhau lle mae'n rhaid i ni wneud hynny, llacio lle y gallwn ni, fel y gall pobl mewn gwahanol amgylchiadau personol elwa. Nid yw hyn yn hawdd ac ni all gyd-fynd yn daclus â phob sefyllfa. Caiff dwy aelwyd bellach ffurfio cartref estynedig neu swigen. Gwyddom fod risg uchel o drosglwyddo pan fydd pobl ar eu mwyaf hamddenol ac yn y cartref. Buom yn gwrando ar bobl, yn enwedig pobl ifanc, a ddywedodd wrthym nad oedd y rheolau ar swigod aelwydydd bob amser yn gweithio iddyn nhw a bod cwrdd â phobl y tu allan i'w cartrefi yn bwysig i'w lles. Rydym, felly, wedi galluogi hyd at bedwar o bobl o wahanol aelwydydd i gyfarfod yn yr awyr agored mewn mannau a reolir fel tafarndai, bariau, caffis a bwytai. Ar yr un pryd, mae'n rhaid i ni i gyd gofio mai uchafrif cyfreithiol yw hwn, nid rhif targed. Fel y dywedais i, rydym ni'n dibynnu ar y dewisiadau y mae pobl yn eu gwneud ac yn gofyn i bobl ystyried y risgiau a chwrdd â chyn lleied â phosibl ac, os oes modd, i gwrdd â'r un bobl bob tro.
O ran gweithgareddau wedi'u trefnu, caiff hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgarwch o dan do a hyd at 30 yn yr awyr agored, cyn belled â bod yr holl fesurau diogelwch COVID yn cael eu dilyn. Dylai hyn helpu pobl nad ydyn nhw'n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau o bell. Mae'r geiriau 'wedi'u trefnu' yn allweddol yn y fan yma, gan mai dim ond os yw corff cyfrifol fel pwyllgor rheoli canolfan gymunedol wedi cynnal asesiad risg ac wedi sefydlu'r holl fesurau lliniaru priodol y ceir cynnal gweithgareddau.
Newid arall yw nad oes unrhyw gyfyngiadau teithio y tu mewn i Gymru mwyach gan fod yr haint wedi ymwreiddio ledled y wlad. Ond yn ystod y cyfyngiadau symud am fis yn Lloegr, ni chaniateir teithio y tu allan i Gymru heb esgus rhesymol. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru, ym mis Mehefin, wedi gwneud darpariaethau yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod yn rhaid i deithwyr sy'n dod i Gymru o wledydd a thiriogaethau penodol ynysu am 14 diwrnod a rhoi eu manylion cyswllt. Ers hynny, rydym, ynghyd â gwledydd eraill y DU, wedi adolygu a diwygio'r rhestr o wledydd a thiriogaethau eithriedig bob wythnos, ac rydym yn adolygu'r rheoliadau eu hunain bob 28 diwrnod. Mae'r cyfyngiad llymaf ar bobl o Ddenmarc, y gwrthodir iddyn nhw ddod i Gymru a'r DU bellach ar ôl darganfod math newydd o'r coronafeirws mewn mincod. Fel mesur rhagofalus, fe wnaethom ni arfer y dull mwyaf cyfyngol yn y DU—gofynion ynysu ar gyfer pobl a ddaeth yn ôl o Ddenmarc cyn y gwaharddiad.
Gan symud oddi wrth deithio i addysg, mae pob ysgol, coleg a phrifysgol wedi ailagor. Rydym ni wedi rhoi arweiniad a chymorth pellach i ysgolion ar ddarpariaeth dysgu gyfunol ac ar-lein ar gyfer dosbarthiadau neu grwpiau y mae angen iddyn nhw hunanynysu. Mae busnesau, cyfleusterau chwaraeon, amgueddfeydd a sinemâu i gyd wedi ailagor, fel y gwnaeth gwasanaethau awdurdodau lleol a mannau addoli. Mae'n hynod bwysig, serch hynny, bod pobl yn gweithio gartref pan fo hynny'n bosibl.
Rydym ni'n cydnabod yr effaith echrydus y mae'r feirws hwn yn parhau i'w chael ar economi Cymru. Mae'r ystadegau diweithdra a chynnyrch domestig gros diweddaraf, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn llwm. Dyna pam y gwnaethom ni weithredu pecyn sylweddol i fusnesau yn ystod y cyfnod atal byr. Fodd bynnag, yr hyn a fyddai'n eu helpu fwyaf a'r hyn y gallwn ni a hwythau i gyd helpu i'w gyflawni yw cyfnod o sefydlogrwydd lle gall busnesau fasnachu hyd at y Nadolig. Os gallwn ni gyflawni hyn, byddwn ni'n gweld llai o bobl yn mynd yn sâl a llai o deuluoedd yn colli anwyliaid. Ni all neb warantu na fydd angen cyfyngiadau llymach yn y dyfodol. Fodd bynnag, os byddwn ni i gyd yn chwarae ein rhan ac yn lleihau ein cysylltiadau, byddwn ni'n rhoi'r cyfle gorau i ni ein hunain gael tymor Nadolig cadarnhaol. Mae'r newyddion am y brechlyn yn galonogol, ond nid yw'n ateb ein holl broblemau. Bydd gennym ni fisoedd lawer cyn y gallwn ni ddefnyddio brechlyn yn llwyddiannus ar draws y boblogaeth gyfan. Mae'r coronafeirws yn dal gyda ni; nid dyma'r amser i ni fynd yn ôl i normal a dadwneud yr holl waith caled yr ydym ni wedi ei gyflawni gyda'n gilydd yn ystod y cyfnod atal byr. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynigion sydd ger ein bron.
Diolch. A gaf i alw ar Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad?
Diolch, Dirprwy Lywydd. O ran eitemau 10 ac 11 gyda'i gilydd, fel y gŵyr yr Aelodau, daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 i ben ar 8 Tachwedd. O 9 Tachwedd ymlaen, mae rheoliadau Rhif 4 yn gosod y cyfyngiadau a'r gofynion mewn ymateb i risgiau iechyd y cyhoedd sy'n deillio o'r coronafeirws. A bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol bod yn rhaid adolygu rheoliadau Rhif 4 erbyn 19 Tachwedd, o leiaf unwaith rhwng 20 Tachwedd a 3 Rhagfyr, yna eto o leiaf unwaith rhwng 4 Rhagfyr a 17 Rhagfyr, ac yna o leiaf unwaith bob 21 diwrnod ar ôl hynny. Bydd rheoliadau Rhif 4 yn dod i ben ar 19 Chwefror 2021, oni chânt eu dirymu cyn y dyddiad hwnnw.
Ystyriodd y pwyllgor reoliadau Rhif 4 yn ein cyfarfod ddoe a nododd ein hadroddiad bedwar pwynt rhinwedd. Nododd y tri cyntaf y cyfiawnhad dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol, na fu ymgynghori ffurfiol ar y rheoliadau ac mai dim ond asesiad effaith integredig cryno sydd wedi ei baratoi. Gofynnodd ein pedwerydd pwynt rhinwedd i Lywodraeth Cymru nodi'r dystiolaeth a oedd yn dangos y dylid gosod cyfyngiadau a gofynion ar sail Cymru gyfan. Yn arbennig, fe wnaethom ni ofyn am dystiolaeth i ddangos pam y dylai ardaloedd yng Nghymru sydd â'r nifer fwyaf o achosion o COVID-19 fod yn destun llacio cyfyngiadau a gofynion pan ddaw rheoliadau Rhif 3 i ben. Er enghraifft, yn ôl data a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd nifer yr achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth ar gyfer Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yr uchaf yng Nghymru ar 9 Tachwedd. Nodwn ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwynt hwn, a ddaeth i law ddoe ar ôl i ni gyfarfod. Mae'n dweud bod y dystiolaeth ar gyfer mabwysiadu dull gweithredu cenedlaethol yn cynnwys data, ynghyd â chyngor gan y prif swyddog meddygol, sy'n dangos bod heintiau COVID-19 yng Nghymru yn eang yn ddaearyddol, a bod y rhan fwyaf o ardaloedd awdurdodau lleol yn profi tueddiadau cynyddol mewn achosion a gadarnhawyd a chanran yr achosion o brofion cadarnhaol ar gyfer COVID-19.
Trof yn awr at Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020, y gwnaethom ni eu hystyried ac adrodd arnyn nhw ddoe hefyd. Mae'r rheoliadau hyn yn ymestyn y cyfyngiadau presennol sy'n ymwneud â phersonau sy'n teithio i Gymru o Ddenmarc. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, o 4 a.m. ar 7 Tachwedd, y bydd yn ofynnol bellach i'r teithiwr sy'n dychwelyd ac unrhyw aelod o'u aelwyd ynysu am 14 diwrnod.
Nododd ein hadroddiad bedwar pwynt technegol yn ymwneud â drafftio diffygiol ac anghysondeb rhwng ystyr y testun Cymraeg a'r testun Saesneg. Nodwn ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwyntiau hyn, a ddaeth i law ar ôl i ni gyfarfod. Mae'n nodi'r gwallau drafftio sydd wedi eu cywiro ac yn nodi bod hyn yn cael ei gyflawni drwy Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020, a wnaed ac a osodwyd gerbron y Senedd ar 13 Tachwedd 2020. Mae ymateb Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud na fu angen troi at y pwerau gorfodi perthnasol na'r darpariaethau trosedd cyn i'r cywiriadau gael eu gwneud.
Nododd ein dau bwynt rhinwedd ar reoliadau Rhif 4 y diffyg ymgynghori ar y rheoliadau a chododd fater ar hawliau dynol. Ar y pwynt hwn, nodwyd bod y rheoliadau yn rhagnodi cyfres fwy cyfyngedig o amgylchiadau lle y gall personau adael eu hynysu dros dro nag sy'n berthnasol i bersonau y mae'n ofynnol iddyn nhw ynysu am reswm heblaw oherwydd eu bod wedi cyrraedd Cymru o Ddenmarc. Felly, gofynnwn i Lywodraeth Cymru egluro'r rhesymau dros yr ymyrraeth gynyddol hon â hawliau unigolyn o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a siarter hawliau sylfaenol Ewrop. Yn ei hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y risgiau iechyd a gyflwynir gan y posibilrwydd o fewnforio math newydd o goronafeirws i Gymru, ym marn Llywodraeth Cymru, mor ddifrifol fel bod yr ymyrraeth gynyddol i hawliau carfan fach iawn o unigolion yn gymesur wrth geisio'r nod cyfreithlon o ddiogelu iechyd y cyhoedd yng Nghymru, ac rydym newydd dynnu sylw'r Senedd at y sylwadau hyn. Diolch, Dirprwy Lywydd.
O ran y rheoliadau y prynhawn yma, o safbwynt y Ceidwadwyr, byddwn ni'n ymatal ar y gyfres gyntaf o reoliadau a gwmpesir yn eitem 10 ar yr agenda, a byddwn ni'n cefnogi eitem 11 ar yr agenda sef y cyfyngiadau teithio o ran Denmarc. Os gaf i ofyn yn garedig i'r Gweinidog, efallai, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am sefyllfa Denmarc. Fel y nododd Cadeirydd y pwyllgor cyfansoddiad a materion cyfreithiol, y newyddion gofidus a oedd yn dod o Ddenmarc tua phythefnos yn ôl a arweiniodd at y cyfyngiadau hyn oedd bod potensial fod straen newydd o COVID-19 yn datblygu yn Nenmarc. Ers i'r cyfyngiadau hyn ddod i rym, ni allaf gofio llawer o sôn am y cynnydd o ran cyfyngu ar y straen newydd, ac rwy'n credu y byddai'n fater o ddiddordeb i'r cyhoedd pe byddai gan y Gweinidog wybodaeth, er mwyn iddo allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y sefyllfa honno o ran y cyfyngiadau sydd wedi eu rhoi ar waith ar gyfer Denmarc.
O ran eitem 10 ar yr agenda, sef dadwneud y cyfyngiadau symud, y cyfnod atal byr—galwch ef beth bynnag y dymunwch—yn amlwg, nid oeddem yn cefnogi'r cyfyngiadau gwreiddiol a roddwyd ar waith, ond mae gennym ni bryderon ynglŷn â chodi'r cyfyngiadau hynny, sef y cyfyngiadau teithio sydd wedi'u cynnwys ac nad ydyn nhw'n caniatáu i aelwydydd estynedig aros gyda'i gilydd os byddan nhw'n mynd ar wyliau, er enghraifft, ond eto cawn nhw aros yng nghartrefi ei gilydd os ydyn nhw'n rhan o'r aelwyd estynedig. Mae'n ymddangos bod hwn yn gyngor anghyson, a byddwn i'n ddiolchgar o gael deall pam mae'r Gweinidog wedi ceisio cadw'r rheoliad hwn o gofio'r niwed y mae'n parhau i'w wneud i sector twristiaeth Cymru, pan fyddwn ni'n sôn am y niwed economaidd a wnaed gan rai o'r cyfyngiadau hyn a gyflwynwyd yn gynharach gan Lywodraeth Cymru.
Yn ail, mae ein pryder sy'n ein harwain i ymatal ar y rheoliadau hyn yn ymwneud â'r canllawiau teithio cenedlaethol sydd ar gael yn awr—y caiff pobl symud o ardaloedd â chyfraddau heintio uchel i ardaloedd â chyfraddau heintio isel—pan, o leiaf ers diwedd mis Awst, dechrau mis Medi, mae'r holl gyngor gan y Llywodraeth wedi ei arwain gan y wyddoniaeth, yn ôl pob sôn, sydd wedi cyflwyno mesurau lleol i gyfyngu ar symudiadau teithio. Mae'n ymddangos bod hyn yn groes i'r holl gyngor y mae'r Llywodraeth wedi bod yn ei roi ers dechrau'r pandemig, a byddwn i'n ddiolchgar eto i ddeall pa gyngor gwyddonol sydd gan y Prif Weinidog, neu'r Gweinidog iechyd yn wir, wrth gyflwyno'r canllawiau cenedlaethol hyn ynghylch teithio, gan ystyried ei bod yn awr yn briodol i bobl, â chyfraddau heintio yn y cannoedd fesul 100,000, i deithio i unrhyw le yng Nghymru i gyfraddau heintio is. Mae'n ymddangos bod hyn yn groes i bopeth sydd wedi digwydd cyn i'r rheoliadau newydd hyn gael eu gosod, ac felly byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog, yn ei ymateb, gyflwyno'r cyngor gwyddonol sy'n ategu'r rheoliadau hyn. Diolch.
Gwnaf i ddechrau efo eitem agenda 11. Does gen i ddim sylwadau pellach i'w gwneud am hynny, ond i ddweud ein bod ni'n cefnogi'r newid synhwyrol yna i'r rheoliadau.
At eitem 10, mi fyddwn ni hefyd yn pleidleisio o blaid y rheoliadau yma oherwydd dwi'n credu eu bod nhw'n rhoi mewn lle set resymol o reolau sylfaenol—hynny ydy, y lleiafswm o reoliadau y gallwn ni ddisgwyl i unrhyw un fod yn eu hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd, o ystyried ein bod ni'n dal i fyw efo pandemig peryglus iawn. Ni ddylai neb ar hyn o bryd allu bod yn edrych ymlaen at fywyd normal o fewn dyddiau; mae yna fisoedd tan hynny. Er gwaethaf mor bositif ydy'r newyddion ar frechlyn, mae yna beth amser i fynd at hynny eto.
Felly, yn y rheoliadau yma, oes, mae yna reolau rhesymol sydd yn perthyn i bawb, ond dwi'n dal yn methu â gweld y rheoliadau eraill, os liciwch chi, y byddwn i'n dymuno gweld y Llywodraeth yn eu cyflwyno i ni, yn egluro beth ydy'r cam uwch y byddan nhw'n barod i'w cyflwyno mewn ardaloedd lle rydyn ni'n gwybod bod yna achosion llawer uwch. Rydyn ni'n gwybod beth ydy'r ardaloedd hynny—ardaloedd yng Nghymoedd y de ydy nifer ohonyn nhw. Gofyn ydyn ni, yn syml iawn, am lefel uwch o gefnogaeth i'r ardaloedd hynny allu helpu eu hunain drwy sicrhau bod yna gymorth ychwanegol i bobl sicrhau eu bod nhw'n ynysu pan fyddan nhw fod i wneud, a chefnogaeth ariannol i wneud hynny, lle mae yna gefnogaeth i bobl drwy gyflwyno profion cyflymach gyda mwy o frys, lle mae yna brofion universal yn digwydd ar draws yr ardaloedd hynny. Dyna sydd ar goll, dwi'n ofni, a dwi'n dal i chwilio am hynny er, fel dwi'n dweud, byddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau yma, achos, ar gyfer rhywbeth sylfaenol i Gymru gyfan, maen nhw'n iawn.
Yr un peth dwi'n nodi, wrth gwrs, ydy bod y rheoliadau yma yn mynd ymlaen, oni bai eu bod nhw'n cael eu diwygio, tan fis Chwefror. Gaf i, felly, sicrwydd eto yn fan hyn—er ei fod o wedi cyfeirio at hynny droeon—gan y Gweinidog y bydd yna reoliadau gwahanol dros y Nadolig a fydd yn caniatáu i deuluoedd, gobeithio, allu dod at ei gilydd yn y cyfnod hwn mewn ffordd sydd mor bwysig i lesiant? Mae yna fwy nag un haen i beryglon y pandemig yma, ac un ydy'r perygl iechyd uniongyrchol gan feirws peryglus, ond mae yna beryglon eraill yn dod, wrth gwrs, o broblemau llesiant ac unigrwydd a phobl yn cadw ar wahân. Dros y Nadolig, mae pobl angen y gefnogaeth o fod efo'i gilydd.
Gweinidog, fe wnaethoch chi ddweud bod un gyfres unigol o reoliadau cenedlaethol yn haws i bobl eu deall ac yn cynyddu cydymffurfiad. Byddai hynny cymaint yn fwy gwir pe byddai'n un cyfres genedlaethol o reoliadau yn y DU, yn hytrach nag un yn benodol ar gyfer Cymru sydd â'r bwriad o wahanu Cymru oddi wrth Lloegr. Rydych chi'n camddefnyddio datganoli, a ddisgrifiwyd gan y Prif Weinidog fel un o gamgymeriadau gwaethaf ei ragflaenydd, i ddatblygu gwladwriaeth. Yr enghraifft amlycaf o hynny yn y rheoliadau hyn, cyfres pedwar, yw gosod ffin, a gorfodi honno, rhwng Cymru a Lloegr heb gyfeirio at ystyriaethau iechyd y cyhoedd na nifer achosion y feirws. Caiff etholwyr o Ferthyr fynd i Drefynwy heb unrhyw gyfyngiadau, er gwaethaf lefel uchel iawn y feirws ym Merthyr o hyd, mae arnaf i ofn. Fodd bynnag, ni all pobl o Rosan ar Wy fynd i Drefynwy, er gwaethaf y nifer llawer is o achosion yn y fan honno. Yn yr un modd, ni chaiff pobl o Drefynwy fynd i Henffordd na Rhosan ar Wy, oherwydd eu bod yn Lloegr a'n bod ni yng Nghymru ac oherwydd bod y rheoliadau hyn yn defnyddio hynny i geisio gorfodi gwahaniaeth, i geisio datblygu gwladwriaeth a cheisio gwahanu Cymru yn fwy a mwy oddi wrth Lloegr drwy ddefnyddio—[Torri ar draws.] Oherwydd fy mod i'n credu yn y Deyrnas Unedig.
Wedi dweud hynny, a gaf i ddweud, am y rheoliadau teithio rhyngwladol, hoffwn i longyfarch Gweinidogion ar hyn, oherwydd mae'n ymddangos bod gwelliant enfawr yn y ffordd y mae'r rhain wedi eu nodi? Arferai fod cyhoeddiadau gwahanol ar yr un diwrnod neu'r diwrnod canlynol gan dair neu bedair gweinyddiaeth wahanol gyda rheolau ychydig bach iawn yn wahanol ar gyfer gwahanol wledydd ledled y byd, pob un yn cael eu harolygu, eu barnu a'u hasesu'n annibynnol ac mewn ffordd anghyson, ac yna'n cael eu cyhoeddi drwy'r cyfryngau, yn drysu pawb ac yn lleihau cydymffurfiad. Mae hynny wedi gwella'n fawr gyda'r broses newydd hon o adolygiad 28 diwrnod a phob gwlad yn penderfynu gyda'i gilydd, fel bod y gwledydd yn penderfynu ar sail y DU, sydd, yn fy marn i, yn welliant mawr. Yn yr un modd, rwy'n hyderu eich bod yn gallu darparu dull tebyg o ymdrin â rheoliadau'r Nadolig yn y modd a awgrymwyd. Diolch.
Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sydd wedi gofyn am gael gwneud ymyriad, er gwaethaf y ffaith y bu mwmian mewn rhannau penodol o'r Siambr, sy'n annheg i'r bobl hynny sydd yma yn rhithwir, ac mae hon i fod yn Senedd sy'n arddel cydraddoldeb. Felly rwy'n gofyn i chi feddwl am hynny. Felly galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ni fyddaf yn mynd i drafferth i ymateb i sylwadau bwriadol sarhaus y siaradwr diwethaf, a'r sylwadau ffeithiol anghywir.
Diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu ac am y crynodeb o'r gwaith craffu hwnnw yn ei gyfraniadau. Rydym ni'n parhau i gymryd o ddifrif y pwyntiau y maen nhw'n eu codi ac mae hynny'n arwain at newidiadau wrth ddrafftio. Rwy'n credu ei fod yn beth da ein bod ni wedyn yn ymateb i'r pwyntiau rhinwedd y maen nhw'n eu codi. Hyd yn oed os nad ydym ni bob amser yn cytuno, ceir, rwy'n credu, esboniad clir o'r gwahanol safbwyntiau, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig.
Rwy'n nodi y cytundeb gan y Ceidwadwyr Cymreig ar y cyfyngiadau o ran Denmarc. Mae'r pedair Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig wedi cyfarfod eto. Cymerais i ran yn y cyfarfodydd hynny. Rydym ni wedi cael sgyrsiau rhwng ein priod adrannau prif swyddogion meddygol. Rydym ni wedi cytuno i gynnal ac adolygu'r sefyllfa yn Nenmarc ymhen pythefnos arall. Y rheswm am hynny yw y dylem ni wedyn fod â mwy o dystiolaeth ynghylch pa mor llwyddiannus fu'r cyfyngiadau hynny yn Nenmarc, ond hefyd i fod â mwy o dystiolaeth ar yr epidemioleg a rhannu gwybodaeth. Dylwn i ddweud bod Llywodraeth Denmarc, rwy'n credu, wedi bod yn bartneriaid cyfrifol a da iawn wrth nodi'r mater a gweithredu'n brydlon a gweithio gyda ni a gwledydd eraill.
Rwy'n canfod fy hun mewn sefyllfa ryfedd gyda'r Ceidwadwyr a oedd yn gwrthwynebu cyfyngiadau teithio yn wreiddiol ond sydd bellach yn pryderu am godi'r cyfyngiadau yr oedden nhw'n eu gwrthwynebu iyn y lle cyntaf. Ond, fel y gŵyr Andrew R.T. Davies, fe wnaethom ni nodi yn flaenorol ac yn wir yn fy nghyfraniad i unwaith eto heddiw fod y coronafeirws wedi ymwreiddio ledled y wlad. Fe wnaethom ni ddweud hynny cyn y cyfnod atal byr, pan oedd y Ceidwadwyr yn amau hynny. Yna fe welsom ni gynnydd yn y cyfraddau ym mhob sir yn y wlad er gwaethaf y mesurau aros gartref a ddilynwyd gan bobl.
Mae'r mesurau cenedlaethol yn hawdd eu dilyn. Dyna'r cyngor a gawsom ni gan ein pwyllgor gwyddonol, y gell cyngor technegol. Nodwyd hynny yn yr adroddiad ymlaen llaw, ond hefyd yn y crynodebau rheolaidd yr ydym ni'n eu darparu bob wythnos hefyd. Roedd hynny hefyd yn dangos bod cyfyngiadau lleol wedi gwneud gwahaniaeth, ond nad oedd rhwydwaith o wahanol fesurau lleol yn gydlynol mwyach, a bod pobl yn ei chael hi'n anoddach i ddilyn y canllawiau. Ac, unwaith eto, mae angen i ni symud oddi wrth ddull gweithredu sy'n gyfan gwbl seiliedig ar reolau a chyrraedd sefyllfa lle mae pobl yn ymddwyn, ac annog pobl i feddwl yn wahanol ac ymddwyn yn wahanol, oherwydd bydd hynny'n hanfodol i ni o ran ymladd y feirws cyn y gallwn ni, yn y misoedd sydd i ddod—ac mae'n fisoedd i ddod—ddisgwyl cael brechlyn.
O ran pwyntiau Rhun ap Iorwerth, mae nifer o'r pwyntiau a wnaeth yn gwestiynau polisi mewn gwirionedd o ran y gefnogaeth. Wrth gwrs, rydym ni'n cael dadl yfory gydag amrywiaeth o awgrymiadau, ond mae'r ceisiadau am daliadau o £500 wedi dechrau yr wythnos hon. Maen nhw'n mynd i gael eu ôl-ddyddio i ddechrau'r cyfnod atal byr, 23 Hydref, felly mae cynnydd yn cael ei wneud. Rwy'n disgwyl gwneud mwy o gynnydd o ran profi polisi dros yr wythnos neu ddwy nesaf, a byddaf yn cadarnhau hynny mewn datganiad i'r Aelodau. Nawr, nid yw hynny, wrth gwrs, angen newid yn y rheoliadau; mater o bolisi a gweithredu yw hynny mewn gwirionedd.
O ran yr heriau tymor hwy, mae angen i ni weld—. Fe wnaethom ni ddweud o'r blaen y byddai hi'n cymryd dwy i dair wythnos o ddiwedd y cyfnod atal byr i ddeall ble'r ydym ni, ac yna i weld a oes angen i ni gymryd camau ychwanegol mewn unrhyw ran arall o Gymru. A cheisiais nodi hynny unwaith eto yn fy sylwadau agoriadol heddiw. Felly, nid yw'n fater yr ydym ni wedi ei roi o'n meddyliau. Mae bob amser yn bosibl y bydd angen i ni ddod yn ôl i hyn. Ac mae hynny'n dod â mi yn ôl at y Nadolig. Ac, unwaith eto, rwy'n nodi yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth yn ei gyfraniad ef, fod hwn yn bandemig peryglus. Mae hwn wir yn bandemig peryglus. Mae'n feirws heintus iawn sy'n cymryd bywydau ym mhob un cymuned ledled y wlad. Mae'r brechlyn yn y dyfodol. Nid yw ar gael ar hyn o bryd. Bydd y dewisiadau y byddwn ni'n eu gwneud ar hyn o bryd yn dod yn ôl atom yn ystod yr wythnosau nesaf. Felly, mae'r dewisiadau y byddwn ni'n eu gwneud am y bobl y byddwn ni'n eu gweld a'r cyswllt sydd gennym â nhw, yr amser yr ydym yn ei dreulio gyda nhw, yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Nid yw'r brechlyn yn rheswm i lacio ein gafael a gwastraffu'r enillion yr ydym ni wedi eu gwneud. A dylai ein rhagwelediad, ac edrych ymlaen at dymor y Nadolig ddiwedd y flwyddyn, wneud i ni i gyd feddwl am yr hyn yr ydym ni'n barod i'w wneud, oherwydd os na allwn ni wneud y peth iawn gyda'n gilydd, yna, mewn gwirionedd, efallai y byddwn yn canfod ein hunain mewn sefyllfa lle y gallai'r feirws fod wedi cynyddu unwaith eto, cyn i ni gyrraedd canol mis Rhagfyr, ac achosi cymaint o niwed fel y gallai fod angen ymyrryd ymhellach. Nid dyna y mae'r Llywodraeth yn dymuno ei weld yn digwydd. Rydym ni eisiau i bobl gymryd cyfrifoldeb a meddwl am eu dewisiadau, i fesur eu risg eu hunain a'r risg y maen nhw yn ei chyflwyno i bobl eraill, oherwydd os na allwn ni wneud hynny gyda'n gilydd, yna byddwn ni'n wynebu, ac o bosibl yn cael ein gorfodi, i wneud dewisiadau anodd ac annymunol iawn. Ac nid wyf i'n dymuno ymyrryd ym mywydau pobl mwy nag y mae'n rhaid i mi i gadw'r wlad yn ddiogel.
Felly, rwy'n diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl heddiw. Rwy'n cymeradwyo y ddwy gyfres o reoliadau i'r Aelodau ac yn gofyn i chi eu cefnogi.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 10. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gweld gwrthwynebiad. Iawn, diolch. Felly, gohiriwn ni'r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 11. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gweld gwrthwynebiad i eitem 11. Felly, gohiriwn ni'r pleidleisio hwnnw tan y cyfnod pleidleisio.