– Senedd Cymru ar 18 Tachwedd 2020.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enwau Gareth Bennett a Mark Reckless, gwelliannau 2 a 4 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 3 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol.
Dadl Plaid Cymru sydd nesaf, ar ardaloedd cymorth arbennig COVID-19. Dwi'n galw ar Leanne Wood i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7480 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r lefelau uchel parhaus cyfraddau heintio COVID-19 yng nghymoedd y de, gydag ardaloedd o fyrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan yn profi rhai o'r cyfraddau uchaf yn y DU.
2. Yn nodi'r ymchwil a gynhaliwyd yn Lloegr sy'n dangos bod effeithiau'r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar gymunedau ôl-ddiwydiannol yng ngogledd Lloegr ac wedi gwaethygu gwahaniaethau rhanbarthol hirsefydlog y wladwriaeth Brydeinig.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddynodi ardaloedd lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch yn ardaloedd cymorth arbennig COVID i fod yn gymwys i gael mesurau cymorth ychwanegol a fyddai'n cynnwys:
a) cymorth ychwanegol i'r rhai sy'n agored i niwed o safbwynt clinigol ac na allant weithio gartref;
b) cynyddu'r grant hunanynysu i £800;
c) adnoddau ychwanegol ar gyfer timau profi ac olrhain ac awdurdodau lleol;
d) llety gwirfoddol ychwanegol i'r rhai nad ydynt yn gallu hunanynysu'n ddiogel gartref;
e) mwy o brofion i ganfod achosion asymptomatig;
f) blaenoriaeth ar gyfer rhaglenni profi torfol a chyflwyno unrhyw frechlyn yn gynnar;
g) cryfhau ymgyrchoedd cyfathrebu cyhoeddus lleol i'w gwneud yn haws i gadw at ganllawiau iechyd y cyhoedd:
h) adnoddau ychwanegol ar gyfer wardeiniaid COVID lleol ar gyfer awdurdodau lleol a hyrwyddwyr cymunedol COVID i ailadrodd negeseuon atal COVID cenedlaethol;
i) mesurau amddiffynnol ychwanegol mewn ysgolion ac ar gludiant i'r ysgol, gan gynnwys gwisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth;
j) adnoddau ychwanegol ar gyfer gofal plant diogel a fforddiadwy;
k) mesurau ychwanegol i liniaru'r rhaniad digidol a tharfu ar addysg;
l) mwy o gefnogaeth i fusnesau a phobl hunangyflogedig sy'n dewis rhoi'r gorau i fasnachu'n wirfoddol dros dro;
m) gorchmynion gwasgaru yng nghanol trefi ar ôl cau tafarndai.
Diolch, Lywydd. Mae Plaid Cymru am gael cymorth ychwanegol i gymunedau sydd wedi cael eu taro'n anghymesur gan COVID. Yr ardaloedd sydd â'r cyfraddau uchaf o achosion COVID yw Merthyr, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent. Mae'r ffigurau ar gyfer Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf a Merthyr wedi bod yn uwch na ffigurau Lerpwl, sydd wedi elwa ar gymorth a blaenoriaeth ychwanegol ar gyfer technolegau newydd. Nid oes a wnelo hyn ddim â diwylliant y Cymoedd, fel y mae rhai wedi honni, a phopeth i'w wneud â thlodi a chyflogau isel, tai gwael, gorlawn, patrymau cyflogaeth sy'n golygu y gall llai o bobl weithio gartref, y system nawdd cymdeithasol gamweithredol nad yw'n cynorthwyo pobl ym mhob achos i hunanynysu, a dibyniaeth ar aelodau o'r teulu a ffrindiau ar gyfer gofal plant. Felly, cyn stereoteipio, byddai'n ddefnyddiol pe gallai pobl ddeall y ffeithiau perthnasol hyn.
Mae'n sicr yn newyddion da ei bod yn ymddangos bod y cyfnod atal byr wedi cael effaith gadarnhaol ar achosion. Dylai'r Llywodraeth fod yn ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl ynysu. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed, a rhaid inni hefyd, fel trethdalwyr, fod yn barod i gefnogi'r rheini sy'n peryglu popeth i'n helpu ni i gyd, sef y gweithwyr rheng flaen. Ac ar y nodyn hwnnw, un arwydd bach o gefnogaeth a fyddai i'w groesawu'n fawr fyddai pe bai'r Llywodraeth yn cytuno i dalu am angladdau pob gweithiwr rheng flaen sy'n marw o COVID. Nid yw'n iawn fod eu teuluoedd yn gorfod poeni am gyllid ar adeg o alar. Rhaid inni gydnabod hyn a'u cefnogi.
Mae'n bryd inni dderbyn nawr fod ysgolion yn chwarae rhan fwy yn y broses o drosglwyddo'r haint nag y credwyd i ddechrau. Mae modelu a data'r swyddfa ystadegau gwladol yn awgrymu bod plant yn fwy tebygol o fod yn achos cyntaf mewn cartref. Mae plant a phobl ifanc yn debygol o fod yn lledaenwyr asymptomatig. Mae angen rhoi llawer mwy o ystyriaeth i sut i reoli trosglwyddiad mewn ysgolion. Rhaid cael profion torfol rheolaidd i nodi achosion asymptomatig, a rhaid cael cymorth ychwanegol i gydnabod yr anawsterau gyda dysgu digidol sy'n wynebu teuluoedd sy'n ceisio cyfuno gofal plant ac addysgu eu plant â chyflogaeth amser llawn. I ddod yn ôl at brofi, ym mis Medi, addawodd Llywodraeth Cymru
'Mae pob ysgol yng Nghymru wedi derbyn pecynnau profi. Hefyd o gymorth i ysgolion unigol lle bo’r angen fydd profi cyflym gan Wasanaeth Iechyd Cymru.'
Beth sydd wedi digwydd i hynny? Nid oes profion torfol o hyd i gadw ysgolion yn ddiogel ac ar agor. Mae athrawon yn cwyno wrthyf am y pwysau meddyliol sy'n deillio o gael ond ychydig o gyfathrebiadau gan y Llywodraeth ynglŷn â'r cynllun, neu'r diffyg cynllun, i ganslo'r arholiadau. Oni fyddai'n syniad gwych cael cynllun cyn i ni gael y cyhoeddiad? Ond mae athrawon hefyd yn teimlo'n anniogel. Dywedodd un yn ddiweddar, 'Rwy'n arswydo rhag mynd i'r gwaith, heb wybod a yw pobl yn asymptomatig. Mae'r straen yn fy ngwneud i'n gorfforol sâl'. Mae athrawon yn haeddu gwell na hyn.
At hynny, o gofio mai aelwydydd yw un o'r prif lwybrau trosglwyddo, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae tai gorlawn yn broblem, cred Plaid Cymru fod yr amser wedi dod i'r Llywodraeth sefydlu cyfleusterau ynysu ar wahân i oedolion. Defnyddiwyd cyfleusterau o'r fath yn Ne Korea, Singapôr, Taiwan, yr Eidal, y Ffindir a llawer o wledydd eraill sydd â hanes gwell o lawer o atal y feirws. Byddai lleoedd o'r fath nid yn unig yn cynnig lle diogel i bobl ddod dros salwch ysgafn heb ei ledaenu i berthnasau hŷn neu fwy agored i niwed sy'n byw gyda hwy, byddai hefyd yn cynnig cyfle i fonitro pobl ac ymyrryd yn gynharach pan fyddant yn dirywio. Mae'r ymyrraeth gynnar hon mor bwysig, a bodolaeth y cyfleusterau hyn sy'n esbonio'n rhannol pam mai Singapôr sydd â'r gyfradd farwolaethau isaf yn y byd, ar 0.05 y cant.
Rydym angen llawer o ymyriadau eraill yn yr ardaloedd sydd â chyfradd uchel o achosion o COVID. Mae angen inni wneud llawer mwy i ddiogelu'r rheini sy'n agored iawn i niwed yn glinigol, ac mae angen inni wneud llawer mwy ar ochr ariannol hyn i gyd, i unigolion ac i fusnesau. Rhaid inni gael newid yn y dull o weithredu i gydnabod bod y pandemig a'r ymatebion i'r pandemig yn cael eu profi'n wahanol ac mewn ffordd wahanol sy'n adlewyrchu anghydraddoldebau presennol. Nid damwain yw bod cyfraddau uchel o COVID yn adlewyrchu cyfraddau amddifadedd uchel, a rhaid i ymateb y Llywodraeth roi gwell ystyriaeth i hynny.
Rwyf wedi dethol y pump gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Mae'r gwelliant cyntaf yn enw Gareth Bennett, a dwi'n galw arno fe i gyflwyno ei welliant—Gareth Bennett.
Gwelliant 1—Gareth Bennett, Mark Reckless
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod ardaloedd sy'n parhau i fod â nifer fawr o achosion o COVID-19 wedi elwa o'r cymorth ariannol o £5 biliwn a roddwyd i Gymru yn ystod pandemig COVID-19 gan Lywodraeth y DU.
2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â strategaeth COVID-19 sy'n wahanol i'r strategaeth gan Lywodraeth y DU yn gyson ac nad yw hyn wedi helpu'r cyfraddau heintio uchel parhaus sy'n gyffredin yng nghymoedd y de.
3. Yn credu mai'r ymateb gorau i gynorthwyo'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan COVID-19 yng Nghymru yw drwy gael ymateb unedig yn y DU, dan arweiniad Llywodraeth y DU.
Diolch, Lywydd. Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw a diolch hefyd, Lywydd, am dderbyn gwelliant 1, rwyf drwy hyn yn ei gynnig. Bydd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yn pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru heddiw, nid am nad ydym yn cytuno â rhai o'r mesurau y maent yn eu cynnig, ond yn hytrach am ein bod yn anghytuno â ffocws eu cynnig. Mae Plaid Cymru yn cynnig llu o gamau gweithredu y maent am i Lywodraeth Cymru eu cymryd. Ein safbwynt ni yw bod llawer o broblemau ymdrin â'r pandemig wedi'u gwaethygu gan bedair Llywodraeth wahanol ledled y DU yn gwneud pethau gwahanol. Mae hyn wedi arwain at ddryswch enfawr. Mae gwir angen ymateb unedig yn y DU, dan arweiniad Llywodraeth y DU.
Ar hyn o bryd, mae gwahanol setiau o reolau ar draws ffiniau honedig, megis rhwng Cymru a Lloegr—ffiniau nad ydynt wedi bodoli mewn unrhyw ffordd ystyrlon ers cannoedd o flynyddoedd. Wedyn, mae'r rheolau'n newid, ac maent yn wahanol eto mewn gwahanol rannau o'r DU. Nid rheolau go iawn yw rhai o'r rheolau, canllawiau'n unig ydynt mewn gwirionedd, sydd fel pe baent yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn esgus y gellir erlyn pobl am wneud rhywbeth pan na allant wneud hynny mewn gwirionedd. Y perygl gwirioneddol yw y bydd yr holl ddryswch yn arwain at ddirmyg tuag at y rheolau ymhlith cyfran fawr o'r cyhoedd. Mae arnaf ofn y gallai hyn fod yn anochel.
Gan droi at y gwelliannau, cytunwn â rhywfaint o'r hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddweud, a rhywfaint o'r hyn y mae Llafur yn ei ddweud. Yn y bôn mae Llafur yn dweud wrthym eu bod wedi gwneud popeth yn iawn, tra bod y Ceidwadwyr yn galw am fwy o weithredu gan Fae Caerdydd. A gaf fi wneud y pwynt yn gyntaf fod y Ceidwadwyr yn sicr yn iawn ynglŷn ag un peth, sef bod y £5 biliwn y mae Cymru wedi'i gael gan Drysorlys y DU wedi sicrhau ein bod yn cadw ein pennau uwchben y dŵr, ac na fyddai gennym obaith o ddod drwy'r argyfwng hwn hebddo? Felly, y ffaith ei bod yn rhan o'r DU sydd wedi helpu Cymru yma.
A gaf fi hefyd nodi bod COVID-19 yn argyfwng nad yw'n effeithio ar Gymru'n unig? Mae'n effeithio ar y DU gyfan. Felly, does bosibl na fyddai'n llawer haws lliniaru problemau'r argyfwng hwn drwy gael un strategaeth ar waith ledled y DU. Mae'n hurt meddwl bod cael gwahanol setiau o wleidyddion mewn pedwar lle gwahanol yn helpu pethau, gyda phawb yn meddwl am eu hatebion a'u mesurau lliniaru eu hunain yn erbyn yr argyfwng erchyll hwn. Mae'n teimlo'n fwyaf hurt yn ardaloedd y ffin, lle gall trigolion lleol weld cymaint o nonsens yw bod siopau a thafarnau a bwytai'n cael agor mewn un lle, ond yn gorfod aros ar gau ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd. Yna, yr wythnos ganlynol, mae'r sefyllfa'n newid fel bod y gwrthwyneb yn wir. Nid dyma'r ffordd o ymdrin yn gynhwysfawr ag argyfwng rhyngwladol.
Efallai y bydd cefnogwyr datganoli'n dadlau mai gwahaniaethau o'r fath yw hanfod datganoli. Rwy'n meddwl weithiau tybed a yw Llywodraeth Cymru yn credu bod yn rhaid iddi wneud rhywbeth gwahanol i Lywodraeth y DU er mwyn cyfiawnhau ei bodolaeth a dim mwy na hynny. Y broblem yw mai'r bobl fydd yn drysu yn sgil yr holl reolau gwahanol hyn, a hwy yw'r rhai a fydd yn dioddef yn ddiangen. Mae'r bobl wedi dod yn wystlon mewn gêm beryglus sy'n cael ei chwarae gan y datganolwyr ymroddedig ym Mae Caerdydd a Holyrood. Nid ydym wedi wynebu argyfwng ledled y DU tebyg i hwn ers dechrau datganoli 21 mlynedd yn ôl, felly mae'n ddiddorol iawn gweld sut y mae wedi datblygu.
Mae problemau datganoli wedi cynnwys Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru, ond maent hefyd wedi cynnwys haenau eraill o Lywodraeth megis meiri a etholwyd yn uniongyrchol. Cawsom y llanast braidd yn annymunol pan wnaeth Andy Burnham, maer Llafur Manceinion fwyaf, ddatgan yn agored y byddai'n cytuno i gyfyngiadau Llywodraeth y DU cyn belled â bod ei faenoriaeth fach yn cael swm cyfatebol o iawndal ar ffurf mwy o arian gan y Llywodraeth. Daw'n amlwg o ymddygiad Burnham ein bod yn anelu tuag at fath o Lywodraeth sy'n gyfarwydd yn UDA, a elwir yn wleidyddiaeth 'casgen borc': 'Fe gewch ein pleidlais cyn belled â'n bod yn cael eich arian'. Yn anffodus, fodd bynnag, bydd mwy o arian ar gyfer Manceinion fwyaf yn golygu llai o arian ar gyfer lleoedd eraill, felly nid yw'r math hwn o ryfelgarwch gan unben pot jam lleol fel Andy Burnham yn gwneud llawer dros y DU gyfan. Cawsom enghraifft fwy hurt byth o anfanteision datganoli gyda'r gwrthdaro rhwng y Prif Weinidog a maer Middlesbrough, Andy Preston. Ym mis Hydref, anghytunodd y Maer Preston â'r Prif Weinidog ynghylch y cyfyngiadau a dywedodd:
Fel y mae pethau, rydym yn herio'r Llywodraeth.
Sut y gall maer tref fod mewn unrhyw sefyllfa i herio Llywodraeth y DU? Etholwyd Andy Preston yn faer Middlesbrough wedi iddo gael 17,000 o bleidleisiau. Enillodd y Prif Weinidog etholiad cyffredinol lle cafodd y Ceidwadwyr bron i 14 miliwn o bleidleisiau. Nid oes cyfatebiaeth ddemocrataidd rhwng Prif Weinidog y DU a maer Middlesbrough. Yn yr un modd, nid oes cyfatebiaeth ddemocrataidd rhwng Prif Weinidog Cymru a etholwyd ar gyfradd bleidleisio o 45 y cant o'r boblogaeth o 3 miliwn a phrif Weinidog y DU a etholwyd ar gyfradd bleidleisio o 67 y cant o'r boblogaeth o 65 miliwn.
Mae COVID-19 yn argyfwng cenedlaethol. Mae'n dod yn fwyfwy amlwg nad yw'r DU, dan ddatganoli, yn gallu ymdopi ag argyfwng cenedlaethol mewn ffordd unedig. Weithiau, rwy'n meddwl tybed beth fyddai wedi digwydd yn ystod yr ail ryfel byd pe bai gennym ddatganoli. Dychmygwch: 'Mae Prif Weinidog Cymru yn arwain protest yn erbyn dod â charcharorion rhyfel Almaenig ac Eidalaidd i Gymru.'
Mae eich amser ar ben bellach, Gareth Bennett. A gaf fi ofyn i chi ddod â'ch sylwadau i ben?
Fe ddatblygaf y pwynt hwn eto. I gloi, dyma'r nonsens sydd gennym yn awr gyda datganoli. A gawn ni gael gwared ar yr anhrefn gyfansoddiadol hon os gwelwch yn dda—
Rwy'n credu fy mod wedi—
Diolch, Llywydd.
Diolch yn fawr iawn.
Dwi'n galw nawr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliannau 2 a 4 yn enw Rebecca Evans.
Yn ffurfiol, Weinidog?
Gwelliant 4—Rebecca Evans
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystod eang o fesurau cymorth cenedlaethol ar waith i ymateb i’r pandemig COVID-19, gyda’r nod o gynorthwyo’r ardaloedd hynny lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uchel yn ogystal ag ardaloedd eraill yng Nghymru, gan gynnwys:
a) cynyddu’r gallu i brofi ac olrhain cysylltiadau a chyflwyno dewisiadau profi newydd;
b) cyllid a chymorth ychwanegol i awdurdodau lleol;
c) ymgyrchoedd helaeth i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws sianelau’r cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol;
d) cymorth i ailagor ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn ddiogel;
e) cyllid ar gyfer adferiad economaidd ac ar gyfer busnesau yng Nghymru;
f) taliad hunanynysu o £500.
Yn ffurfiol, Lywydd.
Diolch. Galwaf ar Andrew R.T. Davies nawr i gynnig gwelliant 3 yn enw Darren Millar. Andrew R.T. Davies.
Gwelliant 3—Darren Millar
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r lefelau hanesyddol o gyllid gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i holl ranbarthau a chenhedloedd y DU, gan gynnwys yr ardaloedd hynny sydd â chyfraddau heintio uchel, i fynd i'r afael â pandemig COVID-19, yn enwedig y £5 biliwn o arian ychwanegol a roddwyd i Lywodraeth Cymru.
Yn credu y dylid rhoi mesurau cymorth ychwanegol ar waith yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn sgil adroddiadau yn y cyfryngau bod o leiaf 9,000 o gleifion wedi bod yn aros am fwy na blwyddyn am driniaeth gan y GIG ym mis Medi yn yr ardal honno, gydag amseroedd aros i fod i gynyddu ymhellach yn dilyn effaith COVID-19.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r canlynol mewn perthynas ag ardaloedd lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch, yn ogystal ag ardaloedd eraill ledled Cymru:
a) targedu ardaloedd lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch yng Nghymru, gan gynnwys cyfyngiadau call wedi'u targedu lle y bo'n briodol;
b) cynyddu'r nifer o ysbytai sy'n rhydd o COVID a chyfleusterau ysbyty dros dro a gaiff eu cyflwyno er mwyn lleddfu'r pwysau ar y system gofal iechyd a mynd i'r afael â rhestrau aros;
c) targedu profion mewn ardaloedd lle ceir problemau a chyflwyno sgrinio asymptomatig ddwywaith yr wythnos ar gyfer yr holl staff sy'n wynebu cleifion yn y GIG yng Nghymru a'r sector gofal cymdeithasol;
d) comisiynu ymchwiliad brys i farwolaethau a heintiau sy'n gysylltiedig ag achosion a gaiff eu trosglwyddo mewn ysbytai;
e) cyflwyno pecyn cymorth tosturiol i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed gan y coronafeirws yng Nghymru;
f) ôl-ddyddio taliadau hunanynysu yng Nghymru hyd at 28 Medi er mwyn sicrhau chwarae teg gyda rhannau eraill o'r DU;
g) dyrannu gweddill yr arian nas gwariwyd a ddarparwyd gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i fynd i'r afael â'r coronafeirws.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am roi'r cynnig ger ein bron y prynhawn yma i'w drafod. Siaradaf am y gwelliant yn enw Darren Millar, gwelliant 3, sy'n tynnu sylw at yr adnoddau ychwanegol sy'n cael eu darparu i Lywodraeth Cymru drwy ei rhan yn yr undeb. Gallwn ychwanegu fod £5 biliwn o adnoddau hyd yma yn gyfraniad ariannol sylweddol i'r ymdrech i drechu COVID a chefnogi'r economi ar hyd a lled Cymru, a byddwn yn awgrymu bod bod yn rhan o'r undeb hwnnw wedi ein galluogi i adeiladu'r fantolen hon sydd wedi edrych ar y pandemig ac wedi gwneud i'r cyhoedd yng Nghymru sylweddoli pa mor gryf yw mantolen yr undeb pan elwir arni i gefnogi pob rhan o'r undeb yn wyneb y pandemig sy'n dal i ddatblygu o flaen ein llygaid.
Byddwn hefyd yn uniaethu â sylwadau'r siaradwr agoriadol a oedd yn galw am adnoddau ychwanegol ar gyfer ardal bwrdd iechyd Cwm Taf, fel sydd yn ein gwelliant. Fel Aelod rhanbarthol dros Ganol De Cymru, bob bore dydd Iau byddaf yn mynychu sesiwn friffio, drwy sesiwn Zoom, ynglŷn â'r hyn sy'n datblygu yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf, sydd, i'r rhai nad ydynt yn gwybod, yn ymestyn o Ferthyr Tudful drwy ardal Rhondda Cynon Taf ac i lawr i fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awr. Rhaid i mi ddweud, pan glywch ystadegau difrifol, yn anffodus, yr heintiau a ddaliwyd mewn ysbytai a'r marwolaethau mewn ysbytai—ac mae'n werth eu hailadrodd yn y fforwm hwn: mae Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn anffodus, wedi colli 57 o bobl, mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi colli 61, ac Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful wedi colli 34. Mae hynny, ar yr ochr iechyd yn unig, yn dangos yr effaith y mae COVID wedi'i chael mewn ysbytai, heb sôn yr hyn sy'n digwydd yn y gymuned, lle mae bron i 9,000 o bobl wedi'u heintio â COVID yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf.
Beth bynnag fyddai barn pobl am y system haenog a fabwysiadwyd yn Lloegr, mae'n iawn dweud bod adnoddau ychwanegol ynghlwm wrth y system haenog honno a ganolbwyntiai ar y cyfyngiadau penodol a roddwyd ar waith yn yr ardaloedd hynny, yn wahanol i'r fan hon yng Nghymru, lle cafodd siroedd eu rhoi dan gyfyngiadau heb unrhyw gymorth ariannol ychwanegol i leddfu'r ergydion, yn economaidd, a ddeilliai o'r cyfyngiadau hynny. A chredaf fod angen i Lywodraeth Cymru, gyda £1.6 biliwn yn ei chyllideb heb ei wario o'r swm canlyniadol o £5 biliwn, edrych ar y nifer uwch o achosion mewn cymunedau sydd eisoes â lefelau uchel o dlodi a heriau gwirioneddol yn y cymunedau hynny, a cheisio mynd i'r afael â hynny drwy ddefnyddio rhywfaint o'r £1.6 biliwn hwnnw i helpu'r adfywiad economaidd a'r adeiladu nôl ar ôl COVID y mae ein gwelliant yn siarad amdano. Oherwydd rwy'n credu bod y pŵer yno, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ymateb, yn enwedig pan edrychwch ar y niferoedd, fel rwyf wedi'u darllen, gyda'r nifer drasig o farwolaethau mewn ysbytai yn yr ardal benodol honno, ond hefyd y gyfradd heintio yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf, sy'n siarad drosti'i hun. Mae'n mynd i fod yn daith hir, ond gallwn ddechrau ailadeiladu, a gallwn, heb unrhyw amheuaeth—nid wyf yn ceisio bachu'r ymadrodd—ailadeiladu'n llawer gwell na phan aethom i mewn i'r argyfwng hwn o bosibl, gyda'r dychymyg cywir a'r ewyllys wleidyddol gywir yma.
Credaf hefyd, gyda'r taliadau hunanynysu y soniwyd eu bod yn dod gan Lywodraeth Cymru, ei bod yn bwysig eu bod yn cyd-fynd ag ardaloedd eraill o'r Deyrnas Unedig ac wedi'u hôl-ddyddio i 28 Medi, yn hytrach na dim ond 22 Hydref, fel y mae'r Llywodraeth wedi nodi yma. Clywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, pan soniodd pam ei bod yn bwysig i'r systemau adlewyrchu mesurau a roddwyd ar waith i ddiogelu rhag twyll, ac rydym i gyd yn cytuno â hynny; rydym am gael y gwerth gorau am y bunt gyhoeddus. Ond mae'n hanfodol, pan fydd y mesurau hyn ar waith, fod £500 ar gael o'r adeg y daethpwyd â'r mesurau hynny i rym. Ac os gall rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ddatblygu'r systemau—datblygu'r systemau hynny'n hyderus—a all ddarparu'r gefnogaeth honno'n ôl tan ddiwedd mis Medi, yn hytrach na diwedd mis Hydref, credaf y dylem fod yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud hynny, a dyna mae ein cynnig yn galw amdano—ein gwelliant i'r cynnig, mae'n ddrwg gennyf—heddiw.
Mae'r gwelliant hefyd yn cyffwrdd ag amseroedd aros ysbytai. Ac mae'r ffigurau'n cael eu cyhoeddi yfory, rwy'n credu, a fydd yn rhoi darlun go iawn inni o sut olwg sydd ar yr amseroedd aros hynny yng Nghymru. Ond rydym yn gwybod, o geisiadau rhyddid gwybodaeth gan y BBC ac astudiaethau a wnaed gan elusen canser Macmillan, er enghraifft, o ran amseroedd aros, amseroedd aros cyffredinol, fod tua 49,000 o bobl ar restr aros yma yng Nghymru, ac mewn perthynas â chanser, nododd Macmillan y perygl o hyd at 2,000 o farwolaethau cynamserol am nad yw pobl wedi gallu cael yr apwyntiadau canser a'r triniaethau canser sydd mor hanfodol naill ai i sicrhau gwellhad o ganser neu sicrhau bod amser gwerthfawr yn cael ei brynu ar gyfer y claf canser hwnnw. Ac mae hwn yn faes hanfodol y mae angen inni fod yn ei ddatblygu ar y cyd â'r colegau brenhinol, a datblygu'r cysyniad o fannau rhydd o COVID yn ein hysbytai a'n lleoliadau ysbyty, fel y gallwn daro'r cydbwysedd rhwng y gwasanaeth iechyd fel gwasanaeth iechyd COVID, ond fel gwasanaeth iechyd sy'n gwneud yr hyn y mae wedi'i gynllunio i'w wneud, sef diwallu anghenion iechyd cyffredinol y boblogaeth.
Ac felly rwy'n gobeithio y bydd y gwelliant yn cael cefnogaeth yma heno yn y Senedd, oherwydd rwy'n credu ei fod yn ychwanegu at y cynnig sydd ger ein bron i'w drafod a hoffwn annog y Senedd i gefnogi'r gwelliant pan gynhelir y bleidlais.
Mae cymaint o realiti economaidd y Cymoedd yn ystod y 40 mlynedd diwethaf wedi deillio o ddinistrio'r diwydiannau glo a'r diwydiannau cysylltiedig yn fwriadol gan Lywodraeth Thatcher. Roedd y brad hwnnw fel daeargryn ac mae wedi arwain at sawl ôl-gryniad. Nid yw ein hysbryd cymunedol erioed wedi pylu, ond mae ein lefelau diweithdra'n dal yn ystyfnig o uchel ac mae ein canlyniadau iechyd yn cario creithiau degawdau o danfuddsoddi. Mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth wedi talu'r pris am yr hyn a gymerodd Thatcher oddi wrthynt.
Yr ergyd ddiweddaraf yw'r effaith anghymesur o galed y mae COVID-19 yn ei chreu. Mae'r feirws wedi bod yn greulon ac yn ddi-baid mewn cymunedau ledled Cymru, ond mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol lle mae tai'n agos at ei gilydd a chyflogaeth mor ansicr fel na all rhai fforddio hunanynysu, mae'r feirws wedi gallu lledaenu'n frawychus o gyflym. Merthyr Tudful sydd â'r nifer uchaf o achosion y pen o'r boblogaeth yng Nghymru. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru, heddiw, wedi cadarnhau y bydd profion torfol ar gael i drigolion yr ardal, p'un a oes ganddynt symptomau ai peidio. Mae'n hen bryd. Ond mae angen inni adeiladu ar hynny a darparu'r cymorth ychwanegol y mae ein cynnig yn galw amdano, fel bod pobl sy'n byw yn ein cymunedau yn cael gofal, nid diagnosis yn unig.
Pan osodwyd cyfyngiadau lleol ar ardaloedd yng Nghymru, Caerffili oedd y gyntaf, ac yna'r Rhondda, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Chasnewydd, a Thorfaen yn ddiweddarach. Beth sydd gan yr ardaloedd hyn yn gyffredin? Wel, Lywydd, maent yn ardaloedd sydd â phoblogaethau hŷn, gyda strydoedd teras, a lle mae cysylltiadau teuluol yn dal yn gryf. Mae ein cysylltedd wedi cael effaith greulon, ac unwaith eto, rydym wedi dioddef oherwydd cynllunio gwael a degawdau o danfuddsoddi. Gwn fod cymunedau ledled Cymru wedi dioddef, ac yn amlwg, dylai'r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar gyfer ardaloedd lle ceir llawer o achosion fod ar gael ym mhobman y mae ei angen. Ond ceir rhesymau sylfaenol pam y mae'r ardaloedd y cyfeiriais atynt wedi cael eu taro'n arbennig o galed, ac mae'n rhaid i ni unioni hynny.
Canfu adroddiad gan gell cyngor technegol Llywodraeth Cymru ar anghydraddoldebau iechyd fod y pandemig wedi dwysáu anghydraddoldebau iechyd a oedd eisoes yn bodoli, a bod y materion sylfaenol hyn yn deillio o incwm isel, tai gwael a chyflogaeth ansicr. Sawl gwaith y mae'n rhaid inni wrando ar yr un canfyddiadau o adroddiad arall eto fyth cyn i rywun wrando a rhoi'r hyn y maent ei angen i'n cymunedau? Dyna pam y galwn am y gefnogaeth ehangach hon. Rydym am weld llety i bobl nad ydynt yn gallu hunanynysu gartref, cymorth ar gyfer gofal plant diogel a fforddiadwy, a mesurau diogelwch i ysgolion, fel cyflwyno gwisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth. Mae angen buddsoddiad arnom i oresgyn y gagendor digidol i'w gwneud yn haws i bobl gadw mewn cysylltiad pan na allant weld ei gilydd wyneb yn wyneb. A byddwn yn ychwanegu at hynny yr angen am gymorth iechyd meddwl i helpu cymunedau gyda'r trawma cyfunol y maent yn ei ddioddef. Gellid gweithredu llawer o'n cynigion ledled Cymru, megis cynyddu'r grant hunanynysu i bobl ar incwm isel i £800 er mwyn darparu mwy o ofal plant a chymorth i bobl na allant weithio gartref. Byddai'r camau hyn yn helpu unigolion a theuluoedd ledled Cymru, ond mae eu hangen yn arbennig lle gwelwyd y lefel uchaf o achosion o'r feirws.
Mae ennyn hyder y cyhoedd yn hollbwysig, a dyna pam ein bod am gael ymgyrchoedd cyfathrebu cryfach. Pan osodwyd cyfyngiadau lleol yng Nghaerffili, ni roddwyd unrhyw ganllawiau swyddogol i breswylwyr ar yr hyn y dylent ei ddisgwyl am fwy na 24 awr, gan adael pobl yn teimlo'n ansicr ac yn bryderus. Rhaid inni ddysgu gwersi o'r cyfyngiadau hynny. Ond mae angen i ni ddeall mwy hefyd am y patrymau ymddygiad sy'n hwyluso lledaeniad y feirws. Byddai'n sicr yn fuddiol i'r Llywodraeth gomisiynu ymchwil yn y maes hwn, oherwydd pe tynnid sylw at rai o'r patrymau ymddygiad hyn, byddai cymunedau'n gwybod pa gamau i'w cymryd i ddiogelu eu hunain.
Lywydd, mae gobaith ar y gorwel, gyda chanlyniadau cychwynnol addawol yn achos dau frechlyn. Ond rydym yn wynebu misoedd tywyll ac anodd yn y gaeaf i ddod, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gynllunio mewn ffordd strategol sy'n targedu cymorth lle mae ei angen fwyaf. Mae angen cymorth ar y cymunedau hynod hyn. Maent wedi bod yn galw am y cymorth hwnnw ers degawdau. O'r diwedd, efallai y gall y Llywodraeth hon fynd ati nawr i unioni'r anghydraddoldebau sydd wedi plagio ein strydoedd a mynd i'r afael â'r holl ôl-gryniadau sydd wedi adleisio dros y degawdau ers cau'r pyllau glo. Os nad nawr, pryd?
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon ac am eu cynnig hefyd? Ar frig y cynnig, yn y tri phwynt sydd ganddynt, mae'r un cyntaf yn nodi'r nifer uchel barhaus o achosion o COVID-19 ar draws Cymoedd y de. Mae rhannau eraill o Gymru hefyd—yng ngogledd Cymru hefyd yn wir—yn dioddef cyfraddau uchel, ond mae'n arbennig o gyffredin ar draws Cymoedd de Cymru. Ac wrth groesawu rhai o'r sylwadau yng nghyflwyniad Leanne, rhoddodd ffocws ar Gymoedd de Cymru. Os caf nodi hefyd y ffaith bod Cwm Taf yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr yn ogystal â chymoedd y Rhondda, cwm Nedd, Merthyr Tudful ac yn y blaen. Ac rwy'n gwybod nad oedd yn bwriadu hepgor hynny, ond ym mhen uchaf cymoedd Ogwr, rydym hefyd wedi gweld nifer uchel iawn o achosion o COVID-19, ac wrth gwrs, rydym yn rhan o ardal Cwm Taf.
Ac ar y pwynt cyntaf hwnnw, a gaf fi hefyd groesawu cyfraniad Andrew R.T. Davies, gan nodi'r dystiolaeth a gasglwyd ac a roddwyd i'r holl Aelodau o'r Senedd yn sesiynau briffio Cwm Taf? Ond hoffwn ddweud wrtho, yn ofalus iawn, mai'r union dystiolaeth honno o'r effaith ar y gwasanaeth iechyd yng Nghwm Taf, yn ogystal â lledaeniad yn y gymuned a lledaeniad yn y gweithle, dyna'n union pam roeddem angen y cyfnod atal byr a phopeth a ddaeth gydag ef er mwyn lleihau rhywfaint, er dros dro, ar y lledaeniad a'r cynnydd enfawr a welsom yn yr ardal. Roedd taer angen y cyfnod atal byr hwnnw arnom. Nawr, rhaid inni ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw, bob un ohonom sy'n byw yn ardal Cwm Taf i wneud iddo weithio wrth inni nesáu at fisoedd y gaeaf.
Nododd hefyd, yn eitem Rhif 2, yr ymchwil a wnaed yn Lloegr, y credaf ei fod yn berthnasol iawn yng Nghymru mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol, fel y dywedodd Delyth yn gywir. Yr hyn sydd gennym yw anghydraddoldebau strwythurol yng Nghymoedd de Cymru, a rhannau eraill o Gymru, rhaid imi ddweud, oherwydd mae yna ardaloedd ôl-ddiwydiannol eraill, gan gynnwys yng nghymunedau gogledd Cymru hefyd. Maent yn anghydraddoldebau hir a dwfn, ac mae'n sicr yn wir, fel y mae'r pwyllgor y mae Delyth a minnau'n aelodau ohono wedi dangos, fod effeithiau COVID wedi mynd yn ddyfnach i'r ardaloedd hynny lle roedd anghydraddoldebau strwythurol eisoes. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny.
A gaf fi ddweud, o ran pwynt 3 yng nghynnig Plaid Cymru, ond rhai o'r pwyntiau eraill hefyd, gan gynnwys pwyntiau'r Ceidwadwyr—mae pwyntiau o werth o'u mewn. Fy mhryder i, fodd bynnag, yw ei fod yn sawl peth, a gallai fod gwerth gwirioneddol i rai ohonynt a'u bod yn haeddu cael eu hystyried ac yn iawn i'w trafod heddiw, ond efallai nad yw rhai ohonynt yn gwbl effeithiol neu'n targedu cymorth ychwanegol yn effeithlon. Felly, rwy'n hapus i gefnogi'r ddau bwynt cyntaf ac i gefnogi cynnig Llywodraeth Cymru i dynnu trydedd ran y cynnig a rhoi'r un sy'n cydnabod y gwaith sy'n digwydd yno yn ei le. Ond hoffwn ychwanegu ato, ac yng ngwelliant 4 Llywodraeth Cymru o dan enw Rebecca Evans, mae'n sôn am yr ystod eang o fesurau cymorth cenedlaethol sydd ar waith, gan gynnwys y rheini i gynorthwyo ardaloedd lle ceir nifer fawr o achosion o COVID-19. Mae'n sôn am y profion ac olrhain cysylltiadau, ac rydym wedi clywed heddiw am Ferthyr Tudful, gyda phrofion torfol, gydag adnoddau enfawr yn cael eu rhoi tuag at hynny ac o bosibl yn cael eu trafod fel prototeip ar gyfer ardaloedd eraill sydd â chyfradd uchel o haint. Mae hynny i'w groesawu. Mae arian ychwanegol yn cael ei roi i awdurdodau lleol. Mae angen inni gadw llygad ar hynny a gweld beth arall sydd ei angen.
Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog ddweud wrthym y byddai mwy ar yr ymgyrchoedd gwybodaeth i'r cyhoedd, oherwydd mae'n rhywbeth rwyf fi ac eraill wedi bod yn galw amdano: rhywbeth sy'n canolbwyntio'n wirioneddol ar bethau a fydd yn gweithio i bobl y Cymoedd rwy'n byw gyda hwy, sy'n mynd at wraidd y rhain mewn gwirionedd ac yn ennill calonnau ac eneidiau o ran sut i addasu eich ymddygiad eich hun a gofalu am eich ffrindiau a'ch teuluoedd yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac yn y blaen—eu hadferiad economaidd. Mae gennyf ddiddordeb mewn clywed gan y Gweinidog a fyddai'r taliad hunanynysu o £500, sydd i'w groesawu'n fawr—a fyddai hwnnw, er enghraifft, yn cael ei adolygu'n barhaus.
Ond gadewch i mi ddweud, Lywydd, byddwn wedi ychwanegu at hynny 'galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adolygu unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen ar gyfer ardaloedd lle ceir cyfraddau uchel o COVID-19 i reoli'r cyfraddau heintio, a'—ledled Cymru, gyda llaw—'ymrwymo i archwilio effaith ychwanegol COVID-19 ar ardaloedd yng Nghymru gyda'r anghydraddoldeb economaidd ac iechyd strwythurol sy'n bodoli eisoes sydd hefyd yn profi cyfraddau uchel o COVID-19, gan nodi hefyd unrhyw fesurau angenrheidiol ychwanegol yn dilyn hynny'—ac edrych ar yr hyn a awgrymwyd heddiw, ond edrych ar bethau eraill i unioni'r anghydraddoldebau hynny y gwyddom eu bod yn cael eu gwaethygu gan COVID-19, gan gynnwys swyddi a'r economi, ond hefyd effeithiau COVID hir ar iechyd. Byddwn yn byw gyda hynny hefyd. Felly, byddwn wedi ychwanegu'r rheini.
Credaf fod rhai syniadau da'n cael eu cyflwyno heddiw. Mae arnaf ofn fod rhai ohonynt heb fod mor effeithiol ac effeithlon ag y gallent fod, ond byddwn yn annog Llywodraeth Cymru, gan wneud popeth y mae'n ei wneud ar hyn o bryd, i gadw meddwl agored ynglŷn â beth arall y gallai fod angen ei wneud yn ogystal, ac i barhau i ymgysylltu â holl aelodau'r meinciau cefn wrth i ni gyflwyno'r syniadau hyn. Diolch yn fawr iawn.
Dim ond ymyriad byr sydd gennyf i yn fan hyn, a diolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl ac i'w hehangu hi ychydig. Mae'n bwysig nodi o'r tystiolaethau a gawson ni'r bore yma yn y pwyllgor iechyd ei bod hi'n hanfodol bwysig cefnogi pobl i allu ynysu, eu cefnogi nhw'n ariannol ac yn gymdeithasol. Ond y pwynt dwi eisiau gofyn i'r Gweinidog ydy: ydy e'n cefnogi'r alwad synhwyrol gan y Blaid Lafur yn Lloegr yn ddiweddar i gyflwyno cyfraith i'w gwneud yn anghyfreithlon lledaenu gwybodaeth ffug a chodi bwganod ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch y brechlyn COVID newydd? Ac os felly, ydy e'n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn diogelu a hyrwyddo iechyd pobl Cymru? Diolch yn fawr, Llywydd.
Pan godais fater y feirws newydd a oedd yn dod i'r amlwg yn Tsieina am y tro cyntaf, ynghyd â'i botensial i fygwth y tiroedd hyn, nid oeddwn yn credu na fyddem wedi cael rheolaeth arno bron i 10 mis yn ddiweddarach. Mae hyn yn ymwneud yn rhannol â'r rheolau, sy'n gallu bod yn ddryslyd iawn. Cysylltodd un etholwr â mi'n ddiweddar i ofyn pam na allai gyfarfod â ffrindiau yn gymdeithasol yn ei gardd mwyach, ond ei bod hi'n iawn iddi fynd i'r dafarn gyda hwy. Nid yw am fynd i dafarn a rhoi ei hun mewn mwy o berygl o ddal y clefyd, felly mae'n colli un o'r pethau sy'n cadw ei lles meddyliol yn iach.
Nid oes angen rheolau cymhleth arnom, dim ond glynu at gadw 2m o bellter rhyngom a phobl nad ydynt yn rhan o'n teulu agos, golchi ein dwylo'n rheolaidd a gwisgo masg mewn mannau cyhoeddus. Os ydych yn dal y clefyd, neu wedi bod mewn cysylltiad agos ag unrhyw un sydd wedi ei ddal, bydd angen i chi hunanynysu am bythefnos. Dim byd cymhleth. Mae'r clefyd hwn yn cael ei ledaenu gan bobl sydd mewn cysylltiad agos â'i gilydd, a phe bai pawb ohonom yn cadw pellter cymdeithasol ni fyddai'r clefyd hwn yn lledaenu fel y mae'n gwneud. Cadw pellter o 2m rhwng pobl fydd yn torri'r gadwyn drosglwyddo, nid rheolau cymhleth ar gyfer gwahanol rannau o'r wlad neu res ddiddiwedd o gyfyngiadau symud neu gyfnodau atal byr, neu beth bynnag rydych am eu galw.
Yr wythnos hon, cawsom newyddion addawol am yr ail frechlyn sy'n cael ei ddatblygu. Fodd bynnag, hyd yn oed os bydd hynny'n datblygu fel y cynlluniwyd, gallai fod o leiaf flwyddyn arall cyn i bawb yn y wlad gael eu brechu, felly ni fydd brechlyn yn ateb i bob gobaith eto. Fel rwyf wedi dweud droeon, mae'n rhaid inni ddysgu byw gyda'r clefyd hwn, a datblygu normal newydd fel y gall pobl barhau i fyw eu bywydau cystal ag y gallant o dan yr amgylchiadau.
Mae'n mynd i gymryd cenedlaethau inni wella o'r niwed economaidd y mae COVID-19 wedi'i greu. Ni allwn barhau i gau ein heconomi. Ar y cam hwn, dylem fod yn cynnal profion ar y rhai sydd â'r feirws ac yn eu holrhain ar raddfa eang, ac yn sicrhau y gallant hunanynysu'n ddiogel. A dylem fod yn sicrhau cydymffurfiaeth lem â rheolau cadw pellter cymdeithasol. Ar ddechrau'r pandemig, gwelsom derfynau llym i nifer y bobl a ganiateid i fynd i mewn i'n siopau a'n harchfarchnadoedd, ond yn yr wythnosau diwethaf ymddengys nad oes unrhyw gyfyngiadau ar waith mewn rhai mannau, ac mae angen i siopau ac archfarchnadoedd gyfyngu ar nifer y bobl y caniateir iddynt ddod i mewn i'r siop ar unrhyw adeg.
Yn olaf, drwy gydol y pandemig hwn, mae un grŵp wedi cael ei esgeuluso'n ddifrifol: y rhai sydd wedi cael COVID-19, ac mae llawer gormod o bobl yn dioddef o gyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd o ganlyniad i'r haint. Nid yw'r bobl hyn wedi cael fawr ddim cefnogaeth, a dywedodd un o fy etholwyr sy'n ddeintydd wrthyf nad yw'n siŵr a fydd yn gallu dychwelyd i'r gwaith oherwydd bod y feirws wedi dinistrio ei ysgyfaint. Mae'n ei chael hi'n anodd anadlu ac yn dioddef o flinder ofnadwy. Mae'n dioddef o anymataliaeth ac wedi colli mwy na 15kg o bwysau, er bod ei bwysau'n ddelfrydol cyn hyn. Dim ond 28 oed ydyw, ac eto mae ei feddyg, pan fydd yn gweld ei feddyg i gael cyngor, wedi dweud wrtho fwy neu lai mai dim ond gorbryder yw hyn a bod rhaid iddo ddod i delerau â'r peth. Mae'r achos hwn ymhell o fod yn unigryw, felly rhaid inni sicrhau bod y rhai sy'n dioddef o COVID hir yn cael eu cymryd o ddifrif, a'u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i symud ymlaen a dychwelyd at ryw fath o fywyd normal gystal ag y gallant.
Felly, mae COVID-19 yn her aruthrol, ond gallwn ddysgu byw gyda'r clefyd os rhoddwn y mecanweithiau cymorth cywir ar waith. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog i gyfrannu i'r ddadl, Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Mae ychydig dros wythnos ers diwedd y cyfnod atal byr. Mae'r arwyddion cynnar yn galonogol, gyda nifer yr achosion o'r coronafeirws yn parhau i ostwng. Ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar 1 Tachwedd, cafwyd 8,660 o achosion wedi'u cadarnhau yng Nghymru, ac ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar 15 Tachwedd, cafwyd 4,212 o achosion wedi'u cadarnhau. Felly, llai na hanner y niferoedd wythnosol o achosion a welwyd yn ystod wythnos gyntaf y cyfnod atal byr. Ac rwy'n awyddus i ddiolch eto i bobl Cymru am eu gwaith caled a'u haberth dros y cyfnod atal byr, ac rwy'n cydnabod bod hyn wedi bod yn anodd i bobl, felly rwy'n ddiolchgar iawn am ymdrechion pawb i wneud y peth iawn.
Wrth adael y cyfnod atal byr rydym yn cydnabod yr angen i fod yn ofalus fel na fyddwn yn colli ei effaith. Bydd y mesurau cenedlaethol a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf yn cael eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau mai hwy yw'r mesurau cywir o hyd yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf. Rydym yn parhau i fonitro nifer yr achosion a lledaeniad y feirws yn ofalus wrth gwrs. Gwyddom fod rheolau cenedlaethol yn symlach ac yn haws eu cyfathrebu ac i bobl eu dilyn. Ond rydym yn cydnabod y gall pethau newid a phe bai clwstwr o achosion mewn pentref, tref neu ardal leol, mae gennym amrywiaeth o gamau y gellid eu cymryd.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y gall unigolion a busnesau ledled Cymru gael yr un lefel o gymorth ledled y wlad fel nad ydym yn rhoi unrhyw ranbarth penodol o dan anfantais. Rydym yn falch ein bod wedi gwneud y penderfyniad anodd ond angenrheidiol i weithredu'n gynharach yma, yn seiliedig ar gyngor gwyddonol a meddygol clir. Rydym wedi ystyried y wyddoniaeth yn gyson ers dechrau'r pandemig. Rydym yn dal i fod yn awyddus i weithio gyda Llywodraethau eraill yn y DU i ystyried a gweithredu dull gweithredu ledled y DU lle bynnag y bo modd, ond bydd ein dull gweithredu, wrth gwrs, yn rhoi'r flaenoriaeth i wneud y peth iawn i gadw Cymru'n ddiogel. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraethau eraill yn y DU wrth gwrs, wrth inni ystyried ein cynlluniau ar gyfer cyfnod y Nadolig.
Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU swm canlyniadol Barnett blaenorol o £1.2 biliwn i Gymru, mae'n bwysig cofio bod mwy na hanner yr arian hwnnw, £675 miliwn, wedi mynd ar ein GIG. Ac mae'r holl gyfran Barnett a'r cyfan o'r £5 biliwn y cyfeiriodd y Ceidwadwyr ato yn deillio o wariant a gyhoeddwyd neu wariant arfaethedig yn Lloegr. Nid yw'n fater o haelioni na charedigrwydd; dyna sut y mae undeb y DU yn gweithio. Fodd bynnag, mae ymhell o'r hyn y bydd ei angen ar Gymru i wrthdroi'r difrod hirdymor a achosir gan y pandemig. Rydym yn dal yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi ymateb i'n cais parhaus i ddarparu'r hyblygrwydd sydd ei angen arnom ni i ymateb ac i fuddsoddi yn adferiad Cymru, yn enwedig newid cyfalaf yn refeniw, cynyddu cronfeydd wrth gefn Cymru a'n pŵer benthyca.
Fodd bynnag, gwnaethom ddefnyddio'r cyfnod atal byr i gryfhau ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu fel ei fod yn addas ar gyfer yr her gynyddol y gwyddom y bydd yn ei hwynebu y gaeaf hwn. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais fuddsoddiad ychwanegol o £15.7 miliwn ar gyfer profi, olrhain, diogelu, i fynd â chyfanswm y buddsoddiad yn ein gweithlu olrhain cysylltiadau ers mis Mehefin i dros £60 miliwn. Bydd yr arian ychwanegol rwyf wedi'i gyhoeddi yn caniatáu i awdurdodau lleol recriwtio 1,300 o swyddogion olrhain cysylltiadau a chynghorwyr ychwanegol, gan godi cyfanswm y gweithlu o 1,800 i 3,100. Rydym hefyd wedi sefydlu tîm rheoli ymchwydd newydd ar gyfer olrhain cysylltiadau i Gymru gyfan i helpu ar ddiwrnodau pan geir niferoedd arbennig o uchel o achosion. Mae olrhain cysylltiadau'n rhan allweddol o'n hymateb i'r pandemig. Ers ei lansio ym mis Mehefin, mae ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu wedi llwyddo i olrhain mwy na naw o bob 10 cyswllt a nodwyd gan achosion positif newydd.
O ran ein cefnogaeth ehangach, rydym wedi darparu dros £0.5 biliwn drwy'r gronfa galedi frys i lywodraeth leol. Mae'r cyllid yn ymateb i anghenion awdurdodau lleol. Po fwyaf yw'r angen, y mwyaf yw'r cyllid. Mae'n cwmpasu'r holl wasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol, gyda chyllid penodol wedi'i neilltuo ar gyfer rhai meysydd, megis prydau ysgol am ddim a gofal cymdeithasol i oedolion. Ac rydym wedi cydnabod y bu effaith ar allu awdurdodau i godi incwm. Dyna pam y buom yn gweithio gyda llywodraeth leol i asesu'r effaith honno wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen. Yn ogystal â'r gronfa galedi, rydym wedi darparu £2.85 miliwn i gefnogi pobl ar gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.
Bydd ein hymgyrch gyfathrebu'n parhau i ganolbwyntio ar ofyn i bobl feddwl yn ofalus am eu dewisiadau—nid yr hyn y gallwn ei wneud, ond beth y dylem ei wneud—oherwydd ni fydd rheolau'r Llywodraeth ar eu pen eu hunain yn cadw pobl Cymru'n ddiogel. Mae angen i bob un ohonom feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud i helpu i atal lledaeniad y feirws a sut y gweithredwn i ddiogelu eraill. Bydd sut rydym yn dewis gweithredu dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf yn diffinio cwrs y feirws. Gallwch ddisgwyl gweld y neges honno'n cael ei hatgyfnerthu dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf ar y teledu, y radio a'r cyfryngau cymdeithasol, ac amrywiaeth o ddewisiadau amrywiol. Gobeithio y bydd hynny'n helpu pobl eto i ailystyried a gwneud dewisiadau o ran yr hyn y dylem i gyd ei wneud.
Mae cadw ein hysgolion a'n sefydliadau addysg ar agor wedi bod yn flaenoriaeth allweddol. Er mwyn cefnogi addysg dal i fyny, rydym wedi buddsoddi bron i £29 miliwn. Mae hynny'n ddigon i ychwanegu tua 600 o athrawon a 300 o gynorthwywyr addysgu at gapasiti'r system. Rydym wedi darparu £25 miliwn ar gyfer gwaith glanhau ychwanegol mewn ysgolion er mwyn helpu i gadw ein hysgolion mor lân a diogel â phosibl i bobl ifanc a staff ysgolion. Rydym hefyd wedi darparu £2.3 miliwn i ddarparu gorchuddion wyneb am ddim i bob dysgwr ysgol uwchradd ac addysg bellach.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gyflym ac yn bendant i helpu i ddiogelu busnesau Cymru rhag effaith y coronafeirws. Mae ein pecyn cymorth busnes gwerth £1.7 biliwn a mwy yn ategu cynlluniau eraill y DU, ac mae'n golygu bod cwmnïau yng Nghymru'n gallu cael y cynnig mwyaf hael o gymorth yn unrhyw ran o'r DU. Pan aethom ati i ddatblygu ein cronfa cadernid economaidd ein hunain, gwnaethom hynny i lenwi bylchau a adawyd gan becyn cymorth Llywodraeth y DU. Hyd yma, mae'r gronfa cadernid economaidd wedi helpu mwy na 13,000 o fusnesau gyda mwy na £300 miliwn o gymorth, a chan ddiogelu dros 100,000 o swyddi.
Ac mae'r taliadau hunanynysu newydd wedi dechrau o ddydd Llun yr wythnos hon. Bydd pobl ar incwm isel yn gallu gwneud cais am daliad o £500 os bydd yn rhaid iddynt hunanynysu oherwydd bod ganddynt COVID neu am eu bod wedi cael cyngor i ynysu gan y rhaglen profi, olrhain, diogelu, a chaiff ei ôl-ddyddio i 23 Tachwedd.
Wrth i'r pandemig barhau, byddwn yn parhau i adolygu ac adnewyddu ein dull o weithredu, yn union fel y galwodd Huw Irranca-Davies amdano. Byddwn yn parhau i ystyried y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf. Dyna'r ffordd gywir o ymateb i feirws na ellir ei ragweld. Dyna sut rydym wedi gweithredu'n gyson i gadw Cymru'n ddiogel. Fel y dywedais, bydd sut y gweithredwn a'r dewisiadau a wnawn dros y dyddiau nesaf yn dylanwadu ar yr hyn fydd yn digwydd nesaf. Gofynnaf i bawb leihau nifer y bobl y maent mewn cysylltiad â hwy, i weithio gartref os gallwch, i fynd allan yn llai aml a pheidio â theithio heb fod angen gwneud hynny, a pharhewch i gadw eich pellter, golchi eich dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen. Mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan er mwyn gofalu amdanom ein hunain a'n gilydd, a dyna sut, gyda'n gilydd, y byddwn yn cadw Cymru'n ddiogel. Fel y dywedais, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliannau 2 a 4, ac unwaith eto diolch i'r Aelodau am y ddadl heddiw.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan heddiw, ac am y cyfle i gloi y drafodaeth rydym ni wedi ei chael. Dwi'n apelio arnoch chi heddiw i gefnogi cynnig Plaid Cymru—cynnig sydd, yn syml iawn, yn ymwneud â chefnogi ardaloedd sy'n gweld niferoedd arbennig o uchel o COVID-19. Mae yna nifer o'r rheini yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r cynnig yma'n adlewyrchu'r ffaith mai yng Nghymoedd y de a'r de-ddwyrain y mae rhai o'r ardaloedd efo'r achosion mwyaf erbyn hyn, a dyma'r ardaloedd sydd fwyaf angen ein help ni—mwyaf o angen ein cefnogaeth bellach ni.
Ychydig eiriau am y gwelliannau. Gwrthodwn welliant dileu popeth braidd yn annysgedig ond rhagweladwy Gareth Bennett a Mark Reckless. Os gallant ddweud wrthym sut nad ydynt hwy, fel trethdalwyr yng Nghymru, wedi cyfrannu at gyllid y Trysorlys sydd wedi dod i Gymru yn ystod yr argyfwng hwn, efallai y gallant ddweud wrth eraill a allai fod eisiau osgoi talu trethi. Nid gwleidyddiaeth 'casgen borc' yn gymaint â gwleidyddiaeth crafu-gwaelod-y-gasgen gyda'u pwyslais cenedlaetholgar Prydeinig na ddylech byth wneud dim ar lefel Cymru'n unig. Yn sicr, os oes rhaid i'r ymateb i COVID fod yn union yr un fath ym mhob rhan o Brydain, byddech yn dadlau dros gael dull unffurf ar draws Ewrop hefyd. Rwyf fel pe bawn i'n cofio bod gennym undeb ar gyfer hynny.
Nid yw Darren Millar ar ran y Ceidwadwyr yn dileu popeth yn hollol, mae'n garedig yn gadael y pwynt fod gan rai ardaloedd fwy o achosion o COVID nag eraill, ond mater iddynt hwy yw rhesymu pam eu bod am ddileu rhai o'n hawgrymiadau. Ond ar ôl hynny, maent yn gwrthod mwy o gymorth ariannol i'r rhai sydd ei angen i hunanynysu, a hyd yn oed yn gwrthod y profion torfol rydym yn gofyn amdanynt, profion torfol y mae'r Llywodraeth heddiw wedi cytuno arnynt, rwy'n falch o weld.
Os bu adeg erioed i ymgysylltu'n adeiladol, efallai y gallem weld pawb, ar draws pob plaid, yn rhoi syniadau at ei gilydd i geisio sicrhau gwell canlyniadau i bobl Cymru. Huw Irranca-Davies, i ymateb i'ch sylwadau, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa rai o'r elfennau yn ein cynnig y credwch nad ydynt yn werth chweil, oherwydd, a dweud y gwir, yr hyn rwy'n ei weld yw eich bod yn gwrthod ein rhestr ni o bethau a allai fod yn syniadau da ac yn pleidleisio yn lle hynny dros y syniadau Llafur. Rwy'n deall pam eich bod yn gwneud hynny, ond nid yw'n ddefnyddiol iawn.
Felly, at welliannau Llywodraeth Cymru. Maent hwythau hefyd yn gwrthod, ymhlith pethau eraill, lefel uwch o gymorth ariannol i bobl y gofynnir iddynt hunanynysu. Wyddoch chi, nid dim ond y bobl sydd ag amser i wneud hynny y byddwn yn eu cynghori i wylio cyfarfod Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd y bore yma, byddwn yn cynghori hyd yn oed y bobl nad oes ganddynt amser i wneud hynny hefyd. Roedd y tystion a ddaeth ger ein bron heddiw yn arbenigwyr byd-enwog mewn gwyddoniaeth ymddygiadol a seicoleg mewn perthynas â phandemigau a'r epidemioleg ac iechyd y cyhoedd—yr Athrawon Robert West, Susan Michie, David Heymann a Devi Sridhar—a rhoddasant gipolwg diddorol inni ar ymateb COVID yn fyd-eang, beth sydd wedi'i wneud yn dda gan bwy, beth sydd wedi'i wneud yn wael gan bwy, yr hyn y gallwn ei ddysgu o arferion gorau mewn mannau eraill, a'r hyn y gallwn ei ddysgu o egwyddorion hirsefydlog hefyd ynghylch sut i ymateb i bandemig. Yr un peth roeddent yn ei bwysleisio'n gadarn oedd pwysigrwydd cefnogi pobl er mwyn rhoi'r cyfle gorau i ni ein hunain ddod o hyd i strategaeth ddileu lwyddiannus, ac yn enwedig cynorthwyo pobl i hunanynysu, ac efallai mai'r rhan bwysicaf o'r cymorth hwnnw yw cael lefel y cymorth ariannol yn iawn. Dywedodd Devi Sridhar fel hyn, 'Ni allwch gosbi pobl am weithred o ewyllys da.' Yr hyn a olygai wrth hynny oedd, i'r rhai sydd â'r feirws eisoes, gofynnir iddynt hunanynysu er mwyn helpu eraill. Mae'n rhy hwyr iddynt hwy; maent wedi dal y feirws. Gofynnir iddynt geisio gwneud yn siŵr fod pobl eraill yn ddiogel, nad yw pobl eraill yn ei gael. Efallai eich bod mewn swydd fel finnau lle gallwch weithio'n eithaf hawdd gartref. Efallai eich bod yn ddiogel yn ariannol—gallech fforddio cymryd ychydig wythnosau o wyliau hyd yn oed heb unrhyw incwm o gwbl, efallai—ond mae llawer ohonom, yn ddealladwy, wedi dod i'r casgliad y bydd hunanynysu yn golygu caledi iddynt hwy neu hyd yn oed yn bwysicach, i'w teuluoedd. Mae cymhelliad iddynt beidio â hunanynysu ac fel y dywedodd Leanne Wood yn gynharach, nid yw'n gyd-ddigwyddiad mai ardaloedd lle ceir lefel uwch o amddifadedd i raddau helaeth yw'r ardaloedd lle ceir nifer fawr o achosion, ac nid yw'r ffigur o £800 rydym yn ei gynnwys yn y cynnig hwn yn ffigur rydym wedi'i greu o ddim byd, mae'n ffigur a awgrymwyd gan SAGE annibynnol.
Nawr, pe bawn yn dweud wrthych fod papur gan Lywodraeth y DU ar gymorth i hunanynysu a gyhoeddwyd ym mis Medi wedi dod i'r casgliad mai dim ond tua 20 y cant o'r bobl y dywedwyd wrthynt am hunanynysu oedd yn gwneud hynny'n effeithiol, credaf eich bod yn cael darlun o'r hyn sy'n digwydd. Pa obaith sydd gennym? Credir efallai fod hynny'n nes at 30 y cant nawr, ond rywsut mae'n rhaid i ni newid ymddygiad. Mae'n rhaid inni ddigolledu pobl yn iawn yn ariannol, mae'n rhaid inni gynnig cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl. Mae'n rhaid i ni gael y cyfathrebu'n iawn ynglŷn â pham y gofynnir i bobl gymryd y camau rydym yn gofyn iddynt eu cymryd. Mae cyfraddau hunanynysu Efrog Newydd tua 98 y cant. Pam? Yn ôl Devi Sridhar, y rheswm am hynny yw eu bod yn cael y gefnogaeth honno'n iawn. Clywsom am fannau lle mae pobl yn cael galwad ffôn bob dydd i ofyn, 'A ydych chi'n dal yn iawn?', lle mae pobl yn cael cymorth emosiynol ac ymarferol wedi ei drefnu fel rhan o'r pecyn. Dyna'r math o beth sydd ei angen arnom. Fe fuom yn edrych yn y pwyllgor y bore yma hefyd ar y syniad o sefydlu hosteli neu westai hunanynysu ac yn y blaen—elfen arall yn ein cynnig. Mae cymaint mwy y gellir ei wneud, i gyd o dan ymbarél, unwaith eto, y cymorth rydym ni ym Mhlaid Cymru yn gofyn am fwy ohono yn y ddadl hon.
Heddiw, edrychwyd ar brofi yn y pwyllgor a hefyd ar y ffordd y mae cael profi yn iawn wedi bod yn ganolog i ymateb COVID llwyddiannus yn fyd-eang. Edrychasom ar Slofacia yn arbennig a phenderfyniad eu Llywodraeth i roi prawf i bawb yn y wlad, nid unwaith yn unig, maent yn bwriadu gwneud hynny yr eildro hefyd. Dywedir wrth bawb, i bob pwrpas, eu bod dan gyfyngiadau personol, yna cânt y prawf ac os yw'n negyddol, gallant barhau i weithio ac yn y blaen, a dechrau cymysgu ag eraill eto. Dyma beth a wnânt ar raddfa lai yn Lerpwl, a beth rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi galw am ei weithredu. Rydym yn galw amdano yn y cynnig hwn heddiw, gan flaenoriaethu ardaloedd lle ceir llawer o achosion.
Nawr, weithiau mae pobl yn cwestiynu, onid ydynt, beth yw diben dadleuon y gwrthbleidiau fel hyn, ond, os ydynt yn helpu i ddylanwadu ar bolisi'r Llywodraeth, maent yn cyflawni diben defnyddiol iawn. Felly, roeddwn yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru, ychydig oriau cyn i'r ddadl hon ddechrau, wedi dweud y byddent yn bwrw ymlaen â'r rhaglen brofi torfol ym Merthyr Tudful—mae hynny'n dda, a gadewch inni ddweud yn syml ein bod yn falch o'r cyd-ddigwyddiad hwnnw. Ond os gallwn ei wneud ym Merthyr Tudful fel hyn—a nodaf fod Llywodraeth Cymru wedi dweud y caiff ei drin fel cynllun peilot, i bob pwrpas—wel, gadewch inni fynd ati gyda brys gwirioneddol i droi'r cynllun peilot hwnnw'n ymateb safonol mewn ardaloedd lle ceir llawer o achosion o COVID.
Felly, i gloi, gofynnaf i chi gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Mae angen inni helpu unigolion, teuluoedd a chymunedau i helpu eu hunain. Felly, gadewch inni gael cynllun cadarn ar waith i godi'r lefel o gymorth y gallwn ei chynnig, fel y gallwn roi'r cyfle gorau posibl i ni'n hunain reoli'r feirws peryglus hwn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷn ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond cyn gwneud hynny, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, mi fyddwn yn atal y cyfarfod am bum munud er mwyn paratoi ar gyfer y bleidlais electronig. Diolch.