– Senedd Cymru am 4:17 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Eitem 7 yw dadl ar ail adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i gynnig y cynnig hwnnw—Jeremy Miles.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n hynod falch ein bod ni'n cynnal y ddadl hon ar ail adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, adroddiad sy'n cwmpasu'r flwyddyn ariannol 2019-20. Hon yw'r ddadl gyntaf inni gael ar yr adroddiadau blynyddol sy'n cael eu cyhoeddi gan y llywydd. Roedd ei adroddiad blynyddol cyntaf fe yn cwmpasu'r cyfnod o 2017 i fis Mawrth 2019, ac yn yr adroddiad hwnnw gwnaeth y llywydd yn ei eiriau ei hun ddweud ein bod ni
'yn cychwyn ar daith tuag at gyflwyno system dribiwnlysoedd fodern a hyblyg i Gymru—system a fydd yn gallu ymateb i anghenion rhesymol y rheini sy’n defnyddio’r tribiwnlysoedd'.
Syr Wyn Williams yw'r cyntaf i ymgymryd â swydd llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Mae ei benodiad e yn un hynod bwysig i Gymru, nid yn unig o safbwynt yr arweiniad cyfreithiol a'r cyfoeth o brofiad sy'n dod gydag ef i'r rôl, ond hefyd oherwydd mai dyma'r penodiad barnwrol ar lefel uchel cyntaf ers 1830 sy'n ymwneud â Chymru yn unig. Rhaid inni gofio, o ran ffurf y tribiwnlysoedd sydd gyda ni, y ceir yma yng Nghymru farnwriaeth sydd, er ei bod hi'n fach o ran maint, yn gwbl neilltuedig o ran barnwriaeth Lloegr ar lefel y dyfarniad cyntaf.
Cyn i fi fyfyrio ychydig ar yr adroddiad blynyddol, dwi'n siŵr y bydd Aelodau am ymuno â mi i ddiolch i Syr Wyn am ei ymrwymiad i swydd llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Dwi hefyd yn siŵr y bydd Aelodau am ymuno â fi i longyfarch Syr Wyn ar ei benodiad fel cadeirydd ymchwiliad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i system dechnoleg gwybodaeth Horizon Swyddfa'r Post. Mae'n amlwg bod parch iddo yn y Llywodraeth yma yng Nghymru ac yn San Steffan.
Bydd aelodau wedi cael cyfle i ystyried ail adroddiad blynyddol y llywydd, ac, fel fi, rwy'n credu, byddan nhw wedi'i ddarllen gyda diddordeb. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae tribiwnlysoedd Cymru wedi gweithredu'n effeithiol, gan sicrhau bod defnyddwyr tribiwnlysoedd wedi parhau i allu sicrhau cyfiawnder yn briodol. Bydd adroddiad blynyddol nesaf y llywydd, rwy'n tybio, yn myfyrio'n fanylach ar effaith pandemig y coronafeirws.
Nid oes amheuaeth nad yw'r argyfwng iechyd cyhoeddus a ddaeth i'r amlwg ar ddiwedd y cyfnod adrodd wedi peri risgiau sylweddol o ran gallu sicrhau cyfiawnder, ac, i'r rheini a fyddai'n gallu troi at y tribiwnlys adolygu iechyd meddwl, y posibilrwydd o ymyrryd â'u hawl i gael prawf teg. Ond gyda dim ond rhai gohiriadau, mae tribiwnlysoedd Cymru wedi parhau i weithredu, ac rwy'n cael fy sicrhau'n benodol gan y ffordd y mae'r tribiwnlys adolygu iechyd meddwl wedi parhau i allu gwaredu achosion heb fod angen dibynnu ar y mesurau brys a nodir yn Neddf Coronafeirws 2020, sydd i bob pwrpas wedi diogelu hawliau cleifion o ganlyniad. Yn fy marn i, mae'r ffordd y mae pawb sy'n ymwneud â thribiwnlysoedd Cymru wedi ymateb mewn amgylchiadau gwirioneddol eithriadol wedi bod yn drawiadol iawn.
Gan droi at yr agenda cyfiawnder ehangach, mae'r ail adroddiad blynyddol yn rhoi sylwadau ar y comisiwn ar gyfiawnder, ac yn enwedig ar yr argymhellion sy'n ymwneud â thribiwnlysoedd Cymru. Roedd Syr Wyn Williams, wrth gwrs, yn gomisiynydd ei hun. Cyfeiriodd comisiwn Thomas at y gwaith sydd i'w ddatblygu gan Gomisiwn y Gyfraith i dribiwnlysoedd yng Nghymru ac y byddai Comisiwn y Gyfraith yn gallu ystyried diwygio'n fanylach nag y gallai comisiwn Thomas ei hun. Ac er ei fod wedi'i ohirio ychydig, rwy'n falch bod prosiect Comisiwn y Gyfraith bellach ar y gweill ac yn debygol o adrodd yn ôl yn ystod haf y flwyddyn nesaf.
Er fy mod i yn siomedig na allwn ni adrodd am gynnydd pellach nag a wnaethom ni o ran bwrw ymlaen ag adroddiad y comisiwn cyfiawnder, mae'r agenda cyfiawnder yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Yr effeithiau mwyaf ar ddiwygio'r system gyfiawnder yw datblygu materion sy'n gofyn am fewnbwn gan Lywodraeth y DU. A realiti'r sefyllfa bresennol, wrth gwrs, yw bod blaenoriaethau mwy uniongyrchol yn wynebu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, lle mae pandemig y coronafeirws a diwedd cyfnod pontio'r UE, wrth gwrs, ar frig yr agenda. Ond nid oes amheuaeth nad yw'r ymateb i'r pandemig wedi taflu goleuni ar rychwant eang iawn cymhwysedd Llywodraeth Cymru a'r Senedd mewn meysydd a ystyrir yn draddodiadol, efallai, fel rhai a gadwyd yn ôl.
Os gallwn ddeddfu yn y meysydd hyn yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd, pam nad at ddibenion eraill sy'n cyfuno cyfiawnder â meysydd cyfrifoldeb sydd eisoes wedi'u datganoli? Os rhywbeth, mae'r dadleuon a wnaed gan y comisiwn ar gyfiawnder dros newid cyfansoddiadol a datganoli cyfiawnder wedi'u cryfhau gan yr amgylchiadau eithriadol y buom ynddyn nhw dros y chwe mis diwethaf a bydd hynny'n parhau hyd y gellir rhagweld. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r hyn a allwn ni yng Nghymru, a byddwn yn defnyddio ein profiadau ar y cyd yma yng Nghymru i geisio creu consensws a chefnogaeth i'r ddadl dros newid, i ddatblygu hynny gyda Llywodraeth y DU pan fydd yr amser yn briodol ar gyfer hynny.
Dirprwy Lywydd, wrth gloi, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ymuno â mi i ddiolch i lywydd Tribiwnlysoedd Cymru am ei ail adroddiad blynyddol.
A gaf i ymddiheuro os yw unrhyw beth a grybwyllaf yn fy nghyfraniad eisoes wedi cael sylw yn y rhan o araith y Cwnsler Cyffredinol a gyflwynwyd yn Gymraeg? Nid oedd y cyfieithu yn gweithio ar fy nyfais i, mae arnaf ofn.
Rwy'n credu bod hwn yn adroddiad defnyddiol iawn wrth ddadansoddi gweithrediad tribiwnlysoedd yng Nghymru, ac felly bydd o ddiddordeb cyffredinol i bobl, oherwydd gall yr ystadegau ynglŷn â defnydd tribiwnlysoedd fod yn ddangosydd da iawn o ba mor llyfn y mae meysydd polisi cyhoeddus allweddol yn rhedeg o fewn cymhwysedd Llywodraeth Cymru a chyfraith Cymru. Rwy'n siŵr bod y rhai sydd wedi edrych ar yr adroddiad wedi gweld y rhan honno'n ddiddorol iawn—i weld y newidiadau amrywiol o ran defnydd, i fyny ac i lawr. Yn aml, mae rhesymau penodol dros hynny, wrth gwrs, ond mae'n dal yn ddangosydd da iawn.
O ddiddordeb arbennig i mi yw'r hyn sydd gan lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Syr Wyn Williams, i'w ddweud am argymhellion 25 a 27 y comisiwn ar gyfiawnder yng Nghymru, y cyfeiriodd y Cwnsler Cyffredinol ato. Mae argymhelliad 25 yn nodi y dylai pob corff cyhoeddus, ombwdsmyn, fel yr ydym ni yn dal i'w galw, a thribiwnlysoedd eraill a sefydlwyd o dan gyfraith Cymru gan Lywodraeth Cymru ac sy'n gwneud penderfyniadau barnwrol neu led-farnwrol gael eu dwyn o dan oruchwyliaeth llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ac mae argymhelliad 26 yn nodi y dylai uned Tribiwnlysoedd Cymru fod yn strwythurol annibynnol ac y dylid defnyddio Tribiwnlysoedd Cymru ar gyfer datrys anghydfodau sy'n ymwneud â deddfwriaeth Cymru yn y dyfodol. Fel y mae Syr Wyn yn nodi, os caiff ei dderbyn a'i weithredu, byddai'r argymhellion hyn yn cynyddu llwyth gwaith rhai tribiwnlysoedd yn sylweddol. Mae'n nodi pa mor sylweddol fyddai nifer yr anghydfodau sy'n deillio o iechyd, addysg, tai a chyfraith amaethyddol.
Yn benodol, mae Syr Wyn yn dyfynnu deddfwriaeth tai, lle mae'n rhaid i anghydfodau gael eu datrys ar hyn o bryd gan y llys sirol. Ond fel y gwyddom ni o'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd, o ran y Bil rhentu cartrefi, ni fydd yn rhoi terfyn ar droi allan heb fai, ond credaf fod pawb sydd wedi edrych ar y Bil hwnnw'n sylweddoli bod yn rhaid iddo ganiatáu i landlordiaid droi yn effeithiol at y gyfraith pan fydd ganddyn nhw achos i droi allan. Oherwydd ein bod ni wedi symud, yn gwbl briodol yn fy marn i, i system sy'n seiliedig ar fai, i ffwrdd o'r system dim bai, i bob pwrpas, sydd wedi goroesi ers diwedd y 1980au. Ond ar hyn o bryd, mae mynd ag achos i'r llysoedd sirol a'r gost dan sylw a'r amser a gymerir yn aml yn rhwystr sylweddol iawn. Felly, roedd adroddiad pwyllgor Cyfnod 1 yn adlewyrchu ar hyn ac yn wir gofynnodd i Lywodraeth Cymru edrych ar y cysyniad o dribiwnlys tai yn ymwneud â'r rhan hon o gyfraith dai a datrys anghydfodau.
Felly, rwy'n credu bod hynny'n enghraifft glir iawn o sut y gellid defnyddio tribiwnlysoedd yn fwy effeithiol, a chredaf ein bod i gyd yn credu bod defnyddio tribiwnlysoedd wrth weinyddu cyfraith gyhoeddus yn aml yn effeithiol iawn ac yn caniatáu mwy o fynediad i'r system gyfreithiol nag y byddai dinasyddion yn ei gael drwy'r llysoedd sirol. Felly, rwyf yn croesawu'r ffordd yr aethpwyd ati, ac rwy'n cymeradwyo, fel y gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol, yr ail adroddiad hwn gan lywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Diolch yn fawr, Llywydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i hefyd fod yn rhan o'r ddadl bwysig yma, sydd efallai yn torri cwys newydd yn ein hanes, wrth gwrs—dadl ar ail adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Syr Wyn Williams. Yn y lle cyntaf, dwi hefyd yn diolch i Syr Wyn Williams am ei waith dros y blynyddoedd, ac yn ategu'r holl eiriau caredig rydyn ni wedi eu dweud amdano fe eisoes, yn enwedig geiriau'r Cwnsler Cyffredinol.
Mae'r cefndir, fel mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi olrhain—. Achos yn naturiol, mae rhai ohonom ni wedi bod yn clochdar ers blynyddoedd am yr angen i ddatganoli'r gyfundrefn gyfiawnder—plismona, carchardai, gwasanaeth prawf ac ati—i'r Senedd yma. Mae'n ddigon hawdd, felly, anghofio bod un rhan o'r system gyfiawnder eisoes yn ddatganoledig, a dyna'r system rydyn ni'n ei thrafod y prynhawn yma—rydyn ni'n anghofio hynny weithiau; wel, yn eithaf aml, mae'n rhaid dweud—sef y system gyfiawnder gweinyddol, sydd yn edrych ar sut rydyn ni'n gweinyddu'r ddeddfwriaeth sydd eisoes yn ddatganoledig yma; y gwahanol tribiwnlysoedd, hynny yw, mewn chwe gwahanol faes. Ac fel Aelod o'r Senedd yma dros y blynyddoedd, dwi wedi bod ynghlwm ag ambell i dribiwnlys wrth gynrychioli etholwyr sydd efo problem—anghydfod, fel rheol, gyda'r sir lleol ynglŷn â'r gyfundrefn addysg arbennig.
Tribiwnlys arall, wrth gwrs, ydy'r un sydd yn adolygu iechyd meddwl, a hwnna, wrth gwrs, o edrych ar y ffigurau, ydy'r prysuraf oll o'r hanner dwsin ohonyn nhw. Ond fel mae'r Cwnsler Cyffredinol eisoes wedi olrhain, mae'r tribiwnlysoedd eisoes yn cyfro tiroedd megis tir amaethyddol yn ogystal ag iechyd meddwl ac anghenion addysgu ychwanegol, hefyd tribiwnlys y Gymraeg a'r tribiwnlysoedd eiddo preswyl. Af i ddim i droedio ar yr un un tir ag y mae David Melding newydd sôn, ond, wrth gwrs, mae yna le i gryfhau gwaith y tribiwnlysoedd yma, yn enwedig rŵan wrth i Lywodraeth y Senedd yma fod yn deddfu o'r newydd mewn rhai meysydd datganoledig megis tai, a bydd hynna, wrth gwrs, â'r potensial i greu gwaith y buasem ni'n ei gyfarch—a rhaid iddo fo ddigwydd—i'r tribiwnlysoedd. Ac, wrth gwrs, mae yna dribiwnlys panel dyfarnu, hefyd.
Felly, mae yna doreth o waith sydd eisoes yn mynd yn ei flaen, a dwi'n siŵr bod y rhan fwyaf ohonom ni ddim yn sylweddoli bod y gwaith cyfiawnder yna eisoes wedi'i ddatganoli i fan hyn. Wrth gwrs, bu i Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd yma fod yn craffu ar waith y tribiwnlysoedd yn y gorffennol, a dwi'n siŵr y bydd y Cadeirydd, os bydd e'n siarad, yn olrhain union graffu ein pwyllgor deddfwriaeth yma yn y Senedd, gan gynnwys cael Syr Wyn Williams i'n pwyllgor yn rhithiol.
Wrth gwrs, fel mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i olrhain, cefndir hyn oll ydy adroddiad comisiwn Thomas, y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a oedd yn olrhain, fel y mae pawb yn gwybod, y sefyllfa bresennol yng nghylch cyfiawnder a throsedd yng Nghymru, ei fod yn hollol anfoddhaol a'r angen i'w newid a'i chryfhau. Mae'r system tribiwnlysoedd yn rhan o hynny, yn naturiol, ond, wrth gwrs, mae angen diogelu annibyniaeth y tribiwnlysoedd hefyd oddi wrth Lywodraeth Cymru. Jest i bwysleisio'r pwynt—hynny yw, y ffordd mae'r tribiwnlysoedd yn cael eu hariannu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan Lywodraeth, ond wrth gwrs, mae disgwyl iddyn nhw hefyd fod yn dyfarnu'n annibynnol oddi wrth Lywodraeth hefyd yn y gwahanol feysydd, megis tai, addysg ac iechyd meddwl. Mae hynna'n her, a buaswn i'n dweud hefyd yn her i dribiwnlys y Gymraeg hefyd: neilltuo a sicrhau annibyniaeth y tribiwnlysoedd fel mae eu pwerau nhw'n cynyddu, a buasem ni'n disgwyl gweld eu pwerau nhw'n cynyddu wrth i'r blynyddoedd fynd heibio.
Wrth gwrs, fy mhwynt olaf i rŵan ydy bod y pandemig COVID wedi cael effaith syfrdanol ar weithgaredd ein tribiwnlysoedd, fel mewn pob gweithgaredd arall, ac mae nifer o'r tribiwnlysoedd wedi mynd ar-lein, wedi cael cyfarfodydd rhithiol, yn delio efo problemau, yn enwedig ynglŷn â thribiwnlysoedd iechyd meddwl, dros y ffôn ac ati, yn lle cyfarfod wyneb yn wyneb, achos doedd hi ddim yn bosibl cyfarfod wyneb yn wyneb y rhan fwyaf o'r flwyddyn yma, ond eto, mae gwaith y tribiwnlysoedd yn mynd rhagddo.
Felly, i orffen, cychwyn ar y ffordd ydyn ni. Mae nifer ohonom ni yn y Senedd yma eisiau gweld y system, y gyfundrefn gyfiawnder a throsedd, wedi cael ei datganoli yn gyfan gwbl i'r Senedd yma. Rydyn ni'n canolbwyntio yn fan hyn ar y darn sydd eisoes wedi'i ddatganoli, ac rydyn ni eisiau gweld cryfhau hwnna, hefyd, fel gweld cryfhau'r ffordd yr ydyn ni'n delio efo cyfiawnder a throsedd yma yng Nghymru, y ffordd yn dod yn glir, adeiladu ar y seiliau sydd gyda ni gan weld y dydd pan fyddwn ni'n gweld datganoli'r system plismona, carchardai, gwasanaeth prawf, y system cyfiawnder troseddol yn ei gyfanrwydd yma yn nwylo pobl Cymru, yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Llywydd, yn gynharach eleni cefais y fraint o gadeirio'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i arwain y gwaith o graffu ar lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Syr Wyn Williams, ar ei ail adroddiad blynyddol, ac roedd hynny'n anrhydedd gan ei fod yn sesiwn hanesyddol. Dyma'r tro cyntaf yn hanes Cymru i un o bwyllgorau'r Senedd hon, Senedd Cymru, allu craffu ar weithrediad y rhan honno o'r system gyfiawnder sydd wedi'i datganoli i'r Senedd ers sefydlu Cyngor Cymru yn 1571 gan Edward IV, ac ers diddymu llysoedd Cymru, y Sesiynau Mawr, ym 1830. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn cynrychioli system farnwrol ac awdurdodaeth gyfreithiol newydd i Gymru, ac mae'n cyd-fynd â newidiadau cyfreithiol a chyfansoddiadol eraill sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru ac yn y DU yn sgil ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd, ac yn cyflwyno heriau gwirioneddol i Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu gweinyddiaeth ein system llysoedd a thribiwnlysoedd. Mae'r rhain yn ymwneud yn bennaf â hygyrchedd, annibyniaeth penodi a gweithredu'r swyddogaethau barnwrol a lled-farnwrol hynny, a gweinyddu cyfiawnder.
Nawr, wrth i'r pwyllgor graffu ar y swyddogaethau hyn, rydym ni yn ymwybodol iawn o natur ddiffygiol ein trefniadau barnwrol presennol. Mae cymorth cyfreithiol y DU yn gyfyngedig iawn, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi'i ddinistrio, gan adael y rhan fwyaf o ddinasyddion a chymunedau Cymru heb fawr o fynediad at gyfiawnder, ar wahân i'r gronfa gynghori sengl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ac a weinyddir gan Cyngor ar Bopeth Cymru. Mewn llawer o feysydd polisi cymdeithasol pwysig eraill, nid Llywodraeth Cymru yw'r Senedd gyfrifol ar hyn o bryd, ac eto mae llawer o rannau perthnasol o'r system farnwrol yn aros yn nwylo San Steffan o dan oruchwyliaeth awdurdodaeth i Gymru a Lloegr. Mae llysoedd wedi cau ledled Cymru, felly mae'r cysyniad o gyfiawnder i bobl wedi ei weinyddu yn y cymunedau y maen nhw'n byw ynddyn nhw wedi dod yn rhywbeth o'r gorffennol. Mae cynigion gan Lywodraeth y DU i'w alluogi i osgoi'r llysoedd a thorri rhwymedigaethau rhyngwladol hefyd yn tanseilio uniondeb rheolaeth y gyfraith a'n systemau barnwrol. Ni ddylai gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru ddod yn frwydr grym rhwng San Steffan a'r Senedd hon, ond yn hytrach dylai fod yn seiliedig ar y system orau o weinyddu cyfiawnder i bobl Cymru a chydnabyddiaeth o'r berthynas annatod sy'n bodoli rhwng y system gyfreithiol a pholisi cymdeithasol.
Gan droi'n fwy penodol at adroddiad Syr Wyn Williams, mae nifer o faterion y bydd angen mynd ar eu trywydd yn y Senedd nesaf. Mae gweithrediad tribiwnlysoedd Cymru a swyddogaeth y llywydd yn greiddiol yn hyn o beth, felly rwyf yn cefnogi'n fawr bwyslais ei adroddiad ar y meysydd hyn, yr angen am system unedig dan oruchwyliaeth y llywydd, ac annibyniaeth y system Lywodraethu. Mae'n hen bryd cyhoeddi gwaith Comisiwn y Gyfraith i fynd i'r afael â'r materion hyn ac mae'n hanfodol bwysig o ran sicrhau datblygiad ein system farnwrol Gymreig, a'i fod yn seiliedig ar egwyddorion cadarn a fydd yn darparu sylfaen sy'n seiliedig ar egwyddorion cyfiawnder naturiol a rheolaeth y gyfraith. Yr hyn sy'n allweddol i hyn yw'r sylw a wnaed gan Syr Wyn Williams yn yr adroddiad ei bod hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn dechrau llunio ei chynigion ei hun ynghylch swyddogaeth a datblygiad y llywyddiaeth yn y cyd-destun hwn yn y dyfodol. Ac mae'n dweud hyn fel bod Comisiwn y Gyfraith yn cael cymaint o gymorth ar y mater hwn ag sy'n bosibl.
Nawr, mae angen trafod beth yw swyddogaeth yr ombwdsmon cyhoeddus yn yr ystyriaethau hyn. Credaf hefyd, yn y Senedd nesaf, ei bod hi'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu Gweinidog dros gyfiawnder. Nid oes cyfiawnhad dros y farn bod hyn yn dibynnu ar ddatganoli cyfiawnder ymhellach, yn fy marn i. Mae angen llais arnom ni yn y Senedd hon i siarad dros y system gyfiawnder fel y mae'n gweithredu yng Nghymru gyfan, wedi'i datganoli ac nad yw wedi'i datganoli. Byddai Gweinidog o'r fath yn mynd i'r afael â'r berthynas ddiffygiol bresennol rhwng swyddogaethau datganoledig a swyddogaethau nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Nid oes ffiniau i gyfiawnder ac anghyfiawnder, fel y gwyddom ni, a chredaf y byddai hyn yn dechrau mynd i'r afael ag argymhelliad 61 comisiwn Thomas
"Mae'n rhaid i arweinyddiaeth glir ac atebol ar gyfiawnder yn Llywodraeth Cymru gael ei sefydlu o dan y drefn ddatganoli bresennol"
Galwodd yr Arglwydd Thomas am arweiniad cydgysylltiedig drwy un Gweinidog neu Ddirprwy Weinidog yn Llywodraeth Cymru gyda goruchwyliaeth o'r holl faterion cyfiawnder, ac y dylai'r Senedd fod â swyddogaeth fwy rhagweithiol yn y gwaith craffu priodol ar weithrediad y system gyfiawnder. Llywydd, dyma'r broses yr ydym ni wedi dechrau arni heddiw gyda thrafodaeth ar yr adroddiad blynyddol hanesyddol hwn. Diolch, Llywydd.
Yn gyntaf, a gaf i ddweud diolch yn fawr iawn i Syr Wyn Williams fel llywydd Tribiwnlysoedd Cymru am ei adroddiad blynyddol ond hefyd am bopeth y mae ef a'i farnwyr wedi eu gwneud? Mae'r heriau wedi bod yn fwy oherwydd y coronafeirws, ond hyd yn oed mewn adegau arferol, anaml iawn y mae'r gwaith beunyddiol yn waith hyfryd, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn diolch ar goedd am yr hyn a wneir.
Wrth ddarllen yr adroddiad blynyddol, gobeithio na chaiff dim a ddywedaf ei gymryd fel beirniadaeth o'r llywydd neu'r adroddiad, ond yn fwy o ddiddordeb yn yr hyn y mae wedi'i ysgrifennu. Yn gyntaf, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod yr adroddiad blynyddol yn sefyll ar ei draed ei hun. Nid wyf wedi darllen yr adroddiad blaenorol yn yr un manylder ag eraill efallai, ac fel un enghraifft, y cyfeiriad ym mharagraff 2.5 at 'cross-ticketing', nid wyf yn gwybod beth yw ystyr hyn, ac nid yw'n cael ei esbonio, hyd y gwelaf, yn y ddogfen. Mae'n cyfeirio at y ffaith bod aelod o Dribiwnlysoedd Cymru wedi gwneud hyn, ac yna mae'n nodi tribiwnlys penodol. Rwy'n tybio mai'r ystyr yw aelod o dribiwnlys arall yng Nghymru yn symud i un nad yw yn aelod ohono, ond hoffwn petai yna ychydig mwy o eglurder ynglŷn â hynny. Mae cyfeiriad hefyd at un unigolyn sy'n symud o dribiwnlys eiddo haen gyntaf Lloegr i Dribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru, felly nid wyf yn siŵr a yw'n beth cyffredinol pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth nad yw ar y tribiwnlys y'i penodir iddo.
Mae'r siaradwr blaenorol, ar ôl siarad, rwy'n credu, yn bur frwdfrydig a chadarnhaol am ail-ymddangosiad system farnwrol newydd i Gymry—. Nid wyf yn cefnogi hynny yn y ffordd y mae ef yn ei wneud, ond rwyf yn rhannu ei bryderon am yr hyn y credaf ei fod yn ei alw'n briodol yn drefn ddiffygiol, ac rwy'n credu bod ansawdd a graddau'r gwaith a ddigwyddodd ar y comisiwn cyfiawnder yn wahanol iawn i awydd Llywodraeth y DU i ymateb iddo ac i wella'r system a'i llunio o'r newydd. Caf fy nharo gan ba mor fach yw rhai o'r tribiwnlysoedd hyn, a hefyd pa mor wahanol yw eu swyddogaethau. Felly, mae ganddyn nhw'r cyffredinrwydd o fod yn dribiwnlysoedd yng Nghymru, ond yna mae gwahaniaethau sylweddol iawn rhwng y rhan fwyaf ohonyn nhw a'r hyn a wnânt.
Edrychaf gyda diddordeb hefyd yng ngoleuni'r pwyslais a roddir ar y Gymraeg wrth ddatblygu barnwriaeth a phenodiadau Cymreig, o ran pa mor eang y cafodd ei defnyddio yn y tribiwnlysoedd, a sylwaf, y tu allan i dribiwnlys y Gymraeg, o 2,251 o achosion, mai dim ond naw a gynhaliwyd yn Gymraeg.
Os caf i, mae gennyf gwestiwn i'r Gweinidog am uned tribiwnlysoedd Cymru, a sut yr ydym yn ymdrin â materion megis annibyniaeth y farnwriaeth pan fydd llywydd y tribiwnlysoedd yn edrych, yn ôl a ddeallaf, ar ddau was sifil o fewn uned tribiwnlysoedd Cymru fel strwythur lle gellir ceisio a chael cyngor cyfreithiol pan fo angen. A gaiff uned tribiwnlysoedd Cymru ei hystyried yn weinyddiaeth gyfiawnder embryonig i Gymru, ac os felly, pan fydd y Gweinidog yn dweud bod ganddo gryn annibyniaeth strwythurol, a yw hynny yn y ffordd y byddai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, o ran Llywodraeth y DU, yn aml, o ran Lloegr, yn ei wneud neu a yw'n edrych ar rywbeth cryfach na hynny?
Sylwaf fod y llywydd yn cyfeirio at ei dymor ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith a sut y mae angen gwneud penderfyniad yn y tymor byr i ganolig am swyddogaeth y llywydd, ac mae'n nodi mai gweinyddol a bugeiliol yw ei swyddogaeth yn bennaf, ac rwy'n siŵr bod yna bethau gwerthfawr a phwysig iawn y mae'n eu gwneud—heb os—ond roeddwn wedi synnu braidd gweld nad oes sail statudol glir i'r llywydd wasanaethu fel barnwr ar dribiwnlysoedd. Derbynnir yn gyffredinol y gallant, neu y dylent o bosibl, ond yna mae'r llywydd presennol yn nodi ei farn ynglŷn â sut y mae wedi cyflawni ei swyddogaeth ei hun, a meddwl ydw i tybed a oes angen gwell dealltwriaeth arnom ni yn y fan yma, ymhlith barnwyr, ond hefyd yn bennaf, efallai, rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, oherwydd credaf fod maint y gwahaniaeth rhwng uchelgais y comisiwn ar gyfiawnder—. Ac roedd y llywydd yn un o'r comisiynwyr hynny ac mae'n cyfeirio yn yr adroddiad hwn at rai o'r pethau a ddysgodd drwy hynny ac mae wedi gwneud i mi ddeall agweddau ar yr adroddiad hwnnw mewn ffordd na wnes i o'r blaen, oherwydd yr hyn a ddywed yn yr adroddiad blynyddol hwn heddiw. A yw'r gwahaniaeth barn hwnnw rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn golygu nad ydym yn cael atebion pragmatig a synhwyrol ynglŷn â gweithrediad y system?
A chytunaf â Mick Antoniw; bu trefn ddiffygiol, ond mae dwy ffordd bosibl o ymdrin â hyn. Yr hyn yr ydym yn tueddu i'w glywed yma yw sut y mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni weld datganoli cyfiawnder. Y ffordd arall o ymdrin ag ef yw gweithredu rhai pethau ar sail y DU neu o leiaf ar sail Cymru a Lloegr, yn hytrach na datganoli pellach, ac nid wyf yn glir ymhle y mae Llywodraeth y DU yn sefyll. Nid yw'n cymryd cymaint o ddiddordeb yn hyn â ni, ond gwrandewais ar David Melding ac nid wyf yn siŵr a yw ei safbwynt a'i bwyslais o reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt ei grŵp ef neu Lywodraeth y DU. Felly, mae rhywfaint o ddryswch. Rwy'n cydymdeimlo â'r llywydd o ran ei alwadau am ddatrys y dryswch hwnnw, hyd yn oed os na fyddwn yn cytuno â rhai o'r ffyrdd yr hoffai i hynny ddigwydd. Diolch.
Rwy'n credu mai dyma'r adeg amserol i drafod sut yr ydym yn dosbarthu cyfiawnder yng Nghymru, ac rwy'n siŵr, Cwnsler Cyffredinol, y byddwch yn cytuno nad yw cyfiawnder ar gael yn hawdd nac yn amserol nac yn rhad, ac roeddwn eisiau siarad yn benodol am sut y gallem ni ei gwneud hi'n haws i denantiaid gael cyfiawnder pan fo ganddyn nhw landlordiaid sy'n torri'r gyfraith. Mae gennyf i lawer o achosion lle tynnwyd y drwydded oddi ar landlordiaid, lle na chafwyd tystysgrifau trydanol, lle nad oedd tystysgrifau cyfarpar nwy yn bodoli. Ac erbyn i unrhyw un allu mynd i'r llys a chael gwrandawiad, mae'r tenantiaid wedi symud ymlaen ac mae'r broblem wedi'i hetifeddu gan denantiaid newydd. Felly, tybed a yw'n bosibl ystyried sefydlu llys tai yng Nghymru sy'n ymroddedig i'r materion hyn fel y gallai hynny ryddhau ychydig mwy o amser yn y prif lysoedd ar gyfer materion troseddol. Tybed a wnewch chi ddweud unrhyw beth am hynny.
Galwaf, felly, ar y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd, rwy'n credu, oherwydd y cyfieithiad—efallai mai ar fy ochr i y mae'r broblem—gwnaf fy sylwadau yn Saesneg, os caf i.
Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon. Credaf ei bod hi'n bwysig inni gael y ddadl hon am y rhesymau y mae llawer o gyfranwyr wedi'u hamlinellu, fel cam pwysig yn swyddogaeth gynyddol y Senedd o ran craffu ar weithrediad rhannau o'r system gyfiawnder yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy'n effeithio ar feysydd polisi eraill yr ydym yn gyfrifol amdanyn nhw drwy'r setliad datganoledig yng Nghymru.
Gwnaeth nifer o'r siaradwyr, gan ddechrau gyda David Melding, y sylw am yr angen am ryw fath o ddull o resymoli, os mynnwch chi, gwaith y tribiwnlysoedd yn gyffredinol, a phwysigrwydd annibyniaeth y tribiwnlysoedd. Gwnaeth Mark Reckless a Dai Lloyd sylwadau tebyg hefyd. A hoffwn gefnogi'r datganiad a wnaeth Mick Antoniw pan oedd yn Gwnsler Cyffredinol, gan danlinellu ymrwymiad y Llywodraeth i annibyniaeth y tribiwnlysoedd yma yng Nghymru. Mae hynny, wrth gwrs, yn egwyddor hanfodol. Ymunais â'r Prif Weinidog yn ei gyfarfod diweddar â Syr Wyn i glywed barn Syr Wyn ynghylch sut y gallai hynny ddatblygu i'r dyfodol, ac yn sicr uchelgais y Llywodraeth yw i'r strwythurau sydd gennym ar waith i wasanaethu gwaith y tribiwnlysoedd ddod yn fwy annibynnol dros amser. Credaf mai un garreg filltir bwysig ar y daith honno fydd adroddiad Comisiwn y Gyfraith yr haf nesaf, sydd wedi'i gynllunio'n benodol i edrych ar weithrediad cyffredinol y system dribiwnlysoedd yng Nghymru—cwestiynau ynghylch penodi, trefnu ac ati. Felly, byddan nhw yn ystyriaethau pwysig o ran sut yr ydym yn sicrhau ein bod yn cynnal annibyniaeth tribiwnlysoedd yng Nghymru.
Soniodd sawl siaradwr am amlygrwydd cynyddol, y gydnabyddiaeth gynyddol, os mynnwch chi, sydd i'r corff cyfiawnder gweinyddol yng Nghymru, sy'n cael effaith sylweddol iawn ar fywydau beunyddiol dinasyddion ledled Cymru mewn ffyrdd ystyrlon iawn. Mae dealltwriaeth a thrafodaeth gynyddol ohono yma yn y Senedd, yn y byd academaidd, ond hefyd, yn bwysicaf oll, yn yr orchwyl ymarferol o gael rhwymedïau i bobl. Ac roedd gan David Melding a Jenny Rathbone awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid gwella hynny hyd yn oed ymhellach i'r dyfodol.
Hoffwn adleisio'r sylw a wnaeth Dai Lloyd yn ei gyfraniad ynghylch pwysigrwydd—arwyddocâd, yn hytrach—y ffaith bod y system tribiwnlysoedd wedi parhau i allu ymdrin â materion, hyd yn oed yng nghyd-destun coronafeirws. Credaf fod nifer fach iawn o wrandawiadau wedi'u gohirio oherwydd efallai y bydd angen ymweld â thir, er enghraifft, ac ni ragwelir y bydd yr un o'r rheini, yn ôl a ddeallaf, yn cael effaith benodol ar yr achos. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dyst i'r arloesedd a'r hyblygrwydd y mae'r system tribiwnlysoedd wedi'u dangos yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf o ganlyniad i COVID.
Yn amlwg, anghytunaf â phwynt Mark Reckless am y daith sydd o'n blaenau, ond hoffwn gefnogi'r sylwadau a wnaeth am y gwerthfawrogiad y dylem ei ddangos i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y system dribiwnlysoedd dros y flwyddyn ddiwethaf yn yr adroddiad.
Credaf mai sylwadau Mick Antoniw, i gloi, yw'r canllaw i ni yma. Mae'n bwysig inni gael y ddadl hon yma yn y Senedd nid yn unig am fod gwaith y tribiwnlysoedd yn gorgyffwrdd â pholisïau yr ydym yn gyfrifol amdanyn nhw fel arall, ond hefyd fel rhan o'r cyfrifoldeb cynyddol hwnnw ym maes cyfiawnder y mae llawer, os nad y rhan fwyaf ohonom ni, eisiau ei weld. A chredaf fod rhan o'r swyddogaeth honno, a ddisgrifiwyd gan Mick fel swyddogaeth fwy rhagweithiol, yn cael ei chyflawni drwy gael y mathau hyn o ddadleuon a dod â gwaith y system tribiwnlysoedd i brif ffrwd ein syniadau a'n hystyriaethau yma yn y Senedd.
Felly, diolch yn fawr iawn i bawb am eu cyfraniadau, a diolch i Syr Wyn unwaith eto am ei waith.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly, mae yna wrthwynebiad, ac fe fyddaf i'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Dwi ar ddeall fod yna broblem gyda'r cyfieithu wedi bod, ond fod hynny wedi cael ei gywiro erbyn hyn.
Rwy'n deall bod problem cyfieithu wedi bod. Os yw Aelodau sy'n defnyddio'r cyfieithiad wedi deall yr hyn yr wyf newydd ei ddweud yn Gymraeg, a wnewch chi ddweud ar Zoom eich bod yn clywed y cyfieithiad? Ie, gallaf weld hynny, felly gallwn fwrw ymlaen yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda rhywfaint o hyder.