1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 2 Rhagfyr 2020.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwasanaethau diagnostig ledled Cymru? OQ55970
Mae gwasanaethau diagnostig yn rhan sylfaenol o'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau iechyd. Amlinellir ein hymrwymiad i'r gwasanaethau hynny yn y datganiadau o fwriad ar gyfer delweddu a phatholeg, cynllun gweithredu Cymru ar endosgopi a'r strategaeth genedlaethol ar gyfer genomeg. Cefnogir y rhain oll gan nifer o raglenni cenedlaethol.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, bythefnos yn ôl, cyhoeddodd y grŵp trawsbleidiol ar ganser ei adroddiad ar y llwybr canser sengl ac effaith COVID-19 ar wasanaethau canser, ac un o'r argymhellion amlwg oedd buddsoddi mewn gwasanaethau diagnostig, mewn offer, mewn lleoliadau ac mewn pobl—pobl y mae eu hangen yn fawr. Mae Cymorth Canser Macmillan hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i lefelau gwasanaethau diagnostig ddychwelyd i’r hyn oeddent cyn y pandemig, ac i lefelau uwch na chyn y pandemig mewn gwirionedd, fel y gellir mynd i’r afael ag unrhyw ôl-groniad sydd wedi'i greu o ganlyniad i COVID-19. Nawr, er mwyn gwneud hyn oll, mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo adnoddau i'r gwaith o gyflawni hynny. A wnewch chi ymrwymo ar ran Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd cyllid ar gael i gynyddu adnoddau ar ffurf offer a gweithlu i wasanaethau diagnostig yng Nghymru?
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Wrth gwrs, trafodwyd rhywfaint o hyn gennym yr wythnos diwethaf yn y ddadl fer ar adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar ganser. Hoffwn ddiolch unwaith eto, nid yn unig i’r Aelod, ond i Aelodau ar draws y Siambr sydd wedi tynnu sylw at y mater. Mae'n fater pwysig iawn—sicrhau bod gennym yr offer cywir, a hefyd, y staff cywir i allu defnyddio'r offer hwnnw i ofalu am bobl yng Nghymru. Rydym wedi buddsoddi dros £30 miliwn yn y tair blynedd diwethaf mewn offer diagnostig mawr a buddsoddwyd oddeutu £15 miliwn dros y flwyddyn hon mewn diagnosteg. Hefyd, wrth gwrs, agorais Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru ym Mhencoed, ac mae honno'n ein helpu'n fawr nid yn unig i hyfforddi cenhedlaeth newydd o bobl, ond i'w cadw yng Nghymru hefyd. Yn y dyddiau nesaf, byddaf yn cadarnhau ffigurau hyfforddi ar gyfer nifer o feysydd ar gyfer staff ar draws y gwasanaeth iechyd, a bydd hynny'n cynnwys materion yn ymwneud â diagnosteg hefyd. Rwyf hefyd yn disgwyl bod mewn sefyllfa yn y dyddiau nesaf i gadarnhau ble rydym arni gyda'r camau pellach ar y cynllun gweithredu cenedlaethol ar endosgopi hefyd. Nid yw'n fater o os byddwn yn buddsoddi yn nyfodol diagnosteg; mae'n ymwneud â faint y byddwn yn ei fuddsoddi. Ac rwyf am ailadrodd yr ymrwymiad a roddais i'r Aelod yr wythnos diwethaf y byddwn yn ymateb yn briodol ac yn ysgrifenedig i adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar ganser, gan gynnwys yr adrannau ar y gweithlu diagnostig.
Weinidog, byddwch wedi clywed o'r blaen am y potensial am ddiagnosteg gynnar rydym wedi’i weld yn ysbyty Baglan, er enghraifft, pan ydym yn sôn am ganserau. Rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad y cyfeiria David ato yn sicrhau bod y gwaith yno'n parhau yn gyflym. Ond roeddwn am ofyn i chi’n benodol heddiw am rôl deintyddion, gan fod eu rôl yn sylwi ar ganserau posibl yn y geg yn ystod triniaethau arferol yn dra hysbys. Mae'n ddealladwy fod y canllawiau cyfredol i ddeintyddion yn gyfyngol, ond a ydych yn gwybod i ba raddau y mae'r ffigurau canfod cychwynnol ar gyfer canserau'r geg wedi cael eu heffeithio ers mis Mawrth, ac a fyddech yn ystyried adolygu'r canllawiau pe bai gostyngiad amlwg wedi bod?
Na, nid oes gennyf ffigur penodol ar gyfer y gostyngiad yn y nifer o ganserau'r geg a gaiff eu canfod, ond rwy'n cydnabod bod deintyddion yn gwneud mwy o lawer na chyfrif faint o ddannedd sydd gennych a rhoi llenwadau. Maent yn gwneud gwahaniaeth enfawr i hylendid y geg mewn ystod o feysydd, gan gynnwys helpu gyda rhybuddion cynnar o ganser y geg. Felly, mae'n faes sy'n peri pryder. Credaf fod pwynt pwysig iawn i bob un ohonom sy’n ymwneud â’r hyn a ddaw ar ôl COVID, gan y gwyddom fod niwed sylweddol wedi'i wneud eisoes. Gwyddom fod angen inni gymryd camau pellach i gadw mwy ohonom yn fyw ar gyfer y dyfodol. Ond gwyddom hefyd ein bod yn gohirio ac y bydd yn rhaid inni ymdrin â nifer sylweddol o heriau gofal iechyd ar ôl y pandemig. Felly, mae hwn yn un o'r meysydd hynny, ac nid ydym yn deall hyd a lled hynny eto, pryd y bydd angen inni gynllunio ar ei gyfer a chyflawni yn ei herbyn. Pryd bynnag y bydd yn ddiogel ac yn briodol i wneud hynny wrth gwrs, byddwn yn galluogi ac yn annog gofal iechyd pellach i gael ei ddarparu. Nid wyf am golli golwg ar y pwynt a wnaethoch am y gwaith a wnaed yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ar symptomau amhenodol, a'r un peth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Unwaith eto, mae hynny'n rhan o'r hyn rwy’n disgwyl inni ei ddatblygu a’i gyflawni yn y dyfodol, ynghyd â chyngor gan ein clinigwyr yn y rhwydwaith canser.