Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Diolch yn fawr i'r pwyllgor am adroddiad byr a phwysig arall, ac hefyd argymhellion synhwyrol ar gyfer y tymor byr a'r tymor hwy ar gyfer cynnal a datblygu newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol. Bob tro rydyn ni'n trafod y maes yma, dwi yn datgan diddordeb, gan mai newyddiadurwr ydw i, ac aelod o undeb y newyddiadurwyr, yr NUJ, ers bron i 40 mlynedd erbyn hyn. Does dim dwywaith bod tirwedd newyddiaduraeth wedi newid yn sylweddol dros y cyfnod hwnnw, yn enwedig, efallai, yn yr 20 mlynedd diwethaf, ac mae'r newid wedi cyflymu'n ddiweddar oherwydd COVID-19, fel rydyn ni'n gwybod. Fodd bynnag, byddwn i'n cytuno efo'r sylwadau mae eraill wedi'u gwneud, sef bod yna rôl sylfaenol ar gyfer newyddiaduraeth yn ein democratiaeth ni, a'r rôl honno'n sylfaenol ar gyfer cynnal democratiaeth iach.
Mae yna awydd enfawr am newyddion yn ystod y pandemig, ac mae hi wedi bod yn bwysicach nag erioed sicrhau bod gan bobl Cymru fynediad at newyddion sy'n gywir ac yn berthnasol iddyn nhw, nid yn unig er lles ein democratiaeth, ond er lles iechyd cyhoeddus. Ond, fel mae eraill wedi sôn, mae'r pandemig wedi amlygu'r heriau sy'n wynebu newyddiaduraeth, yn enwedig newyddiaduraeth leol a phrint.
Gaf i jest sôn wrthych chi am rai o syniadau Plaid Cymru? Mi fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn hybu'r cyfryngau Cymreig sydd yn cynrychioli pobl Cymru, a'r hyn sydd o bwys iddyn nhw. Mi fyddem ni yn creu comisiwn cyfryngau Cymreig annibynnol i ariannu rhwydwaith newyddion digidol cyfrwng Saesneg. Wrth gwrs, fyddai hynny ddim ar draul newyddiaduraeth cyfrwng Cymraeg; mae angen sicrhau bod digon o gefnogaeth ar gael i Golwg360 ac yn y blaen os ydyn nhw am ddatblygu ymhellach. Mae angen plwraliaeth yn ein newyddiaduraeth; mae angen dybryd am hynny yng Nghymru.
Mae angen mynd i'r afael â'r diffyg democrataidd presennol sydd yn deillio o wendidau hanesyddol. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y rôl bwysig sydd gan y cyfryngau wrth addysgu pleidleiswyr 16 ac 17 mlwydd oed wrth inni agosáu at yr etholiad. Ond mae yna ddiffyg democratiaeth ar draws ystod oedrannau, a dwi'n ddiolchgar i Delyth Jewell am godi'r pryderon hynny yn ddiweddar yn y Senedd. Dim ond 6 y cant o bobl Cymru sy'n darllen papurau Cymreig; 46 y cant ydy'r ffigwr ar gyfer yr Alban. Onid ydy hi'n bryd cael un papur newydd cenedlaethol i Gymru, tra'n derbyn, wrth gwrs, mai newyddiaduraeth a chyfryngau digidol ydy'r dyfodol a'r ffordd ymlaen?
Mae angen edrych ar sefydlu cynllun neu gronfa ar gyfer newyddiadurwyr amlgyfrwng i weithio mewn ardaloedd sydd heb bapur newydd—nid pawb sydd mor lwcus â chael Caerphilly Observer a Caernarfon and Denbigh Herald a phapurau felly. Mi fedrid modelu'r cynllun yma ar y cynllun gohebwyr democratiaeth leol sydd ar waith yn barod, ond ehangu ar hwnnw i gynnwys pob math o newyddion. Ac mae sicrhau mynediad rhwydd at y diwydiant newyddiadura yn hollbwysig hefyd. Mae newyddiadurwyr yn wynebu ystod eang o rwystrau, gan gynnwys, yn aml, gorfod cwblhau sawl interniaeth sy'n aml yn ddi-dâl neu ar gyflog isel, a bellach mae disgwyl i newyddiadurwyr fod â gradd baglor o leiaf. Mi ddylai'r Llywodraeth fod yn edrych ar ffyrdd amrywiol ac amgen, drwy gynlluniau prentisiaeth, efallai, i ddenu newyddiadurwyr newydd o gefndiroedd sydd heb eu cynrychioli yn ddigonol.
I gloi, mae gan y cyfryngau rôl bwysig iawn i'w chwarae yn y misoedd nesaf yma. Wrth i newyddion ynghylch brechiadau gael ei gyhoeddi, mae'n rhaid inni sicrhau bod yna gynllun cadarn i hyrwyddo brechiadau ac i daclo'r camwybodaeth, y fake news sy'n cael ei rannu gan rai ar hyn o bryd. Mae gan newyddiaduriaeth rôl fawr i'w chwarae yn hynny, ac mae angen i'r Llywodraeth weithio yn agos efo'r sector i sicrhau bod yna ymgyrch iechyd cyhoeddus fawr newydd yn cael ei datblygu i addysgu'r boblogaeth ar y pwysigrwydd o gael brechiad yn ogystal â phwysleisio bod brechiadau yn ddiogel. Diolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am eu gwaith trwyadl unwaith eto.