– Senedd Cymru am 2:31 pm ar 8 Rhagfyr 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae gennyf sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Llywodraeth yn cynnig cynnig i atal Rheolau Sefydlog er mwyn galluogi'r Senedd i drafod y cyfyngiadau coronafeirws newydd. Er mwyn darparu ar gyfer hyn, rwyf wedi lleihau amseriad y datganiad ar dasglu'r Cymoedd a'r ddadl ar adolygiad blynyddol cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'r ddadl ar Orchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020 wedi'i gohirio. Ac yn olaf, cytunodd y Pwyllgor Busnes y bore yma i symud y ddadl yfory ar adroddiad y pwyllgor safonau i'r eitem olaf cyn pleidleisio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Ar 23 Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru raglen beilot ar gyfer cefnogi ymweliadau â chartrefi gofal yng Nghymru. Rwy’n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y ddarpariaeth i deuluoedd ymweld ag anwyliaid mewn cartrefi gofal y Nadolig hwn. Dywedodd datganiad Llywodraeth Cymru eich bod chi'n cynnig profion i ymwelwyr cartrefi gofal ar draws nifer fach o gartrefi gofal, gyda'r bwriad o baratoi ar gyfer cyflwyno hyn i fwy o gartrefi gofal yng Nghymru i ddechrau ar 14 Rhagfyr. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd preswylwyr cartrefi gofal yn Lloegr yn cael ymweliadau dan do gan deulu a ffrindiau y Nadolig hwn os ydyn nhw'n profi'n negyddol o ran COVID-19 oni bai bod achos yn y cartref gofal. A bydd dros 1 miliwn o brofion llif ochrol cyflym yn cael eu hanfon i gartrefi gofal fel cam cyntaf rhaglen gyflwyno genedlaethol yn Lloegr i alluogi ymweliadau erbyn y Nadolig. Cefais e-bost gan un o'm hetholwyr, ac rwy'n ei ddyfynnu 'Mae cynnal profion ar berthnasau yn Lloegr a mwy a mwy o bobl yn cael mynd i mewn i'r cartrefi gofal a chofleidio eu hanwyliaid yn hyfryd, ond beth am Gymru? Pam rydym ni bob amser ar ddiwedd y ciw? Er mwyn Duw, cyflwynwch hyn yma a gadewch i drigolion Cymru gael yr un achubiaeth â Lloegr'. Galwaf am ddatganiad a'r wybodaeth ddiweddaraf yn unol â hynny.
Wel, Llywydd, rwy'n gobeithio bod yr Aelod yn cydnabod y cydbwysedd anodd iawn y mae'n rhaid inni ei daro er mwyn cadw preswylwyr mewn cartrefi gofal yn ddiogel rhag COVID, ond yna hefyd gan gydnabod bod ganddyn nhw anghenion lles ac iechyd meddwl pwysig hefyd. Ac rydym ni'n ceisio taro'n cydbwysedd anodd iawn hwnnw. Roedd y datganiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am wasanaethau cymdeithasol yn cyfeirio at y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn hyn o beth. Roedd yn cyfeirio at ddefnyddio profion i alluogi mwy o ymweliadau ac yn ogystal â hynny at y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn podiau i ganiatáu'r ymweliadau diogel hynny hefyd. Rwy'n gwybod bod llawer o ddiddordeb yn yr agenda benodol hon yn parhau, a hynny'n gwbl briodol, felly byddaf yn sicrhau bod y Dirprwy Weinidog gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y cynnydd yn hyn o beth.
Hoffwn i ofyn am nifer o ymyriadau gan y Llywodraeth, er fy mod i'n deall bod yr amser sydd ar gael i'r Senedd eleni yn gyfyngedig. Mae'r cyntaf yn ymwneud â thaliadau ar gyfer hunanynysu. Rwyf wedi cael nifer o athrawon cyflenwi, ymysg eraill, sydd wedi cysylltu â mi i ddweud nad ydyn nhw'n gymwys i gael y taliad hwn. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y gallwch ymestyn y cymhwysedd i'w gwneud yn llawer haws i bobl allu hunanynysu? Unwaith eto, rwy'n gofyn am ddatganiad ar gadw'r rhai sy'n agored i niwed yn glinigol yn ddiogel. Mae angen i bobl gael yr hawl i aros i ffwrdd o'r gwaith ac nid yw'n iawn nad oes gan bobl sy'n agored i niwed yn glinigol yng Nghymru yr un amddiffyniadau â'r rhai sydd ganddyn nhw dros y ffin. Ac yn olaf, a wnaiff y Llywodraeth ystyried blaenoriaethu staff ysgolion ar gyfer brechu? Rwyf eisoes wedi sôn am yr angen i gael profion torfol mewn ysgolion, oherwydd rydym ni'n gwybod bod COVID yn lledaenu mewn ysgolion. Mae'r gweithwyr addysg rheng flaen hyn yn haeddu'r holl amddiffyniad y gallwn ni ei roi iddynt, felly maent yn haeddu statws blaenoriaeth pan ddaw'n fater o frechu.
Diolch i Leanne Wood am godi'r holl faterion pwysig hynny y prynhawn yma. Ar y mater olaf, sy'n ymwneud â blaenoriaethu gwahanol grwpiau i'w brechu, fe fydd hi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cael ei chynghori gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio, fel y mae pob un o bedair Llywodraeth y DU. Ac mae hynny'n bwysig iawn, oherwydd mae'r blaenoriaethu y mae'n ei gynghori ar gyfer brechu yn cael ei wneud ar sail ei ddealltwriaeth o'r anghenion a'r risgiau y mae pobl yn eu hwynebu. Rwy'n deall yn llwyr y gwahanol grwpiau sy'n ymgyrchu'n angerddol y dylen nhw fod ar flaen y rhestr ar gyfer y brechiadau hynny, ac mae ganddyn nhw eu rhesymau rhagorol, ond nid wyf yn credu y dylai hyn fod yn benderfyniad gwleidyddol; dylai fod yn benderfyniad sy'n seiliedig ar y cyngor gorau gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio. Rwy'n gwybod eu bod yn ystyried yr holl sylwadau y mae Llywodraethau ar draws y pedair gwlad yn eu cael yn hyn o beth. O ran taliadau hunanynysu, fe fyddaf i'n gofyn i Leanne Wood ysgrifennu at y Gweinidog, Julie James, ynglŷn â'r achosion penodol a ddisgrifiodd—y staff sy'n gweithio mewn ysgolion—fel y gallwn ddeall yr heriau yno'n well. Ac eto, byddaf i'n codi'r mater pwysig hwnnw o beth arall y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod staff sy'n agored i niwed yn glinigol yn cael eu cadw'n ddiogel a bod cyflogwyr yn arfer eu cyfrifoldebau i'w staff i'w cadw'n ddiogel. Byddaf i'n mynd ar drywydd hynny ymhellach gyda'r Gweinidog Iechyd.
Trefnydd, a gaf i ofyn ichi am un datganiad? Gallai fod yn ddatganiad ar ôl i'r Gweinidog Iechyd gyfarfod â'r sector fferylliaeth gymunedol yr wythnos nesaf. Gallai fod yn ddatganiad ysgrifenedig os yw'n newyddion da. Os yw'n ddatganiad llafar, efallai y byddai modd inni ei gael ar y llawr fel y gallem ei gwestiynu. Mae'n ymwneud â swyddogaeth fferyllfeydd cymunedol wrth ymateb i'r her yn ystod y pandemig coronafeirws hwn. Pan orfodwyd y meddygon teulu ar ddechrau'r pandemig hwn i ddod ag ymweliadau wyneb yn wyneb â'r cyhoedd i ben, y fferyllwyr cymunedol ddaeth i'r adwy. Fe wnaethon nhw gamu i mewn pan nad oedd modd i wasanaethau ffisiotherapi, optegol a deintyddol allu perfformio ac fe wnaethon nhw gamu i mewn i helpu mewn argyfwng hefyd. Ac maen nhw wedi cyflawni hyn yn wyneb heriau gwirioneddol gyda'u staff eu hun, rai ohonyn nhw wedi bod yn gorfod gwarchod eu hunain. Felly, a fyddai'n bosibl cael datganiad sy'n ystyried sut mae fferyllfeydd cymunedol wedi ein gwasanaethu yn ystod y pandemig hwn ac, yn wir, sut y byddai modd eu talu am y costau ychwanegol a gafwyd? Rwy'n ymwybodol bod Fferylliaeth Gymunedol yr Alban, a'r rhai yn Iwerddon a Lloegr hefyd, wedi bod yn rhoi cefnogaeth. Byddai'n wych, ar ôl y cyfarfod â'r Gweinidog Iechyd yr wythnos nesaf, i weld pecyn tebyg yn cael ei gyflwyno gennym ni i gydnabod pobl fel Gareth Rowe o fferyllfeydd Nantymoel ac Ogwr Vale, ac eraill, a gamodd i'r adwy yn ystod yr argyfwng hwn.
Diolch i Huw Irranca-Davies am godi'r mater penodol hwn. Rwy'n cytuno hefyd fod fferyllfeydd cymunedol wedi mynd uwchlaw a thu hwnt i gefnogi eu cymunedau mewn llawer o achosion. Gallaf ddweud wrth Huw Irranca-Davies fod trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a swyddogion Fferylliaeth Gymunedol Cymru wedi bod yn digwydd ers i Fferylliaeth Gymunedol Cymru gyflwyno cais yn ôl ym mis Ebrill am dreuliau ychwanegol a oedd wedi codi oherwydd y pandemig. Rydym ni, wrth gwrs, fel y dywedais, yn cydnabod ei fod wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd i fferylliaeth gymunedol, ac mae'r Gweinidog Iechyd wedi nodi'n glir ei fwriad i ddarparu adnoddau ychwanegol, yn amodol ar y trafodaethau hyn. Cafodd nifer o gynigion eu gwneud, ond maen nhw wedi'u gwrthod, ac mae cynnig terfynol wedi'i wneud yn yr wythnosau diwethaf. Hyd yn hyn, ni fu'n bosibl dod i gytundeb â Fferylliaeth Gymunedol Cymru, ond mae'r cyfarfod yr wythnos nesaf yn bwriadu dod i benderfyniad ar hyn. Dylwn i ychwanegu ein bod ni wedi darparu cyllid ychwanegol o £1.5 miliwn ym mis Mawrth i gefnogi parhad busnes. Hefyd, fe wnaethom ohirio am y tro amrywiaeth o wasanaethau mewn fferyllfeydd, ond rydym ni'n dal i ddarparu'r cyllid ar gyfer y gwasanaethau hynny. Unwaith eto, roedd hynny oherwydd ein pryderon am barhad busnes a bodloni'r costau ychwanegol ar gyfer gwasanaethu cleifion sy'n gwarchod eu hunain, er enghraifft. Felly, rydym yn cydnabod y materion hynny hefyd. Ond byddaf i'n siŵr o sicrhau bod y Gweinidog Iechyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad y trafodaethau hynny cyn gynted ag y bydd yn gallu gwneud hynny.
Hoffwn i alw am ddatganiad brys gan y Gweinidog Addysg ynghylch addysgu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae llawer o rieni pryderus wedi cysylltu â mi sy'n teimlo bod y cwricwlwm newydd arfaethedig yn mynd yn rhy bell. Maen nhw hefyd yn bryderus iawn na all rhieni eithrio eu plant o wersi o'r fath mwyach. Mae miloedd o rieni'n credu'n briodol fod addysg rhyw yn dechrau ac yn gorffen yn y cartref, y dylai'r rhieni hynny sydd eisiau i'w plant gael eu haddysgu am ryw a pherthynas ddatblygiadol fod yn rhydd i wneud hynny, ac y gall y plant optio allan o wersi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae llawer o'r pryder a'r dicter yn canolbwyntio ar y deunyddiau, a rannwyd â mi gan athrawon pryderus, a fydd yn cael eu dangos i blant mor ifanc â phedair oed. Mae plentyn pedair oed yn dal i fod yn fabi yn fy llygaid i, ac ni ddylai, o dan unrhyw amgylchiadau, gael ei addysgu am ryw a mastyrbio. Gadewch i blant gael bod yn blant. Mae'r pryder wedi bod yn cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae angen datganiad gan y Gweinidog i ddatgan yn bendant na fydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn orfodol ac yn sicr na chaiff ei addysgu i blant mor ifanc â phedair oed. Diolch yn fawr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar y Bil cwricwlwm ac asesu, y mae'r mater y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio yn rhan ohono, ers amser maith, ac rydym ni wedi ymgynghori'n helaeth ar y mater penodol hwn. Rwy'n gwahodd Caroline Jones i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg gyda'r enghreifftiau hynny sydd wedi'u rhannu â hi, oherwydd mae'r Gweinidog Addysg bob amser wedi bod yn gwbl bendant y dylai unrhyw addysgu sy'n cael ei ddarparu i blant, yn y maes penodol hwn, fod yn gwbl briodol i'w hoedran. Felly, pe gallai Caroline Jones rannu'r pryderon a godwyd gyda hi, fe wn y bydd y Gweinidog yn awyddus i weld y disgrifiadau hynny.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg, os gwelwch yn dda, i fynd i'r afael â phroblem yn ein hysgolion sydd bellach wedi gwaethygu ers y tro diwethaf imi siarad â chi? Rwyf eisiau croesawu'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach—fod datganiad wedi dod y bore yma yn dweud y bydd llywodraeth leol ac ysgolion nawr yn aros ar agor tan ddiwedd y tymor hwn. Yn ddiddorol, dywedodd y Prif Weinidog hefyd fod plant mewn mwy o berygl gartref nag mewn ysgolion. Yn hynny o beth, rwy'n siŵr y bydd yn rhannu fy mhryderon i fod grwpiau blwyddyn gyfan mewn rhai o'n hysgolion nawr yn dal i aros gartref o'r ysgol oherwydd un achos o coronafeirws fesul grŵp oedran. Er enghraifft, mewn ysgol yn fy ardal i, yn fy rhanbarth i, mae dau grŵp blwyddyn wedi bod i ffwrdd o'r ysgol am bythefnos ac wedi bod yn ôl yn yr ysgol am bedwar diwrnod cyn iddyn nhw gael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw ynysu eto am bythefnos eto, ac mae hyn i gyd, mae'n debyg, oherwydd un achos yn unig fesul grŵp oedran. Gweinidog, rwy'n ymwybodol iawn, yn amlwg, fel y trafodwyd heddiw eisoes, fod yr achosion yn codi'n gyflym a bod yn rhaid i iechyd a diogelwch y cyhoedd ddod yn gyntaf, a bod ysgolion yn gwneud y gorau o ran y cyngor y maen nhw'n ei gael, ond mae yna rywbeth sydd ddim yn gweithio ar hyd y ffordd. Mae gwahaniaethau enfawr rhwng ardaloedd cynghorau o ran sut mae COVID yn cael ei drin yn ein hysgolion. Rwy'n gwybod bod rhywfaint o ymreolaeth leol wedi'i rhoi ar y materion hyn yn bwrpasol, ond, o edrych ar y canlyniadau hyn, onid ydych chi'n credu ei bod yn bryd i ni gael rheolaeth dros hyn? Mae plant yn gorfod aros i ffwrdd o'r ysgol yn llawer rhy reolaidd erbyn hyn. Mae angen i'r Llywodraeth annerch y Siambr hon ar frys a nodi sut mae'n mynd i ymdrin â'r anghysondeb hwn a sut mae'n mynd i sicrhau y gall pawb nawr fanteisio ar addysg gartref ar lefel sy'n agos at gael addysg yn yr ystafell ddosbarth. Ac rwy'n cael adroddiadau nad ydy hynny'n hollol—
Mae angen ichi ddod â'ch cyfraniad i ben nawr. Diolch.
—a phenaethiaid yn cyfaddef bod plant yn parhau i fethu â chael defnydd o offer. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynglŷn â sut y mae hi'n bwriadu mynd i'r afael nawr â phroblem unigedd cyson? Mae effaith hynny—
Dyna ni, dyna ddigon nawr. Fe ofynnais chi ddod â'ch cyfraniad i ben. Fe roddais i ddigon o amser ichi. Y Gweinidog i ymateb.
Diolch. Mae gweld grwpiau blwyddyn gyfan yn cael eu hanfon adref i hunanynysu yn siom pan fyddwch chi'n edrych ar ysgolion eraill sy'n rheoli'r sefyllfa yn llawer gwell na hynny, i bob golwg. Fe wn i fod yr Aelod wedi codi'r mater hwn gyda mi, ynghyd ag un neu ddau o gwestiynau eraill sy'n benodol i addysg yn ddiweddar, ac rwyf wedi gofyn i'r Gweinidog Addysg anfon llythyr yn ymateb. Byddaf yn sicrhau ei bod hi'n adolygu trawsgrifiad heddiw i wneud yn siŵr bod y sylwadau a wnaethoch yn cael eu crybwyll yn yr ymateb ysgrifenedig hwnnw hefyd.
Yr wythnos hon mae'r brechlyn wedi dechrau cael ei gyflwyno ac mae gobaith ar y gorwel i nifer o bobl. Ond rydyn ni'n dal i wynebu ychydig o fisoedd heriol, a bydd yr ifanc a'r hen yn teimlo hyn yn arbennig. Yn wir, Drefnydd, efallai mai'r ddau grŵp yma, yr ifanc a'r hen, sydd cael eu heffeithio fwyaf gan unigrwydd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, gan golli allan ar brofiadau a chwmni eu ffrindiau a'u perthnasau. Yn ddiweddar, fe fu i grŵp o Aelodau lansio grŵp trawsbleidiol newydd ar undod rhwng cenedlaethau, a byddwn ni'n gweithio'n agos gyda'r comisiynwyr ar gyfer pobl hŷn, plant a chenedlaethau'r dyfodol i dynnu sylw at feysydd policy ac ymarfer y gellid eu cofleidio i feithrin cysylltiadau rhwng cenedlaethau ac i ddod â phobl yn ôl at galon eu cymunedau. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar bwysigrwydd gweithio rhwng y cenedlaethau i fynd i'r afael ag unigrwydd, a hoffwn hefyd ofyn i Weinidog o'r Llywodraeth gwrdd ag aelodau o'r grŵp trawsbleidiol newydd fel y gallwn ni drafod pa gamau y gellid eu rhoi ar waith cyn yr etholiad nesaf.
Rwy'n hynod falch o weld ffurfio grŵp trawsbleidiol newydd ar undod rhwng cenedlaethau. Rwy'n credu bod llawer o dir i'w ennill eto yn y maes hwnnw, ac rwy'n credu y gall pob un ohonom ni feddwl am rai enghreifftiau ardderchog o bethau sy'n digwydd yn lleol i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ar ddau begwn oedran a meithrin gwell dealltwriaeth fel hyn rhwng y cenedlaethau. Ond efallai fod yr enghreifftiau hyn yn fwy ynysig nag y byddem ni'n hoffi iddyn nhw fod. Felly, pan fydd y grŵp trawsbleidiol yn cyflwyno ei gynigion o ran meysydd polisi y gellid eu datblygu yn y maes hwn, fe wn i y byddai Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i weld yr awgrymiadau a'r syniadau hyn yn cael eu cyflwyno gan y grŵp trawsbleidiol.
Trefnydd, a gaf innau fynegi fy marn i fel y gwnaeth Laura Anne Jones am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ar y pwnc yr oedd hi'n ei drafod? Ni allwn gael 300 o blant yn cael eu hanfon adref o'r ysgol oherwydd un achos cadarnhaol, a rhai plant wedi bod yn mynychu'r ysgol am bum diwrnod yn unig ers dechrau mis Medi.
A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynglŷn â myfyrwyr a'r hyn sy'n cael ei gynnig iddyn nhw o ran y profion cyn iddynt fynd adref? Efallai ichi sylwi eu bod nhw wedi cael eu hannog i gadw iddyn nhw eu hunain yn ystod y cyfnod rhwng cael y ddau brawf, ac os yw hynny'n golygu hunanynysu, rwy'n credu bod angen i fyfyrwyr wybod mai dyna mae hynny'n ei olygu. Rwy'n credu bod angen ychydig mwy o wybodaeth arnom hefyd ynghylch a fydd angen dau brawf negyddol ar fyfyrwyr cyn y bydden nhw'n cael caniatâd i ddychwelyd i brifysgol ym mis Ionawr ar gyfer gwaith wyneb yn wyneb?
Fe hoffwn i grybwyll hefyd fod yr ystadegau diweddaraf yn dangos mai dim ond wyth myfyriwr mewn rhaglen dreigl saith diwrnod sydd wedi cael prawf cadarnhaol o COVID? Felly, mae rhywbeth yn gweithio'n iawn yn y prifysgolion ac fe fyddai'n fuddiol inni gael gwybod beth yw'r rheswm am hynny. Diolch.
Diolch i Suzy Davies am godi'r mater yna. Fe fyddaf i'n sicr o siarad â'r Gweinidog Addysg i ofyn am rywfaint o eglurder ynglŷn â'r cwestiynau penodol hynny sy'n ymwneud â rhai o agweddau ymarferol trefniadau myfyrwyr wrth iddyn nhw adael i fynd adref dros y Nadolig, ond hefyd o ran y trefniadau ar gyfer dychwelyd i'r campws. Felly, fe fyddaf i'n siŵr o wneud hynny.
Diolch i'r Trefnydd.