– Senedd Cymru am 3:19 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Rydym ni am ailddechrau'r cyfarfod llawn gydag eitem 4 ar ein hagenda, sef datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd. Rwy'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y datganiad—Jeremy Miles.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddydd Sul, pasiwyd carreg milltir arall fyth yn y trafodaethau ar berthynas y Deyrnas Unedig gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, eto heb ddod i gytundeb. Roeddwn i'n disgwyl gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi heddiw ar union natur ein perthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Roeddwn i'n disgwyl gallu crybwyll y camau allweddol y bydd nawr angen i fusnesau, dinasyddion a gwasanaethau cyhoeddus eu cymryd i baratoi ar gyfer y newidiadau sydd o'n blaenau ni mewn dim ond 16 diwrnod. Mae'n amlwg nad ydw i mewn sefyllfa i wneud hynny, sy'n gwbl annerbyniol. Sut y gall busnesau baratoi'n effeithiol heb wybod ar gyfer beth y maen nhw'n paratoi, a heb wybod a fydd yna dariffau neu fiwrocratiaeth ychwanegol? Sut y gall yr heddlu a'r gwasanaethau diogelwch ein diogelu ni fis nesaf heb wybod a fydd ganddyn nhw fynediad at systemau a data hanfodol? Sut gall unrhyw un sydd angen teithio gynllunio pan nad ydym yn gwybod pa wasanaethau hedfan fydd yn gweithredu?
Fe ddywedwyd wrthym ar ddechrau'r trafodaethau fod cytundeb parod i'r ffwrn gan y Prif Weinidog. Wel, ble mae hwnnw? Ac fe ddywedwyd wrthym gan Lywodraeth y DU y byddai mynnu, yn groes i bob rheswm, fwrw ymlaen â'r dyddiad cau o 31 Rhagfyr ar gyfer diweddu'r cyfnod pontio, er gwaethaf pandemig COVID, yn dod â'r ansicrwydd a fu'n rhemp yn y DU am y pedair blynedd diwethaf i ben. Wel, gwahanol iawn yw'r realiti. Mae 16 diwrnod arall ar ôl cyn diwedd y cyfnod pontio, ac nid ydym damaid callach o ran gwybod a fyddwn ni'n gadael gyda chytundeb neu beidio.
Dirprwy Lywydd, mae'n amlwg ei bod yn bwysig i Lywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd gytuno i ddal ati i drafod. Y brif flaenoriaeth yw osgoi sefyllfa o adael y cyfnod pontio heb gytundeb. Pe bai hynny'n digwydd, fe fyddem ni'n gweld anhrefn yn y tymor byr a difrod yn yr hirdymor: tarfu ar ein ffiniau, gan achosi risgiau i gyflenwad o nwyddau hanfodol; costau uwch o ran bwyd a hanfodion eraill; llai o allforio a mwy o fiwrocratiaeth i fusnesau, gan arwain at lai o fuddsoddiad ac yn y pen draw at golli swyddi a chyflogau is. A hynny heb sôn am y risgiau cynyddol i ddiogelwch ein dinasyddion ni, sef dyletswydd gyntaf honedig Llywodraeth, rhag terfysgwyr a throseddau cyfundrefnol.
Mae ein safbwynt ni wedi bod yn eglur ers y refferendwm. Ar bob cam o'r trafodaethau, pa mor bell bynnag y mae Llywodraeth y DU wedi ein cymryd ni oddi wrth ein canlyniad dewisol, rydym wedi dadlau o blaid cadw'r berthynas agosaf bosibl â'r Undeb Ewropeaidd. O blith y dewisiadau eraill sy'n ein hwynebu ni heddiw, cytundeb yw'r ffordd orau o wneud hynny, ni waeth pa mor gyfyng fo hynny. Felly, rwy'n galw heddiw eto ar Lywodraeth y DU ac ar yr UE i ddangos yr hyblygrwydd a'r cyfaddawd sydd eu hangen i ddod o hyd i gytundeb. Rydym ni'n byw mewn byd o gyd-ddibyniaeth, nid annibyniaeth. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU dderbyn y ffaith bod cytuno ar unrhyw fargen fasnach o reidrwydd yn cyfyngu ar sofraniaeth. Dyma'r realiti ar gyfer diogelu'r mynediad llawnaf i farchnadoedd i nwyddau domestig ac i wasanaethau, ac er mwyn osgoi prisiau uwch i'n defnyddwyr. A'r Undeb Ewropeaidd yw ein marchnad fwyaf ni o bell ffordd.
Mae'r materion sydd heb eu datrys hyd yn hyn yn bwysig, ond nid ydynt yn bwysicach na'r miliynau o swyddi ledled y Deyrnas Unedig sy'n dibynnu ar fasnach gyda'r Undeb Ewropeaidd, ac nid ydynt yn bwysicach na diogelwch ein dinasyddion ni. Er bod datblygiadau diweddar yn rhoi rhywfaint o obaith, gan ein bod yn Llywodraeth gyfrifol, rydym ni wedi bod yn cynllunio ar gyfer y sefyllfa waethaf o fod 'heb gytundeb', ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny. Dros yr wythnosau nesaf, ein blaenoriaethau ni, fel y nodwyd gennym yn ein cynllun pontio a gyhoeddwyd dros fis yn ôl, yw: lliniaru'r tarfu a fyddai'n digwydd ar y cyflenwad o nwyddau hanfodol; annog a chefnogi busnesau i wneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer y newid chwyldroadol o adael y farchnad sengl a'r undeb tollau; a gwneud beth bynnag a allwn ni i gryfhau cydnerthedd ein dinasyddion a'n gwasanaethau cyhoeddus ni.
Nid ydym yn gallu aros am yr eglurder sydd ei angen arnom ni. Dyna pam rydym eisoes yn defnyddio ein gallu presennol i gadw nwyddau traul a dyfeisiau meddygol mewn ystordai sydd gennym ni'n barod. Rydym ni wedi contractio cynghorwyr masnach rhyngwladol i gefnogi busnesau i baratoi ar gyfer y newidiadau o ran trefniadau masnachu. Ac rydym ni'n adleoli adnoddau i ategu ein hymateb i argyfyngau sifil posibl. Nid oes dianc rhag yr heriau enfawr sydd o'n blaenau ni, a'r gwir amdani yw mai ychydig iawn o amser sydd yna i baratoi. Ond, rydym yn gweithio'n galed gyda'n partneriaid ac mae ein neges yn eglur: rydym ni yma i'ch cefnogi chi. Yng nghamau olaf tyngedfennol y trafodaethau, fe fyddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddiystyru athrawiaeth sofraniaeth er lles swyddi a bywoliaeth pobl yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, gyda dim ond 16 diwrnod i fynd, fe fyddai cytundeb—hyd yn oed mor gyfyng ag y gallai hwnnw fod—yn well na dim cytundeb o gwbl. Ni ddylid ystyried y cytundeb sydd ar y bwrdd yn llwyddiant. Nid oes uchelgais ar ei gyfyl ac mae ymhell o fod yn gytundeb sy'n ddymunol i ni. Eto i gyd, fe fyddai hwn yn osgoi rhai o'r effeithiau gwaethaf ar ddiwedd cyfnod pontio 'heb gytundeb' anniben ac fe fyddai'n rhoi rhywbeth inni adeiladu arno i'r dyfodol. Fe fyddai'n cadw ein perthynas ni â'r Undeb Ewropeaidd rhag chwalu'n llwyr ac yn cadw'r posibilrwydd o adeiladu cyfres o drefniadau yn y dyfodol a allai ddiogelu swyddi a'r economi a sicrhau diogelwch a lles ein dinasyddion ni.
Fe fyddai gadael y cyfnod pontio heb gytundeb yn fethiant hanesyddol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig—methiant a fyddai'n deillio o dactegau negodi gwael ac o ganlyniad i ddyrchafu delwedd wleidyddol uwchlaw swyddi pobl. Mae dewisiadau anodd o flaen Llywodraeth y DU: rhoi'r flaenoriaeth i'r llinellau cochion a'r geiriau slic neu roi blaenoriaeth i'r swyddi sy'n cynnig y fywoliaeth y mae dinasyddion y DU yn ddibynnol arni.
A gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit am y copi o'i ddatganiad ef, a ddosbarthwyd ymlaen llaw? Er bod yn rhaid imi ddweud, mae'n amlwg o hyd nad yw Llywodraeth Cymru yn dal i fod wedi dod i delerau â chanlyniad y refferendwm ym mis Mehefin 2016. Mae'n ymddangos yn glir iawn i mi, wrth inni agosáu at ddiwedd y cyfnod pontio hwn, fod Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau'r cytundeb gorau posibl i'r Deyrnas Unedig gyfan, ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys pob rhan o'r DU, gan gynnwys Cymru. A'r gwir amdani yw na chewch chi byth gytundeb da heb fod yn barod i gerdded i ffwrdd heb yr un. Nid wyf i'n dymuno gweld y DU, a Chymru fel rhan gyfansoddol o'r DU, ynghlwm â chytundeb bythol sy'n gytundeb gwael i Gymru.
Siomedig iawn, Gweinidog, yw clywed safbwynt Llywodraeth Cymru, a fynegwyd unwaith eto, eu bod nhw'n barod i dderbyn unrhyw fargen o gwbl a allai fod ar y bwrdd, hyd yn oed pe byddai honno'n fargen erchyll sy'n llesteiriol i fusnesau yng Nghymru ac yn llesteiriol i bobl Cymru. Rwy'n digwydd credu, ynghyd â'r Ceidwadwyr Cymreig i gyd, y bydd Cymru'n ffynnu y tu allan i'r UE, hyd yn oed heb gytundeb. Fe fyddai'n llawer gwell, wrth gwrs, inni adael gyda chytundeb, a dyna'r hyn yr wyf i'n gobeithio'n fawr y caiff ei sicrhau yn y dyddiau nesaf. Ond os na chawn ni un, bydded felly.
Fe wnaethoch chi gyfeirio, yn eich datganiad, at gytundeb parod i'r ffwrn: eich cri yw 'Ble mae ef?' Wel, wrth gwrs, fe wyddoch chi gystal â minnau mai'r cytundeb parod y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato yng nghyfnod yr etholiad cyffredinol yn 2019 oedd y cytundeb ymadael, a oedd yn barod i'w goginio ac yn barod i fynd, ac a gafodd, yn wir, ei gyflwyno. Y cytundeb ymadael hwnnw yw'r fargen a wnaed, honno oedd ar y bwrdd, ac roedd gan bobl gyfle i fynegi eu cefnogaeth nhw iddi, neu beidio, yn yr etholiad cyffredinol. Ac, wrth gwrs, fe wnaeth niferoedd sylweddol iawn roi eu cefnogaeth i'r fargen honno. A gaf i ofyn i chi: a ydych chi'n derbyn bod cytundeb gwael yn well na bod heb gytundeb o gwbl? Oherwydd rwyf i o'r farn y byddai'n beth da inni gael rhywfaint o eglurder ar hynny gan Lywodraeth Cymru. Os ydych chi'n credu mai cael cytundeb gwael yw'r peth priodol i'w wneud—ar unrhyw gost, mae angen cytundeb—yna da o beth fyddai mynegiant clir iawn o hynny.
Rydych yn cyfeirio at y ffaith y dylai Llywodraeth y DU geisio rhoi ei sail ideolegol a'i chysylltiad â sofraniaeth o'r neilltu. Ond i ba bwrpas? Pam ddylai hi roi ei hymlyniad i sofraniaeth o'r neilltu? Ni wnaeth Canada roi ei sofraniaeth hi o'r neilltu ar gyfer ymrwymo i gytundeb masnach yr UE. Nid yw Japan wedi rhoi ei sofraniaeth hithau o'r neilltu ar gyfer ymrwymo i gytundeb masnach gyda'r UE. Ac, mewn gwirionedd, nid yw'r cytundebau a lofnodwyd nawr, sy'n barod i fynd o 1 Ionawr, gyda Chanada a Japan a llu o wledydd eraill, wedi rhoi i'r naill ochr unrhyw fath o sofraniaeth er mwyn eu cwblhau Felly, pam ddylai Llywodraeth y DU ildio unrhyw gyfran o'i sofraniaeth i'r UE ar gyfer cael cytundeb? Efallai y gallwch egluro i mi pam ddylai hynny ddigwydd.
Mae'n ymddangos eich bod yn awgrymu hefyd bod gennych chi rywfaint o fewnwelediad i sut un fydd y cytundeb. Roeddech chi'n dweud, rwy'n credu, 'Ar hyn o bryd, gyda dim ond 16 diwrnod i fynd, fe fyddai cytundeb—hyd yn oed mor gyfyng ag y gallai hwnnw fod—yn well na dim cytundeb o gwbl'. Wel, sut ydych chi'n gwybod? Nid ydych chi wedi gweld y cytundeb. Nid ydych chi wedi gweld y fargen a drafodir. Roeddech chi'n dweud na ddylid ystyried bod y fargen sydd ar y bwrdd yn llwyddiant. Nid ydych wedi gweld y fargen ar y bwrdd, oherwydd ni chyhoeddwyd yr un hyd yn hyn. Nawr, rydych naill ai'n meddu ar y gallu i weld i'r dyfodol neu rydych yn defnyddio rhethreg yma oherwydd eich bod chi'n siomedig am fod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud.
Testun balchder i mi oedd clywed yr adroddiadau yn y cyfryngau dros y 24 awr ddiwethaf sydd fel pe bydden nhw'n awgrymu bod rhywfaint o symud wedi bod ar y ddwy ochr. Rwy'n derbyn y bydd angen cyfaddawdu rhywfaint gan Lywodraeth y DU ar ran pobl Cymru a gweddill y DU, ac o du'r UE hefyd. Rwyf innau'n awyddus i weld cytundeb, ond nid wyf i'n credu y dylai'r un ohonom ni sydd yn y Senedd hon feiddio a diystyru dyheadau, na meiddio ceisio rhwystro dyheadau pobl Cymru wrth adael yr UE, i gymryd rheolaeth o'n dyfroedd ni ein hunain, ein ffiniau ni, ein cyfreithiau ni a'n harian ni, a dyna'r sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd.
Nawr, fe wnaethoch chi gyfeirio at rai o'r paratoadau yr ydych chi yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgymryd â nhw. Rwy'n credu mai peth call yw paratoi ar gyfer pob posibilrwydd; rwyf wedi dweud hynny yn y Siambr hon yn y gorffennol, ac rwy'n ailadrodd hynny eto heddiw. Rwy'n credu ei bod yn iawn eich bod chi'n paratoi ar gyfer senario 'heb gytundeb', rhag ofn mai i hynny y bydd hi'n dod. A wnewch chi ddweud wrthym pa fath o fuddsoddiad y bu'n rhaid ichi ei wneud yn Llywodraeth Cymru ar gyfer y paratoadau a wnaed gennych hyd yn hyn? Yn amlwg, rydym wedi cael digon o amser i wneud y paratoadau hynny; a oes unrhyw rai yr ydych chi'n pryderu yn eu cylch nhw o ran ble y gallai pethau orffen? A wnewch chi ddweud wrthym hefyd pa gyfleoedd yr ydych chi'n eu rhagweld yn Llywodraeth Cymru o ran cyfleoedd masnach o'r cytundebau masnach, sydd wedi eu sefydlu ac yn barod i gychwyn o 1 Ionawr? A sut ydych chi'n rhagweld y gallai pobl fanteisio ar y cyfleoedd hynny, yn enwedig pobl yn y gymuned fusnes a'r allforwyr a allai elwa ar hyn? Ac a ydych chi'n derbyn hefyd—
A wnewch chi roi pen ar y mwdl, os gwelwch chi'n dda?
Fe wnaf i. Ac a ydych chi'n derbyn hefyd fod yna lu o bwerau? Fe wnaethoch chi ofyn imi yr wythnos ddiwethaf am gopi o'r rhestr o bwerau. Mae gennyf gopi yn fy llaw, ac fe fyddaf i'n hapus i'w roi ichi y tu allan i'r Siambr. Ond mae ugeiniau o bwerau newydd—trosglwyddiad mawr o bwerau—yn dod i Gymru o ganlyniad i'n hymadawiad â'r UE, ac fe fyddwn i'n gobeithio'n fawr y byddech chi'n eu croesawu nhw. A rhag ofn ichi—. Dyma'r un peth nad yw'n ymddangos bod gennych unrhyw wybodaeth ohono, ond mae gennyf gopi yma. Fe fyddwn i'n hapus i'w trosglwyddo nhw i chi y tu allan i'r Siambr yn nes ymlaen. Diolch.
A gawn ni egluro un neu ddau o bethau ar gofnod, felly? Nid yw'r fargen barod i'r ffwrn yn ddim byd tebyg i'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio, ac rwy'n siŵr y bydd Prif Weinidog y DU yn hynod ddiolchgar iddo am ddarllen allan mor ffyddlon y sbwriel sydd, yn amlwg, wedi cael ei ddosbarthu yn San Steffan i geisio newid y ddirnadaeth o ran hynny. Ac o ran y rhestr o bwerau y mae ef yn ei chwifio yn ei law, ni fu unrhyw ddadl o gwbl mai o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd y caiff pwerau eu dychwelyd i'r fan hon. Mae e'n gwybod yn iawn fod y pwynt yr oedd yn ei wneud yn y ddadl pan ddaethom wyneb yn wyneb y tro diwethaf ar draws y Siambr yn ymwneud â Bil y farchnad fewnol, ac fe ofynnais iddo fy nghyfeirio i at yr adran yn y Bil hwnnw sy'n rhoi unrhyw bwerau newydd i Gymru, ac rwy'n nodi o'i gyfraniad diwethaf na fanteisiodd ef ar y cyfle i wneud hynny.
Fe ofynnodd imi a oedd yn well gennyf i'r cytundeb sydd, i bob golwg, yn cael ei negodi, neu fod heb gytundeb; rwyf i o'r farn fod fy natganiad i yn ei gyfanrwydd yn rhoi'r ateb iddo i'r cwestiwn hwnnw. Mae'n gywir i ddweud na allwn ragweld y cytundeb sydd ar y bwrdd eto; rwy'n siŵr y byddai ef yn cytuno â mi y dylem gael golwg arno, fel Llywodraeth a gaiff ei heffeithio yn sylweddol, ar ran pobl Cymru. Ond mae'n iawn i ddweud nad yw'r manylion gennym. Rydym wedi bod yn eglur iawn: trafodaethau gan Lywodraeth y DU fu'r rhain, ac nid yw'r Llywodraethau datganoledig wedi cael rhan ynddynt yr wyf i'n siŵr y byddai Aelodau'r Senedd hon, yn gyffredinol, yn teimlo eu bod yn ei theilyngu. Mae fy nisgrifiad i o hwn fel cytundeb cyfyng yn seiliedig ar yr uchelgais mwyaf sydd gan Lywodraeth y DU i'r berthynas. Hyd yn oed pe bai hwnnw'n cael ei gyflawni yn ei gyfanrwydd ar y cam hwn, cytundeb cyfyng fyddai. Felly, fe allwn ni gymryd hynny'n ganiataol, rwy'n credu.
Mae ef, yn ei gwestiwn, yn ymhél â mater sofraniaeth. Mae'n gwestiwn pwysig, ond yn ei hanfod mae hynny'n rhithiol yng nghyd-destun trafodaethau masnach rhyngwladol, oherwydd er mwyn cael mantais mae'n rhaid i rywun ildio rhywbeth er mwyn sicrhau unrhyw fath o gytundeb—dyna yw natur negodi. Felly, mae disgrifio hon yn frwydr am sofraniaeth yn hollol gyfeiliornus. Mae'n sôn am Ganada, ac yn sôn am amryw o wledydd eraill; os yw'n dymuno bod gennym ni yr un lefel o fasnach gyda'r UE â'r hyn sydd gan y gwledydd hynny, fe fyddai hynny'n golygu lleihad sylweddol yn ein gallu ni i fasnachu â'r Undeb Ewropeaidd—fe fyddai'n ostyngiad sylweddol.
Fe ofynnodd imi am gyfleoedd, ac eto i gyd fe ofynnodd imi ddilyn yr egwyddorion fel y gwnaeth Canada a gwledydd eraill. Mae'r ddau bwynt hynny'n gwbl groes i'w gilydd, ac rwy'n credu bod yn rhaid bod yr Aelod yn ymwybodol o hynny. O ran cyfleoedd o gytundebau eraill, mae yna gyfleoedd, ac rydym yn dilyn eu trywydd. Ond hyd yn oed ar eu mwyaf uchelgeisiol, cyfran fechan o'r effaith ar ein CMC ni yw'r cyfleoedd hynny, o'u cymharu â pherthynas fasnachu dda â'r Undeb Ewropeaidd, a dyna pam rydym ni wedi rhoi hynny ar frig ein rhestr ni o flaenoriaethau.
Yn olaf, mae e'n dweud, 'A fyddwn ni'n ffynnu y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd?' Bydd y Llywodraeth hon yn awyddus i Gymru allu ffynnu ym mha berthynas bynnag sydd gennym ni ag unrhyw ran o'r byd, ond mae'n rhaid ystyried y dystiolaeth a pheidio â herio sefyllfa wirioneddol ein trefniadau presennol ni, ac ystyried sut y gallwn ni adeiladu ar y rhain, ac nid eu tanseilio nhw. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yn y Llywodraeth yn y fan hon, a dyna'r hyn yr ydym ni'n dymuno i Lywodraeth y DU ei wneud ar ein rhan ni.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad. Fel rydyn ni'n gwybod, gyda dyddiau yn unig i fynd, mae'r trafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn parhau. Os oes cytundeb yn cael ei gyflwyno gerbron Senedd San Steffan, bydd Plaid Cymru'n ystyried yr addewidion a gafodd eu rhoi yn 2016 a 2019. Fe wnaeth Boris Johnson addo na fydd Cymru'n derbyn ceiniog yn llai, y byddwn yn derbyn yr un buddion, ac y bydd ein ffermwyr yn gallu gwerthu i'r Undeb Ewropeaidd fel o'r blaen. A fydd y cytundeb yn cyflawni? Bydd angen i ni weld manylion y cytundeb, ond mae Plaid Cymru yn glir ein bod ni'n methu â chefnogi cytundeb sydd yn niweidiol i bobl a busnesau Cymru. 'Ffwrn-barod'—oven-ready—a'r 'cytundeb rhwyddaf yn y byd', dyna beth a oedd wedi cael ei addo, ond nid dyna beth sydd wedi digwydd. Cytundeb neu ddim cytundeb—does dim digon o amser ar ôl i alluogi busnesau Cymru, a hyd yn oed Llywodraeth Cymru, i baratoi yn llawn ar gyfer pa bynnag amgylchiadau y byddwn yn ffeindio ein hunain ynddynt ar 1 Ionawr. Mae llinellau coch Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers 2017 o adael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn golygu bod tarfu yn anochel, beth bynnag a ddaw o'r cytundeb.
Felly, allaf i ofyn: beth ydi rôl Llywodraeth Cymru wedi bod yn hyn i gyd, yntau ydych chi fel Llywodraeth wedi cael eich anwybyddu unwaith eto gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig? Allwch chi gadarnhau beth ydy'r sefyllfa ddiweddaraf gyda storio cyffuriau yn sgil COVID a Brexit? Ac ydych chi fel Llywodraeth yn disgwyl oedi i feddyginiaethau—hynny yw, delays—yn ein porthladdoedd, sydd angen dod o Ewrop ar just-in-time basis? Dwi'n gwybod beth ydych chi'n ei ddweud ynglŷn â stocpeilio, ond nid yw'n bosib stocpeilio rhai meddyginiaethau achos maen nhw dim ond yn para rhai oriau. Felly, ydych chi'n pryderu ynglŷn ag oedi rhai meddyginiaethau allweddol, fel radioisotopes i'n gwlad? Ydych chi, ymhellach, Weinidog, yn pryderu hyd yn oed os oes cytundeb y bydd cyfnod o amser ble, i bob pwrpas, y byddwn ni mewn sefyllfa o ddim cytundeb oherwydd natur hwyr y trafodaethau? Ac i gloi, dwi'n cydnabod bod pobl yn gweithio rownd y cloc ar y trefniadau posib, a hyn i gyd yng nghanol pandemig angeuol—mae'r sefyllfa yn heriol tu hwnt. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Gaf i gytuno gyda'r pwynt diwethaf yna, i ategu sylwadau Dai Lloyd ynglŷn â'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar draws Cymru i baratoi ar gyfer hyn, yn Llywodraeth Cymru, ond gyda'n partneriaid ni hefyd ac mewn sectorau lu, ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, sydd ddim ond 16 diwrnod i fynd? Felly, mae Dai Lloyd yn iawn i ddweud bod tarfu o ryw fath yn anochel yn y ddwy senario sydd o'n blaenau ni ar hyn o bryd, oherwydd yr ansicrwydd sydd wedi bod a'r tâp coch newydd y mae Llywodraeth San Steffan yn ei gyflwyno ar fusnesau ac allforion yma yng Nghymru.
Fe wnaeth yr Aelod ofyn tri chwestiwn. Yn gyntaf, beth oedd rôl Llywodraeth Cymru yn y negodiadau? Wel, mae rôl gyda ni wedi bod, wrth gwrs, yn y fframweithiau cyffredin, ac yn paratoi'r ddeddfwriaeth, ac yn y broses o baratoi. Ond fel y mae e'n gwybod o'n trafodaethau ni yn y gorffennol, dyw rôl y Llywodraethau datganoledig ddim wedi bod beth y dylai e fod yn y broses o negodi. Felly, negodiadau Llywodraeth San Steffan yw'r rhain—er gwell neu er gwaeth. Mae blaenoriaethau pobl Cymru, trwy Lywodraeth Cymru, ddim wedi cael y lle iawn yn y broses o gytuno safbwynt ar draws Llywodraethau'r Deyrnas Gyfunol, ac wedyn cael dylanwad felly ar y negodiadau. Mae elfennau o ddylanwad wedi bod, ond ddim strwythur y byddai'r Senedd hon yn ei mynnu ar ran pobl Cymru.
O ran yr ail gwestiwn, meddyginiaethau, mae trefniadau ar waith ar draws y Deyrnas Unedig. Rôl a phŵer Llywodraeth San Steffan yw mewnforio meddyginiaethau o dramor i Brydain, wrth gwrs, ond mae trefniadau ar waith i sicrhau bod hynny'n gallu digwydd yn y cyd-destun mae e'n disgrifio, hynny yw, pan mae meddyginiaethau ddim yn gallu cael eu storio, bod rhaid iddyn nhw gael eu cludo ar fyrder. Pe buasai tarfu yn y porthladdoedd, mae systemau ar waith i'w hedfan nhw i mewn er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu cyrraedd mewn da bryd. Mae trefniadau wedi eu cytuno rhwng y pedair Llywodraeth, fel bod rhannu hafal o'r rheini'n digwydd ar draws y pedair cenedl, gyda dylanwad clinigol y chief medical officers yn bwysig yn hynny i sicrhau bod y dosbarthu'n digwydd o safbwynt hafal.
Ac yn y cwestiwn diwethaf gwnaeth e ofyn ynglŷn â'r cytundeb ac ati, rwy'n cytuno gyda beth mae Dai Lloyd yn ei ddweud. Dyw'r cytundeb hwn ddim yn adlewyrchu beth fyddem ni moyn gweld ar ran pobl Cymru. Dyw e ddim yn rhoi digon o sicrwydd i'n heconomi ni, i'n hallforwyr ni ac i'n cyflogwyr ni. Ond mae cytundeb o'r math hwn yn mynd i fod yn gytundeb sy'n well na dim cytundeb. Ac mae gyda ni senario, o bosib, yn y flwyddyn newydd, ac mae Dai Lloyd yn cydnabod, bod efallai cytundeb wedi ei gyrraedd ond bod e ddim mewn grym eto, neu efallai ei fod e wrthi'n cael ei negodi, neu efallai ei fod wedi cael ei negodi ond heb gael ei arwyddo. Felly, mae pob un o'r senarios hynny'n bosib, ac, wrth gwrs, ni'n gweithio i edrych ar beth gall ddigwydd yn y senarios hynny. Fel bydd e'n gwybod, mae'r trefniadau ni wedi bod yn eu gwneud, hyd yn hyn, ar sail gadael heb unrhyw fath o gytundeb. Felly, mae gyda ni'r worst-case senario hynny fel rhan o'n cynllunio ni hefyd.
Diolch am y datganiad, Cwnsler Cyffredinol. Fe ddywedwyd wrth wrandawiad o'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn gynharach y mis hwn fod 61 y cant o allforion Cymru yn mynd i'r UE, o'i gymharu â 43 y cant o holl allforion y DU. Mae gan Gymru gyfran uchel o ddiwydiannau hefyd y disgwylir iddyn nhw fod yn wynebu tariffau uchel os na chawn gytundeb, gan enwi rhai yn unig: modurol, llaeth, cig ac awyrofod. Roedd y fargen parod i'r ffwrn a'r cytundebau hawdd yn ffantasïol, fel y gwyddom ni i gyd nawr. Tua'r un mor barod i'w goginio â thwrci Nadolig wedi ei rewi'n gorn. Felly, mae diogelwch a sicrwydd yn faes allweddol i'w ddatrys hefyd, ac, felly, rwy'n croesawu'r paratoadau cynllunio sifil wrth gefn a'r meddyginiaethau sydd ar gael i ni yng Nghymru. Nid yw hynny'n ymwneud â sofraniaeth afreal.
Felly, Cwnsler Cyffredinol, mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru wedi datgan yn hyglyw fod cytundeb Brexit rhwng y DU a'r UE yn hanfodol. Mae'r CBI yn glir, fel y mae'r Llywodraeth hon, nad oes neb wedi pleidleisio o blaid llai o ddiogelwch, na dinistr 'heb gytundeb' ar ein masnach a'n heconomi ni, na phrisiau bwyd uwch, na mwy o brinder y meddyginiaethau sydd ar gael, na thagfeydd mewn porthladdoedd ar y ffiniau yn y DU a'r hyn y byddai hynny'n ei olygu. Cwnsler Cyffredinol, felly, beth yw canlyniadau dim cytundeb ar economi Cymru a'r berthynas rhwng Cymru ac Ewrop yn 2021? Ac, yn hollbwysig, beth fyddai hyn yn ei olygu i bobl Cymru, os ydych yn dymuno gadael neu aros?
Diolch i Rhianon Passmore am y cwestiwn yna. Mae hi'n iawn i ddweud bod gan Gymru ganran fwy o allforion i'r Undeb Ewropeaidd nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. I gefnogi ein hallforwyr ni yn y misoedd sydd i ddod, mae Llywodraeth Cymru wedi contractio gwasanaethau carfan o gynghorwyr masnach rhyngwladol, a fydd ar gael i gefnogi allforwyr i lywio'r fiwrocratiaeth newydd, y bydd safbwynt negodi'r Deyrnas Unedig yn ei rhoi ar ein busnesau ni, i bob pwrpas.
Fe fydd llawer o allforwyr, wrth gwrs, eisoes wedi ystyried y ffaith eu bod yn wynebu llu o ofynion dogfennau allforio newydd sy'n gysylltiedig â'r tollau, a fydd yn amlwg yn golygu llwyth o gostau ychwanegol sylweddol i'w busnesau. Ond ni fyddant hyd yn hyn wedi gallu meintioli mater y tariffau na sut y caiff y cynhyrchion y maent yn eu hallforio eu trin, sut y caiff cydrannau'r cynhyrchion hynny eu hystyried, sut y caiff safonau eu cydnabod dros y Sianel. Felly, mae pob un o'r rhain yn gwestiynau o bwys mawr ym meddyliau llawer o fusnesau sy'n allforio, ar hyn o bryd, ac rwy'n dweud eto mai 16 diwrnod sydd gennym ni ar ôl o'r cyfnod pontio. Felly, dyna pam mae mor bwysig, hyd yn oed ar yr unfed awr ar ddeg fel hyn, roi'r eglurder sydd ei angen ar fusnesau yng Nghymru i gefnogi eu ffyniant a chefnogi'r bobl sy'n dibynnu arnyn nhw am fywoliaeth.
Rwy'n credu ei bod yn iawn dweud bod y CBI a sefydliadau busnes eraill yn eglur bod cytundeb yn fanteisiol i economi'r DU ac economi Cymru. Mae ein dadansoddiadau academaidd diweddaraf ni o effaith hirdymor senario 'heb gytundeb' ar economi Cymru a'r DU gyfan yn dangos economi sydd tua 8 y cant yn llai nag y byddai wedi bod dros gyfnod o 10 mlynedd. Nawr, mae hynny ar yr un pryd ag y mae busnesau yn dioddef yn sgil effeithiau COVID ac mae'n amlwg y bydd yn cymryd cyfnod sylweddol o amser i wella o hynny. Rydym ni o'r farn nad oes unrhyw reswm o fath yn y byd i ychwanegu at ddinistr diofyn COVID gyda dinistr gwirfoddol o adael y cyfnod pontio heb gytundeb.
A gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad? Rwy'n cymeradwyo gwaith paratoi Llywodraeth Cymru ar gyfer nifer o senarios Brexit. Mae hynny'n rhywbeth darbodus a synhwyrol. Ond, Cwnsler Cyffredinol, rydych chi'n parhau i alaru'r ffaith eich bod chi, ar ôl pedair blynedd, wedi cyrraedd y dyddiau olaf, ond faint o hynny sy'n deillio o safbwynt y rhai nad oedd yn dymuno Brexit o gwbl, gan eich cynnwys chi a Llywodraeth Cymru, drwy geisio tanseilio'n barhaus benderfyniad democrataidd y bobl ym mis Mehefin 2016 yn barhaus? Mae'n anochel bod y safiad hwn wedi tanseilio ymdrechion negodwyr y DU i gael yr UE i dderbyn cytundeb Brexit rhesymol a derbyniol.
Fe ddywedir bod tri maes hollbwysig yn brif rwystrau i gytundeb. Felly, yn gynharach heddiw, fe alwais i am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â pha gyfaddawdau y byddai'n rhaid eu gwneud i osgoi sefyllfa 'heb gytundeb' gyda'r Undeb Ewropeaidd. O ystyried na chefais i ateb gwirioneddol i'm cwestiynau, nid wyf yn ymddiheuro am ailadrodd y cwestiynau hynny nawr: pa gyfaddawdau y byddai Llywodraeth Cymru yn barod i'w gwneud i osgoi sefyllfa 'heb gytundeb'? A fyddai hynny'n golygu cyfaddawdu o ran ein pysgodfeydd—sydd, gyda llaw, ar hyn o bryd yn cael eu dihysbyddu gan longau enfawr o Ffrainc, yr Iseldiroedd a Sbaen, gan dynnu rhwydi hyd at 250 tunnell o bysgod y dydd, â chanlyniadau amgylcheddol trychinebus—neu a fyddai'n cyfaddawdu ar y maes chwarae gwastad fel y'i gelwir, sy'n golygu, wrth gwrs, y byddai Llywodraeth y DU, ymhlith ymyriadau economaidd hanfodol eraill, yn parhau i fod yn gyfyngedig iawn oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol, gan ein rhwystro ni rhag helpu ein diwydiannau dur yn y ffordd y byddem yn ei dymuno, neu a fyddai'n cyfaddawdu drwy gadw at oruchafiaeth Llys Cyfiawnder Ewrop dros gyfraith y DU, sef rhywbeth yr oedd y bobl a bleidleisiodd o blaid Brexit yn ei wrthwynebu? A fyddech chi, Cwnsler Cyffredinol, gystal â rhoi ateb syml i'r cwestiynau, heb unrhyw ddryswch.
[Anhyglyw.]—tri llythyr ynglŷn â physgodfeydd, maes chwarae teg a llywodraethu, a anfonais i at Michael Gove nifer o wythnosau yn ôl, a oedd yn nodi ein safbwynt dewisol ni o ran pob un o'r meysydd hynny sydd ar ôl. Rwyf wedi gofyn am gyfle, mewn mwy nag un o gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE), i fod â rhan yn y trafodaethau strategol y mae Llywodraeth y DU yn eu hystyried yn yr wythnosau diwethaf hyn, ac nid ydym wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn y rhain. Felly, yn absenoldeb hynny—. Ac rwy'n ei gyfeirio at y llythyrau, ac rwy'n siŵr ei fod wedi eu darllen nhw, sy'n nodi safbwynt Llywodraeth Cymru yn gywir iawn o ran sut y dylid trafod hyn. Trafodaethau Llywodraeth y DU yw'r rhain, nid trafodaethau Llywodraeth Cymru, ac nid Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol ein bod ni 16 diwrnod oddi wrth ddiwedd y cyfnod pontio heb gytundeb; Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am hynny.
Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn dryloyw iawn. Nid oedd ef erioed wedi dymuno Brexit, mae wedi gwneud popeth o fewn ei allu yn y pedair blynedd a hanner diwethaf i'w danseilio, ac fe fethodd â rhoi ateb i gwestiwn David Rowlands. Mae'n gwbl amlwg o'i ddatganiad mai ei syniad ef o drafodaeth yw ein bod yn derbyn yn syml pa ofynion bynnag a wnaiff Monsieur Barnier, waeth pa mor hurt neu afresymol ydynt—y math o drafodaethau a gynhaliwyd gan Marshal Pétain gyda Hitler ym 1940.
Yn ei ddatganiad, fe ddywedodd hyn, y dylai Llywodraeth y DU a'r UE
'ddangos yr hyblygrwydd a'r cyfaddawd sydd eu hangen i ddod o hyd i gytundeb.'
A wnaiff ef ddweud wrthyf i nawr beth fydd yr UE yn ei gyfaddawdu ar gyfer dod i gytundeb â Llywodraeth y DU? A yw hynny'n gyfaddawdu o ran eu galw nhw y dylen nhw barhau i ddeddfu ar ein rhan ni, er nad oes gennym ni lais na phleidlais mwyach yng nghynghorau’r UE? A ddylem ni barhau i ganiatáu i wledydd Ewrop gael rhwydd hynt i bysgota cymaint o bysgod a phosibl o ddyfroedd Prydain? Beth yn union yw'r cyfaddawdau y mae ef yn credu y dylai'r UE fod yn eu gwneud nawr i gael cytundeb?
Wel, rwy'n credu mai'r un yw'r ateb i gwestiwn Neil Hamilton ag a roddais i gwestiwn David Rowlands.
Diolch yn fawr iawn, Cwnsler Cyffredinol.
Rydym yn symud ymlaen nawr. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y tri chynnig o dan eitemau 5, 6 a 7 ar ein hagenda ni, y rheoliadau diogelu iechyd (cyfyngiadau coronafeirws) 2020, yn cael eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidlais ar wahân. Nid wyf i'n gweld unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig hwnnw.