2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 16 Rhagfyr 2020.
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r rôl y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae o ran gwella ymgysylltiad y cyhoedd â gwleidyddiaeth leol? OQ56053
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn chwarae rôl arwyddocaol yn gwella'r rhan y mae'r cyhoedd yn ei chwarae mewn gwleidyddiaeth. Drwy ddeddfwriaeth, rydym wedi ymestyn yr etholfraint bleidleisio ac wedi gwneud darpariaethau i ddiwygio cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol. Ac i gefnogi hyn, bydd ein hymgyrch gyfathrebu sydd i ddod yn annog dinasyddion i ymgysylltu â gwleidyddiaeth drwy gymryd rhan.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ac ydych, rydych wedi gwneud nifer o newidiadau sylweddol i'r system etholiadau lleol, ac rydych wedi sôn am rai ohonynt heddiw mewn gwirionedd. Ond rydym wedi colli cyfle, a fyddai wedi cynyddu ymgysylltiad yr etholwyr yn ehangach, i sicrhau system etholiadol fwy cyfrannol ar gyfer cynghorau lleol. Nawr, gwn fod eich deddfwriaeth yn caniatáu i awdurdodau lleol fabwysiadu'r model pleidlais drosglwyddadwy sengl, ond nid yw'n gorfodi iddynt wneud hynny, ac nid yw hyd yn oed yn eu gorfodi i ofyn i'w hetholwyr a fyddent yn awyddus i'r system honno fod ar waith. Nid wyf yn credu y bydd unrhyw gyngor yng Nghymru yn mabwysiadu system fwy cyfrannol o'i wirfodd, oherwydd yn y bôn mae'r rhai sydd mewn grym bob amser yn amharod iawn i newid y system bleidleisio sydd wedi’u rhoi mewn grym, rhag ofn y bydd yn arwain at ganlyniadau gwahanol y tro nesaf. Felly, mewn gwirionedd, onid yw cynnwys yr opsiwn i gynnal etholiad pleidlais drosglwyddadwy sengl yn eithaf diystyr? Heb ei wneud yn orfodol, mae'n ymddangos fel pe baech yn defnyddio'r system ddemocrataidd yn sinigaidd i warchod eich ffrindiau yn siambr y cyngor, sydd, heb amheuaeth, yn dosbarthu taflenni ac yn cnocio drysau i chi yn gyfnewid am hynny. Felly, Weinidog, a wnewch chi ystyried opsiynau i orfodi cynghorau lleol i ddefnyddio model etholiadol mwy cyfrannol, neu a fydd pleidleiswyr yn gaeth i’r system bresennol am byth?
Wel, Michelle Brown, rwy'n gwrthod yr honiad rydych yn seilio eich cwestiwn arno yn llwyr. Nid wyf yn credu bod defnyddio'r gair 'gorfodi' mewn sgwrs am gyfranogiad y cyhoedd o fudd i chi nac i unrhyw un arall. Felly nid wyf yn cytuno â chymell awdurdodau lleol i wneud pethau—maent hwy eu hunain yn sefydliadau a etholwyd yn ddemocrataidd. Yr hyn y mae ein Deddf yn ei wneud yw grymuso awdurdodau lleol i wneud eu penderfyniadau eu hunain, lle maent yn dymuno gwneud hynny. Ac wrth gwrs, mae'r Bil hefyd yn cynyddu nifer fawr o fethodolegau cyfranogiad y cyhoedd, a fydd yn caniatáu iddynt ymgynghori'n eang a chynnwys eu trigolion lleol.
Rydym hefyd, wrth gwrs, yn cymryd rhan fawr yn ein cynlluniau cynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth. Ac mae'r Bil hefyd yn nodi nifer o bethau y credwn y byddant yn galluogi mwy o bobl i sefyll mewn etholiad ar gyfer cynghorwyr lleol, gan gynnwys mynediad at ddysgu o bell, at gyfarfodydd, mynediad o bell i swyddogion, ac wrth gwrs canllawiau cryfach ar gymorth i gynghorwyr lleol gyflawni eu llwyth achosion a'u rolau lleol.
Rwy'n credu y bydd pob un ohonom yn ystod ein hamser fel Aelodau etholedig wedi cael ein syfrdanu gan ymgyrchoedd cymunedol a ysgogwyd gan unigolion yn dod at ei gilydd i ymladd naill ai o blaid neu yn erbyn rhywbeth sy'n bwysig iawn iddynt. Mae llwyth ohonynt yng Ngorllewin De Cymru, ond mae un—‘Save Our Fields’ ym Mracla—yn ymgyrchu ar hyn o bryd i gadw'r unig fan gwyrdd helaeth yn yr anheddiad hwn, sy'n gartref i oddeutu chwarter poblogaeth Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n enghraifft berffaith. Nawr, mae hynny’n gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol hefyd, a chaiff ei ymarfer yn aml mewn ffordd sy'n datgelu problemau gyda nodau polisi Llywodraeth sy'n cystadlu â'i gilydd. Ac nid yw pob ymgyrchydd eisiau sefyll etholiad ei hun, wrth gwrs. Ond beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud er mwyn sicrhau bod ymgynghoriadau'n ystyrlon ac yn cael eu hyrwyddo'n iawn, a bod pobl fel ymgyrchwyr ‘Save Our Fields’ ym Mracla yn teimlo bod eu llais yn wirioneddol bwysig, a’i fod yn cael ei gymryd o ddifrif?
Ie, ac rwy'n cytuno'n llwyr â Suzy Davies fod llawer o bobl yn cael eu blas cyntaf ar wleidyddiaeth—gwleidyddiaeth gyda ‘g' fach—oherwydd eu bod wedi ymgyrchu yn erbyn cau cae chwarae lleol neu agor rhywbeth nad ydynt yn ei hoffi yn lleol, a chânt syniad o sut y gall eu llais gael ei glywed wrth iddynt ddod at ei gilydd fel cymuned. Felly, rwy'n credu ein bod, os mynnwch, yn rhannu hoffter o'r math hwnnw o weithredu cymunedol, ac rwy’n awyddus iawn i'w hwyluso, os mai dyna’r gair cywir.
Felly, mae'n rhaid i bob awdurdod lleol nodi strategaeth cyfranogiad y cyhoedd i nodi'n glir sut y maent yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o waith y cyngor, a sut y mae ei benderfyniadau'n effeithio ar fywydau pobl, ac maent hefyd yn egluro sut y gall unigolion gael mynediad at benderfyniadau a chyflwyno sylwadau i’r cyngor, ac yn bwysig, sut y gallant wneud y sylwadau hynny'n hysbys mewn da bryd fel eu bod yn effeithio ar y penderfyniad y maent yn bryderus yn ei gylch. Fel y dywedais wrth ateb cwestiwn blaenorol, nid pan fo arwydd yn cael ei roi ar y polyn lamp lleol yn dweud mai dim ond ychydig ddyddiau sydd gennych i wneud sylwadau yw'r adeg honno; mae'n ymwneud ag ymwybyddiaeth, yn ehangach, o sut y gallwch leisio'ch barn. Ac felly, bydd dyletswydd ar bob awdurdod lleol i hyrwyddo'r cynllun cyfranogiad y cyhoedd mor eang â phosibl, ac i roi mynediad, yn bersonol—fel y gallwch fynychu'n bersonol, pan fydd rheoliadau COVID wedi dod i ben wrth gwrs—ond hefyd, mynediad electronig, mynediad dros y ffôn ac ati, er mwyn caniatáu i bobl gael eu lleisiau wedi'u clywed, ac rydym yn disgwyl iddynt gael y strategaethau ar waith ac adrodd arnynt yn flynyddol er mwyn craffu ar eu cynghorau eu hunain a'r Senedd.
Un maes lle mae'r cyhoedd yn ymgysylltu yw ceisiadau cynllunio. Y broblem fawr yw bod ceisiadau cynllunio amhoblogaidd, fel tai amlfeddiannaeth dros y terfynau a osodir gan ganllawiau cynllunio atodol, yn cael eu gwrthod gan y cyngor ond yn cael eu caniatáu gan arolygwyr cynllunio. A yw'r Gweinidog yn cytuno mai rhoi diwedd ar allu arolygwyr cynllunio i ddiystyru amodau cynllunio'r cynghorau a gwneud i ymgeiswyr aflwyddiannus fynd am adolygiad barnwrol yn lle hynny, yw’r ffordd orau o wella ymgysylltiad y cyhoedd ac ennyn hyder y cyhoedd?
Wel, bydd Mike Hedges yn gwybod ei fod ef a minnau wedi cael un neu ddwy o ddadleuon ar y pwynt hwn dros nifer fawr o flynyddoedd. Felly, mae'n gwybod nad wyf yn cytuno ag ef ar hynny, mae'n ddrwg gennyf ddweud. Gall ymgeiswyr apelio pan fydd cais yn cael ei wrthod, a bydd arolygydd annibynnol yn gwirio penderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol yn erbyn polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol ac unrhyw ystyriaeth berthnasol arall sy’n codi. Rwy'n llwyr gydnabod y pwynt am gynlluniau lleol, ardaloedd strategol lleol, ardaloedd strategaeth tai amlfeddiannaeth ac ati—mae yna nifer ohonynt—gorchmynion cynllunio strategol, ac ati.
Mae gennym berthynas dda gyda'n holl awdurdodau lleol yng Nghymru, a lle gofynnwyd imi wneud hynny—ac rwy'n hapus iawn i wahodd cais o'r fath gan unrhyw awdurdod lleol arall—mae'r arolygwyr cynllunio wedi gallu gweithio gyda swyddogion o'r awdurdodau hynny i ddeall beth yw'r gofynion tystiolaeth er mwyn amddiffyn apêl, er mwyn gwneud y penderfyniad yn y lle cyntaf, ac yn wir, er mwyn cryfhau eu gorchmynion cynllunio penodol, neu orchmynion atal tai amlfeddiannaeth, neu beth bynnag y maent yn ei wneud, fel nad ydynt yn cael eu gwrthdroi ar apêl. Ac mewn gwirionedd, rydym wedi cynhyrchu ystadegau oherwydd ceir canfyddiad fod mwy yn cael eu gwrthdroi ar apêl na pheidio, ac rydym wedi cynhyrchu ystadegau sy'n dangos nad yw hynny’n wir.