3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 16 Rhagfyr 2020.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â phwysau ar y GIG dros y gaeaf, ar wasanethau ac amseroedd aros am ddiagnosis a thriniaeth? TQ525
Diolch. Lle bynnag y bo'n ymarferol, bydd y GIG yn ymdrechu i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer diagnosteg a thriniaethau, yn seiliedig ar flaenoriaeth glinigol ac amseroldeb. Bydd ein GIG yn parhau i asesu risg cleifion ar restr driniaeth weithredol, er mwyn sicrhau bod y rhai sydd â'r angen clinigol mwyaf yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth yn unol â chanllawiau clinigol cenedlaethol.
Diolch. Hoffwn wneud apêl ar ran dau sefydliad mewn ymateb i'ch datganiad yr wythnos diwethaf ar bwysau COVID y GIG a fframweithiau newydd sy'n cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r pwysau hwnnw. Yr hyn y mae Cancer Research UK yn ei ofni yw bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith yma sy'n caniatáu i fyrddau iechyd lleol israddio rhai gwasanaethau allweddol, gan gynnwys llawdriniaethau canser dewisol a diagnosteg nad yw'n ddiagnosteg frys ond sy'n hynod bwysig. A chofiwch, maent wedi dadlau'n gyson dros gynyddu gwasanaethau i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o gleifion canser, argymhelliad allweddol a wnaed gan y grŵp trawsbleidiol ar ganser fis diwethaf hefyd. Maent yn pryderu nad yw'r gwersi a ddysgwyd o don gyntaf y pandemig wedi'u gweithredu.
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn gwneud galwadau y gellid ystyried ar yr wyneb, eu bod bron yn gwrth-ddweud hynny, ond nid yw hynny'n wir. Yr hyn y mae'n ei wneud yw tynnu sylw at gymhlethdod y sefyllfa a wynebwn, fel y gwyddoch yn iawn, a'r angen am ganllawiau clir iawn gan y Llywodraeth i'n cael ni drwy'r cymhlethdod hwnnw. Yr hyn a ddywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol mewn llythyr cyhoeddus atoch yw bod pwysau difrifol ar y gweithlu, fod staff yn cael eu gorlethu a'u bod wedi blino'n lân a'r realiti syml fod y prinder o nyrsys cofrestredig ar gael i weithio mewn rhai rhannau o Gymru bellach yn golygu y gallai fod angen oedi gofal dewisol nad yw'n ofal brys unwaith eto, yn union fel a ddigwyddodd yn ystod y don gyntaf, ac maent yn dweud hynny gyda chalon drom.
Yr hyn sydd gan Cancer Research UK a'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn gyffredin iawn yma yw'r farn fod yn rhaid cael eglurder llwyr gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r cyd-destun y mae ein byrddau iechyd yn gwneud penderfyniadau ynddo. Nawr, mae opsiynau lleol, fel y nodir yn y fframwaith, yn iawn, ond a all y Gweinidog sicrhau'n bendant fod yna eglurder ynglŷn â pha bryd y dylid sbarduno cyfyngiadau ar driniaethau nad ydynt yn ddewisol, er enghraifft, fel bod cysondeb ar draws y GIG, a nodi pa wasanaethau, gan gynnwys mewn diagnosis a thriniaeth canser, na allwn adael iddynt lithro yn ystod yr ail don ddifrifol iawn hon?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n credu, gyda pharch, ein bod eisoes wedi mynd i'r afael â hynny yn yr hyn rydym wedi'i ddweud. Rwy'n deall ofnau gwahanol grwpiau diddordeb a gwasanaethau, ac rwy'n deall safbwynt y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dda iawn. Maent yn iawn i ddweud y dylent hwy, a phob un ohonom, boeni am realiti absenoldebau staff. Rwyf newydd fod mewn galwad gyda byrddau iechyd ac arweinwyr llywodraeth leol o bob rhan o ardal de Cymru yn gyffredinol, ac mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan newydd gadarnhau bod ganddynt gyfradd absenoldeb staff o 11 y cant. Nawr, mae hynny'n cael effaith sylweddol ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau, ac os oes cynifer â hynny o staff yn absennol, ni allwch barhau i ddarparu'r holl wasanaethau.
Mae hefyd yn golygu nad oes gan y bwrdd iechyd hwnnw, na rhai eraill sy'n wynebu heriau tebyg, opsiwn i barhau i agor darpariaeth ychwanegol gyda'r staff sydd ganddynt, ac felly, ceir heriau gwirioneddol. Ac unwaith eto, pe baech yn siarad ag arweinwyr llywodraeth leol, byddent hwy hefyd yn disgrifio'r math o bwysau sydd arnynt gydag absenoldebau staff, a gwyddom fod comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid yn wynebu pwysau tebyg hefyd. Felly, dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r fframwaith gweithredu.
Mae'n ymwneud â mwy na byrddau iechyd unigol yn gwneud dewis drostynt eu hunain yn unig gan anwybyddu gwasanaethau eraill, oherwydd gwyddom fod cyd-gymorth eisoes yn digwydd. Mae bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, er enghraifft, eisoes yn cynorthwyo bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg i reoli rhywfaint o'r pwysau sydd arnynt. Gwyddom fod gwasanaethau canser yn aml yn digwydd yn ôl patrwm rhanbarthol. Mae amrywiaeth o wasanaethau arbenigol eraill yn digwydd ar draws ffiniau byrddau iechyd, a'r neges rwyf wedi bod yn ei rhoi, a'r neges y mae byrddau iechyd wedi bod yn ei hadlewyrchu'n ôl, yw eu bod, o fewn y dewisiadau y maent yn eu gwneud i reoli pwysau lleol, eisoes yn edrych ar yr heriau i wasanaethau rhanbarthol. Nid oes unrhyw un o'r dewisiadau hynny wedi effeithio ar wasanaethau rhanbarthol eto, ond mae prif swyddogion byrddau iechyd yn siarad yn rheolaidd am hyn. Cafwyd sgwrs ddoe ym mwrdd y GIG, dan gadeiryddiaeth prif weithredwr GIG Cymru. Mae ffyrdd rheolaidd i bobl gael y sgyrsiau hynny ar draws y gwasanaethau.
Dylwn ddweud, er mwyn i bobl ddeall y pryder am wasanaethau canser, fod gwasanaethau canser yn cael eu cynnal lle mae'n ddiogel i wneud hynny. Mae'n ymwneud â diogelwch y gwasanaeth. Felly, nid yw gwasanaethau canser yn cael eu hisraddio. Rydym yn gorfod ymdopi yn erbyn y pwysau gwirioneddol sy'n ein hwynebu, ac mae'n gwbl bosibl, yn y dyfodol agos, y bydd angen imi wneud penderfyniad cenedlaethol ynglŷn â sut y caiff gwasanaethau eu rheoli. Gwyddom, serch hynny, fod y sefyllfa yn Hywel Dda yn cynyddu, mae'r sefyllfa'n wahanol ym Mhowys, oherwydd maent yn comisiynu eu gofal eilaidd, a gwyddom fod y sefyllfa ychydig yn wahanol yng ngogledd Cymru hefyd. Felly, pe bawn yn gwneud dewis cenedlaethol ar hyn o bryd, gallai hynny effeithio ar bobl yng ngogledd Cymru, yn enwedig, a fyddai'n gallu rheoli rhai o'r gwasanaethau hynny am gyfnod estynedig o bosibl. Ond os bydd cyfraddau coronafeirws yn parhau i godi yn y modd y maent yn ei wneud, mae arnaf ofn ar ryw bwynt y bydd angen i ni fynd yn ôl i'r sefyllfa roeddem ynddi ar 13 Mawrth gyda dewis cenedlaethol ynglŷn â gwasanaethau. Nid ydym yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd, ond rwy'n ystyried pwyntiau adeiladol yr Aelod. Ni ddylem golli golwg ar y ffaith bod rhaid ystyried dewisiadau lleol o fewn cyd-destun ehangach.
Diolch am yr atebion hyd yn hyn, Weinidog. A allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am gyflwr y byrddau iechyd sydd heb atal llawdriniaethau dewisol hyd yma? Gwyddom fod dau yng Nghymru, byrddau iechyd Aneurin Bevan a Bae Abertawe, wedi canslo llawdriniaethau dewisol. Fe ddywedoch chi yn eich ateb blaenorol eich bod newydd ddod o gyfarfod am absenoldebau staff o fewn y GIG, felly a allech chi roi'r sefyllfa ddiweddaraf i ni? Oherwydd mae'n amlwg fod atal llawdriniaethau dewisol mewn unrhyw fwrdd iechyd yn cael effaith ddramatig ar wasanaethau a ddarperir i gleifion sydd, yn amlwg, wedi bod yn disgwyl cael eu gweld.
Mae'r ddau fwrdd iechyd a nodais yn gynharach yn yr wythnos wedi cyhoeddi eu dewisiadau i gyfyngu ar rai gwasanaethau—nid llawdriniaethau dewisol yn unig ond amrywiaeth o apwyntiadau cleifion allanol ac eraill hefyd. Credaf ei bod yn gwbl bosibl y byddwn yn gweld angen i fyrddau iechyd eraill wneud yr un peth. A chyfeiriaf at 'angen' i wneud yr un peth—nid eisiau gwneud hynny ond angen—oherwydd y pwysau gwirioneddol ar wasanaethau. Felly, fel y nodais yn fy ateb i lefarydd Plaid Cymru, rydym eisoes wedi gweld Caerdydd a'r Fro yn cynorthwyo Cwm Taf Morgannwg gyda rhywfaint o'r pwysau sy'n eu hwynebu, ac mae'n bwysig fod cyd-gymorth yn bodoli ar draws ein gwasanaeth iechyd gwladol.
Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â hanfod y cwestiwn cyntaf ynglŷn â sicrhau nad yw byrddau iechyd yn gweithredu mewn modd ynysig lle nad ydynt ond yn meddwl mewn ffordd gul iawn, ond eu bod, yn hytrach, yn deall yr effaith ehangach. Ac mae'n rhaid i hynny hefyd fod yn ystyriaeth o'r effaith ar wasanaeth ambiwlans Cymru hefyd, oherwydd bydd y ffordd y caiff pwysau ei reoli yn effeithio ar y gallu i gyrraedd pobl yn y gymuned, i reoli'r galwadau brys y maent yn eu cymryd ac yna i symud y bobl hynny i'r lle iawn er mwyn i'w gofal barhau.
Felly, fel y dywedais, y sefyllfa ddiweddaraf yw bod Aneurin Bevan yn nodi lefel absenoldeb staff o 11 y cant. Byddaf eisiau darparu mwy o ffigurau i'r Aelodau a'r cyhoedd mewn perthynas ag absenoldeb staff. Nid oes gennyf restr bendant i'w rhoi i chi ar bob bwrdd iechyd, ond ni ddylai pobl synnu gweld absenoldeb staff cynyddol ar draws pob bwrdd iechyd, i gyd-fynd â'r trosglwyddiad cymunedol y gwyddom ei fod yn digwydd. Mae'r gyfradd R yn codi ledled Cymru, mae lefel y bygythiad yn codi ledled Cymru; dyna pam y gwnaeth y Prif Weinidog y cyhoeddiadau a wnaeth heddiw.
Ar ofal dewisol a gofal arall a gynlluniwyd, rwy'n cydnabod bod niwed yn deillio o oedi gofal o'r fath. Nid oes unrhyw beth yn ddymunol ynglŷn â gohirio triniaeth, ac fe fydd yn achosi pryder i bobl, hyd yn oed os ydynt yn deall ac yn cefnogi pam fod hynny'n digwydd. Os ydych yn dioddef anghysur, efallai na fydd yn fawr o gysur i chi fod rhywun arall mewn mwy o angen na chi. Ond dyna pam fod ein GIG yn gwneud y dewisiadau hyn. Dyna pam, fel Gweinidog iechyd, fy mod wedi cymeradwyo'r ffaith bod gan y GIG fframwaith i helpu i lywio'r dewisiadau hynny. Oherwydd mae'r angen mor fawr ac mae gennym bobl a fydd angen gofal a allai olygu'r gwahaniaeth rhwng anabledd hirdymor neu'r gwahaniaeth rhwng goroesi a pheidio â goroesi, a dyna'r dewisiadau rydym yn gorfod eu gwneud. Felly, dyna pam rwy'n cefnogi ac wedi cymeradwyo'r fframwaith gweithredu, ac mae arnaf ofn fod mwy o'r dewisiadau hynny i ddod yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud nad wyf mewn unrhyw ffordd yn beirniadu staff y GIG yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn fy etholaeth yn Nwyrain De Cymru? Maent yn gwneud gwaith anhygoel dan bwysau eithafol ar hyn o bryd. Ond rwyf wedi cael meddygon, meddygon teulu, yn cysylltu â mi o ddalgylch Ysbyty Athrofaol y Faenor yn dweud eu bod yn poeni am y cleifion y maent yn eu hanfon yno gan eu bod o'r farn nad yw'r ysbyty yn ddiogel nac yn addas i'r diben. Yn ogystal â'r ffaith ein bod yn amlwg yn gweld cleifion yn aros mewn meysydd parcio am 17 awr gydag anhwylderau sy'n peryglu eu bywydau, a phobl yn aros mewn ambiwlansys am amser eithriadol o hir, yr hyn sydd hefyd yn amlwg, nid yn unig o ganlyniad i'r ffaith bod achosion COVID yn codi, yw nad yw'r seilwaith yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn barod. Nid yw'n ymdopi. Nid oes digon o welyau, nid oes digon o staff, nid yw'r systemau ffôn mewnol yn gweithio'n iawn, a hefyd nid yw'r ysbyty wedi'i sefydlu ar gyfer derbyn ceir. A phan oedd fflyd gyfan o ambiwlansys y tu allan i'r ysbyty y penwythnos diwethaf, mae angen iddo fod wedi'i sefydlu ar gyfer ceir, mae angen iddo fod yn barod. Mae'n amlwg nad yw'r systemau hyn, y prosesau mewnol hyn, yn barod. Felly, pa gamau brys rydych yn eu cymryd, Weinidog, i sicrhau bod Ysbyty Athrofaol y Faenor yn addas i'r diben?
Gyda pharch, rwy'n anghytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud. Rwy'n credu bod camddealltwriaeth ynghylch cenhadaeth yr ysbyty hwn, mae camddealltwriaeth ynghylch difrifoldeb y bygythiad y mae'r bwrdd iechyd yn ei wynebu a'r dewisiadau y mae'n rhaid iddo eu gwneud gyda phartneriaid eraill i sicrhau eu bod yn blaenoriaethu buddiannau cleifion sydd â'r angen mwyaf. Ni sefydlwyd Ysbyty Athrofaol y Faenor i gynnig yr hyn y byddai'r gwasanaeth iechyd i bob pwrpas yn ei alw'n 'wasanaeth galw i mewn'—pobl sy'n gyrru eu hunain i adran achosion brys. Fe'i sefydlwyd i dderbyn ein cleifion mwyaf sâl; nid yw wedi'i sefydlu i dderbyn pobl sydd eisiau gyrru eu hunain yno. Nid yw'n debyg i ysbyty cyffredinol dosbarth lleol arferol yn yr ystyr hwnnw; ni chafodd ei sefydlu i fod felly. Fel y bydd Aelodau eraill o ardal Gwent yn ei gydnabod rwy'n siŵr, nid dyna oedd y cynllun Dyfodol Clinigol ac nid dyna oedd cenhadaeth yr ysbyty hwn. Felly, gyda pharch, credaf fod y feirniadaeth yn annheg.
Cafwyd rhai problemau cychwynnol—roedd problem gyda'r system deleffoni—ond yn fwy cyffredinol, y realiti yw bod yr ysbyty'n wynebu ton ddigynsail. Mae hwn yn ddigwyddiad unwaith mewn canrif. Y pwysau ychwanegol rydym yn ei weld yw'r hyn sydd wedi arwain at y dewisiadau eithriadol sy'n golygu bod tarfu ar driniaethau neu eu bod yn cael eu canslo mewn amryw o feysydd i ddiogelu buddiannau pobl sydd mewn llawer mwy o angen—pobl a allai golli eu bywydau fel arall. Mae gan yr ysbyty gymaint o staff ag sy'n bosibl gyda chyfradd absenoldeb o 11 y cant ar draws y bwrdd iechyd. Nid dyna'r broblem, gyda phob parch; y broblem yw a allwn sicrhau bod digon o'n staff yn iach ac yn gallu bod yn bresennol, fel nad yw dewisiadau gwasanaeth yn cael eu llywio gan nifer gynyddol o absenoldebau staff. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod wedi cymryd rhan yn y sesiynau briffio uniongyrchol y gwn fod y bwrdd iechyd wedi'u darparu i Aelodau ardal Gwent i nodi'r holl fanylion mewn perthynas â hyn. Gobeithio y bydd yr Aelod yn cymryd rhan yn hynny yn y ffordd rydym yn parhau i gymryd rhan o fewn y Senedd hon fel bod pob Aelod yn gweithredu ar sail y wybodaeth orau sydd ar gael.
Mae'r Gweinidog, mewn gwirionedd, wedi ymdrin â llawer o'r hyn roeddwn am holi amdano yn ei ateb i Laura Anne Jones. Codwyd pryderon tebyg gyda mi, Weinidog, nid ynglŷn â'r ffaith bod Ysbyty Athrofaol y Faenor yn anaddas i'r diben neu'n anaddas i'r rôl y cafodd ei gynllunio i'w chyflawni—rwy'n credu, fel rydych newydd ei ddweud, ei fod wedi'i adeiladu at ddiben penodol, ac ar hyn o bryd, mae'n gorfod ymdopi â sefyllfa eithriadol. Fodd bynnag, mae rhai pryderon am nifer yr achosion o COVID yno a'r ffaith ei fod wedi gorfod ymateb yn gyflym iawn i sefyllfa sy'n newid a hynny heb y capasiti y byddai ysbyty sydd wedi bod yno ers amser maith wedi gallu ei ddatblygu'n gyflym iawn. Felly, a wnewch chi gadarnhau y byddwch yn parhau i adolygu'r sefyllfa, y byddwch yn cysylltu â'r bwrdd iechyd, ac os bydd sefyllfa COVID yn dirywio dros yr ychydig wythnosau nesaf, y bydd yr ysbyty hwnnw a'r bwrdd iechyd yn gallu ymdopi â'r sefyllfa?
A bod yn deg â'r Aelod, mae'r ysbyty yn ei etholaeth ef, er ei fod yn awdurdod lleol Torfaen. Y gwir amdani yw bod uned gofal critigol fwy yn Ysbyty Athrofaol newydd y Faenor, ac mae'r bwrdd iechyd yn bwriadu ehangu ac ychwanegu at y ddarpariaeth mewn perthynas â gofal critigol. Y ffactor allweddol sy'n cyfyngu ar hynny yw staff, a down yn ôl at y broblem anodd hon; os yw lefel yr angen ar ei uchaf a bod gennych garfannau staff sy'n lleihau, ni allwch gynhyrchu mwy o staff ar unwaith, ac mae'n rhaid i chi benderfynu lle i ddefnyddio'r staff hynny i fynd i'r afael â'r lefel fwyaf o angen. Ac mae hynny'n golygu bod angen i chi symud staff o fannau eraill. Dyna'r dewisiadau anodd y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn eu hwynebu, yn ogystal â byrddau iechyd eraill ledled Cymru, ac yn wir mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, dyna y mae'r bwrdd iechyd yn ystyried ei wneud.
Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod y bydd y bwrdd iechyd yn parhau i ystyried yr holl safbwyntiau proffesiynol ynglŷn â sut a lle i ddefnyddio staff yn fwyaf effeithlon, o gofio'r angen sylweddol sy'n bodoli. Byddaf yn parhau i weithio nid yn unig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ond gyda byrddau iechyd ledled y wlad wrth iddynt wynebu'r dewisiadau hynny, ac os oes angen imi wneud dewisiadau cenedlaethol fel Gweinidog, ni fyddaf yn osgoi fy nyletswydd i wneud hynny. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pob un ohonom yn parhau i weithredu dull adeiladol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac rwy'n sicr yn gobeithio bod Aelodau ar draws y rhaniad gwleidyddol yn ymgysylltu â'u GIG lleol wrth iddynt gynnig sesiynau briffio rheolaidd i'r Aelodau o'r Senedd i ddeall beth yw'r darlun yn lleol a sut y mae hynny'n golygu bod angen iddynt wneud dewisiadau pwysig i helpu i gadw Cymru'n ddiogel.
Diolch i'r Gweinidog.