5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 4:45, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddweud fy mod yn falch iawn o gyfrannu at y ddadl hon, fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, er nad oeddwn yn aelod o'r pwyllgor pan gyhoeddwyd yr adroddiad gwreiddiol? A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'n Cadeirydd, Lynne Neagle? Dyma, wrth gwrs, fu fy nhymor cyntaf yn y Senedd, ac rwyf wedi dysgu llawer o'r ffordd y gwelais Lynne yn ymwneud â'r maes pwnc hwn, gydag angerdd, diwydrwydd, ac yn barod i herio grym lle bo angen, i gyd er mwyn ceisio gwelliannau mewn gwasanaethau a darparu cymorth hanfodol i eraill, yn enwedig plant a phobl ifanc. Felly, diolch ichi am hynny, Lynne.

Rwyf am ymdrin â dau faes yn fy nghyfraniad. Yn gyntaf, ac yn rhannol y rhan y mae Rhun newydd ei thrafod, sef y canol coll; ac yn ail, y therapïau seicolegol. Credaf fod angen inni gydnabod y ffaith bod y pandemig wedi cynyddu pryderon pawb ac wedi rhoi ffocws amlwg i'r dasg aruthrol rydym yn dal i'w hwynebu wrth inni ystyried lles ein plant a'n pobl ifanc. Ac fel gyda llawer o faterion rydym wedi craffu arnynt yn yr adroddiad hwn, cafwyd cynnydd, sydd bob amser i'w groesawu, ond mae'r craffu hwnnw hefyd wedi amlygu bod angen cynnydd pellach o hyd mewn nifer o feysydd. Ond yn gyffredinol, rwy'n cytuno â'r Gweinidog addysg yn ei hateb ysgrifenedig i ni, lle mae'n dweud,

'Rwy'n credu y gallwn gytuno bod llawer wedi'i gyflawni dros y ddwy flynedd ddiwethaf.'

Felly, yn gyntaf, fe siaradaf am y canol coll, ac nid wyf am ailadrodd y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth, ac rwy'n cytuno â llawer ohonynt. Yn hytrach, rwy'n credu fy mod am atgoffa'r Aelodau o'r hyn a ddywedodd y Senedd yn yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' gwreiddiol yn 2018. Roedd yn dweud

'bod angen gwaith brys i fynd i’r afael â’r prinder (ac mewn rhai achosion absenoldeb) gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ond nad ydynt yn cyrraedd y trothwy i gael cymorth CAMHS'.

Nawr, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod ein diweddariad diweddar yn fwy hyderus fod cynnydd wedi'i wneud. Yn ystod tymor y Senedd hon, dylem weld y fframweithiau'n datblygu a phenodi staff i helpu i wreiddio diwylliant dull ysgol gyfan o ymdrin â lles; dull sydd nid yn unig yn gweithio yn ein hysgolion, ond hefyd yn rhwydwaith ehangach Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill, wrth inni anelu at gyflawni'r hyn y cyfeiriodd Lynne ato'n gynharach fel y 'dull system gyfan' o ymdrin ag iechyd meddwl a lles ein plant a'n pobl ifanc. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni eu targed ar gyfer gwanwyn 2021, bydd hwnnw'n gynnydd y gallwn yn sicr ei groesawu.

Mae fy ail bwynt yn ymwneud â therapïau seicolegol, ac yn sicr, mae'r pwyllgor o'r farn nad oes digon o gynnydd wedi'i wneud yn y maes hwnnw. Ac er ein bod yn croesawu camau gweithredu Llywodraeth Cymru i weithredu ein hargymhellion dilynol ar therapïau seicolegol o ran sicrhau bod ymarferwyr therapiwtig wedi'u hyfforddi'n ddigonol ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc, mae angen i ni weld tystiolaeth o ddatblygiad a gweithrediad cynllun y gweithlu ar gyfer iechyd meddwl a fydd yn cyflawni hyn.

Rydym yn sylweddoli, wrth gwrs, y bu tarfu ar gynlluniau'r gweithlu a bod oedi hefyd wedi bod mewn perthynas â thueddiadau presgripsiynu oherwydd pwysau'r pandemig. Ond mae'r pwyllgor yn credu ei bod yn bwysig fod Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n gyflym i ailsefydlu amserlenni ar gyfer y gwaith a ohiriwyd neu y tarfwyd arno gan y pandemig. Yn wir, gall rhywfaint o'r union waith hwnnw, a argymhellwyd gan y pwyllgor yn wreiddiol, roi atebion ynddo'i hun i beth o'r pwysau ychwanegol a fydd yn wynebu'r system pan fyddwn yn dod allan yn araf o gysgod COVID-19, ac yn deall ei effaith ar ein plant a'n pobl ifanc yn llawnach.

Credaf mai'r ymchwiliad sy'n sail i'r adroddiad 'Cadernid Meddwl', a'r newidiadau sy'n digwydd yn y gwasanaethau nawr yw un o gyflawniadau mwyaf arwyddocaol y Senedd hon. Ond fel gyda phob newid, rhaid ei ymgorffori a goresgyn y gwendidau a ganfuwyd, gan mai dim ond wedyn y bydd manteision y dull system gyfan o wella iechyd meddwl a lles ein plant a'n pobl ifanc yn cael eu gwireddu'n llawn. Diolch.