– Senedd Cymru am 4:24 pm ar 13 Ionawr 2021.
Sy'n mynd â ni'n syth at y ddadl fer. Dwi'n galw ar Mark Reckless nawr i gyflwyno'r ddadl fer yn ei enw ef. Mark Reckless.
A gaf fi wneud yn siŵr eich bod yn fy nghlywed?
Gallwn, fe allwn. Gallwch barhau.
Diolch. Mae materion cyfansoddiadol yn peidio â bod yn esoterig pan fyddant yn penderfynu ai eich mam neu eich tad-cu sy'n cael brechiad a fydd yn achub eu bywydau. Efallai nad yw Gweinidogion Cymru am sbrintio na chystadlu, ond mae'n anochel fod cyflymder brechu a'r ffaith ein bod yn llusgo ar ôl gweddill y DU yng Nghymru yn adlewyrchiad ar ddatganoli. Efallai mai dim ond y llynedd y daeth llawer o bobl yng Nghymru yn ymwybodol o ba mor ormodol yw pwerau Gweinidogion Cymru, ond ar y cyfyngiadau symud, maent yn deillio'n gyffredinol o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Mae'r cyfeiriad at Weinidogion Cymru yn adlewyrchu ein sefyllfa ers Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Fodd bynnag, newidiodd ystyr cyfeiriadau deddfwriaethol at 'yr Ysgrifennydd Gwladol' ar gyfer llawer o swyddogaethau yng Nghymru ymhell cyn datganoli yn 1999, gyda chreu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1964 a sefydlu'r Swyddfa Gymreig yn 1965. Efallai ei bod yn anodd dychmygu Cledwyn Hughes, heb sôn am George Thomas, yn rhoi datganiad unochrog o annibyniaeth ar sut i reoli pandemig yng Nghymru, ac roeddent, wrth gwrs, yn ddarostyngedig i gyfrifoldeb cyfunol y Cabinet, ond roeddent yn meddu ar hadau, fan lleiaf, y pwerau cyfreithiol a ddefnyddir heddiw. Felly, ynghanol y 1960au y dechreuasom weld Cymru'n gwahanu'n weinyddol oddi wrth rai o adrannau Whitehall y DU—gwahaniad a ddefnyddiwyd wedyn i fynnu datganoli. Pam y dylai'r gwasanaeth iechyd gwladol, a sefydlwyd o Gymru gan Aneurin Bevan ar gyfer y Deyrnas Unedig, gael ei chwalu fel hyn? Pa mor uchel yw'r pris y mae'n rhaid inni ei dalu yn awr am y rhwystr a godwyd rhwng ein GIG yng Nghymru a Llywodraeth y DU?
Methodd y system iechyd ddatganoledig yng Nghymru gyflawni profion torfol, cyn ceisio cymorth gan Lywodraeth y DU o'r diwedd, ac mae bellach ar ei hôl hi gyda brechu torfol. Yng Nghymru, rydym dan anfantais oherwydd y rhyngwyneb hwnnw, a syrthni gweinyddol ymddangosiadol ein system ddatganoledig. Rydym hefyd ar ein colled o gymharu â sut y byddai pethau pe byddem yn deyrnas wirioneddol unedig, oherwydd mae pwerau i bennu'r grwpiau blaenoriaeth ar gyfer brechu wedi'u datganoli. O dan ddatganoli, rydym yn penderfynu sut i ddosbarthu cyfran y boblogaeth o frechlyn. At ei gilydd, rydym yn mabwysiadu'r un categorïau a threfn â Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, ond rydym yn cael y brechlyn i mewn i freichiau pobl yn llai cyflym. Pe bai Llywodraeth y DU yn rheoli'r drefn yng Nghymru yn ogystal ag yn Lloegr, gyda'r un categorïau brechu, byddem yn elwa nid yn unig o'u cyflwyno'n gyflymach, ond o gyfran uwch na'r boblogaeth, oherwydd bod ein poblogaeth yn hŷn. Diolch i ddatganoli, nid yw hyn yn digwydd. Ai dyma'r hyn roedd pobl ei eisiau pan wnaethant bleidleisio mewn refferenda yn 1997 neu yn 2011 neu'n wir, yn 1979? A oedd unrhyw un o ddifrif o'r farn fod cynnwys iechyd, yn arbennig, ymhlith y rhestr o gymwyseddau datganoledig yn golygu y gallai Llywodraeth Cymru benderfynu pryd y gallent adael eu tŷ, neu orfodi ffin â Lloegr i atal pobl rhag dod i mewn i Gymru neu ei gadael? Wrth gwrs nad oeddent.
Nawr, mae gan y Gweinidog hanes wrth gwrs pan ddaw'n fater o geisio anwybyddu canlyniadau refferenda nad yw'n eu hoffi. Pan bleidleisiodd Cymru a'r Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, addawodd barchu'r canlyniad, ac eto treuliodd lawer o'r pedair blynedd a hanner nesaf yn ceisio ei rwystro. Diolch byth, fe fethodd hynny, ond mae gwaddol yr ymgais honno, gosod y Senedd hon yn erbyn pobl Cymru a'r hyn y gwnaethant bleidleisio drosto yn y refferendwm hwnnw, wedi tanseilio datganoli. Llywodraeth y DU a gyflawnodd Brexit, yn wyneb ein gwrthwynebiad sefydliadol a chyda chefnogaeth ddigynsail ar draws llawer o Gymru. Yn yr un modd, er bod y Gweinidog a'i gydweithwyr yn hoffi galw am barchu refferendwm Cymru yn 2011, nid ydynt wedi ei barchu ronyn yn fwy na'r Ceidwadwyr. Ar ôl pleidlais dros ddatganoli pwerau deddfu mewn 20 maes diffiniedig, gyda'r gweddill wedi'i gadw'n ôl i San Steffan, penderfynasant wneud y gwrthwyneb i'r hyn y pleidleisiwyd drosto, drwy ddatganoli'r holl bwerau oni bai eu bod wedi'u cadw'n ôl.
Cafodd pwerau pellach eu datganoli hefyd, nid yn unig heb refferendwm pellach, ond yn benodol groes i fandad y refferendwm hwnnw yn 2011. Gwarantodd y refferendwm i bleidleiswyr na fyddai pwerau codi trethi'n cael eu datganoli heb refferendwm pellach—safbwynt a ymgorfforwyd yn y gyfraith. Argraffwyd datganiad hyd yn oed ar y papur pleidleisio ei hun yn datgan
'Ni all y Cynulliad ddeddfu ar drethiant beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais hon.'
Ac eto, mae gan y sefydliad hwn, a ailenwyd yn Senedd Cymru, heb ganiatâd ein pleidleiswyr, a ailddiffiniwyd gennym i gynnwys pobl ifanc 16 oed a'r holl wladolion tramor sy'n byw yng Nghymru i bob pwrpas, bŵer erbyn hyn i godi treth incwm gymaint ag y mae ei eisiau. Mae telerau refferendwm 2011 wedi'u bwrw o'r neilltu.
Rydym hefyd yn gweld diwedd ar ein gorgynrychiolaeth yn San Steffan bellach wrth inni weld lleihau nifer yr ASau o 40 i 32, yn union fel y gwelodd yr Alban nifer ei ASau yn gostwng o 72 i 59 ar ôl datganoli—cafodd hyn ei ohirio ar gyfer Cymru tan yr adolygiad o ffiniau yn dilyn datganoli pwerau deddfu sylfaenol. Nid oedd yn un o ganlyniadau refferendwm 2011 y dewisodd yr ochr 'ie' eu hegluro wrth geisio ein rhyddhau o'r gweithdrefnau ar gyfer Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol, na ellir gwadu eu bod yn feichus. Ac wrth gwrs, nid oedd y refferendwm hwnnw'n rhoi'r dewis i Gymru roi diwedd ar ddatganoli; dim ond un ffordd y caniatawyd i'r broses honno fynd byth—i gyfeiriad annibyniaeth.
Pan bleidleisiodd Cymru yn erbyn datganoli yn 1979, gofynnwyd iddi bleidleisio eto yn 1997, ond ar ôl pleidleisio drosto bryd hynny o drwch blewyn, ni chaniatawyd unrhyw gyfle i ailystyried. Digon teg, fe'ch clywaf yn dweud, os na ddylai refferendwm o'i fath fod yn fwy na digwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth. Efallai nad yw 24 mlynedd yn genhedlaeth eto, gyda'r oedran cyfartalog rydym yn cael ein plant cyntaf yn codi, ond nid yw'n bell ohoni. Beth yw grym y status quo? Beth fyddai sefyllfa Cymru pe na bai gennym ddatganoli; pe bai'r sefydliad hwn a'r Llywodraeth yn cael eu diddymu, fel y mae fy mhlaid yn dymuno, yn ymgyrchu amdano ac yn dadlau drosto? Mae ein gwrthwynebwyr yn hoffi awgrymu mai'r dewis arall yw rhyw fath o raglaw sy'n dod i lawr o Lundain neu dde-ddwyrain Lloegr i lywodraethu Cymru, ac wrth gwrs, wynebodd John Redwood feirniadaeth lem am ddychwelyd i Wokingham i gysgu gyda'i wraig. Ond nid wyf yn credu bod y Gweinidog am awgrymu bod deiliaid presennol y Swyddfa Gymreig ronyn yn llai Cymreig nag ef.
Yn 1979, dadleuodd Llafur, ar lefel lywodraethol swyddogol o leiaf, fod angen gwneud y Swyddfa Gymreig yn fwy atebol yn ddemocrataidd am ei bod yn arfer pŵer. O bedwar i un, dywedodd pobl Cymru 'na', ac rwy'n cynnig eu bod wedi gwneud hynny, nid oherwydd nad oeddent yn credu mewn atebolrwydd democrataidd, ond oherwydd nad oeddent yn cefnogi holl raddau'r datganoli gweinyddol roedd carfan leiafrifol o fewn y Blaid Lafur am ei orfodi arnynt.
Mae cyfyngiadau symud yn fy ngwahanu oddi wrth y silff yn fy swyddfa o ddyddiaduron, atgofion a bywgraffiadau prif enwogion Llafur yng Nghymru yn y 1960au a'r 1970au, ond cofiaf gyn lleied y mae'r llyfrau hynny'n ei ddweud am rannu rhannau o adrannau Llywodraeth y DU yn Swyddfa Gymreig, na beth oedd y rhesymeg dros wneud hynny. Nid oedd maniffesto Llafur 1964 ond yn datgan mewn cynllun ar gyfer y rhanbarthau:
Yng Nghymru, bydd creu Ysgrifennydd Gwladol, fel rydym wedi ymrwymo i'w wneud, yn hwyluso'r weinyddiaeth unedig newydd sydd ei hangen arnom.
Roedd ffigyrau blaenllaw ar y pryd fel Roy Jenkins a Jim Callaghan yn cynrychioli etholaethau Cymreig, ond ffigurau'r DU oeddent ac nid eu prosiect hwy oedd hwn. Roedd gwahaniaeth polisi yn y rhan fwyaf o feysydd yn gyfyngedig, Awdurdod Datblygu Cymru oedd datblygu economaidd, ac efallai fod ymagwedd an-Thatcheraidd Nicholas Edwards yn eithriad ar y pryd.
Gallai troi'n ôl at fodel y Swyddfa Gymreig, a welsom rhwng 1965 a 1999, dynnu ein Teyrnas Unedig at ei gilydd eto, gyda llai o fod yn wahanol er mwyn bod yn wahanol, gan arbed y £65 miliwn y flwyddyn a wariwn ar y Senedd hon, i ddechrau. Ond beth fyddai o'i le ar droi'n ôl at y trefniadau cyfansoddiadol a oedd gennym cyn y Swyddfa Gymreig ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru? Gallem integreiddio pob adran yn iawn; gallem rymuso llywodraeth leol, gan roi mwy o ryddid i gynghorau Cymru nag sydd ganddynt yn awr; gallem sicrhau bod addysg Cymru yn dychwelyd i gyrraedd o leiaf y safon a welir yn Lloegr; gallem unwaith eto ddibynnu ar un GIG integredig, i gyd-fynd â model Aneurin Bevan, a mynd i'r afael â COVID gyda'n gilydd.
Nid oes dim am fodel San Steffan sy'n atal deddfwriaeth benodol i Gymru, pan fo'n briodol, os oes angen, i hyrwyddo mwy o rôl i'r Uwch Bwyllgor Cymreig. Caniataodd y dull hwnnw o weithredu Ddeddfau addysg penodol i Gymru a datblygu polisi iaith Gymraeg; arweiniodd at ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru a roddwyd mewn grym yn y pen draw yn 1920; ac ymagwedd wahaniaethol tuag at gau ar y Sul rhwng 1881 a 1996. Yn hytrach, mae gennym broses ddatganoli anghytbwys. Ni cheir setliad byth, er gwaethaf Deddfau Llywodraeth Cymru yn 1998, 2006, 2014 a 2017; proses sydd ond yn symud i un cyfeiriad—tuag at annibyniaeth. Er gwaethaf y pedair Deddf, mae Llywodraeth Cymru bob amser yn mynnu mwy. Yn ddiweddar, datganoli cyfiawnder ydoedd, a galw am ddileu'r trothwyon ar fenthyca yng Nghymru, gyda llai o gyfyngiadau gan y DU ar Drysorlys Cymru nag a ddarparai'r UE ar gyfer Gwlad Groeg. Weinidog, pryd y daw eich galwadau i ben? Pam y mae'n rhaid inni gael ein llusgo ar ôl yr Alban fel pe bai eu hanes a'u rhagolygon hwy yn eiddo i ni? Ac os yw datganoli bob amser yn broses ac mai mwy ohono'n unig y gellir ei gael, nid llai, sut y gall pobl byth ddod yn gyfforddus ag ef? Os nad yw datganoli'n sefydlog ac nad yw'n gynaliadwy, oni fydd yn rhaid i ni, yn gynt neu'n hwyrach, ddod ag ef i ben? Rhaid i ni ddiddymu'r lle hwn yn y pen draw, neu gerdded yn ein cwsg tuag at annibyniaeth.
Y Cwnsler Cyffredinol i ymateb—Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Ac felly, dyma ni yn ôl y prynhawn yma unwaith eto, gyda dadl gwbl ddi-sail—mai'r hyn sydd ei angen ar Gymru yn awr, yng nghanol sawl argyfwng byd-eang, ydy llai o atebolrwydd democrataidd. Hynny yw, dylid cael gwared ar y Senedd hon ac, yn ôl araith yr Aelod, unrhyw gysyniad o'r Gymru fodern.
Mae Cymru yn elwa ar fod yn rhan o undeb—undeb wirfoddol, gyda llaw—o bedair gwlad, ond mae pandemig y coronafeirws, yn enwedig, wedi dangos bod y wlad hefyd yn elwa ar y ffaith y gall y Senedd hon wneud penderfyniadau yn benodol i amgylchiadau Cymru: penodol i'n pobl ni, i'n gwasanaethau cyhoeddus ni, ac i'n heconomi ni, er bod cyfraniad yr Aelod wedi bod yn gatalog o ddatganiadau cwbl gamarweiniol am y sefyllfa honno, fel y mae ef, wrth gwrs, yn gwybod.
Ar ben hynny, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddar, mae'n glir nad yw ein llais yn cael llawer o ddylanwad ar Brif Weinidog presennol y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth San Steffan, ar ei gorau, yn ddi-hid ynglŷn â datganoli, ac, ar ei gwaethaf, yn gwbl wrthwynebus iddo. Fel y mae ei ffordd hi o ddelio gyda Brexit a'r coronafeirws wedi dangos, mae Llywodraeth San Steffan yn dilyn blaenoriaethau gwahanol iawn i flaenoriaethau Cymru. Dim ond y Senedd hon, yn y cyd-destun hwnnw, sydd â'r mandad a'r pwerau democrataidd i sefyll cornel Cymru.
Mae hyn yn ymwneud â mwy na'r pandemig neu Brexit yn unig. Mae'n berthnasol i'r ystod lawn o benderfyniadau sydd wedi'u datganoli. Gall penderfyniadau a wneir yng Nghymru gan y Senedd hon adlewyrchu ein hanes, ein diwylliant, ein hiaith, yn ogystal â'n hamgylchedd a'n pobl a'n dyheadau cenedlaethol.
Mae datganoli wedi hen ennill ei blwyf yn nhirwedd gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, ac mae wedi'i sefydlu o dan y gyfraith, a'i gefnogi mewn dau refferendwm. Yn yr ail o'r rhain, gwelwyd cynnydd yn y mwyafrif a oedd o blaid rhagor o bwerau i'n Senedd.
Mae dal yn peri syndod i mi bod Aelod sydd wedi pregethu am yr angen i barchu canlyniad refferendwm ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd nawr yn ceisio gwyrdroi penderfyniadau democrataidd diweddar. Y ffordd briodol o wneud hynny, wrth gwrs, fyddai ennill mandad yn etholiad y Senedd ym mis Mai, ac yna ffurfio Llywodraeth ac ennill hyder y Senedd ar y mater, ac wedyn gofyn am y refferendwm gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Byddai angen mandad tebyg, gyda llaw, ar gyfer y rhai sy'n ceisio tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig. Nid ydym am i hynny ddigwydd am y rhesymau a amlinellais yn gynharach. Cymru gref y mae ei llais wedi'i glywed a'i hanghenion yn cael eu hadlewyrchu—ac yn sicr wedi'u clywed a'u hadlewyrchu'n well na heddiw—mewn DU gref yw'r hyn rydym am ei weld. Nid dyma'r amser, mor fuan ar ôl i Lywodraeth y DU ein tynnu allan o'n teulu Ewropeaidd o genhedloedd, ar gyfer gwahanu ymhellach nac ar gyfer lleihau ein democratiaeth yng Nghymru, fel y mae'r Aelod am ei weld.
Annibyniaeth, wrth gwrs, yw'r llwybr y mae Llywodraeth bresennol yr Alban yn ceisio'i ddilyn i'w phobl. Nid ydym am weld yr Alban yn gadael yr undeb, er ein bod yn parchu hawl pobl yr Alban i wneud y penderfyniad hwnnw. Pe bai'n digwydd, byddai angen inni ailedrych yn sylfaenol ar berthynas Cymru â Lloegr. Ond y ffordd sicraf o arwain at ddiddymu'r undeb yw amddiffyn y status quo. Gadewch imi fod yn glir: nid oes dadl dros gadw'r status quo. Fel y dywedodd erthygl olygyddol yn y Financial Times yn ddiweddar, mae cyfansoddiad Prydain yn llanast. Mae'r undeb ei hun mewn perygl. Y ffordd orau o gefnogi'r undeb a'i gyfansoddiad, yn groes i thema'r Aelod, yw parchu, ac ymestyn datganoli pŵer i Gymru a ledled y DU.
Ac eto, mae Llywodraeth y DU wedi cyflawni fandaliaeth gyfansoddiadol ar wahanol bwerau, yn fwyaf diweddar—er gwaethaf ymdrechion aruthrol Tŷ'r Arglwyddi, dylwn ddweud—drwy Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, sy'n bygwth cyfyngu ar allu deddfwriaethol y Senedd mewn meysydd sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd. Mae'n bygwth Deddf Llywodraeth Cymru 2006, a gostyngiad mewn grym datganoledig, i gyd ar fympwy Llywodraeth y DU. Mae'n sefyllfa echrydus fy mod i, fel swyddog y gyfraith, yn teimlo rheidrwydd i ystyried troi at ymyrraeth y llysoedd hyd yn oed.
Rwyf am gydnabod y rhaglen waith hir rhwng y pedair Llywodraeth ar gydweithredu o fewn y DU yn y maes hwnnw, ac rwy'n talu teyrnged i weision sifil ym mhob gwlad, a'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, am yr ymdrechion y maent wedi'u gwneud i sicrhau ein bod wedi sefydlu'r fframweithiau cyffredin ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Ond yn sicr ni chafodd yr ysbryd cydweithredol hwnnw ei adlewyrchu yng ngweithredoedd Llywodraeth Johnson wrth iddi osod y ddeddfwriaeth hon yn unochrog. Yn ogystal ag anwybyddu gwrthodiad y Senedd i gydsynio i Ddeddf marchnad fewnol 2020, ni wnaeth Llywodraeth y DU drafferthu rhoi digon o amser i unrhyw un o'r deddfwrfeydd yn y DU graffu ar y ddeddfwriaeth—gwarth cyfansoddiadol newydd, yn enwedig o gofio mai Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Berthynas yn y Dyfodol) 2020 yw un o statudau cyfansoddiadol pwysicaf hanes diweddar. Dim ond yn y tymor canolig y daw ei effeithiau llawn yn glir. Mae Llywodraeth y DU wedi torri confensiwn Sewel, a byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i sicrhau y gall y Senedd arfer ei hawl i graffu ar ddeddfwriaeth o fewn ein cymhwysedd datganoledig, ond mae'n ofid mawr inni na allwn warantu y bydd cydsyniad y Senedd yn cael ei barchu.
Lywydd, rwy'n ofni fy mod wedi paentio darlun llwm, felly gadewch i mi orffen ar nodyn mwy cadarnhaol. Mae'r pandemig wedi dangos bod Cymru'n gweithredu ar ei gorau, fel cenedl hyderus a gofalgar a all gydweithio o fewn y DU ac yn rhyngwladol, tra'n gwneud ei phenderfyniadau ei hun ar ran ei phobl ei hun—drwy'r cyfnodau gwaethaf, rydym wedi cefnogi ein gilydd, ac oherwydd ein bod yn rhan o'r DU ac oherwydd bod gennym bwerau datganoledig i ymateb i anghenion ein dinasyddion a'n cymunedau. Byddwn yn dweud bod Llywodraeth Cymru ar y blaen gyda syniadau cyfansoddiadol, creadigol ac adeiladol yn y DU oherwydd ein bod yn credu mewn Cymru o fewn undeb diwygiedig, ac wrth i ni addasu i fywyd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, a chyn bo hir i fywyd ar ôl coronafeirws, ni fu erioed mor bwysig ein bod yn cydlywodraethu'r DU. Dyna a nodwyd gennym yn 'Diwygio ein Hundeb' yn 2019—20 argymhelliad ar gyfer trafodaeth gyhoeddus ar ddyfodol cyfansoddiadol mwy uchelgeisiol a mwy democrataidd. Nid ydym yn esgus bod gennym yr holl atebion—nid oes gan neb yr holl atebion—ond credwn ein bod wedi gofyn y cwestiynau cywir, ac mae'n bryd inni ddod at ein gilydd yn awr fel gwleidyddion ac fel cymdeithas sifil i ateb y cwestiynau hynny a chynnig llwybr o ddiwygio radical sy'n diwallu anghenion Cymru heddiw ac yfory.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. Dyna ddiwedd y ddadl yna a diwedd ar ein trafodion ni am y dydd heddiw. Prynhawn da.