1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 20 Ionawr 2021.
2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu effaith y pandemig ar ddarparu gofal cartref gan y gwasanaethau cymdeithasol? OQ56130
Mae’r holl bobl sy'n gweithio ym maes gofal cartref yn gwneud ymdrechion aruthrol i ddarparu'r gwasanaeth hanfodol hwn yn ddiogel. Ceir llu o wahanol fathau o bwysau, ac rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a rhanddeiliaid eraill i helpu i reoli'r pwysau hwn.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Hoffwn bwysleisio'r gwaith pwysig a wneir ym maes gofal cartref. Weithiau, ceir dryswch rhwng effeithlonrwydd a thrawsnewid a gwasanaeth salach ac amodau gwaith salach. A wnaiff y Gweinidog gefnogi awdurdodau lleol i ddarparu mwy o wasanaethau gofal cartref yn uniongyrchol?
Diolch i Mike Hedges am ei ymateb, a hoffwn adleisio ei eiriau ynglŷn â pha mor hanfodol bwysig yw gofal cartref. Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau yn y sector hwnnw. Ar y cyfrif diwethaf, dim ond 6 y cant o wasanaethau gofal cartref a gâi eu rheoli gan awdurdodau lleol, sy'n amlwg yn ffigur bach iawn. Fel y gŵyr yr Aelod, rydym yn edrych ar y cydbwysedd hwn rhwng darparwyr gofal annibynnol ac awdurdodau lleol yn ein Papur Gwyn ar ddyfodol gofal cymdeithasol. Ac yn ddiweddar hefyd, rydym wedi sefydlu'r fforwm gofal cymdeithasol i edrych ar sut y gallwn ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i ni yng Nghymru i wella amodau gwaith ym maes gofal cymdeithasol. Felly, rydym yn edrych ar y mater y mae'r Aelod yn ei godi.
Weinidog, mae hwnnw’n ateb calonogol, ond credaf fod pob un ohonom yn cydnabod bod y rhain yn weithwyr rheng flaen, ac mae pwysigrwydd gofal cartref i ganiatáu i bobl eiddil a phobl hŷn fyw bywydau mor llawn â phosibl o ran llesiant yn hanfodol bwysig. Ac o ystyried y gwasanaeth tameidiog, gyda llawer ohono yn y sector annibynnol neu breifat, hoffwn wybod pa gefnogaeth a roddir i weithwyr gofal cartref sydd angen ynysu am ba reswm bynnag?
Wel, fel y gŵyr David Melding, mae mwyafrif llethol y darparwyr gofal cartref yn y sector annibynnol, ac felly, yn amlwg, eu cyflogwyr sy’n gyfrifol am sicrhau bod ganddynt yr amodau gwaith cywir a'r gefnogaeth gywir. Ond wrth gwrs, os oes rhaid iddynt ynysu, byddant yn derbyn yr un budd-daliadau â'r bobl yn y sector cyhoeddus a fydd yn cael arian ychwanegol at eu cyflog, ac edrychir ar eu holau yn yr un math o ffordd. Gan fod y sector mor dameidiog, mae'n bwysig iawn ein bod yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym i geisio eu cyrraedd, a dyma un o'r pwyntiau allweddol yn y Papur Gwyn rydym wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar.
Weinidog, mae gennyf bryderon dybryd ynglŷn â diogelwch pobl sy'n byw â chymorth, yn enwedig oedolion ag anawsterau dysgu. Yn ddealladwy, mae'r pandemig wedi rhoi systemau iechyd a gofal dan straen aruthrol, ond ni allwn esgeuluso'r bobl fwyaf agored i niwed na'u rhoi mewn mwy o berygl. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi i fynegi pryderon am aelodau o'r teulu sy'n wynebu perygl mwy o ddal COVID gan y gweithwyr gofal cartref sy'n dod i mewn i'w cartrefi. Felly, Weinidog, a fydd pobl sy’n byw â chymorth yn cael y brechlyn ar yr un pryd â'r rheini sy'n byw mewn cartrefi gofal, os gwelwch yn dda?
Bydd y rheini sy'n byw mewn lleoliadau byw â chymorth yn cael y brechlyn yn rhan o'r gyfran gyffredinol gyntaf y gobeithiwn ei chwblhau erbyn canol mis Chwefror. Ond rwy'n derbyn eu bod mewn sefyllfa fregus iawn, ac fel y gŵyr yr Aelod, mae gweithwyr gofal cartref bellach yn cael eu profi hefyd, sy'n eu galluogi i roi cymorth cynyddol. Ond rwy'n deall bod perthnasau’n bryderus iawn am rai o'u hanwyliaid sy'n byw yn y sefyllfaoedd hyn, ac mae llawer ohonynt wedi cysylltu â minnau hefyd. Felly, yn sicr, rydych yn gwneud pwynt dilys, ond rydym yn gwneud yr hyn a allwn i ddiogelu'r bobl hynny.