– Senedd Cymru am 3:35 pm ar 26 Ionawr 2021.
Symudwn at eitem 4, sef y datganiad gan y Gweinidog Addysg—diweddariad ar gymwysterau ar gyfer 2021. Galwaf ar y Gweinidog, Kirsty Williams.
Diolch, Llywydd dros dro. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais fy mwriad y byddai cymwysterau dysgwyr sy'n sefyll arholiadau TGAU, Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a gymeradwywyd gan CBAC yn cael eu dyfarnu drwy fodel gradd a bennir gan ganolfannau. Mae'r penderfyniad hwn yn adlewyrchu fy mlaenoriaeth o gefnogi llesiant a chynnydd dysgwyr yn realiti'r cyd-destun iechyd cyhoeddus a pholisi yr ydym ni bellach yn gweld ein hunain ynddo. Er bod mwy o waith i'w wneud o hyd, gobeithiaf y bydd cyhoeddi'r dull gradd a bennir gan ganolfannau—lle caiff graddau dysgwyr eu pennu gan eu hysgol neu goleg, yn seiliedig ar asesiad o'u gwaith—yn helpu i ddileu pryder dysgwyr. Datblygwyd y ffordd hon ymlaen gan y grŵp cynghori dylunio a chyflawni, ac mae'n rhoi lles dysgwyr a hyder y cyhoedd wrth wraidd ein cynigion.
Yn rhan o'r dull hwn, bydd canolfannau'n gallu defnyddio ystod o dystiolaeth yn ganllaw i'w penderfyniadau, gan gynnwys asesiadau nad ydynt yn arholiadau, ffug arholiadau a phapurau blaenorol wedi'u haddasu a ddarparwyd gan CBAC. Bydd fframwaith asesu i'w cefnogi i ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer asesu. Bydd hyn yn rhoi hyblygrwydd i ysgolion a cholegau wrth benderfynu pa wybodaeth asesu i'w defnyddio wrth iddyn nhw ganolbwyntio ar ddysgu'r cynnwys craidd a fydd yn helpu dysgwyr wrth iddyn nhw symud ymlaen drwy gamau nesaf eu haddysg. Caiff ansawdd y cynlluniau hyn eu sicrhau gan CBAC a byddant yn dangos sut mae'r ganolfan wedi pennu gradd dysgwr. Bydd hefyd yn ofynnol i bob ysgol neu goleg adeiladu ar brosesau sicrhau ansawdd neu eu datblygu, ac fe gânt eu cefnogi i wneud hynny drwy arweiniad gan CBAC.
Ar ôl i'r sicrwydd ansawdd hwn gael ei gwblhau yn y ganolfan, caiff y radd ei chyflwyno i CBAC. Rwyf hefyd wedi gofyn i'r grŵp cynghori dylunio a chyflawni ystyried sut i hyrwyddo mwy o gysondeb rhwng canolfannau wrth gyflawni ein dull gweithredu. Mae hyn yn cynnwys gofyn iddyn nhw gefnogi Cymwysterau Cymru a CBAC i ddatblygu a nodi'r fframwaith asesu a'r prosesau sicrhau ansawdd a gaiff eu mabwysiadu. Rwy'n cydnabod bod y broses apelio yn destun pryder a diddordeb i ddysgwyr ac ymarferwyr fel ei gilydd. Gallaf gadarnhau y bydd dysgwyr yn gallu apelio i'w hysgol neu goleg os ydyn nhw'n credu eu bod wedi cael gradd nad yw'n adlewyrchu eu cyrhaeddiad, ac i CBAC os ydyn nhw'n anhapus â'r broses a ddilynir gan eu canolfan. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod gwybodaeth glir a hygyrch am apeliadau ar gael, ac yn ystyried cynnig dysgu proffesiynol i ymarferwyr fel bod y prosesau a ddefnyddir yn gyson, yn gydradd ac yn deg.
Yn ogystal ag arbenigedd y prifathrawon a phenaethiaid colegau ar ein grŵp cynghori dylunio a chyflawni, sydd wedi neilltuo cymaint o amser i ddatblygu'r cynigion hyn, bydd y grŵp yn ehangu ei aelodaeth ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach i'w cefnogi yng ngham nesaf eu gwaith. Rhan o'r gwaith hwn fydd ystyried effeithiau unrhyw drefniadau newydd ar gydraddoldeb a llwyth gwaith, ochr yn ochr â datblygu canllawiau, cyfathrebu a dysgu proffesiynol a fydd yn cefnogi ysgolion a cholegau yn eu barn broffesiynol. Rwyf hefyd wedi gofyn i'r grŵp ystyried trefniadau ar gyfer ymgeiswyr preifat fel blaenoriaeth. Rwy'n cydnabod bod rhai ymgeiswyr preifat sy'n pryderu am ganolfannau’n graddio yn ôl eu trefn eu hunain, gan nad oedd pob ymgeisydd preifat yn gallu cael cymhwyster o dan y trefniadau a wnaed y llynedd. Felly, hoffwn ailadrodd fy ymrwymiad llwyr i sicrhau bod dewis clir iddyn nhw i gefnogi eu cynnydd.
I grynhoi, mae'r dull gradd a bennir gan ganolfannau yn ymddiried yn ymrwymiad athrawon a darlithwyr i flaenoriaethu addysgu a dysgu yn yr amser sydd ar gael, a'u gwybodaeth am ansawdd gwaith eu dysgwyr. Fodd bynnag, mae dysgu cynnwys craidd ac agweddau pob cwrs yn parhau i fod yn eithriadol o bwysig, fel y caiff pob dysgwr ei gefnogi i symud ymlaen gyda sicrwydd i'w camau nesaf a chyda hyder yn y graddau a ddyfarnwyd iddyn nhw. Rydym ni felly wedi ceisio gwneud y dull graddio mor glir â phosib o dan yr amgylchiadau, ond mor syml ac ymatebol â phosib ar yr un pryd.
Rydym yn gweithio gyda cholegau a phrifysgolion i ystyried sut y gallan nhw gefnogi dysgwyr drwy'r cyfnod pontio hwn ac rwy'n ddiolchgar iawn am eu hymroddiad a'u cefnogaeth barhaus. Mae'n hanfodol bod y sector addysg ehangach yn parhau i ddod at ei gilydd fel hyn i gefnogi ein dysgwyr, gan gynnwys drwy gryfhau dyfarniadau proffesiynol drwy gymorth sy'n sicrhau trefniadau cyson a thryloyw. Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn ystyried y dull o ymdrin â chymwysterau eraill i Gymru'n unig, gan gynnwys y dystysgrif her sgiliau, Sgiliau Hanfodol Cymru a chymwysterau galwedigaethol cymeradwy. Mae hefyd yn gweithio'n agos â chyd-reoleiddwyr y DU i sicrhau dull gweithredu a thegwch cyson i ddysgwyr Cymru sy'n astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol sydd hefyd ar gael mewn gwledydd eraill.
Wrth i ni barhau i weithio'n gyflym i ddatblygu ein cynigion, rwy'n annog dysgwyr, athrawon a darlithwyr i barhau i ganolbwyntio ar ddysgu ym meysydd craidd eu cyrsiau yn ystod yr wythnosau nesaf. Y dysgu hwn a datblygu sgiliau a gwybodaeth gysylltiedig a fydd yn parhau i agor drysau i ddysgwyr yn y dyfodol, hyd yn oed ar ôl dyfarnu'r cymhwyster ei hun. Hoffwn ddiolch i bob dysgwr a gweithiwr addysg proffesiynol am barhau i fod mor hyblyg a pharod i addasu wrth ymateb i'r sefyllfa yr ydym ni ynddi. Diolch, Llywydd dros dro.
A gaf i ddiolch i'r grŵp cynghori dylunio a chyflawni hefyd? Dydw i ddim yn tybio eu bod wedi disgwyl gwneud y gwaith hwn. Credaf fod yr angen am eich cyhoeddiad yr wythnos diwethaf a'r datganiad hwn heddiw, Gweinidog, yn dangos pa mor agos ydym ni at y dibyn gydag addysg ar hyn o bryd, ac rwy'n gwybod eich bod yn gwneud penderfyniadau y byddai'n well gennych beidio â'u gwneud. Felly, nid yw fy nghwestiynau heddiw yn adlewyrchiad o athrawon a darlithwyr, sydd, mae'n rhaid imi ddweud, yn parhau i'm syfrdanu yn ystod y cyfnod hwn. Ond mae'r datganiad yna heddiw yn dystiolaeth nad yw dysgu ar-lein yn cyrraedd ei nod ac, rwy'n credu, erbyn hanner tymor, y byddem i gyd yn disgwyl i chi ddweud wrthym ni beth yw eich cynllun A, eich cynllun B a'ch cynllun C ar gyfer agor ysgolion erbyn diwedd y mis nesaf.
Yr hydref diwethaf, roedd Cymwysterau Cymru yn bendant na fyddai'n bosib creu a chyflwyno system gymedroli ddibynadwy ar gyfer yr hyn a oedd, bryd hynny, yn raddau wedi eu hasesu gan ganolfannau. Ni all y fframwaith yr ydych chi'n sôn amdano heddiw ond bod yn ddynwarediad gwan o rywbeth a oedd yn amhosib chwe mis yn ôl. Felly, pa mor agos at fethu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau statudol y mae'r penderfyniad hwn wedi gwthio Cymwysterau Cymru, ac, yn hynny o beth, CBAC? A pha mor ffyddiog ydych chi y bydd y ffordd newydd hon ymlaen yn sicrhau bod gan y cyhoedd ffydd yng nghyflawniad ein pobl ifanc, yn ogystal ag amddiffyn athrawon rhag cyhuddiadau o ragfarn anymwybodol, waeth pa mor ddi-sail yw'r rheini?
Os gall CBAC gynnig papurau blaenorol wedi'u haddasu i ysgolion—fe wnaethoch chi sôn amdanyn nhw heddiw, ac mae awgrym cryf yn y fan yna, onid oes, y dylid troi atyn nhw a'u defnyddio ar gyfer profion mewnol, wedi'u graddio yn unol â chanllawiau defnyddiol CBAC—pam y mae hi mor anodd i CBAC osod y papurau hyn yn ffurfiol ym mis Mai neu fis Mehefin, a'u marcio, gan gyflwyno arwydd clir ac allanol o gysondeb a thrylwyredd i'r system? Beth allwch chi ei ddweud wrthym ni ynghylch sut y gall CBAC sicrhau ansawdd proses fewnol pob ysgol neu goleg unigol ar gyfer asesu mewn pryd? Os yw'n penderfynu bod gan rai ysgolion broses gref eisoes, sy'n dod o fewn eu canllawiau, sut y bydd hynny'n grymuso person ifanc i herio ysgol ar ei phroses? Yn bwysicach na hynny, beth petai ysgol nad yw CBAC wedi'i gweld eto yn honni bod ei phroses yn gyfwerth neu'n well na fersiwn a gymeradwywyd gan CBAC?
Fe wnaethoch chi sôn am ddysgu proffesiynol. Pa ymarferwyr ydych chi'n rhagweld bydd angen yr hyfforddiant graddio hwn arnyn nhw? Ni allwch chi ddisgwyl o ddifrif i bob athro neu ddarlithydd ym mlynyddoedd 10 i 13 fod angen hynny. Ac o ran asesiadau nad ydyn nhw yn arholiadau, ni fyddan nhw eisoes yn cael eu cymedroli, ond rydych chi yn annog ysgolion i barhau i'w gwneud. Beth ydych chi'n ei gredu bydd canlyniad hyn? Ai ysgolion fydd yn gwneud y defnydd gorau ohonyn nhw, os yw'r pwysoliad a roddir iddyn nhw yn y fframwaith newydd yn annog hynny, neu ysgolion a cholegau yn defnyddio llai arnyn nhw i wneud mwy o addysgu er mwyn profi a chynyddu'r dystiolaeth o waith wedi'i raddio? Oherwydd nid pob ysgol sydd wedi bod yn ddigon hirben i gynnal profion pwnc rheolaidd eleni.
Ac yna, yn fyr gennyf fi, Safon Uwch Gyfrannol. Pam na fyddan nhw'n cyfrif tuag at radd derfynol myfyriwr? Naill ai mae gennych chi ffydd yn y system neu does gennych chi ddim. Credaf efallai y dylech chi ystyried cynnig y dewis iddyn nhw—y myfyrwyr sy'n gwneud Safon Uwch Gyfrannol eleni—boed hynny i fancio eu gradd neu beidio. Ac, os oes gennych chi eiliad, efallai y gallwch chi roi syniad i ni o'r amserlen pan fyddwn efallai'n clywed mwy o wybodaeth am ymgeiswyr preifat a'r cymwysterau galwedigaethol ar gyfer y DU gyfan. Diolch.
Diolch, Suzy Davies, am eich cwestiynau a'ch cydnabyddiaeth o waith caled y grŵp dylunio a chyflawni, fel y dywedais, sy'n cynnwys prifathrawon a phenaethiaid colegau sydd wedi gweithio'n gyflym iawn i roi cyngor ac arweiniad. Rwy'n ddiolchgar eu bod wedi cytuno i barhau i wneud y gwaith hwnnw gydag aelodaeth estynedig nawr, wrth i ni symud i'r cam nesaf o weithredu'r penderfyniadau a wnaed.
Yn gwbl briodol, mae Suzy yn tynnu sylw at heriau'r system graddau a bennir gan ganolfannau. Mae manteision ac anfanteision i bob dull asesu, a'r gorchwyl yw, ar ôl penderfynu ar fecanwaith asesu, sut y gallwch chi liniaru'r anfanteision. Mae sicrhau bod cynllun cymedroli cyson pan fydd profiad pob ysgol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod mor wahanol yn cynnig heriau gwirioneddol o ran creu'r system gymedroli honno, yn enwedig os oes darnau o waith na fu'n bosib eu cwblhau mewn rhai ysgolion. Felly, fe allech chi fod mewn sefyllfa lle yr ydych chi'n cymharu tebyg ac annhebyg yn hytrach na chymharu tebyg a thebyg. Dyna'r her o gynllunio system gymedroli yn yr hinsawdd sydd ohoni, ond fe allwn ni fynd ati i liniaru hynny, a dyna fydd y grŵp dylunio a chyflawni yn bwriadu gweithio tuag ato.
O ran asesiadau CBAC, mae hwn yn offeryn a fydd ar gael i ysgolion. Mae'n bosib y bydd gan rai ysgolion lawer iawn o ddeunydd i seilio gradd a bennir gan ganolfannau arno. Efallai y byddai dosbarthiadau, athrawon, ysgolion eraill efallai yn hoffi rhywfaint o gymorth a help ychwanegol, ac yn hytrach na chynllunio eu rhai eu hunain, byddant yn gallu manteisio ar ddeunydd sydd wedi ei sicrhau o ran ansawdd, cydraddoldeb, ac sydd wedi mynd drwy'r holl brosesau y byddech yn disgwyl i asesiad CBAC fynd drwyddynt. Credaf y bydd hynny'n cynnig cyfle gwerthfawr i ysgolion fanteisio arno, ond mae'n amlwg mai mater i ysgolion unigol yw hynny. Ond rwy'n credu ei fod yn adnodd gwerthfawr y bydd CBAC yn ei ddarparu, a gall chwarae rhan bwysig wrth helpu athrawon i asesu plant a dynodi gradd.
O ran hyfforddiant, mater i athrawon unigol yw nodi'r anghenion hyfforddi yn eu gweithlu unigol, a pha unigolion yn eu hysgol efallai sy'n hanfodol o ran gweithredu'r system, a bydd hyfforddiant ychwanegol ar gael. Yr hyn yr ydym ni wedi'i ddysgu—un o'r ychydig iawn o agweddau cadarnhaol yr holl bandemig hwn—yw ein bod ni wedi trawsnewid y ffordd yr ydym ni wedi gallu cyflawni dysgu proffesiynol, ac rwy'n ffyddiog y byddwn ni mewn sefyllfa lle bydd yr ysgolion hynny sydd eisiau manteisio ar y cymorth ychwanegol hwn neu y mae angen iddyn nhw fanteisio arno yn gallu gwneud hynny.
Mae proses werthuso gweithdrefnau'r ysgol yn rhan bwysig o greu'r dull cenedlaethol hwnnw a'r cydraddoldeb a'r tegwch hwnnw. Dyna pam y byddwn yn gweithio i ddechrau ar yr offer asesu, a fframwaith asesu a fydd yn fframwaith cenedlaethol, ac yna mater i ysgolion yw penderfynu sut y byddant yn defnyddio'r fframwaith hwnnw yn eu lleoliad unigol, ac i CBAC sicrhau hynny. O ran y broses apelio, nid yw hi ond yn briodol, yn y lle cyntaf, os yw ymgeisydd yn anhapus â'r radd a roddwyd iddo, yna mae'n rhaid apelio i'r bobl a roddodd y radd. Mae'n amhosib apelio i CBAC, na fydd wedi chwarae rhan yn y gwaith o ddynodi'r radd honno. Ond yn amlwg, os yw CBAC yn sicrhau prosesau ysgol, os yw ymgeisydd yn teimlo nad yw prosesau'r ysgol wedi'u cymhwyso'n gywir, yna mae'n gwbl briodol yn yr achosion hynny mai CBAC fyddai'n gyfrifol am y broses apelio.
Yn olaf, o ran Safon Uwch Gyfrannol, mae'r dadleuon a wnaethom ni y llynedd ynglŷn â sut y mae sgoriau UCAS wedi'u dynodi gyda Safon Uwch Gyfrannol, a sut mae hynny'n cyfateb i Safon Uwch, yn dal yn wir. Yn absenoldeb gallu cynnal arholiadau neu, yn wir, ein gweithdrefnau cychwynnol, byddwn yn dychwelyd at y polisi a fodolai eleni. Bydd pob ymgeisydd Uwch Gyfrannol yn cael gradd. Mae hynny'n bwysig i'r ymgeiswyr hynny sy'n penderfynu peidio â pharhau â'r pwnc hwnnw, ond nid yw hi ond yn deg y cydnabyddir eu dysgu hyd yma ar gyfer y cymhwyster hwnnw ac, wrth gwrs, mae llawer o fyfyrwyr yn teimlo ei bod yn werthfawr iawn cael y graddau hynny o ran eu cais UCAS, ond eu harholiadau A2—a gobeithio, bobl bach, ein bod ni mewn sefyllfa i gynnal yr arholiadau hynny—yr haen honno fydd y sail ar gyfer dyfarnu eu Safon Uwch gyfan.
Diolch am y datganiad. Dwi am gymryd y cyfle y pnawn yma i sôn am adolygiad Louise Casella a gafodd ei gomisiynu gennych chi yn dilyn ffiasgo arholiadau y llynedd. O'r diwedd, pnawn dydd Gwener fe gyhoeddwyd adolygiad annibynnol o drefniadau haf 2020 ar gyfer dyfarnu graddau ac ystyriaethau ar gyfer haf 2021, teitl hir. Y fersiwn terfynol oedd hwn a dydy o ddim wedi cael llawer o sylw, felly dwi am gymryd y cyfle i roi rhai o'r prif gasgliadau ar y record heddiw, oherwydd dwi yn teimlo eu bod nhw yn hynod o bwysig. Dwi'n hynod ddiolchgar i Louise Casella a'r tîm am eu gwaith trwyadl ac am eu casgliadau di-flewyn-ar-dafod. Mae angen i Lywodraeth Cymru a'r gyfundrefn addysg drwyddi draw dalu sylw manwl i'r adolygiad.
Mae'r adroddiad yn nodi fod nifer o gamgymeriadau wedi cael eu gwneud a allai fod wedi cael eu hosgoi, a hynny gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru a Cymwysterau Cymru. Roedd y camgymeriadau yn cynnwys methu rhagweld graddfa'r materion a fyddai'n codi, a'r risg o anghydraddoldeb i gymaint o ddysgwyr unigol o ganlyniad i'r diffyg gweithredu gan y ddau gorff. Yn benodol o ran cymedroli, mae'r adroddiad yn dweud hyn:
'Roedd Cymwysterau Cymru a CBAC wedi ystyried a ellid ymgymryd â rhyw fath o waith cymedroli graddau asesu canolfannau yn allanol cyn iddynt gael eu cyflwyno fel rhai terfynol, ond cafodd yr opsiwn hwn ei ddiystyru heb brofi'r rhagdybiaethau a ategodd y penderfyniad hwnnw yn llawn. Disgwyliodd canolfannau y byddai CBAC yn dychwelyd i ganolfannau a gyflwynodd raddau asesu canolfannau nad oeddent yn ymddangos eu bod yn cydfynd â'r disgwyl, gan barchu ei hawl i wneud hyn, ond ni ddigwyddodd hynny.
Yn absenoldeb cymedroli allanol o ran y penderfyniadau a wnaed wrth bennu graddau asesu canolfannau...ac yn absenoldeb hyfforddi aseswyr er mwyn osgoi unrhyw duedd wrth bennu graddau asesu canolfannau, dibynnwyd yn llwyr ar y prosesau safoni ystadegol i sicrhau tegwch rhwng canolfannau.'
Dwi wedi dyfynnu yn fanna o'r adroddiad ei hun, ac wrth bwyso a mesur yr hyn dwi newydd ddisgrifio, mae'r adolygiad yn dod i'r penderfyniad yma, a dwi'n dyfynnu eto,
'Mae hyn yn gyfystyr â methiant mewn arweinyddiaeth a llywodraethu mewn perthynas â'r trefniadau ar gyfer dyfarnu graddau yn ystod haf 2020.'
Mae hyn yn ddamniol ond, eto, yr un bobl sydd wrth y llyw yn y ddau gorff yma, ac yn parhau i gael cryn ddylanwad ar y broses ers y ffiasgo yn 2020 wnaeth greu gymaint o bryder i gymaint o bobl ifanc.
Hoffwn i, i gloi, ofyn i chi felly, Weinidog, a ydych chi wedi ystyried diswyddo rhai o'r bobl sydd yn rhedeg CBAC a Chymwysterau Cymru yn sgil canfyddiadau damniol adolygiad Casella, neu, o leiaf, ydych chi'n ystyried cynnal adolygiad pellach eich hun i weld a oes angen cymryd camau o'r math? Ac os nad ydych chi'n ystyried adolygiad pellach er mwyn canfod a oes angen gweithredu pellach, a wnewch chi egluro pam?
Diolch yn fawr iawn, Siân, am eich sylwadau. Rydym ni wedi cael adolygiad annibynnol. Rydych chi wedi dyfynnu'n helaeth o'i adroddiad. Nid wyf yn teimlo bod angen adolygiad pellach ar hyn o bryd, nac y byddai hynny yn wir o unrhyw gymorth. Yr hyn sydd ei angen arnom ni nawr yw sicrhau bod gwersi adroddiad Louise Casella yn cael eu dysgu. Pe bai'r Aelod yn bod yn deg, rwy'n siŵr y byddai'n cydnabod eisoes yn y ffordd yr ydym ni wedi ymdrin â'r sefyllfa hon, yn y Llywodraeth hon a'r tu allan i'r Llywodraeth, bod hynny yn adlewyrchu'r argymhellion, yn gyntaf oll, yn yr adroddiad cychwynnol gan grŵp Louise Casella, ac yn yr adroddiad llawn dilynol.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Louise a'i thîm am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud. Fel y dywedais, mae gwersi gwerthfawr i'w dysgu, sydd eisoes yn cael eu gweithredu gennyf fi a'r rhai sy'n gweithio gyda ni, i sicrhau nad yw dyfarnu cymwysterau eleni yn achosi'r trallod a'r anawsterau a wnaeth i ddysgwyr ac addysgwyr y llynedd.
Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwahaniaethu rhwng sut y cyrhaeddwyd graddau'r llynedd a sut y cyrhaeddwyd graddau eleni. Y llynedd, roedd y safoni, fel y nodwyd yn adroddiad Louise, yn dibynnu'n ormodol ar algorithm, i sicrhau tegwch ar draws y system, ac i geisio lliniaru'r pryderon y bydd yn rhaid inni geisio eu lliniaru eto eleni, sy'n bryderon dilys am ragfarn anfwriadol, ynghylch sut y gallai'r system hon effeithio ar gydraddoldeb, fel yr amlinellwyd mewn adolygiadau blaenorol o'r graddau a aseswyd gan y canolfannau y llynedd. Mae angen inni, nawr, liniaru rhag hynny, a dyna y mae pawb sy'n gweithio ar gymwysterau ar gyfer eleni wedi ymrwymo i'w wneud.
Diolch yn fawr am eich datganiad manwl. Mae'r ddau ohonom ni yn fenywod, felly mae'n amlwg nad ydym ni'n anghyfarwydd â'r cysyniad o wahaniaethu, felly rwyf eisiau mynd i'r afael â'r heriau y mae unrhyw system yn eu hwynebu wrth fynd i'r afael â rhyw, ethnigrwydd, ymddangosiad corfforol, anhawster dysgu blaenorol, y gall unrhyw fod dynol ei wneud, boed hynny'n ymwybodol neu'n isymwybodol. Mae gennym ni lawer o ymchwil i gefnogi hynny i gyd, a gwyddom hefyd fod rhai ysgolion yn llawer gwell am ragfynegi cyrhaeddiad yn gywir yn seiliedig ar ragfynegi canlyniadau arholiadau yn is neu ragfynegi yn uwch ac yna—. Ac mae hi'n bwysig iawn, wrth gwrs, gwneud hyn i gyd yn gywir, er mwyn sicrhau ein bod yn herio myfyrwyr ac athrawon yn effeithiol.
Felly, rwy'n falch iawn o weld eich bod yn ymdrechu cyn belled ag y bo modd i gael grŵp cynghori dylunio a chyflawni i fod yn gyfrifol am yr heriau y mae hyn yn sicr o'u cyflwyno, fel y gallwn ni sicrhau nid yn unig bod ein holl ganolfannau dysgu yn ceisio goresgyn y mathau hyn o broblemau, ond hefyd bod gennym ni bobl allanol yn sicrhau, lle mae'r trefniadau rhwystrau a gwrthbwysau hynny'n annigonol, bod gennym ni ffyrdd digonol o ddarparu yn erbyn y duedd honno, fel nad oes llwyth o apeliadau, sy'n achosi cymaint o alar i bobl ifanc. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am ba mor llwyddiannus ydych chi'n meddwl y byddwch chi, i ymrwymo'r proffesiwn mewn difrif i fynd i'r afael â phroblemau gwirioneddol.
Diolch, Jenny. Rhaid inni fod yn onest a chydnabod, wrth symud at y dull hwn, fod risgiau y bydd angen inni fynd ati i'w lliniaru, ac nid oes diben esgus fel arall. Weithiau, mae pwyslais mawr yn y ddadl hon am ddyfarnu cymwysterau ar yr awgrym mai dyma'r modelau symlaf a thecaf, ond, mewn gwirionedd, wrth siarad â phobl ifanc, mae llawer o bobl ifanc sydd â phryderon y gallai rhagfarn fwriadol neu anfwriadol effeithio ar eu canlyniadau, fel y dywedoch chi. A gwyddom o'r gwaith effaith ar gydraddoldeb a wnaed ar system y llynedd fod y rheini'n faterion gwirioneddol y bydd angen inni weithio'n galed i'w goresgyn.
Felly, os caf i amlinellu tair ffordd yn unig—y cyntaf o dair ffordd y byddwn yn ceisio gwneud hynny. Yn gyntaf, mabwysiadu fframwaith asesu cenedlaethol y bydd angen i bob ysgol weithio ynddo. Yn ail, hyfforddiant—felly, sicrhau bod canolfannau'n ymwybodol o'r heriau posib hyn o ran tegwch a chydraddoldeb a sicrhau y cymerir camau wrth hyfforddi staff a'u bod yn ymwybodol o hynny ac yn gallu gweithredu'n unol â hynny. Yn drydydd, mae ynglŷn â deunyddiau ar gael sydd wedi'u sicrhau gan CBAC o ran cydraddoldeb, y cyfeiriais atyn nhw yn gynharach. Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yn y Siambr hon yn ymwybodol, ond, wrth osod papur arholiad, fe roddir llawer iawn o sylw i gynllunio cwestiynau sy'n ceisio bod mor agored a chynhwysol â phosib, siarad am sefyllfaoedd y gall pob plentyn uniaethu â nhw, siarad am gysyniadau neu sefyllfaoedd y bydd plant o bob rhyw ac o bob cefndir yn gyfarwydd â nhw. Os gofynnir i chi ysgrifennu darn creadigol am wyliau tramor pan nad ydych chi erioed wedi cael y moethusrwydd o fod ar wyliau tramor—. Dyma'r pethau a'r prosesau meddwl sy'n sail i gynllunio papurau a chwestiynau arholiad, gan felly sicrhau bod cyfres o bapurau a deunyddiau asesu sydd wedi'u haddasu i sicrhau cydraddoldeb ar gael i bob ysgol y gall ysgolion eu defnyddio wedyn, gan wybod y buont drwy'r broses honno, yw un o'r ffyrdd y gallwn ni liniaru'r risgiau yr ydych chi yn briodol iawn yn cyfeirio atyn nhw.
Ac yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf yn croesawu eich datganiad a'r penderfyniad anodd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ganslo arholiadau yn haf 2021 er mwyn caniatáu mwy o le ac amser ar gyfer dysgu ac addysgu. Mae'r penderfyniad hwn yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen ar ddysgwyr, eu teuluoedd a'u hathrawon ar adeg ansicr iawn. Bob dydd, mae plant a'u hathrawon yn parhau â'u haddysg o bell, ac rwy'n gwybod bod llawer o ysgolion, yn Islwyn, yn addasu eu dulliau addysgu a'u ffyrdd o gysylltu â'i gilydd, ac fe hoffwn i ddiolch i bawb ar draws y sector statudol ac mewn llywodraeth leol ac yn ein consortia am eu penderfyniad a'u harweinyddiaeth gref. Gweinidog, mae lles dysgwyr a sicrhau tegwch ar draws y system yn ganolog ym mhopeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud wrth benderfynu ar faterion o'r fath. Felly, ym mha ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru sicrhau, cyn belled ag y bo modd, fod pob dysgwr ledled Cymru yn cael profiad dysgu cymharol deg yn ystod y misoedd anodd iawn hyn o'r gaeaf a'r gwanwyn?
Diolch, Rhianon. Mae'n bwysig iawn, hyd yn oed yn yr adegau mwyaf heriol hyn, ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar ddysgu cysyniadau craidd yn y pynciau hyn y caiff y plant eu harholi arnynt. Ond mae'n amlwg na allwch chi arholi plentyn ar gynnwys nad yw wedi ei astudio; ni ellir gwneud hynny, ac nid yw'n deg. Mae'r system hon yn caniatáu i ysgolion allu llunio barn ar gynnwys gwaith a chwrs y mae plentyn wedi gallu ei astudio. Ac eto, byddwn yn rhoi cyngor pellach i ysgolion i sicrhau mai cynnwys craidd mewn cymwysterau yw canolbwynt y gwaith wrth symud ymlaen. Ac roedd ysgolion yn gweithio'n galed iawn drwy gydol y tymor diwethaf i wneud hynny ac maen nhw'n parhau i ymdrechu i wneud hynny nawr. Ond, yn amlwg, mae cysyniadau craidd mewn pynciau yn bwysig iawn.
Rydym ni hefyd mewn trafodaethau cynnar gyda phrifysgolion a cholegau addysg bellach Cymru ynghylch yr hyn y gallwn ni ei wneud i fynd i'r afael o bosib ag unrhyw golled mewn dysgu—felly, gweithio gyda'n prifysgolion i sefydlu cyrsiau cyn-brifysgol y gellir eu cynnal o bell ac yn ddigidol yn ystod yr haf i sicrhau bod pawb yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gysyniadau craidd, sy'n eu galluogi i sicrhau eu bod yn trosglwyddo yn llwyddiannus i astudiaethau israddedig, ac, unwaith eto, gweithio gyda cholegau ac ysgolion lleol i helpu disgyblion i bontio'n llwyddiannus efallai o'u hysgol uwchradd leol i'w coleg gyda'r holl sgiliau angenrheidiol, neu, unwaith eto, rhaglen, ar ôl i'r cwrs ffurfiol hwnnw ddod i ben a bod y graddau wedi'u cyflwyno, sy'n ceisio cadw plant i ddysgu lle y bo'n bosib o gwbl i barhau i ddatblygu eu sgiliau a'u cymwyseddau allweddol wrth inni symud ymlaen. Oherwydd dyna sydd ei angen arnom ni: dyfarnu cymwysterau, ie, ond hefyd cael pobl ifanc i deimlo'n hyderus ynghylch eu camau nesaf a theimlo y gallan nhw symud ymlaen yn llwyddiannus i beth bynnag y maen nhw'n penderfynu ei wneud.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.